diff --git "a/valid.json" "b/valid.json" new file mode 100644--- /dev/null +++ "b/valid.json" @@ -0,0 +1 @@ +{"article":{"1163":"Am y ffilm o'r un enw gweler Hedd Wyn (ffilm)Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 \u2013 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Lladdwyd ef ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar \u00f4l ei farwolaeth. Mae ymhlith cenhedlaeth o feirdd a llenorion a fu\u2019n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael ei weld fel un o \u2018feirdd rhyfel\u2019 yr adeg honno. Roedd rhyfel wedi eu hysgogi i ysgrifennu barddoniaeth a llenyddiaeth a oedd yn cyfleu erchylltra\u2019r ymladd ac oferedd rhyfela. Ei fywyd a'i waith Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o un ar ddeg o blant. Cafodd ei eni ym mwthyn Penlan a symudodd y teulu i fferm yr Ysgwrn pan oedd yn 4 mis oed. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu\u2019n gweithio fel bugail ar fferm ei rieni. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn ne Cymru.Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed, cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i awdl \"Dyffryn\" yn 1907. Yn dilyn hynny enillodd gadeiriau yn Llanuwchllyn yn 1913, Pwllheli yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a Phontardawe yn 1915. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac englynion ar gyfer digwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20 Awst, 1910. Yn Eisteddfod y Bala yn 1907 yr enillodd Hedd Wyn y gyntaf o\u2019i 6 chadair, a hynny am ei awdl ar destun \u2018Y Dyffryn\u2019, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1916 daeth yn agos iawn at gipio\u2019i gadair genedlaethol gyntaf. Gyda dechrau\u2019r Rhyfel Mawr yn 1914 newidiodd naws gwaith barddonol Hedd Wyn i drafod hunllef y rhyfel, ac ysgrifennodd gerddi er cof am gyfeillion a fu farw ar faes y gad.Mae'r darn cyntaf o'i gerdd Rhyfel yn cael ei ddyfynnu'n aml: Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, A Duw ar drai ar orwel pell; O'i \u00f4l mae dyn, yn deyrn a gwreng, Yn codi ei awdurdod hell. Y Rhyfel Byd Cyntaf Yn Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi ei awdl \u2018Yr Arwr\u2019, cyn cael ei orfodi oherwydd Deddf Gorfodaeth Filwrol 1916 i ymuno \u00e2 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ionawr 1917 a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem a oedd yn rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres (Fflemeg: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Yr Arwr Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw am ei awdl \u2018Yr Arwr\u2019. Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 a\u2019i phostio o bentref Fl\u00e9chin yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 1917. Mae\u2019n debyg iddo hefyd newid y ffugenw cyntaf roedd wedi ei ddewis, sef \u2018Y Palm Bell\u2019, i \u2018Fleur-de-lis\u2019 ychydig cyn iddo ei phostio. Ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw \"Fleur-de-lis\" oedd yn deilwng o ennill y gadair. Fodd bynnag, roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd (Dyfed) ei fod wedi ei ladd yn y frwydr honno, gorchuddiwyd y gadair \u00e2 llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel \"Eisteddfod y Gadair Ddu\". Mae\u2019r awdl wedi ei rhannu yn 4 rhan ac mae\u2019n cynnwys 2 brif gymeriad, sef \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 a\u2019r \u2018Arwr\u2019. Bu llawer o anghytuno yn y gorffennol ynghylch ystyr yr awdl, ond gellir dweud gyda sicrwydd bod Hedd Wyn (fel ei hoff fardd Shelley) yn dyheu am ddynoliaeth berffaith a byd perffaith ar adeg pan oedd ansefydlogrwydd enfawr yn y gymdeithas oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Credir bod \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 yn symbol o gariad, harddwch natur a\u2019r awen greadigol, tra bod cymeriad \u2018Yr Arwr\u2019 yn symbol o ddaioni, tegwch, rhyddid a chyfiawnder. Trwy aberth \u2018Yr Arwr\u2019 a\u2019i uniad ef gyda \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 ar ddiwedd yr awdl, daw oes well. Y gadair Yn eironig ddigon, gwnaed y gadair gan ffoadur o'r enw Eugeen Vanfleteren a hannai o Wlad Belg. Treuliodd gyfnod o chwe mis yn ei chynhyrchu a cheir arni amrywiaeth o symbolau Celtaidd a Chymreig. Daethpwyd \u00e2'r gadair yn \u00f4l i Drawsfynydd ar y tr\u00ean ar 13 Medi, 1917 a chludwyd hi i'r Ysgwrn ar gert a cheffyl. Ei gofio Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r llinell \"Y bardd trwm dan bridd tramor\". Codwyd cofgolofn iddo yng nghanol Trawsfynydd, a ddadorchuddiwyd gan ei fam yn 1923. Dan gerflun pres y gofgolofn mae'r englyn a ysgrifennodd Hedd Wyn am ei gyfaill a laddwyd ar faes y gad. Ei aberth nid \u00e2 heibio \u2013 ei wyneb Annwyl nid \u00e2'n ango Er i'r Almaen ystaenio Ei dwrn dur yn ei waed o. Ffilm Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran. Llyfryddiaeth Cerddi Hedd Wyn Cerddi'r Bugail, gol. J.J. Williams (1918) \u2013 casgliad o gerddi Hedd Wyn Llyfrau ac erthyglau amdano Phil Carradice The Black Chair (nofel yn Saesneg). Pont Books, 2009. ISBN 9781843239789. William Morris, Hedd Wyn (1969). Ysgrifau Beirniadol VI, gol. J. E. Caerwyn Williams (1971) \u2013 ysgrif gan Derwyn Jones. Alan Llwyd, Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (Cyhoeddiadau Barddas, 1991). Cofiant manwl. Lieven Dehandschutter, \"Hedd Wyn. Trasiedi Cymreig yn Fflandrys\" (1992) Cyfeiriadau Dolenni allanol Llun o'i garreg fedd Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback., gyda'r arysgrif \"Y PRIFARDD HEDD WYN\"","1164":"Am y ffilm o'r un enw gweler Hedd Wyn (ffilm)Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 \u2013 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Lladdwyd ef ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar \u00f4l ei farwolaeth. Mae ymhlith cenhedlaeth o feirdd a llenorion a fu\u2019n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael ei weld fel un o \u2018feirdd rhyfel\u2019 yr adeg honno. Roedd rhyfel wedi eu hysgogi i ysgrifennu barddoniaeth a llenyddiaeth a oedd yn cyfleu erchylltra\u2019r ymladd ac oferedd rhyfela. Ei fywyd a'i waith Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o un ar ddeg o blant. Cafodd ei eni ym mwthyn Penlan a symudodd y teulu i fferm yr Ysgwrn pan oedd yn 4 mis oed. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu\u2019n gweithio fel bugail ar fferm ei rieni. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn ne Cymru.Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed, cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i awdl \"Dyffryn\" yn 1907. Yn dilyn hynny enillodd gadeiriau yn Llanuwchllyn yn 1913, Pwllheli yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a Phontardawe yn 1915. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac englynion ar gyfer digwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20 Awst, 1910. Yn Eisteddfod y Bala yn 1907 yr enillodd Hedd Wyn y gyntaf o\u2019i 6 chadair, a hynny am ei awdl ar destun \u2018Y Dyffryn\u2019, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1916 daeth yn agos iawn at gipio\u2019i gadair genedlaethol gyntaf. Gyda dechrau\u2019r Rhyfel Mawr yn 1914 newidiodd naws gwaith barddonol Hedd Wyn i drafod hunllef y rhyfel, ac ysgrifennodd gerddi er cof am gyfeillion a fu farw ar faes y gad.Mae'r darn cyntaf o'i gerdd Rhyfel yn cael ei ddyfynnu'n aml: Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, A Duw ar drai ar orwel pell; O'i \u00f4l mae dyn, yn deyrn a gwreng, Yn codi ei awdurdod hell. Y Rhyfel Byd Cyntaf Yn Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi ei awdl \u2018Yr Arwr\u2019, cyn cael ei orfodi oherwydd Deddf Gorfodaeth Filwrol 1916 i ymuno \u00e2 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ionawr 1917 a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem a oedd yn rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres (Fflemeg: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Yr Arwr Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw am ei awdl \u2018Yr Arwr\u2019. Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 a\u2019i phostio o bentref Fl\u00e9chin yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 1917. Mae\u2019n debyg iddo hefyd newid y ffugenw cyntaf roedd wedi ei ddewis, sef \u2018Y Palm Bell\u2019, i \u2018Fleur-de-lis\u2019 ychydig cyn iddo ei phostio. Ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw \"Fleur-de-lis\" oedd yn deilwng o ennill y gadair. Fodd bynnag, roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd (Dyfed) ei fod wedi ei ladd yn y frwydr honno, gorchuddiwyd y gadair \u00e2 llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel \"Eisteddfod y Gadair Ddu\". Mae\u2019r awdl wedi ei rhannu yn 4 rhan ac mae\u2019n cynnwys 2 brif gymeriad, sef \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 a\u2019r \u2018Arwr\u2019. Bu llawer o anghytuno yn y gorffennol ynghylch ystyr yr awdl, ond gellir dweud gyda sicrwydd bod Hedd Wyn (fel ei hoff fardd Shelley) yn dyheu am ddynoliaeth berffaith a byd perffaith ar adeg pan oedd ansefydlogrwydd enfawr yn y gymdeithas oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Credir bod \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 yn symbol o gariad, harddwch natur a\u2019r awen greadigol, tra bod cymeriad \u2018Yr Arwr\u2019 yn symbol o ddaioni, tegwch, rhyddid a chyfiawnder. Trwy aberth \u2018Yr Arwr\u2019 a\u2019i uniad ef gyda \u2018Merch y Drycinoedd\u2019 ar ddiwedd yr awdl, daw oes well. Y gadair Yn eironig ddigon, gwnaed y gadair gan ffoadur o'r enw Eugeen Vanfleteren a hannai o Wlad Belg. Treuliodd gyfnod o chwe mis yn ei chynhyrchu a cheir arni amrywiaeth o symbolau Celtaidd a Chymreig. Daethpwyd \u00e2'r gadair yn \u00f4l i Drawsfynydd ar y tr\u00ean ar 13 Medi, 1917 a chludwyd hi i'r Ysgwrn ar gert a cheffyl. Ei gofio Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r llinell \"Y bardd trwm dan bridd tramor\". Codwyd cofgolofn iddo yng nghanol Trawsfynydd, a ddadorchuddiwyd gan ei fam yn 1923. Dan gerflun pres y gofgolofn mae'r englyn a ysgrifennodd Hedd Wyn am ei gyfaill a laddwyd ar faes y gad. Ei aberth nid \u00e2 heibio \u2013 ei wyneb Annwyl nid \u00e2'n ango Er i'r Almaen ystaenio Ei dwrn dur yn ei waed o. Ffilm Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran. Llyfryddiaeth Cerddi Hedd Wyn Cerddi'r Bugail, gol. J.J. Williams (1918) \u2013 casgliad o gerddi Hedd Wyn Llyfrau ac erthyglau amdano Phil Carradice The Black Chair (nofel yn Saesneg). Pont Books, 2009. ISBN 9781843239789. William Morris, Hedd Wyn (1969). Ysgrifau Beirniadol VI, gol. J. E. Caerwyn Williams (1971) \u2013 ysgrif gan Derwyn Jones. Alan Llwyd, Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (Cyhoeddiadau Barddas, 1991). Cofiant manwl. Lieven Dehandschutter, \"Hedd Wyn. Trasiedi Cymreig yn Fflandrys\" (1992) Cyfeiriadau Dolenni allanol Llun o'i garreg fedd Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback., gyda'r arysgrif \"Y PRIFARDD HEDD WYN\"","1167":"Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.Dinas a chymuned yw Bangor yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru; Cyfeirnod OS: SH 58179 72393. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Mae Prifysgol Bangor, Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr yn Arfon'. Yn yr 20g, cafodd Bangor sefydliad pellach, gan gynnwys pencadlys gogleddol y BBC yng Nghymru ac yn ystod y rhyfel, o 1941 i 1944, symudodd adran adloniant ysgafn y BBC o Lundain i'r dre. Daearyddiaeth Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r m\u00f4r yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn coronni'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog, serth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Caernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma mae Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopau newydd gan gynnwys archfarchnadoedd mawrion. Rhwng Bangor ac Ynys M\u00f4n, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dwy lefel ar ben ei gilydd, ar y lefel uchaf mae ffordd geir, ac ar y lefel isaf mae rheilffordd. Adeiladwyd Pont y Borth gan Telford; hon oedd bont grog fwya'r byd ar un cyfnod ac mae'n gul, oherwydd ei hoed, a does dim caniat\u00e2d pasio arno. Hanes Yn \u00f4l traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6g. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef \"clawdd plethiedig\" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius). Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 nes iddynt gael eu llosgi gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i \u0175yr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13g. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2 Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn y 13g, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er ei bod wedi symud safle sawl gwaith. Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18g pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru \u00e2 siartr brifysgol. Yn yr 1960au sefydlwyd yma'r gell gyntaf o Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd y ffordd i weddill Cymru drwy greu ymgyrchoedd newydd dros y Gymraeg megis y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor; yma hefyd yr argraffwyd copiau cyntaf o Dafod y Ddraig. Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr 20g gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen. P\u00eal-droed Mae t\u00eem y dref yn un o'r hynaf yng Nghymru gan iddo gael ei sefydlu yn 1876. Tan y 2000'au arferid chwarae ar gae \"Ffarar Road\". Y Pier Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad rhestredig Graddfa II. Porth Penrhyn Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19g fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn. Ysgolion Yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg i Fangor (a Llandudno) oedd ymgyrch gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1963); cangen Bangor oedd y gyntaf drwy Gymru.Dyma'r ysgolion fel ag y maent heddiw: Ysgol Gynradd y Garnedd Ysgol Gynradd y Faenol Ysgol Gynradd Glanadda Ysgol Gynradd Hirael Ysgol Gynradd Cae Top Ysgol Uwchradd Tryfan Ysgol Uwchradd Friars Ysgol Breifat Bangor Ysgol Breifat St. GerrardsBu Ysgol Gymraeg St. Pauls yma am gyfnod, cyn Ysgol y Garnedd. Eisteddfod Genedlaethol Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 Cludiant Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu \u00e2 Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth. Gefeilldref Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Gweler hefyd Castell Penrhyn Clwb P\u00eal-Droed Dinas Bangor Deiniol Eglwys Gadeiriol Bangor Esgobaeth Bangor Esgob Bangor Prifysgol Bangor Cyfeiriadau Dolenni allanol Clwb P\u00eal-droed Dinas Bangor Archifwyd 2006-08-31 yn y Peiriant Wayback. (Saesneg) Citizen's choice Archifwyd 2019-07-09 yn y Peiriant Wayback. Gwefan answyddogol Clwb P\u00eal-droed Dinas Bangor Prifysgol Bangor Archifwyd 2004-02-21 yn y Peiriant Wayback.","1169":"Wrth ystyried hanes De Affrica ceir nifer o safbwyntiau gwahanol gan ysgolheigion a brodorion gan fod De Affrica yn wlad amlddiwylliannol. (Gweler demograffeg De Affrica a diwylliant De Affrica.) De Affrica hynafol Dangosir tystiolaeth archaeolegol roedd yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un o grudiau esblygiad dynol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn \u00f4l tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf rhwng 125\u00a0000 a 50\u00a0000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Cyfaneddwyr cyntaf Trigolion cyntaf De Affrica oedd y pobloedd Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu, hynafiaid y mwyafrif o dduon y Dde Affrica fodern, cyrraed tua 100 OC, yn dod \u00e2 dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi). Prydeinwyr cynnar Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Trefedigaeth Penrhyn o'r Iseldirwyr am \u00a36\u00a0miliwn. Ar \u00f4l 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833. Gweriniaethau'r Boeriaid Teimladau chwerw oedd gan y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10\u00a0000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Orange, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843. Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Trefedigaeth y Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Orange yn 1848. Ond gwadwyd ei bolis\u00efau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854. Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny. Rhyfeloedd y Boer Uniad Y Rhyfel Byd Cyntaf Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd Yr Ail Ryfel Byd Apatheid System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wah\u00e2n oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu \"arwahanrwydd\"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn d\u0175f wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais. 1994\u2013presennol \u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.","1170":"Wrth ystyried hanes De Affrica ceir nifer o safbwyntiau gwahanol gan ysgolheigion a brodorion gan fod De Affrica yn wlad amlddiwylliannol. (Gweler demograffeg De Affrica a diwylliant De Affrica.) De Affrica hynafol Dangosir tystiolaeth archaeolegol roedd yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un o grudiau esblygiad dynol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn \u00f4l tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf rhwng 125\u00a0000 a 50\u00a0000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Cyfaneddwyr cyntaf Trigolion cyntaf De Affrica oedd y pobloedd Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu, hynafiaid y mwyafrif o dduon y Dde Affrica fodern, cyrraed tua 100 OC, yn dod \u00e2 dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi). Prydeinwyr cynnar Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Trefedigaeth Penrhyn o'r Iseldirwyr am \u00a36\u00a0miliwn. Ar \u00f4l 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833. Gweriniaethau'r Boeriaid Teimladau chwerw oedd gan y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10\u00a0000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Orange, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843. Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Trefedigaeth y Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Orange yn 1848. Ond gwadwyd ei bolis\u00efau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854. Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny. Rhyfeloedd y Boer Uniad Y Rhyfel Byd Cyntaf Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd Yr Ail Ryfel Byd Apatheid System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wah\u00e2n oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu \"arwahanrwydd\"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn d\u0175f wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais. 1994\u2013presennol \u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.","1172":"Yn 1976 sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer gwobrwyo y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg. Fe'i henwir ar \u00f4l y T\u00edr na n-\u00d3g chwedlonol, \"Gwlad Ieuenctid\" yn chwedloniaeth Geltaidd. Rhestr enillwyr Rhoddwyd un gwobr am lyfr Cymraeg rhwng 1976 a 1986, gyda dau wobr ffuglen a ffeithiol rhwng 1987 a 2005, a dau wobr Cynradd ac Uwchradd o 2006 ymlaen. Rhoddwyd un gwobr am lyfr Saesneg ers y dechrau. Mae'r tri gwobr wedi eu rhoi bob blwyddyn ers 1994. Cyn hynny, ataliwyd saith gwobr Saesneg ac un wobr Gymraeg. 1970au 1976 Cymraeg: T. Llew Jones, T\u00e2n ar y Comin (Gwasg Gomer \/ CBAC) Saesneg: Susan Cooper, The Grey King (Chatto & Windus) 1977 Cymraeg: J. Selwyn Lloyd, Trysor Bryniau Caspar (Gwasg Gomer \/ CBAC) Saesneg: Nancy Bond, A String in the Harp (Atheneum) 1978 Cymraeg: Jane Edwards, Miriam (Gwasg Gomer) Saesneg: Susan Cooper, Silver on the Tree (Chatto & Windus) 1979 Cymraeg: Dyddgu Owen, Y Flwyddyn Honno (Christopher Davies) Saesneg: Bette Meyrick, Time Circles (Abelard-Schuman) 1980au 1980 Cymraeg: Irma Chilton, Y Llong (Gwasg Gomer \/ CBAC) Saesneg: Atal y wobr 1981 Cymraeg: Gweneth Lilly, Y Drudwy Dewr (Gwasg Gomer) Saesneg: Frances Thomas, The Blindfold Track (Macmillan) 1982 Cymraeg: Gweneth Lilly, Gaeaf y Cerrig (Gwasg Gomer \/ CBAC) Saesneg: Atal y wobr 1983 Cymraeg: J. Selwyn Lloyd, Croes Bren yn Norwy (Gwasg Gomer \/ CBAC) Saesneg: Mary John, Bluestones (Barn Owl Press) 1984 Cymraeg: dau enillydd: Mair Wynn Hughes, Y Llinyn Arian (Gwasg Gomer \/ CBAC) Malcolm M. Jones, Cyril Jones a Gwen Redvers Jones, Herio\u2019r Cestyll (Gwasg Prifysgol Cymru) Saesneg: Irma Chilton, The Prize (Barn Owl Press) 1985 Atal y Gwobrau 1986 Cymraeg: Angharad Tomos, Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa) Saesneg: Frances Thomas, Region of the Summer Stars (Barn Owl Press) 1987 Cymraeg, Ffuglen: Penri Jones, Jabas (Gwasg Dwyfor) Cymraeg, Ffeithiol: Alun Jones a John Pinion Jones, Gardd o Gerddi (Gwasg Gomer) Saesneg: Jenny Nimmo, The Snow Spider (Methuen) 1988 Cymraeg, Ffuglen: Gwenno Hywyn, 'Tydi Bywyd yn Boen! (Gwasg Gwynedd) Cymraeg, Ffeithiol: Dafydd Orwig (gol.), Yr Atlas Cymraeg (George Philip \/ CBAC) Saesneg: Celia Lucas, Steel Town Cats (Tabb House Publications) 1989 Cymraeg, Ffuglen: dau enillydd: Irma Chilton, Liw (Gwasg Gomer) Jac Jones, Ben y Garddwr a Stor\u00efau Eraill (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Cymraeg, Ffeithiol: Gwyn Thomas a Margaret Jones, Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru) Saesneg: Atal y wobr 1990au 1990 Cymraeg, Ffuglen: Mair Wynn Hughes, Llygedyn o Heulwen (Gwasg Gomer \/ CBAC) Cymraeg, Ffeithiol: T. Llew Jones a Jac Jones, Lleuad yn Olau (Gwasg Gomer) Saesneg: Atal y wobr 1991 Cymraeg, Ffuglen: Gareth F. Williams, O Ddawns i Ddawns (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Geraint H. Jenkins, Cymru Ddoe a Heddiw (Gwasg Prifysgol Rhydychen \/ CBAC) Saesneg: Atal y wobr 1992 Cymraeg, Ffuglen: dau enillydd: Emily Huws, Wmffra (Gwasg Gomer) Gwen Redvers Jones, Broc M\u00f4r (Gwasg Gomer) Cymraeg, Ffeithiol: Robert M. Morris a Catrin Stephens, Yn y Dechreuad (Gwasg Prifysgol Rhydychen \/ CBAC) Saesneg: Frances Thomas, Who Stole a Bloater? (Seren Books) 1993 Cymraeg, Ffuglen: Emily Huws, 'Tisio Tshipsan? (Gwasg Gomer) Cymraeg, Ffeithiol: Gwyn Thomas a Margaret Jones, Chwedl Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru) Saesneg: Atal y wobr 1994 Cymraeg, Ffuglen: Angharad Tomos, Sothach a Sglyfath (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Huw John Hughes a Rheinallt Thomas, Cristion Ydw I (Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol) Saesneg: Pamela Purnell, Denny and the Magic Pool (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 1995 Cymraeg, Ffuglen: John Owen, Pam Fi, Duw, Pam Fi? (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: D Geraint Lewis, Geiriadur Gomer i'r Ifanc (Gwasg Gomer) Saesneg: Catherine Fisher, The Candle Man (The Bodley Head) 1996 Cymraeg, Ffuglen: Mair Wynn Hughes, Coch yw Lliw Hunllef (Gwasg Gomer) Cymraeg, Ffeithiol: Eleri Ellis Jones a Marian Delyth, Sbectol Inc (Y Lolfa) Saesneg: Anne Lewis, Who\u2019s Afraid of the Bwgan-wood? (Honno) 1997 Cymraeg, Ffuglen: John Owen, Ydy Fe! (Iaith Cyf.) Cymraeg, Ffeithiol: Gareth F. Williams, Dirgelwch Loch Ness (Y Lolfa) Saesneg: Si\u00e2n Lewis a Jackie Morris, Cities in the Sea (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 1998 Cymraeg, Ffuglen: Gwen Redvers Jones, Dyddiau C\u0175n (Gwasg Gomer) Cymraeg, Ffeithiol: Tegwyn Jones a Jac Jones, Stori Branwen (Gwasg Gomer) Saesneg: Mary Oldham, Alwena\u2019s Garden (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 1999 Cymraeg, Ffuglen: John Owen, Pam Fi Eto, Duw? (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Lis Jones, Byw a Bod yn y B\u00e0th (Gwasg Carreg Gwalch) Saesneg: Gillian Drake, Rhian\u2019s Song (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2000au 2000 Cymraeg, Ffuglen: Gwenno Hughes, Ta-Ta Tryweryn! (Gwasg Gomer) Cymraeg, Ffeithiol: Rhiannon Ifans a Margaret Jones, Chwedlau o\u2019r Gwledydd Celtaidd (Y Lolfa) Saesneg: Jo Dahn, Justine Baldwin, Artworks On ... Interiors (Cyhoeddiadau FBA) 2001 Cymraeg, Ffuglen: Bethan Gwanas, Llinyn Tr\u00f4ns (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Myrddin ap Dafydd, Jam Coch mewn Pwdin Reis (Hughes a'i Fab) Saesneg: Kevin Crossley-Holland, Arthur: The Seeing Stone (Orion) 2002 Cymraeg, Ffuglen: Shoned Wyn Jones, Gwirioni (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Non ap Emlyn & Marian Delyth, Poeth! Cerddi Poeth ac Oer (Y Lolfa) Saesneg: Malachy Doyle, Georgie (Bloomsbury) 2003 Cymraeg, Ffuglen: Bethan Gwanas, Sg\u00f4r (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Rhiannon Ifans & Margaret Jones, Dewi Sant (Y Lolfa) Saesneg: Rob Lewis, Cold Jac (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2004 Cymraeg, Ffuglen: Caryl Lewis, Iawn Boi?\u00a0;-) (Y Lolfa) Cymraeg, Ffeithiol: Gwyn Thomas & Margaret Jones, Stori Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa) Saesneg: Robert Phillips, The Battle of Mametz Wood, 1916 (CAA) 2005 Ffuglen Orau\u2019r Flwyddyn: Emily Huws, Eco (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Llyfr Gorau\u2019r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen: Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Sonia Edwards a Elinor Wyn Reynolds, arlunwyd gan Chris Glynn, Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer) Llyfr Saesneg Gorau\u2019r Flwyddyn: Jackie Morris, The Seal Children (Frances Lincoln) 2006 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Emily Huws, Carreg Ateb (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Gwion Hallam, Creadyn (Gwasg Gomer) Llyfrau Saesneg: Jenny Sullivan, Tirion\u2019s Secret Journal (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2007 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Mair Wynn Hughes, Ein Rhyfel Ni (Gwasg y Bwthyn) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Gareth F. Williams, Adref heb Elin (Gwasg Gomer) Llyfrau Saesneg: Nicholas Daniels, Dark Tales from the Woods (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2008 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Nicholas Daniels, Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth (Dref Wen) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Gareth F. Williams, Eira M\u00e2n, Eira Mawr (Gwasg Gomer) Llyfrau Saesneg: Frances Thomas, Finding Minerva (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2009 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Emily Huws, Bownsio (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Lleucu Roberts, Annwyl Smotyn Bach (Y Lolfa) Llyfrau Saesneg: Graham Howells, Merlin's Magical Creatures (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2010au 2010 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Manon Steffan Ros, Trwy'r Tonnau (Y Lolfa) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Rhiannon Wyn, Codi Bwganod (Y Lolfa) Llyfrau Saesneg: Paul Manship, Dear Mr Author (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2011 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Hywel Griffiths, Dirgelwch y Bont (Gwasg Gomer) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Lleucu Roberts, Stwff \u2013 Guto S. Tomos (Y Lolfa) Llyfrau Saesneg: Rob Lewis, Three Little Sheep (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2012 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Manon Steffan Ros, Prism (Y Lolfa) (2il Wobr TnO) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Rhiannon Wyn, Yr Alarch Du (Y Lolfa) Llyfrau Saesneg: Jenny Sullivan, Full Moon (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2013 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, Cynefin yr Ardd (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Alun Wyn Bevan, Y G\u00eamau Olympaidd a Champau\u2019r Cymry (Gwasg Gomer) Llyfrau Saesneg: Daniel Morden, Tree of Leaf and Flame (Pont Books) 2014 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Gareth F. Williams, Cwmwl dros y Cwm (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Haf Llewelyn, Diffodd y S\u00ear (Y Lolfa) Llyfrau Saesneg: Wendy White, darluniwyd gan Helen Flook, Welsh Cakes and Custard (Gwasg Gomer \/ Pont Books) 2015 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Caryl Lewis, Straeon Gorau'r Byd (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Gareth F. Williams, Y G\u00eam (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Saesneg: Giancarlo Gemin, Cowgirl (Nosy Crow) 2016 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Si\u00e2n Lewis a Val\u00e9riane Leblond, Pedair Cainc y Mabinogi (Rily Publications) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Ll\u0177r Titus, Gwalia (Gwasg Gomer) Llyfrau Saesneg: Griff Rowland, The Search for Mister Lloyd (Candy Jar Books) 2017 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Luned Aaron, ABC Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Manon Steffan Ros, Pluen (Y Lolfa) (3ydd Wobr TnO) Llyfrau Saesneg: Giancarlo Gemin, Sweet Pizza (Nosy Crow) 2018 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Mererid Hopwood, Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (2il Wobr TnO) Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Myrddin ap Dafydd, Mae'r Lleuad yn Goch (2il Wobr TnO) Llyfrau Saesneg: Hayley Long, The Nearest Faraway Place 2019 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Elin Meek a Val\u00e9riane Leblond, Cymru ar y Map Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Manon Steffan Ros, Fi a Joe Allen (4ydd Wobr TnO) Llyfrau Saesneg: Catherine Fisher, The Clockwork Crow (2il Wobr TnO) 2020au 2020 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Manon Steffan Ros a Jac Jones, Pobol Drws Nesaf Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: gol. Sioned Erin Huws, Byw yn fy Nghroen - Casgliad o ysgrifau gan bobl ifanc yn ymdrin \u00e2 salwch a iechyd meddwl Llyfrau Saesneg: Clare Fayers, Storm Hound 2021 Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd: Casia Wiliam, Sw Sara Mai Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd: Rebecca Roberts, #helynt Llyfrau Saesneg: Elen Caldecott, The Short Knife Cyfeiriadau","1174":"Prifardd, golygydd a chyhoeddwr Cymreig yw Myrddin ap Dafydd (ganwyd 25 Gorffennaf 1956). Mae'n Archdderwydd Cymru ers 2019. Bywyd cynnar ac addysg Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri. Gyrfa Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddram\u00e2u, cyfres o lyfrau ar l\u00ean gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol\u00a0Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002. Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd. Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000. Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen. Bywyd personol Mae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018. Gwaith Cerddi a Barddoniaeth Llyfr Caneuon Tecwyn y Tractor (Rhys Parry, Myrddin ap Dafydd, Trefn. Guto Pryderi Puw), Mehefin 1998, (Gwasg Carreg Gwalch) Pen Draw'r Tir, Tachwedd 1998, (Gwasg Carreg Gwalch) Denu Plant at Farddoniaeth - Pedwar P\u0175dl Pinc a'r Tei yn yr Inc, Chwefror 1999, (Gwasg Carreg Gwalch) Denu Plant at Farddoniaeth - Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ..., Medi 2000, (Gwasg Carreg Gwalch) Jam Coch Mewn Pwdin Reis, Tachwedd 2000, (Hughes a'i Fab) Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glynd\u0175r, Gorffennaf 2001, (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew, Ionawr 2002, (Gwasg Carreg Gwalch) Clawdd Cam, Hydref 2003, (Gwasg Carreg Gwalch) Clywed Cynghanedd: Cwrs Cerdd Dafod, 1994, Ail-argraffiad Gorffennaf 2003, (Gwasg Carreg Gwalch) Cerddi Cyntaf, Medi 2006, (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Plant Cymraeg Cyfres y Llwyfan: Ar y G\u00eam, Ionawr 1982, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres y Llwyfan: Ail Godi'r To, Ionawr 1986, (Gwasg Carreg Gwalch) Gweld Cymru - Hwyl wrth Ddod i Adnabod Gwlad, Mai 1998, (Gwasg Carreg Gwalch) Golau ar y Goeden - Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig, Medi 2000, (Gwasg Carreg Gwalch) Syniad Da Iawn! (Sioned Wyn Huws, Myrddin ap Dafydd, Haf Llywelyn, Martin Morgan, Eleri Llewelyn Morris), Tachwedd 2000, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr y Brodyr, Mehefin 2004, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 1: Straeon y Tylwyth Teg, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 2: Ogof y Brenin Arthur, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 3: Gelert, Y Ci Ffyddlon, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 4: Barti Ddu M\u00f4r-leidr o Gymru, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Odl-Dodl Dolig, Medi 2006, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 5: Meini Mawr Cymru, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch) Cyfres Straeon Plant Cymru 6: Draig Goch Cymru, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Plant Saesneg Tales from Wales 1: Fairy Tales from Wales, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Tales from Wales 2: King Arthur's Cave, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Tales from Wales 3: The Faithful Dog Gelert, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Tales from Wales 4: Black Bart, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch) Tales from Wales 5: Stories of the Stones, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch) Tales from Wales 6: The Red Dragon of Wales, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch) Llyfrau Oedolion Llyfrau Llafar Gwlad: 37. Enwau Cymraeg ar Dai, Gorffennaf 1997, (Gwasg Carreg Gwalch) Circular Walks e.e. \"Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks\" Cyfres \"Welcome to...\" e.e. \"Welcome to Bermo (Barmouth)\" Crynoddisgiau Caneuon Tecwyn y Tractor, Gorffennaf 2004, (Cwmni Recordiau Sain) Gwobrau ac Anrhydeddau Bardd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1974 Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990 Bardd Plant Cymru 2000 Gwobr Tir na n-Og 2001 Gyda'r Llyfr Jam Coch Mewn Pwdin Reis, (Hughes a'i Fab) Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 Archdderwydd Cymru 2019-2021 Cyfeiriadau Dolenni allanol Taflen Adnabod Bardd y Cyngor Llyfrau Cyfweliad ar wefan y BBC Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2016-03-15 yn y Peiriant Wayback.","1180":"Mae Clwb Rygbi Abertawe yn d\u00eem rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn Prifadran Cymru. Mae'r clwb yn chwarae ar Faes Rygbi a Chriced St Helen yn Abertawe ac fe'u gelwir hefyd Y Crysau Gwynion gan gyfeirio at liw eu cit cartref a'r Jacs, llysenw am bobl o Abertawe. Hanes Sefydlwyd y clwb ym 1872 fel t\u00eem p\u00eal-droed y gymdeithas, gan newid i'r c\u00f4d rygbi ym 1874. Ym 1881 daeth yn un o'r 11 o glybiau sylfaen Undeb Rygbi Cymru . Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif roedd Clwb Rygbi Abertawe yn glwb hynod lwyddiannus. Am bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898\/99 hyd dymor 1901\/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Dyma oedd cyfnod anterth seren gyntaf Abertawe, Billy Bancroft O dan gapteiniaeth Frank Gordon byddai'r t\u00eem yn ddiweddarach yn mynd ar rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn ymddangos nad oedd Abertawe yn cael chware teg gan ddewiswyr rhyngwladol Cymru. O ystyried eu llwyddiant ar lefel clwb, prin oedd y rhai a dewiswyd i chwarae i Gymru yn y blynyddoedd cynnar o gymharu \u00e2 chlybiau eraill. Aeth Frank Gordon heb gap trwy gydol ei yrfa. Ar wah\u00e2n i Billy Trew, Dick Jones a Dicky Owen, yr unig chwaraewyr rhyngwladol eraill yn y t\u00eem oedd y blaenwr Sid Bevan (1 cap), yr asgellwr Fred Jowett (1 cap) a'r maswr Phil Hopkins (4 cap). Roedd Trew (29 cap) yn ganolwr rhagorol a gafodd ei derbyn fel un o'r chwaraewyr pwysicaf yn esblygiad rygbi Cymru, tra bod Dicky Owen (35 cap), yn dactegydd anhygoel. Ar \u00f4l y rhyfel hyd y 1990au Dim ond llwyddiant cyfyngedig a ddaeth yn ystod y blynyddoedd uniongyrchol ar \u00f4l y rhyfel, er y cafwyd g\u00eam gyfartal nodedig o 6 phwynt yr un yn erbyn Seland Newydd ym 1953 ac yna buddugoliaeth o 9-8 yn erbyn Awstralia ym 1966. Bu'n rhaid disgwyl hyd dymor canmlwyddiant y clwb ym 1973\/74, i ddod i frig y Tabl Teilyngdod. Cafodd Abertawe lwyddiant pellach fel pencampwyr y clybiau ym 1979\/80, 1980\/81, 1982\/83 yn ogystal \u00e2 bod yn enillwyr cwpan Cymru ym 1978. Ymhlith y chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwn roedd Clem Thomas, Billy Williams, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel, David Richards a Mark Wyatt, deiliad record sgoriwr pwyntiau'r clwb gyda 2,740 o bwyntiau wedi'u sgorio rhwng 1976\/77 a 1991\/92. 1990 i ddiwedd y mileniwm Gwelodd y 1990au lwyddiant i'r clwb, gan gynnwys bod yn bencampwyr y brifadran ar 4 achlysur (1991\/92, 1993\/94, 1997\/98 a 2000\/01) ac enillwyr cwpan Cymru ym 1995 a 1999. Cofnodwyd buddugoliaeth gofiadwy 21-6 dros bencampwyr y Byd, Awstralia, ar Faes St Helen ar 4 Tachwedd 1992. Yn nhymor 1995\/96 fe gyrhaeddodd Abertawe gam rownd cynderfynol Cwpan Ewrop. Roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys anghydfodau ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y ffordd yr oedd strwythur y gynghrair yn cael ei redeg yng Nghymru yn dilyn troi rygbi'r undeb i fod yn g\u00eam broffesiynol, a ddaeth i ben gyda'r clwb yn gwrthod bod yn rhan o'r gynghrair yn nhymor 1998\/99. Ers dechrau'r Mileniwm Roedd tymor 2003\/04 yn un lle gwelwyd newid sylweddol gyda chyflwyniad rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae Clwb Rygbi Abertawe Cyf, \u00e2 Chlwb Rygbi Castell-nedd yn gydberchnogion t\u00eem rhanbarthol y Gweilch. O ganlyniad, dychwelodd Clwb Rygbi Abertawe i fod yn d\u00eem amatur. Ers y newid i rygbi rhanbarthol mae sawl chwaraewr wedi chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, yn ogystal \u00e2'r Gweilch a Chymru gan gynnwys Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Scott Baldwin, Nicky Smith, Matthew Morgan, Eli Walker, Gavin Henson a Dan Biggar. Yn 2014 cafodd yr Y Crysau Gwynion eu gostwng o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor, er gwaethaf curo Castell-nedd yn St Helen. Bu pwynt bonws i Aberafan yn ddigon i ddanfon Abertawe i lawr i Bencampwriaeth SWALEC. Ysgogodd hyn ailwampiad llwyr o\u2019r clwb gyda Stephen Hughes yn cymryd swydd y Cadeirydd, Keith Colclough yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Richard Lancaster yn arwain t\u00eem hyfforddi o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Rhodri Jones, Chris Loader a Ben Lewis. Yn eu tymor cyntaf fe fethodd Abertawe ennill dyrchafiad yn \u00f4l i'r Uwch Gynghrair, gan orffen yn yr ail safle. Ond o ganlyniad i newid strwythur y cynghrair fe'u dyrchafwyd yn nhymor 2015\/16 gyda Merthyr, RGC 1404 a Bargoed. Cafodd Abertawe drafferth i addasu i\u2019r Uwch Gynghrair yn eu dau dymor cyntaf yn \u00f4l ar yr haen uchaf er gwaethaf rhestr anafiadau llethol, dangosodd tymor 1917\/18 lawer o addewid gyda\u2019r ochr yn recordio pum buddugoliaeth, g\u00eam gyfartal a 10 pwynt bonws am golli\u2019r g\u00eam o fewn 7 pwynt. Bu'n rhaid gohirio tymor 2019\/20 a 2020\/21 oherwydd COVID-19 Merched Clwb Rygbi Abertawe Ar gyfer tymor 2016\/17 sefydlwyd t\u00eem Merched Clwb Rygbi Abertawe ac ers hynny maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn. Yn 2019 fe wnaethant ennill Cwpan y Merched am y trydydd tymor yn olynol. Maent hefyd yn darparu craidd o chwaraewyr i garfan merched Cymru. Llwyddiannau Trechodd Clwb Rygbi Abertawe Seland Newydd 11-3 ddydd Sadwrn 28 Medi 1935, gan ddod yr ochr clwb gyntaf erioed i guro'r Crysau Duon. Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd eu gwneud y t\u00eem clwb cyntaf i guro pob un o'r tri th\u00eem teithiol mawr i Brydain. Roeddent eisoes wedi curo Awstralia ym 1908 a De Affrica ym 1912. Ym mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21\u20136, pan chwaraeodd Awstralia eu g\u00eam gyntaf o\u2019u Taith Gymreig. Pencampwyr Prifadran Cymru yn: 1991\/1992 1993\/1994 1997\/1998 2000\/2001Pencampwyr Cwpan Her URC yn: 1977\/1978 1994\/1995 1998\/1999Pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn: 1980\/1981Pencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn: 1982 1989 1991 1995 Llewod Prydeinig a Gwyddelig Dewiswyd y cyn-chwaraewyr canlynol ar gyfer sgwadiau teithiol Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe. Capteiniaid Rhyngwladol Cymru Bu'r cyn-chwaraewyr canlynol yn gapten ar d\u00eem undeb rygbi cenedlaethol Cymru wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe. Cyn-chwaraewyr nodedig eraill Mae'r chwaraewyr a restrir isod wedi chwarae i Abertawe a hefyd wedi chwarae rygbi rhyngwladol. Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol Llyfryddiaeth Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN\u00a00-7083-0766-3. Cyfeiriadau","1183":"Chwedl Gymreig yn dyddio o'r Canol Oesoedd yw Hanes Taliesin (hefyd weithiau \"Chwedl Taliesin\"). Fe'i ceir yn ei ffurf gyflawnaf gan Elis Gruffydd yn y 16g dan yr enw Ystoria Taliesin, ond credai Syr Ifor Williams y gallai'r gwreiddiol fod yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g. Mae'n rhoi hanes am y bardd Taliesin. Crynodeb o'r chwedl Yn \u00f4l y chwedl, roedd gan Ceridwen a'i g\u0175r Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, Creirwy, yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran ap Tegid, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai'n rhoi \"awen a gwybodaeth\" iddo i wneud iawn am hynny. Bu'n berwi pair gydag amrywiaeth o lysiau am flwyddyn a diwrnod, gyda'r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen \u0175r dall o'r enw Morda yn cadw'r t\u00e2n dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair. Pan oedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri dafn o'r pair ar law Gwion Bach, a chan eu bod mor boeth, fe'i rhoes yn ei geg. Sylweddolodd Ceridwen ar unwaith ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a'r awen yn lle ei mab, a dechreuodd ei ymlid. Newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn ysgyfarnog, ond newidiodd Ceridwen ei hyn yn filiast i'w ymlid. Yna trodd Gwion yn bysgodyn, a Ceridwen yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a throdd Ceridwen yn walch i'w ymlid; yna pan oedd y gwalch bron a'i ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith. Trodd ei hun yn ronyn gwenith ynghanol y pentwr, ond trodd Ceridwen ei hun yn iar a'i fwyta. Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a'i daflu i'r m\u00f4r. Roedd gored bysgod yn eiddo i Gwyddno Garanhir ar y traeth rhwng Afon Dyfi ac Aberystwyth, a cheid gwerth can punt o bysgod yn y gored yma bob Calan Mai. Roedd un o feibion Gwyddno, Elffin, yn nodedig am ei anlwc, felly rhoes Gwyddno yr hawl iddo i dynny'r gored ar Galan Mai y flwyddyn honno, yn y gobaith y byddai ei ffawd yn newid. Pan aeth Elffin i dynnu'r gored, nid oedd dim ynddi ond y cwdyn lledr yn cynnwys y baban. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was \"Llyma dal iesin\" ('Dyma dalcen teg'): \"Taliesin bid!\" atebodd y baban. Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill 'Elffin teg, taw a'th wylo; Ni wna lles drwg obeithio; Ni chad yng ngored Wyddno Erioed gystal \u00e2 henno.'Aeth Elffin ag ef adref i'w fagu gan ei wraig. Yn ddiweddarch mae Elffin yn mynd a Thaliesin i lys Maelgwn Gwynedd yn Neganwy, lle mae'n ennill gornest yn erbyn beirdd Maelgwn ac yn achub Elffin o garchar. Cyfatebiaethau Gwyddelig Ceir hanes tebyg iawn ym Mytholeg Iwerddon am yr arwr Fionn mac Cumhaill. Pan oedd yn ieuanc bu Fionn yn ddisgybl i'r bardd a derwydd Finn Eces neu Finnegas, ger Afon Boyne. Treuliodd Finneces saith mlynedd yn ceisio dal \"eog doethineb\", oedd yn byw mewn pwll yn yr afon. Byddai'r sawl a fwytai'r eog yma yn berchen ar yr holl wybodaeth yn y byd. Yn y diwedd, daliodd Finneces yr eog a gorchymynodd i Fionn ei goginio iddo. Wrth wneud, llosgodd Fionn ei fawd ar yr eog, a rhoddodd ei fawd yn ei geg, gan lyncu darn o groen yr eog, gan ddod yn berchen yr holl wybodaeth yn lle ei feistr. Llyfryddiaeth Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1992). Testunau golygiedig. Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957). Astudiaeth. Cyfeiriadau Gweler hefyd Canu Taliesin Ll\u00ean gwerin Cymru Taliesin Ben Beirdd Yr Hengerdd","1188":"Math o gerddoriaeth yw jazz (neu weithiau yn Gymraeg jas) a ffurfiodd ymysg cymunedau du de Unol Daleithiau America ar ddiwedd y 19g, yn enwedig New Orleans. Roedd gwreiddiau jazz yn ragtime ac yn enwedig felan, math o gerddoriaeth oedd yn ei thro yn hannu o ddylanwadau brodorol Affrica a chafodd eu mewnforio i'r Unol Daleithiau drwy'r fasnach gaethweision. Ers y dechrau hyn mae jazz wedi parhau i blethu a mewnforio elfennau o draddodiadau cerddoriaeth Americanaidd a gwleydd eraill. Nodweddion cyffredin mewn jazz yw nodau swing a'r felan, rhythmau poliffonig ac yn enwedig byrfyfyrio. Ystyrir jazz yn ffurf ar gelf cynhenid Americanaidd. Elfennau Rhyddganu Yr unawd offerynnol Offerynnau Mae'n bosib chwarae jazz ar unrhyw offeryn. Er hynny, mae sawl offeryn sy'n cael eu defnyddio yn aml iawn ac yn cael eu cysylltu yn arbennig efo jazz. Drymau Bas dwbl Git\u00e2r Piano Sacsoffon Tromb\u00f4n Trwmped Gwreiddiau Y felan Ragtime Jazz Gynnar Ystyrir mae'r recordiad Jazz gyntaf oedd Livery Stable Blues, a recordiwyd yn 1917 gan yr Original Dixieland Jazz Band, ond erbyn dyddiad y recordio roedd jazz fel cerddoriaeth yn cael ei chwarae'n fynych dros yr Unol Daleithiau, ffaith sydd wedi'i dystio ym mhapurau newydd y cyfnod (defnyddiwyd y sillafiad Jass yn aml yn gynnar, ond roedd Jazz yn safonol erbyn 1920). Cymharol ychydig a wyddir am ddechreuadau Jazz, gan nad oedd y gerddoriaeth yn cael ei recordio na'i ysgrifennu i lawr - nid oedd mwyafrif y chwaraewyr cyntaf yn gallu darllen cerddoriaeth ysgrifenedig, a chan bod y gerddoriaeth yn dibynnu gymaint ar fyr-fyfyrio, mae recordiadau sain yn hanfodol i olrhain ei hanes. Buddy Bolden efallai yw un o'r enghreifftiau enwocaf o'r cerddorion gynnar hyn: fe'i ystyriwyd yn ddylanwad hollbwysig gan nifer o'r rhai a'i glywodd yn fyw, ond ail-law yw'r holl dystiolaeth amdano gan nad oes yr un record ganddo yn hysbys. 1920au a'r 1930au: Yr oes jazz Swing Yr 1940au a'r 1950au: Bebop Datblygiad sylweddol yn Jazz yn ystod y 1940au oedd Bebop, math newydd o Jazz oedd yn llawer mwy gymhleth, yn harmonig ac yn rythmig, na cherddoriaeth Swing a Jazz traddodiadol. Yn wahanol i Swing ac ardduliiau Jazz cynharach, ni fwriadwyd Bebop ar gyfer dawnsio. Roedd hyn yn galluogi i gerddorion i chwarae'n gyflymach o lawer, a throdd ffocws y gerddoriaeth yn fwy byth ar yr unigolyn yn hytrach na'r gr\u0175p. Dylanwad sylweddol Bebop oedd trawsnewid Jazz o fod yn gerddoriaeth boblogaidd i fod yn arddull gerddorol a gafodd ei ystyried yn gelf. Er cymerwyd lle bebop 'pur' yr 1940au ar ganol datblygiad jazz gan arddulliau eraill yn gymharol gyflym, strwythur bebop a welir fwyaf aml ym mwyafrif jazz modern o'r 1940au hyd at y presennol. O'r dechrau ymlaen roedd bebop yn ddadleuol ymysg beirniaid a'r cyhoedd. Er gwaethaf ei bwysigrwydd o ran datblygiad jazz, cymharol fechan oedd cyfran bebop o'r farchnad gerddoriaeth yn y 1940au; yn hytrach, Swing oedd yn parhau i werthu orau. Cerddorion Bebop allweddol oedd Charlie Parker, Dizzy Gillespie a Thelonious Monk. Bop Galed Arddull oedd Bop Galed (Saesneg: Hard Bop) a dyfodd allan o bebop yn ystod yr 1950au. Cyfuniad oedd o bebop gyda a dylanwadau cyfredol o'r tu allan i jazz, megis cerddoriaeth gospel, y felan a rhythm a bl\u0175s. Cerddorion bwysig ym myd bop galed oedd Miles Davis, Sonny Rollins, Art Blakey a Max Roach. 1960au a'r 1970au: Jazz rhydd, \u00d4l-bop a Fusion Jazz Rhydd Math newydd o jazz a ddechreuodd ymddangos ar ddiwedd y 1950au oedd jazz rhydd. Tra roedd Bebop wedi ehangu posibiliadau jazz drwy ymestyn ystod harmonig y gerddoriaeth, aeth jazz rhydd gam ymhellach drwy ganiatau i gerddorion droi eu cefn ar strwythurau harmoniol yn gyfan gwbl. Wrth chwarae'n rhydd, gall offerynwyr dilyn eu hwynt eu hunain yn gyfan gwbl heb orfod cadw at strwythurau traddodiadol cerddorol megis cordiau, amser, neu allwedd. Byddai rhai cerddorion rhydd yn chwarae eu hofferynnau drwy ddulliau newydd, er enghraifft rhuo drwy sacsoffon neu gor-chwythu bwriadol (er nad oedd y technegau hyn i'w glywed yn jazz rhydd bob tro o bell ffordd). Er bod jazz rhydd wedi agor nifer fawr o bosibiliadau cerddorol newydd, roedd y dulliau newydd hyn yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid, gyda rhai yn awgrymu nad oedd cerddorion jazz rhydd yn meddu ar y gallu technegol i chwarae'n 'iawn', neu eu bod wedi cefnu ar jazz yn gyfan gwbl. Cerddorion jazz rhydd pwysig ar ddechrau'r 70au oedd Ornette Coleman - rhoddodd album Coleman Free Jazz (1961) yr enw i'r arddull - Eric Dolphy, a Cecil Taylor. Roedd John Coltrane yn ymarferwr hynod bwysig hefyd. Ar \u00f4l ennill enwogrwydd fel rhan o gr\u0175p Miles Davis yn y 50au, dechreuodd Coltrane chwarae'n rhydd yn 1961, fel sydd i'w glywed ar ei recordiau byw o glwb y Village Vanguard yn Efrog Newydd. Bu farw Coltrane yn 1967, ond cafodd ddylanwad enfawr ar genhedlaeth newydd o sacsoffonwyr jazz rhydd yn y 1970au. Jazz fusion Erbyn yr 1960au hwyr, nid jazz bellach oedd brif gerddoriaeth poblogaidd America a'r gorllewin: roedd wedi colli ei lle i gerddoriaeth roc. Fel ymateb i'r newid hwn, dechreuodd nifer cynyddol o gerddorion jazz gyflwyno elfennau o gerddoriaeth roc megis curiadau roc ac offerynau electronig i'w cerddoriaeth. Fusion oedd yr enw Saesneg a roddwyd i'r math yma o gerddoriaeth. Roedd arloeswyr yr arddull hon yn cynnwys Miles Davis, Chick Corea (drwy ei fand Return to Forever), Herbie Hancock, Wayne Shorter (a'i fand Weather Report) ymysg eraill. Datblygiadau ers 1980 Yn yr 80au, cafwyd adwaith yn erbyn jazz rhydd a fusion, y dwy arddull a fu'n domineiddio jazz newydd yn ystod y 1970au. Dechreuodd cerddorion gan gynnwys Herbie Hancock a Chick Corea, a fu'n ffigyrau pwysig yn fusion, recordio jazz acowstig eto. Cafwyd gwrthdaro tebyg yn erbyn jazz rhydd: dechreuodd Keith Jarrett - pianydd a oedd wedi archwilio jazz rhydd yn ystod y 1970au - ar brosiect 40-mlynedd o recordio caneuon jazz traddodiadol. Rhoddwyd llais i'r tueddiadau adweithiol hyn gan y trwmpedwr Wynton Marsalis, a ddaeth i'r amlwg fel rhan o fand Art Blakey. Ceidwadwr cerddorol oedd Marsalis a oedd yn ystyried jazz rhydd i fod yn estron i'r traddodiad; nid oedd yn gweld gwerth artistig i fusion chwaith. Dylanwad mwyaf amlwg Marsalis oedd cerddoriaeth Miles Davis o'r 60au gyda'i ail bumawd fawr; fodd bynnag yn ddiweddarach dangosodd Marsalis ddylanwad gynyddol gan jazz traddodiadol yr 1920au a'r 1930au. Ers 1980 mae byd jazz wedi'i nodwedu gan ystod o arddulliau gwahanol yn cyd-fyw, gyda chwaraewyr yn aml yn symud yn rhydd rhyngddynt o record i record neu hyd yn oed o fewn albwm neu g\u00e2n. Mae cerddorion pwysig a ddaeth i'r amlwg yn yr 1980 yn cynnwys Geri Allen, Terence Blanchard a John Zorn. Cerddorion jazz enwog (detholiad) Cyfeiriadau","1189":"Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Ll\u0177n, Gwynedd yw Nefyn, sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 2,500. Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern. Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru). Hanes Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Ll\u0177n. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar \u00f4l siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed yn Fwrdeisdref Rydd. Mae'r m\u00f4r wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae \"penwaig Nefyn\" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth \u00a34,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal. Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r m\u00f4r. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus. Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar \u00f4l y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn. 20fed ganrif ymlaen Ar 19 Gorffennaf 1984, Nefyn oedd canolbwynt daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Hwn oedd y dirgryniad cryfaf a gofnodwyd ar dir mawr ynys Prydain ers i gofnodion ddechrau, ond ni chafwyd llawer o ddifrod. Ar 19 Ebrill 2021, cafwyd tirlithriad gyda darn sylweddol o'r glogwyn yn cwympo i'r m\u00f4r. Collwyd y tir o waelod tai haf ar Rhodfa'r M\u00f4r, ond ni anafwyd unrhyw unigolyn. Chwaraeon Mae t\u00eem p\u00eal-droed yn Nefyn o'r enw Clwb P\u00eal-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna d\u00eem wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r t\u00eem yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'. Mae gan y t\u00eem dudalen Facebook. Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Enwogion John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782), telynor Syr Love Jones-Parry (1832-1891), arloeswr Y Wladfa Elizabeth Watkin Jones (1888-1965), awdures llyfrau plant Duffy (ganwyd 1984), cantores soul Gweler hefyd Croeso i Ardal Aberdaron - Nefyn (2007), teithlyfr Cyfeiriadau Dolenni allanol Pysgota Penwaig yn Nefyn Adeiladu llongau yn Nefyn","1191":"Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Ll\u0177n, Gwynedd yw Nefyn, sydd \u00e2 phoblogaeth o tua 2,500. Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern. Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru). Hanes Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Ll\u0177n. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar \u00f4l siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed yn Fwrdeisdref Rydd. Mae'r m\u00f4r wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae \"penwaig Nefyn\" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth \u00a34,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal. Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r m\u00f4r. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus. Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar \u00f4l y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn. 20fed ganrif ymlaen Ar 19 Gorffennaf 1984, Nefyn oedd canolbwynt daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Hwn oedd y dirgryniad cryfaf a gofnodwyd ar dir mawr ynys Prydain ers i gofnodion ddechrau, ond ni chafwyd llawer o ddifrod. Ar 19 Ebrill 2021, cafwyd tirlithriad gyda darn sylweddol o'r glogwyn yn cwympo i'r m\u00f4r. Collwyd y tir o waelod tai haf ar Rhodfa'r M\u00f4r, ond ni anafwyd unrhyw unigolyn. Chwaraeon Mae t\u00eem p\u00eal-droed yn Nefyn o'r enw Clwb P\u00eal-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna d\u00eem wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r t\u00eem yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'. Mae gan y t\u00eem dudalen Facebook. Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Enwogion John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782), telynor Syr Love Jones-Parry (1832-1891), arloeswr Y Wladfa Elizabeth Watkin Jones (1888-1965), awdures llyfrau plant Duffy (ganwyd 1984), cantores soul Gweler hefyd Croeso i Ardal Aberdaron - Nefyn (2007), teithlyfr Cyfeiriadau Dolenni allanol Pysgota Penwaig yn Nefyn Adeiladu llongau yn Nefyn","1195":"Gweler Y Rhyfel Byd Cyntaf am y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyffredinol Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf (28 Gorffennaf 1914 - 11 Tachwedd 1918) effaith fawr ar hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. \u00a0 Cyfrannodd Cymru yn sylweddol at y Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Er enghraifft, o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a'r economi. Gwirfoddolodd llawer iawn o Gymry i ymladd yn y rhyfel. \u00a0Yn nhermau canrannol, recriwtiwyd mwy o Gymry na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod, ac ymladdodd milwyr o Gymru yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel megis y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele. Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru\u2019r Llynges Brydeinig ac fe wnaeth gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru gyfraniad enfawr at ymdrech y rhyfel. \u00a0Arweiniwyd yr ymgyrch ryfel gan y Cymro, David Lloyd George, y Prif Weinidog rhwng 1916 a 1918. \u00a0Penderfynodd Lloyd George ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Golygai hyn bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag yr ymdrech ryfel mewn ryw ffordd neu'i gilydd, naill ai ar y Ffrynt Cartref neu drwy ymladd. Bu ei ddawn fel arweinydd ac areithiwr oedd yn medru codi mor\u00e2l ac ysbryd y bobl yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain. Effeithiwyd ar bob agwedd ar gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i\u2019r wlad golli cenhedlaeth gyfan o\u2019i phobl, gyda\u2019r niferoedd a gollodd eu bywydau - yn ddynion a merched - yn cyrraedd tua 40,000 yn y Rhyfel Mawr. Trosolwg o'r Rhyfel Byd Cyntaf Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhyfel Ewropeaidd. Gwledydd y Pwerau Canolog a\u2019r Cynghreiriaid oedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd.\u00a0Y Pwerau Canolog oedd Yr Almaen, Awstria-Hwngari a\u2019r Ymerodraeth Otomanaidd a\u2019r prif Gynghreiriaid oedd Prydain, Ffrainc, Rwsia a Serbia. Saethodd g\u0175r ifanc o Serbia o\u2019r enw Gavrilo Princip Arch-ddug Awstria, Franz Ferdinand, yn Sarajevo ar 28 Mehefin 1914.\u00a0 Defnyddiodd Awstria-Hwngari\u2019r digwyddiad hwn fel esgus i gyhoeddi rhyfel ar Serbia fis yn ddiweddarach. Er i lofruddiaeth Franz Ferdinand sbarduno'r Rhyfel Mawr, nid dyna'r unig reswm. Gwahaniaethau dros bolisi tramor rhwng prif bwerau'r byd oedd achos sylfaenol y rhyfel. Ar ddechrau\u2019r 20g roedd gan nifer o wledydd Ewrop gytundebau gyda gwledydd eraill i\u2019w hamddiffyn pe bai ymosodiad ar eu gwlad.\u00a0 Dyma felly sut gwnaeth un digwyddiad arwain at ddechrau\u2019r Rhyfel Byd Cyntaf.\u00a0Wrth i Awstria-Hwngari gyhoeddi rhyfel yn erbyn Serbia, daeth Rwsia i amddiffyn Serbia ac yn sgil hynny ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel oherwydd bod ganddynt gytundeb gyda Rwsia.\u00a0Ymunodd yr Almaen yn y rhyfel gan fod ganddi gytundeb i amddiffyn Awstria-Hwngari mewn argyfwng. Trodd y rhyfel Ewropeaidd yn rhyfel byd eang oherwydd bod gan gymaint o wledydd Ewrop ymerodraethau eu hunain. Ymerodraeth yw casgliad o wledydd sy\u2019n cael eu rheoli gan un brenin\/brenhines neu reolwr.\u00a0 Wrth i wledydd o bob cornel o\u2019r byd oedd yn rhan o ymerodraethau gwahanol ymuno \u00e2\u2019r ymladd, datblygodd rhyfel byd-eang.\u00a0 Dyma rhai o wledydd Ymerodraeth Prydain a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf: Canada India Awstralia Seland Newydd Jamaica Yr Aifft De AffricaRoedd llawer o bobl wedi meddwl y byddai\u2019n rhyfel byr ac y byddai \u2018drosodd erbyn y Nadolig\u2019 ond fe barodd y rhyfel am bedair blynedd.\u00a0 Roedd yn rhyfel hir a chafodd miliynau o bobl eu lladd: Yr Almaen - 1.8 Miliwn \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Rwsia - 1.75 miliwn \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Ffrainc - 1.4 miliwn Awstria-Hwngari - 1.25 miliwn \u00a0 Ymerodraeth Prydain - 950,000 Yr Eidal - 650,000 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Twrci - 325,000 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 UDA - 125,000 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 Serbia - 50,000 Achosion y Rhyfel Byd Cyntaf Nid saethu Archddug Franz Ferdinand oedd unig reswm y gwledydd hyn i gyhoeddi rhyfel ar ei gilydd.\u00a0 Roedd tensiwn wedi bod rhwng rhai o wledydd Ewrop ers blynyddoedd. Rhai o brif achosion y tensiwn oedd: Y cefndryd brenhinol \u2013 roedd rheolwyr brenhinol yr Almaen, Prydain a Rwsia yn perthyn i\u2019w gilydd.\u00a0Roedd Kaiser Wilhelm II o\u2019r Almaen, y Brenin Si\u00f4r o Brydain a Tsar Nicholas II o Rwsia yn gefndryd gan mai\u2019r Frenhines Fictoria oedd eu mam-gu. Roedd y tri chefnder yn benaethiaid ar filiynau o bobl, nid yn unig o fewn eu gwledydd eu hunain, ond hefyd fel rhan o\u2019u hymerodraethau.\u00a0Yn 1914, roedd Si\u00f4r V yn bennaeth gwladwriaeth ar tua 400 miliwn o bobl oddi mewn i Ymerodraeth Prydain.\u00a0 Achosodd hyn genfigen a drwgdybiaeth rhwng y tri gan greu perthynas anodd a chystadleuol rhyngddynt. Cenedlaetholdeb \u2013 roedd cenedlaetholdeb yn tyfu i fod yn ddylanwad cryf ar lawer o wledydd Ewrop gan eu harwain i gredu bod eu gwlad hwy yn well na gwledydd eraill.\u00a0 Arweiniodd hefyd at wneud arweinwyr y gwahanol wledydd yn benderfynol ac ymosodol a chredu y bydden nhw\u2019n ennill petaen nhw\u2019n mynd i ryfel. Cynghreiriau gwahanol \u2013 roedd y cytundebau gwahanol rhwng nifer o wledydd Ewrop, er enghraifft, yr Entente Driphlyg (1907) rhwng Prydain, Ffrainc a Rwsia, wedi cynyddu\u2019r tensiwn gan eu bod wedi eu llunio er mwyn rhwystro\u2019r Almaen rhag dod yn rhy bwerus yn Ewrop. Y ras arfau \u2013 Prydain oedd \u00e2\u2019r llynges fwyaf yn y byd ar ddechrau\u2019r 20g ond roedd Wilhelm II a\u2019r Almaen yn benderfynol o gael y gorau ar ei gefnder.\u00a0 Aeth yr Almaen ati i adeiladu llawer o longau rhyfel dros gyfnod o 20 mlynedd i geisio cystadlu \u00e2 Phrydain. Cystadleuaeth am dir dramor \u2013 ar ddiwedd y 19eg ganrif creodd y gystadleuaeth rhwng gwledydd yn Ewrop am dir yn Affrica fwy o densiwn yn Ewrop. Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn wrthdaro byd eang wnaeth gychwyn yn Ewrop a lledu ar draws y byd.\u00a0 Yn Ewrop roedd dau brif ffrynt i\u2019r ymladd, sef Ffrynt y Dwyrain a Ffrynt y Gorllewin.\u00a0Ymladdodd y rhan fwyaf o\u2019r Cymry ar Ffrynt y Gorllewin.\u00a0Tu allan i Ewrop bu brwydrau mawr yn Affrica a\u2019r Dwyrain Canol. Recriwtio Lansiodd Llywodraeth Prydain ap\u00eal yn Awst 1914 i geisio annog 100,000 o ddynion rhwng 19 a 38 mlwydd oed i ymuno \u00e2\u2019r fyddin.\u00a0 Defnyddiwyd posteri, papurau newydd a chyfarfodydd lleol i berswadio pobl i ymuno.\u00a0Cafwyd ymateb da i\u2019r ymgyrch recriwtio ar ddechrau\u2019r rhyfel ac ymunodd llawer o ddynion o Gymru \u00e2\u2019r fyddin. Pam ymuno? Roedd dynion oedd yn ymuno \u00e2\u2019r fyddin yn cael eu gweld fel dynion dewr ac arwrol. Roedd dynion oedd yn gwrthod mynd i ymladd yn cael eu gweld fel bradwyr. Doedd y rhan fwyaf o\u2019r milwyr ddim yn deall beth oedd yn eu hwynebu ar y llinell flaen. Doedden nhw ddim yn sylweddoli pa mor erchyll oedd yr ymladd a\u2019r amodau byw yn y ffosydd. Y farn gyffredin oedd y byddai\u2019r rhyfel wedi gorffen erbyn Nadolig 1914. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai rhyfel byr fyddai hwn, ac nid rhyfel fyddai\u2019n para am 4 mlynedd. Roedd rhai dynion yn gweld y rhyfel fel cyfle i fynd ar antur fawr, heb ddeall beth oedd o\u2019u blaenau.\u00a0 Ymunodd rhai eraill gan ei fod yn gyfle i gael hwyl a gweld y byd, i ddianc rhag eu swyddi diflas a bywyd gartref, ac yn gyfle i ymladd dros eu gwlad a\u2019r ymerodraeth. Trefnodd y Llywodraeth bod swyddfeydd recriwtio yn cael eu hagor ar draws Prydain a swyddogion recriwtio yn cael eu penodi i reoli\u2019r swyddfeydd hynny.\u00a0 Byddai\u2019r rhingyll neu'r sarjant yn bresennol hefyd yn y swyddfeydd er mwyn hybu\u2019r ymgyrch recriwtio a\u2019i gwneud hi\u2019n haws i rai oedd yn ymuno. Erbyn Rhagfyr 1914 roedd 62,000 o Gymry wedi ymuno \u00e2\u2019r fyddin. Bataliynau Cyfeillion Aeth llawer o ddynion i\u2019r rhyfel gyda\u2019u ffrindiau. Roedd criw o ddynion o\u2019r un dref neu weithle yn medru sefydlu bataliwn eu hunain. Uned o filwyr mewn byddin yw bataliwn. Credai\u2019r llywodraeth fod hyn yn syniad da er mwyn annog mwy o ddynion i ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog. Y broblem amlwg oedd y gallai criw mawr o ddynion o\u2019r un dref gael eu lladd ar yr un pryd pan oedd eu bataliwn yn ymladd mewn brwydr. Capeli ac eglwysi Cyn y rhyfel roedd bron pawb yng Nghymru yn aelod o Gapel neu Eglwys. Bu rhai o gapeli ac eglwysi Cymru yn annog dynion i ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog ac roedd John Williams, Brynsiencyn, Ynys M\u00f4n, yn weinidog Methodistaidd yn amlwg iawn yn yr ymgyrch recriwtio, yn enwedig yn rhai o ardaloedd mwyaf Cymraeg a gwledig Cymru. Byddai'n pregethu yn ei ddillad milwrol a'i goler gron ac yn annog dynion i ymuno \u00e2'r fyddin, gan ddadlau bod Prydain yn ymladd brwydrau cyfiawn yn y rhyfel. Roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno \u00e2'r fyddin erbyn mis Mai 1915. Propaganda Penderfynodd Llywodraeth Prydain ddefnyddio propaganda er mwyn sicrhau bod bobl Prydain yn rhoi pob cefnogaeth i ymdrech ryfel y wlad. Defnyddiwyd nifer o ddulliau i gyfathrebu pa mor bwysig oedd hi i\u2019r bobl gefnogi\u2019r ymgyrch a sut roedden nhw\u2019n medru helpu. Y cyfryngau \u2013 gweithiodd y Llywodraeth gyda busnesau\u2019r stryd fawr, fel W. H. Smith, i ddosbarthu pamffledi. Roedd papurau newydd darluniadol yn adrodd am y rhyfel mewn ffordd arwrol ond yn gwneud yn fach o erchyllterau\u2019r rhyfel a nifer y bywydau a gollwyd. Posteri \u2013 roedd posteri recriwtio yn un o\u2019r dulliau mwyaf effeithiol o bropaganda. Y thema fwyaf cyffredin oedd gwladgarwch a oedd yn apelio ar bawb i \u2018wneud eu rhan\u2019.\u00a0 Roedd y posteri yn cynnwys lluniau oedd yn annog dynion cyffredin i ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog ac yn portreadu dynion balch, hapus yn mynd i ymladd dros eu gwlad. Roedd them\u00e2u eraill yn cynnwys ofn goresgyniad, erchyllterau\u2019r Almaenwyr a rhai posteri yn targedu menywod yn y gobaith y bydden nhw\u2019n annog dynion i fynd i ymladd. Propaganda erchyllterau \u2013 roedd adroddiadau papur newydd am yr \u2018Hun\u2019 yn cyflawni gweithredoedd erchyll yng Ngwlad Belg ac yn dangos barbariaeth yr Almaenwyr yn ddramatig ond yn gwbl ddychmygol. Cynhyrchwyd poster ym mis Rhagfyr 1914 o\u2019r enw Remember Scarborough a oedd yn dangos y dref yn cael ei bomio gan ladd 18 o bobl, yn cynnwys plant a baban 14 mis oed. Cefnogaeth pobl enwog \u2013 siaradodd gwleidyddion fel Winston Churchill mewn ral\u00efau ac fe ddangosodd y Brenin Si\u00f4r V ei gefnogaeth i\u2019r ymgyrch ryfel drwy apelio ar bobl Prydain i ddod ynghyd. Ffilmiau \u2013 ffilm a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 1915 oedd Britain Prepared ac fe\u2019i dosbarthwyd yn genedlaethol. \u00a0Roedd hon yn ffilm filwrol oedd yn hybu\u2019r syniad o gryfder a phenderfyniad Prydain. Dangoswyd y ffilm am chwe wythnos yn Theatr yr Empire yn Llundain a chafodd fersiwn fyrrach ei chynhyrchu i\u2019w dangos mewn sinemau ar draws y wlad. Consgripsiwn Erbyn 1916 roedd angen mwy o ddynion i fynd i ymladd yn y rhyfel. Roedd miloedd o ddynion wedi cael eu lladd mewn brwydrau anferth ar Ffrynt y Gorllewin, ac roedd angen milwyr yn eu lle. Ond erbyn 1916 doedd dynion ddim mor awyddus i fynd i ryfel gan eu bod nhw bellach wedi clywed beth oedd yn eu hwynebu. Penderfynodd y Llywodraeth gyflwyno Deddf Gorfodaeth Filwrol yn Ionawr 1916 oedd yn golygu bod yn rhaid i bob dyn rhwng 18 a 41 mlwydd oed ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog. Gair arall sy\u2019n cael ei ddefnyddio am orfodaeth filwrol yw Consgripsiwn. Dim ond dynion mewn swyddi allweddol, sef swyddi oedd yn bwysig i\u2019r ymgyrch ryfel, oedd yn cael osgoi ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog. Roedd y rhain yn cynnwys glowyr, gweithwyr mewn ffatr\u00efoedd arfau, meddygon a ffermwyr. Gwrthwynebwyr Cydwybodol Roedd dynion a oedd yn gwrthwynebu ymuno \u00e2\u2019r lluoedd arfog yn cael eu galw\u2019n wrthwynebwyr cydwybodol. Credent na allai eu cydwybod ganiat\u00e1u iddynt gymryd rhan mewn rhyfel.\u00a0 Credent hyn am resymau gwahanol, oedd yn cynnwys daliadau crefyddol, gwleidyddol neu foesol. Nid oedd y mwyafrif o bobl y cyfnod ym Mhrydain yn dangos unrhyw gydymdeimlad \u00e2 safiad gwrthwynebwyr cydwybodol, gan eu gweld fel llwfrgwn a bradwyr nad oedd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu gwlad. Byddent yn aml yn cael eu cyhuddo o fod yn anwladgarol ac yn gachgwn.\u00a0 Roedd yn gyffredin iddynt gael eu cywilyddio yn gyhoeddus gyda merched yn rhoi pluen wen iddynt.\u00a0 Roedd y bluen wen yn symbol o lwfrdra. Byddai cais y gwrthwynebydd cydwybodol i gael ei eithrio o wneud gwasanaeth milwrol yn cael ei gyflwyno gerbron tribiwnlys lleol. Os byddai\u2019n cael ei eithrio rhag gwneud gwasanaeth milwrol byddai\u2019n gwneud gwasanaeth heb frwydro, er enghraifft, gweithio gyda\u2019r Corfflu Meddygol (R.A.M.C) neu fel negesydd neu yrrwr ambiwlans ar faes y gad.\u00a0 Medrai hefyd gael ei anfon i wneud gwaith sifiliaidd yn gweithio yn y ffatr\u00efoedd arfau neu \u2018waith o bwysigrwydd cenedlaethol\u2019 mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu gyda\u2019r Y.M.C.A.Roedd y bardd a\u2019r archdderwydd Cynan (Albert Evans-Jones) yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ond cyfrannodd at yr ymgyrch ryfel drwy ymuno \u00e2\u2019r Corfflu Meddygol fel cludwr elor yn Ffrainc.\u00a0 Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon yn 1921 am ei gerdd \u2018Mab y Bwthyn\u2019 a oedd yn s\u00f4n am ei brofiadau yn y rhyfel. Ymhlith y Cymry blaenllaw eraill oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y bardd o Gwm Tawe, sef 'Gwenallt' (David James Jones) a dau o heddychwyr mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef George Maitland Lloyd Davies a'r bargyfreithiwr o Aberystwyth, Ithel Davies. R\u00f4l David Lloyd George Yn fuan wedi decrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cafodd David Lloyd George ei benodi yn Weinidog Arfau.\u00a0 Llwyddodd i gynyddu cyflenwad yr arfau oedd yn cyrraedd milwyr Prydain ar y ffrynt ymladd drwy wella cynhyrchiant diwydiant. Roedd Lloyd George yn areithiwr gwych, a defnyddiodd y ddawn hon yn ystod ei ymgyrchoedd recriwtio wrth deithio ar draws Cymru.\u00a0 Yn aml pwysleisiai wladgarwch a byddai\u2019n cyfeirio at bwysigrwydd unigolion yn hanes Cymru, fel Llywelyn ein Llyw Olaf ac Owain Glynd\u0175r wrth geisio cyffroi'r Cymry i ymuno yn y rhyfel er mwyn amddiffyn \u2018y gwledydd bach\u2019. Roedd yn bwysig, meddai, bod gwlad fach Cymru yn rhoi help i wlad fach arall fel Gwlad Belg, yr ymosododd Ymerodraeth Awstria-Hwngari arni. Roedd awydd Lloyd George i hybu cyfraniad Cymru tuag at y rhyfel yn cael ei adlewyrchu yn y gefnogaeth a roddodd i sefydlu Corfflu\u2019r Fyddin Gymreig neu\u2019r 38ain Adran Gymreig fel y cafodd ei hadnabod yn ddiweddarach. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai\u2019r corfflu yn denu hyd at 50,000 mewn nifer ond cafodd llawer o\u2019r recriwtiaid Cymreig eu galw i gatrawdau eraill. Yng Ngorffennaf 1916 bu\u2019r 38ain Adran Gymreig yn ymladd gyda chatrawdau eraill o Gymru, fel Cyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym Mrwydr Coed Mametz a oedd yn rhan o Frwydr y Somme yng ngogledd ddwyrain Ffrainc. Dioddefodd yr adran golledion enfawr a beirniadwyd hi\u2019n hallt oherwydd diffyg hyfforddiant ac arweinyddiaeth wael. Penodwyd ef hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel yng Ngorffennaf 1916 yn dilyn marwolaeth yr Arglwydd Kitchener ac erbyn Rhagfyr 1916 roedd yn Brif Weinidog Prydain. Ef yw'r Cymro cyntaf, a'r unig Gymro hyd yn hyn, i fod yn Brif Weinidog Prydain. Adnabuwyd ef fel \u2018y dyn a enillodd y rhyfel\u2019 ac roedd yn un o arweinyddion y Cynghreiriaid, gyda Ffrainc a\u2019r UDA, a fu\u2019n llunio Cytundeb Versailles yn 1919. Doc Penfro Defnyddiwyd gynnau mawr, sef magnelau a gynnau peiriant fel rhan o\u2019r dulliau rhyfela ar y tir, ac ar y m\u00f4r defnyddiodd Prydain a\u2019r Almaen longau mawr rhyfel o\u2019r enw Dreadnoughts yn ogystal \u00e2 llongau tanfor. Bu r\u00f4l bwysig gan Ddociau Penfro, sir Benfro, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fel un o iardiau'r Llynges Frenhinol lle adeiladwyd llongau rhyfel a gynfadau. Bywyd ar y Ffrynt Cartref Roedd disgwyl i bawb yn y gymdeithas gyfrannu at yr ymgyrch ryfel, yn ddynion a merched, ac roedd disgwyl hyd yn oed i blant chwarae eu rhan ar y Ffrynt Cartref drwy wneud gwaith gwirfoddol ac elusennol fel casglu arian i brynu nwyddau ar gyfer y milwyr ar y ffrynt ymladd, casglu wyau a gwl\u00e2n a gweithio ar y ffermydd.Er mwyn ceisio cael rheolaeth lawnach dros fywydau pobl Prydain pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas yn 1914. Yn Saesneg cai\u2019r ddeddf hon ei hadnabod fel DORA (Defence of the Realm Act). Golygai\u2019r ddeddf hon bod y Llywodraeth yn medru rheoli oriau gwaith ac oriau hamdden pobl, cwmn\u00efau a busnesau ar draws Cymru (a Prydain) er mwyn sicrhau bod holl ymdrechion y deyrnas yn canolbwyntio ar helpu\u2019r ymgyrch ryfel. Roedd Deddf Amddiffyn y Deyrnas yn rhoi pwerau newydd i\u2019r Llywodraeth i reoli bron pob agwedd ar fywyd y deyrnas - er enghraifft, amaethyddiaeth, peirianneg a\u2019r pyllau glo, llongau, porthladdoedd a dociau. Roedd modd hefyd rheoli trafnidiaeth fel heolydd a\u2019r rheilffyrdd a meddiannu cyflenwadau nwy, d\u0175r a thrydan er mwyn helpu\u2019r ymgyrch ryfel. Roedd ganddi\u2019r p\u0175er hefyd i sensora\u2019r wasg er mwyn rheoli\u2019r wybodaeth oedd yn cael ei chyhoeddi i\u2019r cyhoedd. Roedd felly yn gyfrifol am gyflwyno propaganda. Galluogodd y pwerau newydd hyn y Llywodraeth i gyflwyno dogni, rheoli oriau ac amodau gwaith y gweithlu a hyd yn oed sut roedd pobl yn treulio eu hamser hamdden.\u00a0Cafodd gwyliau banc eu hatal am gyfnod, anogwyd pobl i fwyta sglodion gan eu bod yn fwyd rhad a chyflwynwyd Greenwich Mean Time, oedd yn golygu troi\u2019r clociau ymlaen awr yn yr haf er mwyn rhoi mwy o olau dydd i ffermwyr a gweithwyr yn gyffredinol. Penderfynwyd glastwreiddio\u2019r cwrw yn 1914 er mwyn atal pobl rhag meddwi ac i sicrhau nad oeddent yn anwybyddu eu dyletswyddau rhyfel.\u00a0Perswadiwyd hyd yn oed y teulu brenhinol i newid ei gyfenw o Saxe-Coburg-Gotha i Windsor oherwydd bod yr hen enw o dras Almeinig ac roedd yr un newydd yn swnio\u2019n fwy gwladgarol. Cyfraniad tir Cymru Defnyddiwyd tir Cymru ar gyfer hyfforddiant milwrol hefyd. Sefydlwyd gwersyll milwrol bach ym Mryn Golau ger Trawsfynydd ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif. Yn 1906 sefydlwyd safle mwy o faint a mwy parhaol yn Rhiw Goch. Daeth yn bwysig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel llety i filwyr ond hefyd fel maes magnelaeth a gwersyll carcharorion rhyfel. Yn ogystal, defnyddiwyd hen safle distyllfa chwisgi Frongoch, ger y Bala fel gwersyll carcharorion Almaenig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda\u2019r rhai cyntaf yn cyrraedd yn 1915 a\u2019r rhai diwethaf yn gadael yn 1919. Dyma hefyd lle carcharwyd gwrthryfelwyr Gwyddelig Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Effeithiau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru Pan ddaeth y rhyfel i ben roedd Prydain yn wynebu llawer o broblemau cymdeithasol.\u00a0Roedd llawer o filwyr oedd wedi cael eu dadfyddino eisiau ail-ymuno \u00e2\u2019r gymdeithas ac ail-gydio yn eu hen swyddi neu gael swyddi newydd.\u00a0Ond bu\u2019r Llywodraeth mor araf yn ceisio datrys y broblem fel y cafwyd terfysgoedd mewn rhannau o Brydain. Er enghraifft, bu terfysg ymysg milwyr o Canada yn ardal y Rhyl.\u00a0 Erbyn Medi 1919 roedd 4 miliwn o filwyr wedi cael eu dadfyddino ac roedd y mwyafrif wedi llwyddo i ganfod swyddi. Un o addewidion y Prif Weinidog, David Lloyd George, i\u2019r milwyr oedd wedi dychwelyd o\u2019r rhyfel oedd adeiladu tai addas ar eu cyfer.\u00a0Hwn oedd cynllun \u2018homes fit for heroes\u2019 y Llywodraeth, sef Cynllun Tai 1919.\u00a0 Er hynny roedd y cynllun yn un costus, ac er mai\u2019r bwriad oedd adeiladu 500,000 o gartrefi, dim ond 213,000 o dai a adeiladwyd. Dyma un ffactor a effeithiodd ar boblogrwydd Lloyd George ac a arweiniodd at ei ymddiswyddiad yn 1922. Wrth i\u2019r milwyr ddychwelyd adref a llawer ohoynt wedi goroesi erchyllterau\u2019r ffosydd, bu farw miloedd ohonynt ac aelodau o\u2019u teulu oherwydd Pandemig y Ffliw Sbaenaidd a ysgubodd drwy Brydain yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 1918.\u00a0Bu farw tua 11,500 o ganlyniad i'r Ffliw Sbaenaidd yng Nghymru. Roedd gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr at ymdrech y rhyfel. Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru\u2019r Llynges Brydeinig.\u00a0Er hynny, ar ddechrau\u2019r 1920au bu dirwasgiad ymysg y diwydiannau trwm fel glo a dur, a oedd wedi bod mor allweddol i\u2019r ymgyrch ryfel.\u00a0Gyda llai o alw am eu cynnyrch daeth tro ar fyd, gyda chyflogau yn lleihau a diweithdra yn cynyddu. Llenyddiaeth y Rhyfel Y bardd Cymraeg a gysylltir yn benodol \u00e2'r rhyfel yw Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887\u20131917), brodor o Drawsfynydd, a aeth yn filwr ym 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn 1917 ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o Frwydr Passchendaele) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl \"Yr Arwr\", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi ei ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair \u00e2 llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel Eisteddfod y Gadair Ddu. Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r llinell gofiadwy \"Y bardd trwm dan bridd tramor.\" Mae nofel Plasau'r Brenin (1934) gan Gwenallt yn seiliedig ar brofiad yr awdur fel carcharor cydwybodol oherwydd iddo wrthwynebu gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar sail ei ddaliadau fel heddychwr. Nofel Gymraeg arall sy'n deillio o gyfnod y rhyfel yw Amser i Ryfel gan T. Hughes Jones. Gweler hefyd Plasau'r Brenin Cyfeiriadau","1199":"Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y M\u00f4r Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: \u00a0Republika Hrvatska\u00a0). Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio \u00e2 Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb. Daearyddiaeth Mae Croatia wedi ei lleoli yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, yn ffinio gyda Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Serbia i'r dwyrain, Bosnia a Herzegovina i'r de-ddwyrain, Montenegro i'r de-ddwyrain, y Mor Adriatig i'r de-orllewin a Slofenia i'r gogledd-orllewin. Mae'n gorwedd yn bennaf rhwng lledredau 42\u00b0 a 47\u00b0 G a hydredau 13\u00b0 a 20\u00b0 Dn. Mae rhan o'r diriogaeth sydd bellaf i'r de sy'n amgylchynnu Dubrovnik yn allglofan ymarferol sy'n gysylltiedig \u00e2'r cyfandir gan stribyn byr o arfordir sy'n perthyn i Bosnia a Herzegovina o amgylch Neum. Hanes Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula. Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r 7c ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y \"barbariaid\". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925. Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn \u00f4l yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner \"Hwngaraidd\" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Nats\u00efaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd. Yn 1991, ar \u00f4l naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid. Mae Croatia erbyn heddiw yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a'r Undeb Ewropeaidd. Diwylliant Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal a diwylliannau Mitteleuropa a Mor y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43] Economi Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn \u00f4l data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012. Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.","1200":"Newyddiadurwr, fforiwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd a ddaeth yn adnabyddus am fforio yng nghanol Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (ganwyd John Rowlands) (28 Ionawr 1841 \u2013 10 Mai 1904).Daeth i sylw\u2019r cyhoedd oherwydd ei ymgyrch i chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr David Livingstone, a honnodd yn ddiweddarach iddo ei gyfarch \u00e2'r llinell sydd bellach yn enwog: \"Dr Livingstone, I presume?\" Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ymgyrch i ddarganfod tarddiad yr afon N\u00eel, gwaith a ymgymerodd fel asiant i'r Brenin Leopold II o Wlad Belg. Galluogodd hyn i ranbarth Basn Congo gael ei feddiannu, ac i Stanley arwain Alldaith Rhyddhad Emin Pasha. Yn 1871 sefydlwyd pwyllgor yn Nh\u0177\u2019r Cyffredin i ymchwilio i ymddygiad Stanley yn Affrica. Cafodd ei gyhuddo o drais gormodol, dinistrio diangen, gwerthu llafurwyr i gaethwasiaeth, camfanteisio rhywiol ar ferched brodorol ac ysbeilio pentrefi am ifori a chan\u0175au. Yn seiliedig ar gofnodion a chyfrifon eraill, mae rhai haneswyr yn awgrymu bod llawer o'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan elyn hysbys i Stanley, wedi ei ffugio'n bennaf. Fodd bynnag, roedd Stanley yn sicr yn cysylltu ei hun \u00e2 masnachwyr caethweision tra'r oedd yn Affrica, ac yn ei ysgrifau ei hun mae'n aml yn mynegi barn hiliol. Cyhuddwyd Stanley hefyd o greulondeb diwah\u00e2n yn erbyn Affricaniaid gan gyfoeswyr, a oedd yn cynnwys dynion a wasanaethodd oddi tano neu a oedd fel arall yn meddu ar wybodaeth uniongyrchol. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1899. Bywyd cynnar Fe'i ganwyd ym 1841 yn Ninbych, Sir Ddinbych, Cymru. Roedd ei fam, Elizabeth Parry, yn 18 oed ar adeg ei eni. Amddifadodd ei fam ef pan oedd yn fabi ifanc iawn a thorrodd bob cysylltiad ag ef. Nid oedd Stanley erioed yn adnabod ei dad, a fu farw o fewn ychydig wythnosau i'w eni. Mae rhywfaint o amheuaeth ynghylch ei wir rieni.Rhoddwyd cyfenw ei dad iddo, sef Rowlands, a magwyd ef gan ei dad-cu, Moses Parry a oedd yn gigydd tlawd. Bu'n gofalu am y bachgen nes iddo yntau farw, pan oedd John yn bump oed. Arhosodd y bachgen gyda chefndryd a nithoedd am gyfnod byr, ond yn y pen draw fe\u2019i hanfonwyd i Wyrcws Undeb y Tlodion Llanelwy. Arweiniodd y gorlenwi a'r diffyg goruchwyliaeth ato'n cael ei gam-drin yn aml gan fechgyn h\u0177n.Ymfudodd Rowlands i'r Unol Daleithiau ym 1859 yn 18 oed. Cyrhaeddodd New Orleans ac, yn \u00f4l ei ddatganiadau ei hun, daeth yn ffrindiau ar ddamwain gyda Henry Hope Stanley, masnachwr cyfoethog. Allan o edmygedd, cymerodd John enw Stanley.Roedd yn anfodlon ymuno \u00e2 Rhyfel Cartref America, ond ymrestrodd yn gyntaf gyda 6ed Catrawd Troedfilwyr Arkansas ym Myddin y Taleithiau Cydffederal ac ymladd ym Mrwydr Shiloh ym 1862. Ar \u00f4l cael ei gymryd yn garcharor yn Shiloh, ymunodd \u00e2 Byddin yr Undeb ar 4 Mehefin 1862 ond cafodd ei ryddhau 18 diwrnod yn ddiweddarach oherwydd salwch difrifol. Ar \u00f4l gwella, gwasanaethodd ar sawl llong fasnach cyn ymuno \u00e2 Llynges yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1864. Daeth yn geidwad cofnodion ar fwrdd yr USS Minnesota, ac arweiniodd hynny ato'n troi ei law at newyddiaduraeth ar ei liwt ei hun. Neidiodd Stanley a chydweithiwr iau ar long ar 10 Chwefror 1865 oedd yn ymadael \u00e2 Portsmouth, New Hampshire. Bwriad y ddau oedd chwilio am fwy o anturiaethau. Mae\u2019n ddigon posib mai Stanley oedd yr unig ddyn i wasanaethu yn y Fyddin Cydffederal, Byddin yr Undeb a Llynges yr Undeb. Newyddiadurwr Yn dilyn y Rhyfel Cartref, daeth Stanley yn newyddiadurwr yn y cyfnod pan oedd ehangu ffiniau yn digwydd yng Ngorllewin America. Yna trefnodd alldaith i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond daeth y daith i ben yn drychinebus pan gafodd ei garcharu. Yn y pen draw, siaradodd ei ffordd allan o'r carchar a derbyniodd iawndal am offer alldaith a ddifrodwyd.Yn 1867, cafodd cennad Prydeinig a rhai eraill eu cymryd yn wystlon gan Ymerawdwr Ethiopia, Tewodros II, ac anfonwyd llu i ryddhau\u2019r gwystlon. Aeth Stanley gyda'r llu hwnnw fel gohebydd arbennig papur newydd y New York Herald. Adroddiad Stanley ar Frwydr Magdala ym 1868 oedd y cyntaf i gael ei gyhoeddi. Yn dilyn hynny, cafodd ei aseinio i adrodd ar Chwyldro Gogoneddus Sbaen ym 1868. Chwilio am David Livingstone Daeth Stanley yn enwog oherwydd iddo ddod o hyd i'r cenhadwr David Livingstone, a oedd ar goll yn Affrica yn 1871. Yn \u00f4l yr hanes, pan gyfarfu'r cenhadwr coll llefarodd y geiriau enwog \"Dr Livingstone, I presume?\". Roedd y tri llyfr a ysgrifennodd am ei daith yn Affrica i ddarganfod Livingstone ymhlith y llyfrau a werthodd orau yn y cyfnod. Y Congo Ym 1874, ariannodd y New York Herald, a'r Daily Telegraph ym Mhrydain, Stanley ar alldaith arall i Affrica. Ei amcan uchelgeisiol oedd cwblhau'r gwaith o archwilio a mapio Llynnoedd Mawr ac afonydd Canol Affrica, ac yn y broses amgylchynu Llynnoedd Victoria a Tanganyica a lleoli tarddiad yr afon N\u00eel. Roedd yr alldaith yn gostus, gyda llawer o griw Stanley yn colli eu bywydau yn y tir anodd. Mae rhestrau casglu a dyddiadur Stanley (12 Tachwedd 1874) yn dangos iddo ddechrau gyda 228 o bobl a chyrraedd Boma gyda 114 o oroeswyr. Fodd bynnag, cwblhaodd Stanley ei genhadaeth gan ennill enw da fel un o archwilwyr mwyaf llwyddiannus y 19eg ganrif.Daeth y Brenin Leopold II, y brenin uchelgeisiol o Wlad Belg, at Stanley a chynigiodd gyflog iddo er mwyn datblygu canolfannau masnachu ar hyd y Congo. Yn ddiweddarach, dywedodd y Brenin yn glir mai ei gynllun oedd creu gwladwriaeth newydd a fyddai\u2019n cael ei gweinyddu gan Wlad Belg. Roedd hefyd yn glir na fyddai unrhyw b\u0175er yn y wladwriaeth newydd hon yn cael ei roi i'r boblogaeth leol. Siomwyd Stanley pan gafodd wybod am wir uchelgais y Brenin.Rhoddodd y Brenin Leopold gyfarwyddyd i Stanley wneud bargeinion gyda phenaethiaid lleol oedd yn rhoi rheolaeth lawn i Leopold ar y tir, ond ni ddilynodd Stanley y cyfarwyddiadau hyn. Yn lle hynny rhoddodd delerau llawer gwell i benaethiaid lleol gan gynnwys cytundebau rhentu, a fyddai\u2019n cael eu talu ar ffurf nwyddau. Roedd Leopold yn anhapus iawn gyda\u2019r trefniant hwn a symudodd Stanley draw o\u2019r gwaith.Fodd bynnag, bu Stanley yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu masnach ar hyd y Congo. Ymgyrch Ryddhau Emin Pasha Ym 1886, arweiniodd Stanley Alldaith Rhyddhad Emin Pasha i \"achub\" Emin Pasha, llywodraethwr Equatoria yn ne'r Swdan. Mynnodd y Brenin Leopold II fod Stanley yn cymryd y llwybr hirach ar hyd Afon Congo, gan obeithio cipio mwy o diriogaeth ac efallai hyd yn oed Equatoria. Ar \u00f4l caledi aruthrol a nifer yn colli eu bywydau, cyfarfu Stanley ag Emin ym 1888, llwyddodd i fapio Mynyddoedd Ruwenzori a Llyn Edward, ac achub Emin a'i ddilynwyr oedd wedi goroesi, ar ddiwedd 1890. Ond fe wnaeth yr alldaith hon bardduo enw Stanley oherwydd ymddygiad yr Ewropeaid eraill - boneddigion Prydain a swyddogion y fyddin. Cafodd Uwchgapten y Fyddin Edmund Musgrave Barttelot ei saethu gan gludwr ar \u00f4l ymddwyn gyda chreulondeb eithafol. Prynodd James Sligo Jameson, etifedd y gwneuthurwr wisgi Gwyddelig Jameson, ferch 11 oed a'i chynnig i ganibaliaid er mwyn dogfennu a braslunio sut fyddai\u2019n cael ei choginio a'i bwyta. Dim ond pan fu Jameson farw o\u2019r dwymyn y darganfu Stanley hyn.Mae'r cofnodion yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, Llundain, yn cadarnhau bod Stanley yn ymwybodol iawn bod atodi ac ychwanegu tiriogaeth newydd yn rhan o'r rheswm dros yr alldaith. Mae hyn oherwydd bod nifer o gytundebau wedi'u curadu yn y cofnodion (ac a gasglwyd gan Stanley ei hun o'r hyn sydd heddiw yn Wganda yn ystod Alldaith Emin Pasha). Yn \u00f4l pob golwg, mae'r cytundebau hyn yn dangos bod Prydain wedi rhoi amddiffyniad i nifer o benaethiaid Affrica. Ymhlith y rhain roedd nifer sydd bellach wedi cael eu diystyru fel rhai twyllodrus, er enghraifft, cytundeb rhif 56, y cytundeb honedig a gytunwyd rhwng Stanley a phobl \"Mazamboni, Katto, a Kalenge\". Drwy arwyddo, roedd y bobl hyn wedi trosglwyddo i Stanley, \"Hawl Llywodraethol Sofran dros ein gwlad am byth o ystyried y gwerth a dderbyniwyd ac am yr amddiffyniad y mae wedi'i roi inni a'n Cymdogion yn erbyn KabbaRega a'i Warasura.\" Blynyddoedd olaf a marwolaeth Ar \u00f4l dychwelyd i Ewrop, priododd Stanley \u00e2'r artist o Gymru, Dorothy Tennant, a mabwysiadodd y ddau blentyn o'r enw Denzil. Ymunodd Stanley \u00e2'r Senedd fel aelod Unoliaethol Rhyddfrydol dros Ogledd Lambeth, gan wasanaethu rhwng 1895 a 1900. Urddwyd ef yn Syr Henry Morton Stanley pan gafodd ei wneud yn Farchog Croes Fawreddog Urdd y Baddon (Knight Grand Cross of the Order of the Bath) fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd 1899, fel cydnabyddiaeth o\u2019i wasanaeth i'r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica. Yn 1890, cafodd ei anrhydeddu gan y Brenin Leopold II gyda\u2019r teitl Cordon Mawreddog Urdd Leopold. Bu farw Stanley yn ei gartref yn 2 Richmond Terrace, Whitehall, Llundain ar 10 Mai 1904. \u00a0 Llyfryddiaeth Llyfrau Stanley How I found Livingstone (1872) Through the Dark Continent (1878) In Darkest Africa (1890) Autobiography (1909) Llyfrau amdano Adar Brith; cyfeirir ato yn y llyfr hwn a gyhoeddwyd yn 2005. Thomas Gee (dienw), Henry Moreton Stanley (1890) Cyfeiriadau Dolennau allanol HMStanley-Denbigh.com Archifwyd 2019-07-15 yn y Peiriant Wayback. - gwefan sy'n beirniadu Stanley ac imperialaeth.","1205":"Dinas yn ne California yn Unol Daleithiau America yw Los Angeles (\u00a0ynganiad\u00a0). Hi yw dinas fwyaf Califfornia, yr ail-fwyaf ymhlith dinasoedd yr Unol Daleithiau, a'r drydedd ddinas fwyaf yng Ngogledd America - wedi Dinas Mecsico ac Efrog Newydd. Yn 2006 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 3,849,378, ac yn y cyfrifiad diweddaraf roedd yn 3,976,322 (2016). Caiff ei hadnabod am hinsawdd mwyn M\u00f4r y Canoldir, amrywiaeth ethnig, diwydiant adloniant Hollywood, a'i fetropolis gwasgarog. Mae hi'n gorwedd o fewn basn, gyda mynyddoedd mor uchel \u00e2 10,000 troedfedd (3,000 m), ac anialwch. Y ddinas, gyda'i harwynebedd o tua 469 milltir sgw\u00e2r (1,210 km2), yw sedd weinyddol y sir Los Angeles County, y sir fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Yn gartref i'r bobl frodorol y Chumash a Tongva, hawliwyd yr ardal a ddaeth yn Los Angeles gan y goresgynnwr Juan Rodr\u00edguez Cabrillo ar gyfer Sbaen ym 1542. Sefydlwyd y ddinas ar Fedi 4, 1781, o dan y llywodraethwr Sbaenaidd Felipe de Neve, ar safle pentref Yaanga. Canfyddwyd olew yn y 1890au a thyfodd y ddinas yn sgil hynny'n gyflym. Ehangwyd y ddinas ymhellach pan gwblhawyd Traphont Dd\u0175r Los Angeles ym 1913, sy'n cludo d\u0175r o Ddwyrain California.Mae gan Los Angeles economi amrywiol ac mae'n cynnal busnesau mewn ystod eang o feysydd proffesiynol a diwylliannol. Mae ganddi hefyd y porthladd cynhwysydd prysuraf yn yr Americas. Roedd gan ardal fetropolitan Los Angeles hefyd gynnyrch metropolitan gros (gdp) o $ 1.0 triliwn (yn 2017), sy'n golygu mai hi y drydedd ddinas fwyaf (yn \u00f4l CMC) yn y byd, ar \u00f4l ardaloedd metropolitan Tokyo a Dinas Efrog Newydd. Cynhaliodd Los Angeles Gemau Olympaidd yr Haf 1932 a 1984 a bydd yn cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2028. Hanes Trigai llwythau Tongva (Gabriele\u00f1os) a Chumash yn ardal arfordirol Los Angeles cyn dyfodiad y goresgynnwr Ewropeaidd. Lleolir Los Angeles heddiw ar safle pentref brodorol a alwyd yn Iy\u00e1ang\u1e9a (a sillafwyd fel \"Yang-na\" gan y Sbaenwyr), sy'n golygu \"lle'r derw gwenwynig.\"Sefydlwyd Los Angeles ar y 4ydd o Fedi, 1781, gan y llywodraethwr Sbaenaidd Felipe de Neve fel El Pueblo de Nuestra Se\u00f1ora la Reina de los \u00c1ngeles de Porci\u00fancula (yn Gymraeg: Pentref Ein Gwraig, Brenhines Angylion Porziuncola). Fel tystiolaeth o'r gwreiddiau Sbaenaidd, Catholig, mae gan y ddinas heddiw yr archesgobaeth Babyddol fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Roedd dwy ran o dair o'r gwladfawyr Mecsicanaidd yn mestizo neu mulatto, sef cymysgedd o dras Affricanaidd, frodorol ac Ewropeaidd. Arhosodd yr anheddiad yn dref ffermio bychan a dibwys am ddegawdau, ond erbyn 1820, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i tua 650 o drigolion.Daeth yn rhan o Mecsico yn 1821, pan gafodd annibyniaeth oddi wrth Sbaen. Yna yn 1848, ar ddiwedd y Rhyfel Mecsico-America, prynwyd Los Angeles a Chaliffornia gan yr Unol Daleithiau fel rhan o Gytundeb Guadalupe Hidalgo, a thrwy wneud hynny, daeth yn rhan o'r Unol Daleithiau. Ymgorfforwyd Los Angeles fel bwrdeisiaeth ar 4 Ebrill 1850, pum mis cyn i Galiffornia dderbyn ei statws fel talaith. Mae Los Angeles yn un o brif ganolfannau'r byd o ran busnes, masnachu rhyngwladol, adloniant, diwylliant, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, technoleg ac addysg. Ceir yno sefydliadau yn amrywio o feysydd proffesiynol i ddiwylliannol, ac mae'n un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol yr Unol Daleithiau. Yn gartref i Hollywood, caiff ei ystyried fel \"Prifddinas Adloniant y Byd\", gan gynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu a cherddoriaeth. Oherwydd pwysigrwydd y diwydiant adloniant, mae nifer o bobl enwog yn byw yn Los Angeles a'r maesdrefi cyfagos. Demograffeg Yn Arolwg Amcangyfrifol y Gymuned Americanaidd yn 2005-2007, amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas yn 51.0% yn Wyn (29.3% di-Sbaenaidd gwyn yn unig), 10.6% Du neu Americanwyr Affricanaidd, 1.0% Americanwyr Indiaidd ac Alaskaidd Brodorol, 11.4% Asiaidd, 0.3% brodorion o Hawaii ac Ynysoedd y M\u00f4r Tawel, 28.6% o hiliau eraill a 2.8% \u00e2 ddwy hil neu fwy. Roedd 48.5% o'r holl boblogaeth yn Sbaenig neu Ladinaidd o ran hil. Nododd cyfrifiad 2000 boblogaeth o 3,694,820, 1,275,412 o gartrefi, a 798,407 o deuluoedd yn byw yn y ddinas, gyda dwysedd poblogaeth o 7,876.8 o bobl ymhob milltir sgw\u00e2r (3,041.3\/km2). Mae Los Angeles wedi datblygu'n ddinas aml-hil, gyda niferoedd mawrion o fewnfudwyr Lladinaidd ac Asiaidd yn ystod y degawdau diwethaf. O holl drigolion y ddinas, mae 42.2% yn siarad Saesneg, 41.7% Sbaeneg, 2.4% Cor\u00ebg, 2.3% Ffilipino, 1.7% Armeneg, 1.5% Tsieineg (gan gynnwys Cantoneg a Mandarin) ac 1.3% Persieg fel eu hiaith gyntaf. Yn \u00f4l y cyfrifiad, roedd gan 33.5% o gartrefi blant o dan 18 oed, roedd 41.9% yn gyplau priod, 14.5% o gartrefi yn eiddo i ferched lle nad oedd gwr yn bresennol, a 37.4% yn gartrefi i bobl nad oedd yn deuluoedd. Roedd unigolion yn byw mewn 28.5% o gartrefi ac roedd gan 7.4% o gartrefi rhywun yn byw yna a oedd dros 65 mlwydd oed. Maint cyfartalog ty oedd 2.83 a maint cyfartalog teuluoedd oedd 3.56. Cyfanswm incwm cyfartalog cartrefi oedd $36,687, ac yn achos teuluoedd $39,942. Roedd gan wrywod incwm canolrifol o $31,880, benywod $30,197. Roedd 22.1% o'r boblogaeth ac 18.3% o deuluoedd yn byw mewn tlodi, gyda 30.3% o'r rheiny o dan 18 a 12.6% o bobl dros 65 oed yn byw mewn tlodi. Mae Los Angeles yn gartref i bobl o dros 140 o wledydd gwahanol, sy'n siarad 224 o ieithoedd gwahanol. Ceir ardaloedd o leiafrifoedd ethnig fel Chinatown, Filipinotown Hanesyddol, Koreatown, Little Armenia, Little Ethiopia, Tehrangeles, Little Tokyo, a Thai Town. Troseddau a diogelwch Mae gwasanaeth heddlu Los Angeles wedi gweld lleihad sylweddol yn y nifer o droseddau ers canol y 1990au, a chyrhaeddodd uchafbwynt yn 2007, gyda 392 o lofruddiaethau. Mae Antonio Villaraigosa yn aelod o'r gr\u0175p Maeriau yn Erbyn Gynnau Anghyfreithlon. Yn \u00f4l Asesiad Perygl Cyffuriau gan Ganolfan Gwybodaeth Gyffuriau Cenedlaethol ym Mai 2001, mae Talaith Los Angeles yn gartref i 152,000 o aelodau o gangiau sydd wedi'u rhannu i mewn i 1,350 gang. Ymhlith y gangiau enwocaf mae gangiau stryd yr 18th Street, Mara Salvatrucha, Crips, Bloods, a'r Surenos. O ganlyniad i hyn, mae gan y ddinas y ffugenw \"Prifddinas Gangiau'r Unol Daleithiau.\" Adeiladau a chofadeiladau Canolfan Getty Neuadd Walt Disney Plaza Fox Theatr Grauman Theatr Kodak Traeth Fenis Tref Tsieina (Los Angeles) Chwaraeon Pel-droed Los Angeles Galaxy - tim sy'n seiliedig yn Carson, maestref Los Angeles. Mae'r tim yn cystadlu yn yr MLS, ac mae'r tim yn cynnyws chwaraewyr fel Zlatan Ibrahimovic a Jonathon dos Santos. Mae nhw yn chwarae yn yr'Dignity Health Sports Park' LAFC - tim sy'n seiliedig yn y Barc 'Expedition' yn Los Angeles. Mae'r tim hefyd yn cystadlu yn yr MLS, ac tymor 2018 oedd tymor cyntaf nhw fel clwb. Mae'r tim yn cynnyws chwaraewyr fel Carlos Vela a Diego Rossi. Pel-droed Americanaidd Los Angeles Rams - masnachfraint sy'n seiliedig yn Thousand Oaks, CA. Symudodd y Rams i LA o St. Louis, MO yn 2016 ac maent yn chwarae yn yr Coliseum Coffa Los Angeles. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Todd Gurley ac Aaron Donald. Los Angeles Chargers - masnachfraint sy'n seiliedig yn Costa Mesa, CA. Mae nhw, fel yr Los Angeles Galaxy yn chwarae yn yr stadiwm Dignity Health Sports Park yn Carson. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Philip Rivers a Melvin Gordon. Pel fas Los Angeles Dodgers - tim sy'n seiliedig o Parc Elysian yn Los Angeles. Mae nhw yn chwarae yn yr stadiwm Dodger ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Cody Bellinger a Rich Hill. Symudodd yr Dodgers o Efrog Newydd i Los Angeles yn 1958. Pel fasged Los Angeles Lakers - tim sy'n seiliedig o 'Downtown' Los Angeles. Sefydlwyd yr tim yn 1947. Maent yn chwarae yn yr stadiwm Staples Center ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel LeBron James a Reggie Bullock. Los Angeles Clippers - tim sydd hefyd yn seiliedig o 'Downtown' Los Angeles. Sefydlwyd yr tim yn 1970. Maent hefyd yn chwarae yn yr Staples Center ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Danilo Gallinari a Lou Williams. Hoci Ia Los Angeles Kings - tim sy'n seiliedig o Inglewood, CA. Mae'r tim yn chwarae yn yr Staples Center. Sefydlwyd yr tim yn 1967. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Drew Doughty a Jonathan Quick. Dolenni allanol (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2013-05-13 yn y Peiriant Wayback. (Saesneg) Los Angeles Convention & Visitors Bureau Cyfeiriadau","1206":"Un sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall rhywun wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol. Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol. Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi drwy ddulliau eraill pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro \u00e2 system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol. Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian. Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau anfilwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym. Ym Mhrydain, roedd consgripsiwn wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol yn ystod dau gyfnod modern: 1916\u201318 (Y Rhyfel Byd Cyntaf) a 1939\u20131960 (Yr Ail Ryfel Byd). Y Rhyfel Byd Cyntaf Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn pasio'r Ddeddf Gonsgripsiwn ym Mhrydain, a basiwyd yn 1916, ymrestrodd 1.1 miliwn, ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y nifer wedi codi i 2.5 miliwn. Doedd llawer o bobl ddim yn hoffi consgripsiwn ac ym mis Ebrill 1916 protestiodd dros 200,000 o bobl yn Sgw\u00e2r Trafalgar. Gwrthododd tua 16,000 o ddynion ymladd ar sail foesol a chrefyddol ac roedd 900 o\u2019r rhain yn Gymry. Roedden nhw\u2019n cael eu galw yn wrthwynebwyr cydwybodol (\u2018conshis\u2019) er bod 7,000 o heddychwyr wedi cytuno i wneud gwasanaeth nad oedd yn cynnwys ymladd, yn aml fel cludwyr stretsieri ar flaen y gad. O 1914 ymlaen roedd aelodau\u2019r Gymdeithas Dim Gorfodaeth Filwrol (No-Conscription Fellowship \u2013 NCF) yn gwrthwynebu\u2019r ymgyrch gorfodaeth filwrol oherwydd roeddent yn credu bod pob bywyd dynol yn sanctaidd. Ni lwyddasant i wneud hynny, ond fe wnaethon nhw hefyd ymgyrchu dros ddeddf yn caniat\u00e1u i bobl ddewis peidio ag ymuno \u00e2\u2019r fyddin ar sail cydwybod. Y tro hwn roeddent yn llwyddiannus. Fe\u2019i gelwid yn \u2018gymal cydwybod\u2019. Os oeddech chi am fod yn wrthwynebwr cydwybodol roedd yn rhaid ymddangos gerbron tribiwnlys (math o lys), lle byddech yn cael gwrandawiad. Os oeddech yn medru profi eich bod chi yn perthyn i gr\u0175p crefyddol fel y Crynwyr, roedd mwy o siawns iddynt eich credu. Os nad oeddent yn eich credu fe\u2019ch gorchmynnwyd i ymrestru neu i fynd i\u2019r carchar. Roedd y tribiwnlysoedd yn cynnwys pobl leol a oedd wastad yn cynnwys rhywun o\u2019r fyddin oedd \u00e2\u2019r bwriad i ddymchwel eu hachos. Doedd neb i siarad ar eu rhan. Doedd dim erlyniad nac amddiffyniad. Nid oedd hon yn system deg ac fe gafodd ei gwella erbyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd cyfanswm o 6,000 o ddynion eu carcharu am wrthod ymladd, a dedfrydwyd 35 o\u2019r rhain i farwolaeth, er i\u2019w dedfrydau gael eu newid i 10 mlynedd yn y carchar.\u00a0 Wynebodd y gwrthwynebwyr cydwybodol driniaeth lem nid yn unig oddi wrth y carcharorion eraill ond hefyd oddi wrth swyddogion y carchar, gan eu bod yn cael eu cyfrif yn is na llofruddwyr a threiswyr. Mae eu triniaeth anwaraidd yn cael ei hadlewyrchu yn yr ystadegau sy\u2019n dangos y bu i 71 o wrthwynebwyr cydwybodol farw yn y carchar tra bod 31 wedi eu cofnodi yn wallgof. Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol a anfonwyd i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn cael eu saethu am fod yn gachgwn ac yn \u00f4l amcangyfrifon roedd y nifer yn agos i 38,000. Cosbwyd y gwrthwynebwyr cydwybodol ymhellach drwy rwystro eu rhyddhau o\u2019r carchar hyd 1919 fel bod y milwyr oedd yn dychwelyd o\u2019r meysydd ymladd yn cael blaenoriaeth a\u2019r cynnig cyntaf i gael swyddi. Dewisiadau i wrthwynebwyr cydwybodol Os oedd y tribiwnlys yn eich credu, cynigwyd cyfle i chi wneud rhywbeth arall dros eich gwlad nad oedd yn cynnwys lladd, megis ymuno ag uned feddygol y fyddin, neu Uned Ambiwlans y Cyfeillion (Friends Ambulance Unit). Fel arall gellid gofyn i chi weithio ar y tir i gynhyrchu bwyd: gelwid dynion a wnaeth hynny yn \u2018alternativists\u2019. Cynigwyd swyddi yn y fyddin i wrthwynebwyr eraill, nad oedd yn golygu hyfforddiant milwrol neu gario arfau. Byddent yn cyflawni dyletswyddau megis darparu cyflenwadau i\u2019r fyddin neu gynnal ffyrdd a rheilffyrdd. Derbyniodd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr un o\u2019r dewisiadau hyn. Fodd bynnag, i rai gwrthwynebwyr roedd hyd yn oed y syniad o wneud rhywbeth fel ffermio yn ffordd anuniongyrchol o gadw\u2019r rhyfel i fynd. Gelwid nhw yn \u2018absolutists\u2019. Roedd gan y tribiwnlysoedd y grym i roi rhyddhad diamod iddynt, ond yn anaml iawn y digwyddai hynny. Yn aml cafodd eu ceisiadau eu gwrthod yn gyfan gwbl, a golygai hyn y medrent gael eu galw i\u2019r fyddin. Pe byddent wedyn yn gwrthod, caent eu trosglwyddo i\u2019r fyddin fodd bynnag, a phe byddent yn anufuddhau i orchmynion caent eu dedfrydu gan lys marsial a\u2019u hanfon i\u2019r carchar. Roedd y carchar yn aml yn golygu llafur caled, carchariad unig, a chamdriniaeth gorfforol a seicolegol. Tybir bod oddeutu 81 o wrthwynebwyr wedi marw o ganlyniad i\u2019r driniaeth a gawsant yn y fyddin, mewn carchardai neu mewn \u2018canolfannau gwaith\u2019. Fe wnaeth teuluoedd gwrthwynebwyr a garcharwyd ddioddef hefyd. Ni dderbyniasant unrhyw gefnogaeth ariannol, ac yn aml trodd ffrindiau a chymdogion eu cefnau arnynt (e.e. gan roi pluen wen iddynt, yn symbol o lwfrdra). Carcharwyd tua 6,000 o wrthwynebwyr ym Mhrydain. Arweiniodd carchariad cynifer o ddynion at sylw yn y Wasg ac yn y Senedd, ac yn 1916 cyflwynwyd dewis arall a oedd yn caniat\u00e1u i wrthwynebwyr fyw mewn gwersyll gwaith a gwisgo eu dillad eu hun. Roedd canolfannau gwaith o'r fath yn bodoli ger Aberdeen yn yr Alban, ac yn Dartmoor. Yng Nghymru gweithiodd gwrthwynebwyr cydwybodol ar gronfeydd d\u0175r Llanon a Llyn-y-Fan yn Sir Gaerfyrddin. Yr Ail Ryfel Byd Gyda rhyfel ar y gorwel, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Hyfforddiant Milwrol yn 1939. Roedd hyn yn golygu y gallai dynion 20\u201322 oed gael eu galw i fyny i hyfforddi am 6 mis \u2013 hwn oedd y tro cyntaf i gonsgripsiwn gael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o heddwch. Pan ddechreuodd y rhyfel ar 3 Medi 1939, daeth pob dyn rhwng 18 a 40 oed yn gymwys i gael ei alw i fyny o dan y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol (Lluoedd Arfog). Unwaith yn rhagor, gwnaed trefniadau ar gyfer y rhai oedd yn gwrthod gwasanaethu ar sail foesol. Roeddent yn gorfod wynebu tribiwnlysoedd milwrol, ond oherwydd profiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf fe gawson nhw eu trin yn fwy dyngarol. Roedd llawer yn gwneud swyddi lle doedd dim rhaid ymladd, er enghraifft, gwaith sifil, ar y ffermydd ac mewn ysbytai. Heddychwyr o Gymru Ymhlith heddychwyr amlycaf Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd George M.Ll. Davies, Ithel Davies, y bardd Gwenallt (David James Jones) a Niclas y Glais. Ar \u00f4l y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn enwedig yn ystod y degawdau a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd, daeth gweithgarwch mudiadau heddychol yn fwy amlwg, er enghraifft, Cymdeithas y Cyfeillion a\u2019r Undeb Llw Heddwch. Cyfeiriadau","1207":"Un sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall rhywun wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol. Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol. Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi drwy ddulliau eraill pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro \u00e2 system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol. Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian. Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau anfilwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym. Ym Mhrydain, roedd consgripsiwn wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol yn ystod dau gyfnod modern: 1916\u201318 (Y Rhyfel Byd Cyntaf) a 1939\u20131960 (Yr Ail Ryfel Byd). Y Rhyfel Byd Cyntaf Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn pasio'r Ddeddf Gonsgripsiwn ym Mhrydain, a basiwyd yn 1916, ymrestrodd 1.1 miliwn, ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y nifer wedi codi i 2.5 miliwn. Doedd llawer o bobl ddim yn hoffi consgripsiwn ac ym mis Ebrill 1916 protestiodd dros 200,000 o bobl yn Sgw\u00e2r Trafalgar. Gwrthododd tua 16,000 o ddynion ymladd ar sail foesol a chrefyddol ac roedd 900 o\u2019r rhain yn Gymry. Roedden nhw\u2019n cael eu galw yn wrthwynebwyr cydwybodol (\u2018conshis\u2019) er bod 7,000 o heddychwyr wedi cytuno i wneud gwasanaeth nad oedd yn cynnwys ymladd, yn aml fel cludwyr stretsieri ar flaen y gad. O 1914 ymlaen roedd aelodau\u2019r Gymdeithas Dim Gorfodaeth Filwrol (No-Conscription Fellowship \u2013 NCF) yn gwrthwynebu\u2019r ymgyrch gorfodaeth filwrol oherwydd roeddent yn credu bod pob bywyd dynol yn sanctaidd. Ni lwyddasant i wneud hynny, ond fe wnaethon nhw hefyd ymgyrchu dros ddeddf yn caniat\u00e1u i bobl ddewis peidio ag ymuno \u00e2\u2019r fyddin ar sail cydwybod. Y tro hwn roeddent yn llwyddiannus. Fe\u2019i gelwid yn \u2018gymal cydwybod\u2019. Os oeddech chi am fod yn wrthwynebwr cydwybodol roedd yn rhaid ymddangos gerbron tribiwnlys (math o lys), lle byddech yn cael gwrandawiad. Os oeddech yn medru profi eich bod chi yn perthyn i gr\u0175p crefyddol fel y Crynwyr, roedd mwy o siawns iddynt eich credu. Os nad oeddent yn eich credu fe\u2019ch gorchmynnwyd i ymrestru neu i fynd i\u2019r carchar. Roedd y tribiwnlysoedd yn cynnwys pobl leol a oedd wastad yn cynnwys rhywun o\u2019r fyddin oedd \u00e2\u2019r bwriad i ddymchwel eu hachos. Doedd neb i siarad ar eu rhan. Doedd dim erlyniad nac amddiffyniad. Nid oedd hon yn system deg ac fe gafodd ei gwella erbyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd cyfanswm o 6,000 o ddynion eu carcharu am wrthod ymladd, a dedfrydwyd 35 o\u2019r rhain i farwolaeth, er i\u2019w dedfrydau gael eu newid i 10 mlynedd yn y carchar.\u00a0 Wynebodd y gwrthwynebwyr cydwybodol driniaeth lem nid yn unig oddi wrth y carcharorion eraill ond hefyd oddi wrth swyddogion y carchar, gan eu bod yn cael eu cyfrif yn is na llofruddwyr a threiswyr. Mae eu triniaeth anwaraidd yn cael ei hadlewyrchu yn yr ystadegau sy\u2019n dangos y bu i 71 o wrthwynebwyr cydwybodol farw yn y carchar tra bod 31 wedi eu cofnodi yn wallgof. Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol a anfonwyd i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn cael eu saethu am fod yn gachgwn ac yn \u00f4l amcangyfrifon roedd y nifer yn agos i 38,000. Cosbwyd y gwrthwynebwyr cydwybodol ymhellach drwy rwystro eu rhyddhau o\u2019r carchar hyd 1919 fel bod y milwyr oedd yn dychwelyd o\u2019r meysydd ymladd yn cael blaenoriaeth a\u2019r cynnig cyntaf i gael swyddi. Dewisiadau i wrthwynebwyr cydwybodol Os oedd y tribiwnlys yn eich credu, cynigwyd cyfle i chi wneud rhywbeth arall dros eich gwlad nad oedd yn cynnwys lladd, megis ymuno ag uned feddygol y fyddin, neu Uned Ambiwlans y Cyfeillion (Friends Ambulance Unit). Fel arall gellid gofyn i chi weithio ar y tir i gynhyrchu bwyd: gelwid dynion a wnaeth hynny yn \u2018alternativists\u2019. Cynigwyd swyddi yn y fyddin i wrthwynebwyr eraill, nad oedd yn golygu hyfforddiant milwrol neu gario arfau. Byddent yn cyflawni dyletswyddau megis darparu cyflenwadau i\u2019r fyddin neu gynnal ffyrdd a rheilffyrdd. Derbyniodd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr un o\u2019r dewisiadau hyn. Fodd bynnag, i rai gwrthwynebwyr roedd hyd yn oed y syniad o wneud rhywbeth fel ffermio yn ffordd anuniongyrchol o gadw\u2019r rhyfel i fynd. Gelwid nhw yn \u2018absolutists\u2019. Roedd gan y tribiwnlysoedd y grym i roi rhyddhad diamod iddynt, ond yn anaml iawn y digwyddai hynny. Yn aml cafodd eu ceisiadau eu gwrthod yn gyfan gwbl, a golygai hyn y medrent gael eu galw i\u2019r fyddin. Pe byddent wedyn yn gwrthod, caent eu trosglwyddo i\u2019r fyddin fodd bynnag, a phe byddent yn anufuddhau i orchmynion caent eu dedfrydu gan lys marsial a\u2019u hanfon i\u2019r carchar. Roedd y carchar yn aml yn golygu llafur caled, carchariad unig, a chamdriniaeth gorfforol a seicolegol. Tybir bod oddeutu 81 o wrthwynebwyr wedi marw o ganlyniad i\u2019r driniaeth a gawsant yn y fyddin, mewn carchardai neu mewn \u2018canolfannau gwaith\u2019. Fe wnaeth teuluoedd gwrthwynebwyr a garcharwyd ddioddef hefyd. Ni dderbyniasant unrhyw gefnogaeth ariannol, ac yn aml trodd ffrindiau a chymdogion eu cefnau arnynt (e.e. gan roi pluen wen iddynt, yn symbol o lwfrdra). Carcharwyd tua 6,000 o wrthwynebwyr ym Mhrydain. Arweiniodd carchariad cynifer o ddynion at sylw yn y Wasg ac yn y Senedd, ac yn 1916 cyflwynwyd dewis arall a oedd yn caniat\u00e1u i wrthwynebwyr fyw mewn gwersyll gwaith a gwisgo eu dillad eu hun. Roedd canolfannau gwaith o'r fath yn bodoli ger Aberdeen yn yr Alban, ac yn Dartmoor. Yng Nghymru gweithiodd gwrthwynebwyr cydwybodol ar gronfeydd d\u0175r Llanon a Llyn-y-Fan yn Sir Gaerfyrddin. Yr Ail Ryfel Byd Gyda rhyfel ar y gorwel, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Hyfforddiant Milwrol yn 1939. Roedd hyn yn golygu y gallai dynion 20\u201322 oed gael eu galw i fyny i hyfforddi am 6 mis \u2013 hwn oedd y tro cyntaf i gonsgripsiwn gael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o heddwch. Pan ddechreuodd y rhyfel ar 3 Medi 1939, daeth pob dyn rhwng 18 a 40 oed yn gymwys i gael ei alw i fyny o dan y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol (Lluoedd Arfog). Unwaith yn rhagor, gwnaed trefniadau ar gyfer y rhai oedd yn gwrthod gwasanaethu ar sail foesol. Roeddent yn gorfod wynebu tribiwnlysoedd milwrol, ond oherwydd profiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf fe gawson nhw eu trin yn fwy dyngarol. Roedd llawer yn gwneud swyddi lle doedd dim rhaid ymladd, er enghraifft, gwaith sifil, ar y ffermydd ac mewn ysbytai. Heddychwyr o Gymru Ymhlith heddychwyr amlycaf Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd George M.Ll. Davies, Ithel Davies, y bardd Gwenallt (David James Jones) a Niclas y Glais. Ar \u00f4l y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn enwedig yn ystod y degawdau a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd, daeth gweithgarwch mudiadau heddychol yn fwy amlwg, er enghraifft, Cymdeithas y Cyfeillion a\u2019r Undeb Llw Heddwch. Cyfeiriadau","1208":"Un sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall rhywun wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol. Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol. Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi drwy ddulliau eraill pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro \u00e2 system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol. Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian. Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau anfilwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym. Ym Mhrydain, roedd consgripsiwn wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol yn ystod dau gyfnod modern: 1916\u201318 (Y Rhyfel Byd Cyntaf) a 1939\u20131960 (Yr Ail Ryfel Byd). Y Rhyfel Byd Cyntaf Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn pasio'r Ddeddf Gonsgripsiwn ym Mhrydain, a basiwyd yn 1916, ymrestrodd 1.1 miliwn, ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y nifer wedi codi i 2.5 miliwn. Doedd llawer o bobl ddim yn hoffi consgripsiwn ac ym mis Ebrill 1916 protestiodd dros 200,000 o bobl yn Sgw\u00e2r Trafalgar. Gwrthododd tua 16,000 o ddynion ymladd ar sail foesol a chrefyddol ac roedd 900 o\u2019r rhain yn Gymry. Roedden nhw\u2019n cael eu galw yn wrthwynebwyr cydwybodol (\u2018conshis\u2019) er bod 7,000 o heddychwyr wedi cytuno i wneud gwasanaeth nad oedd yn cynnwys ymladd, yn aml fel cludwyr stretsieri ar flaen y gad. O 1914 ymlaen roedd aelodau\u2019r Gymdeithas Dim Gorfodaeth Filwrol (No-Conscription Fellowship \u2013 NCF) yn gwrthwynebu\u2019r ymgyrch gorfodaeth filwrol oherwydd roeddent yn credu bod pob bywyd dynol yn sanctaidd. Ni lwyddasant i wneud hynny, ond fe wnaethon nhw hefyd ymgyrchu dros ddeddf yn caniat\u00e1u i bobl ddewis peidio ag ymuno \u00e2\u2019r fyddin ar sail cydwybod. Y tro hwn roeddent yn llwyddiannus. Fe\u2019i gelwid yn \u2018gymal cydwybod\u2019. Os oeddech chi am fod yn wrthwynebwr cydwybodol roedd yn rhaid ymddangos gerbron tribiwnlys (math o lys), lle byddech yn cael gwrandawiad. Os oeddech yn medru profi eich bod chi yn perthyn i gr\u0175p crefyddol fel y Crynwyr, roedd mwy o siawns iddynt eich credu. Os nad oeddent yn eich credu fe\u2019ch gorchmynnwyd i ymrestru neu i fynd i\u2019r carchar. Roedd y tribiwnlysoedd yn cynnwys pobl leol a oedd wastad yn cynnwys rhywun o\u2019r fyddin oedd \u00e2\u2019r bwriad i ddymchwel eu hachos. Doedd neb i siarad ar eu rhan. Doedd dim erlyniad nac amddiffyniad. Nid oedd hon yn system deg ac fe gafodd ei gwella erbyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd cyfanswm o 6,000 o ddynion eu carcharu am wrthod ymladd, a dedfrydwyd 35 o\u2019r rhain i farwolaeth, er i\u2019w dedfrydau gael eu newid i 10 mlynedd yn y carchar.\u00a0 Wynebodd y gwrthwynebwyr cydwybodol driniaeth lem nid yn unig oddi wrth y carcharorion eraill ond hefyd oddi wrth swyddogion y carchar, gan eu bod yn cael eu cyfrif yn is na llofruddwyr a threiswyr. Mae eu triniaeth anwaraidd yn cael ei hadlewyrchu yn yr ystadegau sy\u2019n dangos y bu i 71 o wrthwynebwyr cydwybodol farw yn y carchar tra bod 31 wedi eu cofnodi yn wallgof. Roedd y gwrthwynebwyr cydwybodol a anfonwyd i ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn cael eu saethu am fod yn gachgwn ac yn \u00f4l amcangyfrifon roedd y nifer yn agos i 38,000. Cosbwyd y gwrthwynebwyr cydwybodol ymhellach drwy rwystro eu rhyddhau o\u2019r carchar hyd 1919 fel bod y milwyr oedd yn dychwelyd o\u2019r meysydd ymladd yn cael blaenoriaeth a\u2019r cynnig cyntaf i gael swyddi. Dewisiadau i wrthwynebwyr cydwybodol Os oedd y tribiwnlys yn eich credu, cynigwyd cyfle i chi wneud rhywbeth arall dros eich gwlad nad oedd yn cynnwys lladd, megis ymuno ag uned feddygol y fyddin, neu Uned Ambiwlans y Cyfeillion (Friends Ambulance Unit). Fel arall gellid gofyn i chi weithio ar y tir i gynhyrchu bwyd: gelwid dynion a wnaeth hynny yn \u2018alternativists\u2019. Cynigwyd swyddi yn y fyddin i wrthwynebwyr eraill, nad oedd yn golygu hyfforddiant milwrol neu gario arfau. Byddent yn cyflawni dyletswyddau megis darparu cyflenwadau i\u2019r fyddin neu gynnal ffyrdd a rheilffyrdd. Derbyniodd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr un o\u2019r dewisiadau hyn. Fodd bynnag, i rai gwrthwynebwyr roedd hyd yn oed y syniad o wneud rhywbeth fel ffermio yn ffordd anuniongyrchol o gadw\u2019r rhyfel i fynd. Gelwid nhw yn \u2018absolutists\u2019. Roedd gan y tribiwnlysoedd y grym i roi rhyddhad diamod iddynt, ond yn anaml iawn y digwyddai hynny. Yn aml cafodd eu ceisiadau eu gwrthod yn gyfan gwbl, a golygai hyn y medrent gael eu galw i\u2019r fyddin. Pe byddent wedyn yn gwrthod, caent eu trosglwyddo i\u2019r fyddin fodd bynnag, a phe byddent yn anufuddhau i orchmynion caent eu dedfrydu gan lys marsial a\u2019u hanfon i\u2019r carchar. Roedd y carchar yn aml yn golygu llafur caled, carchariad unig, a chamdriniaeth gorfforol a seicolegol. Tybir bod oddeutu 81 o wrthwynebwyr wedi marw o ganlyniad i\u2019r driniaeth a gawsant yn y fyddin, mewn carchardai neu mewn \u2018canolfannau gwaith\u2019. Fe wnaeth teuluoedd gwrthwynebwyr a garcharwyd ddioddef hefyd. Ni dderbyniasant unrhyw gefnogaeth ariannol, ac yn aml trodd ffrindiau a chymdogion eu cefnau arnynt (e.e. gan roi pluen wen iddynt, yn symbol o lwfrdra). Carcharwyd tua 6,000 o wrthwynebwyr ym Mhrydain. Arweiniodd carchariad cynifer o ddynion at sylw yn y Wasg ac yn y Senedd, ac yn 1916 cyflwynwyd dewis arall a oedd yn caniat\u00e1u i wrthwynebwyr fyw mewn gwersyll gwaith a gwisgo eu dillad eu hun. Roedd canolfannau gwaith o'r fath yn bodoli ger Aberdeen yn yr Alban, ac yn Dartmoor. Yng Nghymru gweithiodd gwrthwynebwyr cydwybodol ar gronfeydd d\u0175r Llanon a Llyn-y-Fan yn Sir Gaerfyrddin. Yr Ail Ryfel Byd Gyda rhyfel ar y gorwel, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Hyfforddiant Milwrol yn 1939. Roedd hyn yn golygu y gallai dynion 20\u201322 oed gael eu galw i fyny i hyfforddi am 6 mis \u2013 hwn oedd y tro cyntaf i gonsgripsiwn gael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o heddwch. Pan ddechreuodd y rhyfel ar 3 Medi 1939, daeth pob dyn rhwng 18 a 40 oed yn gymwys i gael ei alw i fyny o dan y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol (Lluoedd Arfog). Unwaith yn rhagor, gwnaed trefniadau ar gyfer y rhai oedd yn gwrthod gwasanaethu ar sail foesol. Roeddent yn gorfod wynebu tribiwnlysoedd milwrol, ond oherwydd profiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf fe gawson nhw eu trin yn fwy dyngarol. Roedd llawer yn gwneud swyddi lle doedd dim rhaid ymladd, er enghraifft, gwaith sifil, ar y ffermydd ac mewn ysbytai. Heddychwyr o Gymru Ymhlith heddychwyr amlycaf Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd George M.Ll. Davies, Ithel Davies, y bardd Gwenallt (David James Jones) a Niclas y Glais. Ar \u00f4l y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn enwedig yn ystod y degawdau a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd, daeth gweithgarwch mudiadau heddychol yn fwy amlwg, er enghraifft, Cymdeithas y Cyfeillion a\u2019r Undeb Llw Heddwch. Cyfeiriadau","1209":"Llifiad o dd\u0175r o dir uwch i'r m\u00f4r neu i lyn neu fan is arall, yw afon. Mae'r rhan fwyaf o afonydd yn llifo o'u tarddle, gan amlaf yn y bryniau a'r mynyddoedd, i lawr drwy'r cymoedd a'r dyffrynoedd hyd nes eu bod yn cyrraedd y m\u00f4r. Mae sianel yr afon yn lledu fel y mae mwy o dd\u0175r yn ymuno \u00e2'r afon o'r nentydd a'r afonydd o'r mynyddoedd neu dir uwch sydd ar lwybr yr afon ar ei ffordd i'r m\u00f4r. Eithriad i'r drefn arferol yw afonydd yn ardaloedd anial, yn y Sahara er enghraifft, sy byth yn cyrraedd na m\u00f4r na llyn ond yn cael eu llyncu yn y diffeithwch neu'n dyfrhau gwerddon. Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar hyd a lled y byd ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i'w gynnig \u2013 yn dd\u0175r bywiol, pysgod a'r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. Tigris, Ewffrates, N\u00eel, Ganges, Indws a Hwang Ho (\"Afon Felen\" yn Tsieina) y datblygodd y gwareiddiadau amaethyddol mawr cyntaf. Yma, cysylltid llif tymhorol yr afonydd mawrion \u00e2 bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol. Er bod afonydd yn llifo ar wyneb y ddaear gan amlaf, gall afonydd lifo dan ddaear, yn naturiol, drwy ogof\u00e2u, neu mewn sianeli a wnaed gan bobl, megis sianeli d\u0175r Llundain. Yn aml, mae'r afon yn lledu i ffurfio llyn: y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru yw Llyn Tegid. Rhoddir wal i atal yr afon ar adegau, i ffurfio argae e.e. Llyn Fyrnwy, Llyn Brianne a Chronfa Nant-y-moch. Mytholeg a chrefydd Cysylltid llif tymhorol afonydd mawrion y byd \u00e2 bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau'r afon a gallasai'r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol. Dywed Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909) am anghenfilod afonydd Cymru, gan nodi bod un o'r rhain yn aber afon T\u00e2f yng Nghaerdydd. Dywed y byddai trobwll di-waelod yno, oedd yn un o saith rhyfeddod Morgannwg, lle y llechai sarff anferth. Doedd dim gobaith i neb a dynnid i'r trobwll oherwydd cawsai un ai ei lyncu gan y sarff a diflannu am byth, neu, os oedd o gymeriad da cawsai ei gorff ei olchi i'r lan am nad oedd yr hen sarff yn hoff o gig y cyfiawn. Ceid stori debyg am y trobwll ym Mhontypridd tra mewn ardaloedd eraill fe gymer yr anghenfil ffurfiau eraill, e.e. yr Afanc yn afon Lledr, Betws y Coed, y Ceffyl D\u0175r ac Anghenfil Mawddach. Yn Ewrop a Phrydain ceir tystiolaeth helaeth o aberthu i afonydd ar ffurf yr holl waith metel cain a daflwyd i ddyfroedd sawl afon yn yr Oesoedd Efydd a Haearn. Mewn gwirionedd mae'r mwyafrif o drysorau Celtaidd mwyaf gwerthfawr yr Oes Haearn ym Mhrydain ac Iwerddon wedi eu darganfod mewn safleoeoedd fyddai'n welyau afonydd yn wreiddiol, e.e. tarian Battersea a helmed Waterloo yn afon Tafwys. Fe barhaodd aberthu i ddyfroedd tan yn ddiweddar iawn a hyd yn oed i'n dyddiau ni - er yn fwy diniwed! Onid yw taflu pin haearn i ffynnon yn fodd i rymuso swyn neu i sicrhau rhinweddau y dyfroedd iachusol? Ac mae llawer o bobl hyd heddiw (2018) yn parhau i daflu darnau arian i ffynnon er mwyn gwireddu dymuniad ac i gael lwc dda? Roedd ambell afon mor bwysig nes y priodolid duwies arbennig iddi a byddai'n ffocws i gwlt fyddai'n gwasanaethu'r dduwies a chynnal y defodau priodol. Dyma rai ohonynt: afon Marne, yng Ng\u00e2l, a enwid ar \u00f4l Matrona oedd yn brif dduwies y Celtiaid; Hafren \u2013 a gysylltir \u00e2'r dduwies Sabrina; Afon Boyne yn Iwerddon ar \u00f4l y dduwies Boann, a Braint (ym M\u00f4n) ar \u00f4l Brigantia neu Brigid. Dywedir fod yr elfen 'dwy' yn enwau afonydd Dwyfach, Dwyfor a Dyfrdwy yn tarddu o'r un gwreiddyn a 'dwyfol'. Yn aml ystyrid tarddiad afon yn sanctaidd \u2013 yn enwedig os codai o ffynnon, e.e. Sequana oedd duwies y ffynnon o'r hon y ffrydiai afon Seine ym Mwrgwyn (Burgundy). Yno parhaodd adeiladwaith helaeth yn dyddio o'r cyfnodau Celtaidd a Rhufeinig a chanfyddwyd llawer o fodelau pren a aberthwyd iddi yn cynrychioli anifeiliaid a phobl y dymunid i'r dduwies eu hiachau. Ystyrid llif yr afon yn gyfrwng i olchi ymaith bechodau a dyma, efalli'r sail i fedyddio pobl mewn afon. Mae'r Ganges yn aruthrol bwysig i'r Hindwiaid i gario llwch y meirwon i fyd gwell. Ymddengys mai syniad tebyg oedd y tu \u00f4l i'r arfer o grogi pen dafad a ddioddefai o'r 'bendro' ar gangen uwchben yr afon yng Nghwm Pennant rai blynyddoedd yn \u00f4l \u2013 er mwyn i'r afon waredu'r afiechyd o'r cwm a'i gario i rywle arall! Gall afonydd fod yn ffiniau pwysig yn ogystal, e.e. yn ddaearyddol rhwng dau lwyth; rhwng dwy elfen sef aer a d\u0175r, a rhwng dau fyd sef y byd daearol ac Annwfn \u2013 yr arall-fyd. Yn naturiol, os oedd afon yn ffin diriogaethol, yna roedd y mannau croesi yn llefydd pwysig yn ogystal. Yn y Mabinogi, mewn rhyd yn afon Cynfal y lladdodd Gronw Pebr Lleu Llaw Gyffes, ac yno hefyd yr atgyfododd Lleu a lladd Gronw - yn yr un lle. Nepell oddi yno y bu'r frwydr, yn y Felenrhyd, pan laddwyd Pwyll Pendefig Dyfed gan Gwydion y lleidr moch. Yn Llyfr Du Caerfyrddin a'r Triawdau sonnir am Cynon, oedd yn un o'r fintai yrrwyd i ddial am ladd Elidir Mwynfawr o'r Hen Ogledd gan w\u0177r Arfon ger afon Rheon. Chafodd Cynon fawr o hwyl arni chwaith ac fe'i lladdwyd ac fe'i claddwyd yntau ger \"Rheon Ryd\". Ar bont y pentre, adeg Ffair Llanllyfni, a llawer pont arall mewn sawl pentre arall, y casglai'r gweision adeg Ffeiriau Glanmai a Glangaea i gyflogi i ffermydd y fro. Ac ar ambell bont hynafol, e.e. Pont Dol-y-moch, ym Mhlwy Ffestiniog, fe welir \u00f4l troed wedi ei gerfio ar un o lechi canllaw'r bont. Arferai rhywun a oedd ar fin ymfudo wneud hyn, er mwyn sicrhau lwc dda i'w gamre ar y daith. Delwedd adnabyddus o afon fel y ffin rhwng y byd hwn a'r nesa yw honno yn chwedloniaeth Groeg, o ddyn y fferi yn rhwyfo eneidiau'r meirwon ar draws afon Styx i'r byd nesa. Yn chwedloniaeth y Celtiaid mae'r rhwyfwr yn fwy tebygol o rwyfo'r eneidiau i ynys hudol yn y gorllewin (ynys y meirw, Afallon neu Tir na Nog). Yn y gorllewin, wrth gwrs, y machluda'r haul \u2013 sydd hefyd yn arwyddo machludiad bywyd yr ymadawedig. Gweler hefyd Rhestr afonydd Cymru Rhestr afonydd hwyaf y byd","1217":"Casgliad enwog o bedair chwedl fytholegol Gymraeg a roddwyd ar femrwn yn ystod yr Oesoedd Canol ond sy'n deillio o'r traddodiad llafar yw Pedair Cainc y Mabinogi. Y golygiad safonol yw cyfrol Ifor Williams (=PKM isod). Y pedair chwedl yw: Pwyll, Pendefig Dyfed, Branwen ferch Ll\u0177r, Manawydan fab Ll\u0177r, a Math fab Mathonwy. Cyfeirir atynt hefyd fel \"Y Gainc Gyntaf\", ac ati. Y llawysgrifau Mae testun cyfan y Pedair Cainc ar gael mewn dwy lawysgrif sydd ymhlith y pwysicaf o'r llawysgrifau Cymreig sydd wedi goroesi. Y gynharaf o'r ddwy yw Llyfr Gwyn Rhydderch gyda'r adran y ceir y testun ynddi i'w dyddio i tua 1300-1325. Ond ceir y testun gorau yn Llyfr Coch Hergest (tua 1375-1425). Yn ogystal ceir dau ddarn o'r testun yn llawysgrif Peniarth 6; dyma'r testun hynaf, i'w ddyddio i tua 1225 o bosibl. Cedwir Peniarth 6 a'r Llyfr Gwyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ac mae'r Llyfr Coch yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen. Cyfnod y chwedlau Daw'r testunau uchod i gyd o destun neu destunau cynharach (dim hwyrach na thua 1200) ac mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cynnig dyddiad o gwmpas ail hanner yr 11g ar gyfer cyfansoddi'r Pedair Cainc yn eu ffurf bresennol (1060 yw awgrym Ifor Williams). Nodweddir PKM gan absenoldeb y Saeson a'r Normaniaid. Ni cheir cyfeiriad at y Rhufeiniaid chwaith. Mae Ynys Prydain ym meddiant y Brythoniaid ac mae gan y Brythoniaid berthynas agos ond cymhleth \u00e2'r Gwyddelod yn Iwerddon. Cleddir pen Bendigeidfran yn y Gwynfryn yn Llundain er mwyn gwarchod yr ynys rhag goresgynwyr, sy'n awgrymu fod rhyw gwmwl ar y gorwel. Byd cwbl Geltaidd yw byd y Pedair Cainc ac felly mai lle i gredu eu bod yn deillio o ddiwedd Oes yr Haearn (fel yn achos rhai o'r chwedlau Gwyddeleg yn Iwerddon). Yr awdur Er mai rhan o stoc y cyfarwydd yw'r Pedair Cainc, a'u gwreiddiau felly'n gorwedd yn y cyfnod Celtaidd, mae'n iawn hefyd s\u00f4n am 'awdur' y Pedair Cainc gan fod iddynt ffurf lenyddol gaboledig sy'n amlwg yn waith un person. Mae cryn ddyfalu yngl\u0177n ag awdur tybiedig y chwedlau. Mae Ifor Williams yn dadlau mai rhywun o Ddyfed yw'r awdur a'i fod wedi asio y pedair chwedl at ei gilydd i wneud \"un Mabinogi o chwedlau y Gogledd a'r De\" (PKM xxii). Mae rhai beirniaid wedi awgrymu mai merch oedd yr awdur am fod yr ymdriniaeth o bersonoliaeth y cymeriadau'n deimladwy iawn, yn arbennig yn achos y cymeriadau benywaidd. Un awgrym oedd mai Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan oedd yr awdur. Ond y gwir ydyw does neb yn gwybod pwy ysgrifennodd y campwaith hwn. Cynnwys Rhoddir amlinellaid o'r Pedair Cainc yn eu cyfanrwydd yma. Am grynodebau llawnach o gynnwys y Ceinciau unigol, gweler yr erthyglau perthnasol ('Gweler hefyd' ar waelod y dudalen).Mae hanes Pryderi, mab Pwyll a Rhiannon, yn asio'r chwedlau ynghyd. Yn y Gainc Gyntaf ceir hanes ei eni, yn yr Ail ei anturiaethau gyda Manawydan ac yn y bedwaredd y digwyddiadau sy'n arwain at ei farwolaeth. Mae cainc Branwen ferch Ll\u0177r yn dipyn o eithriad ond yn cyfeirio at Bryderi a Manawydan. Mae'r Gainc Gyntaf, Pwyll, Pendefig Dyfed, yn agor gyda hanes Pwyll yn cyfarfod Arawn, brenin Annwfn (yr Arallfyd) ac yn cyfnewid lle \u00e2 fo am flwyddyn ac yn ennill Rhiannon yn wraig iddo'i hun. Genir Pryderi ac yna ei golli a'i gael eto fel Gwri Gwallt Eurin yn llys Teyrnon yng Ngwent. Ar ddiwedd y gainc mae Pryderi'n olynu ei dad fel Pendefig Dyfed gan ychwanegu saith gantref Seisyllwch i'w diriogaeth. Yn yr Ail Gainc, Branwen ferch Ll\u0177r, mae Br\u00e2n fab Ll\u0177r (Bendigeidfran) yn rheoli Prydain o Harlech ac Aberffraw. Mae ganddo ddau frawd, Manawydan ac Efnisien, y naill yn fwyn a'r llall yn wyllt a rhyfelgar. Gweithred ddibwyll Efnisien yn sarhau Matholwch, brenin Iwerddon, sydd wedi dod i briodi Branwen, yw cychwyn helyntion y gainc ac yn arwain at gyrch Br\u00e2n a'i w\u0177r i Iwerddon gyda chanlyniadaiu trychinebus. Dim ond Seithwyr o'r Cymry sy'n osgoi'r gyflafan, gan gynnwys Pryderi, Manawydan a Pendaran Dyfed. Mae'r gainc yn gorffen gyda'r daith yn \u00f4l i Gymru, marwolaeth Branwen ym M\u00f4n a chladdu Pen Bendigeidfran yn Llundain. Yn y Drydedd Gainc, Manawydan fab Ll\u0177r, mae Caswallawn fab Beli wedi meddianu Ynys Prydain. Mae Pryderi yn rhoi ei fam yn wraig i'w gyfaill Manawydan ac am gyfnod mae bywyd yn braf yn Nyfed, ond yna mae Llwyd fab Cilcoed yn taflu hud ar y wlad. Cosbir Rhiannon a Phryderi ond mae Manawydan yn eu rhyddhau. Yn y Bedwaredd Gainc, mae Math fab Mathonwy yn arglwydd Gwynedd. Cawn gyfres o anturiaethau a digwyddiadau sy'n ymdroi o gwmpas y prif gymeriadau y dewin Gwydion ap D\u00f4n, Gilfaethwy fab D\u00f4n nai Manawydan, ac Arianrhod ferch D\u00f4n sy'n esgor ar yr arwr Lleu Llaw Gyffes. Mae Gwydion yn creu Blodeuwedd yn wraig i Leu ond mae hi'n syrthio am Gronw Pebr, arglwydd Penllyn. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth ac atgyfodiad Lleu, troi Blodeuwedd yn dylluan a marw Gronw. Daearyddiaeth y Pedair Cainc Fel y nodir uchod, mae Ifor Williams yn tynnu ein sylw at y ffaith fod awdur PKM yn asio pedair chwedl o wahanol rannau o Gymru ynghlwm. Cyfyngir digwyddiadau y Gainc Gyntaf, Pwyll Pendefig Dyfed, yn gyfangwbl i Ddyfed, ac yn neilltuol i ardal y Preseli. Ac eithrio \"gwibdaith\" i Went sy'n ymylol i brif ffrwd y chwedl, mae pob dim yn digwydd o fewn cylch o tua pymtheg milltir o Arberth, prif lys Pwyll (gogledd Sir Benfro heddiw. Mae daearyddiaeth y Drydedd Gainc, Manawydan fab Ll\u0177r, yn fwy cyfyng eto; Dyfed hud a lledrith o gwmpas Arberth a \"gwibdaith\" i Henffordd (yn Lloegr heddiw ond yn rhan o deyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol cynnar). Yn achos yr Ail a'r Bedwaredd Gainc mae'r darlun yn wahanol iawn. Mae prif ddigwyddiadau'r ddwy gainc yn digwydd yn yr hen Wynedd, gydag ambell \"wibdaith\" y tu allan i'r deyrnas honno. Digwydda straeon yr Ail Gainc, Branwen ferch Ll\u0177r, ym M\u00f4n (cantref Aberffraw a chwmwd Talybolion), cantref Arfon a Harlech yn Ardudwy sy'n gweithredu fel prifddinas Ynys Prydain yn y chwedl. Ceir dwy wibdaith yn chwedl Branwen, un i Iwerddon a'r llall i ynys Gwales arallfydol a'r Gwynfryn yn Llundain. Dim ond yn y Bedwaredd Gainc, Math fab Mathonwy, y gwelir lleoli manwl gyda'r digwyddiadau'n Arfon, Arllechwedd, Ll\u0177n, Eifionydd ac Ardudwy (cnewyllyn teyrnas Gwynedd, sy'n cyfateb yn fras i'r hen Sir Gaernarfon. Ceir gwibdaith yma hefyd, wrth i Wydion ymweld \u00e2 llys Pryderi yn Rhuddlan Teifi yn Nyfed i ddwyn moch hud a lledrith Pryderi yn \u00f4l i Wynedd. Llyfryddiaeth Y testun gwreiddiol Y testun safonol yw: Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny). (Talfyriad uchod = PKM). Argraffiad diweddaraf (2013) 1996: ISBN 9780708314074Ceir testunau diplomatig yn yr orgraff wreiddiol yn nwy gyfrol J. Gwenogvryn Evans, The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887) The White Book of the Mabinogion (Pwllheli, 1907; argraffiad newydd gol. gan R.M. Jones, Llyfr Gwyn Rhydderch, Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)Golygiadau o'r ceinciau unigol: Ian Hughes (gol.), Manwydan Uab Llyr (Caerdydd, 2007). Golygiad newydd. ISBN 978-0-7083-2087-7 A.O.H. Jarman (gol.), Manawydan Fab Llyr (Dulyn) Brynley Rhys (gol.), Math fab Mathonwy (Dulyn) Derick S. Thomson (gol.), Branwen Uerch Llyr (Dulyn) R. L. Thomason (gol.), Pwyll Pendeuic Dyuet (Dulyn) Diweddariadau a chyfieithiadau Yr Arglwyddes Charlotte Guest (cyf.), The Mabinogion. Y cyfieithiad Saesneg clasurol. Mae rhai o nodiadau'r argraffiad gwreiddiol yn dal i fod yn ddefnyddiol. Rhiannon a Dafydd Ifans, Y Mabinogion (1980). PKM a chwedlau Cymraeg Canol eraill. Sylwer mai 'fersiwn' Cymraeg Diweddar sydd yma a bod cryn gwahaniaeth rhwng ieithwedd y fersiwn hynny a'r testun gwreiddiol. Astudiaethau W.J. Gruffydd, Folklore and Myth in the Mabinogion (Caerdydd, 1958) Saunders Lewis Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd:Gwasg Prifysgol Cymru, 1973). Mae'r pedair ysgrif gyntaf yn y llyfr (tt. 1-33) yn delio a dyddiad y pedair cainc. Proinsiais Mac Cana, cyfrol y gyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1977). Arolwg. Alwyn D. Rees a Brinley Rees, Celtic Heritage (Llundain, 1961). Da am y cefndir mytholegol rhyngwladol. Gweler hefyd Pwyll Pendefig Dyfed, Cainc Gyntaf y Mabinogi Branwen ferch Ll\u0177r, Ail Gainc y Mabinogi Manawydan fab Ll\u0177r, Trydedd Gainc y Mabinogi Math fab Mathonwy, Pedwaredd Gainc y Mabinogi","1219":"Mae Owrtyn (Saesneg: Overton-on-Dee) yn bentref a chymuned ar lan Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Saif ger cyffordd y priffyrdd A528 a'r A539. Saif 7 mile (11\u00a0km) o dref Wrecsam a 22 mile (35\u00a0km) o Gaer a'r Amwythig. Dywedir fod y casgliad o saith ywen sy'n tyfu ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'r eglwys ei hun yn dyddio i'r tua'r 12g, ond mae'r coed yw rhwng 1500 a 2000 o flynyddoedd oed; oherwydd hyn, mae'n debygol fod yma eglwys Geltaidd cynharach yn y lleoliad hwn. Mae\u2019n debyg bod enw'r pentref yn dod o'r hen Saesneg Ovretone, yn golygo 'tref uwch' neu 'ucheldre'. Saif ar esgair uwchben Afon Dyfrdwy. Defnyddir tywodfaen coch leol ar gyfer llawer o'r adeiladau, er bod yma hefyd friciau o farl teracota o Riwabon neu Gefn Mawr. Er defnyddiwyd tywodfaen wrth adeiladu\u2019r eglwys, mae briciau\u2019n domineiddio tai\u2019r pentref. Defnyddir llechu neu deils cochion ar toeau. Oedd llawer o\u2019r tai teras a bythynnod lled-wahanedig ar Ffordd Wrecsam a Ffordd Salop yn fythynod gweithwyr y stadau mawrion, Bryn y Pys a Gwernhaylod. Perchnogion Poethlyn, enillydd ras y Grand National, oedd y teulu Peel o Fryn y Pys. Adeiladwyd neuadd y pentref ym 1926. Drws nesaf yw\u2019r Ystafelloedd Darllen a Coco, adeilawyd gan Edmund Peel, yn disodlu bwthyn a gweithdy dymchwelwyd yn 1890. Defnyddiwyd yr adeilad cynharach i werthu papurau newydd a lluniaeth ac ar gyfer adloniant. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr). Hanes Arferai marchnad fod yn rhan ogleddol y stryd fawr yn yr Oesoedd Canol. Credir bod pentref bach ar y safle, pentref a reolid gan fynachlog Bangor-is-y-coed. Dinistrwyd y fynachlog gan Aethelfrith, brenin Northumbria yn 616OC a daeth y pentref o dan ddylanwad Mersia. Rhoddwyd y pentref i Robert Fitzhugh, cefnogwr i'r brenin Wiliam ar \u00f4l 1066. Ym 1130, daeth Owrtyn yn rhan o Bowys Fadog. Credir adeiladwyd castell gan Madog ap Maredudd ar lan afon Dyfrdwy ger y pentref. Crewyd Owrtyn yn fwrdeistref gan y brenin Edward I ym 1278, a sefydlwyd marchnad ym 1279. Daeth y pentref yn fwrdeistref rhydd ym 1292. Sonir fod y Cymry, dan arweiniad Madog ap Llywelyn, yn 1294\u20131295, wedi cyrchu yma i ymosod ar Edward I. Adeiladwyd safleoedd \u2018burgage\u2019 ar y stryd fawr, tai gyda stondinau o\u2019u blaen i werthu cynnyrch ar y stryd, sydd yn rheswm dros led y stryd fawr. Daeth Owain Glyn D\u0175r trwy Owrtyn, yn ysbeilio a dinistrio ym 1403\u20131404; araf oedd adfywiad y pentref. Adeiladwyd \u2018The Brow\u2019 yn yr 1800au cynnar. Roedd y t\u0177\u2019n gartref i Edward a Marianne Parker. Roedd Marianne yn chwaer i Charles Darwin, a dreuliodd rhan sylweddol o'i blentyndod yn Owrtyn. Mae map y degwm ym 1838 yn dangos 8 tafarndy yn y pentref, yn cynnwys Y Ceffyl Gwyn, Bryn y Pys, y Bowling Green, Cross Keys, Blue Bell a\u2019r Aradr. Roedd 2 gapel methodistiaid hefyd. Tyfodd y pentref yn gyflym; cynhaliwyd marchnadoedd bob dydd Sadwrn a ffeiriau bob 3 mis. Adeiladwyd neuadd farchnad ar y stryd fawr yn ystod y 19eg ganrif. Agorwyd rheilffordd rhwng Wrecsam ac Ellesmere ym 1895 gan Reilffordd y Cambrian gyda gorsaf yn Lightwood Green, milltir a hanner i\u2019r dwyrain. Caewyd y lein ym 1962 a chodwyd y cledrau. Mae stad diwydiannol ar y safle erbyn hyn. Adeiladwyd T\u0177 Coffa ar Ffordd Wrecsam ym 1905 er cof Edmund Peel o Fryn y Pys. Yn ystod ail hanner yr 20g, adeiladwyd sawl stad tai i\u2019r gogledd, dwyrain a de\u2019r pentref. Dymchwelwyd Plas Owrtyn,ar gornel Stryd Fawr a Stryd yr Helyg, er mwyn adeiladu stad tai Sundorne. Cwblhawyd meddygfa a fferyllfa yn 2006 ar y Stryd Fawr. Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Gweler hefyd Thomas Penson (c. 1790 \u2013 1859), pensaer a syrfewr y bont Cyfeiriadau Dolen allanol (Saesneg) Gwefan y pentref","1222":"Erthygl am y sefydliad gwleidyddol yw hon. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y SeneddSenedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polis\u00efau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud \u00e2 Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar \u00f4l cynnal refferendwm ym 1997. Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o bum mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'n system unsiambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i ddeddfwrfa Cymru. Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997. Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wah\u00e2n - yr un fath \u00e2 Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd. Etholiadau Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynnwyd cyfnod y Senedd i bum mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011, 2016 a 2021. Cynhelir is-etholiadau os oes sedd etholaeth leol o'r Senedd yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr ranbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu'r unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno \u00e2'r Senedd. Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd deddf, sef y Ddeddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau Senedd 2021. Yn ogystal a hyn, cafodd preswylwyr o dramor sy'n byw yng Nghymru hawl i bleidleisio. Adeg y bleidlais ar y ddeddf, roedd 41 o 60 aelod o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad fel yr oedd, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament, er gwaethaf ymgyrchu i gael enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Yn ymarferol, er bod enw dwyieithog ar y sefydliad, tueddir i'w alw'n Senedd yn y ddwy iaith. Grymoedd Grymoedd deddfu Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio ei ddeddfau ei hun. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y cynnig. Aelodau'r Senedd Mai 2021-Mai 2026 Mai 2016-Mai 2021 2011-Mai 2016 Cyfeiriadau Gweler hefyd Gwleidyddiaeth Cymru Rhestr o etholaethau Cymru Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 Dolenni allanol Gwefan Senedd Cymru Senedd Cymru ar Twitter Pleidleisiau yn y refferendwm, 1997 Archifwyd 2004-04-23 yn y Peiriant Wayback.","1224":"Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 \u2013 28 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nh\u0177'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII. Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543). Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537. Blynyddoedd cynnar: 1491\u20131509 Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. Gan y disgwylwyd i'w frawd h\u0177n, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys. Marwolaeth Arthur Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgo Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen odan s\u00eal priodas, gan gynnig Harri yn \u0175r i gweddw Arthur, Catrin o Arag\u00f3n, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Arag\u00f3n a Isabel I, brenhines Castilla.Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus \"Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant\". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas \u00e2'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglyn \u00e2 chyfreithlondeb y briodas. Achosodd di-amyneddgaraeth mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab I\u0175l II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb. Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglyn a tynged y briodas a gynnigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri \u00e2 Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan. Teyrnasiad cynnar: 1509\u20131525 Ychydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o uwchel frad a dieinyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin \u00e2'r rhai a safai yn ei ffordd. Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgoliaethol a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. \"Pastime with Good Company\" neu \"The Kynges Ballade\" yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth. Ffrainc a'r Hapsburgiaid Ym 1511, datganodd y Pab I\u0175l II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfod y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth L\u00e2n Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynnodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb San Steffan, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratodd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn \u00f4l ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc, ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddiar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben. Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.) Ei chwe gwraig Catrin o Arag\u00f3n (ysgariwyd 1533, m. 1536) Ann Boleyn (dienyddiwyd 1536) Jane Seymour (bu farw ar \u00f4l rhoi genedigaeth 1537) Anne o Cleves (ysgariwyd 1540, m. 1557) Catrin Howard (dienyddiwyd 1542) Catrin Parr (m. 1548)Gweler hefyd: Yr Arglwyddes Jane Grey Plant Edward VI Mari I Elisabeth I Cyfeiriadau Llyfryddiaeth The New World gan Winston Churchill (1966) The Reformation Parliament, 1529\u20131536 gan Stanford E. Lehmberg (1970) Henry VIII and his Court gan Neville Williams (1971) The Life and Times of Henry VIII gan Robert Lacey (1972) The Six Wives of Henry VIII gan Alison Weir (1991) ISBN 0802136834 English Reformations gan Christopher Haigh (1993) Europe: A history gan Norman Davies (1998) ISBN 978-0060974688 Europe and England in the Sixteenth Century gan T. A. Morris (1998) New Worlds, Lost Worlds gan Susan Brigden (2000) Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2001) British Kings & Queens gan Mike Ashley (2002) ISBN 0786711043 Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2002) ISBN 034543708X Six Wives: The Queens of Henry VIII gan David Starkey (2003) ISBN 0060005505 The Kings and Queens of England gan Ian Crofton (2006) Princes of Wales gan Deborah Fisher (2006) ISBN 9780708320037","1226":"Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 \u2013 28 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nh\u0177'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII. Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543). Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537. Blynyddoedd cynnar: 1491\u20131509 Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. Gan y disgwylwyd i'w frawd h\u0177n, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys. Marwolaeth Arthur Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgo Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen odan s\u00eal priodas, gan gynnig Harri yn \u0175r i gweddw Arthur, Catrin o Arag\u00f3n, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Arag\u00f3n a Isabel I, brenhines Castilla.Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus \"Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant\". Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas \u00e2'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglyn \u00e2 chyfreithlondeb y briodas. Achosodd di-amyneddgaraeth mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab I\u0175l II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb. Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglyn a tynged y briodas a gynnigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri \u00e2 Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan. Teyrnasiad cynnar: 1509\u20131525 Ychydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o uwchel frad a dieinyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin \u00e2'r rhai a safai yn ei ffordd. Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgoliaethol a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. \"Pastime with Good Company\" neu \"The Kynges Ballade\" yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth. Ffrainc a'r Hapsburgiaid Ym 1511, datganodd y Pab I\u0175l II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfod y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth L\u00e2n Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynnodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb San Steffan, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratodd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn \u00f4l ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc, ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddiar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben. Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.) Ei chwe gwraig Catrin o Arag\u00f3n (ysgariwyd 1533, m. 1536) Ann Boleyn (dienyddiwyd 1536) Jane Seymour (bu farw ar \u00f4l rhoi genedigaeth 1537) Anne o Cleves (ysgariwyd 1540, m. 1557) Catrin Howard (dienyddiwyd 1542) Catrin Parr (m. 1548)Gweler hefyd: Yr Arglwyddes Jane Grey Plant Edward VI Mari I Elisabeth I Cyfeiriadau Llyfryddiaeth The New World gan Winston Churchill (1966) The Reformation Parliament, 1529\u20131536 gan Stanford E. Lehmberg (1970) Henry VIII and his Court gan Neville Williams (1971) The Life and Times of Henry VIII gan Robert Lacey (1972) The Six Wives of Henry VIII gan Alison Weir (1991) ISBN 0802136834 English Reformations gan Christopher Haigh (1993) Europe: A history gan Norman Davies (1998) ISBN 978-0060974688 Europe and England in the Sixteenth Century gan T. A. Morris (1998) New Worlds, Lost Worlds gan Susan Brigden (2000) Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2001) British Kings & Queens gan Mike Ashley (2002) ISBN 0786711043 Henry VIII: The King and His Court gan Alison Weir (2002) ISBN 034543708X Six Wives: The Queens of Henry VIII gan David Starkey (2003) ISBN 0060005505 The Kings and Queens of England gan Ian Crofton (2006) Princes of Wales gan Deborah Fisher (2006) ISBN 9780708320037","1227":"Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd. Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am. Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn, ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd. Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio o y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf i bencadlys newydd yn Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd. Ar Radio Cymru 2 am 7yb, darlledwyd y Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn o'r stiwdio newydd, gyda Huw Stephens a Caryl Parry Jones ym gwmni iddo. Yna ar Radio Cymru am 11yb, darlledwyd Y Sioe Sadwrn gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Roedd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru yn 1977, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol. Cyflwynodd ei sioe cyntaf ef o'r adeilad newydd ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf. Radio Cymru 2 Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein. Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018. I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant. Bydd yr orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol - DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai'r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai'n arwain y gwasanaeth newydd.Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf: Dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-8.30 \u2013 Caryl Parry Jones a Dafydd Du Dydd Gwener, 6.30-8.30 \u2013 Huw Stephens Dydd Sadwrn, 7.00-9.00 \u2013 Lisa Angharad Dydd Sul, 8.00-10.00 - Lisa Gwilym Cyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr cyfredol: Cyn-gyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr o'r gorffennol: Andrew 'Tommo' Thomas (Prynhawn Llun - Iau, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) John Walter Jones (Amser cinio Mercher, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) Wil Morgan (Nos Sadwrn, 2003 \u2013 Mehefin 2019) Golygyddion yr orsaf Meirion Edwards (1977 \u2013 ) Lyn T Davies ( \u2013 1995) Aled Glynne Davies (1995 \u2013 2006) Sian Gwynedd (Awst 2006 \u2013 Tachwedd 2011) Lowri Rhys Davies (Ebrill 2012 \u2013 Gorffennaf 2013) (ymddiswyddodd am resymau teulol) Betsan Powys (1 Gorffennaf 2013 \u2013 Hydref 2018) Rhuanedd Richards (Hydref 2018 \u2013)( Niferoedd Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol: o uchafswm o 175,000 i oddeutu 104,000, yn \u00f4l RAJAR, sy'n gyfrifol am fesur y niferoedd. Yn flynyddol, ceisiwyd amddiffyn hyn; mynegodd golygydd BBC Radio Cymru yn 2014, Betsan Powys ei bod yn teimlo'n \"aruthrol o siomedig, mae'n dipyn o glec\" ac y byddai'n \"gweithio'n galed i godi'r ffigyrau.\" Er hynny, gwelwyd cwymp arall, y flwyddyn ddilynol.Yn Awst 2015 dywedodd Robat Gruffudd, perchennog Gwasg y Lolfa wrth y cylchgrawn Barn: \"Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb s\u00f4n am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw\u2019r ateb amlwg?\"Yn Hydref 2015 cyhoeddwyd fod nifer y gwrandawyr i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter cynt - ei lefel isaf erioed. Dros flwyddyn prin oedd y newid, i lawr mil yn unig o'r 105,000 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2014.Ers Mehefin 2017, mae gan Radio Cymru 128,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.7% o'r ganran gynulleidfa. Gweler hefyd Sam Jones, sefydlydd stiwdio'r BBC ym Mangor. Cyfeiriadau Dolenni allanol Gwefan swyddogol","1228":"Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd. Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am. Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn, ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd. Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio o y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf i bencadlys newydd yn Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd. Ar Radio Cymru 2 am 7yb, darlledwyd y Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn o'r stiwdio newydd, gyda Huw Stephens a Caryl Parry Jones ym gwmni iddo. Yna ar Radio Cymru am 11yb, darlledwyd Y Sioe Sadwrn gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Roedd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru yn 1977, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol. Cyflwynodd ei sioe cyntaf ef o'r adeilad newydd ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf. Radio Cymru 2 Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein. Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018. I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant. Bydd yr orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol - DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai'r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai'n arwain y gwasanaeth newydd.Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf: Dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-8.30 \u2013 Caryl Parry Jones a Dafydd Du Dydd Gwener, 6.30-8.30 \u2013 Huw Stephens Dydd Sadwrn, 7.00-9.00 \u2013 Lisa Angharad Dydd Sul, 8.00-10.00 - Lisa Gwilym Cyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr cyfredol: Cyn-gyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr o'r gorffennol: Andrew 'Tommo' Thomas (Prynhawn Llun - Iau, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) John Walter Jones (Amser cinio Mercher, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) Wil Morgan (Nos Sadwrn, 2003 \u2013 Mehefin 2019) Golygyddion yr orsaf Meirion Edwards (1977 \u2013 ) Lyn T Davies ( \u2013 1995) Aled Glynne Davies (1995 \u2013 2006) Sian Gwynedd (Awst 2006 \u2013 Tachwedd 2011) Lowri Rhys Davies (Ebrill 2012 \u2013 Gorffennaf 2013) (ymddiswyddodd am resymau teulol) Betsan Powys (1 Gorffennaf 2013 \u2013 Hydref 2018) Rhuanedd Richards (Hydref 2018 \u2013)( Niferoedd Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol: o uchafswm o 175,000 i oddeutu 104,000, yn \u00f4l RAJAR, sy'n gyfrifol am fesur y niferoedd. Yn flynyddol, ceisiwyd amddiffyn hyn; mynegodd golygydd BBC Radio Cymru yn 2014, Betsan Powys ei bod yn teimlo'n \"aruthrol o siomedig, mae'n dipyn o glec\" ac y byddai'n \"gweithio'n galed i godi'r ffigyrau.\" Er hynny, gwelwyd cwymp arall, y flwyddyn ddilynol.Yn Awst 2015 dywedodd Robat Gruffudd, perchennog Gwasg y Lolfa wrth y cylchgrawn Barn: \"Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb s\u00f4n am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw\u2019r ateb amlwg?\"Yn Hydref 2015 cyhoeddwyd fod nifer y gwrandawyr i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter cynt - ei lefel isaf erioed. Dros flwyddyn prin oedd y newid, i lawr mil yn unig o'r 105,000 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2014.Ers Mehefin 2017, mae gan Radio Cymru 128,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.7% o'r ganran gynulleidfa. Gweler hefyd Sam Jones, sefydlydd stiwdio'r BBC ym Mangor. Cyfeiriadau Dolenni allanol Gwefan swyddogol","1229":"Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd. Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am. Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn, ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd. Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio o y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf i bencadlys newydd yn Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd. Ar Radio Cymru 2 am 7yb, darlledwyd y Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn o'r stiwdio newydd, gyda Huw Stephens a Caryl Parry Jones ym gwmni iddo. Yna ar Radio Cymru am 11yb, darlledwyd Y Sioe Sadwrn gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Roedd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru yn 1977, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol. Cyflwynodd ei sioe cyntaf ef o'r adeilad newydd ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf. Radio Cymru 2 Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein. Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018. I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant. Bydd yr orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol - DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai'r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai'n arwain y gwasanaeth newydd.Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf: Dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-8.30 \u2013 Caryl Parry Jones a Dafydd Du Dydd Gwener, 6.30-8.30 \u2013 Huw Stephens Dydd Sadwrn, 7.00-9.00 \u2013 Lisa Angharad Dydd Sul, 8.00-10.00 - Lisa Gwilym Cyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr cyfredol: Cyn-gyflwynwyr Rhestr o gyflwynwyr o'r gorffennol: Andrew 'Tommo' Thomas (Prynhawn Llun - Iau, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) John Walter Jones (Amser cinio Mercher, Mawrth 2014 \u2013 Mawrth 2018) Wil Morgan (Nos Sadwrn, 2003 \u2013 Mehefin 2019) Golygyddion yr orsaf Meirion Edwards (1977 \u2013 ) Lyn T Davies ( \u2013 1995) Aled Glynne Davies (1995 \u2013 2006) Sian Gwynedd (Awst 2006 \u2013 Tachwedd 2011) Lowri Rhys Davies (Ebrill 2012 \u2013 Gorffennaf 2013) (ymddiswyddodd am resymau teulol) Betsan Powys (1 Gorffennaf 2013 \u2013 Hydref 2018) Rhuanedd Richards (Hydref 2018 \u2013)( Niferoedd Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol: o uchafswm o 175,000 i oddeutu 104,000, yn \u00f4l RAJAR, sy'n gyfrifol am fesur y niferoedd. Yn flynyddol, ceisiwyd amddiffyn hyn; mynegodd golygydd BBC Radio Cymru yn 2014, Betsan Powys ei bod yn teimlo'n \"aruthrol o siomedig, mae'n dipyn o glec\" ac y byddai'n \"gweithio'n galed i godi'r ffigyrau.\" Er hynny, gwelwyd cwymp arall, y flwyddyn ddilynol.Yn Awst 2015 dywedodd Robat Gruffudd, perchennog Gwasg y Lolfa wrth y cylchgrawn Barn: \"Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb s\u00f4n am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw\u2019r ateb amlwg?\"Yn Hydref 2015 cyhoeddwyd fod nifer y gwrandawyr i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter cynt - ei lefel isaf erioed. Dros flwyddyn prin oedd y newid, i lawr mil yn unig o'r 105,000 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2014.Ers Mehefin 2017, mae gan Radio Cymru 128,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.7% o'r ganran gynulleidfa. Gweler hefyd Sam Jones, sefydlydd stiwdio'r BBC ym Mangor. Cyfeiriadau Dolenni allanol Gwefan swyddogol","1230":"Cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe yw Morlyn Llanw Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar \u00f4l ei gwbwlhau. Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf. Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd. Lag\u0175n llanw a thrai yw Lag\u0175n Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r d\u0175r y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn \u00f4l ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y d\u0175r. Derbyniwyd caniat\u00e2d cynllunio ym Mehefin 2015 gan Lywodraeth y DU.. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd, ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu \u00a31bn o arian preifat, drwy gyfranddaliadau. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n \"gyfraniad sylweddol\" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol. Adeiladu a'r economi leol Bydd llawer o'r cydrannau'n cael eu creu yn lleol e.e. pob un o'r 25 tyrbein, y llifddorau, y cledrau, y peiriannau rheoli trydan, y gwaith concrid a'r ganolfan ymwelwyr. Credir y bydd y buddsoddiad yn yr economi leol, felly, dros \u00a3500,000. Yn ei anterth, bydd y gwaith adeiladu'n cyflogi oddeutu 1,900 o weithwyr llawn amser. Pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan, amcangyfrifir y bydd oddeutu 180 o swyddi ac y bydd 70-100,000 o ymwelwyr yn cyrchu i'r fan hon. O ran incwm, disgwylir y bydd yn cynhyrchu \u00a376 miliwn o bunnoedd. Yn groes i addewidion y cwmni, fodd bynnag, cwmni o Tsieina fy yn ymgymryd \u00e2'r gwaith o godi'r forglawdd.Mae'r tyrbeini, a fydd yn barhaol o dan wyneb y d\u0175r, wedi'u sefydlu ar dechnoleg parod ac yn debyg iawn i'r rhai ym Morglawdd La Rance, Llydaw. Mae llafnau mewnol y tyrbein yn 7m o hyd. Cost y strwythyr dal tyrbeini 410-metr fydd \u00a3200m ac enillwyd y cytundeb am y gwaith gan Laing O\u2019Rourke, cytundeb fydd yn creu 500 o swyddi. Maint Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5\u00a0km (chwe milltir) o hyd ac yn gweithredu hefyd fel morglawdd i Ddinas Abertawe gan amddiffyn adeiladau a phobl y ddinas rhag llid y llanw uchel, yn enwedig o ystyried y gall lefel y m\u00f4r godi. Bydd yn troelli am ddwy filltir o'r traeth i'r m\u00f4r. Gwrthwynebiad Ceir gwrthwynebiad i'r morlyn o ddau gyfeiriad: yn gyntaf oherwydd fod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw (Blackpill) ac yn ail oherwydd y bwriedir cloddio'r cerrig o hen chwarel Dean Point ger St Kevergne yng Nghernyw. Gweler hefyd Egni hydro Egni llanw Cyfeiriadau","1231":"Cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe yw Morlyn Llanw Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar \u00f4l ei gwbwlhau. Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf. Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd. Lag\u0175n llanw a thrai yw Lag\u0175n Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r d\u0175r y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn \u00f4l ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y d\u0175r. Derbyniwyd caniat\u00e2d cynllunio ym Mehefin 2015 gan Lywodraeth y DU.. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd, ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu \u00a31bn o arian preifat, drwy gyfranddaliadau. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynnol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n \"gyfraniad sylweddol\" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol. Adeiladu a'r economi leol Bydd llawer o'r cydrannau'n cael eu creu yn lleol e.e. pob un o'r 25 tyrbein, y llifddorau, y cledrau, y peiriannau rheoli trydan, y gwaith concrid a'r ganolfan ymwelwyr. Credir y bydd y buddsoddiad yn yr economi leol, felly, dros \u00a3500,000. Yn ei anterth, bydd y gwaith adeiladu'n cyflogi oddeutu 1,900 o weithwyr llawn amser. Pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan, amcangyfrifir y bydd oddeutu 180 o swyddi ac y bydd 70-100,000 o ymwelwyr yn cyrchu i'r fan hon. O ran incwm, disgwylir y bydd yn cynhyrchu \u00a376 miliwn o bunnoedd. Yn groes i addewidion y cwmni, fodd bynnag, cwmni o Tsieina fy yn ymgymryd \u00e2'r gwaith o godi'r forglawdd.Mae'r tyrbeini, a fydd yn barhaol o dan wyneb y d\u0175r, wedi'u sefydlu ar dechnoleg parod ac yn debyg iawn i'r rhai ym Morglawdd La Rance, Llydaw. Mae llafnau mewnol y tyrbein yn 7m o hyd. Cost y strwythyr dal tyrbeini 410-metr fydd \u00a3200m ac enillwyd y cytundeb am y gwaith gan Laing O\u2019Rourke, cytundeb fydd yn creu 500 o swyddi. Maint Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5\u00a0km (chwe milltir) o hyd ac yn gweithredu hefyd fel morglawdd i Ddinas Abertawe gan amddiffyn adeiladau a phobl y ddinas rhag llid y llanw uchel, yn enwedig o ystyried y gall lefel y m\u00f4r godi. Bydd yn troelli am ddwy filltir o'r traeth i'r m\u00f4r. Gwrthwynebiad Ceir gwrthwynebiad i'r morlyn o ddau gyfeiriad: yn gyntaf oherwydd fod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw (Blackpill) ac yn ail oherwydd y bwriedir cloddio'r cerrig o hen chwarel Dean Point ger St Kevergne yng Nghernyw. Gweler hefyd Egni hydro Egni llanw Cyfeiriadau","1235":"Mae'r erthygl yma'n trafod yr ynys. Am y wladwriaeth o'r un enw gweler Gweriniaeth IwerddonUn o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac un ynys ym M\u00f4r Iwerydd yw Iwerddon (Gwyddeleg: \u00c9ire, a Saesneg: Ireland). Gwyddeleg, iaith Geltaidd yn perthyn i Aeleg a Manaweg, ydyw'r iaith gynhenid ond Saesneg a siaredir gan y mwyafrif ers y 19g. Mae dwy uned wleidyddol yn rhannu'r ynys: Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon (darn o'r Deyrnas Unedig). Hanes Yn y cyfnod cynnar, nid oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag Ewrop. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod Neolithig, gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis Newgrange. Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y 5g, gyda Sant Padrig yn arbennig o amlwg. Erbyn tua 600 roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua 800 bu llawer o ymosodiadau gan y Llychlynwyr, a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd Dulyn yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng \"Gw\u0177r Dulyn\" a brenhinoedd Gwynedd erbyn yr Oesoedd Canol. Ganwyd Gruffudd ap Cynan yn Nulyn a'i fagu yn Swords gerllaw. Roedd yn fab i Cynan ap Iago a Ragnell ferch Olaf Arnaid, brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon. Yn 1169 ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi Normanaidd, llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd Cymru, megis eu harweinydd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro, a elwid yn Strongbow. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond Y Rhanbarth Seisnig yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn \u00f4l llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan Oliver Cromwell yn 1649\u201350 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon. Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn Gatholigion, unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn 1798 gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn 1801, gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, Daniel O'Connell, ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan \"Y Newyn Mawr\" (Gwyddeleg: An Gorta M\u00f3r). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn 1911. Yn rhannol oherwydd hyn, a hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd. Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y 19g. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion Charles Stewart Parnell. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig William Ewart Gladstone ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn 1910 roedd y Blaid Seneddol Wyddelig dan John Redmond mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 derfyn ar y mesur am y tro. Yn 1916 bu gwrthryfel arall, Gwrthryfel y Pasg, gydag ymladd ffyrnig yn ninas Dulyn dros wythnos y Pasg. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys Padraig Pearse a James Connolly. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn Ethloliad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i Sinn F\u00e9in, oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y D\u00e1il Cyntaf yn 1919, yn eu plith \u00c9amon de Valera a Michael Collins. Datblygodd rhyfel rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y \"Black and Tans\". Yn 1922 arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, Arthur Griffith a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan David Lloyd George. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu Gweriniaeth Iwerddon, ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Daearyddiaeth Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Corr\u00e1n Tuathail (Saesneg: Carrauntoohil), ym mynyddoedd Macgillycuddy\u2019s Reeks yn Swydd Kerry yn y de-orllewin, sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ymhlith mynyddoedd eraill yr ynys mae Mynyddoedd Wicklow. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol. Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259\u00a0km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113\u00a0km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i F\u00f4r Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint; Lough Neagh yn y gogledd yw'r mwyaf; Loch Coiribe yn y gorllewin yw'r ail o ran maint, a llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon. Trydydd llyn Iwerddon o ran maint yw Loch Deirgeirt (Lough Derg) ar Afon Shannon. Mae gan Iwerddon nifer o ynysoedd, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol. Y fwyaf o'r ynysoedd hyn yw Ynys Achill; mae Ynysoedd Arann hefyd yn nodedig. Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Ynysoedd Blasket, Ynys Rathlin ac Ynys Toraigh.","1238":"Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papua Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw \"Awstralia\" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita (\"Y tir deheuol na \u0175yr neb amdano\"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Mae mudo dynol wedi trawsnewid y wlad. Roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Mae dyfodol economaidd y wlad i'w weld mewn masnachu yn fwy efo Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop. Hanes Cyfanheddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o wledydd Prydain iddo, yn cynnwys nifer o Gymry. Alltudiwyd rhyw 1,800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn \"nherfysgoedd\" Merthyr. Defnydd Tir Mae dros 165 miliwn dafad yn Awstralia sy'n cyfrannu at ddiwydiant allforio mawr y wlad. Mae gwartheg yn bwysig hefyd, yn enwedig yng ngorllewin y wlad. Mae gwenith a grawnwin yn cael eu tyfu mewn amryw o ardaloedd yn ne'r wlad. Mae Afon Margaret a Barossa Valley yn ardaloedd gwin pwysig iawn. Mae rhan fwyaf o'r wlad yn ddiffeithdir sy'n sych a chras ac yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth. Tirwedd Mae tirwedd Awstralia yn cynnwys nifer o lwyfandiroedd erydog sy'n gorwedd yng nghanol y pl\u00e2t Indo-Awstralaidd. Dyma'r wlad sychaf ar \u00f4l yr Antarctig a dyma'r cyfandir mwyaf gwastad. Mae'r arfordiroedd yn tueddu i fod yn fwy bryniog a ffrwythlon, yn enwedig yn nwyrain y wlad lle mae'r rhan fwyaf o'r trefi a dinasoedd. Mae mynyddoedd y Wahanfa Fawr yn ffurfio ffin rhwng yr ardaloedd arfordirol tymherus a'r mewndir sych, cras. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kosciuszko yn y Snowy Mountains. Trafnidiaeth a diwydiant Roedd y cronfeydd mwyn estynedig a oedd yn cynnwys glo, mwyn haearn, bocsit, a chopr, yn sicrhau economi cryf i'r wlad. Erbyn hyn mae mwyngloddio yn dal i ddigwydd ar raddfa sylweddol ond mae'r sector gwasanaethau yn gryfach, yn enwedig y diwydiant twristiaeth. Llywodraeth \u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Israniadau Taleithiau Victoria De Cymru Newydd Queensland Gorllewin Awstralia De Awstralia Tasmania Tiriogaethau De Cymru Newydd Tiriogaeth y Gogledd Tiriogaeth Prifddinas Awstralia Talaith Victoria Economi Mae economi Awstralia yn un gryf yn bennaf oherwydd y diwydiant mwyngloddio. Diwylliant Mae demograffeg Awstralia yn dangos ei fod yn drefol iawn, efo rhan helaeth o'r boblogaeth yn byw yn y dinasoedd ar yr arfordir. Mae'r dinasoedd hyn yn cynnal amrywiaeth o ddiwylliannau, o'r bobl frodorol (Aborigine) i'r mewnfudwyr o Ewrop. Chwaraeon \u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.","1239":"Norfuk (neu Norfolk) ydy'r iaith sy'n cael ei siarad ar Ynys Norfolk gan y trigolion lleol. Mae'n gymysgedd o'r Saesneg o'r 1700'au a'r iaith Tahit\u00efeg, ac fe gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol gan drigolion Ynysoedd Pitcairn a oedd yn siarad Pitkern. Mae Norfolk yn iaith swyddogol ar yr ynys ynghyd \u00e2 Saesneg.Wrth i'r gallu i drafeilio yn \u00f4l ac ymlaen i Ynys Norfolk ddod yn haws ac yn fwy cyffredin, mae'r iaith yn dirywio. Er hyn, mae'r bobl yn ymdrechu i gadw'r iaith yn fyw ac yn gobeithio annog mwy i'w defnyddio drwy gynnig addysg i blant drwy gyfrwng Norfuk, drwy gyhoeddi geiriaduron Saesneg-Norfuk, drwy ddefnyddio'r iaith mewn iaith arwyddo (sign language), a thrwy ailenwi atyniadau ymwelwyr (yr enwocaf yw'r llwybr fforest law, \"A Trip Ina Stik\") i'r Norfuk. Yn 2007, fe ychwanegodd Y Cenhedloedd Unedig yr iaith at ei rhestr o ieithioedd sydd mewn peryg o ddiflannu. Perthynas gyda Pitkern Mae Norfuk wedi ei ffurfio o dan ddylanwad Pitkern a siaradwyd gan drefedigion o Ynys Pitcairn. Mae'n haws trafeilio i Norfuk o wledydd Seisneg eu hiaith, megis Awstralia a Seland Newydd nag o Ynys Pitcairn felly golyga hyn fod Norfuk wedi cael ei dylanwadu'n fwy gan y Saesneg na gan Pitkern. Oherwydd ei bod hi'n anodd mynd at y boblogaeth Pitcairn, mae'n anodd cymharu a chyfieithu'r ddwy iaith fel fod y ddwy boblogaeth yn gallu cyfathrebu. Dosbarthiad Oherwydd nad oes gan Norfuk eiriau i fynegi rhai cysyniadau, mae rhai wedi ei disgrifio fel Iaith Cant, ond mae ieithyddwyr yn awr yn ei ddosbarthu fel iaith Creol (fersiwn M\u00f4r yr Iwerydd) er ei leoliad yn y M\u00f4r Tawel. Orgraff Oherwydd mai iaith lafar ac nid iaith ysgrifenedig yw hi a diffyg safoniad,, bu llawer o ymdrechion i ddatblygu orgraff i'r iaith. Mae'r ymdrechion cynnar wedi ceisio sillafu mewn ffurf Seisnig, neu wedi defnyddio marciau \"diacritic\" i gynrychioli synau sy'n arbennig i'r wlad. Mae Alice Buffet yn ieithydd sydd yn dod o Awstralia, ac yn pethyn i Gynulliad Deddfwriaethol Norfolk, ac fe ddatblygodd hi ramadeg ac orgraff i'r iaith yn y 1980au, gyda chymorth Dr Donald Laycock, academydd o Brifysgol Cenedlaethol Awstralia. Fe gafodd eu llyfr, Speak Norfuk Today, ei gyhoeddi yn 1988. Fe enillodd yr orgraff yma gefnogaeth llywodraeth Ynys Norfolk, ac mae defnydd ohono'n dod yn fwyfwy poblogaidd. Geirfa Dyfnder Nid oes gan yr iaith eiriau i fynegi rhai cysyniadau gwyddonol a thechnolegol. Mae rhai o'r ynyswyr yn credu mai'r unig ateb yw i greu pwyllgor sy'n bathu geiriau newydd yn Norfuk yn lle defnyddio'r eirfa Seisnig. Er enghraifft, mae Norfuk wedi mabwysiadu'r gair Kompyuuta, sydd yn Norfuk-eiddiad o'r gair Cyfrifiadur. Mae prosesau tebyg wedi digwydd mewn ieithoedd eraill yn y byd, fel yr iaith Maori yn Seland Newydd a'r iaith Islandeg. Mae gan rai ieithoedd fyrddau a phwyllgorau sy'n bathu geiriau newydd (fel y Comisiwn Iaith M\u0101ori yn Seland Newydd). Cyfieithiadau Cymraeg - Norfuk Fi - Ai Ti\/Chi - yu\/yorlye Hi - shi Ni - wi Nhw - dem Gwahanol - Defrent Coeden - Trii Arall - Taeda Prif - Mien Rhodd - Doenaiishun Ewrop - Urup Dinas - Citii Ynys - Ailen ffynonellau a throednodion Cyfeiria'r troednodion ar ddechrau adran at brif ffynonellau'r adran honno.","1242":"Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifenwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y d\u00f4n gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad. Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle\u2019r oedd cynifer o Gymry\u2019r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y g\u00e2n yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef \u2018gwlad ei dadau\u2019) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw \u2018Glan Rhondda\u2019, gan mai ar lannau\u2019r afon, yn \u00f4l traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr. Perfformiwyd y g\u00e2n, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y g\u00e2n yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar \u00f4l i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828\u201379) o Aberd\u00e2r ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James! Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821\u201383) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'. Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i\u2019r g\u00e2n y naws emynyddol a\u2019i gwnaeth yn g\u00e2n dorfol boblogaidd: mae cop\u00efau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6\/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y g\u00e2n yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a\u2019i defnyddio\u2019n g\u00e2n gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn g\u00e2n i\u2019w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe\u2019i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874. Fe\u2019i canwyd am y tro cyntaf mewn g\u00eam rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe\u2019i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a\u2019r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn g\u00e2n addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe\u2019i hystyrir yn gyffredinol yn un o\u2019r goreuon o blith anthemau cenedlaethol. Recordiad cyntaf Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o\u2019r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol. Amrywiadau Defnyddir fersiynau o\u2019r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zado\u00f9. Mae\u2019n debyg fod fersiwn i\u2019w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad n\u00f4l i\u2019r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i\u2019r ardal. Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix. Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o. Geiriau Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad, Dros ryddid collasant eu gwaed.Cytgan Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad. Tra m\u00f4r yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. CytganOs treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed, Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. CytganCyfieithiadau: Cyfeiriadau Meredydd Evans, \u2018Pwy oedd \u201cOrpheus\u201d Eisteddfod Llangollen 1858?\u2019, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 59\u201364 Gwyn Griffiths, Gwlad Fy Nhadau: Ieuan, Iago, eu hoes a'u hamserau (Carreg Gwalch, 2006) Llawysgrif gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - sylwer bod orgraff y Gymraeg wedi newid ers cyhoeddi'r g\u00e2n gyntaf. Y gerddoriaeth mewn ffeiliau PDF i'w hargraffu (gwahanol drefniadau)Si\u00f4n T. Jobbins, The Welsh National Anthem: its story, its meaning Archifwyd 2018-04-09 yn y Peiriant Wayback. (Y Lolfa, 2013).","1243":"Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifenwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y d\u00f4n gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad. Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle\u2019r oedd cynifer o Gymry\u2019r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y g\u00e2n yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef \u2018gwlad ei dadau\u2019) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw \u2018Glan Rhondda\u2019, gan mai ar lannau\u2019r afon, yn \u00f4l traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr. Perfformiwyd y g\u00e2n, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y g\u00e2n yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar \u00f4l i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828\u201379) o Aberd\u00e2r ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James! Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821\u201383) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'. Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i\u2019r g\u00e2n y naws emynyddol a\u2019i gwnaeth yn g\u00e2n dorfol boblogaidd: mae cop\u00efau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6\/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y g\u00e2n yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a\u2019i defnyddio\u2019n g\u00e2n gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn g\u00e2n i\u2019w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe\u2019i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874. Fe\u2019i canwyd am y tro cyntaf mewn g\u00eam rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe\u2019i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a\u2019r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn g\u00e2n addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe\u2019i hystyrir yn gyffredinol yn un o\u2019r goreuon o blith anthemau cenedlaethol. Recordiad cyntaf Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o\u2019r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol. Amrywiadau Defnyddir fersiynau o\u2019r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zado\u00f9. Mae\u2019n debyg fod fersiwn i\u2019w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad n\u00f4l i\u2019r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i\u2019r ardal. Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix. Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o. Geiriau Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad, Dros ryddid collasant eu gwaed.Cytgan Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad. Tra m\u00f4r yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. CytganOs treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed, Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. CytganCyfieithiadau: Cyfeiriadau Meredydd Evans, \u2018Pwy oedd \u201cOrpheus\u201d Eisteddfod Llangollen 1858?\u2019, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 59\u201364 Gwyn Griffiths, Gwlad Fy Nhadau: Ieuan, Iago, eu hoes a'u hamserau (Carreg Gwalch, 2006) Llawysgrif gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - sylwer bod orgraff y Gymraeg wedi newid ers cyhoeddi'r g\u00e2n gyntaf. Y gerddoriaeth mewn ffeiliau PDF i'w hargraffu (gwahanol drefniadau)Si\u00f4n T. Jobbins, The Welsh National Anthem: its story, its meaning Archifwyd 2018-04-09 yn y Peiriant Wayback. (Y Lolfa, 2013).","1244":"Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifenwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y d\u00f4n gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad. Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle\u2019r oedd cynifer o Gymry\u2019r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y g\u00e2n yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef \u2018gwlad ei dadau\u2019) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw \u2018Glan Rhondda\u2019, gan mai ar lannau\u2019r afon, yn \u00f4l traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr. Perfformiwyd y g\u00e2n, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y g\u00e2n yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar \u00f4l i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828\u201379) o Aberd\u00e2r ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James! Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821\u201383) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'. Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i\u2019r g\u00e2n y naws emynyddol a\u2019i gwnaeth yn g\u00e2n dorfol boblogaidd: mae cop\u00efau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6\/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y g\u00e2n yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a\u2019i defnyddio\u2019n g\u00e2n gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn g\u00e2n i\u2019w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe\u2019i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874. Fe\u2019i canwyd am y tro cyntaf mewn g\u00eam rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe\u2019i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a\u2019r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn g\u00e2n addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe\u2019i hystyrir yn gyffredinol yn un o\u2019r goreuon o blith anthemau cenedlaethol. Recordiad cyntaf Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o\u2019r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol. Amrywiadau Defnyddir fersiynau o\u2019r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zado\u00f9. Mae\u2019n debyg fod fersiwn i\u2019w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad n\u00f4l i\u2019r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i\u2019r ardal. Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix. Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o. Geiriau Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad, Dros ryddid collasant eu gwaed.Cytgan Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad. Tra m\u00f4r yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. CytganOs treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed, Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. CytganCyfieithiadau: Cyfeiriadau Meredydd Evans, \u2018Pwy oedd \u201cOrpheus\u201d Eisteddfod Llangollen 1858?\u2019, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 59\u201364 Gwyn Griffiths, Gwlad Fy Nhadau: Ieuan, Iago, eu hoes a'u hamserau (Carreg Gwalch, 2006) Llawysgrif gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - sylwer bod orgraff y Gymraeg wedi newid ers cyhoeddi'r g\u00e2n gyntaf. Y gerddoriaeth mewn ffeiliau PDF i'w hargraffu (gwahanol drefniadau)Si\u00f4n T. Jobbins, The Welsh National Anthem: its story, its meaning Archifwyd 2018-04-09 yn y Peiriant Wayback. (Y Lolfa, 2013).","1246":"Mae hon yn rhestr o ddeiliaid swydd Siryf Sir Aberteifi rhwng 1800 a 1899. Siryf yw cynrychiolydd cyfreithiol y Brenin, a benodir yn flynyddol ar gyfer pob sir yng Nghymru a Lloegr, ei ddyletswydd yw cadw'r heddwch yn ei sir a sicrhau ufudd-dod i gyfraith y Brenin. Yn wreiddiol, roedd yn swydd o statws a grym, ond bellach mae'n swydd seremon\u00efol yn bennaf. 1800au 5 Chwefror 1800: Thomas Lloyd, Cilgwyn 11 Chwefror, 1801: John Palmer Chichester, Llanbadarn Fawr 18 Chwefror, 1801: Robert Lloyd, Abermaid 17 Mawrth, 1801: John Williams, Castle Hill 17 Chwefror, 1802: David Davies, Glanroca 3 Chwefror, 1803: John Lloyd, Mabws 1 Chwefror, 1804: John Bond, Cefn Coed 6 Chwefror, 1805: Henry Greswold Lewis, Llwyngrewis 21 Chwefror, 1805: John Lloyd Williams, Gwernant 1 Chwefror, 1806: Lewis Bayly Wallis, Peterwell 4 Chwefror, 1807: Thomas Smith, Foelallt 3 Chwefror, 1808: Morgan Jones, Panthyrlis 6 Chwefror, 1809: William Skyrme, Alltgoch 1810au 31 Ionawr, 1810: William Edward Powell, Nanteos 8 Chwefror, 1811: John Brooks, Neuadd, Llanarth 24 Ionawr, 1812: Griffith Jones, Aberteifi 10 Chwefror, 1813: Roderick Eardley Richardes, Penglais 4 Chwefror, 1814: Thomas Lloyd, Bronwydd 13 Chwefror, 1815: Herbert Evans, Highmead 17 Mawrth, 1815: John Nathaniel Williams, Castle Hill, ger Aberystwyth 1816: Thomas Lloyd, Coedmor 1817: Jenkin Davies, Glanroca 1818: John Jones, Derry Ormond 1819: George Jeffreys, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin 1820au 1820: Henry Rogers Gelli 1821: John Vaughan Lloyd Tyllwyd 1822: Thomas Lewis Lloyd Nantgwillt 1823: George William Parry Llidiardau 1824: John Scandrett Harford Castell Blaise, Swydd Gaerloyw a Falcondale 1825: Edward Pryse Lloyd Wern-newydd 1826: Thomas Davies 1827: Arthur Jones 1828: John Griffiths Llwyndurus 1829: Morris Davies, Aberystwyth 1830au 1830: Thomas Hugh Jones, Noyadd 1830: Benjamin Hall Cilgwyn 1831: John Palmer Bruce Chichester Llanbadarn Fawr 1832: Henry Lewis Edwardes Gwynne, Lanlery 1833: William Owen Brigstocke, Blaenpant 1834: Charles Richard Longcroft, Llanina 1835: Thomas Davies, Nantgwilan 1836: George Bowen Jordan Jordan, Pigeonsford 1837: John Hughes, Alltylwyd 1838: William Tilsley Jones, Gwynfryn 1839: Anrh. George Lawrence Vaughan, Cwmnwydion 1840au 1840: John William Lewis, Llanerchaeron 1841: David Davies, Aberteifi 1842: Francis David Saunders, Tymawr 1843: Francis Thomas Gibb, Hendrefelen 1844: John Philipps Allen Lloyd Philipps, Maybus 1845: John Lloyd Davies, Alltyrodyn 1846: James Davies, Trefechan, Aberystwyth 1847: Matthew Davies, Tanybwlch 1848: James Bowen, Troed-yr-aur 1849: Henry Hoghton, Hafod 1850au 1850: Thomas Davies Lloyd, Bronwydd 1851: Ernest Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne 1852: John Inglis Jones, Derry Ormond, penodwyd i ddechrau, ond cafodd ei ddisodli gan Alban Lewis Gwynne, Monachty 1853: Lewis Pugh, Aberystwyth 1854: Morgan Jones, Penlan 1855: John Battersby Harford, Peterwell 1856: Thomas Henry Winwood, Tyglyn Aeron 1857: John Propert, Blaenpistill, ger Aberteifi 1858: Thomas Hughes, Noyadd Fawr 1859: William Price Lewes, Llysnewydd, ger Castell Newydd Emlyn Newydd 1860au 1860: William Jones, Glandennis, ger Llanbedr Pont Steffan 1861: Syr Pryse Loveden, Gogerddan 1862: Herbert Vaughan, Brynog 1863: Price Lewis, Gwastod, ger Llanbedr Pont Steffan 1864: John George Parry Hughes, Alltlwyd 1865: Lt Col-. John Lewes, Llanlear 1866: John George William Bonsall Fronfraith 1867: James Loxdale, Castle Hill, Aberystwyth 1868: Alban Thomas Davies, Tyglyn Aeron 1869: Cilfilod Ynte Lloyd Williams. Parc Gwernant 1870au 1870: Herbert Davies Evans, Highmead, Llanbedr Pont Steffan 1871: Sydyn Henry Jones Parry, Tyllwyd, ger Castellnewydd Emlyn 1872: John Edwardes Rogers Abermeurig 1873: William Bachog Stradmore, Llandysul 1874: David Thomas Llanfair 1875: Matthew Vaughan-Davies Tan-y-bwlch 1876: George Griffiths Williams Wallog 1877: Thomas Ford Hughes Abercerry 1878: Y Gwir Anrh. Ernest Augustus Mallet, 5ed Iarll Lisburne, Crosswood 1879: Thomas Parry Horsman Castell Howell 1880au 1880: George Ernest John Powell, Nanteos Mansion 1881: Syr Marteine Lloyd, 2il Farwnig, Bronwydd 1882: Charles Lloyd Waunifor 1883: Thomas Henry Ricketts Winwood Wellingsford Manor, Gwlad yr Haf. 1884: Charles Hafan Lloyd Fitzwilliams y Cilgwyn 1885: George Williams Parry Llidiardau 1886: John Charles Harford Castell Blaise, Swydd Gaerloyw a Falcondale House, Llanbedr Pont Steffan 1887: Thomas Hugh Hughes Rice Neuadd-fawr 1888: James Stewart Alltyrodyn, Llandysul 1889: Y Gwir Anrh. Anrh. Ernest George Henry Arthur, 6ed Iarll Lisburne, Crosswood 1890au 1890: John Thomas Morgan, Nantceirio Hall, Aberystwyth 1891: Wilmot Inglis Jones, Derry Ormond 1892: Thomas James Waddingham, Hafod, Ystradmeurig 1893: John Francis, Wallog, Bow Street 1894: Lewes Price, Tyglyn Aeron, Ciliau Aeron 1895: David Jones Lloyd, Gilfachwen, Llandysul 1896: William Jones, Ffosheulog, Tregaron 1897:. Cyrnol William Price Lewes Llysnewydd, Llandysul 1898: Syr James Szlumper Weeks, Kt. Sandmarsh, Aberystwyth 1899: James Jones, Cefenllwyd, Penrhyncoch, Aberystwyth","1247":"Mae hon yn rhestr o ddeiliaid swydd Siryf Sir Aberteifi rhwng 1800 a 1899. Siryf yw cynrychiolydd cyfreithiol y Brenin, a benodir yn flynyddol ar gyfer pob sir yng Nghymru a Lloegr, ei ddyletswydd yw cadw'r heddwch yn ei sir a sicrhau ufudd-dod i gyfraith y Brenin. Yn wreiddiol, roedd yn swydd o statws a grym, ond bellach mae'n swydd seremon\u00efol yn bennaf. 1800au 5 Chwefror 1800: Thomas Lloyd, Cilgwyn 11 Chwefror, 1801: John Palmer Chichester, Llanbadarn Fawr 18 Chwefror, 1801: Robert Lloyd, Abermaid 17 Mawrth, 1801: John Williams, Castle Hill 17 Chwefror, 1802: David Davies, Glanroca 3 Chwefror, 1803: John Lloyd, Mabws 1 Chwefror, 1804: John Bond, Cefn Coed 6 Chwefror, 1805: Henry Greswold Lewis, Llwyngrewis 21 Chwefror, 1805: John Lloyd Williams, Gwernant 1 Chwefror, 1806: Lewis Bayly Wallis, Peterwell 4 Chwefror, 1807: Thomas Smith, Foelallt 3 Chwefror, 1808: Morgan Jones, Panthyrlis 6 Chwefror, 1809: William Skyrme, Alltgoch 1810au 31 Ionawr, 1810: William Edward Powell, Nanteos 8 Chwefror, 1811: John Brooks, Neuadd, Llanarth 24 Ionawr, 1812: Griffith Jones, Aberteifi 10 Chwefror, 1813: Roderick Eardley Richardes, Penglais 4 Chwefror, 1814: Thomas Lloyd, Bronwydd 13 Chwefror, 1815: Herbert Evans, Highmead 17 Mawrth, 1815: John Nathaniel Williams, Castle Hill, ger Aberystwyth 1816: Thomas Lloyd, Coedmor 1817: Jenkin Davies, Glanroca 1818: John Jones, Derry Ormond 1819: George Jeffreys, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin 1820au 1820: Henry Rogers Gelli 1821: John Vaughan Lloyd Tyllwyd 1822: Thomas Lewis Lloyd Nantgwillt 1823: George William Parry Llidiardau 1824: John Scandrett Harford Castell Blaise, Swydd Gaerloyw a Falcondale 1825: Edward Pryse Lloyd Wern-newydd 1826: Thomas Davies 1827: Arthur Jones 1828: John Griffiths Llwyndurus 1829: Morris Davies, Aberystwyth 1830au 1830: Thomas Hugh Jones, Noyadd 1830: Benjamin Hall Cilgwyn 1831: John Palmer Bruce Chichester Llanbadarn Fawr 1832: Henry Lewis Edwardes Gwynne, Lanlery 1833: William Owen Brigstocke, Blaenpant 1834: Charles Richard Longcroft, Llanina 1835: Thomas Davies, Nantgwilan 1836: George Bowen Jordan Jordan, Pigeonsford 1837: John Hughes, Alltylwyd 1838: William Tilsley Jones, Gwynfryn 1839: Anrh. George Lawrence Vaughan, Cwmnwydion 1840au 1840: John William Lewis, Llanerchaeron 1841: David Davies, Aberteifi 1842: Francis David Saunders, Tymawr 1843: Francis Thomas Gibb, Hendrefelen 1844: John Philipps Allen Lloyd Philipps, Maybus 1845: John Lloyd Davies, Alltyrodyn 1846: James Davies, Trefechan, Aberystwyth 1847: Matthew Davies, Tanybwlch 1848: James Bowen, Troed-yr-aur 1849: Henry Hoghton, Hafod 1850au 1850: Thomas Davies Lloyd, Bronwydd 1851: Ernest Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne 1852: John Inglis Jones, Derry Ormond, penodwyd i ddechrau, ond cafodd ei ddisodli gan Alban Lewis Gwynne, Monachty 1853: Lewis Pugh, Aberystwyth 1854: Morgan Jones, Penlan 1855: John Battersby Harford, Peterwell 1856: Thomas Henry Winwood, Tyglyn Aeron 1857: John Propert, Blaenpistill, ger Aberteifi 1858: Thomas Hughes, Noyadd Fawr 1859: William Price Lewes, Llysnewydd, ger Castell Newydd Emlyn Newydd 1860au 1860: William Jones, Glandennis, ger Llanbedr Pont Steffan 1861: Syr Pryse Loveden, Gogerddan 1862: Herbert Vaughan, Brynog 1863: Price Lewis, Gwastod, ger Llanbedr Pont Steffan 1864: John George Parry Hughes, Alltlwyd 1865: Lt Col-. John Lewes, Llanlear 1866: John George William Bonsall Fronfraith 1867: James Loxdale, Castle Hill, Aberystwyth 1868: Alban Thomas Davies, Tyglyn Aeron 1869: Cilfilod Ynte Lloyd Williams. Parc Gwernant 1870au 1870: Herbert Davies Evans, Highmead, Llanbedr Pont Steffan 1871: Sydyn Henry Jones Parry, Tyllwyd, ger Castellnewydd Emlyn 1872: John Edwardes Rogers Abermeurig 1873: William Bachog Stradmore, Llandysul 1874: David Thomas Llanfair 1875: Matthew Vaughan-Davies Tan-y-bwlch 1876: George Griffiths Williams Wallog 1877: Thomas Ford Hughes Abercerry 1878: Y Gwir Anrh. Ernest Augustus Mallet, 5ed Iarll Lisburne, Crosswood 1879: Thomas Parry Horsman Castell Howell 1880au 1880: George Ernest John Powell, Nanteos Mansion 1881: Syr Marteine Lloyd, 2il Farwnig, Bronwydd 1882: Charles Lloyd Waunifor 1883: Thomas Henry Ricketts Winwood Wellingsford Manor, Gwlad yr Haf. 1884: Charles Hafan Lloyd Fitzwilliams y Cilgwyn 1885: George Williams Parry Llidiardau 1886: John Charles Harford Castell Blaise, Swydd Gaerloyw a Falcondale House, Llanbedr Pont Steffan 1887: Thomas Hugh Hughes Rice Neuadd-fawr 1888: James Stewart Alltyrodyn, Llandysul 1889: Y Gwir Anrh. Anrh. Ernest George Henry Arthur, 6ed Iarll Lisburne, Crosswood 1890au 1890: John Thomas Morgan, Nantceirio Hall, Aberystwyth 1891: Wilmot Inglis Jones, Derry Ormond 1892: Thomas James Waddingham, Hafod, Ystradmeurig 1893: John Francis, Wallog, Bow Street 1894: Lewes Price, Tyglyn Aeron, Ciliau Aeron 1895: David Jones Lloyd, Gilfachwen, Llandysul 1896: William Jones, Ffosheulog, Tregaron 1897:. Cyrnol William Price Lewes Llysnewydd, Llandysul 1898: Syr James Szlumper Weeks, Kt. Sandmarsh, Aberystwyth 1899: James Jones, Cefenllwyd, Penrhyncoch, Aberystwyth","1250":"Tai crefydd Cymru, hefyd mynachlogydd Cymru, yw'r adeiladau crefyddol ar gyfer cymuned o fynachod neu leianod yng Nghymru. Yn fras, gellir eu dosbarthu yn Abatai, sefydliadau gweddol fawr dan reolaeth Abad, a Phriordai, sefydliadau llai oedd fel rheol yn gysylltiedig ag abatai. Clasau Y sefydliad nodweddiadol yn y cyfnod cynnar oedd y Clas. Defnyddir y gair 'mynachlog' i ddisgrifio'r clas, ond mewn gwirionedd roedd y sefyllfa'n amrywio o le i le ac o gyfnod i gyfnod. Yn sicr nid mynachlogydd yn yr ystyr gyffredin heddiw oedden nhw. Credir fod tri math o ffurfiau ar y bywyd cymunedol Cristnogol yn y Gymru gynnar. Roedd rhai meudwyon yn byw 'yn yr anialawch', mewn ogof\u00e2u er enghraifft, ar ben eu hunain neu gyda chwmni bach o ddisgyblion neu gyd-feudwyon. Roedd yna gymunedau mwy rheolaidd yn ogystal, gan amlaf yn trin y tir o gwmpas llan neu eglwys gynnar. Yn olaf roedd yna ganolfannau mawr fel Tyddewi, Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr a Llanilltud Fawr gyda chlerigwyr a mynachod. Yn aml iawn roedd y sefydliadau hyn yn ganolfannau dysg. Roedd rheolau'r clasau Cymreig yn fwy llac o lawer nac yn y mynachlogydd diweddarach a sefydlwyd yng Nghymru gan y Sistersiaid ac eraill. Roedd abad y clas a chlerigwyr eraill yn rhydd i briodi a chael plant. Mewn canlyniad roedd yr abadaeth a swyddi pwysig eraill yn tueddi i fod yn etifeddol ac yn cael eu trosglwyddo o'r tad i'r mab, ffaith a syfrdanodd y mynachod Normanaidd cyntaf. Roedd aelodau'r clas yn perchen tir fel unigolion yn ogystal. Cymunedau oeddynt felly, yn hytrach na mynachlogydd ffurfiol. Roeddynt yn mwynhau nawdd brenhinoedd Cymreig ac roedd yn ddigwyddiad cyffredin i aelodau o'r teuluoedd brenhinol ymneilltuo i glas hefyd. Tai Sistersaidd Urdd o fynachod a sefydlwyd yn yr 11g oedd y Sistersiaid. Eu henw poblogaidd yng Nghymru oedd 'Y Brodyr Gwynion', oherwydd eu gwisgoedd gwyn, mewn cyferbyniaeth \u00e2'r Benedictiaid yn eu gwisgoedd tywyll. Cawsant eu cyflwyno i Gymru gan y Normaniaid. Tai crefyddol estron oeddynt i ddechrau, ac arosai rhai ohonyn nhw felly, yn arbennig yn y De a'r Mers. Ond yn y gorllewin a'r gogledd daethant yn rhan o'r diwylliant Cymreig gan chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes. Codwyd nifer o abatai ganddyn nhw dan nawdd tywysogion Cymreig ac arglwyddi lleol Cymreig a Normanaidd. Ymysg yr enwocaf o dai'r Sistersiad roedd Abaty Tyndyrn, Abaty Ystrad Fflur, Abaty Glyn y Groes ac Abaty Aberconwy. Roedd hefyd ddau leiandy Sistersaidd yng Nghymru, Lleiandy Llanllugan a Lleiandy Llanll\u0177r. Mae un t\u0177 Sistersaidd yng Nghymru heddiw, sef Abaty Ynys B\u0177r. Tai Ffransiscaidd Cyhaeddodd Urdd Sant Ffransis i Gymru yn weddol fuan wedi marwolaeth Sant Ffransis; sefydlodd Llywelyn Fawr d\u0177 iddynt yn Llanfaes ar Ynys M\u00f4n yn 1237. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarch, roeddynt wedi ychwanegu tai yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Heddiw mae t\u0177 Ffransiscaidd ym Mhantasaph ger Treffynnon yng Ngogledd Cymru Tai Awstinaidd Sefydlwyd nifer o dai o Ganoniaid Rheolaidd yn dilyn y rheol Awstinaidd. Roedd y rhain yn cynnwys Priordy Penmon, Priordy Caerfyrddin a Priordy Llanddewi Nant Hodni. Bu amryw ohonynt yn hen glasau Celtaidd cyn dod yn briordai; er enghraifft yng Ngwynedd daeth amryw o'r hen glasau yn briordai y Canoniaid Awstinaidd Rheolaidd dan nawdd Llywelyn Fawr yn nechrau'r 13g. Tai Benedictaidd Sefydlwyd nifer o dai crefydd Benedictaidd yng Nghymru. Priordy Cas-gwent, a sefydlwyd tua 1072 gan William fitzOsbern a'i fab Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd, oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru. Ymhlith y gweddill roedd Priordy Aberhonddu, Priordy Ewenni a Phriordy y Fenni. Roedd pob un o'r tai Benedictaidd yng Nghymru yn y de, a phob un wedi ei sefydlu gan arglwydd Normanaidd, er i'r Arglwydd Rhys ail-sefydlu Aberteifi wedi gyrru'r mynachod estron ymaith. Roedd nifer ohonynt wedi eu rhoi yn eiddo i abatai yn Ffrainc, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd priordai megis Allteuryn a Phenfro oherwydd eu bod yn eiddo i abatai Ffrengig. Eraill Yn Sir Benfro, ceir tri th\u0177 yn perthyn i Urdd Tiron, sef Abaty Llandudoch, Priordy Pyll a Phriordy Ynys B\u0177r. Roedd Abaty Talyllychau yn un o dai y Premonstratensiaid, yr unig un yng Nghymru. Yn Ninbych roedd Brodordy Dinbych yn perthyn i urdd y Carmeliaid. Diddymu'r Mynachlogydd Arweiniodd diddymiad y mynachlogydd yn ystod teyrnasiad y brenin Harri VIII at gau pob un o dai crefydd Cymru. Anfonodd y brenin gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y Valor Ecclesiasticus, iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn. Mewn canlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn 1536 ac erbyn diwedd y ddegawd doedd dim un fynachlog ar \u00f4l. Ail-gychwynwyd rhai tai crefydd yn ddiweddarach, ar raddfa lawer llai, gan yr Eglwys Gatholig a chan yr Eglwys Anglicanaidd. Llyfryddiaeth Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120","1252":"Heddlu Abu Dhabi yw'r asiantaeth gorfodaeth cyfraith sylfaenol yn Emirat Abu Dhabi, un o'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Trosolwg O dan orchymyn Saif bin Zayed Al Nahyan, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Mewnol, Heddlu Abu Dhabi sy'n bennaf gyfrifol am orfodi cyfraith droseddol, gwella diogelwch y cyhoedd, cynnal trefn a chadw'r heddwch ledled yr Emirat. Hanes Mae Heddlu Abu Dhabi wedi cymryd gwahanol ddynodiadau dros ei hanes ac wedi cael eu nodi gan y chwe enw canlynol: Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi (2004-presennol) Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Heddlu Abu Dhabi (1984-2004) Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Heddlu (1977\u20131984) Y Weinyddiaeth Mewnol Leol (Heddlu Abu Dhabi) (1971\u20131977) Gorchymyn yr Heddlu a Diogelwch Cyhoeddus (1967\u20131971) Adran yr Heddlu a Diogelwch Cyhoeddus (1957\u20131966)Ers ffurfio Heddlu Abu Dhabi ym 1957, mae esblygiad yr heddlu wedi digwydd mewn pedwar cam cynradd, fel a ganlyn: Cam Sylfaenol (1957-1966)Ffurfiwyd Heddlu Abu Dhabi ym 1957 gan reolwr Abu Dhabi ar y pryd, Sheikh Shakbut bin Al Nahyan. Roedd tasgau i 80 o heddweision a oedd yn cynnwys gwarchod lleoliadau brenhinol, marchnadoedd a banciau. Roedd yn ofynnol iddynt hefyd fonitro cychod yn y dyfroedd cyfagos, yn ogystal \u00e2 dod \u00e2 phobl gerbron y pren mesur a oedd am leisio pryderon ac yr aethpwyd i'r afael ag anghydfodau. Erbyn 1959 roedd nifer yr heddweision wedi tyfu i fwy na 150 ac roedd Adran yr Heddlu wedi'i lleoli i'r gogledd o Balas Al-Hosn yng nghanol Dinas Abu Dhabi.Cam adeiladu (1966\u20131979)Digwyddodd Cam Adeiladu o'r Heddlu Abu Dhabi yn dilyn esgyniad Zayed bin Sultan Al Nahyan (1918-2004). Fel rheolwr Abu Dhabi ac Arlywydd cyntaf yr Emiraethau Arabaidd Unedig, swydd a ddaliodd am dros 30 mlynedd (1971-2004), rhoddodd Sheikh Zayed gryn sylw i ddatblygiad Heddlu Abu Dhabi. Ar 1 Tachwedd 1971, cyhoeddodd Zayed bin Sultan Al Nahyan orchymyn i gydnabod cyfarpar y llywodraeth trwy sefydlu amryw Weinyddiaethau a Chyngor y Gweinidogion yn emirate Abu Dhabi. Ymhlith y Gweinyddiaethau hyn roedd y Gweinidog Mewnol (o dan reoliad y Weinyddiaeth Mewnol Rhif 8 o 1971). Trodd Heddlu Abu Dhabi yn Weinyddiaeth Mewnol leol a thrwy hynny gyflawni cyfrifoldebau\u2019r Weinyddiaeth Mewnol leol. O dan reoliad y Weinyddiaeth Mewnol Rhif 8 o 1971, roedd Heddlu Abu Dhabi yn gyfrifol am sefydlu diogelwch a sefydlogrwydd yn yr Emirate a chynnal \"eneidiau, anrhydedd ac eiddo\" y bobl. Roedd hefyd yn uniongyrchol gyfrifol am: Naturoli a materion pasbort, materion carchar, materion traffig, gwarchod gosodiadau olew, cysylltu \u00e2 Chyfarwyddiaethau Heddlu Arabaidd a Rhyngwladol, ymladd smyglo a mynediad anghyfreithlon i bobl, cyffuriau, a'r holl sylweddau gwaharddedig yn ogystal \u00e2'r atal trosedd.Cam blaengar (1979\u20131995)Mae'r cam hwn yn dechrau gan esblygiad Heddlu Abu Dhabi tuag at y cysylltiad yn y pen draw ac uno \u00e2'r Weinyddiaeth Mewnol Ffederal. Ym mis Rhagfyr 1979, cyhoeddodd Mubarak bin Mohamed Al Nahyan, y Gweinidog Mewnol, benderfyniad ar y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer uno Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi i'r Weinyddiaeth Mewnol. Roedd y penderfyniad yn nodi y byddai Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi yn rhan o'r heddlu ffederal a'r lluoedd diogelwch sy'n gysylltiedig \u00e2'r Weinyddiaeth Mewnol ac y byddai'n cael ei drin fel Cyfarwyddiaeth Gyffredinol.Cam moderneiddio (1995 - yn bresennol)Cymerodd Saif bin Zayed Al Nahyan r\u00f4l Comander General Heddlu Abu Dhabi ym 1995. Wedi'i ymgorffori yn y cynllun pum mlynedd o ddatblygiad strategol Heddlu Abu Dhabi (2004-2008) a'r Cynllun Strategol olynol (2008-2012), mae'r cam hwn wedi'i nodi gan foderneiddio'r heddlu wrth geisio sicrhau'r effeithiolrwydd gorau posibl. Yn benodol, mae'r cam hwn wedi bod yn dyst i ailstrwythuro a thwf y sefydliad, datblygu targedau strategol cryno, ffocws ar ddatblygu gweithwyr yn ogystal \u00e2 chaffaeliadau technoleg sylweddol yn y dyfodol, pob un \u00e2'r bwriad o ddarparu diogelwch, diogelwch a'r ansawdd bywyd gorau posibl i'r gymuned. Rhengoedd Ar \u00f4l degawdau lawer gan ddefnyddio lliwiau gwyrdd, newidiwyd y gwisgoedd i lwyd yn 2017. Yn ogystal, mae'r arwyddlun a lifrai cerbydau wedi'u haddasu. Fe'u newidiwyd ychydig weithiau cyn hyn hefyd. Cyfeiriadau","1253":"Heddlu Abu Dhabi yw'r asiantaeth gorfodaeth cyfraith sylfaenol yn Emirat Abu Dhabi, un o'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Trosolwg O dan orchymyn Saif bin Zayed Al Nahyan, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Mewnol, Heddlu Abu Dhabi sy'n bennaf gyfrifol am orfodi cyfraith droseddol, gwella diogelwch y cyhoedd, cynnal trefn a chadw'r heddwch ledled yr Emirat. Hanes Mae Heddlu Abu Dhabi wedi cymryd gwahanol ddynodiadau dros ei hanes ac wedi cael eu nodi gan y chwe enw canlynol: Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi (2004-presennol) Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Heddlu Abu Dhabi (1984-2004) Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Heddlu (1977\u20131984) Y Weinyddiaeth Mewnol Leol (Heddlu Abu Dhabi) (1971\u20131977) Gorchymyn yr Heddlu a Diogelwch Cyhoeddus (1967\u20131971) Adran yr Heddlu a Diogelwch Cyhoeddus (1957\u20131966)Ers ffurfio Heddlu Abu Dhabi ym 1957, mae esblygiad yr heddlu wedi digwydd mewn pedwar cam cynradd, fel a ganlyn: Cam Sylfaenol (1957-1966)Ffurfiwyd Heddlu Abu Dhabi ym 1957 gan reolwr Abu Dhabi ar y pryd, Sheikh Shakbut bin Al Nahyan. Roedd tasgau i 80 o heddweision a oedd yn cynnwys gwarchod lleoliadau brenhinol, marchnadoedd a banciau. Roedd yn ofynnol iddynt hefyd fonitro cychod yn y dyfroedd cyfagos, yn ogystal \u00e2 dod \u00e2 phobl gerbron y pren mesur a oedd am leisio pryderon ac yr aethpwyd i'r afael ag anghydfodau. Erbyn 1959 roedd nifer yr heddweision wedi tyfu i fwy na 150 ac roedd Adran yr Heddlu wedi'i lleoli i'r gogledd o Balas Al-Hosn yng nghanol Dinas Abu Dhabi.Cam adeiladu (1966\u20131979)Digwyddodd Cam Adeiladu o'r Heddlu Abu Dhabi yn dilyn esgyniad Zayed bin Sultan Al Nahyan (1918-2004). Fel rheolwr Abu Dhabi ac Arlywydd cyntaf yr Emiraethau Arabaidd Unedig, swydd a ddaliodd am dros 30 mlynedd (1971-2004), rhoddodd Sheikh Zayed gryn sylw i ddatblygiad Heddlu Abu Dhabi. Ar 1 Tachwedd 1971, cyhoeddodd Zayed bin Sultan Al Nahyan orchymyn i gydnabod cyfarpar y llywodraeth trwy sefydlu amryw Weinyddiaethau a Chyngor y Gweinidogion yn emirate Abu Dhabi. Ymhlith y Gweinyddiaethau hyn roedd y Gweinidog Mewnol (o dan reoliad y Weinyddiaeth Mewnol Rhif 8 o 1971). Trodd Heddlu Abu Dhabi yn Weinyddiaeth Mewnol leol a thrwy hynny gyflawni cyfrifoldebau\u2019r Weinyddiaeth Mewnol leol. O dan reoliad y Weinyddiaeth Mewnol Rhif 8 o 1971, roedd Heddlu Abu Dhabi yn gyfrifol am sefydlu diogelwch a sefydlogrwydd yn yr Emirate a chynnal \"eneidiau, anrhydedd ac eiddo\" y bobl. Roedd hefyd yn uniongyrchol gyfrifol am: Naturoli a materion pasbort, materion carchar, materion traffig, gwarchod gosodiadau olew, cysylltu \u00e2 Chyfarwyddiaethau Heddlu Arabaidd a Rhyngwladol, ymladd smyglo a mynediad anghyfreithlon i bobl, cyffuriau, a'r holl sylweddau gwaharddedig yn ogystal \u00e2'r atal trosedd.Cam blaengar (1979\u20131995)Mae'r cam hwn yn dechrau gan esblygiad Heddlu Abu Dhabi tuag at y cysylltiad yn y pen draw ac uno \u00e2'r Weinyddiaeth Mewnol Ffederal. Ym mis Rhagfyr 1979, cyhoeddodd Mubarak bin Mohamed Al Nahyan, y Gweinidog Mewnol, benderfyniad ar y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer uno Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi i'r Weinyddiaeth Mewnol. Roedd y penderfyniad yn nodi y byddai Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi yn rhan o'r heddlu ffederal a'r lluoedd diogelwch sy'n gysylltiedig \u00e2'r Weinyddiaeth Mewnol ac y byddai'n cael ei drin fel Cyfarwyddiaeth Gyffredinol.Cam moderneiddio (1995 - yn bresennol)Cymerodd Saif bin Zayed Al Nahyan r\u00f4l Comander General Heddlu Abu Dhabi ym 1995. Wedi'i ymgorffori yn y cynllun pum mlynedd o ddatblygiad strategol Heddlu Abu Dhabi (2004-2008) a'r Cynllun Strategol olynol (2008-2012), mae'r cam hwn wedi'i nodi gan foderneiddio'r heddlu wrth geisio sicrhau'r effeithiolrwydd gorau posibl. Yn benodol, mae'r cam hwn wedi bod yn dyst i ailstrwythuro a thwf y sefydliad, datblygu targedau strategol cryno, ffocws ar ddatblygu gweithwyr yn ogystal \u00e2 chaffaeliadau technoleg sylweddol yn y dyfodol, pob un \u00e2'r bwriad o ddarparu diogelwch, diogelwch a'r ansawdd bywyd gorau posibl i'r gymuned. Rhengoedd Ar \u00f4l degawdau lawer gan ddefnyddio lliwiau gwyrdd, newidiwyd y gwisgoedd i lwyd yn 2017. Yn ogystal, mae'r arwyddlun a lifrai cerbydau wedi'u haddasu. Fe'u newidiwyd ychydig weithiau cyn hyn hefyd. Cyfeiriadau","1256":"Gwlad a theyrnas ar lan M\u00f4r y Gogledd yng ngorllewin Ewrop sy'n ffinio \u00e2'r Almaen i'r dwyrain a Gwlad Belg i'r de yw'r Iseldiroedd (Iseldireg: \u00a0Nederland\u00a0). Amsterdam yw'r brifddinas a'r Iseldireg yw prif iaith y wlad a'i hiaith swyddogol. Hanes yr Iseldiroedd Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn Hen Oes y Cerrig. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rhufeinig, gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o afon Rhein yn nhalaith Rufeinig Gallia Belgica, ac yn ddiweddarach Germania Inferior. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o lwythi Germanaidd, a chyfaneddid y de gan y G\u00e2liaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod Cyfnod yr Ymfudo. Ymfudodd Ffranciaid Salia i \u00c2l o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y Merovingiaid erbyn y 5g. Dechreuodd ymerodraeth drefedigaethol yr Iseldiroedd gyda sefydlu Cwmni Iseldiraidd Dwyrain India yn 1602, gan sefydlu presenoldeb cryf yn ynysfor Indonesia. Roedd y trefedigaethau Iseldiraidd hefyd yn cynnwys Cura\u00e7ao yn y Carib\u00ee, de Affrig, Mauritius, Seland Newydd a Tasmania. O 1641 hyd at 1853, roedd gan yr Iseldiroedd fonopoli ar fasnach gyda Siapan. Taleithiau'r Iseldiroedd Rhennir yr Iseldiroedd yn ddeuddeg o daleithiau fel a ganlyn (gyda'i prifddinasoedd): Rhennir pob talaith y gymunedau neu gemeenten; mae 380 ohonynt i gyd. Daearyddiaeth yr Iseldiroedd Nodweddion pwysicaf daearyddiaeth yr Iseldiroedd yw fod y tir yn isel a dwysder y boblogaeth yn uchel. Mae tua 40% o'r wlad, yn cynnwys rhan helaeth o ardaloedd poblog y gorllewin, yn is na lefel y m\u00f4r. Ffurfir de-orllewin y wlad gan ddelta anferth sydd wedi ei greu gan dair afon fawr, Afon Rhein, Afon Waal ac Afon Schelde. Yn fuan wedi croesi'r ff\u00een rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd, mae Afon Rhein yn ymrannu yn dair cangen fawr. Llifa dwy o'r rhain, Afon Waal a'r Nederrijn, tua'r gorllewin, tra mae'r drydedd, Afon IJssel yn llifo tua'r gogledd i ymuno a'r IJsselmeer. Y man uchaf yn yr Iseldiroedd yw bryn y Vaalserberg, sydd 322.7 medr uwch lefel y m\u00f4r. Y pwynt isaf yw man yng nghymuned Nieuwerkerk aan den IJssel yn nhalaith Zuid-Holland sydd 6.76 medr islaw lefel y m\u00f4r. Demograffeg Gyda poblogaeth o 16,491,461 ac arwynebedd y wlad yn 41,526\u00a0km\u00b2, mae dwysedd poblogaeth yr Iseldiroedd yn uchel. Saif yn 23ain ymysg gwledydd y byd o ran dwysedd poblogaeth, a dim ond Bangladesh a De Corea sy'n wledydd mwy ac a dwysder poblogaeth uwch. Un o nodweddion poblogaeth yr Iseldiroedd yw mai hwy, ar gyfartaledd, yw'r bobl dalaf yn y byd, gyda chyfartaledd uchder o 1.83 m (6 troedfedd) i ddynion a 1.70 m (5 troedfedd 7 modfedd) i ferched. Mae'r gyfradd genedigaethau yn 1.75 plentyn i bob merch. Cymharol araf yw t\u0175f y boblogaeth, gyda 10.9 genedigaeth y fil o boblogaeth a 8.68 marwolaeth y fil o boblogaeth. Fel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn heneiddio; ond i raddau llai na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop. Ceir cryn dipyn o fewnfudo i'r Iseldiroedd, a hefyd gryn dipyn o allfudo. O'r trigolion heb fod yn Iseldirwyr ethnig, y grwpiau mwyaf yw Indonesiaid (2.4%), Almaenwyr (2.4%), Twrciaid (2.2%) a Swrinamiaid (2.0%). Dinasoedd Dinasoedd mwyaf poblog yr Iseldiroedd yw: 1 Amsterdam (Noord-Holland) 744,740 2 Rotterdam (Zuid-Holland) 581,615 3 Den Haag ('s-Gravenhage) (Zuid-Holland) 474,245 4 Utrecht (Utrecht) 290,529 5 Eindhoven (Noord Brabant) 209,601 6 Tilburg (Noord Brabant) 200,975 7 Almere (Flevoland) 181,990 8 Groningen (Groningen) 180,824 9 Breda (Noord Brabant) 170,451 10 Nijmegen (Gelderland) 160,732 11 Apeldoorn (Gelderland) 155,328 12 Enschede (Overijssel) 154,311 13 Haarlem (Noord-Holland) 147,179 14 Arnhem (Gelderland) 142,638 15 Zaanstad (Noord-Holland) 141,829 16 Amersfoort (Utrecht) 139,914 inh. 17 Haarlemmermeer (Noord-Holland) 139,396 18 's-Hertogenbosch (Noord Brabant) 135,787 19 Zoetermeer (Zuid-Holland) 118,534 20 Dordrecht (Zuid-Holland) 118,443 Mae nifer o'r dinasoedd yng ngorllewin a gogledd canolbarth y wlad yn ffurfio cytref fawr a elwir y Randstad ('Dinas yr Ymyl' yr yr Iseldireg). Mae'n cynnwys pedair dinas fwya'r Iseldiroedd, Amsterdam, Rotterdam, Den Haag ac Utrecht a'r ardaloedd a'r m\u00e2n drefi o'u cwmpas, fel Almere, Delft, Dordrecht, Gouda, Haarlem, Hilversum, Leiden a Zoetermeer. Mae dinasoedd y Randstad yn llunio hanner gylch neu gilgant, ac mae'r enw yn tarddu o'r siap hwnnw. Crefydd Eglwys Gatholig 31% Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd 13% Calfiniaid 7% Islam 5.5% Arall 2.5% Dim 41% Diwylliant yr Iseldiroedd Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y 17g, yng nghyfnod Gweriniaeth yr Iseldiroedd, roedd arlunwyr megis Rembrandt van Rijn, Johannes Vermeer, Jan Steen, Jacob van Ruysdael ac eraill. Dilynwyd hwy yn y 19eg a'r 20g gan Vincent van Gogh a Piet Mondriaan. Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae Erasmus o Rotterdam a Spinoza, ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth Ren\u00e9 Descartes ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys Christiaan Huygens (1629-1695), darganfyddwr Titan, un o leuadau Sadwrn, a dyfeisiwr y cloc pendil, ac Antonie van Leeuwenhoek, y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop. Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae Joost van den Vondel a P.C. Hooft o'r 17g, Multatuli yn y 19g ac yn yr 20g awduron fel Harry Mulisch, Jan Wolkers, Simon Vestdijk, Cees Nooteboom, Gerard (van het) Reve a Willem Frederik Hermans. Cyfieithwyd dyddiadur Anne Frank i lawer o ieithoedd. Gweler hefyd Iseldireg Teyrnas yr Iseldiroedd Cyfeiriadau","1257":"Adeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, yw Neuadd y Ddinas, a'i adeiladwyd rhwng 1901 a 1905. Fe'i gynlluniwyd ar y cyd \u00e2 Llys y Goron Caerdydd gan y penseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad ym 1897. Ystyrir Neuadd y Ddinas yn un o uchafbwyntiau'r adfywiad o bensaern\u00efaeth Bar\u00f3c yn nheyrnasiad Edward VII. Rhagflaenwyr Safai guildhall tref canoloesol Caerdydd yng nghanol y Stryd Fawr; roedd gan yr adeilad hwn farchnad ar y llawr isaf. Yn 1742\u20137 dymchwelwyd yr adeilad hwn a chodwyd neuadd newydd i'r dref ar yr un safle, yn cadw'r farchnad ac yn ychwanegu carchar i'r llawr gwaelod. Rhyw ganrif yn hwyrach cynhaliwyd gystadleuaeth am adeilad newydd ar gyfer Neuadd y Dref a'r Cyfnewidfa \u0176d. Enillwyd hyn gan Horace Jones (a gynlluniodd Tower Bridge yn Llundain yn hwyrach yn ei yrfa), ac agorwyd yr adeilad newydd ar Heol Eglwys Fair, yn yr arddull neo-glasurol, ym 1853. Fe'i estynwyd yn 1876 gan James, Seward a Thomas, ff\u1ef3rm pensaern\u00efol o Gaerdydd. Ym 1915 codwyd adeilad a elwir heddiw yn Hodge House ar y safle hwnnw. Hanes a disgrifiad Cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad cyntaf ym Mharc Cathays, sef neuadd y dref a'r llysoedd barn, ym 1897, ar \u00f4l i'r cyngor brynu'r tir oddi wrth Ardalydd Bute. Enillwyr y gystadleuaeth, allan o 56 o ymgeiswyr, oedd Edwin Afred Rickards o'r ff\u1ef3rm Lanchester, Stewart a Rickards. Ffurfiwyd y bartneriaeth yn arbennig ar gyfer ymuno \u00e2'r gystadleuaeth hon gan Rickards a'i gyd-benseiri Henry Vaughan Lanchester a James Stewart. Y pensaer Fictoraidd o fry Syr Alfred Waterhouse a fu'n barnu'r gystadleuaeth. Cynhaliwyd seremoni gosod y maen cyntaf ym 1901 ac ym 1906 agorwyd Neuadd y Ddinas yn swyddogol gan Ardalydd Bute. Enillodd Caerdydd ei statws fel dinas yn y flwyddyn flaenorol.Newidiwyd y cynlluniau yn sylwyeddol rhwng ennill y gystadleuaeth a'r hyn gafodd ei adeiladu i arddull mwy blodeuog y Bar\u00f3c, gyda dylanwadau cryf o Awstria, de'r Almaen a Ffrainc. Roedd y fath ddylanwadau yn anarferol ym mhensaern\u00efaeth Bar\u00f3c Edwardaidd, a arferai cyfeirio at waith y pensaer o Sais, Syr Christopher Wren. Mae'r cerfluniau ar y ffas\u00e2d yn cynnwys ffigyrau yn cynrychioli afonydd Caerdydd, sef Taf, Rhymni ac El\u00e1i, ac alegor\u00efau o Gerddoriaeth a Barddoniaeth (gan Paul Montford) ac Undod a Gwladgarwch (gan Henry Poole). Ceir dau gr\u0175p arall o gerfluniau sy'n cyfateb i'r ddau uchod ar ffas\u00e2d y llysoedd barn; dyma'r unig enghraifft yng ngwledydd Prydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd. Gwaith y cerflunwydd Henry Charles Fehr yw'r ddraig plwm ar ben y gromen. Y Neuadd Farmor Cynlluniwyd y grisiau yn arwain at yr Ystafell Gynnull ag wyth pedestal a dau gilfach gwag, ac o ganlyniad i hyn fe benderfynwyd y dylid eu llenwi \u00e2 cherfluniau o arwyr Cymreig. Cytunodd y diwydiannwr a gwleidydd David Alfred Thomas i'w hariannu ac fe benodwyd Yr Athro Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a'r Aelod Seneddol W. Llewelyn Williams i farnu pwy y dylid eu coff\u00e1u. I feithrin diddordeb cynhaliwyd gystadleuaeth gan y Western Mail yn annog i bobl ysgrifennu rhestrau eu hunain; roedd gwobr o \u00a320 ar gael i'r rheiny \u00e2 rhestrau yn cyfateb yn union i'r hyn a baratowyd gan yr ysgolheigion, ond enillodd neb y wobr. Agorwyd y Neuadd Farmor gan David Lloyd George, y Weinidog Rhyfel ar y pryd, ar 27 Hydref 1916. Dyma restr o'r cerfluniau: Buddug (1913\u20136) gan James Havard Thomas Dewi Sant (1917) gan Syr William Goscombe John Hywel Dda (1916) gan Frederick William Pomeroy Gerallt Gymro (1916) gan Henry Poole Llywelyn Ein Llyw Olaf gan Henry Alfred Pegram Dafydd ap Gwilym gan William Wheatley Wagstaff Owain Glyn D\u0175r (1916) gan Alfred Turner Harri VII (1918) gan Ernest George Gillick Yr Esgob William Morgan (1920) gan Thomas John Clapperton William Williams, Pantycelyn, (1916) gan Leonard Stanford Merrifield Syr Thomas Picton (1916) gan Thomas Mewburn Crook Yn niwylliant poblogaidd Ymddengys Neuadd y Ddinas ar glawr y sengl \"Mulder and Scully\" (1998) gan Catatonia, mewn delwedd a'i ysbrydolwyd gan boster y ffilm Independence Day. Ynddo caiff Neuadd y Ddinas (yn hytrach na'r T\u0177 Gwyn yn Washington, D.C.) ei drywanu gan belydr o beth hedegog anhysbus. Cyfeiriadau Llyfryddiaeth Chappell, Edgar L. (1946). Cardiff's Civic Centre: A historical guide. Caerdydd: Priory Press.CS1 maint: ref=harv (link) Fellows, Richard (1995). Edwardian Architecture: Style and technology. Llundain: Lund Humphries.CS1 maint: ref=harv (link) Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries.CS1 maint: ref=harv (link) Morey, Ian (2008). British Provincial Civic Design and the Building of Late-Victorian and Edwardian Cities. Lewiston (Efrog Newydd) a Llanbedr Pont Steffan: E. Mellen Press.CS1 maint: ref=harv (link) Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link) Service, Alastair (1979). Edwardian Architecture: A handbook to building design in Britain, 1890\u20131914. Llundain: Thames & Hudson.CS1 maint: ref=harv (link) Dolenni allanol Gwefan swyddogol Hanes Neuadd y Ddinas, o'r wefan swyddogol","1258":"Adeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, yw Neuadd y Ddinas, a'i adeiladwyd rhwng 1901 a 1905. Fe'i gynlluniwyd ar y cyd \u00e2 Llys y Goron Caerdydd gan y penseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad ym 1897. Ystyrir Neuadd y Ddinas yn un o uchafbwyntiau'r adfywiad o bensaern\u00efaeth Bar\u00f3c yn nheyrnasiad Edward VII. Rhagflaenwyr Safai guildhall tref canoloesol Caerdydd yng nghanol y Stryd Fawr; roedd gan yr adeilad hwn farchnad ar y llawr isaf. Yn 1742\u20137 dymchwelwyd yr adeilad hwn a chodwyd neuadd newydd i'r dref ar yr un safle, yn cadw'r farchnad ac yn ychwanegu carchar i'r llawr gwaelod. Rhyw ganrif yn hwyrach cynhaliwyd gystadleuaeth am adeilad newydd ar gyfer Neuadd y Dref a'r Cyfnewidfa \u0176d. Enillwyd hyn gan Horace Jones (a gynlluniodd Tower Bridge yn Llundain yn hwyrach yn ei yrfa), ac agorwyd yr adeilad newydd ar Heol Eglwys Fair, yn yr arddull neo-glasurol, ym 1853. Fe'i estynwyd yn 1876 gan James, Seward a Thomas, ff\u1ef3rm pensaern\u00efol o Gaerdydd. Ym 1915 codwyd adeilad a elwir heddiw yn Hodge House ar y safle hwnnw. Hanes a disgrifiad Cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad cyntaf ym Mharc Cathays, sef neuadd y dref a'r llysoedd barn, ym 1897, ar \u00f4l i'r cyngor brynu'r tir oddi wrth Ardalydd Bute. Enillwyr y gystadleuaeth, allan o 56 o ymgeiswyr, oedd Edwin Afred Rickards o'r ff\u1ef3rm Lanchester, Stewart a Rickards. Ffurfiwyd y bartneriaeth yn arbennig ar gyfer ymuno \u00e2'r gystadleuaeth hon gan Rickards a'i gyd-benseiri Henry Vaughan Lanchester a James Stewart. Y pensaer Fictoraidd o fry Syr Alfred Waterhouse a fu'n barnu'r gystadleuaeth. Cynhaliwyd seremoni gosod y maen cyntaf ym 1901 ac ym 1906 agorwyd Neuadd y Ddinas yn swyddogol gan Ardalydd Bute. Enillodd Caerdydd ei statws fel dinas yn y flwyddyn flaenorol.Newidiwyd y cynlluniau yn sylwyeddol rhwng ennill y gystadleuaeth a'r hyn gafodd ei adeiladu i arddull mwy blodeuog y Bar\u00f3c, gyda dylanwadau cryf o Awstria, de'r Almaen a Ffrainc. Roedd y fath ddylanwadau yn anarferol ym mhensaern\u00efaeth Bar\u00f3c Edwardaidd, a arferai cyfeirio at waith y pensaer o Sais, Syr Christopher Wren. Mae'r cerfluniau ar y ffas\u00e2d yn cynnwys ffigyrau yn cynrychioli afonydd Caerdydd, sef Taf, Rhymni ac El\u00e1i, ac alegor\u00efau o Gerddoriaeth a Barddoniaeth (gan Paul Montford) ac Undod a Gwladgarwch (gan Henry Poole). Ceir dau gr\u0175p arall o gerfluniau sy'n cyfateb i'r ddau uchod ar ffas\u00e2d y llysoedd barn; dyma'r unig enghraifft yng ngwledydd Prydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd. Gwaith y cerflunwydd Henry Charles Fehr yw'r ddraig plwm ar ben y gromen. Y Neuadd Farmor Cynlluniwyd y grisiau yn arwain at yr Ystafell Gynnull ag wyth pedestal a dau gilfach gwag, ac o ganlyniad i hyn fe benderfynwyd y dylid eu llenwi \u00e2 cherfluniau o arwyr Cymreig. Cytunodd y diwydiannwr a gwleidydd David Alfred Thomas i'w hariannu ac fe benodwyd Yr Athro Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a'r Aelod Seneddol W. Llewelyn Williams i farnu pwy y dylid eu coff\u00e1u. I feithrin diddordeb cynhaliwyd gystadleuaeth gan y Western Mail yn annog i bobl ysgrifennu rhestrau eu hunain; roedd gwobr o \u00a320 ar gael i'r rheiny \u00e2 rhestrau yn cyfateb yn union i'r hyn a baratowyd gan yr ysgolheigion, ond enillodd neb y wobr. Agorwyd y Neuadd Farmor gan David Lloyd George, y Weinidog Rhyfel ar y pryd, ar 27 Hydref 1916. Dyma restr o'r cerfluniau: Buddug (1913\u20136) gan James Havard Thomas Dewi Sant (1917) gan Syr William Goscombe John Hywel Dda (1916) gan Frederick William Pomeroy Gerallt Gymro (1916) gan Henry Poole Llywelyn Ein Llyw Olaf gan Henry Alfred Pegram Dafydd ap Gwilym gan William Wheatley Wagstaff Owain Glyn D\u0175r (1916) gan Alfred Turner Harri VII (1918) gan Ernest George Gillick Yr Esgob William Morgan (1920) gan Thomas John Clapperton William Williams, Pantycelyn, (1916) gan Leonard Stanford Merrifield Syr Thomas Picton (1916) gan Thomas Mewburn Crook Yn niwylliant poblogaidd Ymddengys Neuadd y Ddinas ar glawr y sengl \"Mulder and Scully\" (1998) gan Catatonia, mewn delwedd a'i ysbrydolwyd gan boster y ffilm Independence Day. Ynddo caiff Neuadd y Ddinas (yn hytrach na'r T\u0177 Gwyn yn Washington, D.C.) ei drywanu gan belydr o beth hedegog anhysbus. Cyfeiriadau Llyfryddiaeth Chappell, Edgar L. (1946). Cardiff's Civic Centre: A historical guide. Caerdydd: Priory Press.CS1 maint: ref=harv (link) Fellows, Richard (1995). Edwardian Architecture: Style and technology. Llundain: Lund Humphries.CS1 maint: ref=harv (link) Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries.CS1 maint: ref=harv (link) Morey, Ian (2008). British Provincial Civic Design and the Building of Late-Victorian and Edwardian Cities. Lewiston (Efrog Newydd) a Llanbedr Pont Steffan: E. Mellen Press.CS1 maint: ref=harv (link) Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link) Service, Alastair (1979). Edwardian Architecture: A handbook to building design in Britain, 1890\u20131914. Llundain: Thames & Hudson.CS1 maint: ref=harv (link) Dolenni allanol Gwefan swyddogol Hanes Neuadd y Ddinas, o'r wefan swyddogol","1262":"Mae hanes y Ddrama yn Gymraeg yn gymharol fyr mewn cymhariaeth \u00e2 rhai gwledydd eraill, megis Gwlad Groeg ac India er enghraifft, gan na chafodd y gyfle i ddatblygu'n llawn tan yr 20g, ond erbyn heddiw, gyda dyfodiad S4C a dram\u00e2u teledu, mae'r ddrama yn ei hamrywiol ffurfiau yn rhan bwysig o'r diwylliant Cymraeg. Mae dramodwyr mwyaf adnabyddus y wlad yn y Gymraeg yn cynnwys Twm o'r Nant, Saunders Lewis a Gwenlyn Parry. Dechreuadau Llesteirwyd twf y ddrama yng Nghymru gan ffactorau daearyddol ac economaidd; cyn y Chwyldro Diwydiannol, gwlad o gymunedau a threfi bychain oedd Cymru gyda'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth yn byw yng nghefn gwlad. Nid oedd gan Gymru drefi mawr fel yn achos rhai eraill o wledydd Ewrop fel Ffrainc, yr Eidal a Lloegr, i gynnal y theatr. Mae'r dram\u00e2u Cymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn perthyn i ail hanner y 15g. Dram\u00e2u miragl ydy Y Tri Brenin o Gwlen ac Y Dioddefiant a'r Atgyfodia, a gafodd eu cyfansoddi yn y gogledd-ddwyrain dan ddylanwad dram\u00e2u Saesneg tebyg, yn enwedig cylch dram\u00e2u miragl dinas Caer. Gyda dirywiad cyfundrefn y beirdd, diffyg canolfannau trefol, a cholli nawdd nifer o uchelwyr, ni chafwyd oes aur i'r ddrama yn yr 16g, fel yn achos Lloegr gyda gwaith William Shakespeare ac eraill. Addasiad o ddrama Saesneg yw'r unig ddrama o gyfnod y Dadeni Dysg sydd wedi goroesi, sef Troelus a Chresyd (tua 1600). Anterliwtiau'r ddeunawfed ganrif Math o ddrama fydryddol boblogaidd a oedd ar ei hanterth yn ail hanner y 18g oedd yr anterliwt (neu interliwt). Daw'r enw o'r gair Saesneg interlude (sy'n tarddu o'r arfer o berfformio darnau dramataidd byr er diddanu'r dorf rhwng actiau hir y dram\u00e2u miragl canoloesol). Roedd yn ffurf a ddatblygodd yn bennaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig yn siroedd Dinbych a Fflint. Fe'i chwareid mewn ffeiriau, yn y dafarn neu ar fuarth fferm i ddiddanu'r werin. Mae cofnod gweddol fanwl o berfformiad o anterliwt ym 1654 ymysg papurau tymor y Drindod 1654 Llys Chwarter Sir Gaernarfon, a geir yn Archifdy Gwynedd. Gwnaed cwyn fod anterliwt wedi ei berfformio (yn groes i reolau'r Weriniaeth Piwritaniaid) yn nh\u0177 Derwyn Bach ger pentref modern Bryncir ac wedyn yng nghyffiniau eglwys Dolbenmaen. Disgrifir cwmni o dri actor proffesiynol (dau ddyn a llanc) yn perfformio sgript a barodd am 'awr neu ddwy' mewn amrywiaeth o ddillad. Nid yw enw awdur, teitl na sgript yr anterliwt hwn ar gael ond mae'n eglur bod y ffurf yn iach ac yn fyw yng nghanol yr 17g.Mae'r anterliwtwyr mawr yn cynnwys Twm o'r Nant (8 anterliwt), y pwysicaf o lawer, Jonathan Huws o Langollen, Elis y Cowper, Dafydd Jones o Drefriw, Huw Jones o Langwm, Si\u00f4n Cadwaladr o'r Bala a William Roberts, clochydd Nanmor ac eraill. Beirdd gwlad oedd nifer o'r rhain, neu f\u00e2n grefftwyr. Bu farw'r anterliwt pan dr\u00f4dd Cymru ei chefn ar yr hen arferion poblogaidd dan ddylanwad yr enwadau anghydffurfiol a newidiadau cymdeithasol ar ddechrau'r 19g. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg Gweler hefyd: Llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif.Ar ddechrau'r ganrif newydd yr oedd yr Anterliwt, a gynryciolir ar ei gorau gan waith Twm o'r Nant, dal mewn bri, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, ond dirywio'n gyflym fu ei hanes. Un o'r prif resymau am hynny oedd dylanwad cynyddol Methodistiaeth a fu'n llawdrwm iawn ar arferion \"Hen Gymru Lawen\". Rhoddodd Twm ei hun y gorau i sgwennu anterliwtiau pan dr\u00f4dd yn Fethodus a chofnodir bod William Jones (Ehedydd I\u00e2l), a fu'n arweinydd cwmni anterliwt lleol yn ei ieuenctid. wedi llosgi ei lyfrau anterliwt pan \"gafodd grefydd\" yn 1839.Ni fu lawer o lewyrch ar y ddrama yng Nghymru ar \u00f4l hynny tan yr 20g. Prin fod unrhyw ddrama o werth wedi'i hysgrifennu cyn chwarter olaf y ganrif, er y cafwyd ambell ddarn dramataidd o naws grefyddol. Ond yn yr 1870au cafwyd peth adfywiad. Dechreuai llenorion ymddiddori yn y ddrama seciwlar. Yn yr eisteddfodau rhoddid gwobrau am y dram\u00e2u gorau ac ysgogodd hynny do newydd o ddramodwyr. Ond dram\u00e2u hanes neu Feiblaidd ar gyfer y llwyfan fawr gydag elfen amlwg o'r pasiant ynddynt oedd y dram\u00e2u hyn, gan fwyaf, e.e. Owain Glynd\u0175r gan Beriah Gwynfe Evans, ac roedd eu safon lenyddol yn isel. Ond nid oedd y dram\u00e2u hyn yn dderbyniol gan rai ymneilltuwyr chwaith, a chafwyd adwaith yn erbyn y ddrama (a ffuglen seciwlar yn gyffredinol); mor ddiweddar \u00e2 1887, er enghraifft, gofynnodd Sasiwn y Methodistiaid i'r capeli Cymreig roi'r gorau i berfformiadau drama o unrhyw fath. Bu rhaid aros tan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 i gael newid cyfeiriad, pan alwodd David Lloyd George am nawdd i hybu'r ddrama yn Gymraeg. Yr ugeinfed ganrif Gweler hefyd: Llenyddiaeth Gymraeg yr 20fed ganrif.\u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Drama gyfoes \u00a0 \u00a0Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Cyfeiriadau Llyfryddiaeth Dafydd Glyn Jones a John Ellis Jones (goln.), Llwyfannau, Cyfres \u2018Cwmpas\u2019, Gwasg Gwynedd, 1981 Elsbeth Evans, Y Ddrama yng Nghymru, Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947. Thomas Parry, \u2018Drama fel Llenyddiaeth\u2019, Y Traethodydd, 1952, 122-33. Bobi Jones, I\u2019r Arch, Llandyb\u00efe: Llyfrau\u2019r Dryw, 1959. G. G. Evans, \u2018Yr Anterliwt Gymraeg\u2019, Ll\u00ean Cymru, 1:2 (Gorffennaf 1950), 83-96; 2:4 (Gorffennaf 1953), 224-31. E. Wyn James, 'Rhai Methodistiaid a\u2019r Anterliwt: John Hughes, Pontrobert, Twm o\u2019r Nant ac Ann Griffiths', Taliesin, Hydref 1986, ac ar Wefan Ann Griffiths [1] Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru, 1880-1940 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-1832-4 E. Wyn James, Glynd\u0175r a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glynd\u0175r yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2007). ISBN 978-1-84512-064-1. O. Llew Owain, Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943, Lerpwl: Gwasg y Brython, 1948. Dafydd Glyn Jones, \u2018Saunders Lewis a Thraddodiad y Ddrama Gymraeg\u2019, Llwyfan, 9 (Gaeaf 1973), 1-12. Elan Closs Stephens, \u2018Drama\u2019, yn Y Celfyddydau yng Nghymru 1950-75, gol. Meic Stephens, Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1979, 251-312. Gareth Haulfryn Williams, 'Anterliwt Derwyn Fechan, 1654', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, 1983, 53-8. Gweler hefyd Drama Llenyddiaeth Gymraeg Rhestr o ddramodwyr Cymraeg","1263":"Darlun a wnaed gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw Dyn Vitruvius (Eidaleg: l'uomo vitruviano [\u02c8lw\u0254\u02d0mo vitru\u02c8vja\u02d0no]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio (yn llythrennol: 'Cyfrannau o'r corff dynol yn \u00f4l Vitruvius'). Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig, Vitruvius. Mae'r darlun, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgw\u00e2r. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo o'r cyfrannau corff dynol delfrydol. Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darlun ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i cedwir yn Gabinetto dei disegni e delle stampe y Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, o dan gyfeirnod 228. Fel yn achos y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o arddangosfa arferol yr oriel. Yn ddiweddar, roedd y gwaith i'w weld yn yr arddangosfa o waith Leonardo yn y Louvre, Paris, rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020, fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal. Testun a theitl Mae'r ddelwedd hon yn dangos y cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni yn ogystal \u00e2 dangos dealltwriaeth ddofn Leonardo o gyfranedd. Yn \u00f4l y testun sy'n ei ganlyn, sydd wedi ei ysgrifennu o chwith, fe'i gwnaed fel astudiaeth o gyfrannau'r corff dynol (gwrywaidd) fel y disgrifir yn De Architectura 3.1.2\u20133 Vitruvius. Mae'r darlun hwn yn sylfaen i Leonardo ymdrechu cysylltu dyn \u00e2 natur. Credai fod teithi'r corff dynol yn gyfatebol i deithi'r bydysawd. Er bod Leonardo yn dangos gwybodaeth eglur am Vitruvius, nid yw ei ddyluniad yn dilyn y disgrifiad o'r testun gwreiddiol. Wrth iddo lunio'r cylch a'r sgw\u00e2r mae wedi sylwi na all y sgw\u00e2r fod \u00e2'r un canol \u00e2'r cylch, ac mae felly wedi'i ganoli ar y afl. Yr addasiad hwn yw'r rhan arloesol o ddyluniad Leonardo a'r hyn sydd yn ei wahaniaethu oddi wrth ddarluniau cynharach. Mae hefyd yn ymadawiad o gysyniad gwreiddiol Vitruvius gan ei fod wedi llunio'r breichiau lawer yn uwch na chopa'r pen, yn hytrach na'r ongl lawer is a awgrymodd Vitruvius, lle mae'r breichiau yn ffurfio llinellau sy'n croestorri ar y fogail. Ysbrydoliaeth a chydweithrediad posibl Roedd llawer o artistiad wedi ceisio dylunio lluniau a fyddai'n bodloni honiad Vitruvius y gall corff dynol ffitio mewn i sgw\u00e2r yn ogystal \u00e2 chylch. Francesco di Giorgio Martini oedd y cyntaf i wneud hyn yn y 1480au. Mae'n bosibl bod Leonardo wedi'i ddylanwadu gan waith ei ffrind Giacomo Andrea, pensaer a oedd wedi ciniawa ag ef yn 1490. Cyfieira Leonardo hefyd yn uniongyrchol at \"(ddyn) Vitruvius Andrea\". Mae dyluniad Andrea yn cynnwys arwyddion ei fod wedi rhwbio rhywbeth allan, sydd yn awgrymu ei fod yn waith gwreiddiol. Fel yn achos Dyn Vitruvius Leonardo, mae Andrea hefyd yn canoli ei gylch ar y fogail, ond dim ond un ystum sydd i'w weld. Tarddiad Prynodd Giuseppe Bossi y llun gan Gaudenzio de 'Pagave, a oedd wedi ei disgrifio, ei drafod a'i ddarlunio yn flaenorol. Y flwyddyn ganlynol, echdynnodd y rhan o'i fonograff sy'n ymwneud \u00e2 Dyn Vitruvius a'i gyhoeddi fel Delle opinioni di Leonardo da Vinci intorno alla simmetria de 'Corpi Umani (1811), gydag ymroddiad i'w ffrind, y cerflunydd Antonio Canova. Ar \u00f4l i Bossi farw yn 1815, prynodd y Gallerie dell'Accademia yn Fenis Dyn Vitruvius yn 1822, yn ogystal \u00e2 nifer o ddyluniadau eraill Leonardo, ac mae wedi aros yno ers hynny. Ar \u00f4l i'r Louvre wneud cais i'w fenthyca ar gyfer arddangosfa o waith Leonardo yn 2019, dadleuodd sefydliad Italia Nostra fod y dyluniad yn rhy fregus i'w gludo. Cyfeiriadau","1267":"Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd y gred mewn gwrachyddiaeth a dewiniaeth yn eang. Am amser hir credwyd bod gwrachod a dewiniaid da a drwg. Credwyd bod gan wrachod a dewiniaid da bwerau iach\u00e1u a'r gallu i gadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Ond dechreuwyd cysylltu dewiniaeth gyda\u2019r syniad bod cytundeb neu berthynas gyda\u2019r diafol. Honnwyd bod gwrachod yn derbyn eu pwerau oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol gyda\u2019r diafol. Erbyn diwedd y 15g roedd gwrachyddiaeth a heresi yn cael eu gweld fel troseddau oedd yn achosi gofid a phryder i bobl. Oherwydd yr ofn oedd yn cael ei greu dechreuodd ymgyrch erlid a cheisio dileu gwarchyddiaeth yn llwyr o\u2019r gymdeithas. Ar adegau yn ystod yr 17g cychwynnwyd \u2018hela\u2019 gwrachod a dewiniaid, yn arbennig menywod. Erlid gwrachod Daeth erlid gwrachod yn arfer cyffredin drwy Ewrop, a arweiniodd at lawer o fenywod yn cael eu cyhuddo o wrachyddiaeth, yn cael eu poenydio, eu profi a\u2019u dienyddio. Roedd Matthew Hopkins yn un o helwyr gwrachod enwocaf Lloegr adeg y Rhyfel Cartref. Mae tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr wedi cael eu herlyn yng Nghymru. Achos Dorothy Griffith, 1656 Mae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn dangos tystiolaeth bod gwrachod wedi cael eu herlyn yn Sir y Fflint. Un ohonynt oedd yr achos yn erbyn Dorothy Griffith yn 1656. Yn yr achos cyntaf mae William Griffith, morwr o Bictwn, yn cyhuddo Dorothy Griffith o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes modd gwybod bellach pam yn union y cafodd y cyhuddiad ei wneud, ond mae'n debyg bod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd. Mae William Griffith, ei frawd Edward, Thomas Rodgers, tafarnwr, a'i wraig Margaret Bellis yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn Dorothy Griffith. Er mwyn amddiffyn Dorothy cafwyd deiseb yn ei chefnogi, wedi ei harwyddo gan un ar ddeg ar hugain o'i chymdogion, gan gynnwys aelodau amlwg o'r gymuned leol. Achos Charles Hughes, 1690 Cododd digwyddiad arall ym mhlwyf Llanasa. Cyhuddwyd Charles Hughes, tenant i John Evans a mab i Hughe ap Edward, o niweidio gwartheg ei landlord yn dilyn anghydfod yngl\u0177n \u00e2 thenantiaeth. Mae Hughe ap Edward yn rhoi tystiolaeth, ac yn yr un modd ag achos Dorothy Griffith, ceir deiseb yn ei gefnogi, wedi ei harwyddo gan un ar bymtheg o foneddigion lleol. Mae'n debyg na fwriwyd ymlaen \u00e2'r achos yn erbyn Hughes. Achos Anne Ellis, 1657 Yn Llannerch Banna cyhuddwyd Anne Ellis o wrachyddiaeth. Cardotwraig yn byw ar gyrion cymdeithas oedd Anne Ellis, ac fe'i cyhuddwyd o ddefnyddio dewiniaeth (da a drwg) yn erbyn anifeiliaid a phlant. Ynghyd \u00e2'i thystiolaeth ei hun ceir datganiadau gan chwech o'i chymdogion a gan gwnstabl. Cafodd Anne Ellis ei rhyddhau'n ddiweddarach heb ddyfarniad yn ei herbyn. Dewiniaeth Roedd nifer sylweddol o bobl Cymru yn rhoi eu ffydd mewn dynion hysbys neu gonsurwyr er mwyn darganfod pwy oedd wedi dwyn eu heiddo. Credwyd bod y gallu a\u2019r wybodaeth gan y dyn hysbys i wella pobl ac anifeiliaid yn ogystal \u00e2 darganfod lladron ac eiddo oedd wedi ei ddwyn. Er bod y dystiolaeth yn dangos nad oeddent wedi cael llawer o lwyddiant yn y cyswllt hwn, roedd ffydd pobl yng nghymorth y dyn hysbys yn gryf. Gan fod cynifer yn credu ym mh\u0175er y dyn hysbys gallent weithiau gael eu cyhuddo eu hunain o 'drosedd\u2019. Digwyddodd hyn yn enghraifft John Price yn 1788 pan ddygwyd ei arian. Holwyd am gymorth y dyn hysbys o Wrecsam, sef Robert Darcy, i helpu gyda\u2019r ymholiadau. Yn \u00f4l tystiolaeth achos llys cynharach roedd dyn o\u2019r enw Edward Phillips wedi bod yn anhapus gyda safon gwaith ditectif Robert Darcy. Cafwyd Darcy yn euog o gymryd arian trwy dwyll ac fe gafodd ddirwy. Hyd yn oed yn y 19g roedd pobl yn gofyn i'r dyn hysbys am gymorth - er enghraifft, yn 1824 bu ffrindiau Thomas Jones o Lansanffraid Glyn Conwy yn trafod y syniad o fynd i ymgynghori gyda\u2019r dyn hysbys, John Edwards, er mwyn darganfod pwy oedd wedi lladd Thomas Jones.Roedd swynion yn cael eu hysgrifennu mewn inc ar bapur o faint penodol a byddent fel arfer yn cael eu rholio a\u2019u selio mewn potel. Byddent wedyn yn cael eu gosod uwchben drws neu\u2019n cael eu claddu o dan y llawr. Darganfuwyd un swyn o dan drawst yn Gelli Bach, Glyn Ceiriog a daethpwyd o hyd i swyn arall mewn tun oedd wedi ei osod yn wal beudy ar fferm ger Trefesgob, swydd Amwythig. Roedd y swynion yn dueddol o ddilyn fformiwla mewn cyfuniad o Saesneg a Lladin bratiog ac roedd tair rhan i\u2019r swyn. Yn gyntaf, byddai gweddi yn gofyn am warchod y sawl dan sylw, aelodau o\u2019r teulu, a\/neu ddiogelu anifeiliaid rhag pethau drwg. Yna galwyd ar Dduw, y Doethion a\u2019r efengylwyr. Yn drydydd, ar waelod y swyn, byddai dau arwydd hudol fel arfer, sef abracadabra ar ffurf triongl a\u2019i ben i waered ar y chwith, a chylch ar y dde gydag arwyddion planedol neu seryddol rhyngddynt. Teulu Harries Un o deuluoedd enwocaf Cymru o ran ymarfer dewiniaeth wen oedd y dynion hysbys o ardal Caio, Sir Gaerfyrddin. Roedd John Harries, a fu farw yn 1839, o Bantcoy, Cwrtycadno, Sir Gaerfyrddin, yn astrolegwr ac yn feddyg. Roedd y teulu Harries yn enwog drwy Gymru a siroedd cyfagos dros y ffin yn Lloegr fel meddygon proffesiynol, llawfeddygon dawnus ac astrolegwyr medrus a oedd yn uchel eu parch yn y gymdeithas. Daethant yn enwog am eu dawn i broffwydo\u2019r dyfodol, darganfod eiddo a oedd ar goll neu wedi ei ddwyn, brwydro yn erbyn gwrachyddiaeth a chodi ysbrydion rhadlon, ac o ganlyniad fe\u2019u condemniwyd yn arw gan grefyddwyr y 19eg ganrif. Dywedir bod John Harries yn cuddio un o\u2019i lyfrau dan glo, a dim ond yn mentro ei agor unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw, lle byddai\u2019n darllen swynion amrywiol o'r gyfrol i alw ysbrydion. Mae\u2019n debyg bod storm ddifrifol yn digwydd bob tro roedd y llyfr yn cael ei agor. Dyma sail y syniad bod p\u0175er y teulu\u2019n deillio o\u2019r gyfrol drwchus o swynion yma a oedd wedi ei rhwymo gan gadwyn haearn a 3 chlo. Sonia J. H. Davies yn ei lyfr Rhai o hen ddewiniaid Cymru, a gyhoeddwyd ym 1901, mai\u2019r unig lyfr a welodd yn ystod ei ymweliad \u00e2 Chwrtycadno rai blynyddoedd ynghynt a oedd yn debyg i\u2019r llyfr hwnnw oedd hen lyfr du gyda dau glo, maint Beibl teuluol, a oedd yn cynnwys offer meddygol amrywiol. Awgryma mai hwn oedd llyfr swynion John Harries, oedd yn cynnwys nifer o swynion darluniadol ac arwyddion astroleg. Dywedir bod John Harries wedi cael rhagargoel y byddai\u2019n marw drwy ddamwain ar Fai yr 11eg 1839, ac er mwyn osgoi hyn, arhosodd yn y gwely drwy\u2019r dydd. Er gwaethaf ei ymdrechion i osgoi'r anffawd yr oedd wedi ei ragweld, aeth y t\u0177 ar d\u00e2n yn ystod y nos a bu farw. Roedd Henry Gwynne Harries (c.1821-1849), mab John Harries, hefyd yn feddyg adnabyddus ac yn \u2018ddyn hysbys\u2019. Fe\u2019i bedyddiwyd ar y 7fed o Dachwedd 1821, a chafodd ef hefyd ei addysgu yn y Cowings, yna yn ysgol ramadeg Hwlffordd, ac mae\u2019n bosib ei fod wedi astudio ym Mhrifysgol Llundain. Bu farw o\u2019r ddarfodedigaeth ar 16 Mehefin 1849 yn 28 oed. Yr ail fab, John Harries, (c.1827-1863), oedd yr olaf o ddynion hysbys enwog Cwrtycadno. Gweler Hefyd Dewiniaeth Gwrach Gwrachod Llanddona Cyfeiriadau","1268":"Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd \u00e2 nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957. Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polis\u00efau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu r\u00f4l mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref. Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o \u20ac11.4 triliwn (\u00a38 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal \u00e2 gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd. Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal a ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%. Hanes Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol. Aelod-wladwriaethau Aelodau Presennol Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952\/1958: Yr Almaen (Gorllewin) Yr Eidal Ffrainc Yr Iseldiroedd Gwlad Belg LwcsembwrgYmunodd saith gwladwriaeth \u00e2'r CEE ar \u00f4l y cychwyn: ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig ym 1981: Gwlad Groeg ym 1986: Portiwgal a Sbaen ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE \u00e2 Dwyrain yr AlmaenFfurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno \u00e2'r UE erbyn hyn: ym 1995: Awstria, Y Ffindir, a Sweden yn 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia yn 2007: Bwlgaria a Rwmania yn 2013: CroatiaCafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar \u00f4l refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd. Gadawodd y DU ym 2020 ar \u00f4l refferendwm Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr I\u00e2, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia-Hertsegofina yn cael eu ystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wah\u00e2n i Serbia. Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig \u00e2'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra. Daearyddiaeth a Phoblogaeth Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km\u00b2. Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar \u00f4l India a Tsieina. Llywodraethu Statws Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio \"subsidiarity\" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos \u00e2 phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE. Fframwaith sefydliadol Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol: Senedd Ewrop Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (nid i'w gymysgu \u00e2'r Cyngor Ewropeaidd) Comisiwn Ewropeaidd Llys Cyfiawnder y Cymunedau Ewropeaidd Llys Archwilwyr EwropSefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd \u00e2'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir \u00e2 chyfraith yr Undeb. Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol. Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys: Banc Canolog Ewrop Banc Buddsoddi Ewrop Asiantaeth Amgylchedd Ewrop Europol Swyddfa Cyhoeddiadau Swyddogol Ombwdsman EwropeaiddBydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn \"Lys Cyffredinol\". Polis\u00efau Dechreuodd yr UE fel gr\u0175p o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd p\u0175er gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht. Statws yr iaith Gymraeg Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb. Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008. Gweler hefyd Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd Mercosur Cymuned Fasnachu Traws-ffiniol ar gyfer dwyrain De America Nodiadau Cyfeiriadau Ffynonellau eraill (Saesneg) Canllaw y BBC i sefydliadau'r UE Cyflwyniad i'r UE Dolenni allanol Gwefan swyddogol yr Undeb Ewropeaidd Sefydliadau Senedd Ewrop Cyngor yr Undeb Ewropeaidd Comisiwn Ewropeaidd Llys Cyfiawnder Ewrop Llys Archwilwyr Ewrop Archifwyd 2008-10-30 yn y Peiriant Wayback. Cyrff eraill Banc Canolog Ewrop Banc Buddsoddi Ewrop Pwyllgor y Rhanbarthau Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol","1270":"Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd \u00e2 nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957. Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polis\u00efau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu r\u00f4l mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref. Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o \u20ac11.4 triliwn (\u00a38 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal \u00e2 gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd. Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal a ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%. Hanes Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol. Aelod-wladwriaethau Aelodau Presennol Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952\/1958: Yr Almaen (Gorllewin) Yr Eidal Ffrainc Yr Iseldiroedd Gwlad Belg LwcsembwrgYmunodd saith gwladwriaeth \u00e2'r CEE ar \u00f4l y cychwyn: ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig ym 1981: Gwlad Groeg ym 1986: Portiwgal a Sbaen ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE \u00e2 Dwyrain yr AlmaenFfurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno \u00e2'r UE erbyn hyn: ym 1995: Awstria, Y Ffindir, a Sweden yn 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia yn 2007: Bwlgaria a Rwmania yn 2013: CroatiaCafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar \u00f4l refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd. Gadawodd y DU ym 2020 ar \u00f4l refferendwm Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr I\u00e2, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia-Hertsegofina yn cael eu ystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wah\u00e2n i Serbia. Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig \u00e2'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra. Daearyddiaeth a Phoblogaeth Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km\u00b2. Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar \u00f4l India a Tsieina. Llywodraethu Statws Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio \"subsidiarity\" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos \u00e2 phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE. Fframwaith sefydliadol Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol: Senedd Ewrop Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (nid i'w gymysgu \u00e2'r Cyngor Ewropeaidd) Comisiwn Ewropeaidd Llys Cyfiawnder y Cymunedau Ewropeaidd Llys Archwilwyr EwropSefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd \u00e2'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir \u00e2 chyfraith yr Undeb. Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol. Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys: Banc Canolog Ewrop Banc Buddsoddi Ewrop Asiantaeth Amgylchedd Ewrop Europol Swyddfa Cyhoeddiadau Swyddogol Ombwdsman EwropeaiddBydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn \"Lys Cyffredinol\". Polis\u00efau Dechreuodd yr UE fel gr\u0175p o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd p\u0175er gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht. Statws yr iaith Gymraeg Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb. Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008. Gweler hefyd Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd Mercosur Cymuned Fasnachu Traws-ffiniol ar gyfer dwyrain De America Nodiadau Cyfeiriadau Ffynonellau eraill (Saesneg) Canllaw y BBC i sefydliadau'r UE Cyflwyniad i'r UE Dolenni allanol Gwefan swyddogol yr Undeb Ewropeaidd Sefydliadau Senedd Ewrop Cyngor yr Undeb Ewropeaidd Comisiwn Ewropeaidd Llys Cyfiawnder Ewrop Llys Archwilwyr Ewrop Archifwyd 2008-10-30 yn y Peiriant Wayback. Cyrff eraill Banc Canolog Ewrop Banc Buddsoddi Ewrop Pwyllgor y Rhanbarthau Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol","1273":"Bywydeg (weithiau: bioleg) yw'r maes gwyddonol sy'n ymdrin \u00e2 bywyd ac organebau byw. Mae'n cynnwys astudiaethau ar sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu Mae bywydeg yn ymdrin ag ystod eang o feysydd academaidd sy'n edrych ar bob rhan o natur. Yn draddodiadol, mae'r pwnc yn cael ei rannu'n is-feysydd yn \u00f4l gr\u0175p tacsonomaidd \u2013 er enghraifft, mae botanegwyr yn astudio planhigion, s\u0175olegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a meicrofiolegwyr yn astudio bacteria. Mae rhannu bywydeg yn \u00f4l trefn fiolegol yn ffordd fwy cyfoes o wahaniaethu meysydd \u2013 er enghraifft, drwy edrych ar foleciwlau a chelloedd, organebau cyfan a phoblogaethau. Gellir hefyd rhannu bywydeg yn \u00f4l dull: gwaith maes, bioleg damcaniaethol, bioffiseg, paleontoleg, ac ati. Hanes Mae bywydeg fel maes modern o astudiaeth wyddonol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Defnyddiwyd y term bioleg (neu air tebyg) \u2013 sy'n deillio o'r gair Groeg \u03b2\u03af\u03bf\u03c2 (bios, \"bywyd\") a'r \u00f4l-ddodiad -\u03bb\u03bf\u03b3\u03af\u03b1 (-logia, \"astudiaeth o\") \u2013 am y tro cyntaf o gwmpas dechrau'r 19g. Defnyddiwyd gan y ffisiolegydd Thomas Beddoes yn 1799, y gwyddonydd Karl Friedrich Burdach yn 1800 a'r gwyddonydd Gottfried Reinhold Treviranus yn 1802.Ond er tarddiad diweddar y pwnc fel y'i adnabyddir heddiw, gellir olrhain hanes bywydeg yn \u00f4l i amseroedd hynafol. Bu Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yn Henfyd oddeutu 330CC. Roedd gan brentis Aristoteles, Theophrastus, hefyd ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe ysgrifennodd yn helaeth am blanhigion.Bu nifer o ddisgyblion y byd Islamaidd canoloesol yn astudio bywydeg, yn cynnwys al-Jahiz (781\u2013869), Al-D\u012bnawar\u012b (828\u2013896), a ysgrifennodd am fotaneg ac al-Razi (865\u2013925), a ysgrifennodd am ffisioleg ac anatomeg.Yn dilyn gwaith arloesol Antonie van Leeuwenhoek ar wella a datblygu'r microsgop yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis alg\u00e2u. Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y gell i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn theori cell.Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar dacsonomeg a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden Carolus Linnaeus argraffiad cyntaf ei Systema Naturae yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.. Mae ei gyfundrefn o enwau deuenwol yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro esblygiad. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig Jean-Baptiste de Lamarck ei waith Philosophie Zoologique, ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad. Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol \u2013 wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach. Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr Charles Darwin yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes geoleg, gan ddefnyddio detholiad naturiol i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro Alfred Russel Wallace i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain Asia.Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur etifeddeg. Roedd y mynach o Forafia Gregor Mendel wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901. Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed. Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf Avery-MacLeod-McCarty mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf Hershey-Chase. Dosbarthiad bywyd Defnyddir system o'r enw 'Tacsonomeg Linnaeaidd' i ddosbarthu organebau mewn grwpiau. Mae'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau S\u0175olegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd. Pethau byw Bacteria Archaea Ewcaryotau Protistiaid Planhigion Ffyngau Anifeiliaid Lluniau Cysyniadau Allweddol Bioleg Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys: Theori cell Esblygiad Geneteg Homeostasis Egni Cyfeiriadau","1275":"Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan F\u00f4r y Gogledd, M\u00f4r Udd a M\u00f4r Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor. Hanes Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10g. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr at bwrpasau deddfwriaethol trwy Ddeddfau Uno 1536. Gyda Deddf Uno 1707, cytunodd seneddau Lloegr a'r Alban i uno eu teyrnasoedd fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin er 1603). Ym 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr \u00e2 Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927. Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y 19g mewn diwydiant a grym morwrol, r\u00f4l sylweddol yn natblygiad democratiaeth seneddol, ynghyd \u00e2 chyfraniadau pwysig ym myd gwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'r Ymerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20g gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau \u00e2'r Ewrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er fod y DU wedi ymaelodi a'r Undeb Ewropeaidd, roedd gwahaniaeth barn ynghylch aelodaeth gan unigolion o fewn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Parhaodd yr hollt o fewn y Ceidwadwyr i'r 2000au gan arwain at refferendwm aelodaeth yn 2016. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae T\u0177'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o b\u0175er; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda ph\u0175er gwaharddiad. Ymunodd a'r Gymuned Ewropeaidd yn 1973. Yn dilyn refferendwm yn 2016 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Gweler hefyd: Brenhinoedd a breninesau'r Deyrnas Unedig; Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon; Hanes Cymru; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Lloegr. Gwleidyddiaeth Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Frenhines ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines Elisabeth II yw pennaeth y wladwriaeth ac fe'i coronwyd ym 1953, wedi iddi esgyn i'r orsedd ym 1952. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremon\u00efol, a'r Prif Weinidog sy'n rheoli'r wladwriaeth mewn gwirionedd. Gwledydd, Rhanbarthau, Siroedd, ac Ardaloedd Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol: Yr Alban: Awdurdodau unedol yr Alban Cymru: Awdurdodau unedol Cymru, Rhanbarthau Cymru Gogledd Iwerddon: Israniadau Gogledd Iwerddon Lloegr: Israniadau Lloegr, Rhanbarthau LloegrMae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sirol, 9 Sir, a 3 Dinas. Yn ogystal cedwir siroedd 1974-1996 fel 'siroedd seremon\u00efol' ond heb unrhyw swyddogaeth mewn llywodraeth leol. Mae'r Alban yn cynnwys 32 Awdurdod Unedol. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir. Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a\/neu Siroedd Metropolitan a\/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeistrefi. Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler Gwladfa'r Goron. Ni chyfrifir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn \u00f4l y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol. Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 prif wledydd eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er bod y DU ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn. Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig. Daearyddiaeth Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd Tafwys a Hafren yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger Pumlumon yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dover mae Twnnel M\u00f4r Udd yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a Ffrainc. Mae Cymru yn wlad fynyddig gan fwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, gydag uchder o 1,085 m uwch lefel y m\u00f4r, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Pumlumon, Y Berwyn, Y Carneddau a'r Glyderau yn Eryri, a Bryniau Clwyd. I'r gogledd mae Ynys M\u00f4n. Mae'r prif afonydd yn cynnwys afon Hafren, afon Gwy, afon Teifi, afon Conwy ac afon Dyfrdwy. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin, Penfro, Aberystwyth, Dolgellau, Caernarfon, Bangor, Caergybi, Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, a Wrecsam. Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gydag iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau M\u00f4r hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd. Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd. Economi Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni preifateiddio, ac fe gyfyngwyd ar dwf y Wladwriaeth Les. Mae amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn \u00f4l safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig bancio, yswiriant, a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino. Gohiriodd llywodraeth Blair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system Ewro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnal refferendwm. Demograffaeth Saesneg yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd llawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad. Diwylliant Mae'r Deyrnas Unedig yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheirianwyr enwog, er enghraifft James Watt, Charles Darwin, ac Alexander Fleming. Mae ysgrifenwyr enwog o'r DU yn cynnwys y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Robert Burns, Thomas Hardy, Alfred Tennyson, Dylan Thomas a William Wordsworth. Mae'r cyfansoddwyr Edward Elgar, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen. Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'r T\u0177 Opera Brenhinol, un o ddwy opera arweiniol y byd. Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a r\u00f4l The Beatles, y Rolling Stones, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd, Catatonia, ac Oasis. Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis John Constable, Joshua Reynolds, William Blake a J.M.W. Turner. yn yr 20g, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, Kyffin Williams a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin. Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatraidd, ac mae gan Lundain lawer o theatrau, gan gynnwys y Theatr Genedlaethol Frenhinol. Cysylltiadau allanol (Saesneg) Senedd y Deyrnas Unedig (Saesneg) Rhif 10 Stryd Downing Hafan DU Ar-lein yn Gymraeg Gwefan Teulu Brenhinol y DU yn Gymraeg BBC Cymru Swyddfa Ystadegau'r DU yn Gymraeg Archifwyd 2010-10-03 yn y Peiriant Wayback.","1279":"Gosodiad cerddorol o rannau o wasanaeth Cristnogol yr offeren yw cerddoriaeth yr offeren, neu yn syml mewn cyd-destun cerddorol offeren. Cenir ffurfwasanaeth yr offeren ers oes foreuaf yr eglwys. Y blaensiant oedd y gerddoriaeth gynharaf a gyfansoddwyd i gyd-fynd \u00e2 geiriau Lladin y litwrgi yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol cyfansoddwyd cerddoriaeth bolyffonig ar gyfer yr offeren. Proper yr Offeren ydy'r enw ar rannau'r ffurfwasanaeth sydd yn amrywio o dymor i dymor ac o ddydd i ddydd, ac Ordinari'r Offeren ydy'r testunau a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn. Yn aml byddai'r offeren yn cynnwys yr Offeren Isel a leferir neu lafargenir yn undonog, a'r Uchel Offeren a genir ar alaw. Ers y Diwygiad Protestannaidd, arferir yr offeren hefyd gan enwadau eraill sydd yn tarddu o Eglwys y Gorllewin, yn bennaf y Lwtheriaid a'r Anglicaniaid. Cenir yr offeren yn iaith y werin gan yr eglwysi diwygiedig, a chyfansoddwyd cerddoriaeth eglwysig yn nulliau newydd yn ystod y Dadeni a'r oes far\u00f3c. Ers diwygiadau Ail Gyngor y Fatican, defnyddir ieithoedd ar wah\u00e2n i Ladin yn offeren yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Defodau gwahanol a arferir gan Eglwys y Dwyrain, a chenir ffurfwasanaethau'r enwadau dwyreiniol gan amlaf drwy gyfrwng y blaengan, megis y siant Fysantaidd, y siant Armenaidd, y siant Ethiopaidd, y siant Goptaidd, a'r siant Syriaidd. Datblygiad yr offeren yn yr Oesoedd Canol Proper yr Offeren Cafodd y salm-d\u00f4n Gregoraidd ei safoni yn ystod teyrnasiad y Pab Grigor I (590\u2013604). Llafarganau neu siantiau monoffonig oedd y rhain, heb gyfeiliant na chytgord. Cyfansoddwyd melod\u00efau i ganu'r blaensiant ar gyfer gwahanol rannau'r Proper, megis yr Yntred, y Greutialus neu'r Greal, yr Aleliwia, y Tract neu'r Anthem, yr Offrymgan, a'r Cymun. Datblygodd offerennau polyffonig yn y 10g a'r 11g, a ddefnyddiwyd alaw'r siant yn cantus firmus, sef sylfaen felodig a chyda rhannau lleisiol wedi eu hychwanegu ati. Cesglir sawl ffurf bolyffonig ar y Greutialus a'r Aleliwia yn y Magnus Liber Organi (tua 1175), a ysgrifennwyd ym Mharis gan y cyfansoddwr L\u00e9onin. Yng nghanol yr 13g, daeth yr arfer gyffredin o gyfansoddi offerennau polyffonig ar sail siantiau'r Proper i ben. Hyd yr oes fodern, cenir y Proper fel arfer yn y dull plaengan traddodiadol. Ordinari'r Offeren Rhennir elfennau Ordinari'r Offeren a osodant yn fynych ar gyfer c\u00f4r, neu ar gyfer c\u00f4r ac unawdydd, yn Kyrie, Gloria in excelsis Deo, Credo, Sanctus a Benedictus, ac Agnus Dei. Yr enghraifft gyntaf o osodiad cyfan o Ordinari'r Offeren oedd y \"Messe de Tournai\" (tua 1300). Yr un cyntaf i gyfansoddi cylch polyffonig cyfan ar gyfer yr Ordinari oedd y Ffrancwr Guillaume de Machaut yng nghanol y 14g. Yn y 15g a'r 16g cyflwynwyd alawon seciwlar a chaneuon gwerin i gerddoriaeth yr offeren gan gyfansoddwyr megis Guillaume Dufay, Josquin Desprez, a Giovanni da Palestrina. Cyrhaeddodd yr offeren ei huchafbwynt yn niwedd yr 16g yn yr arddull gwrth-bwyntiol, corawl, digyfeiliant. Cerddoriaeth far\u00f3c a chlasurol Ffurf boblogaidd yn y cyfnodau bar\u00f3c (1600\u20131750) a chlasurol (1750\u20131820) oedd yr offeren, ac un o brif nodweddion y traddodiad canu c\u00f4r. Gweithiau hir ac ysgubol oedd nifer ohonynt, ac weithiau heb ansawdd defosiynol yr offerennau cynt. Cawsant eu cyfansoddi ar gyfer seremon\u00efau pwysig yn hytrach na gwasanaeth pob dydd yr eglwys. Un o gyfansoddiadau gwychaf yr oes far\u00f3c oedd yr Offeren yn B leiaf gan J. S. Bach, yn arddull y cantata. Cyfansoddwyd offerennau gan \u0175yr mawr yr oes glasurol, gan gynnwys Joseph Haydn, Wolfgang Amadeus Mozart, a Ludwig van Beethoven. Parhaodd y ffurf yn y 19g dan ddylanwad Franz Schubert, Franz Liszt, Charles Gounod, ac Anton Bruckner, ac yn yr 20g gan Francis Poulenc, Igor Stravinsky, Leo\u0161 Jan\u00e1\u010dek, a Ralph Vaughan Williams. Offerennau dros y meirw Mewn offerennau dros y meirw, caiff y Gloria a'r Credo eu hepgor ac ychwanegir \"segwens\", yr emyn \"Dies Irae\", gyda geiriau o gerdd Lladin ganoloesol ac wedi ei osod ar un o alawon enwocaf y siant. Ymhlith yr enghreifftiau o gerddoriaeth yr offeren dros y meirw mae cyfansoddiadau gan Johannes Ockeghem, Mozart, Giuseppe Verdi, Hector Berlioz, a Gabriel Faur\u00e9. Cyfeiriadau","1280":"Lleolir Canol Dinas Abertawe, yn Ninas a Sir Abertawe, ychydig i ffwrdd o'r Afon Tawe a Bae Abertawe. Mae'n ymestyn dros y rhan fwyaf o Ward y Castell ac ymylon Ward yr Uplands. Serch hyn y mae'n ehangu tua'r dwyrain wrth i hen Dociau Abertawe gael eu hail-ddatblygu'n ardal fusnes a phreswyl gymysg. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur). Hanes Bomiwyd canol y ddinas yn ddifrifol ym 1941 yn ystod digwyddiad a gydnabodir bellach fel Y Blitz Tair Noson. Dinistriwyd 41 erw a oedd yn cynnwys 857 o adeiladau yng nghanol y ddinas. Bu'n rhaid i nifer o fusnesau gael eu ad-leoli i gyrion yr ardal a ddinistriwyd. Cymerwyd nifer o flynyddoedd i adfer Abertawe. O ganlyniad i'r hen ardal siopa o amgylch Y Stryd Fawr wedi'i dinistrio, ail-adeiladwyd prif ganolfan siopa o amgylch y Ffordd y Brenin newydd. Siopa Yng nghalon y ddinas lleolir Marchnad Abertawe, Canolfan Siopa'r Cwadrant a Canolfan Siopa Dewi Sant. Stryd Rhydychen yw prif stryd siopa Abertawe. Dominyddir pen dwyreiniol Stryd Rhydychen gan nifer o gwmn\u00efau cenedlaethol, tra bod pen gorllewinol y stryd yn gartref i nifer o siopau lleol. Canolfan siopa fodern yw'r Cwadrant a agorwyd ar ddiwedd y 1970au, ond ailwampiwyd y ganolfan yn gyfan gwbl yn y 1990au gyda tho gwydr yn llenwi'r arcedau tywyll cynt \u00e2 goleuni. Dominyddir y ganolfan gan siopau mawr megis Debenhams a Boots. Lleolir maes parcio aml-lawr i'r de, tra bod Gorsaf Fysiau Abertawe ar ben gorllewinol y ganolfan. Tu hwnt i faes parcio aml-lawr y Cwadrant y mae archfrachnad Tesco a'i faes parcio ei hun. Hen safle'r gweithfeydd nwy yw hwn, ond ail-ddatblygwyd y darn o dir erbyn y flwyddyn 2000 wrth i Tesco adleoli o'i gyn-safle ar Ffordd y Brenin o dan hen sinema'r Odeon. Cynhelir marchnadoedd agored ar strydoedd canol y ddinas yn bennaf yn ystod tymor y Nadolig, ar hyd Stryd Rhydychen, Ffordd y Dysysoges a Sgw\u00e2r y Castell. Y Stryd Fawr a Stryd y Castell Arferai\u2019r Stryd Fawr fod yn un o brif strydoedd siopa Abertawe. Dinistriwyd rhannau helaeth ohoni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Saif Castell Abertawe ar ben deheuol y ddwy stryd hyn, gyferbyn \u00e2 Sgw\u00e2r y Castell a ailwampiwyd yn ystod y 1990au wrth i slabiau carreg Efrog a ffynnon dd\u0175r ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio amffitheatr er mwyn disodli\u2019r ardd ddiarffordd gynt a warthnodwyd yn ardal beryglus o dorcyfraith. Ar ben arall y stryd y mae Gorsaf Drenau Abertawe a Gwesty\u2019r Grand. Masnachwyr preifat, ychydig dafarndai, bwytai a mannau gwerthu bwyd sydyn sydd rhwng yr orsaf a\u2019r castell, yn llenwi adeiladau a oedd yn gartrefi i gwmn\u00efau cenedlaethol gynt megis Littlewoods, Woolworths, W.H. Smith a Comet. Ffordd y Brenin Ffordd ddeuol oedd Ffordd y Brenin gan redeg o Ffordd Sain Helen yn y gorllewin i Ffordd y Dywysoges yn y dwyrain ar hyd cyrion gogleddol canol y ddinas. Cyn i Stryd y Gwynt droi yn y brif gyrchfan ar gyfer digwyddiadau\u2019r nos, Ffordd y Brenin oedd wrth galon y cyffro. Tra bod nifer o\u2019r bariau\u2019n cau o ganlyniad i gystadleuaeth \u00e2 Stryd y Gwynt, y mae Ffordd y Brenin dal yn gartref i glybiau nos fwyaf Abertawe. Yn ogystal \u00e2 chlybiau nos, y mae nifer o fanciau, siopau, mannau gwerthu bwyd sydyn a changen o\u2019r YMCA ar hyd Ffordd y Brenin. Arferai prif Swyddfa\u2019r Post Abertawe fod ar y stryd hon cyn iddi symud i W.H. Smith yng Canolfan Siopa\u2019r Cwadrant serch y gwrthwynebiad. Ad-drefnwyd Ffordd y Brenin yn 2006 er mwyn ei thoi\u2019n stryd unffordd tua\u2019r gorllewin. Mae\u2019r ddwy l\u00f4n ddeheuol bellach ar gyfer bysiau i deithio yn y naill gyfeiriad fel rhan o ddatblygiad ar y cyd \u00e2 First Cymru i greu Metro Abertawe. Mae\u2019r tanlwybrau a\u2019r hen gylchfan ar ben dwyreiniol y stryd y tu fas i Gwesty\u2019r Ddraig bellach wedi diflannu gyda goleuadau traffig a phalmentydd llydan yn eu lle. Ffordd y Dywysoges Arferai Ffordd y Dywysoges fod yn ffordd ddeuol tan y 1990au pan ad-drefnwyd system ffyrdd Abertawe unwaith eto er mwyn gwneud y ddinas yn fwy addas ar gyfer cerddwyr. Mae\u2019n rhedeg o Heol Ystumllwynarth yn y de i gylchfan Ffordd y Brenin ar hyd cyrion dwyreiniol canol y ddinas. Yn ystod y 1990au, caewyd rhan uchaf y ffordd er mwyn gwella canol y ddinas ar gyfer cerddwyr wrth i Sgw\u00e2r y Castell gael ei ddatblygu a\u2019i ymestyn allan dros Ffordd y Dywysoges. Ni newidiwyd rhan gwaelod yr heol tan 2005 pan gafodd ddisodlwyd dwy l\u00f4n wrth i\u2019r palmant dwyreiniol gael ei lledu i ganol yr heol er mwyn gwella hygyrchedd i gerddwyr rhwng canol y ddinas a\u2019r glannau. Mae rhan uchaf yr heol bellach yn cael ei datblygu wrth i ganolfan siopa tri llawr newydd gael ei chodi ar safle\u2019r hen siop David Evans (House of Fraser). Dolenni Cyswllt Canol Dinas Abertawe Archifwyd 2007-07-20 yn y Peiriant Wayback. Cynllun Datblygu Canol Abertawe Archifwyd 2007-08-08 yn y Peiriant Wayback. Abertawe: Bae Llawn Bywyd Archifwyd 2007-09-02 yn y Peiriant Wayback. Cyfeiriadau","1281":"Lleolir Canol Dinas Abertawe, yn Ninas a Sir Abertawe, ychydig i ffwrdd o'r Afon Tawe a Bae Abertawe. Mae'n ymestyn dros y rhan fwyaf o Ward y Castell ac ymylon Ward yr Uplands. Serch hyn y mae'n ehangu tua'r dwyrain wrth i hen Dociau Abertawe gael eu hail-ddatblygu'n ardal fusnes a phreswyl gymysg. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur). Hanes Bomiwyd canol y ddinas yn ddifrifol ym 1941 yn ystod digwyddiad a gydnabodir bellach fel Y Blitz Tair Noson. Dinistriwyd 41 erw a oedd yn cynnwys 857 o adeiladau yng nghanol y ddinas. Bu'n rhaid i nifer o fusnesau gael eu ad-leoli i gyrion yr ardal a ddinistriwyd. Cymerwyd nifer o flynyddoedd i adfer Abertawe. O ganlyniad i'r hen ardal siopa o amgylch Y Stryd Fawr wedi'i dinistrio, ail-adeiladwyd prif ganolfan siopa o amgylch y Ffordd y Brenin newydd. Siopa Yng nghalon y ddinas lleolir Marchnad Abertawe, Canolfan Siopa'r Cwadrant a Canolfan Siopa Dewi Sant. Stryd Rhydychen yw prif stryd siopa Abertawe. Dominyddir pen dwyreiniol Stryd Rhydychen gan nifer o gwmn\u00efau cenedlaethol, tra bod pen gorllewinol y stryd yn gartref i nifer o siopau lleol. Canolfan siopa fodern yw'r Cwadrant a agorwyd ar ddiwedd y 1970au, ond ailwampiwyd y ganolfan yn gyfan gwbl yn y 1990au gyda tho gwydr yn llenwi'r arcedau tywyll cynt \u00e2 goleuni. Dominyddir y ganolfan gan siopau mawr megis Debenhams a Boots. Lleolir maes parcio aml-lawr i'r de, tra bod Gorsaf Fysiau Abertawe ar ben gorllewinol y ganolfan. Tu hwnt i faes parcio aml-lawr y Cwadrant y mae archfrachnad Tesco a'i faes parcio ei hun. Hen safle'r gweithfeydd nwy yw hwn, ond ail-ddatblygwyd y darn o dir erbyn y flwyddyn 2000 wrth i Tesco adleoli o'i gyn-safle ar Ffordd y Brenin o dan hen sinema'r Odeon. Cynhelir marchnadoedd agored ar strydoedd canol y ddinas yn bennaf yn ystod tymor y Nadolig, ar hyd Stryd Rhydychen, Ffordd y Dysysoges a Sgw\u00e2r y Castell. Y Stryd Fawr a Stryd y Castell Arferai\u2019r Stryd Fawr fod yn un o brif strydoedd siopa Abertawe. Dinistriwyd rhannau helaeth ohoni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Saif Castell Abertawe ar ben deheuol y ddwy stryd hyn, gyferbyn \u00e2 Sgw\u00e2r y Castell a ailwampiwyd yn ystod y 1990au wrth i slabiau carreg Efrog a ffynnon dd\u0175r ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio amffitheatr er mwyn disodli\u2019r ardd ddiarffordd gynt a warthnodwyd yn ardal beryglus o dorcyfraith. Ar ben arall y stryd y mae Gorsaf Drenau Abertawe a Gwesty\u2019r Grand. Masnachwyr preifat, ychydig dafarndai, bwytai a mannau gwerthu bwyd sydyn sydd rhwng yr orsaf a\u2019r castell, yn llenwi adeiladau a oedd yn gartrefi i gwmn\u00efau cenedlaethol gynt megis Littlewoods, Woolworths, W.H. Smith a Comet. Ffordd y Brenin Ffordd ddeuol oedd Ffordd y Brenin gan redeg o Ffordd Sain Helen yn y gorllewin i Ffordd y Dywysoges yn y dwyrain ar hyd cyrion gogleddol canol y ddinas. Cyn i Stryd y Gwynt droi yn y brif gyrchfan ar gyfer digwyddiadau\u2019r nos, Ffordd y Brenin oedd wrth galon y cyffro. Tra bod nifer o\u2019r bariau\u2019n cau o ganlyniad i gystadleuaeth \u00e2 Stryd y Gwynt, y mae Ffordd y Brenin dal yn gartref i glybiau nos fwyaf Abertawe. Yn ogystal \u00e2 chlybiau nos, y mae nifer o fanciau, siopau, mannau gwerthu bwyd sydyn a changen o\u2019r YMCA ar hyd Ffordd y Brenin. Arferai prif Swyddfa\u2019r Post Abertawe fod ar y stryd hon cyn iddi symud i W.H. Smith yng Canolfan Siopa\u2019r Cwadrant serch y gwrthwynebiad. Ad-drefnwyd Ffordd y Brenin yn 2006 er mwyn ei thoi\u2019n stryd unffordd tua\u2019r gorllewin. Mae\u2019r ddwy l\u00f4n ddeheuol bellach ar gyfer bysiau i deithio yn y naill gyfeiriad fel rhan o ddatblygiad ar y cyd \u00e2 First Cymru i greu Metro Abertawe. Mae\u2019r tanlwybrau a\u2019r hen gylchfan ar ben dwyreiniol y stryd y tu fas i Gwesty\u2019r Ddraig bellach wedi diflannu gyda goleuadau traffig a phalmentydd llydan yn eu lle. Ffordd y Dywysoges Arferai Ffordd y Dywysoges fod yn ffordd ddeuol tan y 1990au pan ad-drefnwyd system ffyrdd Abertawe unwaith eto er mwyn gwneud y ddinas yn fwy addas ar gyfer cerddwyr. Mae\u2019n rhedeg o Heol Ystumllwynarth yn y de i gylchfan Ffordd y Brenin ar hyd cyrion dwyreiniol canol y ddinas. Yn ystod y 1990au, caewyd rhan uchaf y ffordd er mwyn gwella canol y ddinas ar gyfer cerddwyr wrth i Sgw\u00e2r y Castell gael ei ddatblygu a\u2019i ymestyn allan dros Ffordd y Dywysoges. Ni newidiwyd rhan gwaelod yr heol tan 2005 pan gafodd ddisodlwyd dwy l\u00f4n wrth i\u2019r palmant dwyreiniol gael ei lledu i ganol yr heol er mwyn gwella hygyrchedd i gerddwyr rhwng canol y ddinas a\u2019r glannau. Mae rhan uchaf yr heol bellach yn cael ei datblygu wrth i ganolfan siopa tri llawr newydd gael ei chodi ar safle\u2019r hen siop David Evans (House of Fraser). Dolenni Cyswllt Canol Dinas Abertawe Archifwyd 2007-07-20 yn y Peiriant Wayback. Cynllun Datblygu Canol Abertawe Archifwyd 2007-08-08 yn y Peiriant Wayback. Abertawe: Bae Llawn Bywyd Archifwyd 2007-09-02 yn y Peiriant Wayback. Cyfeiriadau","1282":"Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn ymestyn dros gyfnod o dros 1500 o flynyddoedd, o amser y Rhufeiniaid hyd heddiw. Felly mae hanes Cristnogaeth yn y wlad yn rhan annatod o hanes Cymru ac wedi effeithio'n sylweddol ar ei llenyddiaeth a'i diwylliant. Mae Cymru'n dal i gael ei ystyried yn wlad Gristnogol heddiw ond ceir dilynwyr sawl crefydd arall yn y wlad yn ogystal. Ond mae seciwlariaeth wedi cynyddu hefyd, a cheir canran o'r boblogaeth sy'n ystyried eu hunain yn anffyddwyr neu sydd ddim yn ymddiddori llawer mewn crefydd o gwbl. Yr Eglwys Fore ac Oes y Seintiau Dechreuadau Daeth Cristnogaeth i Ynys Brydain yn y cyfnod Rhufeinig. Celtiaid (y Brythoniaid) oedd y trigolion brodorol, ond ymsefydlodd pobl o rannau eraill o'r Ymerodraeth Rufeinig yn eu mysg. Mae'n debyg mae yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig y cafwyd y Cristnogion cyntaf. Ar ddechrau'r 3g ceir tystiolaeth fod cenhadon Cristnogol yn weithgar yn y Brydain Rufeinig. Merthyrwyd tri ohonynt tua ganol y ganrif, sef y seintiau Aaron ac Iwliws (a ferthyrwyd yng Nghaerleon ac Alban. Cofnodir presenoldeb tri esgob o Brydain yng Nghyngor Arles yn 314. Lladin oedd iaith yr eglwys gynnar ac ymddengys iddi gymryd amser i ymwreiddio ym mywyd y bobloedd Brythoneg eu hiaith. Ni ddiflanodd amldduwiaeth y Brythoniaid dros nos ac am gyfnod hir mae'n rhaid fod y ddwy grefydd wedi bodoli ochr yn ochr. Un arall o'r Cristnogion cynnar hyn oedd Pelagius, a gollfarnwyd yn ddiweddarach fel heretig; mae lle i gredu ei fod yn Frython. Yn yr Oesoedd Canol credid mai Lucius a ddaeth \u00e2 Christnogaeth i Ynys Brydain yn yr 2g a'i fod wedi sefydlu pump talaith eglwysig gyda Chymru'n archesgobaeth yn cael ei rheoli gan esgob yng Nghaerleon, ond gwyddys erbyn heddiw nad oes sail i'r hanes. Oes y Seintiau Daeth Garmon (Germanus) o Auxerre i Brydain yn 429 i ymladd heresi Pelagius. Ymddengys fod y Gristnogaeth ar ei chryfaf yn ne-ddwyrain Cymru yr adeg honno, gyda Caerleon yn ganolbwynt. Ond er bod gwreiddiau Cristnogaeth yng Nghymru yn gorwedd yn y byd Rhufeinig, fel yn achos Iwerddon datblygodd Cymru ei ffurf arbennig o Gristnogaeth sy'n perthyn i Gristnogaeth y Celtiaid. Un o nodweddion y Gristnogaeth honno yw'r cyfnod a elwir yn Oes y Seintiau. Teithiau cenhadon ac addysgwyr trwy Gymru a rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd cynnar eraill, yn arbennig Iwerddon (cysylltir Sant Padrig \u00e2 Chymru), Cernyw a Llydaw. Trwy'r Hen Ogledd roedd yna gysylltiad cryf \u00e2'r Alban hefyd (Cyndeyrn, nawddsant Glasgow, a sefydlodd esgobaeth Llanelwy yn \u00f4l traddodiad). Y pwysicaf o'r seintiau cynnar hyn oedd Dewi Sant, ond dim ond yn ddiweddarach y daeth yn nawddsant Cymru ac mae'n bwysig cofio fod nifer o \"seintiau\" eraill yn weithgar hefyd, fel Padarn, Illtud, Seiriol, Teilo a Dyfrig, er enghraifft. Sefydlasant nifer o eglwysi, clasau (mynachlogydd cynnar) a chanolfannau dysg fel Llanilltud Fawr. Yr Oesoedd Canol Daeth newid mawr i fyd crefyddol a gwleidyddol Cymru gyda dyfodiad y Normaniaid i'r wlad yn y 1070au. Roedd cael rheolaeth ar yr eglwys Gymreig yn bwysig iddynt er mwyn tynhau eu gafael ar y wlad. Ad-drefnwyd y drefn eglwysig Gymreig a sefydlwyd trefn esgobaethol yn seiliedig ar y patrwm ar y cyfandir gyda phedair esgobaeth, sef Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bangor, Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Morgannwg. Dyma'r cyfnod pan greuwyd y plwyfi cyntaf hefyd. Pwysleiswyd awdurdod y Pab yn Rhufain fel pennaeth anffaeledig yr Eglwys. Ceisiai archesgobion Caergaint, gyda chefnogaeth brenin Lloegr, gael yr esgobion Cymreig i dyngu llw o ffyddlondeb bersonol iddo a fyddai'n tanseilio annibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Normaniaid oedd llawer o'r esgobion yn y cyfnod yma ond ceir Cymry yn eu plith yn ogystal. Ond bu adwaith a daeth cefnogaeth i'r syniad fod Cymru'n uned arbennig yn yr eglwys o gyfeiriad annisgwyl, gyda'r esgob Normanaidd Bernard ac, yn nes ymlaen, Gerallt Gymro, yn ceisio cael y Pab i gydnabod fod Cymru'n archesgobaeth gydag Esgob Tyddewi yn brimad (archesgob) arni. Ond methiant fu hynny yn y pen draw a thynwyd yr eglwys yng Nghymru i mewn i drefn newydd gydag archesgob Caergaint yn bennaeth arni. Am weddill yr Oesoedd Canol roedd Cymru'n wlad drwyadl Gatholigaidd. Roedd addoli'r seintiau brodorol yn parhau i fod yr elfen amlycaf ym mywyd crefyddol y genedl, ond cynyddodd pwsigrwydd addoliad y Santes Fair a Mair Fadlen, ynghyd \u00e2'r apostolion fel Pedr a Pawl. Byddai pobl o bob gradd yn mynd ar bererindod os medrant, gydag Ynys Enlli, Tyddewi a Treffynnon yn ganolfannau pwysig. Roedd creiriau'r saint yn ganolbwynt addoliad hefyd, fel \"Ceffyl\" Derfel yn Llandderfel, a thyrrai nifer i weld Crog Aberhonddu yng Nghymru a'r Grog yng Nghaer, a fu'n destun sawl cerdd gan y beirdd. Penwyd llawer o estroniaid yn esgobion, a throdd nifer ohonynt at awdurdod Cyfraith Ganonaidd yr Eglws Ladin, ac dipyn i beth cafodd ei chorffori yn nhalaith Caergaint. Carreg filltir yn y Seisnigio hwn yw pan dyngodd archesgob Urban (1107 - 1134), esgob Morgannwg lw o ufudd-dod i archesgob Caergaint. Yn ei feddwl ef, gwnaeth yr hyn a oedd yn iawn - cryfhau ei berthynas gyda noddwr pwerus er mwyn cadw eiddo'r Eglwys o ddwylo blewog y marchogion Normanaidd. Yn yr un drefn, penodwyd y Norman Bernard yn esgob Tyddewi yn 1115 a thyngodd lw o uffudd-dod i archesgob Caergaint ac i frenin Lloegr. Yn yr oes yma y daeth bri mawr i 'Gwlt Dewi' a chodwyd llawer o eglwysi - o Henffordd i Fae Ceredigion wedi'u cysegru i Ddewi. Yn yr adeg hon hefyd y ceisiwyd cydnabod Tyddewi fel archesgobaeth, gydag awdurdod dros egobion Cymru. Yn 1176 ac eto yn 1179 ymgyrchodd Gerallt Gymro o blaid dyrchafu statws Eglwys Dewi yn archesgob. Mawr fu dylanwad crefydd ar lenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Cafwyd nifer o destunau o Bucheddau'r Saint yn y cyfnod hwn hefyd, er enghraifft Buchedd Dewi gan Rhygyfarch. Cyfieithwyd darnau o'r Beibl yn ogystal \u00e2 nifer o ysgrythurau apocryffaidd. Canai'r beirdd awdlau a chywyddau i Dduw, y Forwyn Fair a'r seintiau. Os mai nawdd Normanaidd oedd y tu \u00f4l i Urdd Sant Bened, Rhys ap Gruffudd yn anad neb arall a sicrahodd lwyddiant Urdd y Sistersiaid, a chodwyd Ystrad Marchell yn 1170, Abaty Cwm Hir yn 1176, Llantarnam ger Caerleon yn 1189, Abaty Aberconwy yn 1186, Abaty Cymer, Meirionnydd yn 1198 ac Abaty Glyn Egwestl yn 1202, er enghraifft. Wedi'r GoncwestYn rhyfel 1282-83 difrodwyd llawer o eiddo'r eglwys ac yn 1285 talodd Edward I, brenin Lloegr oddeutu \u00a32,300 i 107 o eglwysi i'w digolledu. Gwnaeth yr archesgob Pecham archwiliad manwl o eglwysi Cymru yn 1284. Bu'r blynyddoedd dilynol yn oes aur o ran adeiladau a godwyd yn arddull Addurnedig y cyfnod, a llenyddiaeth grefyddol e.e. Llyfr Gwyn Rhydderch. erbyn 1300 roedd Cymru wedi'i rhannu'n blwyfi. Ond er hyn, erbyn dechrau'r 14g roedd yr Eglwys Gymreig fwy neu lai o dan awdurdod coron Lloegr. O 1294, trethwyd yr eglwys yng Nghymru yn drwm ac yn greulon. Erbyn 1380 dim ond 71 o fynachod oedd ar \u00f4l yng Nghymru a dau o'u beirniaid mwyaf llym oedd Dafydd ap Gwilym c Iolo Goch, ac roeddent ill dau'n gwbwl wrth-glerigaidd. Cymerwyd drosodd nifer o eglwysi Cymreig gan fynachlogydd Seisnig hefyd. Ond un o amddiffynwyr mwya'r Cymry oedd y Pab (o leiaf hyd at 1350) a pharchai'r Cymry Cymraeg gan fynnu y dylai pob bugail gwerth ei halen siarad iaith ei braidd! Diwygiad a Gwrth-ddiwygiad Ar ddiwedd y 1530au diddymwyd y mynachlogydd i gyd. Gyda'r Diwygiad Protestanaidd gwnaethpwyd Cymru yn wlad Brotestanaidd gydag Eglwys Loegr yn eglwys wladwriaethol Cymru a Lloegr. Yn 1563 pasiwyd deddf seneddol yn awdurdodi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Pedair blynedd ar \u00f4l hynny cyhoeddwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg. Yna yn 1588 cyhoeddodd yr Esgob William Morgan y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan, llyfr a fyddai'n cael effaith fawr ar yr iaith Gymraeg dros y canrifoedd nesaf. Dyma gyfnod o erlid ar y Catholigion. Merthyrwyd Richard Gwyn yn 1584 a gorfodwyd nifer o Gatholigion Cymreig fel Gruffydd Robert i ffoi i'r cyfandir. Oddi yno gwnaeth y Gwrthddiwygwyr Cymreig eu gorau i adennill i Gatholigaeth ei lle ym mywyd crefyddol y genedl, ond er iddynt gael peth llwyddiant, fel cyhoeddi'r Drych Cristionogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru, yn y dirgel (1586), ofer fu eu hymdrechion yn y diwedd. Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis Luther, Zwingli a Chalfin. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn \u00f4l credo'r Apostol Paul, Credo Nicea a'r diwygiwr Calfin \u2013 hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gw\u0177r, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd Walter Cradoc, John Myles a Vavasor Powell. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid.O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu\u2019r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parh\u00e2i\u2019r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y 18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academ\u00efau preifat. Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed R. Tudur Jones, \u2018caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau\u2019r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw\u2019r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i\u2019r dasg honno\u2019. Ymneilltuaeth a thwf y capeli Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o\u2019r enw Howell Harris dr\u00f6edigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys Talgarth. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau\u2019r Efengyl, aeth Harris i\u2019r priffyrdd a\u2019r caeau i\u2019w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tr\u00f6edigaeth Harris i\u2019w gweld fel man cychwyn y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru. Er bod Harris a nifer dda o\u2019r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i\u2019r Eglwys Sefydledig, cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i\u2019r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau Methodistaidd bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi\u2019n eglwysi Annibynnol newydd. Ynghyd ag egni\u2019r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch. Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd y werin Gymreig yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddoc\u00e2d hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai\u2019n enwadol ac eraill yn gydenwadol. Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y m\u00f4r. Bu\u2019r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagasgar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw. Wrth i\u2019r Ymneulltuwyr gynyddu eu gwaith cenhadol, cafwyd datblygiad yn eu diwinyddiaeth. Ers yr 17g, yr oedd y mwyafrif o Annibynwyr wedi bod yn Galfiniaid cadarn, yn credu bod achubiaeth yn dod yn llwyr trwy ras Duw. Ond yr oedd eu s\u00eal genhadol yn codi cwestiwn: sut y gellid gwahodd pawb yn ddiwah\u00e2n i gofleidio Crist fel Gwaredwr tra ar yr un pryd honni nad oedd gan yr unigolyn unrhyw ran yn ei iachawdwriaeth ei hun? Cafwyd dadlau brwd, ac eto, nid oedd trwych yr Ymneulltuwyr, yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr na'r Methodistiaid Calfinaidd wrth reswm yn barod i lwyr gofleidio\u2019r gred Arminaidd fod achubiaeth yn gywaith rhwng Duw a\u2019r pechadur, yn enwedig wedi i\u2019r Methodistiaid Wesleaidd, gyda\u2019u diwinyddiaeth lwyr Arminaidd, sefydlu cyfundeb yng Nghymru ym 1800. O ganol yr holl ddiwinydda ar droad y 19eg ganrif, ymddangosodd llwybr canol ar ffurf \u2018Calfinyddiaeth Fodern\u2019, neu \u2018Sustem Newydd\u2019, Edward Williams o Rotherham. Yn fab i Galfinydd a Weslead, dadleuai Williams fod yr Iawn a dalodd Crist ar y Groes yn ddigonol i bawb ond yn effeithiol i nifer neilltuol. Ar y naill law, dadleuai bod cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ymateb i\u2019r Efengyl, ond, ar y llaw arall credai mai Duw yn unig oedd yn haeddu\u2019r clod am yr achubiaeth. Bu Edward Williams yn ddylanwad ar do ifanc o weinidogion yng Nghymru, ac yn eu plith yr oedd John Roberts o Lanbrynmair, David Davies o Bant-teg a Michael Jones o Lanuwchllyn. Erbyn canol y 19eg ganrif, \u2018Sustem Newydd\u2019 Edward Williams oedd y prif safbwynt diwinyddol ymhlith Annibynwyr Cymru. Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a\u2019r Bedyddwyr. Ni ddylid rhoi\u2019r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda\u2019i gylch a\u2019i ddylanwad ei hun. Roedd arwyddion bod yr Anghydffurfwyr yn datblygu\u2019n garfan ddylanwadol dros ben yng Nghymru. Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o\u2019u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai\u2019n cyfateb i\u2019w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i\u2019w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberd\u00e2r ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y tonic sol-ffa yn allweddol i\u2019r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa. Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y Chwyldro Piwritanaidd, bu\u2019r Ymneilltuwyr yn ymh\u00e9l \u00e2 gwleidyddiaeth o\u2019u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o\u2019r agwedd wleidyddol honno yn ystod y 18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a\u2019u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth. Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi\u2019r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du\u2019r Anghydffurfwyr. Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu\u2019r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i\u2019w gwneud yn \u2018enwad\u2019 cyfartal \u00e2\u2019r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys \u2018swyddogol\u2019. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda\u2019u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu\u2019r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru i ddatgysylltu\u2019r Eglwys yn eu gwlad eu hunain. Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i\u2019r eglwysi. Yn un peth, \u2019roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o\u2019r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli. Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth yngl\u0177n \u00e2 Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a\u2019r Atgyfodiad. Nid o\u2019r tu allan y daeth pob bygythiad i Ymneulltuaeth yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o\u2019u statws a\u2019u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal \u00e2\u2019r gwahaniaethau rhwng \u2018capelwyr\u2019 a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a\u2019u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai\u2019r diwylliant capelyddol hwn yn troi\u2019n rhwystr i\u2019r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru. Datgysylltu'r Eglwys Anglicanidd Heddiw Yn \u00f4l Cyfrifiad 2001, mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn galw eu hunain yn Gristnogion, ond mae'r nifer sy'n mynychu'r eglwysi a'r capeli'n rheolaidd yn sylweddol is. Mae'r crefyddau eraill yn cynnwys Bwdiaeth (0.19%), Hindwaeth (0.19%), Iddewaeth (0.08%), Islam (0.75%), Siciaeth (0.07%) (crefyddau eraill 0.24%). Cofnodwyd 18.53% o'r boblogaeth heb arddel unrhyw grefydd o gwbl gyda 8.07% yn gwrthod ateb. Gweler hefyd Cristnogaeth: Crynwriaeth yng Nghymru Y Diafol yng Nghymru Yr Eglwys yng Nghymru Eglwys Bresbyteraidd Cymru Rhestr esgobaethau Anglicanaidd Cymru Rhestr o seintiau Cymru Tai crefydd CymruCrefyddau eraill: Iddewiaeth yng Nghymru Islam yng Nghymru Cyfeiriadau Llyfryddiaeth ddethol Ceir nifer fawr o lyfrau am Gristnogaeth yng Nghymru. Detholiad o'r llyfrau mwyaf allweddol yn unig a geir yma. Gwyn Davies, Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 (2002) Oliver Davies, Celtic Christianity in Early Medieval Wales (1996) Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (ail arg., 1976) Glanmor Williams, Wales and the Reformation (1997) R. Tudur Jones, Hanes Annibynnwyr Cymru (1966) R. Tudur Jones, Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914, dwy gyfrol (1981, 1982) D. Densil Morgan, The Span of the Cross: Christian Religion and Society in Wales, 1914-2000 (1999) Robert Pope (gol.), Religion and National Identity: Wales and Scotland, c.1700-2000 (2001) R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)","1283":"Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn ymestyn dros gyfnod o dros 1500 o flynyddoedd, o amser y Rhufeiniaid hyd heddiw. Felly mae hanes Cristnogaeth yn y wlad yn rhan annatod o hanes Cymru ac wedi effeithio'n sylweddol ar ei llenyddiaeth a'i diwylliant. Mae Cymru'n dal i gael ei ystyried yn wlad Gristnogol heddiw ond ceir dilynwyr sawl crefydd arall yn y wlad yn ogystal. Ond mae seciwlariaeth wedi cynyddu hefyd, a cheir canran o'r boblogaeth sy'n ystyried eu hunain yn anffyddwyr neu sydd ddim yn ymddiddori llawer mewn crefydd o gwbl. Yr Eglwys Fore ac Oes y Seintiau Dechreuadau Daeth Cristnogaeth i Ynys Brydain yn y cyfnod Rhufeinig. Celtiaid (y Brythoniaid) oedd y trigolion brodorol, ond ymsefydlodd pobl o rannau eraill o'r Ymerodraeth Rufeinig yn eu mysg. Mae'n debyg mae yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig y cafwyd y Cristnogion cyntaf. Ar ddechrau'r 3g ceir tystiolaeth fod cenhadon Cristnogol yn weithgar yn y Brydain Rufeinig. Merthyrwyd tri ohonynt tua ganol y ganrif, sef y seintiau Aaron ac Iwliws (a ferthyrwyd yng Nghaerleon ac Alban. Cofnodir presenoldeb tri esgob o Brydain yng Nghyngor Arles yn 314. Lladin oedd iaith yr eglwys gynnar ac ymddengys iddi gymryd amser i ymwreiddio ym mywyd y bobloedd Brythoneg eu hiaith. Ni ddiflanodd amldduwiaeth y Brythoniaid dros nos ac am gyfnod hir mae'n rhaid fod y ddwy grefydd wedi bodoli ochr yn ochr. Un arall o'r Cristnogion cynnar hyn oedd Pelagius, a gollfarnwyd yn ddiweddarach fel heretig; mae lle i gredu ei fod yn Frython. Yn yr Oesoedd Canol credid mai Lucius a ddaeth \u00e2 Christnogaeth i Ynys Brydain yn yr 2g a'i fod wedi sefydlu pump talaith eglwysig gyda Chymru'n archesgobaeth yn cael ei rheoli gan esgob yng Nghaerleon, ond gwyddys erbyn heddiw nad oes sail i'r hanes. Oes y Seintiau Daeth Garmon (Germanus) o Auxerre i Brydain yn 429 i ymladd heresi Pelagius. Ymddengys fod y Gristnogaeth ar ei chryfaf yn ne-ddwyrain Cymru yr adeg honno, gyda Caerleon yn ganolbwynt. Ond er bod gwreiddiau Cristnogaeth yng Nghymru yn gorwedd yn y byd Rhufeinig, fel yn achos Iwerddon datblygodd Cymru ei ffurf arbennig o Gristnogaeth sy'n perthyn i Gristnogaeth y Celtiaid. Un o nodweddion y Gristnogaeth honno yw'r cyfnod a elwir yn Oes y Seintiau. Teithiau cenhadon ac addysgwyr trwy Gymru a rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd cynnar eraill, yn arbennig Iwerddon (cysylltir Sant Padrig \u00e2 Chymru), Cernyw a Llydaw. Trwy'r Hen Ogledd roedd yna gysylltiad cryf \u00e2'r Alban hefyd (Cyndeyrn, nawddsant Glasgow, a sefydlodd esgobaeth Llanelwy yn \u00f4l traddodiad). Y pwysicaf o'r seintiau cynnar hyn oedd Dewi Sant, ond dim ond yn ddiweddarach y daeth yn nawddsant Cymru ac mae'n bwysig cofio fod nifer o \"seintiau\" eraill yn weithgar hefyd, fel Padarn, Illtud, Seiriol, Teilo a Dyfrig, er enghraifft. Sefydlasant nifer o eglwysi, clasau (mynachlogydd cynnar) a chanolfannau dysg fel Llanilltud Fawr. Yr Oesoedd Canol Daeth newid mawr i fyd crefyddol a gwleidyddol Cymru gyda dyfodiad y Normaniaid i'r wlad yn y 1070au. Roedd cael rheolaeth ar yr eglwys Gymreig yn bwysig iddynt er mwyn tynhau eu gafael ar y wlad. Ad-drefnwyd y drefn eglwysig Gymreig a sefydlwyd trefn esgobaethol yn seiliedig ar y patrwm ar y cyfandir gyda phedair esgobaeth, sef Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bangor, Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Morgannwg. Dyma'r cyfnod pan greuwyd y plwyfi cyntaf hefyd. Pwysleiswyd awdurdod y Pab yn Rhufain fel pennaeth anffaeledig yr Eglwys. Ceisiai archesgobion Caergaint, gyda chefnogaeth brenin Lloegr, gael yr esgobion Cymreig i dyngu llw o ffyddlondeb bersonol iddo a fyddai'n tanseilio annibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Normaniaid oedd llawer o'r esgobion yn y cyfnod yma ond ceir Cymry yn eu plith yn ogystal. Ond bu adwaith a daeth cefnogaeth i'r syniad fod Cymru'n uned arbennig yn yr eglwys o gyfeiriad annisgwyl, gyda'r esgob Normanaidd Bernard ac, yn nes ymlaen, Gerallt Gymro, yn ceisio cael y Pab i gydnabod fod Cymru'n archesgobaeth gydag Esgob Tyddewi yn brimad (archesgob) arni. Ond methiant fu hynny yn y pen draw a thynwyd yr eglwys yng Nghymru i mewn i drefn newydd gydag archesgob Caergaint yn bennaeth arni. Am weddill yr Oesoedd Canol roedd Cymru'n wlad drwyadl Gatholigaidd. Roedd addoli'r seintiau brodorol yn parhau i fod yr elfen amlycaf ym mywyd crefyddol y genedl, ond cynyddodd pwsigrwydd addoliad y Santes Fair a Mair Fadlen, ynghyd \u00e2'r apostolion fel Pedr a Pawl. Byddai pobl o bob gradd yn mynd ar bererindod os medrant, gydag Ynys Enlli, Tyddewi a Treffynnon yn ganolfannau pwysig. Roedd creiriau'r saint yn ganolbwynt addoliad hefyd, fel \"Ceffyl\" Derfel yn Llandderfel, a thyrrai nifer i weld Crog Aberhonddu yng Nghymru a'r Grog yng Nghaer, a fu'n destun sawl cerdd gan y beirdd. Penwyd llawer o estroniaid yn esgobion, a throdd nifer ohonynt at awdurdod Cyfraith Ganonaidd yr Eglws Ladin, ac dipyn i beth cafodd ei chorffori yn nhalaith Caergaint. Carreg filltir yn y Seisnigio hwn yw pan dyngodd archesgob Urban (1107 - 1134), esgob Morgannwg lw o ufudd-dod i archesgob Caergaint. Yn ei feddwl ef, gwnaeth yr hyn a oedd yn iawn - cryfhau ei berthynas gyda noddwr pwerus er mwyn cadw eiddo'r Eglwys o ddwylo blewog y marchogion Normanaidd. Yn yr un drefn, penodwyd y Norman Bernard yn esgob Tyddewi yn 1115 a thyngodd lw o uffudd-dod i archesgob Caergaint ac i frenin Lloegr. Yn yr oes yma y daeth bri mawr i 'Gwlt Dewi' a chodwyd llawer o eglwysi - o Henffordd i Fae Ceredigion wedi'u cysegru i Ddewi. Yn yr adeg hon hefyd y ceisiwyd cydnabod Tyddewi fel archesgobaeth, gydag awdurdod dros egobion Cymru. Yn 1176 ac eto yn 1179 ymgyrchodd Gerallt Gymro o blaid dyrchafu statws Eglwys Dewi yn archesgob. Mawr fu dylanwad crefydd ar lenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Cafwyd nifer o destunau o Bucheddau'r Saint yn y cyfnod hwn hefyd, er enghraifft Buchedd Dewi gan Rhygyfarch. Cyfieithwyd darnau o'r Beibl yn ogystal \u00e2 nifer o ysgrythurau apocryffaidd. Canai'r beirdd awdlau a chywyddau i Dduw, y Forwyn Fair a'r seintiau. Os mai nawdd Normanaidd oedd y tu \u00f4l i Urdd Sant Bened, Rhys ap Gruffudd yn anad neb arall a sicrahodd lwyddiant Urdd y Sistersiaid, a chodwyd Ystrad Marchell yn 1170, Abaty Cwm Hir yn 1176, Llantarnam ger Caerleon yn 1189, Abaty Aberconwy yn 1186, Abaty Cymer, Meirionnydd yn 1198 ac Abaty Glyn Egwestl yn 1202, er enghraifft. Wedi'r GoncwestYn rhyfel 1282-83 difrodwyd llawer o eiddo'r eglwys ac yn 1285 talodd Edward I, brenin Lloegr oddeutu \u00a32,300 i 107 o eglwysi i'w digolledu. Gwnaeth yr archesgob Pecham archwiliad manwl o eglwysi Cymru yn 1284. Bu'r blynyddoedd dilynol yn oes aur o ran adeiladau a godwyd yn arddull Addurnedig y cyfnod, a llenyddiaeth grefyddol e.e. Llyfr Gwyn Rhydderch. erbyn 1300 roedd Cymru wedi'i rhannu'n blwyfi. Ond er hyn, erbyn dechrau'r 14g roedd yr Eglwys Gymreig fwy neu lai o dan awdurdod coron Lloegr. O 1294, trethwyd yr eglwys yng Nghymru yn drwm ac yn greulon. Erbyn 1380 dim ond 71 o fynachod oedd ar \u00f4l yng Nghymru a dau o'u beirniaid mwyaf llym oedd Dafydd ap Gwilym c Iolo Goch, ac roeddent ill dau'n gwbwl wrth-glerigaidd. Cymerwyd drosodd nifer o eglwysi Cymreig gan fynachlogydd Seisnig hefyd. Ond un o amddiffynwyr mwya'r Cymry oedd y Pab (o leiaf hyd at 1350) a pharchai'r Cymry Cymraeg gan fynnu y dylai pob bugail gwerth ei halen siarad iaith ei braidd! Diwygiad a Gwrth-ddiwygiad Ar ddiwedd y 1530au diddymwyd y mynachlogydd i gyd. Gyda'r Diwygiad Protestanaidd gwnaethpwyd Cymru yn wlad Brotestanaidd gydag Eglwys Loegr yn eglwys wladwriaethol Cymru a Lloegr. Yn 1563 pasiwyd deddf seneddol yn awdurdodi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Pedair blynedd ar \u00f4l hynny cyhoeddwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg. Yna yn 1588 cyhoeddodd yr Esgob William Morgan y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan, llyfr a fyddai'n cael effaith fawr ar yr iaith Gymraeg dros y canrifoedd nesaf. Dyma gyfnod o erlid ar y Catholigion. Merthyrwyd Richard Gwyn yn 1584 a gorfodwyd nifer o Gatholigion Cymreig fel Gruffydd Robert i ffoi i'r cyfandir. Oddi yno gwnaeth y Gwrthddiwygwyr Cymreig eu gorau i adennill i Gatholigaeth ei lle ym mywyd crefyddol y genedl, ond er iddynt gael peth llwyddiant, fel cyhoeddi'r Drych Cristionogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru, yn y dirgel (1586), ofer fu eu hymdrechion yn y diwedd. Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis Luther, Zwingli a Chalfin. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn \u00f4l credo'r Apostol Paul, Credo Nicea a'r diwygiwr Calfin \u2013 hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gw\u0177r, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd Walter Cradoc, John Myles a Vavasor Powell. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid.O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu\u2019r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parh\u00e2i\u2019r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y 18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academ\u00efau preifat. Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed R. Tudur Jones, \u2018caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau\u2019r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw\u2019r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i\u2019r dasg honno\u2019. Ymneilltuaeth a thwf y capeli Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o\u2019r enw Howell Harris dr\u00f6edigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys Talgarth. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau\u2019r Efengyl, aeth Harris i\u2019r priffyrdd a\u2019r caeau i\u2019w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tr\u00f6edigaeth Harris i\u2019w gweld fel man cychwyn y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru. Er bod Harris a nifer dda o\u2019r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i\u2019r Eglwys Sefydledig, cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i\u2019r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau Methodistaidd bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi\u2019n eglwysi Annibynnol newydd. Ynghyd ag egni\u2019r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch. Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd y werin Gymreig yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddoc\u00e2d hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai\u2019n enwadol ac eraill yn gydenwadol. Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y m\u00f4r. Bu\u2019r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagasgar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw. Wrth i\u2019r Ymneulltuwyr gynyddu eu gwaith cenhadol, cafwyd datblygiad yn eu diwinyddiaeth. Ers yr 17g, yr oedd y mwyafrif o Annibynwyr wedi bod yn Galfiniaid cadarn, yn credu bod achubiaeth yn dod yn llwyr trwy ras Duw. Ond yr oedd eu s\u00eal genhadol yn codi cwestiwn: sut y gellid gwahodd pawb yn ddiwah\u00e2n i gofleidio Crist fel Gwaredwr tra ar yr un pryd honni nad oedd gan yr unigolyn unrhyw ran yn ei iachawdwriaeth ei hun? Cafwyd dadlau brwd, ac eto, nid oedd trwych yr Ymneulltuwyr, yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr na'r Methodistiaid Calfinaidd wrth reswm yn barod i lwyr gofleidio\u2019r gred Arminaidd fod achubiaeth yn gywaith rhwng Duw a\u2019r pechadur, yn enwedig wedi i\u2019r Methodistiaid Wesleaidd, gyda\u2019u diwinyddiaeth lwyr Arminaidd, sefydlu cyfundeb yng Nghymru ym 1800. O ganol yr holl ddiwinydda ar droad y 19eg ganrif, ymddangosodd llwybr canol ar ffurf \u2018Calfinyddiaeth Fodern\u2019, neu \u2018Sustem Newydd\u2019, Edward Williams o Rotherham. Yn fab i Galfinydd a Weslead, dadleuai Williams fod yr Iawn a dalodd Crist ar y Groes yn ddigonol i bawb ond yn effeithiol i nifer neilltuol. Ar y naill law, dadleuai bod cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ymateb i\u2019r Efengyl, ond, ar y llaw arall credai mai Duw yn unig oedd yn haeddu\u2019r clod am yr achubiaeth. Bu Edward Williams yn ddylanwad ar do ifanc o weinidogion yng Nghymru, ac yn eu plith yr oedd John Roberts o Lanbrynmair, David Davies o Bant-teg a Michael Jones o Lanuwchllyn. Erbyn canol y 19eg ganrif, \u2018Sustem Newydd\u2019 Edward Williams oedd y prif safbwynt diwinyddol ymhlith Annibynwyr Cymru. Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a\u2019r Bedyddwyr. Ni ddylid rhoi\u2019r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda\u2019i gylch a\u2019i ddylanwad ei hun. Roedd arwyddion bod yr Anghydffurfwyr yn datblygu\u2019n garfan ddylanwadol dros ben yng Nghymru. Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o\u2019u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai\u2019n cyfateb i\u2019w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i\u2019w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberd\u00e2r ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y tonic sol-ffa yn allweddol i\u2019r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa. Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y Chwyldro Piwritanaidd, bu\u2019r Ymneilltuwyr yn ymh\u00e9l \u00e2 gwleidyddiaeth o\u2019u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o\u2019r agwedd wleidyddol honno yn ystod y 18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a\u2019u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth. Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi\u2019r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du\u2019r Anghydffurfwyr. Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu\u2019r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i\u2019w gwneud yn \u2018enwad\u2019 cyfartal \u00e2\u2019r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys \u2018swyddogol\u2019. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda\u2019u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu\u2019r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru i ddatgysylltu\u2019r Eglwys yn eu gwlad eu hunain. Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i\u2019r eglwysi. Yn un peth, \u2019roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o\u2019r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli. Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth yngl\u0177n \u00e2 Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a\u2019r Atgyfodiad. Nid o\u2019r tu allan y daeth pob bygythiad i Ymneulltuaeth yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o\u2019u statws a\u2019u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal \u00e2\u2019r gwahaniaethau rhwng \u2018capelwyr\u2019 a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a\u2019u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai\u2019r diwylliant capelyddol hwn yn troi\u2019n rhwystr i\u2019r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru. Datgysylltu'r Eglwys Anglicanidd Heddiw Yn \u00f4l Cyfrifiad 2001, mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn galw eu hunain yn Gristnogion, ond mae'r nifer sy'n mynychu'r eglwysi a'r capeli'n rheolaidd yn sylweddol is. Mae'r crefyddau eraill yn cynnwys Bwdiaeth (0.19%), Hindwaeth (0.19%), Iddewaeth (0.08%), Islam (0.75%), Siciaeth (0.07%) (crefyddau eraill 0.24%). Cofnodwyd 18.53% o'r boblogaeth heb arddel unrhyw grefydd o gwbl gyda 8.07% yn gwrthod ateb. Gweler hefyd Cristnogaeth: Crynwriaeth yng Nghymru Y Diafol yng Nghymru Yr Eglwys yng Nghymru Eglwys Bresbyteraidd Cymru Rhestr esgobaethau Anglicanaidd Cymru Rhestr o seintiau Cymru Tai crefydd CymruCrefyddau eraill: Iddewiaeth yng Nghymru Islam yng Nghymru Cyfeiriadau Llyfryddiaeth ddethol Ceir nifer fawr o lyfrau am Gristnogaeth yng Nghymru. Detholiad o'r llyfrau mwyaf allweddol yn unig a geir yma. Gwyn Davies, Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 (2002) Oliver Davies, Celtic Christianity in Early Medieval Wales (1996) Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (ail arg., 1976) Glanmor Williams, Wales and the Reformation (1997) R. Tudur Jones, Hanes Annibynnwyr Cymru (1966) R. Tudur Jones, Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914, dwy gyfrol (1981, 1982) D. Densil Morgan, The Span of the Cross: Christian Religion and Society in Wales, 1914-2000 (1999) Robert Pope (gol.), Religion and National Identity: Wales and Scotland, c.1700-2000 (2001) R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)","1288":"Cerdd arwrol yn Gymraeg canoloesol yw Y Gododdin. Yn draddodiadol, priodolir y gerdd i'r bardd Aneirin. Mae'n gyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne'r Alban a'i chynghreiriad, a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl o deyrnas Deifr mewn lle o'r enw Catraeth. Er bod ysgolheigion yn cytuno y byddai'r frwydr a goffeir yn y gerdd wedi digwydd oddeutu 600, mae dadl ynghylch oed y gerdd. Cred rhai ysgolheigion ei bod wedi ei chyfansoddi yn ne'r Alban yn fuan wedi'r frwydr, tra gred eraill ei bod wedi ei chyfansoddi yng Nghymru yn ddiweddarach, efallai yn y 9fed neu'r 10g. Llawysgrifau Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. Aneirin ae cant (\"Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd\"). Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai gwaith dau gop\u00efwr a welir yn Llyfr Aneirin; fe'i gelwir yn Llaw A a Llaw B. Ysgrifennodd Llaw A 88 pennill, cyn gadael tudalen wag ac ysgrifennau pedair cerdd gysylltiedig, y Gorchanau. Ysgrifennodd y cop\u00efwyr yma'r testun mewn orgraff Cymraeg Canol. Ychwanegodd Llaw B fwy o benillion yn ddiweddarach, ac i bob golwg roedd ganddo lawysgrif h\u0177n i'w chop\u00efo, gan fod y deunydd a ychwanegwyd ganddo ef yn orgraff Hen Gymraeg. Ysgrifennodd B 35 pennill, rhai ohonynt yn amrywiadau ar benillion a geir hefyd gan A, tra mae eraill yn benillion ychwanegol. Nid yw'r pennill olaf yn gyflawn, ac mae tri folio ar goll o ddiwedd y llawysgrif, felly mae'n debyg fod rhywfaint o'r gerdd wedi ei cholli. Y gerdd Yn Llyfr Aneirin, ceir pennill rhagarweiniol, a gyfansoddwyd wedi marw Aneirin: Gododin, gomynaf oth blegyt yg gwyd cant en aryal en emwyt Er pan want maws mur trin, er pan aeth daear ar Aneirin, nu neut ysgaras nat a Gododin.Mae'r gerdd ei hun yn gyfres o benillion sy'n farwnadau i arwyr a syrthiodd mewn brwydr yn erbyn byddin lawr mwy. Cyfeiria ambell bennill at y fyddin i gyd, tra mae eraill yn canmol arwyr unigol. Nid yw'r gerdd yn adrodd stori fel y cyfryw, ond gellir casglu fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi darparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn, cyn eu gyrru ar ymgyrch. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn.Sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o silliau, er bod rhywfaint o anghysondeb a allai fod yn ganlyniad diweddaru'r iaith wrth drosglwyddo'r gerdd ar lafar. Defnyddir odl, ar ddiwedd llinell ac yng nghorff y llinell, a cheir math ar gynghanedd yma ac acw. Dechreua nifer o benillion gyda'r un ymadrodd, er enghraifft \"Gwyr a aeth gatraeth gan wawr\". Mae'r pennill cyntaf o'r gerdd ei hun yn coffau arwr ieuanc o'r enw Owain: Gredyf gwr oed gwas Gwrhyt am dias Meirch mwth myngvras A dan vordwyt megyrwas ...Kynt y waet elawr Nogyt y neithyawr Kynt y vwyt y vrein Noc y argyurein Ku kyueillt ewein Kwl y uot a dan vrein Marth ym pa vro Llad un mab marroCrybwyllir medd yn amryw o'r penillion, weithiau gyda'r awgrym fod cysylltiad rhwng y medd a marwolaeth yr arwyr. Awgrymodd rhai golygyddion yn y 19g fod y rhyfelwyr wedi mynd i'r frwydr yn feddw, ond eglurodd Ifor Williams fod \"medd\" yma'n sefyll am bopeth a chai'r rhyfelwyr gan eu harglwydd. O'u hochr hwy, disgwylid iddynt \"dalu eu medd\" trwy fod yn deyrngar i'w harglwydd hyd angau. Ceir yr un syniad ym marddoniaeth gynnar yr Eingl-sacsoniaid. Marchogion yw'r rhyfelwyr yn y gerdd; ceir llawer o gyfeiriadau at geffylau. Ceir cyfeiriadau at waywffyn, cleddyfau a thariannau, ac at ddefnyddio llurig (o'r Lladin lorica). Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau sy'n awgrymu eu bod yn Gristionogion, er enghraifft \"penyd\" ac \"allor\", tra disgrifir y gelyn fel paganiaid. Gwelir enghraifft o nifer o'r pwyntiau yma ym mhennill 33: Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr A llurugeu claer a chledyuawr Ragorei tyllei trwy vydinawr Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr Ruuawn hir ef rodei eur e allawr A chet a choelvein kein y gerdawr Penillion ychwanegol Ceir ychydig o benillion sydd heb gysylltiad \u00e2 brwydr Catraeth, ac sydd i bob golwg wedi'u cynnwys yn y testun mewn camgymeriad. Mae un o'r rhain yn dathlu gorchfygu a lladd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), brenin Dal Riata, gan Owain I, brenin teyrnas Frythonaidd Alt Clut yn 642. Mae'n gorffen: ... a phen Dyfnwal Frych, brain a'i cnoyn.Nid oes gysylltiad o gwbl a rhyfela mewn pennill arall; ymddengys ei bod yn hwiangerdd i blentyn o'r enw Dinogad, yn adrodd am ei dad yn hela a physgota: Peis dinogat e vreith vreith O grwyn balaot ban wreith Chwit chwit chwidogeith Gochanwn gochenyn wyth geith Pan elei dy dat ty e helya Llath ar y ysgwyd llory eny llaw Ef gelwi gwn gogyhwch Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc Ef lledi bysc yng corwc Mal ban llad llew llywywc Pan elei dy dat ty e vynyd Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd Penn grugyar vreith o venyd Penn pysc o rayadyr derwennyd ... Cefndir hanesyddol Teyrnasoedd yr Hen Ogledd Lleoliad y gerdd yw'r Hen Ogledd, y tiriogaethau sy'n awr yn dde'r Alban a gogledd Lloegr. Tua'r flwyddyn 600 roedd nifer o deyrnasoedd Brythonig yn yr ardal yma. Heblaw'r Gododdin eu hunain, roedd Ystrad Clud neu Allt Clud yn yr hyn sy'n awr yn ardal Strathclyde yn yr Alban, a Rheged, yn yr hyn sy'n awr yn rhan o Galloway yn yr Alban a Chymbria yn Lloegr. Ymhellach i'r de roedd teyrnas Elmet (Elfed), yn yr ardal o gwmpas Leeds. Roedd y Gododdin, y Votadini yng ngyfnod y Rhufeiniaid, yn byw yn yr ardal o gwmpas y Firth of Forth a chyn belled i'r de ag Afon Wear. Eu prifddinas yn \u00f4l pob tebyg oedd Din Eidyn, yn awr Caeredin. Erbyn y flwyddyn 600 roedd yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn Northumbria ym meddiant teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich.Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, mae cyfeiriad at nifer o feirdd yn yr ardal yma yn ystod y 6g. Wedi crybwyll Ida, brenin Bernicia, sefydlydd y frenhinlin Northumbria, a deyrnasai rhwng 547 a 559, mae'r Historia yn dweud: Yr adeg honno roedd Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin, Taliesin, Blwchfardd a Cian a elwir Gweinthgwawd, ar yr un pryd yn enwog ym marddoniaeth y Brython.Nid oes dim wedi ei gadw o waith Talhaearn, Blwchfardd a Cian, ond cyhoeddwyd barddoniaeth a briodolir i Taliesin gan Ifor Williams yn Canu Taliesin; ystyriai ef eu bod yn dyddio o tua'r un cyfnod a'r Gododdin. Mae'r cerddi yma yn clodfori Urien Rheged a'i fab Owain, ac yn cyfarch Urien fel Arglwydd Catraeth. Dehongliad o'r gerdd Nid yw'r Gododdin yn gerdd sy'n adrodd stori; yn hytrach mae'n gyfres o farwnadau i arwyr a laddwyd mewn brwydr y byddai ei hanes yn gyfarwydd i'r gwrandawyr gwreiddiol. Rhaid ceisio dyfalu'r hanes o'r testun ei hun. Cynigiwyd nifer o ddadansoddiadau o'r digwyddiadau a gofnodir yn y gerdd. Ysgolhaig Cymreig o'r 19g, Thomas Stephens, oedd y cyntaf i awgrymu fod y Gododdin yr un bobl a'r Votadini ac mai Catterick yn Swydd Efrog oedd Catraeth. Cysylltodd y gerdd a Brwydr Degsastan tua 603 rhwng \u00c6thelfrith, brenin Brynaich a D\u00e1l Riata dan \u00c1ed\u00e1n mac Gabr\u00e1in. Yn ei argraffiad a chyfieithiad o Lyfr Aneirin yn 1922, awgrymodd J. Gwenogvryn Evans fod y gerdd yn cyfeirio at frwydr ger Afon Menai yn 1098, gan newid y testun i gyd-fynd \u00e2 hynny. Y dehongliad a dderbynnir gan y rhan fwyaf o ysgolheigion yw'r un a gynigiwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1938. Dywedodd ef fod mynydawc mwynvawr yn y testun yn cyfeirio at berson, Mynyddog Mwynfawr mewn Cymraeg Diweddar. Mynyddog, meddai ef, oedd brenin y Gododdin, gyda'i brif lys yng nghaer Din Eidyn (Caeredin heddiw). Tua'r flwyddyn 600, casglodd Mynyddog tua 300 o ryfelwyr dethol, rhai o gyn belled \u00e2 Gwynedd. Buont yn gwledda yn Nin Eidyn am flwyddyn, cyn mynd ar ymgyrch i Gatraeth. Cytuna Williams \u00e2 Stephens mai Catterick oedd Catraeth, ac yn y cyfnod yma roedd ym meddiant yr Eingl-Sacsoniaid. Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin fwy o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Deifr.Gwelwyd brwydr Catraeth fel ymgais i atal lledaeniad teyrnasoedd yr Eingl, oedd erbyn hynny wedi meddiannu tiroedd Bryneich yng ngogledd-ddwyrain Lloger, oedd wedi yn eiddo i'r Gododdin. Rywbryd wedi cyfnod y frwydr yma, meddianwyd teyrnas y Gododdin gan yr Eingl, efallai wedi iddynt gipio eu prifddinas, Din Eidyn, yn 638, ac ymgorfforwyd hi yn nheyrnas Northumbria. Dyddiad y gerdd Mae dyddiad cyfansoddi'r Gododdin wedi bod yn bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion ers dechrau'r 19g. Os cyfansoddwyd y gerdd yn fuan wedi'r frwydr, rhaid ei bod wedi ei chyfansoddi cyn 638, pan gofnodir i Oswy brenin Bernicia, gipio Din Eidyn, a arweiniodd yn \u00f4l pob tebyg at ddiwedd teyrnas y Gododdin. Os cafodd ei chyfansoddi yn ddiweddarach, mae'r dyddiad diweddaraf y gellir ei awgrymu yn dibynnu ar ddyddiad orgraff ail ran Llaw B yn nhestun Llyfr Aneirin. Fel rheol, ystyrir bod hwn yn perthyn i'r 9fed neu'r 10g, er bod rhai ysgolheigion yn credu y gallai ddyddio o'r 11g.Dadleuol ieithyddol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r ysgolheigion fu'n trafod dyddiad y gerdd. Casglodd Kenneth Jackson fod y rhan fwyaf o'r newidiadau a drawsnewidiodd yr iaith Frythoneg i Gymraeg Cynnar yn perthyn i gyfnod rhwng canol y 5g a diwedd y 6g. Y pwynt pwysicaf yngl\u0177n \u00e2'r newid yma oedd bod sill yn cael ei golli. Rhydd Sweetser fel esiampl yr enw Cynfelyn a geir yn y Gododdin; yn y Frythoneg, Cunobelinos fyddai'r enw. Collwyd yr o yn y canol a'r os ar y diwedd. Gan mai sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o sillau, byddai'n anodd diweddaru cerdd a gyfansoddwyd yn y Frythoneg i Gymraeg Cynnar. Barn Syr Ifor Williams, a osododd y seiliau i'r trafodaethau hyn gyda'i argraffiad o'r testun yn 1938, oedd y gellid ystyried fod o'r testun yn dyddio o ddiwedd y 6g, wedi ei drosglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei ysgrifennu. Amheuai Dillon a ellid priodoli'r gerdd i'r cyfnod yma, gan ddadlau ei bod yn anhygoel yn byddai Cymraeg Cynnar erbyn diwedd y 6g wedi datblygu yn iaith \"not notably earlier than that of the ninth century\". Awgrymodd y gallai'r gerdd fod wedi ei chyfansoddi yn y 9g ar them\u00e2u traddodiadol a'i phriodoli i Aneurin. Ystyriai Jackson, fodd bynnag, nad oedd \"sylwedd gwirioneddol\" yn y dadleuon hyn, a nododd y byddai'r farddoniaeth wedi ei throsglwyddo ar lafar am gyfnod hir cyn cael ei hysgrifennu, ac y byddai'r adroddwyr wedi ei diweddaru. Dywedodd nad oedd dim yn yr iaith yn anghyson a dyddiad tua 600. Awgryma Koch ddyddiad ychydig yn ddiweddarach, tua 570, ac mae'n awgrymu hefyd y gallai'r gerdd fod wedi ei hysgrifennu erbyn y 7c, yn llawer cynharach nag a dybir fel rheol. Wrth adolygu'r ddadl ynghylch dyddiad y gerdd yn 1997, dywed Koch: Today, the possibility of an outright forgery - which would amount to the anachronistic imposition of a modern literary concept onto early Welsh tradition - is no longer in serious contention. Rather, the narrowing spectrum of alternatives ranges from a Gododdin corpus which is mostly a literary creation of mediaeval Wales based on a fairly slender thread of traditions from the old Brittonic North to a corpus which is in large part recoverable as a text actually composed in that earlier time and place. Argraffiadau a chyfieithiadau Y tro cyntaf i ran o'r Gododdin gael ei hargraffu oedd pan gyhoeddodd Evan Evans (Ieuan Fardd) ddeg pennill gyda chyfieithiad Lladin yn ei lyfr Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards a gyhoeddwyd yn 1764. Argraffwyd y gerdd yn llawn am y tro cyntaf gan Owen Jones (Owain Myfyr) yn y Myvyrian Archaiology of Wales ym 1801 ond testun gwallus ydyw. Cyhoeddwyd cyfieithiadau Saesneg gan William Probert ym 1820 a John Williams (Ab Ithel) ym 1852. Cyhoeddodd William Forbes Skene gyfieithiad yn ei The Four Ancient Books of Wales yn 1866 a chyhoeddwyd cyfieithiad gan Thomas Stephens gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion yn 1888. Cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans argraffiad diplomateg o destun Llyfr Aneirin yn 1908 ac argraffiad gyda chyfieithiad Saesneg yn 1922. Yr argraffiad dibynadwy cyntaf o'r testun golygiedig oedd Canu Aneirin gan Syr Ifor Williams, gyda nodiadau helaeth, a gyhoeddwyd ym 1938. Ar sail y gwaith yma, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan Kenneth H. Jackson yn 1969 a fersiwn mewn Cymraeg Diweddar gyda geirfa gan A.O.H. Jarman yn 1988. Cyhoeddwyd argraffiad ffacsimili lliw o'r llawysgrif gyda rhagair gan Daniel Huws gan Gyngor Sir Dde Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1989. Ym 1997 ymddangosodd argraffiad newydd gan John Koch, oedd yn ymgais i ail-greu'r testun gwreiddiol. Bu hefyd nifer o gyfieithiadau sy'n trin y Gododdin fel llenyddiaeth yn hytrach nag fel pwnc astudiaeth ysgolheigaidd. Ymysg y rhain mae cyfieithiad Joseph P. Clancy yn The earliest Welsh poetry (1970) a chyfieithiad Steve Short yn 1994. Nodiadau Llyfryddiaeth Berggren, J. Lennart ac Alexander Jones. \"Ptolemy's Geography: An Annotated Translation of the Theoretical Chapters.\" Princeton University Press: Princeton a Rhydychen. ISBN 0-691-01042-0 Breeze, Andrew. 1997. Medieval Welsh literature. Four Courts Press. ISBN 1-85182-229-1 Charles-Edwards, Thomas. 1978. \"The authenticity of the Gododdin: a historian's view\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 pp.\u00a044\u201371 Clancy, Joseph P. 1970. The earliest Welsh poetry. Macmillan. Clarkson, Tim. 1999. \"The Gododdin Revisited\" Archifwyd 2008-05-29 yn y Peiriant Wayback. yn The Heroic Age 1. Awst 21, 2006. Dillon, Myles and Nora K. Chadwick. 1973. The Celtic realms Cardinal. ISBN 0-351-15808-1 Dumville, D. 1988. \"Early Welsh poetry:problems of historicity\" yn Roberts, Brynley F. (ed) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Evans, D. Simon. 1977. \"Aneirin- bardd Cristionogol?\" yn Ysgrifau Beirniadol 10. Gwasg Gee. tt. 35-44 Evans, D. Simon. 1978. \"Iaith y Gododdin\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 tt. 72-88 Evans, D. Simon. 1982. Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod\u00a0: darlith goffa G.J. Williams Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0817-1 Evans, Stephen S. 1997. \"The heroic poetry of Dark-Age Britain\u00a0: an introduction to its dating, composition, and use as a historical source.\" Lanham, Md.: University Press of America. ISBN 0-7618-0606-7 Greene, David. 1971. \"Linguistic considerations in the dating of early Welsh verse\". Studia Celtica VI, tt. 1-11 Huws, Daniel (ed.). 1989. Llyfr Aneurin: a facsimile. Cyngor Sir De Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-33-1 Isaac, G.R. 1999. \"Readings in the history and transmission of the Gododdin. Cambrian Medieval Celtic Studies 37 tt. 55-78 Jackson, Kenneth H. 1953. Language and history in early Britain: a chronological survey of the Brittonic languages first to twelfth century A.D. Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. Jackson, Kenneth H. 1969. \"The Gododdin: The Oldest Scottish poem.\" Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. ISBN 0-85224-049-X Jarman, A.O.H. (ed.) 1988. Y Gododdin. Britain's Oldest Heroic Poem. The Welsh Classics vol. 3. Gwasg Gomer. ISBN 0-86383-354-3 Koch, John T. 1997. \"The Gododdin of Aneurin: text and context from Dark-Age North Britain.\" Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1374-4 O'Hehir, Brendan. 1988. \"What is the Gododdin\" yn Roberts, Brynley F. (gol) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Padel, Oliver. 1998. \"A New Study of the Gododdin\" yn Cambrian Medieval Celtic Studies 35. Short, Steve. 1994. Aneirin: The Gododdin, translated by Steve Short. Llanerch Publishers. ISBN 1-897853-27-0 Stephens, Thomas. 1876. The literature of the Kymry: being a critical essay on the history of the language and literature of Wales Ail argraffiad. Longmans, Green and Co.. Sweetser, Eve. 1988. \"Line-structure and rhan-structure: the metrical units of the Gododdin corpus\" yn Roberts, Brynley F. (gol.) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X tt. 139-154 Turner, Sharon. 1803. A vindication of the genuiness of the ancient British poems of Aneurin, Taliesyn, Llywarch Hen and Merddin, with specimens of the poems. E. Williams. Williams, Ifor. 1938. \"Canu Aneirin: gyda rhagymadrodd a nodiadau.\" Aberystwyth: Gwasg Prifysgol Cymru. Williams, Ifor. 1944. \"Lectures on early Welsh poetry.\" Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies, 1944. Williams, Ifor. 1980. \"The beginnings of Welsh poetry: studies.\" Rachel Bromwich (gol.); Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, ail argraffiad. ISBN 0-7083-0744-2 Wmffre, Iwan. 2002. \"Mynydawc - ruler of Edinburgh?\" Studi Celtici 1 tt.83-105 Cysylltiad allanol Testun llawn Y Gododdin ar Wicitestun","1289":"Cerdd arwrol yn Gymraeg canoloesol yw Y Gododdin. Yn draddodiadol, priodolir y gerdd i'r bardd Aneirin. Mae'n gyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne'r Alban a'i chynghreiriad, a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl o deyrnas Deifr mewn lle o'r enw Catraeth. Er bod ysgolheigion yn cytuno y byddai'r frwydr a goffeir yn y gerdd wedi digwydd oddeutu 600, mae dadl ynghylch oed y gerdd. Cred rhai ysgolheigion ei bod wedi ei chyfansoddi yn ne'r Alban yn fuan wedi'r frwydr, tra gred eraill ei bod wedi ei chyfansoddi yng Nghymru yn ddiweddarach, efallai yn y 9fed neu'r 10g. Llawysgrifau Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. Aneirin ae cant (\"Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd\"). Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai gwaith dau gop\u00efwr a welir yn Llyfr Aneirin; fe'i gelwir yn Llaw A a Llaw B. Ysgrifennodd Llaw A 88 pennill, cyn gadael tudalen wag ac ysgrifennau pedair cerdd gysylltiedig, y Gorchanau. Ysgrifennodd y cop\u00efwyr yma'r testun mewn orgraff Cymraeg Canol. Ychwanegodd Llaw B fwy o benillion yn ddiweddarach, ac i bob golwg roedd ganddo lawysgrif h\u0177n i'w chop\u00efo, gan fod y deunydd a ychwanegwyd ganddo ef yn orgraff Hen Gymraeg. Ysgrifennodd B 35 pennill, rhai ohonynt yn amrywiadau ar benillion a geir hefyd gan A, tra mae eraill yn benillion ychwanegol. Nid yw'r pennill olaf yn gyflawn, ac mae tri folio ar goll o ddiwedd y llawysgrif, felly mae'n debyg fod rhywfaint o'r gerdd wedi ei cholli. Y gerdd Yn Llyfr Aneirin, ceir pennill rhagarweiniol, a gyfansoddwyd wedi marw Aneirin: Gododin, gomynaf oth blegyt yg gwyd cant en aryal en emwyt Er pan want maws mur trin, er pan aeth daear ar Aneirin, nu neut ysgaras nat a Gododin.Mae'r gerdd ei hun yn gyfres o benillion sy'n farwnadau i arwyr a syrthiodd mewn brwydr yn erbyn byddin lawr mwy. Cyfeiria ambell bennill at y fyddin i gyd, tra mae eraill yn canmol arwyr unigol. Nid yw'r gerdd yn adrodd stori fel y cyfryw, ond gellir casglu fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi darparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn, cyn eu gyrru ar ymgyrch. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn.Sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o silliau, er bod rhywfaint o anghysondeb a allai fod yn ganlyniad diweddaru'r iaith wrth drosglwyddo'r gerdd ar lafar. Defnyddir odl, ar ddiwedd llinell ac yng nghorff y llinell, a cheir math ar gynghanedd yma ac acw. Dechreua nifer o benillion gyda'r un ymadrodd, er enghraifft \"Gwyr a aeth gatraeth gan wawr\". Mae'r pennill cyntaf o'r gerdd ei hun yn coffau arwr ieuanc o'r enw Owain: Gredyf gwr oed gwas Gwrhyt am dias Meirch mwth myngvras A dan vordwyt megyrwas ...Kynt y waet elawr Nogyt y neithyawr Kynt y vwyt y vrein Noc y argyurein Ku kyueillt ewein Kwl y uot a dan vrein Marth ym pa vro Llad un mab marroCrybwyllir medd yn amryw o'r penillion, weithiau gyda'r awgrym fod cysylltiad rhwng y medd a marwolaeth yr arwyr. Awgrymodd rhai golygyddion yn y 19g fod y rhyfelwyr wedi mynd i'r frwydr yn feddw, ond eglurodd Ifor Williams fod \"medd\" yma'n sefyll am bopeth a chai'r rhyfelwyr gan eu harglwydd. O'u hochr hwy, disgwylid iddynt \"dalu eu medd\" trwy fod yn deyrngar i'w harglwydd hyd angau. Ceir yr un syniad ym marddoniaeth gynnar yr Eingl-sacsoniaid. Marchogion yw'r rhyfelwyr yn y gerdd; ceir llawer o gyfeiriadau at geffylau. Ceir cyfeiriadau at waywffyn, cleddyfau a thariannau, ac at ddefnyddio llurig (o'r Lladin lorica). Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau sy'n awgrymu eu bod yn Gristionogion, er enghraifft \"penyd\" ac \"allor\", tra disgrifir y gelyn fel paganiaid. Gwelir enghraifft o nifer o'r pwyntiau yma ym mhennill 33: Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr A llurugeu claer a chledyuawr Ragorei tyllei trwy vydinawr Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr Ruuawn hir ef rodei eur e allawr A chet a choelvein kein y gerdawr Penillion ychwanegol Ceir ychydig o benillion sydd heb gysylltiad \u00e2 brwydr Catraeth, ac sydd i bob golwg wedi'u cynnwys yn y testun mewn camgymeriad. Mae un o'r rhain yn dathlu gorchfygu a lladd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), brenin Dal Riata, gan Owain I, brenin teyrnas Frythonaidd Alt Clut yn 642. Mae'n gorffen: ... a phen Dyfnwal Frych, brain a'i cnoyn.Nid oes gysylltiad o gwbl a rhyfela mewn pennill arall; ymddengys ei bod yn hwiangerdd i blentyn o'r enw Dinogad, yn adrodd am ei dad yn hela a physgota: Peis dinogat e vreith vreith O grwyn balaot ban wreith Chwit chwit chwidogeith Gochanwn gochenyn wyth geith Pan elei dy dat ty e helya Llath ar y ysgwyd llory eny llaw Ef gelwi gwn gogyhwch Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc Ef lledi bysc yng corwc Mal ban llad llew llywywc Pan elei dy dat ty e vynyd Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd Penn grugyar vreith o venyd Penn pysc o rayadyr derwennyd ... Cefndir hanesyddol Teyrnasoedd yr Hen Ogledd Lleoliad y gerdd yw'r Hen Ogledd, y tiriogaethau sy'n awr yn dde'r Alban a gogledd Lloegr. Tua'r flwyddyn 600 roedd nifer o deyrnasoedd Brythonig yn yr ardal yma. Heblaw'r Gododdin eu hunain, roedd Ystrad Clud neu Allt Clud yn yr hyn sy'n awr yn ardal Strathclyde yn yr Alban, a Rheged, yn yr hyn sy'n awr yn rhan o Galloway yn yr Alban a Chymbria yn Lloegr. Ymhellach i'r de roedd teyrnas Elmet (Elfed), yn yr ardal o gwmpas Leeds. Roedd y Gododdin, y Votadini yng ngyfnod y Rhufeiniaid, yn byw yn yr ardal o gwmpas y Firth of Forth a chyn belled i'r de ag Afon Wear. Eu prifddinas yn \u00f4l pob tebyg oedd Din Eidyn, yn awr Caeredin. Erbyn y flwyddyn 600 roedd yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn Northumbria ym meddiant teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich.Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, mae cyfeiriad at nifer o feirdd yn yr ardal yma yn ystod y 6g. Wedi crybwyll Ida, brenin Bernicia, sefydlydd y frenhinlin Northumbria, a deyrnasai rhwng 547 a 559, mae'r Historia yn dweud: Yr adeg honno roedd Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin, Taliesin, Blwchfardd a Cian a elwir Gweinthgwawd, ar yr un pryd yn enwog ym marddoniaeth y Brython.Nid oes dim wedi ei gadw o waith Talhaearn, Blwchfardd a Cian, ond cyhoeddwyd barddoniaeth a briodolir i Taliesin gan Ifor Williams yn Canu Taliesin; ystyriai ef eu bod yn dyddio o tua'r un cyfnod a'r Gododdin. Mae'r cerddi yma yn clodfori Urien Rheged a'i fab Owain, ac yn cyfarch Urien fel Arglwydd Catraeth. Dehongliad o'r gerdd Nid yw'r Gododdin yn gerdd sy'n adrodd stori; yn hytrach mae'n gyfres o farwnadau i arwyr a laddwyd mewn brwydr y byddai ei hanes yn gyfarwydd i'r gwrandawyr gwreiddiol. Rhaid ceisio dyfalu'r hanes o'r testun ei hun. Cynigiwyd nifer o ddadansoddiadau o'r digwyddiadau a gofnodir yn y gerdd. Ysgolhaig Cymreig o'r 19g, Thomas Stephens, oedd y cyntaf i awgrymu fod y Gododdin yr un bobl a'r Votadini ac mai Catterick yn Swydd Efrog oedd Catraeth. Cysylltodd y gerdd a Brwydr Degsastan tua 603 rhwng \u00c6thelfrith, brenin Brynaich a D\u00e1l Riata dan \u00c1ed\u00e1n mac Gabr\u00e1in. Yn ei argraffiad a chyfieithiad o Lyfr Aneirin yn 1922, awgrymodd J. Gwenogvryn Evans fod y gerdd yn cyfeirio at frwydr ger Afon Menai yn 1098, gan newid y testun i gyd-fynd \u00e2 hynny. Y dehongliad a dderbynnir gan y rhan fwyaf o ysgolheigion yw'r un a gynigiwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1938. Dywedodd ef fod mynydawc mwynvawr yn y testun yn cyfeirio at berson, Mynyddog Mwynfawr mewn Cymraeg Diweddar. Mynyddog, meddai ef, oedd brenin y Gododdin, gyda'i brif lys yng nghaer Din Eidyn (Caeredin heddiw). Tua'r flwyddyn 600, casglodd Mynyddog tua 300 o ryfelwyr dethol, rhai o gyn belled \u00e2 Gwynedd. Buont yn gwledda yn Nin Eidyn am flwyddyn, cyn mynd ar ymgyrch i Gatraeth. Cytuna Williams \u00e2 Stephens mai Catterick oedd Catraeth, ac yn y cyfnod yma roedd ym meddiant yr Eingl-Sacsoniaid. Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin fwy o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Deifr.Gwelwyd brwydr Catraeth fel ymgais i atal lledaeniad teyrnasoedd yr Eingl, oedd erbyn hynny wedi meddiannu tiroedd Bryneich yng ngogledd-ddwyrain Lloger, oedd wedi yn eiddo i'r Gododdin. Rywbryd wedi cyfnod y frwydr yma, meddianwyd teyrnas y Gododdin gan yr Eingl, efallai wedi iddynt gipio eu prifddinas, Din Eidyn, yn 638, ac ymgorfforwyd hi yn nheyrnas Northumbria. Dyddiad y gerdd Mae dyddiad cyfansoddi'r Gododdin wedi bod yn bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion ers dechrau'r 19g. Os cyfansoddwyd y gerdd yn fuan wedi'r frwydr, rhaid ei bod wedi ei chyfansoddi cyn 638, pan gofnodir i Oswy brenin Bernicia, gipio Din Eidyn, a arweiniodd yn \u00f4l pob tebyg at ddiwedd teyrnas y Gododdin. Os cafodd ei chyfansoddi yn ddiweddarach, mae'r dyddiad diweddaraf y gellir ei awgrymu yn dibynnu ar ddyddiad orgraff ail ran Llaw B yn nhestun Llyfr Aneirin. Fel rheol, ystyrir bod hwn yn perthyn i'r 9fed neu'r 10g, er bod rhai ysgolheigion yn credu y gallai ddyddio o'r 11g.Dadleuol ieithyddol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r ysgolheigion fu'n trafod dyddiad y gerdd. Casglodd Kenneth Jackson fod y rhan fwyaf o'r newidiadau a drawsnewidiodd yr iaith Frythoneg i Gymraeg Cynnar yn perthyn i gyfnod rhwng canol y 5g a diwedd y 6g. Y pwynt pwysicaf yngl\u0177n \u00e2'r newid yma oedd bod sill yn cael ei golli. Rhydd Sweetser fel esiampl yr enw Cynfelyn a geir yn y Gododdin; yn y Frythoneg, Cunobelinos fyddai'r enw. Collwyd yr o yn y canol a'r os ar y diwedd. Gan mai sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o sillau, byddai'n anodd diweddaru cerdd a gyfansoddwyd yn y Frythoneg i Gymraeg Cynnar. Barn Syr Ifor Williams, a osododd y seiliau i'r trafodaethau hyn gyda'i argraffiad o'r testun yn 1938, oedd y gellid ystyried fod o'r testun yn dyddio o ddiwedd y 6g, wedi ei drosglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei ysgrifennu. Amheuai Dillon a ellid priodoli'r gerdd i'r cyfnod yma, gan ddadlau ei bod yn anhygoel yn byddai Cymraeg Cynnar erbyn diwedd y 6g wedi datblygu yn iaith \"not notably earlier than that of the ninth century\". Awgrymodd y gallai'r gerdd fod wedi ei chyfansoddi yn y 9g ar them\u00e2u traddodiadol a'i phriodoli i Aneurin. Ystyriai Jackson, fodd bynnag, nad oedd \"sylwedd gwirioneddol\" yn y dadleuon hyn, a nododd y byddai'r farddoniaeth wedi ei throsglwyddo ar lafar am gyfnod hir cyn cael ei hysgrifennu, ac y byddai'r adroddwyr wedi ei diweddaru. Dywedodd nad oedd dim yn yr iaith yn anghyson a dyddiad tua 600. Awgryma Koch ddyddiad ychydig yn ddiweddarach, tua 570, ac mae'n awgrymu hefyd y gallai'r gerdd fod wedi ei hysgrifennu erbyn y 7c, yn llawer cynharach nag a dybir fel rheol. Wrth adolygu'r ddadl ynghylch dyddiad y gerdd yn 1997, dywed Koch: Today, the possibility of an outright forgery - which would amount to the anachronistic imposition of a modern literary concept onto early Welsh tradition - is no longer in serious contention. Rather, the narrowing spectrum of alternatives ranges from a Gododdin corpus which is mostly a literary creation of mediaeval Wales based on a fairly slender thread of traditions from the old Brittonic North to a corpus which is in large part recoverable as a text actually composed in that earlier time and place. Argraffiadau a chyfieithiadau Y tro cyntaf i ran o'r Gododdin gael ei hargraffu oedd pan gyhoeddodd Evan Evans (Ieuan Fardd) ddeg pennill gyda chyfieithiad Lladin yn ei lyfr Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards a gyhoeddwyd yn 1764. Argraffwyd y gerdd yn llawn am y tro cyntaf gan Owen Jones (Owain Myfyr) yn y Myvyrian Archaiology of Wales ym 1801 ond testun gwallus ydyw. Cyhoeddwyd cyfieithiadau Saesneg gan William Probert ym 1820 a John Williams (Ab Ithel) ym 1852. Cyhoeddodd William Forbes Skene gyfieithiad yn ei The Four Ancient Books of Wales yn 1866 a chyhoeddwyd cyfieithiad gan Thomas Stephens gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion yn 1888. Cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans argraffiad diplomateg o destun Llyfr Aneirin yn 1908 ac argraffiad gyda chyfieithiad Saesneg yn 1922. Yr argraffiad dibynadwy cyntaf o'r testun golygiedig oedd Canu Aneirin gan Syr Ifor Williams, gyda nodiadau helaeth, a gyhoeddwyd ym 1938. Ar sail y gwaith yma, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan Kenneth H. Jackson yn 1969 a fersiwn mewn Cymraeg Diweddar gyda geirfa gan A.O.H. Jarman yn 1988. Cyhoeddwyd argraffiad ffacsimili lliw o'r llawysgrif gyda rhagair gan Daniel Huws gan Gyngor Sir Dde Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1989. Ym 1997 ymddangosodd argraffiad newydd gan John Koch, oedd yn ymgais i ail-greu'r testun gwreiddiol. Bu hefyd nifer o gyfieithiadau sy'n trin y Gododdin fel llenyddiaeth yn hytrach nag fel pwnc astudiaeth ysgolheigaidd. Ymysg y rhain mae cyfieithiad Joseph P. Clancy yn The earliest Welsh poetry (1970) a chyfieithiad Steve Short yn 1994. Nodiadau Llyfryddiaeth Berggren, J. Lennart ac Alexander Jones. \"Ptolemy's Geography: An Annotated Translation of the Theoretical Chapters.\" Princeton University Press: Princeton a Rhydychen. ISBN 0-691-01042-0 Breeze, Andrew. 1997. Medieval Welsh literature. Four Courts Press. ISBN 1-85182-229-1 Charles-Edwards, Thomas. 1978. \"The authenticity of the Gododdin: a historian's view\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 pp.\u00a044\u201371 Clancy, Joseph P. 1970. The earliest Welsh poetry. Macmillan. Clarkson, Tim. 1999. \"The Gododdin Revisited\" Archifwyd 2008-05-29 yn y Peiriant Wayback. yn The Heroic Age 1. Awst 21, 2006. Dillon, Myles and Nora K. Chadwick. 1973. The Celtic realms Cardinal. ISBN 0-351-15808-1 Dumville, D. 1988. \"Early Welsh poetry:problems of historicity\" yn Roberts, Brynley F. (ed) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Evans, D. Simon. 1977. \"Aneirin- bardd Cristionogol?\" yn Ysgrifau Beirniadol 10. Gwasg Gee. tt. 35-44 Evans, D. Simon. 1978. \"Iaith y Gododdin\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 tt. 72-88 Evans, D. Simon. 1982. Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod\u00a0: darlith goffa G.J. Williams Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0817-1 Evans, Stephen S. 1997. \"The heroic poetry of Dark-Age Britain\u00a0: an introduction to its dating, composition, and use as a historical source.\" Lanham, Md.: University Press of America. ISBN 0-7618-0606-7 Greene, David. 1971. \"Linguistic considerations in the dating of early Welsh verse\". Studia Celtica VI, tt. 1-11 Huws, Daniel (ed.). 1989. Llyfr Aneurin: a facsimile. Cyngor Sir De Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-33-1 Isaac, G.R. 1999. \"Readings in the history and transmission of the Gododdin. Cambrian Medieval Celtic Studies 37 tt. 55-78 Jackson, Kenneth H. 1953. Language and history in early Britain: a chronological survey of the Brittonic languages first to twelfth century A.D. Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. Jackson, Kenneth H. 1969. \"The Gododdin: The Oldest Scottish poem.\" Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. ISBN 0-85224-049-X Jarman, A.O.H. (ed.) 1988. Y Gododdin. Britain's Oldest Heroic Poem. The Welsh Classics vol. 3. Gwasg Gomer. ISBN 0-86383-354-3 Koch, John T. 1997. \"The Gododdin of Aneurin: text and context from Dark-Age North Britain.\" Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1374-4 O'Hehir, Brendan. 1988. \"What is the Gododdin\" yn Roberts, Brynley F. (gol) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Padel, Oliver. 1998. \"A New Study of the Gododdin\" yn Cambrian Medieval Celtic Studies 35. Short, Steve. 1994. Aneirin: The Gododdin, translated by Steve Short. Llanerch Publishers. ISBN 1-897853-27-0 Stephens, Thomas. 1876. The literature of the Kymry: being a critical essay on the history of the language and literature of Wales Ail argraffiad. Longmans, Green and Co.. Sweetser, Eve. 1988. \"Line-structure and rhan-structure: the metrical units of the Gododdin corpus\" yn Roberts, Brynley F. (gol.) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X tt. 139-154 Turner, Sharon. 1803. A vindication of the genuiness of the ancient British poems of Aneurin, Taliesyn, Llywarch Hen and Merddin, with specimens of the poems. E. Williams. Williams, Ifor. 1938. \"Canu Aneirin: gyda rhagymadrodd a nodiadau.\" Aberystwyth: Gwasg Prifysgol Cymru. Williams, Ifor. 1944. \"Lectures on early Welsh poetry.\" Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies, 1944. Williams, Ifor. 1980. \"The beginnings of Welsh poetry: studies.\" Rachel Bromwich (gol.); Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, ail argraffiad. ISBN 0-7083-0744-2 Wmffre, Iwan. 2002. \"Mynydawc - ruler of Edinburgh?\" Studi Celtici 1 tt.83-105 Cysylltiad allanol Testun llawn Y Gododdin ar Wicitestun","1290":"Cerdd arwrol yn Gymraeg canoloesol yw Y Gododdin. Yn draddodiadol, priodolir y gerdd i'r bardd Aneirin. Mae'n gyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne'r Alban a'i chynghreiriad, a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl o deyrnas Deifr mewn lle o'r enw Catraeth. Er bod ysgolheigion yn cytuno y byddai'r frwydr a goffeir yn y gerdd wedi digwydd oddeutu 600, mae dadl ynghylch oed y gerdd. Cred rhai ysgolheigion ei bod wedi ei chyfansoddi yn ne'r Alban yn fuan wedi'r frwydr, tra gred eraill ei bod wedi ei chyfansoddi yng Nghymru yn ddiweddarach, efallai yn y 9fed neu'r 10g. Llawysgrifau Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. Aneirin ae cant (\"Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd\"). Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai gwaith dau gop\u00efwr a welir yn Llyfr Aneirin; fe'i gelwir yn Llaw A a Llaw B. Ysgrifennodd Llaw A 88 pennill, cyn gadael tudalen wag ac ysgrifennau pedair cerdd gysylltiedig, y Gorchanau. Ysgrifennodd y cop\u00efwyr yma'r testun mewn orgraff Cymraeg Canol. Ychwanegodd Llaw B fwy o benillion yn ddiweddarach, ac i bob golwg roedd ganddo lawysgrif h\u0177n i'w chop\u00efo, gan fod y deunydd a ychwanegwyd ganddo ef yn orgraff Hen Gymraeg. Ysgrifennodd B 35 pennill, rhai ohonynt yn amrywiadau ar benillion a geir hefyd gan A, tra mae eraill yn benillion ychwanegol. Nid yw'r pennill olaf yn gyflawn, ac mae tri folio ar goll o ddiwedd y llawysgrif, felly mae'n debyg fod rhywfaint o'r gerdd wedi ei cholli. Y gerdd Yn Llyfr Aneirin, ceir pennill rhagarweiniol, a gyfansoddwyd wedi marw Aneirin: Gododin, gomynaf oth blegyt yg gwyd cant en aryal en emwyt Er pan want maws mur trin, er pan aeth daear ar Aneirin, nu neut ysgaras nat a Gododin.Mae'r gerdd ei hun yn gyfres o benillion sy'n farwnadau i arwyr a syrthiodd mewn brwydr yn erbyn byddin lawr mwy. Cyfeiria ambell bennill at y fyddin i gyd, tra mae eraill yn canmol arwyr unigol. Nid yw'r gerdd yn adrodd stori fel y cyfryw, ond gellir casglu fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi darparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn, cyn eu gyrru ar ymgyrch. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn.Sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o silliau, er bod rhywfaint o anghysondeb a allai fod yn ganlyniad diweddaru'r iaith wrth drosglwyddo'r gerdd ar lafar. Defnyddir odl, ar ddiwedd llinell ac yng nghorff y llinell, a cheir math ar gynghanedd yma ac acw. Dechreua nifer o benillion gyda'r un ymadrodd, er enghraifft \"Gwyr a aeth gatraeth gan wawr\". Mae'r pennill cyntaf o'r gerdd ei hun yn coffau arwr ieuanc o'r enw Owain: Gredyf gwr oed gwas Gwrhyt am dias Meirch mwth myngvras A dan vordwyt megyrwas ...Kynt y waet elawr Nogyt y neithyawr Kynt y vwyt y vrein Noc y argyurein Ku kyueillt ewein Kwl y uot a dan vrein Marth ym pa vro Llad un mab marroCrybwyllir medd yn amryw o'r penillion, weithiau gyda'r awgrym fod cysylltiad rhwng y medd a marwolaeth yr arwyr. Awgrymodd rhai golygyddion yn y 19g fod y rhyfelwyr wedi mynd i'r frwydr yn feddw, ond eglurodd Ifor Williams fod \"medd\" yma'n sefyll am bopeth a chai'r rhyfelwyr gan eu harglwydd. O'u hochr hwy, disgwylid iddynt \"dalu eu medd\" trwy fod yn deyrngar i'w harglwydd hyd angau. Ceir yr un syniad ym marddoniaeth gynnar yr Eingl-sacsoniaid. Marchogion yw'r rhyfelwyr yn y gerdd; ceir llawer o gyfeiriadau at geffylau. Ceir cyfeiriadau at waywffyn, cleddyfau a thariannau, ac at ddefnyddio llurig (o'r Lladin lorica). Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau sy'n awgrymu eu bod yn Gristionogion, er enghraifft \"penyd\" ac \"allor\", tra disgrifir y gelyn fel paganiaid. Gwelir enghraifft o nifer o'r pwyntiau yma ym mhennill 33: Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr A llurugeu claer a chledyuawr Ragorei tyllei trwy vydinawr Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr Ruuawn hir ef rodei eur e allawr A chet a choelvein kein y gerdawr Penillion ychwanegol Ceir ychydig o benillion sydd heb gysylltiad \u00e2 brwydr Catraeth, ac sydd i bob golwg wedi'u cynnwys yn y testun mewn camgymeriad. Mae un o'r rhain yn dathlu gorchfygu a lladd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), brenin Dal Riata, gan Owain I, brenin teyrnas Frythonaidd Alt Clut yn 642. Mae'n gorffen: ... a phen Dyfnwal Frych, brain a'i cnoyn.Nid oes gysylltiad o gwbl a rhyfela mewn pennill arall; ymddengys ei bod yn hwiangerdd i blentyn o'r enw Dinogad, yn adrodd am ei dad yn hela a physgota: Peis dinogat e vreith vreith O grwyn balaot ban wreith Chwit chwit chwidogeith Gochanwn gochenyn wyth geith Pan elei dy dat ty e helya Llath ar y ysgwyd llory eny llaw Ef gelwi gwn gogyhwch Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc Ef lledi bysc yng corwc Mal ban llad llew llywywc Pan elei dy dat ty e vynyd Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd Penn grugyar vreith o venyd Penn pysc o rayadyr derwennyd ... Cefndir hanesyddol Teyrnasoedd yr Hen Ogledd Lleoliad y gerdd yw'r Hen Ogledd, y tiriogaethau sy'n awr yn dde'r Alban a gogledd Lloegr. Tua'r flwyddyn 600 roedd nifer o deyrnasoedd Brythonig yn yr ardal yma. Heblaw'r Gododdin eu hunain, roedd Ystrad Clud neu Allt Clud yn yr hyn sy'n awr yn ardal Strathclyde yn yr Alban, a Rheged, yn yr hyn sy'n awr yn rhan o Galloway yn yr Alban a Chymbria yn Lloegr. Ymhellach i'r de roedd teyrnas Elmet (Elfed), yn yr ardal o gwmpas Leeds. Roedd y Gododdin, y Votadini yng ngyfnod y Rhufeiniaid, yn byw yn yr ardal o gwmpas y Firth of Forth a chyn belled i'r de ag Afon Wear. Eu prifddinas yn \u00f4l pob tebyg oedd Din Eidyn, yn awr Caeredin. Erbyn y flwyddyn 600 roedd yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn Northumbria ym meddiant teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich.Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, mae cyfeiriad at nifer o feirdd yn yr ardal yma yn ystod y 6g. Wedi crybwyll Ida, brenin Bernicia, sefydlydd y frenhinlin Northumbria, a deyrnasai rhwng 547 a 559, mae'r Historia yn dweud: Yr adeg honno roedd Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin, Taliesin, Blwchfardd a Cian a elwir Gweinthgwawd, ar yr un pryd yn enwog ym marddoniaeth y Brython.Nid oes dim wedi ei gadw o waith Talhaearn, Blwchfardd a Cian, ond cyhoeddwyd barddoniaeth a briodolir i Taliesin gan Ifor Williams yn Canu Taliesin; ystyriai ef eu bod yn dyddio o tua'r un cyfnod a'r Gododdin. Mae'r cerddi yma yn clodfori Urien Rheged a'i fab Owain, ac yn cyfarch Urien fel Arglwydd Catraeth. Dehongliad o'r gerdd Nid yw'r Gododdin yn gerdd sy'n adrodd stori; yn hytrach mae'n gyfres o farwnadau i arwyr a laddwyd mewn brwydr y byddai ei hanes yn gyfarwydd i'r gwrandawyr gwreiddiol. Rhaid ceisio dyfalu'r hanes o'r testun ei hun. Cynigiwyd nifer o ddadansoddiadau o'r digwyddiadau a gofnodir yn y gerdd. Ysgolhaig Cymreig o'r 19g, Thomas Stephens, oedd y cyntaf i awgrymu fod y Gododdin yr un bobl a'r Votadini ac mai Catterick yn Swydd Efrog oedd Catraeth. Cysylltodd y gerdd a Brwydr Degsastan tua 603 rhwng \u00c6thelfrith, brenin Brynaich a D\u00e1l Riata dan \u00c1ed\u00e1n mac Gabr\u00e1in. Yn ei argraffiad a chyfieithiad o Lyfr Aneirin yn 1922, awgrymodd J. Gwenogvryn Evans fod y gerdd yn cyfeirio at frwydr ger Afon Menai yn 1098, gan newid y testun i gyd-fynd \u00e2 hynny. Y dehongliad a dderbynnir gan y rhan fwyaf o ysgolheigion yw'r un a gynigiwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1938. Dywedodd ef fod mynydawc mwynvawr yn y testun yn cyfeirio at berson, Mynyddog Mwynfawr mewn Cymraeg Diweddar. Mynyddog, meddai ef, oedd brenin y Gododdin, gyda'i brif lys yng nghaer Din Eidyn (Caeredin heddiw). Tua'r flwyddyn 600, casglodd Mynyddog tua 300 o ryfelwyr dethol, rhai o gyn belled \u00e2 Gwynedd. Buont yn gwledda yn Nin Eidyn am flwyddyn, cyn mynd ar ymgyrch i Gatraeth. Cytuna Williams \u00e2 Stephens mai Catterick oedd Catraeth, ac yn y cyfnod yma roedd ym meddiant yr Eingl-Sacsoniaid. Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin fwy o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Deifr.Gwelwyd brwydr Catraeth fel ymgais i atal lledaeniad teyrnasoedd yr Eingl, oedd erbyn hynny wedi meddiannu tiroedd Bryneich yng ngogledd-ddwyrain Lloger, oedd wedi yn eiddo i'r Gododdin. Rywbryd wedi cyfnod y frwydr yma, meddianwyd teyrnas y Gododdin gan yr Eingl, efallai wedi iddynt gipio eu prifddinas, Din Eidyn, yn 638, ac ymgorfforwyd hi yn nheyrnas Northumbria. Dyddiad y gerdd Mae dyddiad cyfansoddi'r Gododdin wedi bod yn bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion ers dechrau'r 19g. Os cyfansoddwyd y gerdd yn fuan wedi'r frwydr, rhaid ei bod wedi ei chyfansoddi cyn 638, pan gofnodir i Oswy brenin Bernicia, gipio Din Eidyn, a arweiniodd yn \u00f4l pob tebyg at ddiwedd teyrnas y Gododdin. Os cafodd ei chyfansoddi yn ddiweddarach, mae'r dyddiad diweddaraf y gellir ei awgrymu yn dibynnu ar ddyddiad orgraff ail ran Llaw B yn nhestun Llyfr Aneirin. Fel rheol, ystyrir bod hwn yn perthyn i'r 9fed neu'r 10g, er bod rhai ysgolheigion yn credu y gallai ddyddio o'r 11g.Dadleuol ieithyddol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r ysgolheigion fu'n trafod dyddiad y gerdd. Casglodd Kenneth Jackson fod y rhan fwyaf o'r newidiadau a drawsnewidiodd yr iaith Frythoneg i Gymraeg Cynnar yn perthyn i gyfnod rhwng canol y 5g a diwedd y 6g. Y pwynt pwysicaf yngl\u0177n \u00e2'r newid yma oedd bod sill yn cael ei golli. Rhydd Sweetser fel esiampl yr enw Cynfelyn a geir yn y Gododdin; yn y Frythoneg, Cunobelinos fyddai'r enw. Collwyd yr o yn y canol a'r os ar y diwedd. Gan mai sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o sillau, byddai'n anodd diweddaru cerdd a gyfansoddwyd yn y Frythoneg i Gymraeg Cynnar. Barn Syr Ifor Williams, a osododd y seiliau i'r trafodaethau hyn gyda'i argraffiad o'r testun yn 1938, oedd y gellid ystyried fod o'r testun yn dyddio o ddiwedd y 6g, wedi ei drosglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei ysgrifennu. Amheuai Dillon a ellid priodoli'r gerdd i'r cyfnod yma, gan ddadlau ei bod yn anhygoel yn byddai Cymraeg Cynnar erbyn diwedd y 6g wedi datblygu yn iaith \"not notably earlier than that of the ninth century\". Awgrymodd y gallai'r gerdd fod wedi ei chyfansoddi yn y 9g ar them\u00e2u traddodiadol a'i phriodoli i Aneurin. Ystyriai Jackson, fodd bynnag, nad oedd \"sylwedd gwirioneddol\" yn y dadleuon hyn, a nododd y byddai'r farddoniaeth wedi ei throsglwyddo ar lafar am gyfnod hir cyn cael ei hysgrifennu, ac y byddai'r adroddwyr wedi ei diweddaru. Dywedodd nad oedd dim yn yr iaith yn anghyson a dyddiad tua 600. Awgryma Koch ddyddiad ychydig yn ddiweddarach, tua 570, ac mae'n awgrymu hefyd y gallai'r gerdd fod wedi ei hysgrifennu erbyn y 7c, yn llawer cynharach nag a dybir fel rheol. Wrth adolygu'r ddadl ynghylch dyddiad y gerdd yn 1997, dywed Koch: Today, the possibility of an outright forgery - which would amount to the anachronistic imposition of a modern literary concept onto early Welsh tradition - is no longer in serious contention. Rather, the narrowing spectrum of alternatives ranges from a Gododdin corpus which is mostly a literary creation of mediaeval Wales based on a fairly slender thread of traditions from the old Brittonic North to a corpus which is in large part recoverable as a text actually composed in that earlier time and place. Argraffiadau a chyfieithiadau Y tro cyntaf i ran o'r Gododdin gael ei hargraffu oedd pan gyhoeddodd Evan Evans (Ieuan Fardd) ddeg pennill gyda chyfieithiad Lladin yn ei lyfr Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards a gyhoeddwyd yn 1764. Argraffwyd y gerdd yn llawn am y tro cyntaf gan Owen Jones (Owain Myfyr) yn y Myvyrian Archaiology of Wales ym 1801 ond testun gwallus ydyw. Cyhoeddwyd cyfieithiadau Saesneg gan William Probert ym 1820 a John Williams (Ab Ithel) ym 1852. Cyhoeddodd William Forbes Skene gyfieithiad yn ei The Four Ancient Books of Wales yn 1866 a chyhoeddwyd cyfieithiad gan Thomas Stephens gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion yn 1888. Cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans argraffiad diplomateg o destun Llyfr Aneirin yn 1908 ac argraffiad gyda chyfieithiad Saesneg yn 1922. Yr argraffiad dibynadwy cyntaf o'r testun golygiedig oedd Canu Aneirin gan Syr Ifor Williams, gyda nodiadau helaeth, a gyhoeddwyd ym 1938. Ar sail y gwaith yma, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan Kenneth H. Jackson yn 1969 a fersiwn mewn Cymraeg Diweddar gyda geirfa gan A.O.H. Jarman yn 1988. Cyhoeddwyd argraffiad ffacsimili lliw o'r llawysgrif gyda rhagair gan Daniel Huws gan Gyngor Sir Dde Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1989. Ym 1997 ymddangosodd argraffiad newydd gan John Koch, oedd yn ymgais i ail-greu'r testun gwreiddiol. Bu hefyd nifer o gyfieithiadau sy'n trin y Gododdin fel llenyddiaeth yn hytrach nag fel pwnc astudiaeth ysgolheigaidd. Ymysg y rhain mae cyfieithiad Joseph P. Clancy yn The earliest Welsh poetry (1970) a chyfieithiad Steve Short yn 1994. Nodiadau Llyfryddiaeth Berggren, J. Lennart ac Alexander Jones. \"Ptolemy's Geography: An Annotated Translation of the Theoretical Chapters.\" Princeton University Press: Princeton a Rhydychen. ISBN 0-691-01042-0 Breeze, Andrew. 1997. Medieval Welsh literature. Four Courts Press. ISBN 1-85182-229-1 Charles-Edwards, Thomas. 1978. \"The authenticity of the Gododdin: a historian's view\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 pp.\u00a044\u201371 Clancy, Joseph P. 1970. The earliest Welsh poetry. Macmillan. Clarkson, Tim. 1999. \"The Gododdin Revisited\" Archifwyd 2008-05-29 yn y Peiriant Wayback. yn The Heroic Age 1. Awst 21, 2006. Dillon, Myles and Nora K. Chadwick. 1973. The Celtic realms Cardinal. ISBN 0-351-15808-1 Dumville, D. 1988. \"Early Welsh poetry:problems of historicity\" yn Roberts, Brynley F. (ed) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Evans, D. Simon. 1977. \"Aneirin- bardd Cristionogol?\" yn Ysgrifau Beirniadol 10. Gwasg Gee. tt. 35-44 Evans, D. Simon. 1978. \"Iaith y Gododdin\" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 tt. 72-88 Evans, D. Simon. 1982. Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod\u00a0: darlith goffa G.J. Williams Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0817-1 Evans, Stephen S. 1997. \"The heroic poetry of Dark-Age Britain\u00a0: an introduction to its dating, composition, and use as a historical source.\" Lanham, Md.: University Press of America. ISBN 0-7618-0606-7 Greene, David. 1971. \"Linguistic considerations in the dating of early Welsh verse\". Studia Celtica VI, tt. 1-11 Huws, Daniel (ed.). 1989. Llyfr Aneurin: a facsimile. Cyngor Sir De Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-33-1 Isaac, G.R. 1999. \"Readings in the history and transmission of the Gododdin. Cambrian Medieval Celtic Studies 37 tt. 55-78 Jackson, Kenneth H. 1953. Language and history in early Britain: a chronological survey of the Brittonic languages first to twelfth century A.D. Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. Jackson, Kenneth H. 1969. \"The Gododdin: The Oldest Scottish poem.\" Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. ISBN 0-85224-049-X Jarman, A.O.H. (ed.) 1988. Y Gododdin. Britain's Oldest Heroic Poem. The Welsh Classics vol. 3. Gwasg Gomer. ISBN 0-86383-354-3 Koch, John T. 1997. \"The Gododdin of Aneurin: text and context from Dark-Age North Britain.\" Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1374-4 O'Hehir, Brendan. 1988. \"What is the Gododdin\" yn Roberts, Brynley F. (gol) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X Padel, Oliver. 1998. \"A New Study of the Gododdin\" yn Cambrian Medieval Celtic Studies 35. Short, Steve. 1994. Aneirin: The Gododdin, translated by Steve Short. Llanerch Publishers. ISBN 1-897853-27-0 Stephens, Thomas. 1876. The literature of the Kymry: being a critical essay on the history of the language and literature of Wales Ail argraffiad. Longmans, Green and Co.. Sweetser, Eve. 1988. \"Line-structure and rhan-structure: the metrical units of the Gododdin corpus\" yn Roberts, Brynley F. (gol.) \"Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin.\" Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X tt. 139-154 Turner, Sharon. 1803. A vindication of the genuiness of the ancient British poems of Aneurin, Taliesyn, Llywarch Hen and Merddin, with specimens of the poems. E. Williams. Williams, Ifor. 1938. \"Canu Aneirin: gyda rhagymadrodd a nodiadau.\" Aberystwyth: Gwasg Prifysgol Cymru. Williams, Ifor. 1944. \"Lectures on early Welsh poetry.\" Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies, 1944. Williams, Ifor. 1980. \"The beginnings of Welsh poetry: studies.\" Rachel Bromwich (gol.); Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, ail argraffiad. ISBN 0-7083-0744-2 Wmffre, Iwan. 2002. \"Mynydawc - ruler of Edinburgh?\" Studi Celtici 1 tt.83-105 Cysylltiad allanol Testun llawn Y Gododdin ar Wicitestun","1292":"Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Gwlad Tai neu Gwlad Tai (hefyd weithiau Gwlad y Thai). Mae hi'n ffinio \u00e2 Laos a Chambodia i'r dwyrain, Laos a Myanmar i'r gogledd, Maleisia a Gwlff Gwlad Tai i'r de a Myanmar a'r M\u00f4r Andaman i'r gorllewin. Mae ei ffiniau morwrol yn cynnwys Fietnam yng Ngwlff Gwlad Tai i'r de-ddwyrain, ac Indonesia a'r India yn y M\u00f4r Andaman i'r de-orllewin. Siam oedd enw'r wlad hyd 11 Mai 1949. Ystyr \"Tai\" yn yr iaith genedlaethol yw \"rhyddid\" a dyna yw enw prif gr\u0175p ethnig y wlad hefyd. Bangkok yw prifddinas a dinas fwyaf y wlad. Bangkok hefyd yw canolfan wleidyddol, fasnachol, diwydiannol a diwylliannol y wlad. Gwlad Tai yw 50fed gwlad fwyaf y byd o ran arwynebedd (er ychydig yn llai na Iemen ac ychydig yn fwy na Sbaen), gydag arwynebedd o tua 513,000 km2 (198,000 milltiroedd sgw\u00e2r). Hyhi yw'r 20fed wlad fwyaf poblog, gydag oddeutu 68 miliwn o bobl. Mae 75% o'r boblogaeth yn bobl gynhenid o Wlad Tai, 14% o gefndir Tsieineaidd, a 3% o dras ethnig Malay; daw'r gweddill o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cynnwys Mons, Khmers ac amryw o lwythau mynyddig. Iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae tua 95% o'r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth. Mae Gwlad Tai yn un o'r gwledydd mwyaf defosiynol i Fwdhaeth yn y byd. Crefydd genedlaethol y wlad yw Bwdhaeth Theravada sy'n cael ei ddilyn gan 95% o holl drigolion y wlad. Mae diwylliannau a thraddodiadau Gwlad Tai wedi'u dylanwadu i raddau helaeth gan yr India, Tsieina a gwledydd gorllewinol eraill. Ceir brenhiniaeth gyfansoddiadol yng Ngwlad Tai gyda'r Brenin Bhumibol Adulyadej, y nawfed brenin o D\u0177 Chakri, yn teyrnasu. Mae'r Brenin wedi bod yn teyrnasu am dros hanner canrif, sy'n golygu mai ef yw brenin sydd wedi teyrnasu hiraf yn y byd. Ystyrir y Brenin yn Bennaeth ar y Wladwriaeth, yn Bennaeth ar y Lluoedd Arfog, Cynhaliwr y ffydd Bwdhaeth am Amddiffynnwr y Ffydd. Gwlad Tai yw'r unig wlad yn Ne-ddwyrain Asia na chafodd ei goloneiddio gan wledydd Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fodd bynnag, meddiannwyd y wlad gan Fyddin Imperialaidd Japan. Profodd Wlad Tai dwf economaidd cyflym rhwng 1985 a 1995 ac erbyn heddiw mae'n wlad newydd-ddiwydiannol gyda phwyslais ar allforion a diwydiant twristiaeth lewyrchus, o ganlyniad i gyrchfannau gwyliau byd-enwog fel Pattaya, Bangkok, a Phuket. Daearyddiaeth Gellir cymharu si\u00e2p Gwlad Tai \u00e2 si\u00e2p eliffant. Mae rhan fwyaf o'r tir mawr i'r gogledd o'r Gwlff Thai \u00e2 rhan gul yn ymestyn i lawr i Maleisia, gan ffinio \u00e2 Myanmar i'r gorllewin am rai cannoedd o gilomedrau. Yn ogystal, mae nifer fawr o ynysoedd ym M\u00f4r Andaman ac yn y Gwlff, gan gynnwys ynysoedd Phi Phi, Samui a Krabi. Gydag arwynebedd o 514,000 km2 (198,000 milltir sgw\u00e2r), Gwlad Tai yw'r 50fed wlad fwyaf yn y byd o ran daearyddiaeth, tra'i bod yr 20fed wlad fwyaf o ran poblogaeth. Gellir cymharu poblogaeth y wlad i wledydd fel Ffrainc a'r Deyrnas Unedig, tra bod arwynebedd ei thir yn debyg i Ffrainc neu Galiffornia yn yr Unol Daleithiau; mae ychydig dros ddwywaith maint y Deyrnas Unedig ac 1.4 gwaith yn fwy na'r Almaen. Mae'r hinsawdd leol yn drofannol a nodweddir hyn gan fonsynau. Ceir mons\u0175n yn y de-orllewin sy'n gymylog a glawog o ganol Mai tan fis Medi, yn ogystal \u00e2 mons\u0175n yn y gogledd-ddwyrain sy'n sychach ac oerach o fis Tachwedd tan ganol mis Mawrth. Mae'r culdir deheuol bob amser yn boeth ac yn glos. Mae Gwlad Tai yn gartref i nifer o ardaloedd daearyddol penodol. Mae gogledd y wlad yn fynyddig, gyda'r man uchaf Doi Inthanon 2,565 medr uwch lefel y m\u00f4r (8,415 troedfedd). Mae'r gogledd-ddwyrain, Isan, yn cynnwys y Llwyfandir Khorat, sy'n ffinio gyda'r Afon Mekong i'r dwyrain. Yn gyffredinol, dominyddir canol y wlad gan ddyffryn llyfn yr afon Chao Phraya sy'n llifo i mewn i Gwlff Gwlad Tai. Mae'r de yn cynnwys Culdir Kra sy'n lledaenu i mewn i Benrhyn Malay. Yn wleidyddol, ceir chwe ardal ddaearyddol sy'n wahanol o ran poblogaeth, adnoddau naturiol, ffurfiannau naturiol a lefel eu datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Y gwahaniaeth hwn yn yr ardaloedd sy'n amlygu gwahaniaethau ffisegol Gwlad Tai yn fwyaf amlwg. Mae'r afonydd Chao Phraya a'r Mekong yn adnodd adnewyddadwy yng nghefn gwlad Gwlad Tai. Mae cynhyrchu cnydau ar lefel ddiwydiannol yn dibynnu ar yr afonydd hyn a'r afonydd sy'n eu bwydo. MAe Gwlff Gwlad Tai yn gorchuddio 320,000\u00a0km\u00b2 a chaiff ei fwydo gan yr afonydd Chao Phraya, Mae Klong, Bang Pakong a'r Tapi. Cyfranna hyn at y diwydiant twristiaeth yn sgil eu dyfroedd bas a chlir ar hyd arfordiroedd y De a'r Culdir Kra. Mae Gwlff Gwlad Tai hefyd yn ganolfan ddiwydiannol yng Ngwlad Tai gyda phrif borthladd y deyrnas yn Sattahip yn fan mynediad i Borthladd Morol Mewndirol Bangkok. Ystyrir y M\u00f4r Andaman fel adnodd naturiol mwyaf gwerthfawr Gwlad Tai am mai yno y ceir y mwyafrif o gyrchfannau gwyliau a chyrchfannau mwyaf moethus Asia. Lleolir Phuket, Krabi, Ranong, Phang Nga a Trang a'u traethau godidog ar hyd arfordir y M\u00f4r Andaman ac er gwaethaf Tsunami 2004, parha'r traethau i fod yn gyrchfan i gyfoethogion Asia a thwristiaid eraill ledled y byd. Hanes Mae pobl wedi bod yn byw yn yr ardal a adwaenir fel Gwlad Tai ers y cyfnod paleolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Cyn cwymp yr Ymerodraeth Khmer yn y 13g, mae sawl talaith wedi datblygu yno, megis yr amryw deyrnasoedd Tai, Mon, Khmer a Malay, a gwelir hyn yn y safleoedd archaeolegol amrywiol a'r gwrthrychau sydd i'w darganfod yn y dirwedd Siamese. Cyn y 12g fodd bynnag, yn draddodiadol ystyrir mai'r dalaith Tai neu Siamese cyntaf oedd y deyrnas Fwdhaidd Sukhothai, a gafodd ei sefydlu ym 1238. Ar \u00f4l dirywiad a chwymp y deyrnas Khmer yn y 13eg - 14g, esgynnodd y deyrnas Fwdhaidd Tai - Sukhothai, Lanna a Lan Chang. Fodd bynnag, ganrif yn ddiweddarach, lleihawyd p\u0175er Sukhothai gan deyrnas newydd Ayutthaya, a gafodd ei sefydlu yng nghanol y 14g yn ardal isaf yr Afon Chao Phraya, neu'r ardal Menam. Canolbwyntiai ehangiad Ayutthaya ar yr ardal ar hyn y Menam tra bod Teyrnas Lanna a dinas-daleithiau bychain eraill yn y dyffryn gogleddol yn rheoli'r ardal. Wedi cwymp yr Ayutthaya yn 1767 i Bwrma, symudodd y Brenin Taksin Fawr brifddinas Gwlad Tai i Thonburi am tua 15 mlynedd. Dechreuodd y cyfnod Rattanakosin presennol yn hanes Gwlad Tai ym 1782, wedi i Bangkok gael ei sefydlu fel prifddinas yr ymerodraeth Chakri o dan reolaeth y Brenin Rama Fawr 1. Parhaodd Gwlad Tai ei thraddodiad o fasnachu gyda thaleithiau cyfagos, o Tsieina i'r India, Persia a thiroedd Arabaidd. Datblygodd Ayutthaya yn un o ganolfannau masnachu mwyaf blaenllaw Asia. Cyrhaeddodd masnachwyr Ewropeaidd yn ystod y 16g, gan gychwyn gyda'r Portigeaid, ac yna'r Ffrancod, Iseldirwyr a'r Saeson. Er gwaethaf y dylanwadau Ewropeaidd, Gwlad Tai oedd yr unig genedl yn Ne-ddwyrain Asia nas wladychwyd. Y ddau brif reswm am hynny oedd bod gan Wlad Tai hanes hir o arweinwyr abl iawn yn ystod y 1880au, a llwyddodd y wlad i gymryd mantais o'r tensiwn a'r elfen gystadleuol rhwng Ffrainc a Phrydain. O ganlyniad, parhaodd y wlad yn rhyw fath o dalaith byffer rhwng y rhannau o Dde-ddwyrain Asia a wladychwyd gan y ddwy wlad. Er hyn, arweiniodd dylanwad gwledydd y gorllewin at newidiadau mawr yn ystod y 19g a chyfaddawdau sylweddol ar ran Gwlad Tai, yn fwyaf amlwg drwy golli darn helaeth o dir ar ochr ddwyreiniol y Mekong i Ffrainc ac yna Prydain yn cipio Taleithiau Shan (Thai Yai) States (yn Bwrma bellach) a Phenrhyn Malay. I ddechrau, roedd eu colledion yn cynnwys Penang a Tumasik ac yn y pen draw roedd yn cynnwys colli pedair talaith ddeheuol. Yn ddiweddarach, daeth y taleithiau hyn yn bedair talaith ogleddol Maleisia, o dan Gytundeb Eingl-Siamese 1909. Diwylliant Thai yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y trigolion yn dilyn Bwdhaeth Hinayana. Economi Mae Gwlad Tai yn economi datblygol ac ystyrir y wlad yn Wlad Newydd Ddiwydiannu. Wedi cyfnod o dwf lle Gwlad Tai oedd y wlad a oedd yn tyfu yn gyflymaf yn y byd o 1985 tan 1996 - ar gyfartaledd o 9.4% yn flynyddol - arweiniodd pwysau ychwanegol ym 1997 ar arian y wlad, y baht i'r economi grebachu o 1.9%. Arweiniodd hyn yn ei dro at argyfwng lle gwelwyd gwendidau yn y sector ariannol a gorfodwyd gweinyddiaeth Chavalit Yongchaiyudh i godi benthyciad ar arian cyfredol y wlad. Gorfodwyd y Prif Weinidog Chavalit Yongchaiyudh i ymddiswyddo pan feirniadwyd ei gabinet am eu hymateb araf i'r argyfwng. Arhosodd y baht ar 25 i'r ddoler Americanaidd o 1978 tan 1997. Fodd bynnag, cyrhaeddodd y baht ei fan isaf o 56 i'r ddoler Americanaidd ym mis Ionawr 1998 a chrebachodd yr economi o 10.8% eleni. Arweiniodd hyn ar argyfwng ariannol Asia. Dechreuodd economi Gwlad Tai gryfhau ym 1999, gan ehangu o 4.2% a 4.4% yn 2000, o ganlyniad i allforion cadarn i raddau helaeth. Lleihawyd twf yr economi gan economi byd-eang gwannach yn 2001, ond tyfodd yn y blynyddoedd olynol yn sgil twf cryf yn Asia, gyda baht cymharol wan yn annog allforion a chynnydd mewn gwariant mewnwladol o ganlyniad i brosiectau mawrion y Prif Weinidog Thaksin Shinwatra, a adwaenir fel Thaksinomics. Yn 2002, 2003 a 2004 gwelwyd twf o 5 -7% yn flynyddol. Arhosodd y twf tua'r un peth o 2005 i 2007. Yn sgil y ddoler Americanaidd yn gwanhau ac arian cyfredol Gwlad Tai yn cryfhau, erbyn mis Mawrth 2008, roedd y ddoler oddeutu 33 baht. Mae'r sector twristiaeth yn bwysig iawn i economi'r wlad, sy'n denu nifer o ymwelwyr, yn bennaf o wledydd Ewrop, Japan ac o Awstralia.","1293":"Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Gwlad Tai neu Gwlad Tai (hefyd weithiau Gwlad y Thai). Mae hi'n ffinio \u00e2 Laos a Chambodia i'r dwyrain, Laos a Myanmar i'r gogledd, Maleisia a Gwlff Gwlad Tai i'r de a Myanmar a'r M\u00f4r Andaman i'r gorllewin. Mae ei ffiniau morwrol yn cynnwys Fietnam yng Ngwlff Gwlad Tai i'r de-ddwyrain, ac Indonesia a'r India yn y M\u00f4r Andaman i'r de-orllewin. Siam oedd enw'r wlad hyd 11 Mai 1949. Ystyr \"Tai\" yn yr iaith genedlaethol yw \"rhyddid\" a dyna yw enw prif gr\u0175p ethnig y wlad hefyd. Bangkok yw prifddinas a dinas fwyaf y wlad. Bangkok hefyd yw canolfan wleidyddol, fasnachol, diwydiannol a diwylliannol y wlad. Gwlad Tai yw 50fed gwlad fwyaf y byd o ran arwynebedd (er ychydig yn llai na Iemen ac ychydig yn fwy na Sbaen), gydag arwynebedd o tua 513,000 km2 (198,000 milltiroedd sgw\u00e2r). Hyhi yw'r 20fed wlad fwyaf poblog, gydag oddeutu 68 miliwn o bobl. Mae 75% o'r boblogaeth yn bobl gynhenid o Wlad Tai, 14% o gefndir Tsieineaidd, a 3% o dras ethnig Malay; daw'r gweddill o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cynnwys Mons, Khmers ac amryw o lwythau mynyddig. Iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae tua 95% o'r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth. Mae Gwlad Tai yn un o'r gwledydd mwyaf defosiynol i Fwdhaeth yn y byd. Crefydd genedlaethol y wlad yw Bwdhaeth Theravada sy'n cael ei ddilyn gan 95% o holl drigolion y wlad. Mae diwylliannau a thraddodiadau Gwlad Tai wedi'u dylanwadu i raddau helaeth gan yr India, Tsieina a gwledydd gorllewinol eraill. Ceir brenhiniaeth gyfansoddiadol yng Ngwlad Tai gyda'r Brenin Bhumibol Adulyadej, y nawfed brenin o D\u0177 Chakri, yn teyrnasu. Mae'r Brenin wedi bod yn teyrnasu am dros hanner canrif, sy'n golygu mai ef yw brenin sydd wedi teyrnasu hiraf yn y byd. Ystyrir y Brenin yn Bennaeth ar y Wladwriaeth, yn Bennaeth ar y Lluoedd Arfog, Cynhaliwr y ffydd Bwdhaeth am Amddiffynnwr y Ffydd. Gwlad Tai yw'r unig wlad yn Ne-ddwyrain Asia na chafodd ei goloneiddio gan wledydd Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fodd bynnag, meddiannwyd y wlad gan Fyddin Imperialaidd Japan. Profodd Wlad Tai dwf economaidd cyflym rhwng 1985 a 1995 ac erbyn heddiw mae'n wlad newydd-ddiwydiannol gyda phwyslais ar allforion a diwydiant twristiaeth lewyrchus, o ganlyniad i gyrchfannau gwyliau byd-enwog fel Pattaya, Bangkok, a Phuket. Daearyddiaeth Gellir cymharu si\u00e2p Gwlad Tai \u00e2 si\u00e2p eliffant. Mae rhan fwyaf o'r tir mawr i'r gogledd o'r Gwlff Thai \u00e2 rhan gul yn ymestyn i lawr i Maleisia, gan ffinio \u00e2 Myanmar i'r gorllewin am rai cannoedd o gilomedrau. Yn ogystal, mae nifer fawr o ynysoedd ym M\u00f4r Andaman ac yn y Gwlff, gan gynnwys ynysoedd Phi Phi, Samui a Krabi. Gydag arwynebedd o 514,000 km2 (198,000 milltir sgw\u00e2r), Gwlad Tai yw'r 50fed wlad fwyaf yn y byd o ran daearyddiaeth, tra'i bod yr 20fed wlad fwyaf o ran poblogaeth. Gellir cymharu poblogaeth y wlad i wledydd fel Ffrainc a'r Deyrnas Unedig, tra bod arwynebedd ei thir yn debyg i Ffrainc neu Galiffornia yn yr Unol Daleithiau; mae ychydig dros ddwywaith maint y Deyrnas Unedig ac 1.4 gwaith yn fwy na'r Almaen. Mae'r hinsawdd leol yn drofannol a nodweddir hyn gan fonsynau. Ceir mons\u0175n yn y de-orllewin sy'n gymylog a glawog o ganol Mai tan fis Medi, yn ogystal \u00e2 mons\u0175n yn y gogledd-ddwyrain sy'n sychach ac oerach o fis Tachwedd tan ganol mis Mawrth. Mae'r culdir deheuol bob amser yn boeth ac yn glos. Mae Gwlad Tai yn gartref i nifer o ardaloedd daearyddol penodol. Mae gogledd y wlad yn fynyddig, gyda'r man uchaf Doi Inthanon 2,565 medr uwch lefel y m\u00f4r (8,415 troedfedd). Mae'r gogledd-ddwyrain, Isan, yn cynnwys y Llwyfandir Khorat, sy'n ffinio gyda'r Afon Mekong i'r dwyrain. Yn gyffredinol, dominyddir canol y wlad gan ddyffryn llyfn yr afon Chao Phraya sy'n llifo i mewn i Gwlff Gwlad Tai. Mae'r de yn cynnwys Culdir Kra sy'n lledaenu i mewn i Benrhyn Malay. Yn wleidyddol, ceir chwe ardal ddaearyddol sy'n wahanol o ran poblogaeth, adnoddau naturiol, ffurfiannau naturiol a lefel eu datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Y gwahaniaeth hwn yn yr ardaloedd sy'n amlygu gwahaniaethau ffisegol Gwlad Tai yn fwyaf amlwg. Mae'r afonydd Chao Phraya a'r Mekong yn adnodd adnewyddadwy yng nghefn gwlad Gwlad Tai. Mae cynhyrchu cnydau ar lefel ddiwydiannol yn dibynnu ar yr afonydd hyn a'r afonydd sy'n eu bwydo. MAe Gwlff Gwlad Tai yn gorchuddio 320,000\u00a0km\u00b2 a chaiff ei fwydo gan yr afonydd Chao Phraya, Mae Klong, Bang Pakong a'r Tapi. Cyfranna hyn at y diwydiant twristiaeth yn sgil eu dyfroedd bas a chlir ar hyd arfordiroedd y De a'r Culdir Kra. Mae Gwlff Gwlad Tai hefyd yn ganolfan ddiwydiannol yng Ngwlad Tai gyda phrif borthladd y deyrnas yn Sattahip yn fan mynediad i Borthladd Morol Mewndirol Bangkok. Ystyrir y M\u00f4r Andaman fel adnodd naturiol mwyaf gwerthfawr Gwlad Tai am mai yno y ceir y mwyafrif o gyrchfannau gwyliau a chyrchfannau mwyaf moethus Asia. Lleolir Phuket, Krabi, Ranong, Phang Nga a Trang a'u traethau godidog ar hyd arfordir y M\u00f4r Andaman ac er gwaethaf Tsunami 2004, parha'r traethau i fod yn gyrchfan i gyfoethogion Asia a thwristiaid eraill ledled y byd. Hanes Mae pobl wedi bod yn byw yn yr ardal a adwaenir fel Gwlad Tai ers y cyfnod paleolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Cyn cwymp yr Ymerodraeth Khmer yn y 13g, mae sawl talaith wedi datblygu yno, megis yr amryw deyrnasoedd Tai, Mon, Khmer a Malay, a gwelir hyn yn y safleoedd archaeolegol amrywiol a'r gwrthrychau sydd i'w darganfod yn y dirwedd Siamese. Cyn y 12g fodd bynnag, yn draddodiadol ystyrir mai'r dalaith Tai neu Siamese cyntaf oedd y deyrnas Fwdhaidd Sukhothai, a gafodd ei sefydlu ym 1238. Ar \u00f4l dirywiad a chwymp y deyrnas Khmer yn y 13eg - 14g, esgynnodd y deyrnas Fwdhaidd Tai - Sukhothai, Lanna a Lan Chang. Fodd bynnag, ganrif yn ddiweddarach, lleihawyd p\u0175er Sukhothai gan deyrnas newydd Ayutthaya, a gafodd ei sefydlu yng nghanol y 14g yn ardal isaf yr Afon Chao Phraya, neu'r ardal Menam. Canolbwyntiai ehangiad Ayutthaya ar yr ardal ar hyn y Menam tra bod Teyrnas Lanna a dinas-daleithiau bychain eraill yn y dyffryn gogleddol yn rheoli'r ardal. Wedi cwymp yr Ayutthaya yn 1767 i Bwrma, symudodd y Brenin Taksin Fawr brifddinas Gwlad Tai i Thonburi am tua 15 mlynedd. Dechreuodd y cyfnod Rattanakosin presennol yn hanes Gwlad Tai ym 1782, wedi i Bangkok gael ei sefydlu fel prifddinas yr ymerodraeth Chakri o dan reolaeth y Brenin Rama Fawr 1. Parhaodd Gwlad Tai ei thraddodiad o fasnachu gyda thaleithiau cyfagos, o Tsieina i'r India, Persia a thiroedd Arabaidd. Datblygodd Ayutthaya yn un o ganolfannau masnachu mwyaf blaenllaw Asia. Cyrhaeddodd masnachwyr Ewropeaidd yn ystod y 16g, gan gychwyn gyda'r Portigeaid, ac yna'r Ffrancod, Iseldirwyr a'r Saeson. Er gwaethaf y dylanwadau Ewropeaidd, Gwlad Tai oedd yr unig genedl yn Ne-ddwyrain Asia nas wladychwyd. Y ddau brif reswm am hynny oedd bod gan Wlad Tai hanes hir o arweinwyr abl iawn yn ystod y 1880au, a llwyddodd y wlad i gymryd mantais o'r tensiwn a'r elfen gystadleuol rhwng Ffrainc a Phrydain. O ganlyniad, parhaodd y wlad yn rhyw fath o dalaith byffer rhwng y rhannau o Dde-ddwyrain Asia a wladychwyd gan y ddwy wlad. Er hyn, arweiniodd dylanwad gwledydd y gorllewin at newidiadau mawr yn ystod y 19g a chyfaddawdau sylweddol ar ran Gwlad Tai, yn fwyaf amlwg drwy golli darn helaeth o dir ar ochr ddwyreiniol y Mekong i Ffrainc ac yna Prydain yn cipio Taleithiau Shan (Thai Yai) States (yn Bwrma bellach) a Phenrhyn Malay. I ddechrau, roedd eu colledion yn cynnwys Penang a Tumasik ac yn y pen draw roedd yn cynnwys colli pedair talaith ddeheuol. Yn ddiweddarach, daeth y taleithiau hyn yn bedair talaith ogleddol Maleisia, o dan Gytundeb Eingl-Siamese 1909. Diwylliant Thai yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y trigolion yn dilyn Bwdhaeth Hinayana. Economi Mae Gwlad Tai yn economi datblygol ac ystyrir y wlad yn Wlad Newydd Ddiwydiannu. Wedi cyfnod o dwf lle Gwlad Tai oedd y wlad a oedd yn tyfu yn gyflymaf yn y byd o 1985 tan 1996 - ar gyfartaledd o 9.4% yn flynyddol - arweiniodd pwysau ychwanegol ym 1997 ar arian y wlad, y baht i'r economi grebachu o 1.9%. Arweiniodd hyn yn ei dro at argyfwng lle gwelwyd gwendidau yn y sector ariannol a gorfodwyd gweinyddiaeth Chavalit Yongchaiyudh i godi benthyciad ar arian cyfredol y wlad. Gorfodwyd y Prif Weinidog Chavalit Yongchaiyudh i ymddiswyddo pan feirniadwyd ei gabinet am eu hymateb araf i'r argyfwng. Arhosodd y baht ar 25 i'r ddoler Americanaidd o 1978 tan 1997. Fodd bynnag, cyrhaeddodd y baht ei fan isaf o 56 i'r ddoler Americanaidd ym mis Ionawr 1998 a chrebachodd yr economi o 10.8% eleni. Arweiniodd hyn ar argyfwng ariannol Asia. Dechreuodd economi Gwlad Tai gryfhau ym 1999, gan ehangu o 4.2% a 4.4% yn 2000, o ganlyniad i allforion cadarn i raddau helaeth. Lleihawyd twf yr economi gan economi byd-eang gwannach yn 2001, ond tyfodd yn y blynyddoedd olynol yn sgil twf cryf yn Asia, gyda baht cymharol wan yn annog allforion a chynnydd mewn gwariant mewnwladol o ganlyniad i brosiectau mawrion y Prif Weinidog Thaksin Shinwatra, a adwaenir fel Thaksinomics. Yn 2002, 2003 a 2004 gwelwyd twf o 5 -7% yn flynyddol. Arhosodd y twf tua'r un peth o 2005 i 2007. Yn sgil y ddoler Americanaidd yn gwanhau ac arian cyfredol Gwlad Tai yn cryfhau, erbyn mis Mawrth 2008, roedd y ddoler oddeutu 33 baht. Mae'r sector twristiaeth yn bwysig iawn i economi'r wlad, sy'n denu nifer o ymwelwyr, yn bennaf o wledydd Ewrop, Japan ac o Awstralia.","1297":"Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010 a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan Frenhines y Du.Drwy'r mesur hwn y creewyd swydd ac adran Comisiynydd y Gymraeg, gan ddod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben. Penodir gan y Prif Weinidog a bydd ganddo ef neu hi'r p\u0175er i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmn\u00efau preifat, megis cwmn\u00efau nwy, trydan, a ff\u00f4n, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith. Cyhoeddwyd yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd, a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol.Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010. Hanes Ar \u00f4l i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu \"deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg\". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn \"stormus\", yn debyg yn sgil pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio \u00e2 defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus. Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i \"ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau yngl\u0177n \u00e2'r iaith Gymraeg\". Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD. Proses Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ymateb Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel \"diwrnod hanesyddol\" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor s\u00f4n am hawliau o'r mesur \"fel adeiladu t\u0177 ar dywod\". Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg. Gweler hefyd Rhestr Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Cyfeiriadau Dolenni allanol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Archifwyd 2011-08-19 yn y Peiriant Wayback. \u2013 manylion a hanes y mesur ar wefan y Cynulliad Y gorchymynTestun y mesurMesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn HTML) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn PDF) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011\/Welsh Language (Wales) Measure 2011 (fersiwn PDF dwyieithog)","1298":"Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010 a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan Frenhines y Du.Drwy'r mesur hwn y creewyd swydd ac adran Comisiynydd y Gymraeg, gan ddod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben. Penodir gan y Prif Weinidog a bydd ganddo ef neu hi'r p\u0175er i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmn\u00efau preifat, megis cwmn\u00efau nwy, trydan, a ff\u00f4n, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith. Cyhoeddwyd yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd, a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol.Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010. Hanes Ar \u00f4l i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu \"deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg\". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn \"stormus\", yn debyg yn sgil pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio \u00e2 defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus. Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i \"ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau yngl\u0177n \u00e2'r iaith Gymraeg\". Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD. Proses Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ymateb Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel \"diwrnod hanesyddol\" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor s\u00f4n am hawliau o'r mesur \"fel adeiladu t\u0177 ar dywod\". Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg. Gweler hefyd Rhestr Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Cyfeiriadau Dolenni allanol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Archifwyd 2011-08-19 yn y Peiriant Wayback. \u2013 manylion a hanes y mesur ar wefan y Cynulliad Y gorchymynTestun y mesurMesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn HTML) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (fersiwn PDF) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011\/Welsh Language (Wales) Measure 2011 (fersiwn PDF dwyieithog)","1300":"Roedd Cyngor Sir Feirionnydd yn awdurdod lleol Cymreig o 1889 hyd gael ei ddiddymu ym 1974. Trosolwg Sefydlwyd sir weinyddol Meirionnydd a'i hawdurdod lleol, Cyngor Sir Feirionnydd ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Ionawr 1889. Diddymwyd y sir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar 1 Ebrill 1974.Roedd tiriogaeth yr ardal weinyddol wedi selio ar Sir Feirionnydd fel ag yr oedd ar \u00f4l deddfau uno 1536-1542 ac yn cynnwys cantrefi Ardudwy, Penllyn, Edeirnion, Meirionnydd a Mawddwy. Ym 1895 bu un newid bach i ffiniau'r awdurdod pan symudwyd plwyf Nantmor o Feirion i Sir Gaernarfon.Roedd ffiniau'r awdurdod lleol yn gyd fynd a ffiniau etholaeth seneddol Meirionnydd. Roedd awdurdod olynol, Cyngor Dosbarth Meirionnydd, yn bodoli rhwng 1974 a 1995. O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996, daeth yn rhan o awdurdod unedol newydd Cyngor Gwynedd. Roedd Cyngor Dosbarth Meirionnydd yn cynnwys y cyfan o'r hen Sir Feirionnydd ac eithrio Edeirnion a daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Glynd\u0175r a Chyngor Sir Clwyd. Cefndir Rhwng 1834 a 1880 creodd nifer o ddeddfau gwella cymdeithasol nifer fawr o awdurdodau newydd i weinyddu gwasanaethau megis Deddf y Tlodion, deddfau iechyd cyhoeddus, deddfau addysg ac ati. Roedd yr awdurdodau newydd hyn yn ychwanegu at nifer yr awdurdodau lleol oedd eisoes yn bodoli ers oesoedd megis y siryfion, yr Arglwyddi Rhaglaw, festr\u00efoedd plwyfol ac ati. Roedd cynifer y gwahanol sefydliadau wedi eu seilio ar wahanol gyfansoddiadau a threthi wedi troi gweinyddiad lleol yn lobsg\u00f3ws anhydrin. Erbyn y 1880au roedd galw am dacluso'r gyfundrefn trwy greu awdurdodau lleol etholedig oedd yn gallu cyd drin nifer o'r edeifion cymysg hyn. Dyma gefndir Deddf Llywodraeth Leol 1884 a sefydlodd y Cynghorau Sir.Doedd canoli pwerau yn sirol ddim at ddant pawb, bu cwyno am bobl Ffestiniog yn dweud be di be i bobl Aberdyfi neu bobl Y Bermo yn tra arglwyddiaethu dros bobl Corwen bell.Creodd Deddf Llywodraeth Leol 1894 ail ris o gynghorau dosbarth yn yr ardaloedd trefol a gwledig, a pharhaodd hyd greu'r Cynghorau Cymuned fel rhan o ad-drefniad 1974. Sefydlodd deddf 1894 bedwar Cyngor Dosbarth Gwledig trwy gyfuno'r plwy\ufb01, ar batrwm Undebau'r Tlodion a oedd eisoes yn bodoli: Deudraeth, Dolgellau, Edeirnion Penllyn.Rhoddwyd plwyf Pennal, a oedd eisoes yn rhan o Undeb Tlodi Machynlleth, tan ofal Cyngor Dosbarth Machynlleth, trefniant a barodd hyd 1955 pan wnaed Pennal yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau. Sefydlwyd hefyd chwe Chyngor Dosbarth Trefol yn: Y Bala Abermaw Dolgellau Ffestiniog Tywyn Mallwyd. (Peidiodd Mallwyd \u00e2 bod yn gyngor tref ym 1934 a daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau). Hanes Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Feirionnydd ar 18 Ionawr 1889. Etholwyd 33 Rhyddfrydwr, 8 Ceidwadwr ac un aelod annibynnol. Cyfarfu'r cynghorwyr ond nid y cyngor ar ddiwrnod olaf Ionawr a diwrnod olaf Chwefror er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer ffurfio'r cyngor statudol ar 1 Ebrill 1889. Cadeiriwyd y cyfarfod cyntaf o'r cynghorwyr gan Samuel Pope QC, Dyffryn Ardudwy, llywydd Rhyddfrydwyr Meirionnydd. Roedd y cynghorydd Pope yn \u0175r di-gymraeg a chododd nyth cacwn ar ei ben yn syth, trwy farnu mae unig iaith y Cyngor byddai'r Saesneg. Yng nghyfarfod 28 Chwefror 1889 yn y Bala, penodwyd Dr Edward Jones, Dolgellau yn gadeirydd swyddogol cyntaf y cyngor, newidiodd Jones y rheol iaith gan ddweud bod hawl siarad y ddwy cyn belled a bod crynodeb o'r hyn a ddywedwyd mewn un iaith yn cael ei rhoi yn yr iaith arall; y cadeirydd byddai'n gyfrifol am ddarparu'r crynodeb dros gynghorwyr uniaith yn y naill neu'r llall.Arferai'r Cyngor Sir gyfarfod ar yn ail yn y Bala, Abermaw, Ffestiniog a Dolgellau rhwng 1889 a 1916. O 1916 penderfynwyd defnyddio Neuadd y Sir (adeilad y llys) yn siambr barhaol i'r cyngor. Ym 1952 agorwyd siambr a swyddfeydd newydd pwrpasol i'r cyngor ar Gae Penarl\u00e2g, Dolgellau. Cynhaliwyd y cyfarfod olaf o'r Cyngor ym mis Chwefror 1974. Gweler hefyd Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1889 Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1892 Cyfeiriadau","1302":"Roedd Cyngor Sir Feirionnydd yn awdurdod lleol Cymreig o 1889 hyd gael ei ddiddymu ym 1974. Trosolwg Sefydlwyd sir weinyddol Meirionnydd a'i hawdurdod lleol, Cyngor Sir Feirionnydd ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Ionawr 1889. Diddymwyd y sir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar 1 Ebrill 1974.Roedd tiriogaeth yr ardal weinyddol wedi selio ar Sir Feirionnydd fel ag yr oedd ar \u00f4l deddfau uno 1536-1542 ac yn cynnwys cantrefi Ardudwy, Penllyn, Edeirnion, Meirionnydd a Mawddwy. Ym 1895 bu un newid bach i ffiniau'r awdurdod pan symudwyd plwyf Nantmor o Feirion i Sir Gaernarfon.Roedd ffiniau'r awdurdod lleol yn gyd fynd a ffiniau etholaeth seneddol Meirionnydd. Roedd awdurdod olynol, Cyngor Dosbarth Meirionnydd, yn bodoli rhwng 1974 a 1995. O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996, daeth yn rhan o awdurdod unedol newydd Cyngor Gwynedd. Roedd Cyngor Dosbarth Meirionnydd yn cynnwys y cyfan o'r hen Sir Feirionnydd ac eithrio Edeirnion a daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Glynd\u0175r a Chyngor Sir Clwyd. Cefndir Rhwng 1834 a 1880 creodd nifer o ddeddfau gwella cymdeithasol nifer fawr o awdurdodau newydd i weinyddu gwasanaethau megis Deddf y Tlodion, deddfau iechyd cyhoeddus, deddfau addysg ac ati. Roedd yr awdurdodau newydd hyn yn ychwanegu at nifer yr awdurdodau lleol oedd eisoes yn bodoli ers oesoedd megis y siryfion, yr Arglwyddi Rhaglaw, festr\u00efoedd plwyfol ac ati. Roedd cynifer y gwahanol sefydliadau wedi eu seilio ar wahanol gyfansoddiadau a threthi wedi troi gweinyddiad lleol yn lobsg\u00f3ws anhydrin. Erbyn y 1880au roedd galw am dacluso'r gyfundrefn trwy greu awdurdodau lleol etholedig oedd yn gallu cyd drin nifer o'r edeifion cymysg hyn. Dyma gefndir Deddf Llywodraeth Leol 1884 a sefydlodd y Cynghorau Sir.Doedd canoli pwerau yn sirol ddim at ddant pawb, bu cwyno am bobl Ffestiniog yn dweud be di be i bobl Aberdyfi neu bobl Y Bermo yn tra arglwyddiaethu dros bobl Corwen bell.Creodd Deddf Llywodraeth Leol 1894 ail ris o gynghorau dosbarth yn yr ardaloedd trefol a gwledig, a pharhaodd hyd greu'r Cynghorau Cymuned fel rhan o ad-drefniad 1974. Sefydlodd deddf 1894 bedwar Cyngor Dosbarth Gwledig trwy gyfuno'r plwy\ufb01, ar batrwm Undebau'r Tlodion a oedd eisoes yn bodoli: Deudraeth, Dolgellau, Edeirnion Penllyn.Rhoddwyd plwyf Pennal, a oedd eisoes yn rhan o Undeb Tlodi Machynlleth, tan ofal Cyngor Dosbarth Machynlleth, trefniant a barodd hyd 1955 pan wnaed Pennal yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau. Sefydlwyd hefyd chwe Chyngor Dosbarth Trefol yn: Y Bala Abermaw Dolgellau Ffestiniog Tywyn Mallwyd. (Peidiodd Mallwyd \u00e2 bod yn gyngor tref ym 1934 a daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau). Hanes Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Feirionnydd ar 18 Ionawr 1889. Etholwyd 33 Rhyddfrydwr, 8 Ceidwadwr ac un aelod annibynnol. Cyfarfu'r cynghorwyr ond nid y cyngor ar ddiwrnod olaf Ionawr a diwrnod olaf Chwefror er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer ffurfio'r cyngor statudol ar 1 Ebrill 1889. Cadeiriwyd y cyfarfod cyntaf o'r cynghorwyr gan Samuel Pope QC, Dyffryn Ardudwy, llywydd Rhyddfrydwyr Meirionnydd. Roedd y cynghorydd Pope yn \u0175r di-gymraeg a chododd nyth cacwn ar ei ben yn syth, trwy farnu mae unig iaith y Cyngor byddai'r Saesneg. Yng nghyfarfod 28 Chwefror 1889 yn y Bala, penodwyd Dr Edward Jones, Dolgellau yn gadeirydd swyddogol cyntaf y cyngor, newidiodd Jones y rheol iaith gan ddweud bod hawl siarad y ddwy cyn belled a bod crynodeb o'r hyn a ddywedwyd mewn un iaith yn cael ei rhoi yn yr iaith arall; y cadeirydd byddai'n gyfrifol am ddarparu'r crynodeb dros gynghorwyr uniaith yn y naill neu'r llall.Arferai'r Cyngor Sir gyfarfod ar yn ail yn y Bala, Abermaw, Ffestiniog a Dolgellau rhwng 1889 a 1916. O 1916 penderfynwyd defnyddio Neuadd y Sir (adeilad y llys) yn siambr barhaol i'r cyngor. Ym 1952 agorwyd siambr a swyddfeydd newydd pwrpasol i'r cyngor ar Gae Penarl\u00e2g, Dolgellau. Cynhaliwyd y cyfarfod olaf o'r Cyngor ym mis Chwefror 1974. Gweler hefyd Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1889 Etholiad Cyngor Sir Feirionnydd 1892 Cyfeiriadau","1304":"Dyluniwyd Gwagio Sifiliaid i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd i symud pobl, yn enwedig plant, o\u2019r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio, i ardaloedd oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Cafodd 110,000 o blant eu symud i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y nifer hwn yn cynnwys plant a symudwyd o ardaloedd trefol Cymru i ardaloedd gwledig Cymru. Morgannwg a gafodd y gyfran fwyaf - tua 33,000 o blant - ond prin oedd y pentrefi yng nghefn gwlad Cymru nad oeddent yn croesawu faciw\u00ees. Rhoddwyd blaenoriaeth i symud plant, a gwahanwyd miloedd oddi wrth eu rhieni. Teithiodd llawer i Gymru ar dr\u00ean neu fws a chawsant eu paru \u00e2 theuluoedd o Gymru. Cefndir Yr Ail Ryfel Byd oedd y rhyfel mawr cyntaf lle defnyddiwyd awyrennau bomio i dargedu sifiliaid. Roedd hyn yn golygu bod y trefi a\u2019r dinasoedd yn llefydd peryglus, yn enwedig y mwyaf gwan mewn cymdeithas. Roedd tactegau Hitler a Mussolini yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen wedi dangos pa mor ofnadwy a dinistriol oedd bomio o\u2019r awyr, yn enwedig cyrchoedd awyr oedd yn gollwng bomiau\u2019n ddidostur ar ddinasoedd. Gwyddai arweinwyr Prydain fod yn rhaid ceisio sicrhau nad oedd cymaint o drigolion Prydain yn cael eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau o\u2019r awyr os deuai rhyfel. Roedd y bygythiad cynyddol o ryfel yn ystod y 1930au wedi gorfodi\u2019r Llywodraeth i ddechrau cynllunio ar gyfer symud pobl o\u2019r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio i ardaloedd a oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Yn haf 1938 dyfeisiwyd cynllun gan y Llywodraeth oedd yn rhannu Prydain yn ardaloedd symud (sef trefi a dinasoedd lle\u2019r oedd disgwyl cyrchoedd awyr), ardaloedd niwtral (na fyddai\u2019n derbyn nac yn anfon neb), ac ardaloedd derbyn (sef ardaloedd gwledig yn bennaf). Yn ogystal \u00e2 phlant a\u2019u hathrawon, credai\u2019r Llywodraeth fod angen symud menywod beichiog, mamau a phlant ifanc, pobl s\u00e2l a\u2019r henoed. Mae\u2019r rhai gafodd eu symud o\u2019u cartrefi i fyw mewn llefydd mwy diogel yn cael eu galw\u2019n faciw\u00ees. Yn ystod pedwar diwrnod cyntaf mis Medi 1939 symudwyd dros filiwn o blant a thros gan mil o athrawon o\u2019r dinasoedd yn ystod Ymgyrch y Pibydd Brith (Operation Pied Piper). Rhwng 1939 ac 1945 symudwyd bron i bedair miliwn o bobl o ddinasoedd Prydain ac anfonwyd dros gan mil o faciw\u00ees i bob rhan o Gymru. Daeth mwyafrif y faciw\u00ees i Gymru o Lundain, Lerpwl a dinasoedd canolbarth Lloegr. Cludo Defnyddiwyd trenau, bysiau, ceir a chychod i symud y plant, ac yn ystod penwythnos cyntaf Medi 1939 cyrhaeddodd y faciw\u00ees Gymru yn eu miloedd. Daeth tua 800 o blant i orsaf drenau Drenewydd o ardaloedd fel Penbedw ar Lannau Mersi. Cafodd y plant eu hebrwng ar eu taith gan eu hathrawon. Roedd yn rhaid gofalu eu bod yn mynd ar y cerbydau cywir, bod digon o fwyd a diod ganddynt, a\u2019u bod yn gadael y tr\u00ean yn yr orsaf gywir. Rhoddwyd canllawiau ymlaen llaw i rieni yngl\u0177n \u00e2 beth y dylid ei anfon gyda\u2019r plant. Y peth pwysicaf oedd y mwgwd nwy a gariwyd mewn bocs. Roedd angen dillad sb\u00e2r, cot gynnes, sebon, tywel, brwsh a phast dannedd, crib neu frwsh gwallt, a phecyn bwyd. Er mwyn gwneud yn si\u0175r nad oedd y plant yn cario gormod o nwyddau dywedwyd wrth y rhieni y dylid cario holl eiddo'r plant mewn un bag. Rhag ofn i'r plant fynd ar goll yn ystod y daith rhoddwyd label neu dag adnabod i bob plentyn, a oedd yn dangos ei enw ac enw ei ysgol. Profiadau Roedd profiadau\u2019r faciw\u00ees yn rhai cymysg. Dyma\u2019r tro cyntaf i lawer iawn ohonynt adael cartref a bu\u2019n antur gyffrous i rai, ond yn brofiad anoddach i rai eraill. Doedd dim syniad ganddynt lle'r oeddent yn mynd ac roedd yn rhaid iddynt deithio am oriau maith ar fysiau a threnau oedd yn aml yn orlawn. Gan amlaf anfonwyd disgyblion o\u2019r un ysgol i\u2019r un ardaloedd, ond gosodwyd y plant mewn grwpiau o ddau neu dri, neu weithiau ar eu pennau eu hunain yn eu cartrefi newydd. Roedd gadael cartrefi a theulu yn gallu bod yn anodd, gyda llawer o\u2019r faciw\u00ees yn teimlo\u2019n unig ac yn hiraethu am eu rhieni. Ychydig o ymdrech a wnaed i esbonio i\u2019r faciw\u00ees eu hunain beth oedd yn digwydd iddynt, ac fe wnaeth hyn ychwanegu at brofiad anhapus i lawer o\u2019r plant. Doedd y rhan fwyaf ohonynt ddim yn gwybod i ble roeddent yn teithio, beth fyddent yn ei wneud yno, gyda phwy fyddent yn byw, a phryd byddent yn cael mynd adref. Cartrefi newydd Mewn ambell fan gwelwyd plant o gefndiroedd tlawd a difreintiedig yn symud at deuluoedd dosbarth canol, ac roedd yn sioc i\u2019r ddwy ochr wrth sylweddoli beth oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau fyd. Ceir adroddiadau am faciw\u00ees yn gwlychu\u2019r gwely, yn defnyddio eu bysedd i fwyta yn lle cyllell a fforc, ac yn gorfod cael eu hyfforddi i ddefnyddio\u2019r t\u0177 bach a chael bath. Un o sgil-effeithiau\u2019r cynllun faciw\u00ees oedd tynnu sylw at dlodi rhai o\u2019r plant oedd yn byw mewn dinasoedd. Roedd yn syndod hefyd i\u2019r rhai oedd yn eu derbyn pa mor dlawd oedd y plant, gyda llawer o\u2019r faciw\u00ees yn dioddef o ddiffyg maeth, yn hanner llwgu, ac yn cario llau yn eu dillad ac afiechydon ar eu crwyn. Dyma\u2019r tro cyntaf i nifer o\u2019r faciw\u00ees gael y cyfle i ddysgu unrhyw beth am gefn gwlad. Cafodd rhai o\u2019r plant a symudodd o ddinasoedd Lloegr fynd i fyw ar ffermydd yng nghefn gwlad Cymru a gweld anifeiliaid fferm am y tro cyntaf yn eu bywydau. I lawer ohonynt roedd cael bwyd maethlon ffres ac awyr iach yn llesol iawn. Mae'n bosibl mai\u2019r newid mwyaf i rai o\u2019r plant a symudodd i gefn gwlad Cymru oedd yr iaith. Symudodd rhai i gymunedau lle\u2019r oedd y Gymraeg yn brif iaith ac yn cael ei siarad gan bawb yn yr ardal. Llwyddodd llawer o\u2019r faciw\u00ees i ddysgu Cymraeg yn rhugl, a bu rhai\u2019n ei siarad am weddill eu hoes. Mae s\u00f4n am rai o\u2019r plant ddaeth o Lerpwl yn dysgu Cymraeg ac yn ennill mewn eisteddfodau ar \u00f4l byw yng Nghymru am flwyddyn yn unig. Serch hynny, roedd llawer o Gymry yn pryderu bod dyfodiad cymaint o faciw\u00ees yn fygythiad i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Wrth i faciw\u00ees symud i ardaloedd cefn gwlad ymunodd rhai ag ysgolion lleol, a dyblodd rhai ysgolion o ran maint dros nos. Daeth yn anodd cynnal gwersi heb ddesgiau ac offer ychwanegol, ac oherwydd bod yr ysgolion yn gorlenwi aeth athrawon ati i ddysgu plant lleol yn y bore a\u2019r faciw\u00ees yn y prynhawn. Ateb arall i\u2019r broblem oedd cadw\u2019r faciw\u00ees gyda\u2019i gilydd a defnyddio adeiladau eraill ar gyfer eu dysgu. Mewn rhai llefydd cynhaliwyd dosbarthiadau mewn tafarndai a garejys, neu hyd yn oed yn yr awyr agored. Pwysigrwydd Ymgilio Roedd y cynllun i symud plant o\u2019r dinasoedd wedi arbed llawer iawn o fywydau, yn enwedig yn ystod y cyrchoedd awyr trwm yn 1940 ac 1941. Ond, er bod y Llywodraeth yn ceisio perswadio pobl i symud, nid oedd gorfodaeth i wneud hyny, a symudodd llai na\u2019r disgwyl o\u2019r dinasoedd. Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhyfel doedd dim llawer o fomio gan awyrennau\u2019r Almaen, ac ni ddechreuodd y cyrchoedd awyr o ddifrif tan fis Medi 1940. Yn ystod y cyfnod hwn o Ryfel Ffug, roedd llawer o\u2019r rhai wnaeth symud yn dechrau amau gwerth y cynllun, ac erbyn Ionawr 1940 roedd llawer ohonynt wedi dychwelyd adref. Pan ddechreuodd yr ymosodiadau awyr o ddifrif ym Medi 1940 dychwelodd llawer o faciw\u00ees i gefn gwlad ac aros yno am weddill y rhyfel. Er bod Cymru wedi derbyn dros gan mil o faciw\u00ees yn swyddogol yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel, symudodd llawer mwy na hynny mewn gwirionedd. Yn answyddogol, roedd nifer wedi gwneud eu trefniadau eu hunain i aros gyda ffrindiau neu berthnasau yn yr ardaloedd derbyn. Fe wnaeth rhai faciw\u00ees ymsefydlu yn eu hardaloedd newydd yn barhaol. Cyfeiriadau","1305":"Dyluniwyd Gwagio Sifiliaid i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd i symud pobl, yn enwedig plant, o\u2019r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio, i ardaloedd oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Cafodd 110,000 o blant eu symud i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y nifer hwn yn cynnwys plant a symudwyd o ardaloedd trefol Cymru i ardaloedd gwledig Cymru. Morgannwg a gafodd y gyfran fwyaf - tua 33,000 o blant - ond prin oedd y pentrefi yng nghefn gwlad Cymru nad oeddent yn croesawu faciw\u00ees. Rhoddwyd blaenoriaeth i symud plant, a gwahanwyd miloedd oddi wrth eu rhieni. Teithiodd llawer i Gymru ar dr\u00ean neu fws a chawsant eu paru \u00e2 theuluoedd o Gymru. Cefndir Yr Ail Ryfel Byd oedd y rhyfel mawr cyntaf lle defnyddiwyd awyrennau bomio i dargedu sifiliaid. Roedd hyn yn golygu bod y trefi a\u2019r dinasoedd yn llefydd peryglus, yn enwedig y mwyaf gwan mewn cymdeithas. Roedd tactegau Hitler a Mussolini yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen wedi dangos pa mor ofnadwy a dinistriol oedd bomio o\u2019r awyr, yn enwedig cyrchoedd awyr oedd yn gollwng bomiau\u2019n ddidostur ar ddinasoedd. Gwyddai arweinwyr Prydain fod yn rhaid ceisio sicrhau nad oedd cymaint o drigolion Prydain yn cael eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau o\u2019r awyr os deuai rhyfel. Roedd y bygythiad cynyddol o ryfel yn ystod y 1930au wedi gorfodi\u2019r Llywodraeth i ddechrau cynllunio ar gyfer symud pobl o\u2019r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio i ardaloedd a oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Yn haf 1938 dyfeisiwyd cynllun gan y Llywodraeth oedd yn rhannu Prydain yn ardaloedd symud (sef trefi a dinasoedd lle\u2019r oedd disgwyl cyrchoedd awyr), ardaloedd niwtral (na fyddai\u2019n derbyn nac yn anfon neb), ac ardaloedd derbyn (sef ardaloedd gwledig yn bennaf). Yn ogystal \u00e2 phlant a\u2019u hathrawon, credai\u2019r Llywodraeth fod angen symud menywod beichiog, mamau a phlant ifanc, pobl s\u00e2l a\u2019r henoed. Mae\u2019r rhai gafodd eu symud o\u2019u cartrefi i fyw mewn llefydd mwy diogel yn cael eu galw\u2019n faciw\u00ees. Yn ystod pedwar diwrnod cyntaf mis Medi 1939 symudwyd dros filiwn o blant a thros gan mil o athrawon o\u2019r dinasoedd yn ystod Ymgyrch y Pibydd Brith (Operation Pied Piper). Rhwng 1939 ac 1945 symudwyd bron i bedair miliwn o bobl o ddinasoedd Prydain ac anfonwyd dros gan mil o faciw\u00ees i bob rhan o Gymru. Daeth mwyafrif y faciw\u00ees i Gymru o Lundain, Lerpwl a dinasoedd canolbarth Lloegr. Cludo Defnyddiwyd trenau, bysiau, ceir a chychod i symud y plant, ac yn ystod penwythnos cyntaf Medi 1939 cyrhaeddodd y faciw\u00ees Gymru yn eu miloedd. Daeth tua 800 o blant i orsaf drenau Drenewydd o ardaloedd fel Penbedw ar Lannau Mersi. Cafodd y plant eu hebrwng ar eu taith gan eu hathrawon. Roedd yn rhaid gofalu eu bod yn mynd ar y cerbydau cywir, bod digon o fwyd a diod ganddynt, a\u2019u bod yn gadael y tr\u00ean yn yr orsaf gywir. Rhoddwyd canllawiau ymlaen llaw i rieni yngl\u0177n \u00e2 beth y dylid ei anfon gyda\u2019r plant. Y peth pwysicaf oedd y mwgwd nwy a gariwyd mewn bocs. Roedd angen dillad sb\u00e2r, cot gynnes, sebon, tywel, brwsh a phast dannedd, crib neu frwsh gwallt, a phecyn bwyd. Er mwyn gwneud yn si\u0175r nad oedd y plant yn cario gormod o nwyddau dywedwyd wrth y rhieni y dylid cario holl eiddo'r plant mewn un bag. Rhag ofn i'r plant fynd ar goll yn ystod y daith rhoddwyd label neu dag adnabod i bob plentyn, a oedd yn dangos ei enw ac enw ei ysgol. Profiadau Roedd profiadau\u2019r faciw\u00ees yn rhai cymysg. Dyma\u2019r tro cyntaf i lawer iawn ohonynt adael cartref a bu\u2019n antur gyffrous i rai, ond yn brofiad anoddach i rai eraill. Doedd dim syniad ganddynt lle'r oeddent yn mynd ac roedd yn rhaid iddynt deithio am oriau maith ar fysiau a threnau oedd yn aml yn orlawn. Gan amlaf anfonwyd disgyblion o\u2019r un ysgol i\u2019r un ardaloedd, ond gosodwyd y plant mewn grwpiau o ddau neu dri, neu weithiau ar eu pennau eu hunain yn eu cartrefi newydd. Roedd gadael cartrefi a theulu yn gallu bod yn anodd, gyda llawer o\u2019r faciw\u00ees yn teimlo\u2019n unig ac yn hiraethu am eu rhieni. Ychydig o ymdrech a wnaed i esbonio i\u2019r faciw\u00ees eu hunain beth oedd yn digwydd iddynt, ac fe wnaeth hyn ychwanegu at brofiad anhapus i lawer o\u2019r plant. Doedd y rhan fwyaf ohonynt ddim yn gwybod i ble roeddent yn teithio, beth fyddent yn ei wneud yno, gyda phwy fyddent yn byw, a phryd byddent yn cael mynd adref. Cartrefi newydd Mewn ambell fan gwelwyd plant o gefndiroedd tlawd a difreintiedig yn symud at deuluoedd dosbarth canol, ac roedd yn sioc i\u2019r ddwy ochr wrth sylweddoli beth oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau fyd. Ceir adroddiadau am faciw\u00ees yn gwlychu\u2019r gwely, yn defnyddio eu bysedd i fwyta yn lle cyllell a fforc, ac yn gorfod cael eu hyfforddi i ddefnyddio\u2019r t\u0177 bach a chael bath. Un o sgil-effeithiau\u2019r cynllun faciw\u00ees oedd tynnu sylw at dlodi rhai o\u2019r plant oedd yn byw mewn dinasoedd. Roedd yn syndod hefyd i\u2019r rhai oedd yn eu derbyn pa mor dlawd oedd y plant, gyda llawer o\u2019r faciw\u00ees yn dioddef o ddiffyg maeth, yn hanner llwgu, ac yn cario llau yn eu dillad ac afiechydon ar eu crwyn. Dyma\u2019r tro cyntaf i nifer o\u2019r faciw\u00ees gael y cyfle i ddysgu unrhyw beth am gefn gwlad. Cafodd rhai o\u2019r plant a symudodd o ddinasoedd Lloegr fynd i fyw ar ffermydd yng nghefn gwlad Cymru a gweld anifeiliaid fferm am y tro cyntaf yn eu bywydau. I lawer ohonynt roedd cael bwyd maethlon ffres ac awyr iach yn llesol iawn. Mae'n bosibl mai\u2019r newid mwyaf i rai o\u2019r plant a symudodd i gefn gwlad Cymru oedd yr iaith. Symudodd rhai i gymunedau lle\u2019r oedd y Gymraeg yn brif iaith ac yn cael ei siarad gan bawb yn yr ardal. Llwyddodd llawer o\u2019r faciw\u00ees i ddysgu Cymraeg yn rhugl, a bu rhai\u2019n ei siarad am weddill eu hoes. Mae s\u00f4n am rai o\u2019r plant ddaeth o Lerpwl yn dysgu Cymraeg ac yn ennill mewn eisteddfodau ar \u00f4l byw yng Nghymru am flwyddyn yn unig. Serch hynny, roedd llawer o Gymry yn pryderu bod dyfodiad cymaint o faciw\u00ees yn fygythiad i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Wrth i faciw\u00ees symud i ardaloedd cefn gwlad ymunodd rhai ag ysgolion lleol, a dyblodd rhai ysgolion o ran maint dros nos. Daeth yn anodd cynnal gwersi heb ddesgiau ac offer ychwanegol, ac oherwydd bod yr ysgolion yn gorlenwi aeth athrawon ati i ddysgu plant lleol yn y bore a\u2019r faciw\u00ees yn y prynhawn. Ateb arall i\u2019r broblem oedd cadw\u2019r faciw\u00ees gyda\u2019i gilydd a defnyddio adeiladau eraill ar gyfer eu dysgu. Mewn rhai llefydd cynhaliwyd dosbarthiadau mewn tafarndai a garejys, neu hyd yn oed yn yr awyr agored. Pwysigrwydd Ymgilio Roedd y cynllun i symud plant o\u2019r dinasoedd wedi arbed llawer iawn o fywydau, yn enwedig yn ystod y cyrchoedd awyr trwm yn 1940 ac 1941. Ond, er bod y Llywodraeth yn ceisio perswadio pobl i symud, nid oedd gorfodaeth i wneud hyny, a symudodd llai na\u2019r disgwyl o\u2019r dinasoedd. Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhyfel doedd dim llawer o fomio gan awyrennau\u2019r Almaen, ac ni ddechreuodd y cyrchoedd awyr o ddifrif tan fis Medi 1940. Yn ystod y cyfnod hwn o Ryfel Ffug, roedd llawer o\u2019r rhai wnaeth symud yn dechrau amau gwerth y cynllun, ac erbyn Ionawr 1940 roedd llawer ohonynt wedi dychwelyd adref. Pan ddechreuodd yr ymosodiadau awyr o ddifrif ym Medi 1940 dychwelodd llawer o faciw\u00ees i gefn gwlad ac aros yno am weddill y rhyfel. Er bod Cymru wedi derbyn dros gan mil o faciw\u00ees yn swyddogol yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhyfel, symudodd llawer mwy na hynny mewn gwirionedd. Yn answyddogol, roedd nifer wedi gwneud eu trefniadau eu hunain i aros gyda ffrindiau neu berthnasau yn yr ardaloedd derbyn. Fe wnaeth rhai faciw\u00ees ymsefydlu yn eu hardaloedd newydd yn barhaol. Cyfeiriadau","1308":"Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel \"Gwlad y G\u00e2n\", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Bryn Terfel ym myd opera a grwpiau fel Manic Street Preachers a Catatonia ym myd roc. Hanes Yn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir nifer o gyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr at gerddororion crwydrol yn canu ar y delyn neu'r crwth. Roedd pibau'n offerynnau cyffredin hefyd. Roedd y datgeiniaid a rhai o'r beirdd yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant y delyn. Etifedd y traddodiad hwnnw yw Cerdd Dant heddiw. Yr Antiffonal Penpont, o'r 14g, yw'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth o Gymru. Am ganrifoedd bu canu gwerin yn rhan annatod o fywyd y werin bobl. Erys nifer o geinciau ac alawon a gasglwyd yn y 18g a'r 19eg ar glawr, e.e. 'Dafydd y Garreg Wen'. Ond disodlwyd llawer o'r canu hyn mewn canlyniad i effaith y Diwygiad Methodistaidd. Yn eu lle ceid nifer o emynau gan bobl fel William Williams Pantycelyn a osodwyd ar emyn-donau poblogaidd fel 'Cwm Rhondda'. Dan ddylanwad Ieuan Gwyllt daeth cynnal Cymanfaoedd Canu yn boblogaidd iawn. Yn ail hanner y 19g daeth corau meibion yn boblogaidd ac roedd y Gymanfa Ganu yn denu miloedd. Cerddoriaeth glasurol Ym myd cerddoriaeth glasurol mae traddodiad Cymru yn dechrau gyda'r offerenau crefyddol Lladin a genid yn yr Oesoedd Canol. Mae'r wlad wedi cynhyrchu sawl cyfansoddwr adnabyddus fel Alun Hoddinott, a chantorion byd-enwog fel Bryn Terfel a Katherine Jenkins. Yn ogystal mae gan Gymru ei cherddorfa genedlaethol, Cerddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC, a chwmni opera o fri rhyngwladol, sef Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Cerddoriaeth boblogaidd Ceir cerddoriaeth boblogaidd o bob math yn y Gymraeg, a ddechreuodd gyda canu gwlad yn y 1960au ond a ymledodd i gynnwys canu roc a phop o ddiwedd y ddegawd honno ymlaen. Mae enwau mawr o'r Oes Aur yn cynnwys Meic Stevens, Geraint Jarman (a'r Cynganeddwyr), Bryn F\u00f4n, Edward H. Dafis, Geraint Lovegreen, Y Tebot Piws a Bob Delyn a'r Ebillion. Yn Saesneg cafwyd grwpiau fel Amen Corner ac yn fwy diweddar y Manic Street Preachers a'r Super Furry Animals (band sy'n canu yn y Gymraeg yn ogystal). Mae bodolaeth Radio Cymru wedi bod yn bwysig iawn i alluogi cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa. Yn Saesneg mae Radio Wales wedi bod yn llwyfan bwysig hefyd. Yn ogystal mae S4C yn cynnig lle i gerddoriaeth Gymraeg, er iddo gael ei feirniadu gan rai bobl am fod yn geidwadol a \"chanol y ffordd.\" Cyfryngau a stiwdios Erbyn heddiw mae sawl cwmni recordio yng Nghymru. Y pwysicaf yw Cwmni Sain, a sefydlwyd gan Dafydd Iwan, un o gantorion mwyaf poblogaidd y wlad o hyd. Mae cwmn\u00efau eraill yn cynnwys Fflach ac Ankst. Mae gwyliau cerddorol wedi tyfu yn ddiweddar ac yn rhan annatod o'r diwylliant Cymreig. Maent yn cynnwys G\u0175yl y Faenol, a drefnir gan Bryn Terfel ar Stad y Faenol ger Bangor, a Sesiwn Fawr Dolgellau. Gweler hefyd Cerdd Dant Cerddoriaeth Gymraeg Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Hen Wlad fy Nhadau Pop Cymraeg","1309":"Prifddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam (\u00a0ynganiad\u00a0). Saif ar lan Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Noord-Holland. Roedd poblogaeth Amsterdam, yn y cyfrifiad diwethaf, oddeutu 860,124 (2018). Mae'r ardal fetropolitanaidd tua'r 6ed mwyaf yn Ewrop, gyda phoblogaeth o tua 2.5 miliwn. Cyfeirir at Amsterdam fel \"Fenis y Gogledd\", a briodolir gan y nifer fawr o gamlesi a gofrestwryd fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.Er mai prifddinas \"brenhinol\" yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn ninas Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun ychwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem. Daw enw'r ddinas o argae Amstelle (yn Saesneg: Amstel Dam) sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar afon Amstel lle mae Sgw\u00e2r Dam wedi'i lleoli heddiw. Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y 12g a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a deiamwntiau. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a'r 20g, wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu. Daliodd y teulu Van Amstel, a gofnodir mewn dogfennau o'r enw hwn er 1019, stiwardiaeth yr ardal am ganrifoedd. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd y teulu hefyd o dan iarll yr Iseldiroedd. Amsterdam yw canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmn\u00efau mwyaf y byd wedi'u sefydlu yn y ddinas e Philips, AkzoNobel, Booking.com, TomTom, ac ING.. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Yn flynyddol, daw 4.2 miliwn o dwristiaid i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa Van Gogh, T\u0177 Anne Frank, yr ardal golau coch a'r siopau coffi canabis. Daearyddiaeth Mae Amsterdam yng Ngorllewin yr Iseldiroedd, ond nid Amsterdam yw ei phrifddinas, ond yn hytrach Haarlem. Mae afon Amstel yn gorffen yng nghanol y ddinas ac yn cysylltu \u00e2 nifer fawr o gamlesi sy'n dod i ben yn yr IJ yn y pen draw. Mae Amsterdam tua 2 fetr (6.6 troedfedd) islaw lefel y m\u00f4r. Mae'r tir o'i amgylch yn wastad a cheir coedwig o waith dyn, 'Amsterdamse Bos', yn y de-orllewin. Mae Amsterdam wedi'i chysylltu \u00e2 M\u00f4r y Gogledd trwy 'Gamlas M\u00f4r y Gogledd' hir. Mae Amsterdam wedi'i threfoli'n ddwys, hy mae ganddi boblogaeth dwys, ac felly hefyd yr ardal fetropolitan o amgylch y ddinas. Mae ei harwynebedd yn 219.4 km2 (84.7 metr sgw\u00e2r), ac mae gan y ddinas briodol 4,457 o drigolion i bob km2 a 2,275 o dai i bob km2. Mae parciau a gwarchodfeydd natur yn 12% o arwynebedd tir Amsterdam. D\u0175r Mae gan Amsterdam fwy na 100 km (60 milltir) o gamlesi, y gellir llywio'r rhan fwyaf ohonynt mewn cwch. Tair prif gamlas y ddinas yw'r Prinsengracht, Herengracht, a Keizersgracht. Yn yr Oesoedd Canol, roedd Amsterdam wedi'i amgylchynu gan ffos fawr, o'r enw'r \"Singel\", sydd bellach yn ffurfio cylch mwyaf mewnol y ddinas, ac yn rhoi si\u00e2p pedol i ganol y ddinas. Ceir porthladd sy'n gwasanaethu'r ddinas hefyd. Fe'i cymharwyd \u00e2 Fenis, oherwydd fod ganddi tua 90 o ynysoedd, sydd wedi'u cysylltu gan fwy na 1,200 o bontydd. Hinsawdd Mae gan Amsterdam hinsawdd gefnforol (K\u00f6ppen Cfb) oherwydd ei agosrwydd at F\u00f4r y Gogledd i'r gorllewin, gyda gwyntoedd gorllewinol cyffredinol. Tra bod y gaeafau'n c\u0175l a'r hafau'n gynnes, mae'r tymheredd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Weithiau ceir gaeafau oer, eira a hafau poeth a llaith. Mae Amsterdam, yn ogystal \u00e2'r rhan fwyaf o dalaith Gogledd Holland, ym mharth Caledwch 8DA USDA. Mae rhew yn digwydd yn bennaf yn ystod cyfnodau o wyntoedd dwyreiniol neu ogledd-ddwyreiniol o gyfandir mewnol Ewrop. Hyd yn oed wedyn, oherwydd bod Amsterdam wedi'i amgylchynu ar dair ochr gan gyrff mawr o dd\u0175r, yn ogystal \u00e2 chael effaith ynys gwres sylweddol, anaml y bydd nosweithiau'n disgyn o dan \u22125\u00b0 C (23\u00b0 F), tra gallai fod yn \u221212\u00b0 C yn hawdd. (10\u00b0 F) yn Hilversum, 25 km (16 milltir) i'r de-ddwyrain. Mae'r hafau'n weddol gynnes gyda nifer o ddiwrnodau poeth bob mis. Y tymheredd uchaf (ar gyfartaledd) ym mis Awst yw 22.1\u00b0 C (72\u00b0 F), a dim ond ar gyfartaledd y mae 30\u00b0 C (86\u00b0 F) neu'n uwch yn cael ei fesur, gan osod Amsterdam ym Mharth Gwres AHS 2. Mae'r eithafion uchaf erioed yn amrywio o - 19.7\u00b0 C (\u22123.5\u00b0 F) i 36.3\u00b0 C (97.3\u00b0 F).Mae diwrnodau \u00e2 mwy nag 1 mm (0.04 mewn) o wlybaniaeth yn gyffredin, ar gyfartaledd 133 diwrnod y flwyddyn. Dyddodiad (cyfanswm glaw) cyfartalog, blynyddol Amsterdam yw 838 mm (33 mewn). Mae rhan fawr o'r dyddodiad hwn yn disgyn fel glaw ysgafn neu gawodydd byr. Mae diwrnodau cymylog a llaith yn gyffredin yn ystod misoedd oerach Hydref i Fawrth. Adeiladau Concertgebouw Het Houten Huys (hen d\u0177) Palas brenhinol Rembrandthuis (cartref yr arlunydd Rembrandt) Rijksmuseum (amgueddfa) T\u0177 Anne Frank Pobl o Amsterdam Willem Janszoon, fforiwr Nicolaes Tulp, meddyg Rembrandt van Rijn, arlunydd Anne Frank, dyddiadurwraig Bobby Farrell, canwr (Boney M) Johan Cruijff, p\u00eal-droedwr Tom Okker, chwaraewr tenis Dennis Bergkamp, p\u00eal-droedwr Ruud Gullit, p\u00eal-droedwr Joop van den Ende, dyn busnes Jeroen Krabb\u00e9, actor Cyfeiriadau","1315":"Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol (Portiwgaleg: Rep\u00fablica Federativa do Brasil). Wrwgw\u00e1i, Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang. Taleithiau Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith. Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau: Daearyddiaeth Brasil O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgw\u00e1i, yr Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin \u00e2 Brasil, sef Tsile ac Ecwador. Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig Afon Negro. Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paran\u00e1, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guair\u00e1, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragw\u00e2i a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguaz\u00fa, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi. Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf. Hanes Brasil Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen. Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro \u00c1lvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal. Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig. Ar 7 Medi 1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny. Demograffeg Brasil Dinasoedd mwyaf Brasil yw: S\u00e3o Paulo (11.037.593 hab) Rio de Janeiro (6.186.710 hab) Salvador (2.998.056 hab) Brasilia (2.606.885 hab) Fortaleza (2.505.552 hab.) Belo Horizonte (2.452.617 hab) Curitiba (1.851.215 hab) Manaus (1.738.641 hab) Recife (1.561.659 hab) Bel\u00e9m (1.437.604 hab) Porto Alegre (1.436.124 hab) Guarulhos (1.299.283 hab) Goi\u00e2nia (1.281.975 hab) Campinas (1.064.669 hab) Gwleidyddiaeth Brasil Iaith a Diwylliant Iaith Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal. Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg. Diwylliant Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig. O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forr\u00f3, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog. Crefydd Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn \u00f4l y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill. Chwaraeon P\u00eal-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r t\u00eem cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o b\u00eal-droedwyr Brasil yw Pel\u00e9, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y p\u00eal-droediwr gorau yn hanes y g\u00eam. Bwyd a diod Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd. Cyfeiriadau Dolenni allanol (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol (Saesneg) Delweddau Brasil","1316":"Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol (Portiwgaleg: Rep\u00fablica Federativa do Brasil). Wrwgw\u00e1i, Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang. Taleithiau Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith. Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau: Daearyddiaeth Brasil O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgw\u00e1i, yr Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin \u00e2 Brasil, sef Tsile ac Ecwador. Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig Afon Negro. Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paran\u00e1, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guair\u00e1, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragw\u00e2i a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguaz\u00fa, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi. Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf. Hanes Brasil Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen. Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro \u00c1lvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal. Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig. Ar 7 Medi 1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny. Demograffeg Brasil Dinasoedd mwyaf Brasil yw: S\u00e3o Paulo (11.037.593 hab) Rio de Janeiro (6.186.710 hab) Salvador (2.998.056 hab) Brasilia (2.606.885 hab) Fortaleza (2.505.552 hab.) Belo Horizonte (2.452.617 hab) Curitiba (1.851.215 hab) Manaus (1.738.641 hab) Recife (1.561.659 hab) Bel\u00e9m (1.437.604 hab) Porto Alegre (1.436.124 hab) Guarulhos (1.299.283 hab) Goi\u00e2nia (1.281.975 hab) Campinas (1.064.669 hab) Gwleidyddiaeth Brasil Iaith a Diwylliant Iaith Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal. Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg. Diwylliant Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig. O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forr\u00f3, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog. Crefydd Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn \u00f4l y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill. Chwaraeon P\u00eal-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r t\u00eem cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o b\u00eal-droedwyr Brasil yw Pel\u00e9, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y p\u00eal-droediwr gorau yn hanes y g\u00eam. Bwyd a diod Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd. Cyfeiriadau Dolenni allanol (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol (Saesneg) Delweddau Brasil","1317":"Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol (Portiwgaleg: Rep\u00fablica Federativa do Brasil). Wrwgw\u00e1i, Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang. Taleithiau Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith. Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau: Daearyddiaeth Brasil O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgw\u00e1i, yr Ariannin, Paragw\u00e2i, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin \u00e2 Brasil, sef Tsile ac Ecwador. Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig Afon Negro. Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paran\u00e1, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guair\u00e1, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragw\u00e2i a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguaz\u00fa, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi. Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf. Hanes Brasil Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen. Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro \u00c1lvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal. Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig. Ar 7 Medi 1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny. Demograffeg Brasil Dinasoedd mwyaf Brasil yw: S\u00e3o Paulo (11.037.593 hab) Rio de Janeiro (6.186.710 hab) Salvador (2.998.056 hab) Brasilia (2.606.885 hab) Fortaleza (2.505.552 hab.) Belo Horizonte (2.452.617 hab) Curitiba (1.851.215 hab) Manaus (1.738.641 hab) Recife (1.561.659 hab) Bel\u00e9m (1.437.604 hab) Porto Alegre (1.436.124 hab) Guarulhos (1.299.283 hab) Goi\u00e2nia (1.281.975 hab) Campinas (1.064.669 hab) Gwleidyddiaeth Brasil Iaith a Diwylliant Iaith Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal. Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg. Diwylliant Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig. O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forr\u00f3, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog. Crefydd Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn \u00f4l y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill. Chwaraeon P\u00eal-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r t\u00eem cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o b\u00eal-droedwyr Brasil yw Pel\u00e9, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y p\u00eal-droediwr gorau yn hanes y g\u00eam. Bwyd a diod Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd. Cyfeiriadau Dolenni allanol (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol (Saesneg) Delweddau Brasil","1319":"Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae ganddi gyfrifoldeb dros addysg, ymchwil a menter busnes ym meysydd defnydd tir a'r economi wledig. Mae'r athrofa yn un o wyth canolfan sydd wedi eu hariannu yn strategol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Safleoedd Mae'r athrofa wedi ei lleoli ar ddau brif safle. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith dysgu yn digwydd yn adeiladau Edward Llwyd, IBERS a Cledwyn ar gampws Penglais y brifysgol, tra bo gwaith ymchwil yr athrofa yn digwydd ar gampws Gogerddan, ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth, ger Penrhyn-coch a Bow Street. Addysg Mae IBERS yn cynnig graddau israddedig mews sawl pwnc, gan gynnwys amaethyddiaeth, bywydeg, biocemeg, ecoleg, geneteg, bioleg forol, microfioleg, bioleg planhigion, milfeddygaeth a swoleg. Mae'r athrofa hefyd yn cynnig cyrsiau \u00f4l-raddedig ac, mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol Bangol, cwrs dysgu o bell mewn Cynhyrchiad Bwyd Cynhaliadwy ac Effeithlon. Mae gan yr athrofa tua 1300 o israddedigion, tua 150 o fyfyrwyr \u00f4l-raddedig, 70 darlithydd llawn amser a nifer tebyg o ddarlithwyr cysylltiol rhan amser. Ymchwil Mae gan IBERS dair thema ymchwil: Gwyddoniaeth Anifeiliol a Microfiolegol, Effaith Amgylcheddol ac Amrywiaeth Genomaidd. Mae'r athrofa hefyd yn gartref i Ganolfan Ffenomeg Planihigion Genedlaethol y BBSRC. Bridio planhigion Mae IBERS yn rhedeg rhaglenni bridio ar gyfer gwair, codlysiau, ceirch a miscanthus. Hanes Mae gan IBERS hanes cymhleth, yn dilyn cyfuno llawer o ganolfannau. Coleg Prifysgol Cymru Agorodd Coleg Prifysgol Cymru yn 1872, gyda darlithoedd mewn bywydeg yn dechrau yn 1874. Agorwyd adran amaethyddiaeth yn 1891. = Yr Orsaf Bridio Planhigion Agorwyd yr Orsaf Bridio Planhigion yn 1919, yn dilyn rhodd o \u00a310,000 gan Laurence Philipps, yr Arglwydd Milford. Penodwyd RG Stapledon yn gyfarwyddwr ar yr orsaf ac yn athro botaneg amaethyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Fe leolwyd yr orsaf yn wreiddiol ar Ffordd Alexandra, gyda thir ar ffermydd Penglais a Frongoch.Symudwyd yr orsaf i adeilad newydd ar fryn Penglais yn 1939 (adeilad Cledwyn y brifysgol erbyn heddiw), cyn symud eto i Blas Gogerddan ger Bow Street yn 1955. Y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir Sefydlwyd y Ganolfan Gwella Glaswelltir yn Drayton, ger Stratford upon Avon, Swydd Warwick, Lloegr. Yn 1949, fe'i symudwyd i safle newydd yn Hurley, Berkshire ac fe'i hailenwyd fel y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir. Daeth safle North Wyke yn Nyfnaint yn rhan o'r ganolfan yn 1981. Coleg Amaethyddol Cymru Sefydlwyd Coleg Amaethyddol Cymru yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth yn 1970. Cyfunwyd y coleg ag adran amaethyddiaeth Coleg Prifysgol Cymru yn 1995 i ffurfio Athrofa Gwyddorau Gwledig y brifysgol. Y Ganolfan Ymchwil Anifieliaid a Glaswelltir Yn 1985, cyfunwyd y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir \u00e2'r Ganolfan Ymchwil Llaetheg Genedlaethol, gan ffurfio'r Ganolfan Ymchwil Anifeiliaid a Glaswelltir. Y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid Yn 1987, penderfynodd y Cyngor Ymchwil Amaethyddiaeth a Bwyd (AFRC) ailstrwythuro eu gwaith ymchwil, gan wneud yr Orsaf Bridio Planhigion yn ganolfan annibynnol, heb fod yn rhan o Goleg Prifysgol Cymru. Cyfunwyd yr orsaf gyda safleoedd y Ganolfan Ymchwil Anifeiliaid a Glaswelltir yn Hurley a North Wyke a'r Ganolfan Ymchwil Ieir yn Roslin ger Caeredin, gan ffurfio'r Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid dan oruwchwyliaeth yr AFRC. Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol Cafwyd mwy o ailstrwythuro dair mlynedd yn ddiweddarach. Daeth ymchwil ar foch i ben a symudwyd yr adran ymchwil ieir yn \u00f4l i Roslin, gyda'r adrannau oedd ar \u00f4l yn cael eu hadnabod fel y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol, gyda safleoedd yng Ngogerddan, North Wyke, Bronydd Mawr a Hurley. Daeth safle newydd yn Nhrawsgoed hefyd yn rhan o'r ganolfan. Ceuwyd y safle yn Hurley yn 1992. Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Ym mis Ebrill 2008, unodd y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol ag Athrofa Gwyddorau Biolegol Prifysgol Aberystwyth, gan ffurfio'r ganolfan bresenol. Cyfarwyddwyr Yr Orsaf Bridio Planhigion Syr George Stapledon 1919\u20131942 T.J. Jenkin 1942\u20131950 E.T. Jones 1950\u20131958 P.T. Thomas 1958\u20131974 J.P. Cooper 1975\u20131983 R.Q. Cannell 1984\u20131987 J.L. Stoddart 1987 Y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid J. Prescott 1987\u20131988 J.L. Stoddart 1988\u20131990 Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol J.L. Stoddart 1990\u20131993 Chris Pollock 1993\u20132007 Mervyn Humphries 2007\u20132008 Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Wayne Powell 2008\u20132014 Mike Gooding 2014\u2013present Cyfeiriadau Dolenni allanol Gwefan IBERS Canolfannau'r BBSRC","1325":"Mae'r Llydaweg (brezhoneg), yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finist\u00e8re, gorllewin C\u00f4tes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith \u00e2'r hunaniaeth Lydawaidd. Hanes Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad G\u00e2l yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodau hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tr\u00e9guier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa. Orgraff Mae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821. Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn \u00f4l y llythyrennau \"zh\") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih. Llydaweg heddiw Yn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg yn \u00f4l yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Er gwaetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70-80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan. Statws Does dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn \u00f4l cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith. Addysg Mwy na 18,337 o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat). Darlledu Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Mae sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg. Brawddegau Cyffredin Sut mae \u2013 Salud Hwyl fawr \u2013 Kenavo, ken\u00f4 Diolch \u2013 Bennozh Doue (sef yn lythrennol \"Bendith Duw\"; nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi. Os gwelwch yn dda \u2013 Mar plij. Iechyd da! \u2013 Yec'hed mat\u00a0! Nos da! \u2013 Noz vat\u00a0! Sut ydych chi? \u2013 Mat an trao\u00f9 ganeoc'h\u00a0? Sut wyt ti? \u2013 Mat an trao\u00f9 ganit\u00a0? Pwy dych chi? \u2013 Piv oc'h\u00a0? ...ydw i \u2013 ...on Beth ydy dy enw? \u2013 Pe anv out\u00a0?\/Petra eo da anv\u00a0? Fy enw ydy... \u2013 ...eo ma anv Dwi ddim \u2013 N'on ket Yn \u2013 E\/enMae cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg wedi dangos yn rheolaidd o brif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Anjela Duval, Ronan Huon a Per Denez yn ogystal a'r ffordd arall ee Treid Daouhualet gan Kate Roberts Priod-ddulliau neu idiomau Siminalio\u00f9 ar bed all (simneiau y byd arall) \u2013 cerrig mawrion mewn cae. Dent Genver (Ysgithredd Ionawr) \u2013 Pibonwy. Ne lip ket chadenn ar pu\u00f1s (dydy e ddim yn llyfu cadwyn y ffynnon) \u2013 dydy e ddim yn hoffi d\u0175r, sef meddwyn yw ef. N'eo ket bet roet un teod dezhi\/dezha\u00f1 evit lipat ar mogerio\u00f9 (nid oes ganddo\/ganddi dafod i lyfu muriau) \u2013 mae e\/hi'n siarad yn ddi-baid, pymtheg y dwsin. Cyfeiriadau Llyfryddiaeth F. Gourvil, Langue et litt\u00e9rature bretonnes (Paris, 1952) Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967) Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd) Dolenni allanol Gwefan Ofis ar Brezhoneg (Llydaweg) (Ffrangeg) Ar Bibl Santel (Jenkins) 1897 (JEN1897) (Saesneg) (Llydaweg)","1326":"Mae'r Llydaweg (brezhoneg), yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finist\u00e8re, gorllewin C\u00f4tes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith \u00e2'r hunaniaeth Lydawaidd. Hanes Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad G\u00e2l yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodau hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tr\u00e9guier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa. Orgraff Mae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821. Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn \u00f4l y llythyrennau \"zh\") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih. Llydaweg heddiw Yn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg yn \u00f4l yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Er gwaetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70-80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan. Statws Does dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn \u00f4l cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith. Addysg Mwy na 18,337 o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat). Darlledu Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Mae sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg. Brawddegau Cyffredin Sut mae \u2013 Salud Hwyl fawr \u2013 Kenavo, ken\u00f4 Diolch \u2013 Bennozh Doue (sef yn lythrennol \"Bendith Duw\"; nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi. Os gwelwch yn dda \u2013 Mar plij. Iechyd da! \u2013 Yec'hed mat\u00a0! Nos da! \u2013 Noz vat\u00a0! Sut ydych chi? \u2013 Mat an trao\u00f9 ganeoc'h\u00a0? Sut wyt ti? \u2013 Mat an trao\u00f9 ganit\u00a0? Pwy dych chi? \u2013 Piv oc'h\u00a0? ...ydw i \u2013 ...on Beth ydy dy enw? \u2013 Pe anv out\u00a0?\/Petra eo da anv\u00a0? Fy enw ydy... \u2013 ...eo ma anv Dwi ddim \u2013 N'on ket Yn \u2013 E\/enMae cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg wedi dangos yn rheolaidd o brif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Anjela Duval, Ronan Huon a Per Denez yn ogystal a'r ffordd arall ee Treid Daouhualet gan Kate Roberts Priod-ddulliau neu idiomau Siminalio\u00f9 ar bed all (simneiau y byd arall) \u2013 cerrig mawrion mewn cae. Dent Genver (Ysgithredd Ionawr) \u2013 Pibonwy. Ne lip ket chadenn ar pu\u00f1s (dydy e ddim yn llyfu cadwyn y ffynnon) \u2013 dydy e ddim yn hoffi d\u0175r, sef meddwyn yw ef. N'eo ket bet roet un teod dezhi\/dezha\u00f1 evit lipat ar mogerio\u00f9 (nid oes ganddo\/ganddi dafod i lyfu muriau) \u2013 mae e\/hi'n siarad yn ddi-baid, pymtheg y dwsin. Cyfeiriadau Llyfryddiaeth F. Gourvil, Langue et litt\u00e9rature bretonnes (Paris, 1952) Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967) Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd) Dolenni allanol Gwefan Ofis ar Brezhoneg (Llydaweg) (Ffrangeg) Ar Bibl Santel (Jenkins) 1897 (JEN1897) (Saesneg) (Llydaweg)","1328":"Cyfnod o fomio parhaus gan Nats\u00efaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o Blitzkrieg, y geiriau Almaeneg am \"fellt\" a \"rhyfel\".Y ddwy dref a fomiwyd waethaf ac yn fwyaf cyson yng Nghymru oedd Abertawe a Chaerdydd. Am dair noson ym mis Chwefror 1941, ymosododd 250 o awyrennau\u2019r Almaen ar Abertawe gan ollwng 1,320 o fomiau ffrwydrol a thua 56,000 o fomiau t\u00e2n. Bwriad gwreiddiol y cyrch oedd dinistrio dociau\u2019r dref a\u2019i ffatr\u00efoedd diwydiannol trwm, ond collodd yr Almaenwyr eu targedau gan fomio canol Abertawe yn lle hynny. Roedd y bomiau t\u00e2n wedi achosi cymaint o danau fel ei bod yn bosibl eu gweld dros hanner can milltir i ffwrdd. Bu farw llawer o sifiliaid (tua 387), a dinistriwyd llawer iawn o adeiladau\u2019r dref. Dioddefodd Caerdydd hefyd. Mewn un cyrch, ar 2 Ionawr 1941, lladdwyd 151 o ddynion, 147 o fenywod a 47 o blant, a dinistriwyd tua 600 o dai. Caerdydd Rhwng Gorffennaf 1940 a mis Mawrth 1944 gollyngwyd tua 2,100 o fomiau ar ddinas Caerdydd, gan ladd 355 o sifiliaid. Difrodwyd tua 33,000 o dai a dinistriwyd dros 500. Y prif darged oedd y dociau, ond bu sawl ymosodiad ar ochr orllewinol y ddinas, yn enwedig ardal Treganna a Glanyrafon lle lladdwyd 50 o bobl mewn un stryd \u2013 Stryd De Burgh \u2013 ar 3 Ionawr 1941. Honnodd yr Almaenwyr eu bod yn dial ar \u00f4l i Brydain fomio Bremen. Bu llai o gyrchoedd awyr yn 1943, ond un o\u2019r mwyaf nodedig oedd ymosodiad a ddigwyddodd ar 17 Mai. Credwyd bod yr Almaenwyr yn talu\u2019r pwyth yn \u00f4l am gyrchoedd enwog y Dambusters ar ganolfannau diwydiannol ac argaeau trydan d\u0175r yr Almaen. Yng Nghymru y cafodd aelodau\u2019r RAF eu hyfforddi ar gyfer y cyrchoedd hyn. Datblygodd y cynllunydd awyrennau Barnes Wallis y \u2018bom sboncio\u2019 (bouncing bomb), ar \u00f4l cynnal profion ar argae Nant y Gro yng Nghwm Elan, ger Rhaeadr Gwy, Powys. Hwn oedd y bom a ddinistriodd ac a ddifrododd rai o brif argaeau\u2019r Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd. Abertawe Gweler hefyd: Blitz AbertaweCafodd Abertawe ei thargedu rhwng mis Mehefin 1940 a mis Chwefror 1943, a dioddefodd 44 cyrch awyr. Parodd yr ymosodiad gwaethaf dros dair noson ym mis Chwefror 1941, gan ddinistrio hanner canol y dref. Cafodd 30,000 o fomiau eu gollwng; llosgwyd 575 busnes; dinistriwyd 282 o dai a difrodwyd 11,084 ymhellach. Lladdwyd 227 o bobl, ac roedd 37 o\u2019r rhain o dan 16 oed. Dinistriwyd rhannau mawr o Frynhyfryd, Townhill a Manselton. Roedd Caerdydd ac Abertawe yn dargedau amlwg oherwydd eu dociau a'u gweithfeydd diwydiannol, ond ymosodwyd ar fannau eraill hefyd. Bomiwyd ffatr\u00efoedd ordnans, purfeydd olew, gweithfeydd mwyngloddio a hyd yn oed cymunedau gwledig, fel arfer gan awyrennau a oedd ar goll neu\u2019r rhai a oedd yn awyddus i ollwng eu bomiau cyn hedfan adref. Ardaloedd eraill yng Nghymru Yn Sir Gaernarfon, a oedd yn agos at lwybr hedfan yr awyrennau bomio ar eu ffordd i Lerpwl, lladdwyd pump o bobl mewn cyrchoedd bomio yn ystod y rhyfel. Ym mis Ebrill 1941, collodd 27 o bobl eu bywydau mewn cyrch yng Nghwm-parc yn y Rhondda; roedd chwech ohonynt yn blant, gan gynnwys pedwar faciw\u00ee. Amcangyfrifon Cymru, Mehefin 1940-Mai 1944 Cyfeiriadau","1330":"Perthnasol: Ystadegau Cymru, Fideos Llywodraeth Cymru, Llinellau amser 2019-20 a 2021 Yn Rhagfyr 2019 ymddangosodd y clefyd Coronafirws, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru ar gyfer ymlediad epidemig o'r firws. Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfnod clo. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.Drwy wanwyn 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gyda WHO yn ei alw'n \"bryder rhyngwladol\" ar 30 Ionawr ac yn bandemig\" ar 11 Mawrth 2020. ychydig wedyn, ar 16 Mawrth bu farw'r person cyntaf yng Nghymru, a hynny yn ardal Caerffili.Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ar y dydd olaf o Fawrth nododd Llywodraeth Cymru fod 1,300 o weithwyr iechyd a gofal wedi ymddeol wedi cytuno i ddychwelyd i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd, gyda'r ffigwr hwn yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a thros 400 o nyrsys a bydwragedd. Ar 17 Mawrth, neilltuodd Llywodraeth Cymru \u00a3200 miliwn ar gyfer y byd busnes ac ar 30 Mawrth, rhyddhawyd pecyn cymorth gwerth \u00a31.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.Ar 2 Rhagfyr 2020 cyhoeddwyd fod y brechlyn mRNA gan Pfizer\/BioNTech wedi ei gymeradwydo gan gorff yr MHRA ar gyfer ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain. Ar 30 Rhagfyr, cymeradwywyd brechlyn arall, yr 'Oxford-AstraZeneca' a chychwynwyd ei ddefnyddio ar 4 Ionawr 2021. Diffyg offer personol Mae iechyd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac efallai mai un o'r pryderon pennaf oedd y diffyg offer a chyfarpar diogelu personol (PPE) yng Nghymru, a gweddill gwledydd Prydain hefyd. Ar 14 Ebrill, cyhoeddodd The National fod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) wedi gofyn i gwmn\u00efau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban. Profion Ar 24 Mawrth datgelodd Gweinidog Iechyd Cymru fod cytundeb wedi'i arwyddo gyda chwmni o'r Swistir i ddarparu 5,000 o brofion y dydd a 9,000 erbyn diwedd mis Ebrill. Yn ddiweddarach, deallwyd mai'r cwmni Roche ydoedd. Yn ddiweddarach daeth yn wybyddus fod pwysau wedi'i roi ar gwmni Roche a nifer o gwmn\u00efau yn Lloegr i ddarparu'r profion (a dillad amddiffynol) i Loegr yn unig. Er i nifer o bobl, gan gynnwys Adam Price ofyn i'r manylion gael eu rhyddhau, mynnod Gething na fydd hyn yn digwydd, tan wedi i'r pandemig gilio. Brechu Erbyn Tachwedd 2020 roedd sawl brechlyn gan gwmniau gwahanol wedi eu datblygu a'u profi. Ar 2 Rhagfyr 2020 cyhoeddwyd fod y brechlyn mRNA gan Pfizer\/BioNTech wedi ei gymeradwydo gan gorff yr MHRA ar gyfer ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain. Fe'i cyflwynwyd yng Nghymru o Ragfyr ymlaen ar gyfer gweithwyr iechyd a'r oedrannus, er y byddai'n cymryd misoedd eto i'w ddosbarthu. Ar 30 Rhagfyr, cymerdwywyd brechlun arall, yr 'Oxford-AstraZeneca' a chychwynwyd ei ddefnyddio ar 4 Ionawr 2021; ar y diwrnod hwnnw roedd dros 35,000 wedi eu brechu yng Nghymru. Ar 12 Chwefror, cyhoedd Mark Drakeford fod y garreg filltir gyntaf wedi'i chyrraedd, sef brechu pob gweithwyr rheng flaen, cleifion a staff mewn cartrefi gofal, a phobl bregus. Dywedodd hefyd fod dros 758,000 o bobl wedi cael eu dos 1af o'r brechlyn: y ganran uchaf drwy wledydd Prydain. Llinell amser Dyma grynodeb byr o'r digwyddiadau a cerrig milltir y firws yng Nghymru. Rhagfyr 2019 dechrau RhagfyrConnor Reed, bachgen 25 oed o Landudno, a weithiai mewn coleg yn Wuhan yn dal y firws COVID-19. Dyma'r person cyntaf o wledydd Prydain i ddal y firws. Wedi dychwelyd i Gymru, cychwynodd astudio Tsieineeg ym Mhrifysgol Bangor, ond bu farw yn ei fflat, yn 26 oed \"o ganlyniad i ddamwain\" yn \u00f4l ei fam. Ionawr 2020 1 Chwefrorcanslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.24 Ionawrcyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle i atal yr epidemig Chwefror 2 Chwefrory person cyntaf y tu allan i Tsieina yn marw o'r clefyd; roedd y dyn 44-oed yn byw yn Y Philipinau, ond newydd ddychwelyd o Wuhan, Tsieina.28 ChwefrorCoronafeirws: Achos cyntaf Cymru wedi'i ganfod yn Abertawe. Mawrth 5 MawrthGolwg 360 yn nodi fod 2 wedi eu profi'n bositif.7 MawrthGwasaneth Ambiwlans Cymru yn creu gwasanaeth newydd ar-lein er mwyn I bobol gallu asesu symptomau coronafeirws.10 MawrthDechreuodd Lloyd Warburton gymryd cofnodion a chreu mapiau a thabl o lledaeniad yr haint yng Nghymru gan ei llwytho ar wefan arbennig http:\/\/CoronaVirusCymru.wales13 MawrthGem y chwe gwlad Cymru yn erbyn Yr Alban yn cael ei gohirio.11 Mawrth Mae gan Gymru ei hachos cyntaf o \"drosglwyddo cymunedol\", gyda chlaf yng Nghaerffili heb unrhyw hanes teithio yn profi'n bositif ar gyfer COVID-19.12 Mawrth Claf yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn profi'n bositif am COVID-19 - yr achos cyntaf yng Ngogledd Cymru.13 MawrthVaughan Gething yn cyhoeddi bydd holl apwyntiadau a llawdriniaethau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys yn cael eu hatal mewn ysbytai yng Nghymru, mewn ymgais i ohirio lledaeniad y pandemig coronafirws.16 MawrthY person cyntaf yng Nghymru yn marw o COVID-19.17 MawrthLlywodraeth Cymru'n cyhoeddi eu bod yn neilltuo \u00a3200 miliwn ar gyfer y byd busnes, i'w digolledu oherwydd effaith y Gofid Mawr.20 MawrthLlywodraeth Cymru ar yr 18fed o Fawrth yn gorchymyn cau ysgolion o'r 20fed o Fawrth (dydd Gwener). Dywedodd y llywodraeth y byddai arholiadau TGAU a Lefel A yr haf hwn hefyd yn cael eu canslo.21 Mawrthtwristiaid yn tyrru i mewn i Gymru i'w tai haf a'u carafannau; posteri a cheir yn cael eu gosod i geisio atal hyn a galw mawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb.23 MawrthGyda niferoedd marwolaeth y DU yn cyrraedd 335 ac 16 o farwolaethau yng Nghymru, cyhoeddodd Boris Johnson y byddai gorchymyn 'Aros yn y Cartref' ledled y wlad yn dod i rym erbyn hanner nos ac y byddai'n cael ei adolygu bob 3 wythnos. Byddai hyn yn cael ei alw y cyfnod clo.25 MawrthAwdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi y byddan nhw'n cau mynediad i'r mynyddoedd prysuraf ar unwaith. .27 Mawrthcyhoeddodd Stadiwm y Mileniwm eu bod am gydweithio i droi'r stadiwm yn ysbyty dros dro i 2,000 o gleifion 28 MawrthCytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni fferyllol Roche i gynyddu'r profion COVID-19 i 5,000 y dydd yn methu.30 MawrthLlywodraeth Cymru yn rhyddhau pecyn cymorth gwerth \u00a31.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ebrill 1 EbrillCynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfod 'Senedd Frys' mewn modd fideo gynadledda, y ddeddfwrfa gyntaf i wneud hynny yn y DU. 7 EbrillLlywodraeth Cymru yn dod a chyfraith i rym sy'n rhoi cyfrifoldeb ar gyflogwyr gweithwyr allweddol (heblaw am GIG) i gadw eu staff 2 fetr ar wah\u00e2n.8 EbrillLlywodraeth Cymru'n cadarnhau y bydd y cyfyngiadau yn aros mewn lle ar ol y 3 wythnos wreiddiol. Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn gofyn am gymorth brys ar \u00f4l i ffermwyr llaeth.9 EbrillPerchennog cartrefi gofal yn dweud bod cwmn\u00efau yn Lloegr yn gwrthod gwerthu offer gwarchod personol (PPE) i Gymru11 EbrillAgorwyd un rhan o Ysbyty Calon y Ddraig yng Nghaerdydd.13 EbrillPobl Cymru yn cyd-gannu'r anthem genedlaethol am 8 o\u2019r gloch yr hwyr er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol GIG. Canolfan profi yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhaid cau oherwydd 'resymau gweithredol'. 14 EbrillPapur newyddion The National yn dweud bod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) yn gofyn i gwmn\u00efau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban. Ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 82 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig \u00e2 Covid-19 nag a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dechrau mis Ebrill.17 EbrillMarwolaethau yn pasio hanner mil: 506. Mark Drakeford yn dweud yn y briff dyddiol efallai bydd rhaid i Gymru gymryd camau gwahanol 'os oes angen'. Plaid Cymru ac Y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau \"cydraddoldeb o ran t\u00e2l ac amodau\" rhwng gweithwyr iechyd a gofal.18 Ebrill Arolwg gan y Coleg Brenhinol y Nyrsys yn dweud bod 54% o'r rhai a holwyd yn \"teimlo dan bwysau\" i ofalu heb yr offer digonol.19 Ebrill Llywodraeth Cymru ddim yn mynd i osod targed newydd ar \u00f4l methu \u00e2 chyrraedd 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.20 Ebrill Cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru pecyn ychwanegol gwerth \u00a3100 miliwn i gefnogi busnesau. Agorwyd yn llawn Ysbyty Calon y Ddraig ar gaeau a safle Stadiwm y Principality yn sywddogol.21 Ebrill Yr Athro Syr Martin Evans yn cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o \"esgeuluso'u dyletswyddau\".22 Ebrill Dominic Raab yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ollwng targedau profi. 15 uwch ddoctoriaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud defnyddio ail gartrefi yn anghyfreithlon.23 Ebrill Tarian Cymru (mudiad codi arian) yn darparu eu cyflenwad PPE cyntaf i weithwyr iechyd yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir G\u00e2r a Chaerdydd. Adroddiad yn dweud gall prifysgolion Cymru gweld gostyngiad o bron i \u00a3100m.24 Ebrill Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fframwaith goleuadau traffig a saith cwestiwn allweddol er mwyn dod allan o'r cyfyngiadau presennol. Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi 84 o farwolaethau a chaeth ei \u00f4l-ddyddio yn dod o Betsi Cadwaladr.26 Ebrill Mark Drakeford yn dweud fod 'bod y cofnod o'r haint yn ddibynadwy'.27 Ebrill Prif Weinidog Cymru yn galw ar Lywodraeth DU i roi cymorth ariannol i'r diwydiant dur yng Nghymru. Heddluoedd De a Gogledd Cymru 'yn anobeithio' o ganlyniad i rai torri'r cyfyngiadau drwy deithio o Loegr i Gymru.28 Ebrill Gweinidog Iechyd Cymru yn dweud bod dau hediad yn glanio yn Faes Awyr Caerdydd wythnos dechrau 28 Mawrth, yn llawn cynnyrch PPE. Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, yn dweud bydd ysgolion yn ailagor 'yn raddol'.29 Ebrill Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod dim mynd i ddilyn Lloegr trwy brofi staff a phreswylwyr pob cartref gofal.30 Ebrill Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd yn rhithiol i drafod materion yn ymwneud gydag effaith COVID-19 a'r bobl ifanc gyda'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg. Ysgrifennydd undeb Unite Cymru, Peter Hughes, yn rhybuddio bod Cymru \u201cmewn perygl mawr\u201d o golli ei ffatr\u00efoedd a\u2019r holl swyddi yn y sectorau cynhyrchu. Mai 1 Mai Mark Drakeford yn cyhoeddi bydd taliad ychwanegol o \u00a3500 i weithwyr gofal cymdeithasol. Ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu bod ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn gweld yr gwaethaf.3 Mai Bydd y rhai sy'n trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd a'r ysgolion Cymraeg yn cael ei blaenoriaethu.4 Mai Adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dod i law gan y BBC yn dweud bod angen tua 36,0000 o brofion5 Mai Mynegodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, bod y cyngor \"wedi colli hyd at \u00a39m\" o ganlyniad i'r pandemig.6 Mai Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud bod coronafeirws wedi costio'r cyngor \u00a320m mewn costau ychwanegol rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig.7 Mai Kirsty Williams yn cadarnhau na fydd ysgolion Cymru yn ailagor ar 1 Mehefin.8 Mai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymestyn cyfnod cyfyngiadau am dair wythnos ychwanegol ond llacio rhai rheolau.9 Mai Lesley Griffiths, Gweinidog Amaeth Cymru, yn cyhoeddi cymorth i'r ffermwyr llaeth sydd wedi dioddef fwyaf.10 Mai Gwledydd datganoledig yn gadarn bod cyngor 'Aros Gartref' dim wedi newid, gyda nifer yn dweud bod cyngor newydd Johnson ar gyfer Lloegr yn \"ddryslyd\". 11 Mai Prif Weinidog Cymru'n dweud yn y briff dyddiol mae 'cyfraith Cymru sydd mewn grym', gan dynnu sylw at y tensiwn gwleidyddol. Pedwar Prif Gwnstabl Cymru'n dweud bod llif y traffig o Loegr i Gymru wedi cynyddu o ganlyniad i'r cyhoeddiad gan Boris Johnson ar 10 Mai.12 Mai Arolygiaeth Gofal Cymru'n dweud bod yna cynyddiad o 98% yn y niferoedd o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru i gymharu \u00e2 blwyddyn ddiwethaf.13 Mai Vaughan Gething yn dweud y bydd yn cynyddu'r cynllun profi i 20,000 a bod 5,000 gallu cael ei brofi ar hyn o bryd.15 Mai Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau coronafeirws. Nid oes amserlen benodol.16 Mai Vaughan Gething yn dweud bydd profi i bawb mewn cartrefi gofal ar ol iddo dderbyn cyngor gwyddonol newydd.17 Mai Syr Keir Starmer, arweinydd Plaid Llafur, yn dweud ei fod yn destun \"siom\" bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gwahanol.18 Mai Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2020 yn gofyn i bobl peidio anghofio\u2019r gwersi sydd wedi\u2019u dysgu gan Covid19.19 Mai Ffigyrau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi bron dyblu. Mehefin 5 Mehefin Gwagiwyd Ysbyty Calon y Ddraig a symudwyd y cleifion a staff i ysbytai eraill. 34 claf oedd yr uchaf oedd yn cael ei thrin. Mi fydd y safle yn aros fel ag y mae tra bod perygl o ail don.18 Mehefin Caewyd ffatri brosesu cyw i\u00e2r 2 Sisters ar Ynys M\u00f4n yn dilyn 75 achos o goronafirws.20 Mehefin Ail agorwyd siopau nad ydynt yn hanfodol gyda mesurau diogelwch ychwanegol yng Nghymru.29 Mehefin Cyhoeddwyd y byddai dau gartref yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio cartref estynedig o 6 Gorffennaf ymlaen.30 Mehefin Cytunodd Pwyllgor Busnes Senedd Cymru i symud at fodel cymysg ar gyfer cyfarfodydd llawn lle gall Aelodau ymuno yn rhithiol neu gall 20 ymuno yn y Siambr. Gorffennaf 3 Gorffennaf Cadarnhau diwedd y cyfyngiadau teithio yng Nghymru yn ogystal a chaniateir aelwydydd \u2018estynedig'.9 Gorffennaf Gweinidog addysg yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer mynd yn \u00f4l i\u2019r ysgol yng Nghymru ym mis Medi. Bydd ysgolion yn dychwelyd i\u2019w capasiti llawn, gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt.10 Gorffennaf Y Prif Weinidog yn dweud o'r 11 Gorffennaf 2020, gall llety gwyliau hunangynhwysol ailagor. O 13 Gorffennaf 2020, gall nifer o wasanaethau\/busnesau ailagor mewn ffordd ddiogel fel siopau trin gwallt, tafarndai a bwytai tu allan. Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored (o 20 Gorffennaf 2020), llety arall i dwristiaid (o 25 Gorffennaf 2020), gwasanaethau lle mae angen dod i \u2018gysylltiad agos\u2019 fel salonau harddwch, ac ailagor y farchnad dai yn llawn (o 27 Gorffennaf 2020).13 Gorffennaf Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd gwisgo gorchuddion wyneb tair haen yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, o 27 Gorffennaf 2020. 15 Gorffennaf Llywodraeth Cymru yn rhyddhau ei strategaeth profi coronafeirws newydd i Gymru, lle mae\u2019n nodi ei blaenoriaethau profi ar gyfer y cyfnod nesaf.16 Gorffennaf Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau na fydd angen i bobl sy\u2019n gwarchod eu hunain wneud hynny am y tro yng Nghmru ar \u00f4l 16 Awst.17 Gorffennaf Gr\u0175p Cyngor Technegol yn cyhoeddi adroddiad cyntaf ar farwolaethau cysyllitedig \u00e2\u2019r coronafeirws yng Nghymru. Yng Nghymru, roedd cyfraddau marwolaeth cysylltiedig \u00e2\u2019r coronafeirws ar eu huchaf yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, lle roedd y cyfraddau marwolaeth ar eu huchaf ymhlith pobl h\u0177n, pobl o gymunedau BAME, a phobl o gymunedau difreintiedig.22 Gorffennaf Llywodraeth Cymru\u2019n cyhoeddi y bydd \u00a350 miliwn yn ychwanegol o gyllid ar gyfer prifysgolion a cholegau.25 Gorffennaf Gweinidogion o bedair gwlad y DU yn cytuno i ailgyflwyno mesurau cwarantin ar gyfer pobl sy\u2019n cyrraedd o Sbaen, mewn ymateb i fwy o achosion o\u2019r Coronafeirws mewn rhannau o\u2019r wlad honno.30 Gorffennaf Swyddogion Meddygol y DU yn gwneud datganiad ar y cyd ynghylch ymestyn y cyfnod hunan-ynysu o 7 diwrnod i 10 diwrnod ar gyfer pobl sy\u2019n symptomatig neu sy\u2019n cael canlyniad prawf positif.31 Gorffennaf Y Prif Weinidog yn dweud o'r 3 Awst ymlaen, caiff tafarndai a bwytai ailagor dan do. Caiff y cyfyngiadau ar gwrdd yn yr awyr agored eu llacio hefyd o 3 Awst ymlaen, a hynny er mwyn caniat\u00e1u i hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored gyda pellter cymdeithasol. O 10 Awst ymlaen, bydd canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn cael ailagor. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gochelgar a fydd yn gallu canitau i bobl cyfarfod dan do o 17 Awst ymlaen. Awst 5 Awst Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn sefydlogi o \u00a3800 miliwn i helpu GIG Cymru \u2018i baratoi ar gyfer yr heriau a ragwelir yn ystod y gaeaf\u2019.7 Awst Cymwysterau Cymru'n dweud bod graddau amcan athrawon lefel A a TGAU y flwyddyn yma wedi bod yn rhai 'hael', a bydd rhaid gostwng graddau drwy broses safonni er mwyn cynnal safonnau gorffennol.14 Awst Prif Weinidog Cymru yn caniat\u00e1u i fwy o deuluoedd gwrdd yng Nghymru. Y bwriad yw, o ddydd Sadwrn 22 Awst ymlaen: y bydd hyd at bedwar cartref creu aelwyd estynedig.17 Awst Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi Pecyn cymorth o \u00a3260 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru. Dim yn bosib llacio rheolau cwrdd dan do gyda unrhyw un yn ol Mark Drakeford.18 Awst Llywodraeth Cymru\u2019n cyhoeddi cyllid o \u00a332 miliwn i wella perfformiad profion Coronafeirws. Y Gweinidog Addysg yn ymddiheuro i ddisgyblion ar \u00f4l tro pedol syfrdanol i'r broses o ddyfarnu graddau Lefel A a TGAU. Roedd y broses yn \u00f4l nifer wedi tynnu graddau disgyblion yn annheg i lawr drwy ddefnyddio algorithm. Dilynwyd Kirsty Williams y gweinidogion Addysg arall y DU drwy ddefnyddio graddau gwreiddiol athrawon.26 Awst Llywodraeth Cymru yn argymell gwisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion, ond bydd i fyny i'r ysgolion wneud yn orfodol wedi iddynt asesu'r risg.27 Awst Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dirwyon llymach i bobl sy\u2019n trefnu digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded lle mae mwy na 30 o bobl yn bresennol.28 Awst Llywodraeth Cymru'n annog bobl i ddilyn y rheolau ar \u00f4l i nifer o achosion positif ddigwydd o ganlyniad i bobl sy\u2019n dychwelyd o\u2019u gwyliau heb hunanynysu. Medi O Fedi ymlaen, ceir cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar ffurf fideos. 3 Medi - Cymru yn tynnu Portiwgal oddi ar ei rhestr eithrio cwarant\u00een yn dilyn cynnydd mewn achosion COVID-19 yn y wlad honno, gyda'r rheolau newydd yn dod i rym o 4am ar 4 Medi. Mae ynysoedd Gwlad Groeg yn ogystal \u00e2 Gibraltar a Polynesia Ffrainc hefyd yn cael eu tynnu i ffwrdd. Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru osod rheolau cwarant\u00een gwahanol i lywodraeth y DU. 4 Medi - Clwstwr yn cael ei ddarganfod yn Caerffili o ganlyniad i bobl nad ydynt yn cadw pellter cymdeithasol. Mae canolfan brofi dros dro yn cael ei sefydlu yng nghanolfan hamdden Caerffili. 7 Medi - Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfyngiadau lleol i reoli\u2019r achosion yn Sir Caerffili, o 6pm ymlaen ar 8 Medi 2020, ni chaniateir i bobl fynd i mewn i ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, na gadael heb esgus rhesymol. Dyma'r cyfyngiadau lleol cyntaf yng Nghymru. 10 Medi - Gofynnir i bobl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wisgo gorchuddion wyneb yn y gwaith, mewn siopau a mannau cyhoeddus er mwyn osgoi clo tebyg i'r un yng Nghaerffili. 11 Medi - Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau a lleoedd dan do eraill yn dod yn orfodol o 14 Medi, ac y bydd cyfarfodydd dan do o fwy na chwech o bobl yn cael eu gwahardd. 14 Medi - Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod manylion 18,000 o bobl a brofodd yn bositif am COVID-19 wedi\u2019u cyhoeddi ar-lein mewn camgymeriad ar 30 Awst. Roedd y wybodaeth ar gael am 20 awr, ac er na chyhoeddwyd enwau llawn, efallai fod y wybodaeth wedi ei gwneud hi'n bosibl adnabod preswylwyr cartrefi gofal. 15 Medi - Bydd 5,000 o welyau ysbyty ychwanegol ar gael dros y gaeaf ar gyfer darpar gleifion COVID-19. Yn dilyn adroddiadau bod pobl yn methu \u00e2 chael profion COVID-19, neu'n gorfod teithio rhai cannoedd o filltiroedd i ganolfan brawf, dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai profion ddod ar gael i'r rheini heb symptomau unwaith y bydd cyfleusterau labordy newydd yn cael eu hagor ym mis Tachwedd. 16 Medi - Rhoddir Rhondda Cynon Taf o dan gyfyngiadau cloi, i rym o 18:00 ar 17 Medi. 18 Medi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn datgan bod achos o COVID-19 yn Wrecsam ar ben. 19 Medi - Ymweliadau ysbytai a chartrefi gofal yn cael eu hatal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf oherwydd pryderon ynghylch achosion COVID-19 cynyddol yn yr ardaloedd hynny. 21 Medi - Cyhoeddir cyfyngiadau cloi ar gyfer Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chasnewydd yn weithredol o 18:00 ar 22 Medi; ni chaniateir i bobl yn yr ardaloedd hynny adael, tra bod yn rhaid i adeiladau trwyddedig gau erbyn 23:00. 22 Medi - Mewn anerchiad teledu a recordiwyd ymlaen llaw, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi cyfyngiadau newydd o ganlyniad i achosion COVID-19 yn codi, gan ddod \u00e2 Chymru yn unol \u00e2 Lloegr. Rhaid i dafarndai, bwytai a bariau gau am 10pm o ddydd Iau 24 Medi, a chynnig gwasanaeth bwrdd yn unig, tra bod yn rhaid i drwyddedau ac archfarchnadoedd roi'r gorau i weini alcohol bryd hynny. Mae Drakeford hefyd yn cynghori pobl yn erbyn teithio diangen. 24 Medi - Mae'r ail fersiwn o ap olrhain cyswllt y GIG ar gael i'w lawrlwytho gan y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. 25 Medi - Cyflwynir mesurau cloi i lawr ar gyfer Llanelli, Caerdydd ac Abertawe, gyda'r mesurau yn dod i rym yn Llanelli am 18:00 ar 26 Medi, a Chaerdydd ac Abertawe am 18:00 ar 27 Medi. 27 Medi - Cyhoeddir mesurau cloi ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg, gan ddechrau am 18:00 ar 28 Medi. Mae hyn yn golygu bod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru dan gyfyngiadau. 29 Medi - Cyhoeddir cyfyngiadau cloi ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam, gan ddod i rym o 18:00 ar 1 Hydref; ni all pobl fynd i mewn i'r ardaloedd hyn na gadael oni bai am reswm dilys fel gwaith neu addysg. Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i atal pobl rhag ardaloedd o Loegr sydd dan cyfyngiadau rhag teithio i Gymru am wyliau. Adroddir bod gan Blaenau Gwent, sy'n dan cyfyngiadau ar hyn o bryd, un o'r cyfraddau achos COVID-19 uchaf a chyflymaf yn y DU, gyda 307.7 o achosion fesul 100,000. 30 Medi - Llawfeddygaeth yn cael ei hatal dros dro yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dilyn 60 o achosion COVID ac wyth marwolaeth yn yr ysbyty. Hydref 1 Hydref -Marwolaethau COVID yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn codi i ddeg, tra bod derbyniadau i'r ysbyty yn cynyddu yn ardal y Cymoedd. 2 Hydref -Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson yn gwrthod galwad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford i atal pobl o Loegr sy'n byw mewn ardaloedd lle mae achosion COVID-19 yn uchel rhag teithio i Gymru. 5 Hydref - Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn rhybuddio y dylai pobl \"baratoi\" ar gyfer cyfyngiadau dro ar ol tro dros y gaeaf i ddod. 6 Hydref - Ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y rhestr o bobl sy\u2019n aros am lawdriniaeth arferol yng Nghymru wedi tyfu chwe gwaith ers dechrau\u2019r pandemig, gyda 57,445 bellach yn aros am lawdriniaeth. 7 Hydref - Mae trydariad gan gyflwynydd Fox News, Laura Ingraham, yn beirniadu cynlluniau ar gyfer \"cyfyngiadau barhaus\" yng Nghymru dros y gaeaf yn cael ei rannu gan Arlywydd yr UDA Donald Trump. 8 Hydref - Dywed Dr Giri Shankar, cyfarwyddwr digwyddiad COVID ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod tafarndai a bwytai yn \u201cbryder parhaus\u201d yn dilyn cynyddiad mewn achosion gan gynnwys 33 mewn clwb a lleoliad arall yng Nghwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr. 9 Hydref - Cyhoeddir cyfyngiadau lleol ar gyfer Bangor, gan ddechrau am 18:00 ar 10 Hydref. 11 Hydref - Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud fod Cymru \u201cyn agos at bwynt tipio\u201d gyda nifer yr achosion COVID-19 yn codi\u2019n gyflym mewn rhai ardaloedd. 12 Hydref - Mark Drakeford yn rhoi cyfle olaf i Boris Johnson i orfodi gwaharddiad teithio ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru o fannau uchel o COVID-19 yn Lloegr, neu y bydd yn gosod ei gwaharddiad ei hun. 13 Hydref - Prif Weinidog Boris Johnson unwaith eto yn gwrthod galwadau am waharddiad teithio Cymru ar bobl o fannau uchel COVID-19 yn Lloegr. 14 Hydref - Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi cynlluniau i wahardd ymwelwyr I Gymru o rannau eraill o'r DU gyda chyfraddau uchel COVID-19. 15 Hydref - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyda fwy o achosion o COVID-19 nag ar unrhyw adeg ers dechrau y pandemig, gyda chynifer \u00e2 12 o gleifion COVID-19 yn cael eu cofnodi mewn ysbytai bob dydd. 16 Hydref - Cymru yn cyflwyno gwaharddiad teithio ar bobl o fannau uchel COVID mewn rhannau eraill o'r DU, gan ddechrau o 6pm. 19 Hydref - Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfyngiadau \"byr a llym\" rhwng dydd Gwener 23 Hydref a dydd Llun 9 Tachwedd, pryd y bydd tafarndai, bwytai a gwestai yn cau a dywedir wrth bobl i aros gartref. Mae'r mesurau \"toriad t\u00e2n\" wedi'u hamseru i gyd-fynd \u00e2 hanner tymor yr hydref, a bydd ysgolion yn dychwelyd ddydd Llun 2 Tachwedd ar gyfer disgyblion hyd at flwyddyn wyth. 20 Hydref - Dywed gweinidogion Llywodraeth Cymru na allan nhw ddiystyru cloi \"toriad t\u00e2n\" arall yn gynnar yn 2021 os bydd achosion COVID yn codi eto dros y Nadolig. 21 Hydref - Mae'r ffigurau'n dangos bod heintiadau COVID-19 mewn ysbytai wedi codi 50% dros yr wythnos flaenorol. 22 Hydref \u2013Cynghorir archfarchnadoedd bod yn rhaid iddynt werthu \"eitemau hanfodol\" yn unig yn ystod cyfnod y cloi 17 diwrnod; nid yw hyn yn cynnwys eitemau fel dillad. 23 Hydref - Cymru yn cychwyn ei 'chlo bach' 17 diwrnod mewn ymgais i arafu'r cynnydd mewn achosion COVID a derbyniadau i'r ysbyty. 24 Hydref - Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, yn rhybuddio y bydd plismona'r ail glo yn anoddach na'r cyntaf oherwydd blinder COVID, ond mae'n annog pobl i gymryd \"cyfrifoldeb personol\". 25 Hydref -Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford na fydd y gwaharddiad ar archfarchnadoedd yn gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu gwrthdroi, ar \u00f4l i ddeiseb Senedd yn galw am ei gwrthdroi gael ei llofnodi gan fwy na 37,000 mewn dau ddiwrnod. 27 Hydref - Wrth i nifer y llofnodion ar ddeiseb y Senedd dyfu i 67,000, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr wedi'i diweddaru o nwyddau y gall manwerthwyr eu gwerthu mewn ymgais i egluro'r mater. Mae'r rhestr yn cynnwys dillad babanod, sydd wedi'u rhestru fel eitemau hanfodol. Dywed y canllaw hefyd y dylai pobl allu prynu eitemau nad ydynt yn hanfodol mewn amgylchiadau eithriadol. 28 Hydref - Mark Drakeford yn cadarnhau y bydd siopau, tafarndai, bwytai, caffis, campfeydd a chanolfannau hamdden yn ailagor pan ddaw'r clo bach i ben. 30 Hydref - Dywed Mark Drakeford na fydd dychwelyd i gyfyngiadau lleol pan ddaw'r mesurau \"toriad t\u00e2n\" 17 diwrnod i ben ar 2 Tachwedd, ond yn lle hynny bydd set o reolau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno \"er mwyn eglurder a symlrwydd.\" 31 Hydref - Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd y broses o'r clo t\u00e2n yn dod i ben ar 9 Tachwedd, hyd yn oed gyda'r clo newydd gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr. Tachwedd 1 Tachwedd - Gyda'r cynllun arbed swyddi (furlough) wedi'i ymestyn tan fis Rhagfyr yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Lloegr dan gyfyngiadau am fis, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynegi siom bod cais Cymru i'w gael wedi'i estyn gan y Trysorlys trwy gydol cloi t\u00e2n Cymru wedi'i wrthod. 2 Tachwedd - Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd dwy aelwyd yn gallu ffurfio swigen unwaith y bydd y toriad t\u00e2n yn dod i ben ar 9 Tachwedd. Bydd cyfyngiadau teithio hefyd yn cael eu codi, ond ni fydd pobl yn cael gadael y wlad. 3 Tachwedd - Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd grwpiau o bedwar o bobl o wahanol aelwydydd yn gallu cyfarfod mewn tafarndai, bariau a bwytai pan ddaw'r toriad t\u00e2n i ben. Caniateir i grwpiau mwy o un cartref fwyta gyda'i gilydd, ond gofynnir i bobl wneud hynny yn y grwpiau lleiaf posibl. 5 Tachwedd - Mae data a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod o leiaf hanner ysgolion Cymru wedi cael achos o COVID yn yr ysgol. Mae'r ffigurau'n dangos mai Merthyr Tudful sydd \u00e2'r gyfradd uchaf o COVID yn y DU gyda 741 o achosion fesul 100,000. 6 Tachwedd - Dr Dai Samuel, ymgynghorydd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn galw am gyfyngiadau cloi i barhau ym Merthyr Tudful \"am wythnosau, hyd yn oed fisoedd\". Mewn ymateb dywed Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw ddychwelyd i gyfyngiadau lleol unwaith y bydd y toriad t\u00e2n yn dod i ben ar 9 Tachwedd. 8 Tachwedd - Ar ddiwrnod olaf y toriad t\u00e2n, dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod achosion COVID yn dechrau gwastatu yng Nghymru. 10 Tachwedd - Mae arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch a drefnwyd ar gyfer haf 2021 yn cael eu canslo, yn hytrach bydd graddau yn seiliedig ar asesiadau ddosbarth. 11 Tachwedd - Dywedir wrth fyfyrwyr yng Nghymru sy'n dymuno teithio adref ar gyfer y Nadolig bod yn rhaid iddynt wneud hynny cyn 9 Rhagfyr. Byddant yn cael cynnig profion COVID llif unffordd asymptomatig er mwyn lleihau'r risg y byddant yn lledaenu'r firws. Ysbyty Calon y Ddraig yng Nghaerdydd yn cael ei ddigomisiynu. 16 Tachwedd - Mae Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, a adeiladwyd i gynyddu capasiti ysbytai yn ystod argyfwng COVID, wedi derbyn ei gleifion cyntaf. 17 Tachwedd - Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn amlinellu cynlluniau i sicrhau y gall pobl Cymru bleidleisio\u2019n ddiogel yn etholiadau\u2019r Senedd yn 2021. 18 Tachwedd - Merthyr Tudful yw'r ardal gyntaf yng Nghymru i gynnig prawf COVID i bawb sy'n byw ac yn gweithio yno, gyda'r rhaglen yn dechrau ddydd Sadwrn 21 Tachwedd. 20 Tachwedd - Gyda'r arolwg heintiau diweddaraf ar gyfer Cymru yn nodi bod achosion COVID-19 wedi cyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Hydref, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd Cymru yn wynebu cyfyngiadau llymach adeg y Nadolig os bydd achosion yn ymchwyddo. 22 Tachwedd - Mae saith ysgol yn ardal Aberteifi a phump yng Ngogledd Sir Benfro i gau oherwydd cysylltiadau \u00e2 lledaeniad COVID. Bydd ysgolion Aberteifi yn ailagor ar 7 Rhagfyr, tra nad yw Sir Benfro eto i gadarnhau hyd y cau yno. 23 Tachwedd - Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru, ar wah\u00e2n i mewn ystafelloedd dosbarth. 24 Tachwedd - Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi bod llywodraethau pedair gwlad y DU wedi cytuno ar set eang o fesurau. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r hawl i deuluoedd ffurfio swigen Nadolig rhwng 3 aelwyd am gyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020. 25 Tachwedd - Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cadarnhau bod ei lywodraeth yn ystyried cyfyngiadau llymach yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig, gyda mesurau o bosibl yn cydberthyn \u00e2 haenau uchaf Lloegr a'r Alban ar y pryd. 27 Tachwedd -Bydd profion torfol COVID yn cael eu cyflwyno i ail ardal yng Nghymru, gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardal Cwm Cynon isaf yn cael eu profi. 28 Tachwedd - Mae Sam Rowlands, arweinydd Cyngor Conwy, yr ardal sydd \u00e2'r gyfradd COVID isaf yng Nghymru, yn beirniadu dull genedlaethol Llywodraeth Cymru tuag at y sector lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig. 30 Tachwedd - Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd tafarndai, bwytai a chaffis yn cael gwerthu alcohol o ddydd Gwener 4 Rhagfyr, a rhaid iddynt gau am 6yh, er mwyn mynd i'r afael \u00e2 chynnydd mewn achosion COVID. Yn ogystal mae rhaid i atyniadau adloniant ac ymwelwyr dan do gau hefyd ar y 4ydd o Rhagfyr. Mewn ymateb, mae grwpiau busnes wedi rhybuddio am yr effaith ddinistriol ar y sector lletygarwch Cymru, gyda chaefeydd \"wedi'i warantu\" i nifer o fusnesau. Rhagfyr 12 Rhagfyr 1 Rhagfyr - Mae Brains, un o fragdai mwyaf Cymru, yn cyhoeddi y bydd 100 o dafarndai'n cau o ddydd Gwener 4 Rhagfyr. Mae Alistair Darby, pennaeth y cwmni, yn disgrifio'r rheolau newydd fel \"cau trwy lechwraidd\". 2 Rhagfyr - Yn dilyn cymeradwyaeth y DU o\u2019r brechlyn Pfizer\/BioNTech, dywed prif swyddog meddygol Cymru, Frank Atherton, ei fod yn ansicr pryd y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn gallu derbyn y brechlyn newydd oherwydd gofynion storio ar dymheredd isel iawn. 3 Rhagfyr - Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y caniateir teithio rhwng Cymru a rhannau o Loegr a'r Alban sydd yn haenau un a dau o ddydd Gwener 4 Rhagfyr. 4 Rhagfyr - Daw gwaharddiad alcohol y sector lletygarwch i rym am 6pm, gan orfodi tafarndai i arllwys galwyni o gwrw i lawr y draen. 8 Rhagfyr - Gr\u0175p Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru yn dweud bod nifer y bobl sy\u2019n marw o COVID-19 yn llawer uwch na\u2019r senario gwaeth a ragwelir mewn rhagolwg a wnaed gan Brifysgol Abertawe. Mae cynghorwyr gwyddonol hefyd yn annog pobl yn \"gryf\" i ohirio cyfarfod ac aduniadau Nadolig, ac wedi awgrymu y dylai unrhyw un \u00e2 phlant \"ynysu\" am ddeg diwrnod cyn cwrdd \u00e2 pherthnasau oedrannus. Gweithwyr iechyd a gofal yw'r bobl gyntaf yng Nghymru i dderbyn y brechlyn Pfizer\/BioNTech COVID-19. 9 Rhagfyr - Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod sefyllfa COVID yng Nghymru yn \u201canodd iawn\u201d ond nid allan o reolaeth. 10 Rhagfyr - Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi y bydd pob ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yn symud i addysgu ar-lein o ddydd Llun 14 Rhagfyr. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn beirniadu hyn fel un sy'n tarfu ar addysg. 11 Rhagfyr -Gan gyhoeddi bod yn rhaid i bob atyniad awyr agored gau o ddydd Llun 14 Rhagfyr, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd cau ar \u00f4l y Nadolig yn dod i rym os na fydd achosion COVID yn cwympo yng Nghymru. 12 Rhagfyr - Mae nifer y profion COVID positif yng Nghymru yn pasio 100,000 wrth i 2,494 o achosion eraill fynd \u00e2'r cyfanswm i 100,725.13 Rhagfyr - Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn mynegi pryder bod achosion COVID yn ei ardal yn codi ar \u201cgyfradd frawychus\u201d wrth i ysbytai ddod o dan bwysau cynyddol oherwydd nifer y cleifion \u00e2\u2019r firws. 14 Rhagfyr - Mae meddygon yn rhybuddio nad yw llacio rheolau adeg y Nadolig \"yn gwneud unrhyw synnwyr\" yng nghanol achosion COVID yng Nghymru syn codi. Yn \u00f4l adroddiad gan Newyddion BBC, mae Cymru wedi torri rheoliadau COVID gan ei bod wedi pasio\u2019r trothwy ar gyfer cyflwyno cyfyngiadau cloi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn annhebygol o gyflwyno cyfyngiadau o\u2019r fath cyn cyfnod y Nadolig. 16 Rhagfyr - Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno eu rheolau eu hunain ynghylch llacio rheoliadau COVID dros y Nadolig. Er y bydd rheolau yn dal i gael eu llacio am bum niwrnod, yn wahanol i weddill y DU, dim ond dau aelwyd, ynghyd \u00e2 pherson sengl sy'n byw ar ei ben ei hun, fydd yn cael cyfarfod rhwng 23 a 27 Rhagfyr. Mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn gyfraith yn y prynhawn. Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi clo newydd i Gymru, gan ddechrau ar 28 Rhagfyr. Bydd yn ofynnol i siopau nad ydynt yn hanfodol a gwasanaethau cyswllt agos gau o ddiwedd y masnachu ar Noswyl Nadolig, a bydd yn ofynnol i dafarndai a bwytai gau o 6pm ddydd Nadolig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod \u201ccynnal a chadw cynlluniedig\u201d rhai systemau TG wedi arwain at \u201cdan-adrodd sylweddol\u201d o brofion positif, gyda chymaint ag 11,000 o achosion cadarnhaol ar goll o ffigurau swyddogol, ac yn golygu y gallai achosion fod ddwywaith mor uchel \u00e2 adroddwyd dros yr wythnos flaenorol. 17 Rhagfyr - Mae ysbytai yng Nghymru bron yn llawn ar \u00f4l i nifer y gwelyau gofal critigol sydd ar gael yn ol LBC ostwng i ddim ond 10, ddydd Mercher 16eg Rhagfyr. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cyhoeddi y bydd disgyblion ysgol yng Nghymru yn dychwelyd yn araf i'r ysgol ar \u00f4l gwyliau'r Nadolig, gyda dysgu ar-lein am ran gyntaf y tymor. Disgwylir i addysg ailddechrau yn llawn erbyn 18 Ionawr. 18 Rhagfyr - Wrth i nifer y bobl yn yr ysbyty \u00e2 COVID gyrraedd ei lefel uchaf yng Nghymru, gan sefyll ar 2,231, mae Dr Simon Barry, arbenigwr resbiradol blaenllaw, yn rhybuddio y gallai pethau waethygu'n sylweddol. 19 Rhagfyr - Yn dilyn trafodaethau brys \u00e2 gweinidogion ynghylch straen newydd o COVID-19, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd Cymru gyfan yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau lefel 4 (y lefel uchaf) o hanner nos, gyda chynlluniau Nadoligaidd yn cael eu canslo i ond Dydd Nadolig. 20 Rhagfyr - Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn awgrymu y gallai fod cynyddiad mewn achosion COVID ar \u00f4l y Nadolig, hyd yn oed gyda'r cyfyngiadau cynnar newydd. A bod yr amrywiad newydd o COVID yn cael ei \"hadu\" ym mhob rhan o Gymru. 24 Rhagfyr - Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi cynnydd sydyn mewn achosion COVID-19 yng Nghymru, gydag amcangyfrif o 52,200 o bobl \u00e2'r firws yn yr wythnos hyd at 18 Rhagfyr, dyma un o bob 60 o bobl, 18,800 yn fwy na'r wythnos flaenorol. 26 Rhagfyr - Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n rhedeg ysbyty mwyaf Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cyhoeddi ple am gymorth brys yn ei adran gofal critigol i helpu i ofalu am gleifion COVID. Mae diweddariad gan yr ysbyty y diwrnod canlynol yn dweud bod y sefyllfa wedi gwella wedi hynny. 28 Rhagfyr - Mae data a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi rhedeg allan o welyau gofal dwys ar 20 Rhagfyr, gan annog Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddisgrifio'r sefyllfa fel un sy'n \"hynod heriol\". 29 Rhagfyr - Mae ymwelwyr i Fannau Brycheiniog yn cael eu troi i ffwrdd gan yr heddlu, rhai wedi teithio i'r ardal mor bell i ffwrdd \u00e2 Llundain. 30 Rhagfyr - Yn dilyn cymeradwyaeth y DU i'r frechlyn Rhydychen, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd pobl yn dechrau ei dderbyn yr wythnos ganlynol. Ystadegau Mae ystadegau am achosion a marwolaethau yng Nghymru yn cael eu casglu gan y byrddau iechyd lleol a'i cyhoeddi yn ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn casglu gwybodaeth am farwolaethau sy'n cael ei cyhoeddi ar wahan. Canllawiau gan Lywodraeth Cymru Dros y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o daflenni a fideos er mwyn trosglwyddo gwybodaeth yn sydyn i'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys: Gweler hefyd Pandemig COVID-19 Cyfnod clo System Profi, Olrhain a Diogelu Cymru Cyfeiriadau","1333":"Gweriniaeth heb arfordir yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Hwngari neu Hwngari. Mae Slofacia i'r gogledd; yr Wcr\u00e1in i'r gogledd-ddwyrain; Rwmania i'r dwyrain; Serbia, Croatia a Slofenia i'r de; ac Awstria i'r gorllewin. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar (Magyarorsz\u00e1g). Hanes Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9g. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar \u00f4l y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd B\u00e9la Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog Rwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth. Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad. Ar \u00f4l y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth \"ddemocrataidd\" gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945 - 1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au. Gwleidyddiaeth Hwngari heddiw Heddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a phleidleisiodd o blaid Cyfansoddiad Ewrop yn 2005\/2006. Yn 2010 etholwyd Viktor Orb\u00e1n yn brif weinidog. Ym mis Mehefin 2018, newidiodd Senedd Hwngari gyfansoddiad y wlad i'w gwneud hi'n anoddach i fewnfudwyr fynd i mewn. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, protestiodd miloedd o bobol yn Budapest yn erbyn polis\u00efau llywodraeth genedlaetholgar Hwngari. Gwleidyddiaeth Arlywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'r Prif Weinidog sy'n arwain Senedd Hwngari ym Mwdapest. Siroedd Hwngari Daearyddiaeth Mae Hwngari yn wastad gan bennaf. Mae'r Afon Donaw yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwy Budapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafodd pont olaf y Donaw a ddinistriwyd yn yr Ail Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd Ewropeaidd G\u00fcnter Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglen Phare yr UE gyda \u20ac10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefi baroc hardd, adeiladau canoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn. Amgylchedd Parc Cenedlaethol Hortob\u00e1gy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfod Ceiliog y Waun - un o adar mwyaf y byd. Demograffeg Proffil ethnig:Hwngariaid (96.6%) - 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol: Almaenwyr, Sipsiwn, Croatiaid, Slofaciaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid, Groegwyr, Pwyliaid, Armeniaid, Rutheniaid, Serbiaid, Wcrainiaid, Slofeniaid - a ddiogelir yn arbennig yn y Cyfansoddiad - fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993. Diwylliant Hwngari oedd mamwlad Franz Liszt, B\u00e9la Bart\u00f3k a Zolt\u00e1n Kod\u00e1ly, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19g cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf, Ferenc Erkel, a gyfansoddodd anthem genedlaethol Hwngari a'r opera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. Cenedl bron di-Saesneg yw Hwngari o hyd, a di-Almaeneg. Dan y Sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr. Bwyd a diod Mae danteithion lleol yn cynnwys halaszle (cawl pysgod), goulash, jokai bableves (cawl ffa) a hideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cynhyrchir cwrw da a brandi cryf yn y wlad. Hwngari hoyw Mae gan Hwngari sin hoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym Mhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu. Enwogion Dyn o Hwngari oedd L\u00e1szl\u00f3 B\u00edr\u00f3, dyfeisydd yr ysgrifbin. Cysylltiad allanol (Hwngareg) Llywodraeth Hwngari","1334":"Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, a hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn \u00f4l wrth i lefel y m\u00f4r godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10g ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn \u00f4l traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw m\u00f4r y Celtiaid, Manann\u00e1n mac Lir. Yn \u00f4l y traddodiad barddol, daeth Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd tua 825, o \"Fanaw\", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r 9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y \"Guriat\" yma. Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng 800 ac 815, ac o tua 850 ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd Dulyn. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn 1079 goresgynwyd yr ynys gan Godred Crovan oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl Rex Manniae et Insularum. Roedd mab Godred, Olaf, yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibyniaeth yr ynys. Yn ystod y cyfnod yma roedd Manaw, mewn theori o leiaf, yn rhan o deyrnas brenin Norwy. Gorfodwyd y brenin Ragnald i dalu gwrogaeth i John, brenin Lloegr yn nechrau'r 13g, ond dylanwad yr Alban oedd gryfaf yn y cyfnod yma. Yn 1261, gyrrodd Alexander III, brenin yr Alban lysgennad i Norwy i geisio perswadio brenin Norwy i ollwng ei hawl ar yr ynys, a phan wrthododd ymladdwyd Brwydr Largs heb ganlyniad pendant. Bu farw Haakon Haakonsson brenin Norwy y flwyddyn wedyn, a chipiodd Alexander yr ynys. Nid oedd gafael yr Alban ar yr ynys yn ddiogel hyd 1275 pan drechwyd y Manawiaid ym Mrwydr Ronaldsway, ger Castletown. Meddiannodd Edward I, brenin Lloegr yr ynys yn 1290, yna cipiwyd hi yn \u00f4l gan Robert Bruce yn 1313. Am gyfnod bu Lloegr a'r Alban yn ymgiprys am reolaeth ar yr ynys, nes i Loegr ennill Brwydr Neville's Cross yn 1346 a gwanychu'r Alban ormod iddi fedru parhau'r ymryson. O hynny ymlaen bu'r ynys dan reolaeth gwahanol dirfeddiannwyr mawr o Loegr, yn arbennig teulu Stanley. O 1866 cafodd Ynys Manaw fesur o hunanlywodraeth, a llwyddwyd i ddefnyddio lefelau isel o drethi i hybu economi'r ynys. Bu farw siaradwr olaf yr iaith Fanaweg yn y 1970au. Sefydlwyd pleidiau cenedlaethol Mec Vannin a'r MNP, yn ogystal a Fo Halloo (\"Tan y ddaear\"), fu'n paentio arwyddion a llosgi tai haf ar raddfa fechan. Gweler hefyd Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd","1336":"Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, a hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn \u00f4l wrth i lefel y m\u00f4r godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10g ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn \u00f4l traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw m\u00f4r y Celtiaid, Manann\u00e1n mac Lir. Yn \u00f4l y traddodiad barddol, daeth Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd tua 825, o \"Fanaw\", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r 9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y \"Guriat\" yma. Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng 800 ac 815, ac o tua 850 ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd Dulyn. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn 1079 goresgynwyd yr ynys gan Godred Crovan oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl Rex Manniae et Insularum. Roedd mab Godred, Olaf, yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibyniaeth yr ynys. Yn ystod y cyfnod yma roedd Manaw, mewn theori o leiaf, yn rhan o deyrnas brenin Norwy. Gorfodwyd y brenin Ragnald i dalu gwrogaeth i John, brenin Lloegr yn nechrau'r 13g, ond dylanwad yr Alban oedd gryfaf yn y cyfnod yma. Yn 1261, gyrrodd Alexander III, brenin yr Alban lysgennad i Norwy i geisio perswadio brenin Norwy i ollwng ei hawl ar yr ynys, a phan wrthododd ymladdwyd Brwydr Largs heb ganlyniad pendant. Bu farw Haakon Haakonsson brenin Norwy y flwyddyn wedyn, a chipiodd Alexander yr ynys. Nid oedd gafael yr Alban ar yr ynys yn ddiogel hyd 1275 pan drechwyd y Manawiaid ym Mrwydr Ronaldsway, ger Castletown. Meddiannodd Edward I, brenin Lloegr yr ynys yn 1290, yna cipiwyd hi yn \u00f4l gan Robert Bruce yn 1313. Am gyfnod bu Lloegr a'r Alban yn ymgiprys am reolaeth ar yr ynys, nes i Loegr ennill Brwydr Neville's Cross yn 1346 a gwanychu'r Alban ormod iddi fedru parhau'r ymryson. O hynny ymlaen bu'r ynys dan reolaeth gwahanol dirfeddiannwyr mawr o Loegr, yn arbennig teulu Stanley. O 1866 cafodd Ynys Manaw fesur o hunanlywodraeth, a llwyddwyd i ddefnyddio lefelau isel o drethi i hybu economi'r ynys. Bu farw siaradwr olaf yr iaith Fanaweg yn y 1970au. Sefydlwyd pleidiau cenedlaethol Mec Vannin a'r MNP, yn ogystal a Fo Halloo (\"Tan y ddaear\"), fu'n paentio arwyddion a llosgi tai haf ar raddfa fechan. Gweler hefyd Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd","1339":"System yn\u00a0Ne Affrica\u00a0o gadw pobl o wahanol hil ar wah\u00e2n oedd\u00a0Apartheid\u00a0(Afrikaans, yn golygu \"arwahanrwydd\"). Gweithredwyd y system rhwng\u00a01948\u00a0a\u00a01994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn\u00a0yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dwf wedi\u00a01948. Nodweddwyd system Apartheid gan ddiwylliant gwleidyddol a oedd yn seiliedig ar baasskap (neu \u2018goruchafiaeth gwyn\u2019) oedd yn sicrhau bod De Affrica yn cael ei rheoli'n wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd gan boblogaeth leiafrifol wyn y wlad. Yn \u00f4l y system hon o ddosbarthu haenau cymdeithasol, y dinasyddion gwyn oedd \u00e2\u2019r statws uchaf, wedyn pobl Asiaidd a phobl o gefndiroedd ethnig eraill, a'r Affricaniaid du yn isaf. Cyn y 1940au, roedd rhai agweddau ar apartheid wedi dechrau ymddangos ar ffurf rheolaeth leiafrifol gan Dde Affricaniaid gwyn, pan wahanwyd Affricaniaid du oddi wrth hiliau eraill mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac yn nes ymlaen estynnwyd hyn i ddeddfau\u2019n cael eu pasio a thir yn cael ei ddosbarthu. Mabwysiadwyd Apartheid yn swyddogol gan Lywodraeth De Affrica wedi i\u2019r Blaid Genedlaethol (y National Party) ddod i rym yn Etholiadau Cyffredinol 1948.Roedd system o ddosbarthu hiliol wedi dechrau cael ei ffurfio yn Ne Affrica gan Ymerodraeth yr Iseldiroedd yn ystod y 18g. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, gyda thwf cyflym a diwydianeiddio \u2018British Cape Colony\u2019, sef trefedigaeth Brydeinig yn Ne Affrica, dechreuodd polis\u00efau a chyfreithiau hiliol ddod yn fwy llym. Roeddent yn gwahaniaethu\u2019n benodol yn erbyn Affricaniaid du. Roedd polis\u00efau gweriniaethau\u2019r Boer yn gwahaniaethu\u2019n hiliol hefyd - er enghraifft, roedd cyfansoddiad gweriniaeth Transvaal yn gwahardd Affricaniaid du a phobl \u00e2 lliw croen tywyll rhag ymwneud ag eglwys na gwladwriaeth.Y ddeddf apartheid gyntaf i gael ei phasio oedd Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg yn 1949 ac yna Deddf Anfoesoldeb yn 1950, a oedd yn ei gwneud hi\u2019n anghyfreithlon i ddinasyddion De Affrica briodi neu gael perthynas rywiol oedd yn croesi ffiniau hil. Roedd Deddf Cofrestru\u2019r Boblogaeth 1950 yn categoreiddio pawb yn Ne Affrica mewn un o dri gr\u0175p, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion\/du ac roedd llefydd byw pobl yn cael eu penderfynu ar sail dosbarthiad hil. Rhwng 1960 a 1983, symudwyd 3.5 miliwn o Affricaniaid du o\u2019u cartrefi a\u2019u gorfodi i fyw mewn ardaloedd ar wah\u00e2n o ganlyniad i ddeddfwriaeth apartheid. Hon oedd un o brosesau dadfeddiant mwyaf hanes modern. Bwriad y dadfeddiannu hwn oedd cyfyngu poblogaeth pobl ddu i ddeg ardal benodedig a ddisgrifiwyd fel \u2018mamwlad lwythol\u2019, neu bantustans, gyda phedwar ohonynt yn datblygu\u2019n wladwriaethau annibynnol. Cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai unrhyw un oedd yn cael ei adleoli yn colli eu dinasyddiaeth yn Ne Affrica gan y byddent yn cael eu hamlyncu gan y bantustans.Enynnodd Apartheid wrthwynebiad sylweddol yn rhyngwladol ac oddi mewn i'r wlad ei hun. Condemniwyd Apartheid gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddwyd embargo arfau a masnach sylweddol ar Dde Affrica yn ogystal \u00e2 boicotiau ym maes chwaraeon. Yn ystod y 1970au a\u2019r 1980au roedd y gwrthwynebiad mewnol i Apartheid y tu mewn i Dde Affrica wedi troi\u2019n fwyfwy milwriaethus, ac achosodd hyn i ymateb Llywodraeth y Blaid Genedlaethol fod yn ffyrnig o dreisgar. Achoswyd trais sectaraidd ar raddfa eang, gyda miloedd yn marw neu\u2019n cael eu carcharu. Gwnaed rhai diwygiadau i\u2019r system apartheid ond methodd y mesurau hyn gwrdd \u00e2 gofynion y grwpiau ymgyrchu.Rhwng 1987 a 1993 dechreuodd y Blaid Genedlaethol drafodaethau gyda\u2019r African National Congress (ANC), y prif fudiad gwrth-apartheid, er mwyn trafod rhoi diwedd ar arwahanu a chyflwyno llywodraeth fwyafrifol.Yn 1990 rhyddhawyd unigolion blaenllaw o'r ANC, fel Nelson Mandela, o\u2019r carchar. Dechreuwyd felly cael gwared ar y system mewn cyfres o drafodaethau rhwng\u00a01990\u00a0a\u00a01993, gan ddiweddu ag Etholiad Cyffredinol\u00a01994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica lle'r oedd cyfle i bawb bleidleisio. Cefndir hanesyddol Yr ail ganrif ar bymtheg Tan yr ail ganrif ar bymtheg, roedd pobl ddu yn byw yn yr ardal sy\u2019n cael ei galw erbyn hyn yn Weriniaeth De Affrica. Roedden nhw\u2019n byw mewn llwythau gwahanol, ac yn byw bywyd syml a chyntefig iawn. Cyrhaeddodd pobl wyn yr ardal yn 1652 pan laniodd llong o\u2019r Iseldiroedd ar Benrhyn Gobaith Da. Roedd y bobl wyn hyn yn dod o\u2019r Iseldiroedd, yr Almaen a Sweden, ac yn galw eu hunain yn Boers (ffermwyr) neu\u2019n Afrikaners (Affricanwyr). Yn raddol, glaniodd llawer mwy o bobl wyn o wledydd gwahanol yn yr ardal, gan gynnwys Prydain. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd gwrthdaro wedi dechrau rhwng yr Afrikaners a Phrydain ynghylch pwy ddylai reoli. Yn 1899, dechreuodd rhyfel rhwng disgynyddion y bobl o\u2019r Iseldiroedd a Phrydain, sef Ail Ryfel y Boer. Yn 1910, cafodd gwlad newydd a oedd yn rhan o Ymerodraeth Prydain ei chreu. Enw\u2019r wlad newydd oedd (Undeb) De Affrica. Cafodd y wlad ei llywodraeth ei hun, ond ar wah\u00e2n i ganran isel o ddynion cymysg eu hil a oedd yn gymwys, dim ond dynion gwyn dros 21 oed oedd yn cael pleidleisio. Afrikaners oedd mwyafrif y bobl wyn a oedd yn byw yn Ne Affrica. Doedd yr Afrikaners ddim yn credu bod pobl ddu a phobl wyn yn gyfartal. Doedden nhw ddim chwaith yn credu y dylen nhw fod yn byw gyda\u2019i gilydd. Dechrau\u2019r 20fed ganrif Aeth llywodraeth wyn De Affrica ati\u2019n syth i basio deddfau a oedd yn helpu pobl wyn, gan atal pobl ddu rhag cael grym a chyfoeth. Ar ddechrau\u2019r ugeinfed ganrif roedd tua chwe miliwn o bobl yn byw yn Ne Affrica. O\u2019r rhain, roedd 4 miliwn yn bobl ddu. Yn 1913, pasiodd y llywodraeth ddeddf o\u2019r enw Deddf Tir Brodorion De Affrica. O dan y ddeddf hon roedd: Y bobl ddu (pedair miliwn) yn cael 7.3% o\u2019r tir yn Ne Affrica Y bobl wyn a phobl gymysg eu hil [coloured] (llai na dwy filiwn) yn cael 92.7% o\u2019r tir.Roedd yn rhaid i bobl ddu fyw ar eu si\u00e2r nhw o\u2019r tir. Doedden nhw ddim yn cael bod yn berchen ar dir arall y tu allan i\u2019r ardaloedd a oedd ar gyfer pobl ddu. Llywodraeth Hertzog 1924-1939 O dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog, J. B. M. Hertzog, aeth y llywodraeth ati i basio rhagor o ddeddfau i roi mwy o rym i\u2019r bobl wyn. Yn 1925 daeth Afrikaans, sef iaith yr Afrikaners, yn iaith swyddogol De Affrica. Yn 1926 pasiodd llywodraeth Hertzog ddeddf a oedd yn atal pobl ddu ac Indiaid rhag cael gwaith medrus a oedd yn talu\u2019n dda. Yn 1927 pasiodd y llywodraeth ddeddf a oedd yn gwahardd perthynas rywiol rhwng pobl ddu a phobl wyn.Yn y cyfnod hwn, felly, roedd y llywodraeth wyn yn lleihau hawliau pobl ddu ac yn pasio deddfau i roi mwy o rym i bobl wyn. Rhesymau dros sefydlu apartheid De Affrica yn 1948 Roedd y flwyddyn 1948 yn flwyddyn bwysig yn hanes De Affrica. Yn ystod y flwyddyn honno cafwyd etholiad cyffredinol, ac yn yr etholiad hwnnw plaid Dr Daniel Malan, y Blaid Genedlaethol, oedd yn fuddugol. Roedd y rhain yn credu mewn cadw\u2019r bobl ddu a\u2019r bobl wyn ar wah\u00e2n a rheoli eu symudiadau'n llwyr. Dros y blynyddoedd nesaf fe gyflwynon nhw gyfres o ddeddfau a oedd yn sefydlu system apartheid yn Ne Affrica. Bu llawer o wrthwynebiad i'r system gan y mwyafrif o'r boblogaeth, yn enwedig ymhlith pobl ddu a oedd yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd. Dechreuwyd y system yn gynt dan yr Ymerodraeth Brydeinig i gyfyngu ar symudiadau pobl ddu. Roedd yn rhaid iddynt gael caniat\u00e2d ysgrifenedig wedi ei arwyddo i gael symud o un ardal i'r llall. Effeithiwyd ar eraill hefyd megis yr Indiaid gan yr un deddfau, ac arweiniodd\u00a0Mahatma Gandhi\u00a0ymgyrch yn erbyn y deddfau hyn pan oedd yn gyfreithiwr ifanc yn Ne Affrica. Cyn bod modd sefydlu\u2019r system apartheid roedd yn rhaid rhoi pobl De Affrica mewn grwpiau gwahanol o ran hil. Honnai\u2019r Llywodraeth fod tri gr\u0175p o bobl yn byw yn Ne Affrica: Gwyn (Afrikaners a phobl wyn eraill) Cymysg eu hil (plant priodasau cymysg a phobl Asiaidd) Brodorion (pobl ddu)Y broblem oedd bod llawer o\u2019r bobl gymysg eu hil yn edrych yn wyn. Yn y pen draw cafodd pawb yn Ne Affrica ei roi yn un o\u2019r tri gr\u0175p hyn. Gwahanwyd pobl wyn oddi wrth y bobl gymysg eu hil a\u2019r brodorion mewn: Sinem\u00e2u Gorsafoedd bysiau Ysbytai Mynwentydd Meinciau parciau Bwytai Toiledau Ystafelloedd aros mewn meddygfeydd Y Prif Ddeddfau Apartheid Pasiodd y llywodraeth nifer o ddeddfau er mwyn sefydlu a gorfodi apartheid; Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg, 1949 \u2013 yn gwahardd pobl ddu neu gymysg eu hil rhag priodi pobl wyn. Deddf Anfoesoldeb, 1950 \u2013 yn gwahardd perthynas rywiol rhwng pobl ddu neu gymysg eu hil a phobl wyn. Y gosb oedd chwe mis o lafur caled. Deddf Cofrestru\u2019r Boblogaeth, 1950 \u2013 rhoddwyd pawb yn Ne Affrica mewn un o dri gr\u0175p, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion\/du. Deddf Ardaloedd Grwpiau, 1950 \u2013 yn dweud lle yn union roedd pob gr\u0175p i fod i fyw. Roedd hefyd yn rhoi\u2019r hawl i\u2019r llywodraeth ddweud bod rhai ardaloedd \u2018i bobl wyn yn unig\u2019. Deddf Atal Comiwnyddiaeth, 1950 \u2013 yn gwahardd comiwnyddiaeth ac unrhyw gr\u0175p gwleidyddol a oedd am \u2018greu newid gwleidyddol drwy darfu ar yr heddwch\u2019. Deddf (Diwygio) Cyfreithiau\u2019r Brodorion, 1952 \u2013 yn rheoli symudiadau pobl ddu i mewn ac allan o\u2019r dinasoedd. Deddf Diddymu Trwyddedau, 1952 \u2013 yn gorfodi pobl ddu a oedd yn byw mewn ardaloedd ar gyfer pobl wyn i gario llyfr trwydded. Roedd modd carcharu unrhyw un du a oedd yn cael ei ddal heb ei lyfr trwydded. Roedd y llyfr hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ei berchennog. Deddf Neilltuo Cyfleusterau ar Wah\u00e2n, 1953 \u2013 yn sicrhau codi arwyddion mewn mannau cyhoeddus a oedd yn dweud \u2018Ewropeaid yn unig\u2019 yn yr ardaloedd i bobl wyn, a \u2018Pobl heb fod yn Ewropeaid yn unig\u2019 yn y mannau i bobl ddu. Codwyd yr arwyddion hyn ym mhobman \u2013 gorsafoedd tr\u00ean, swyddfeydd post, parciau, traethau ac ati, ac roedd yr adnoddau a\u2019r gwasanaethau gorau i bobl wyn. Deddf Addysg Bantw 1953 \u2013 yn galluogi\u2019r llywodraeth i reoli addysg pobl ddu. Roedd pobl ddu yn cael eu haddysgu yn eu hiaith eu hunain: nid Saesneg nac Afrikaans, ac yn cael eu haddysgu am eu statws mewn cymdeithas. Deddf (diwygio) cynrychioli pleidleiswyr ar wah\u00e2n, 1956 \u2013 yn cymryd yr hawl i bleidleisio oddi ar bobl gymysg eu hil. O hyn ymlaen roedden nhw\u2019n cael ethol pedwar cynrychiolydd gwyn. M\u00e2n apartheid y 1950au \u2013 cyfres o ddeddfau a oedd yn rheoli pob agwedd ar fywydau pobl ddu. Cafodd gweinidogion gwyn, er enghraifft, hawl i wahardd pobl ddu rhag mynd i\u2019w heglwys nhw. Hendrik Verwoerd a\u2019r drefn apartheid 1958-1974 Ar \u00f4l marwolaeth olynydd Dr Malan yn 1958, daeth Hendrik Verwoerd yn Brif Weinidog De Affrica. Roedd Verwoerd yn credu\u2019n gryf yn hawliau\u2019r Afrikaners, ac yn 1937 daeth yn olygydd papur newydd Afrikaans, Die Transvaler. Yn y cyfnod hwn roedd yn cefnogi polis\u00efau apartheid Dr Malan yn frwd, ac yn 1950 cafodd swydd gweinidog yn y llywodraeth. Bu\u2019n rheoli ei blaid a\u2019i wlad rhwng 1958 ac 1966. Yn 1966, pan oedd yn eistedd yn y Senedd yn Cape Town, cafodd ei drywanu \u00e2 chyllell gan ddyn, ac fe\u2019i llofruddiwyd. Credai Verwoerd yn gryf mewn amddiffyn \u2018hawliau\u2019 yr Afrikaners. Credai ei fod yn gwneud gwaith Duw ar y ddaear wrth geisio sicrhau De Affrica a fyddai\u2019n cael ei rheoli gan bobl wyn, Gristnogol. Roedd wedi gweld nifer o wledydd eraill ar gyfandir Affrica yn ennill eu hannibyniaeth oddi ar wledydd fel Prydain, ac nid oedd am weld y bobl ddu yn dod i reoli yn ei wlad ef. Ateb Verwoerd i broblemau De Affrica oedd cynnig yr hawl (neu esgus cynnig yr hawl) i bobl ddu reoli eu hunain, ar wah\u00e2n i bobl wyn, a chreu mamwledydd hunanlywodraethol. Bantwstanau oedd yr enw a roddwyd ar y \u2018gwledydd\u2019 bach hyn yn Ne Affrica. Yn 1959, felly, pasiwyd Deddf Hyrwyddo Hunanlywodraeth Bantw. Cafwyd cynllun i rannu tir De Affrica. Roedd y bobl wyn yn cael rheoli 87% o\u2019r tir, a\u2019r 13% a oedd yn weddill yn cael ei rannu ymhlith y bobl ddu. Byddai tir y bobl ddu yn cael ei rannu yn wyth mamwlad hunanlywodraethol (deg yn nes ymlaen) \u2013 neu Bantwstan. Wrth gwrs doedd y Bantwstanau ddim yn creu trefn deg yn Ne Affrica, ond yn hytrach yn sicrhau mwy o reolaeth gan bobl wyn dros bobl ddu. Cafodd dros dair miliwn o bobl ddu eu gorfodi i symud o\u2019r ardaloedd \u2018pobl wyn yn unig\u2019 i\u2019r Bantwstanau, lle\u2019r oedd gorboblogi aruthrol. Doedd y Bantwstanau ddim yn \u2018hunanlywodraethol\u2019 mewn gwirionedd, ac roedden nhw\u2019n rhy fach i gael eu heconomi eu hunain. Yr hyn a wnaeth polisi Verwoerd oedd ceisio twyllo\u2019r byd bod llywodraeth De Affrica yn gofalu am y bobl ddu. O hyn ymlaen gallai gwleidyddion gwyn De Affrica ddadlau bod y bobl ddu yn cael rheoli eu hunain, ac mai dim ond pobl wyn oedd yn byw yn y rhannau yr oedd llywodraeth wyn De Affrica yn eu rheoli. O hyn ymlaen doedd dim hawl gan bobl ddu i fyw mewn ardaloedd gwyn. Roedd hawl ganddyn nhw i deithio i\u2019r ardaloedd hyn i weithio am 11 mis y flwyddyn, ond heb eu teuluoedd, ac yn gorfod byw mewn hosteli arbennig un rhyw. Roedd yn rhaid i bob gweithiwr a oedd yn teithio i weithio y tu allan i\u2019r Bantwstanau gario llyfr trwydded arbennig dan Ddeddf Diddymu Trwyddedau 1952. Effeithiau\u2019r System Apartheid Cyflogaeth Roedd maint y ffermydd yn y Bantwstanau\u2019n llai ac felly\u2019n cynhyrchu llai o fwyd na ffermydd y gwynion. Bu\u2019n rhaid i nifer o Affricanwyr du fudo o\u2019r ardaloedd gwledig i\u2019r dinasoedd i chwilio am waith. Ond, dim ond dros dro roedd hawl gan bobl ddu i fyw yn y dinasoedd oherwydd deddfau llym apartheid a dim ond ar yr amod eu bod yn gweithio i gyflogwyr gwyn. Yn anffodus roedd cyflogau\u2019r bobl ddu yn is o lawer na chyflogau\u2019r bobl wyn. Roedd hi\u2019n anodd iawn cael swydd os oeddech chi\u2019n Affricanwr du ac o ganlyniad roedd lefel diweithdra\u2019n uchel iawn. Roedd diffyg hawliau hefyd yn broblem fawr oherwydd nad oedd nifer o\u2019r bobl ddu yn aelodau o undebau llafur ac roedd y llywodraeth wedi gwneud streicio\u2019n anghyfreithlon mewn diwydiannau hanfodol fel mwyngloddio, sef prif waith y bobl ddu. Felly, roedd hi\u2019n anodd iawn iddyn nhw wneud dim byd ynghylch eu hamodau gwaith. Addysg Sylfaen cred aelodau\u2019r Blaid Genedlaethol oedd bod yr Affricanwr du\u2019n wahanol ac yn israddol i\u2019r dyn gwyn. Felly doedd dim modd addysgu pobl ddu yn yr un modd \u00e2 phobl wyn. R\u00f4l addysg oedd addysgu Affricanwyr du i gydnabod eu statws. Yn \u00f4l y gyfraith roedd yn rhaid i bob disgybl rhwng 7 ac 16 mlwydd oed yn Ne Affrica fynd i ysgolion cyhoeddus a oedd wedi eu gwahanu ar sail hil. Fodd bynnag, doedd dim rhaid i blant du fynd i\u2019r ysgol, yn \u00f4l y gyfraith, tan 1981. Roedd yr Affricanwyr du\u2019n cael addysg sylfaenol iawn ac roedd cyflog eu hathrawon yn is o lawer na chyflogau athrawon gwyn. Roedd mudiadau fel yr African National Congress (ANC) yn ymwybodol iawn bod addysg yn allweddol bwysig o ran cynnig cyfleoedd i wella safonau byw pobl ddu. Roedd rhieni yn fodlon tynnu eu plant allan o\u2019r ysgol, gymaint oedd eu hanfodlonrwydd \u00e2 pholisi\u2019r llywodraeth. Ond methodd yr ymgyrch wrth i\u2019r heddlu fynd ati i erlyn y protestwyr a gorfodi\u2019r Affricanwyr du i fynd yn \u00f4l i\u2019r ysgolion. Pasiwyd deddf yn 1959 a oedd yn atal pobl ddu rhag mynd i brifysgolion. Daeth rhywfaint o dro ar fyd gyda sefydlu prifysgolion \u2018heb fod yn wyn\u2019, ond dim ond aelodau o grwpiau Bantw penodol a oedd yn cael bod yn fyfyrwyr ynddyn nhw. Cartrefi Roedd Affricanwyr du yn gorfod byw mewn treflannau (townships) ar ymylon dinasoedd oherwydd bod deddfau apartheid yn eu hatal rhag byw yn y dinasoedd eu hunain. Un o\u2019r treflannau enwocaf yn Ne Affrica oedd Soweto. Roedd safonau byw yn aml yn isel ac roedd llawer o dorcyfraith. Yn yr ardaloedd hyn dechreuodd mudiadau gwrth-apartheid fel yr ANC a\u2019r Pan African Congress gynyddu eu haelodaeth a\u2019u cefnogaeth. Pwerau\u2019r heddlu Drwy basio Deddf Atal Comiwnyddiaeth yn 1950, a oedd yn gwahardd y Blaid Gomiwnyddol, roedd y llywodraeth hefyd yn gallu atal unrhyw fudiad arall roedden nhw\u2019n ei ystyried yn fygythiad i heddwch yn Ne Affrica. Roedd y ddeddfwriaeth wedi ei hanelu at yr ANC, undebau llafur, ac, yn enwedig, aelodau\u2019r Ymgyrch Herfeiddio \u2013 mudiad milwriaethus o fewn yr ANC. Wrth fabwysiadu\u2019r Siarter Rhyddid a oedd yn \u2018cyfyngu ar ryddid barn a symudiad protestwyr\u2019, cafodd yr heddlu fwy o bwerau o lawer. Hefyd, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Difrodi 1962 a oedd yn rhoi\u2019r gosb eithaf i wrthwynebwyr gwleidyddol. Roedd Deddf Dim Treial 1963 yn rhoi hawl i\u2019r heddlu arestio unrhyw un a\u2019i roi yn y carchar am hyd at 90 diwrnod (cafodd hyn ei godi i 180 yn 1965). Roedd De Affrica wedi ei throi\u2019n wladwriaeth heddlu (police state). Sensoriaeth Aeth y llywodraeth ati i reoli\u2019r cyfryngau. Roedd Corfforaeth Ddarlledu De Affrica yn frwd o blaid y bobl wyn ac yn cefnogi apartheid yn llawn. Roedd yn rhaid i bapurau newydd De Affrica dalu blaendal i\u2019r llywodraeth cyn gallu cyhoeddi, a byddai\u2019r blaendal hwnnw\u2019n cael ei golli petai\u2019r llywodraeth yn gwahardd y papur yn ddiweddarach. Aeth y llywodraeth hefyd ati i atal mewnforio gwaith a ffilmiau a oedd yn cael eu hystyried yn fygythiad i ddiogelwch y wlad. Symud pobl ddu o\u2019u cartrefi Cafodd llywodraeth De Affrica gryn syndod wrth ganfod bod poblogaeth y wlad wedi cynyddu gymaint, gan ragweld y byddai 16 miliwn o Affricanwyr yn fwy na\u2019r disgwyl yn y wlad erbyn diwedd y flwyddyn 2000. Felly, dechreuwyd symud pobl ddu o ardaloedd penodol y bobl wyn. O ganlyniad i Ddeddf Ardaloedd Grwpiau 1950, roedd y symud hwn eisoes wedi dechrau. Bu\u2019n rhaid i dros dair miliwn o bobl ddu symud o\u2019u cartrefi a chafodd eu tai eu dymchwel yn syth ar \u00f4l iddyn nhw adael. Un o\u2019r trefi enwocaf a gafodd ei dymchwel oedd Sophiatown, ac o fewn ychydig o fisoedd cafodd treflan newydd o\u2019r enw Triumph ei hadeiladu ar gyfer pobl wyn. Gwrthwynebu apartheid Protestiadau heddychlon Mae dau brif fudiad yn hanes De Affrica sydd wedi ymgyrchu\u2019n gyson yn erbyn apartheid, sef Cyngres Genedlaethol Affrica (yr ANC) a\u2019r Gyngres Ban Affricanaidd (y PAC). Yn fras, gallwn rannu hanes y gwrthwynebiad i apartheid yn ddwy \u2013 sef y cyfnod heddychlon cyn Sharpeville (1948\u20131960), a\u2019r cyfnod ar \u00f4l 1960 pan welwyd y mudiadau hyn yn troi fwy a mwy at ddefnyddio trais. Hanes cynnar yr ANC Cafodd yr ANC ei sefydlu yn 1912, ac ar y dechrau roedd yn cefnogi defnyddio dulliau di-drais i ymladd yn erbyn apartheid. Pobl ddu dosbarth canol oedd ei haelodau, gweinidogion a chyfreithwyr gan fwyaf. Erbyn 1939 nid roedd yr ANC wedi cyflawni llawer. Yn 1943 sefydlwyd cynghrair ieuenctid o fewn yr ANC, ac erbyn diwedd y 1940au roedd rhwyg amlwg yn datblygu rhwng aelodau h\u0177n yr ANC a\u2019r bobl ifanc, mwy radical. Rhai o\u2019r arweinwyr ifanc, newydd hyn oedd pobl fel Nelson Mandela, Walter Sisulu, Oliver Tambo ac Anton Lembede. Daeth y rhain yn ddylanwadol iawn o fewn y mudiad, ac fe lwyddon nhw i wthio eu syniadau ar y mudiad. Roedden nhw\u2019n credu mewn gweithredu uniongyrchol ac y dylai\u2019r ANC arwain ymgyrchoedd torfol yn erbyn llywodraeth De Affrica. Pan ddaeth Sisulu yn ysgrifennydd cyffredinol y mudiad yn 1949, mabwysiadwyd cynllun gweithredu newydd: roedd hyn yn golygu hyn y byddai\u2019r ANC o hyn ymlaen yn gyfrifol am drefnu streiciau, protestiadau a dulliau eraill o weithredu \u2013 dulliau anufudd-dod sifil. Ym mis Mai 1950 trefnodd yr ANC \u2018ddiwrnod rhyddid\u2019. Aeth gweithwyr ledled De Affrica ar streic ar 1 Mai. Ymateb y llywodraeth oedd pasio\u2019r Ddeddf Atal Comiwnyddiaeth. O dan y ddeddf hon roedd y llywodraeth yn cael arestio bron unrhyw un a oedd yn protestio yn ei herbyn, ac roedd arweinwyr mudiadau fel yr ANC yn gallu cael eu gwahardd. Roedd llywodraeth wyn De Affrica yn bwriadu trefnu dathliadau mawr ar hyd a lled y wlad ar 26 Mehefin, 1952. Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig yn hanes pobl wyn De Affrica oherwydd ei bod hi\u2019n 300 mlynedd union ers sefydlu\u2019r wlad. Penderfynodd arweinwyr yr ANC wrthwynebu\u2019r dathliadau hyn drwy drefnu ymgyrch fawr ddi-drais yn erbyn apartheid. Roedd tactegau\u2019r ANC yn yr ymgyrch yn syml, sef anwybyddu deddfau apartheid drwy fynd i ardaloedd \u2018gwyn yn unig\u2019 e.e. gorsafoedd trenau, er mwyn cael eu harestio. Yn ystod yr haf 1952 cafodd dros 8,000 o bobl ddu eu harestio am herio deddfau apartheid. Ymateb y llywodraeth oedd pasio mwy o ddeddfau a oedd yn rhoi pwerau iddyn nhw arestio a charcharu pobl ddu. Gallai\u2019r bobl ddu a oedd yn herio cyfreithiau apartheid gael eu carcharu am dair blynedd, eu gorfodi i dalu dirwyon, yn ogystal \u00e2 chael eu chwipio. Er i\u2019r ymgyrch herfeiddio ddod i ben erbyn 1953, roedd wedi dylanwadu\u2019n fawr iawn ar bobl ddu De Affrica, ac yn arbennig ar statws yr ANC. Dangosodd i arweinwyr yr ANC bod gweithredu torfol, di-drais yn gallu tynnu sylw\u2019r llywodraeth. Ar \u00f4l yr ymgyrch cynyddodd aelodaeth o\u2019r ANC o 7,000 i 100,000. Y Siarter Rhyddid (1955) Yn 1955 cafodd arweinwyr yr ANC gyfarfod ag arweinwyr grwpiau eraill a oedd yn gwrthwynebu apartheid, o dan yr enw Cyngres y bobl. Roedden nhw\u2019n cynnwys cynrychiolwyr pobl ddu, Indiaid a phobl wyn a oedd yn ymgyrchu yn erbyn apartheid. Yn y cyfarfod hwn lansiwyd y Siarter Rhyddid a oedd yn cynnwys pwyntiau sylfaenol am ryddid a democratiaeth. Dywedodd arweinydd yr ANC, y Pennaeth Luthuli y byddai\u2019r Siarter yn cynnig gobaith yn y tywyllwch. Roedd y Siarter yn cynnwys; Y dylai'r bobl lywodraethu Pob gr\u0175p cenedlaethol i gael hawliau cyfartal Y bobl i rannu cyfoeth y wlad Y tir i\u2019w rannu rhwng y sawl sy\u2019n gweithio arno Pob un i fod yn gyfartal yn wyneb y gyfraith Pob un i fwynhau hawliau dynol cyfartal Bydd gwaith a diogelwch i bawb Bydd agor y drws ar ddysgu a diwylliant Bydd tai, diogelwch a chysur Bydd heddwch a chyfeillgarwch.Ymateb y llywodraeth i\u2019r Siarter Rhyddid oedd arestio 156 o bobl, gan gynnwys y rhan fwyaf o arweinwyr pobl ddu ac Indiaid De Affrica. Cyhuddwyd y rhain o fod yn gomiwnyddion, ac o gynllunio i gael chwyldro yn Ne Affrica. Y Prawf Brad (Treason Trial) oedd yr enw a roddwyd ar yr achos llys. Er i\u2019r llywodraeth fethu cael neb o\u2019r arweinwyr hyn yn euog yn y diwedd, parhaodd y prawf am bum mlynedd. Yn ystod y pum mlynedd hyn roedd prif arweinwyr yr ANC yn y carchar, ac felly\u2019n methu ymgyrchu yn erbyn apartheid. Protestiadau treisgar Roedd r\u00f4l unigolion allweddol yn hollbwysig yn yr ymgyrch yn erbyn apartheid. Fodd bynnag, fe wnaeth miliynau o bobl gyffredin frwydro ochr yn ochr \u00e2 nhw yn erbyn apartheid, a hynny dan arweiniad dau fudiad yn arbennig, sef yr ANC a'r Gyngres Ban-Affricanaidd (PAC). Mae hanes y brwydrau yn erbyn apartheid yn llawn o ddigwyddiadau erchyll ac mae dau ddigwyddiad arbennig wedi dod yn enwog, y naill yn Sharpeville yn 1960, a\u2019r llall yn Soweto yn 1976. Sharpeville, 1960 Un o bolis\u00efau mwyaf amhoblogaidd y llywodraeth oedd yr un a oedd yn gorfodi\u2019r holl bobl ddu i gario llyfr trwydded. Roedd pobl ddu wedi protestio yn erbyn y rheolau hyn yn y gorffennol, ond ym mis Mawrth 1960 penderfynodd y PAC lansio ymgyrch enfawr yn eu herbyn. Y gosb arferol am beidio cario eich llyfr trwydded oedd mis o garchar neu ddirwy o \u00a310. Gofynnodd y PAC i bobl ddu adael eu llyfrau trwydded gartref a mynd i\u2019r swyddfa heddlu leol i gyfaddef eu bod yn cerdded o gwmpas hebddyn nhw, ac felly\u2019n torri\u2019r gyfraith. Y syniad oedd pe bai miloedd o bobl ddu yn gwneud hyn, byddai\u2019n amhosibl i\u2019r heddlu eu rhoi nhw i gyd yn y carchar. Ddydd Llun, 21 Mawrth, 1960 dechreuodd y gweithredu. Cafwyd protestiadau ar hyd a lled De Affrica. Yn nhreflan Sharpeville, 35 milltir o Johannesburg, daeth torf o bobl ddu at ei gilydd wrth swyddfa\u2019r heddlu i brotestio\u2019n heddychlon, ac i ddangos i\u2019r heddlu nad oedden nhw\u2019n cario\u2019u llyfrau trwydded. Mae dwy fersiwn o\u2019r hyn a ddigwyddodd wedyn yn Sharpeville \u2013 un swyddogol yr heddlu a\u2019r llywodraeth, ac un y llygad-dystion a\u2019r haneswyr. Soweto, 1976 Yr ail ddigwyddiad mawr yn hanes De Affrica o safbwynt protestiadau a wnaeth droi at drais yw\u2019r terfysg yn Soweto yn ystod haf 1976. Roedd Soweto yn dreflan enfawr y tu allan i Johannesburg, gyda thros filiwn o bobl yn byw yno. Roedd tua chwarter y rhain yn teithio ar y tr\u00ean i Johannesburg bob dydd; taith o ddwy awr bob ffordd iddyn nhw. Oherwydd gorboblogi roedd llawer o drigolion Soweto yn rhannu tai \u00e2 theuluoedd eraill, gyda thros 12 o bobl yn byw mewn t\u0177 \u00e2 dim ond pedair ystafell ynddo yn aml . Doedd gan y tai hyn ddim trydan, dim toiled yn y t\u0177, a dim d\u0175r gl\u00e2n. Roedd miloedd o\u2019r trigolion hefyd yn byw mewn hosteli un rhyw a doedd dim hawl gan eu gwragedd i ymweld \u00e2 nhw. Yn rhai o strydoedd Soweto roedd pobl yn byw mewn siediau wedi eu hadeiladu o gardbord. Y peth anarferol am Soweto oedd bod cymaint o bobl ifanc yn byw yno. Roedd dros hanner y boblogaeth dan 20 oed ac yn gyffredinol, roedd pobl ddu ifanc yn fwy eithafol yn erbyn apartheid ac yn fwy parod i brotestio na\u2019u rhieni. Dyma\u2019r rhai a oedd wedi dod dan ddylanwad syniadau Steve Biko am ymwybyddiaeth o bobl ddu, ac yn barod i herio\u2019r llywodraeth. Yn 1976 penderfynodd y llywodraeth y byddai pobl ddu yn cael hanner eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith Afrikaans. Yn ogystal \u00e2\u2019r ffaith eu bod yn cael addysg wael beth bynnag, doedd y plant ysgol du ddim yn hapus i gael eu haddysgu yn yr hyn roedden nhw\u2019n ei hystyried yn \u2018iaith y gormeswr\u2019. Roedden nhw\u2019n gweld hyn fel ffordd arall o geisio eu rheoli. Dechreuodd y plant ysgol wrthod sefyll arholiadau a chafwyd gorymdaith fawr o 20,000 o blant ysgol a myfyrwyr. Pan ddaeth y rhain wyneb yn wyneb \u00e2\u2019r heddlu, saethodd yr heddlu atyn nhw, gan ladd dau ac anafu llawer. Ar \u00f4l y digwyddiad hwn ffrwydrodd Soweto, a chafwyd trais, terfysg a phrotestio. Llosgwyd adeiladau\u2019r llywodraeth, ymosodwyd ar geir, a lladdwyd nifer o blismyn du. Ymledodd y terfysg o Soweto i rannau eraill o\u2019r wlad. Llosgwyd adeiladau fel llyfrgelloedd. Cafodd ysgolion mewn nifer o ardaloedd eu cau am y rhan fwyaf o 1976, a bu\u2019n rhaid gohirio arholiadau'r flwyddyn honno. Mae ffigyrau swyddogol y llywodraeth yn dweud bod dros 600 o bobl wedi eu lladd yn nherfysgoedd Soweto, a thros 1,500 wedi eu hanafu. Mae\u2019n debyg bod y gwir gyfanswm yn uwch o lawer. O\u2019r rhai a fu farw roedd canran uchel yn blant ysgol. Yr ANC a\u2019r PAC 1960-1990 Ar \u00f4l Sharpeville penderfynodd yr ANC newid ei dulliau protestio. Digwyddodd dau beth: Sylweddolodd arweinwyr yr ANC a\u2019r PAC fod y llywodraeth yn fodlon defnyddio trais yn erbyn protestiadau di-drais Aeth y llywodraeth ati i wahardd y ddau fudiad, a\u2019u gwneud yn anghyfreithlon. O hyn ymlaen roedd pobl ddu yn methu protestio\u2019n gyfreithlon yn erbyn apartheid.Roedd yr ANC wedi ei gwahardd a\u2019r arweinwyr wedi gorfod mynd i guddio rhag ofn y bydden nhw\u2019n cael eu harestio. Yn 1964 cafwyd araith bwysig gan Nelson Mandela lle dywedodd bod yr amser wedi cyrraedd pan oedd yn rhaid i Dde Affrica frwydro yn erbyn y system apartheid. Roedd dulliau di-drais wedi bod yn aneffeithiol yn erbyn y system. Roedd arweinwyr eraill y Mudiad Gwrth-Apartheid yn cytuno, fel y cyfaddefodd arweinydd yr ANC, Albert Luthuli, wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel yn 1961. Nelson Mandela oedd un o\u2019r bobl amlycaf a oedd o blaid defnyddio trais yn erbyn y llywodraeth. Aeth ati i ffurfio mudiad tanddaearol, anghyfreithlon o\u2019r enw Unkhonto we Sizwe (Gwaywffon y Bobl) a gafodd y llysenw MK. Aeth yr MK ati i drefnu ymgyrchoedd treisgar i danseilio llywodraeth De Affrica. Pwrpas MK oedd bomio a dinistrio targedau tactegol, gan osgoi lladd pobl pan oedd hynny\u2019n bosibl. Ym mis Rhagfyr 1961 cafwyd deg ffrwydrad, gyda\u2019r targedau\u2019n amrywio o swyddfeydd post i swyddfeydd trwyddedau a pheilon trydan. Roedd canolfan yr MK mewn ardal ffasiynol o Johannesburg o\u2019r enw Rivonia, ac am 17 mis llwyddodd y Black Pimpernel (Nelson Mandela) i osgoi sylw\u2019r heddlu. Fodd bynnag, yn 1963 cafodd Mandela a saith arall eu harestio yn Rivonia, a daeth yr heddlu o hyd i ddogfennau a oedd yn cynnwys cynlluniau i ymosod ar adeiladau. Doedd dim amheuaeth fod Mandela yn euog. Roedd llawer yn disgwyl y byddai\u2019r llywodraeth yn crogi Mandela a\u2019r arweinwyr eraill. Ar ddiwedd prawf yn Ne Affrica mae hawl gan y diffynnydd i wneud araith. Mandela oedd yn amddiffyn aelodau\u2019r ANC yn y prawf, ac ar y diwedd gwnaeth araith am bedair awr a hanner yn esbonio pam roedd wedi gweithredu fel y gwnaeth. Cafodd Mandela a rhai o\u2019r lleill eu dedfrydu i garchar am oes. Y Gyngres Ban Affricanaidd (PAC) Sefydlwyd y PAC gan rai o gyn-aelodau\u2019r ANC a oedd yn anghytuno \u00e2 rhai o bolis\u00efau\u2019r ANC. Doedd yr ANC ddim yn ddigon radical, yn eu barn nhw. Roedden nhw\u2019n credu hefyd eu bod yn cydweithio gormod \u00e2 phobl wyn. Arweinydd cyntaf y PAC oedd Robert Sobukwe. Rydyn ni eisoes wedi gweld mai\u2019r PAC mewn gwirionedd wnaeth drefnu\u2019r ymgyrchoedd a arweiniodd at gyflafan Sharpeville. Pan gafodd y PAC ei gwahardd yr un pryd \u00e2'r ANC yn 1960, aeth ati i sefydlu gr\u0175p terfysg o\u2019r enw Poqo. Llwyddodd yr heddlu i arestio arweinwyr y PAC hefyd, a chafodd y rhain eu dedfrydu i garchar. Mae\u2019n bwysig cofio nad oedd pawb a oedd yn ymgyrchu yn erbyn apartheid yn gwneud hynny drwy\u2019r ANC. Gwrthwynebiad grwpiau lleiafrifol Inkatha ya KwaZulu Nid oedd pobl ddu yn hollol unfrydol yn eu gwrthwynebiad i Apartheid. Roedd y Blaid Inkatha ya KwaZulu, dan arweiniad arweinydd y famwlad KwaZulu,\u00a0Buthelezi, am gael annibyniaeth ar Dde Affrica. Cefnogodd y llywodraeth y syniad hwn ac achoswyd llawer o drais rhwng yr ANC ac Inkatha gan fod eu syniadau yn groes i syniadau\u2019r ANC am un De Affrica unedig. Er mai pobl ddu oedd y prif wrthwynebiad i Apartheid roedd nifer o grwpiau ymgyrchu gwyn hefyd. Roedd\u00a0Plaid Unedig De Affrica\u00a0yn gwrthod Apartheid ond yn credu mewn arwahanu. Roedd y\u00a0Blaid Flaengar\u00a0o blaid gwarchod hawliau dynol ac felly\u2019n gwrthwynebu\u2019r system yn gryf. Roedd y\u00a0Blaid Ryddfrydol\u00a0hefyd yn wrthwynebwyr i\u2019r system er nad oeddynt yn gryf iawn, ac felly ni chawsant lawer o effaith. Roedd\u00a0Plaid y Gyngres\u00a0hefyd yn gwrthod hiliaeth, ond oherwydd nifer eu haelodau comiwnyddol nid oedd yn gryf iawn ac fe'i gwaharddwyd yn y\u00a01960au. Roedd y mudiad hawliau dynol,\u00a0Black Sash, sef gr\u0175p o fenywod gwyn, yn ymgyrchu yn erbyn Apartheid, gan roi cymorth i deuluoedd du tlawd. Yn\u00a01983\u00a0sefydlwyd y\u00a0Ffrynt Democrataidd Unedig (UDF)\u00a0sef gr\u0175p a oedd am weld diwedd ar Apartheid. Gyda 2,000,000 o aelodau roedd yn fygythiad mawr i\u2019r\u00a0Blaid Genedlaethol.\u00a0Roedd yr awdur a\u2019r dramodydd\u00a0Athol Fugard\u00a0(ganwyd 11 Mehefin 1932) yn un o nifer yn y celfyddydau a oedd yn ysgrifennu am Apartheid, fel yn ei ddrama 'The Island' (1972) ar y cyd \u00e2 John Kani, a Winston Ntshona, a seiliwyd ar fersiwn o\u00a0Antigone. Roedd unigolion gwyn o fewn yr Eglwys yn gwrthwynebu Apartheid, fel\u00a0y Tad Trevor Huddleston\u00a0a\u2019r\u00a0Esgob Ambrose Reeves,\u00a0a oedd yn ymgyrchu'n ddi-drais. Ymhlith gwrthwynebwyr eraill y system Apartheid o fewn yr Eglwys oedd Allan Boesak, a etholwyd yn Llywydd y Ffrynt Democrataidd Unedig yn 1983, a\u2019r arweinydd du eglwysig a ddaeth yn amlwg yn ystod y 1980au oedd Desmond Tutu. Gwrthwynebiad Rhyngwladol Y Gymanwlad Brydeinig Roedd y 1950au a\u2019r 1960au yn gyfnod o newid mawr i nifer o wledydd yn Affrica. Erbyn 1970 roedd y rhan fwyaf o wledydd Affrica wedi cael annibyniaeth oddi ar y gwledydd Ewropeaidd a oedd wedi eu rheoli. Yn 1960 roedd De Affrica yn dal i fod yn un o wledydd y Gymanwlad, ond yn 1961 cynhaliwyd refferendwm yn Ne Affrica pan bleidleisiodd pobl wyn y wlad dros adael y Gymanwlad. Daeth De Affrica yn weriniaeth, gyda\u2019i harlywydd ei hun ac yn gwbl annibynnol ar Brydain. Er nad oedd Verwoerd y Prif Weinidog eisiau i hyn ddigwydd, roedd wedi cael ei feirniadu cymaint fel y bu\u2019n rhaid iddo yn y diwedd dynnu ei wlad allan o\u2019r Gymanwlad. Boicotio ym myd chwaraeon Mewn gwledydd fel Prydain gwelwyd mudiadau gwrth-apartheid yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i greu sancsiynau economaidd a boicotio chwaraeon yn erbyn De Affrica. Yn 1966 roedd Verwoerd wedi gwrthod gadael i Maoris a oedd yn chwarae rygbi i d\u00eem Seland Newydd fynd i Dde Affrica. Ddwy flynedd yn ddiweddarach gwrthodwyd gadael i gricedwr o hil gymysg o Dde Affrica a oedd yn byw ym Mhrydain, Basil D\u2019Oliveira, fynd ar daith i Dde Affrica gyda th\u00eem criced Lloegr. Gan fod pobl wyn De Affrica yn hoff iawn o chwaraeon roedd yn gas ganddyn nhw'r boicotio chwaraeon. Penderfynodd nifer o wledydd weithredu felly yn erbyn llywodraeth De Affrica drwy beidio \u00e2 threfnu teithiau chwaraeon i\u2019r wlad honno, gan geisio ei hynysu. Dyma rai o\u2019r prif foicotiau: 1959 \u2013 t\u00eem criced India\u2019r Gorllewin yn gwrthod mynd ar daith i Dde Affrica 1964 \u2013 gwahardd De Affrica o\u2019r gemau Olympaidd 1969 \u2013 protestiadau yn erbyn taith y Springboks i Brydain 1970 \u2013 Clwb Criced Marylebone yn canslo taith t\u00eem criced De Affrica i Brydain 1977 \u2013 Cytundeb Gleneagles: gwledydd y Gymanwlad yn gwahardd cysylltiadau chwaraeon o unrhyw fath \u00e2 De Affrica. Y Cenhedloedd Unedig a Sancsiynau economaidd Mudiad rhyngwladol yw\u2019r Cenhedloedd Unedig (CU) a gafodd ei sefydlu ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd i geisio sicrhau hawliau dynol i bobl ar hyd a lled y byd. Mae Siarter y Cenhedloedd Unedig yn dweud ei fod yn fudiad sy\u2019n gweithio i \u2018annog parch at hawliau dynol, a rhyddid i bob unigolyn\u2019. Rhwng 1946 a 1980 pasiodd y Cenhedloedd Unedig 158 o benderfyniadau a oedd yn ymwneud \u00e2 De Affrica. Ar sawl achlysur gwelwyd y CU yn condemnio apartheid, fel yn 1960 ar \u00f4l cyflafan Sharpeville. Serch hynny, un o\u2019r \u2018arfau\u2019 a oedd yn cael eu defnyddio gan y CU i wrthwynebu llywodraethau fel un De Affrica oedd sancsiynau economaidd, sef annog y gwledydd a oedd yn aelodau o\u2019r CU i wrthod masnachu gyda De Affrica. Ond nid oedd pob gwlad o\u2019r CU yn cefnogi sancsiynau e.e. wnaeth llywodraeth Prydain ddim cytuno tan 1964 i roi\u2019r gorau i werthu arfau i\u2019r wlad. Yn anffodus doedd sancsiynau cynnar y CU ddim yn llwyddiannus oherwydd roedd economi De Affrica yn un gref iawn. De Affrica oedd y wlad gyfoethocaf yn ne cyfandir Affrica, ac roedd fwy neu lai yn wlad hunangynhaliol. Roedd economi gwledydd eraill cyfagos yn dibynnu\u2019n drwm ar economi De Affrica. Roedd hi\u2019n anodd perswadio gwledydd tlawd ar y cyfandir i roi\u2019r gorau i fasnachu gyda De Affrica. Er bod gwledydd fel Prydain ac UDA yn dal yn awyddus i fasnachu gyda De Affrica, pan gynigiodd y CU eu bod yn cyflwyno sancsiynau ar nwyddau i\u2019r wlad, gwrthodwyd hyn gan America a Phrydain. Yn 1971, roedd 70% o\u2019r arian tramor a oedd yn cael ei fuddsoddi yn Ne Affrica yn dod o Brydain ac roedd cwmn\u00efau Prydain yn awyddus i barhau i fuddsoddi yn y wlad. Un mudiad a ymdrechodd yn galed i gyflwyno sancsiynau economaidd yn erbyn De Affrica oedd y Mudiad Undod Affricanaidd (OAU: Organisation of African Unity). Gr\u0175p o wledydd yn Affrica a oedd yn cael eu harwain gan bobl ddu oedd hwn, a oedd yn ceisio rhoi pwysau ar y CU i gyflwyno sancsiynau yn erbyn llywodraeth De Affrica. Daeth y rhain at ei gilydd yn 1963 ym mhrif ddinas Zambia (Lusaka) a phasio Maniffesto Lusaka. Serch hynny, methodd ymdrechion gwledydd i ddefnyddio\u2019r CU i gyflwyno sancsiynau yn erbyn De Affrica. Protestiodd y CU yn erbyn apartheid, ond heb lwyddo i newid meddyliau llywodraeth De Affrica, nac i berswadio eu haelodau i gyflwyno sancsiynau economaidd. Y Ffrynt Democrataidd Unedig Erbyn y 1980au, y mudiad a gafodd y dylanwad mwyaf yn rhyngwladol ac yn Ne Affrica oedd y Ffrynt Democrataidd Unedig (UDF: United Democratic Front). Roedd gan y mudiad dros ddwy filiwn o aelodau a\u2019i slogan oedd \u2018UDF unites, apartheid divides\u2019. Un o arweinwyr mwyaf dylanwadol y mudiad oedd y gweinidog, Alan Boesak. Roedd y mudiad yn dweud wrth ei ddilynwyr bod angen iddyn nhw weithredu er mwyn ei gwneud hi\u2019n amhosibl llywodraethu De Affrica. Mudiad Pobl De Orllewin Affrica Roedd cryn wrthwynebiad i bresenoldeb De Affrica yn Namibia ac roedd pobl Namibia am gael gwared ar orthrwm lluoedd tramor. O ganlyniad, sefydlwyd Mudiad Pobl De Orllewin Affrica (SWAPO: South West African People\u2019s Organisation). Yn wreiddiol, roedd y mudiad yn blaid wleidyddol ond yn fuan datblygodd yn fudiad a oedd yn mabwysiadu dulliau gerila i ennill annibyniaeth. Yn 1971 daeth y Cenhedloedd Unedig i\u2019r casgliad nad oedd hawl cyfreithiol gan Dde Affrica i fod yn Namibia, ac yn 1973 cafodd SWAPO ei gydnabod yn wir gynrychiolydd Namibia. Ond parhaodd De Affrica i anwybyddu cyfarwyddyd y Cenhedloedd Unedig. Diolch i fwy a mwy o bwysau rhyngwladol drwy\u2019r 1980au, cafodd Namibia gynnal etholiadau ar gyfer cynulliad i\u2019r wlad yn 1989 ac ar 21 Mawrth 1990 enillodd y wlad ei hannibyniaeth. Namibia oedd y drefedigaeth olaf yn Affrica i ddod yn annibynnol. Newidiadau i\u2019r system apartheid Realaeth Newydd Botha Yn 1978 daeth P. W. Botha yn Brif Weinidog. Roedd Botha yn sylweddoli nad oedd apartheid yn gweithio. Sylweddolai hefyd bod yn rhaid i Dde Affrica newid ac anwybyddu rhai o\u2019r deddfau apartheid os oedd y dyn gwyn yn mynd i aros mewn grym. Er enghraifft, roedd angen i bobl ddu weithio yn y trefi oherwydd yno roedd y prif ddiwydiannau, ond roedd deddfau apartheid yn atal pobl ddu rhag symud i\u2019r trefi i fyw. Yn yr un modd roedd angen gweithwyr du medrus ar ddiwydiannau De Affrica, ond roedd deddfau addysg apartheid yn atal plant du rhag cael addysg dda. Yn 1978 cafodd rhai myfyrwyr du hawl i fynd i brifysgol Afrikaner yn Stellenbosch. Felly datblygodd llywodraeth Botha bolisi newydd at bobl ddu: ar y naill law, roedd yn defnyddio mwy o rym i geisio rheoli trais gan bobl ddu, ond ar y llaw arall roedd am weld apartheid yn newid yn araf. Roedd am weld polisi mwy \u2018realistig\u2019 tuag at apartheid. Serch hynny, doedd gan Botha ddim bwriad i roi grym i bobl ddu ac nid oedd am weld apartheid yn dod i ben. Roedd yn erbyn y syniad o roi pleidlais i bawb. Yn 1979 daeth hi\u2019n gyfreithlon i fod yn aelod o undeb Llafur. Roedd Botha yn gobeithio y byddai\u2019r llywodraeth yn medru rheoli\u2019r undebau llafur, ond roedd yn anghywir. Yn 1984 trefnodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr streic fawr yn Ne Affrica i hawlio mwy o gyflog i\u2019w aelodau. Dechreuodd y llywodraeth hefyd ddiwygio rhai elfennau eraill o apartheid: Daeth rhai lleoedd cyhoeddus, fel sinem\u00e2u, yn agored i bawb Yn 1981 daeth traethau yn y Cape Province yn rhai cymysg Yn 1985 cafodd pobl ddu hawl i fynd i rai o\u2019r un gwestai a thai bwyta \u00e2 phobl wyn.Serch hynny, roedd pobl ddu a phobl wyn yn cael eu gwahanu yn y rhan fwyaf o adnoddau cyhoeddus, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, pyllau nofio a thoiledau cyhoeddus. Cafwyd newid gwleidyddol yn Ne Affrica hefyd. Yn 1983 cafodd y wlad gyfansoddiad newydd, a rhoddwyd pleidlais i Indiaid ac i\u2019r bobl gymysg eu hil. Ond ni chafodd pobl ddu bleidlais serch hynny, ac roedd yn rhaid i\u2019r grwpiau eraill gyfarfod ar wah\u00e2n i bobl wyn. Gan y bobl wyn roedd y grym i basio deddfau pwysig. Roedd y cyfansoddiad newydd yn sicrhau bod y grym yn aros yn nwylo\u2019r bobl wyn: dim ond 20% o\u2019r Indiaid a\u2019r bobl gymysg eu hil yn Ne Affrica a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyntaf yn 1984. Newidiadau F.W. de Klerk: 1989-1991 Pan gafodd Botha str\u00f4c ym mis Ionawr 1989, roedd yn amlwg na fyddai'n medru parhau i reoli\u2019r wlad. Y dyn a ddaeth yn ei le oedd F. W. de Klerk. Roedd de Klerk yn dod o deulu gwleidyddol ceidwadol iawn ac roedd disgwyl y byddai\u2019n parhau i weithredu polis\u00efau apartheid llym. Pan wnaeth de Klerk ei araith wleidyddol fawr gyntaf fel Arlywydd, cafodd llawer iawn o bobl eu synnu. Yn lle bod yn llym, dywedodd bod angen i\u2019r wlad newid cyfeiriad yn llwyr. Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Medi 1989 addawodd de Klerk y byddai\u2019n newid apartheid. Ychydig ddyddiau\u2019n ddiweddarach cafwyd gorymdaith wrth-apartheid yn Cape Town, ac ni wnaeth de Klerk unrhyw ymdrech i\u2019w gwahardd. Aeth de Klerk ati i gyflwyno newidiadau eraill. Yn yr hydref cafodd Walter Sisulu ei ryddhau o\u2019r carchar a dechreuodd de Klerk gael gwared ar apartheid. Agorwyd traethau i bawb, a chafwyd datganiad gan y llywodraeth ei bod am ddileu\u2019r Ddeddf Neilltuo Cyfleusterau ar Wah\u00e2n (1953) a oedd yn rhoi rhai adnoddau i bobl ddu, ac eraill i bobl wyn. Ym mis Rhagfyr 1989 cafodd Mandela a de Klerk gyfarfod. Er bod Mandela yn dal i fod yn y carchar, gofynnodd i de Klerk godi\u2019r gwaharddiad ar yr ANC. Cytunwyd ar hynny ac ym mis Chwefror 1990 dywedodd de Klerk wrth senedd De Affrica: Ei fod am ddod \u00e2\u2019r gwaharddiad ar yr ANC, y PAC a 30 o fudiadau eraill i ben. O hyn ymlaen, fyddai hi ddim yn erbyn y gyfraith i fod yn aelod o\u2019r ANC Y byddai\u2019n rhyddhau carcharorion gwleidyddol a oedd heb gyflawni troseddau treisgar Y byddai\u2019n dileu sensoriaeth o\u2019r wasg Byddai\u2019r gosb eithaf yn dod i ben Y byddai\u2019n rhyddhau Mandela yn ddiamod.Dywedodd de Klerk wrth y Senedd \u2018bod yr amser i drafod wedi cyrraedd\u2019. Er bod ei newidiadau wedi eu derbyn, roedd rhai gwleidyddion gwyn yn ei feirniadu wrth iddo s\u00f4n am ryddhau Mandela a thrafod \u00e2\u2019r ANC. Cafodd Nelson Mandela ei ryddhau ar 11 Chwefror 1990 o garchar Victor Verster, Cape Town. Roedd yn ddyn rhydd am y tro cyntaf ers 27 o flynyddoedd. Roedd torf fawr wedi ymgasglu y tu allan i\u2019r carchar a miliynau o bobl yn gwylio\u2019r digwyddiad ar y teledu. Diwedd y System Apartheid Yn y cyfnod rhwng 1991 a 1994 daeth rheolaeth y dyn gwyn i ben yn Ne Affrica yn raddol, wrth i de Klerk gyflwyno mwy a mwy o newidiadau. Ym mis Chwefror 1991 cafwyd datganiad gan F. W. de Klerk ei fod am gael gwared ar weddill y cyfreithiau apartheid. Ym mis Rhagfyr 1991 cafodd arweinwyr yr ANC gyfarfod ag aelodau\u2019r llywodraeth mewn cynhadledd i drafod dyfodol De Affrica. Roedd gan y gynhadledd hon \u2013 y Confensiwn ar gyfer De Affrica Ddemocrataidd (CODESA: Convention for a democratic South Africa) \u2013 nifer o broblemau i\u2019w datrys. R\u00f4l y confensiwn oedd trefnu cyfansoddiad newydd i\u2019r wlad. Roedd nifer o wrthwynebwyr ymysg y rhai a oedd yn trafod, ac ar sawl achlysur bu\u2019n rhaid rhoi\u2019r gorau i\u2019r trafodaethau oherwydd y trais cynyddol a oedd yn digwydd yn Ne Affrica. Erbyn 1993 roedd yr ANC a\u2019r llywodraeth wedi cytuno y Byddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 27 Ebrill 1994 Byddai pawb dros 18 oed yn Ne Affrica yn cael pleidlais Byddai 400 o aelodau seneddol yn cael eu hethol Byddai\u2019r aelodau seneddol hyn wedyn yn dewis arlywyddOnd, roedd hi\u2019n amlwg hefyd fod de Klerk wedi cael ei ffordd i raddau, oherwydd Byddai pob plaid a oedd yn cael mwy nag 80 o seddi (aelodau seneddol) yn cael dirprwy arlywydd Byddai pob plaid oedd yn cael dros 5% o\u2019r bleidlais yn cael ei chynrychioli yn y llywodraeth Byddai\u2019r ddau bwynt uchod yn gweithredu am bum mlynedd, i sicrhau bod y llywodraeth newydd yn uno, ac nid yn rhannu\u2019r wlad.Doedd pawb ddim yn hapus \u00e2\u2019r drefn newydd, serch hynny. Gadawodd y Pennaeth Buthelezi y trafodaethau, gan deimlo bod de Klerk a\u2019r llywodraeth wyn wedi ei fradychu. Roedd Buthelezi yn credu na ddylai ei ardal ef, sef KwaZulu-Natal, fod yn rhan o\u2019r De Affrica newydd, ac roedd eisiau gwlad hunanlywodraethol i\u2019r Zulus. Roedd eithafwyr gwyn hefyd yn anfodlon. Pan oedd yn prynu papur newydd, cafodd aelod blaenllaw o\u2019r ANC, Chris Hani, ei saethu\u2019n farw gan aelod o\u2019r AWB. Ymosododd pobl wyn o\u2019r AWB ar bobl ddu gyda bomiau llaw wrth iddyn nhw addoli mewn capel, gan ladd deuddeg o bobl. Er yr holl drais a phrotestio yn eu herbyn, llwyddwyd i gynnal etholiadau rhwng 26 a 29 Ebrill, 1994. Am y tro cyntaf erioed cafodd 16 miliwn o bobl ddu hawl i bleidleisio. Gwelwyd golygfeydd rhyfeddol, gyda phobl yn ciwio\u2019n dawel am ddau ddiwrnod yn aml i gael pleidleisio. Roedd y papur pleidleisio yn cynnwys 19 plaid wahanol. Gan nad oedd hanner y bobl ddu yn medru darllen rhoddwyd logo\u2019r blaid a llun ei harweinydd ochr yn ochr ag enw\u2019r ymgeisydd. Mewn ardaloedd gwledig gwelwyd pobl yn cerdded dros 60 milltir i bleidleisio am y tro cyntaf. Dyma ganlyniad yr etholiadau democrataidd cyntaf yn Ne Affrica: Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) 62% Y Blaid Genedlaethol (de Klerk) 20% Plaid Rhyddid Inkhatha (y Pennaeth Buthelezi) 10%Daeth Mandela yn arlywydd, de Klerk yn ddirprwy arlywydd, a chafodd y Pennaeth Buthelezi swydd yn y llywodraeth. Roedd y canlyniad yn ymddangos fel petai\u2019n plesio pawb, gyda phawb yn teimlo eu bod wedi ennill rhywbeth o\u2019r etholiad. Serch hynny, gadawodd y Pennaeth Buthelezi y llywodraeth ym mis Mai 1995. Er bod y llywodraeth yn ymddangos yn unedig, doedd hi ddim mewn gwirionedd. Doedd Inkatha ddim yn dymuno chwarae r\u00f4l lawn yn nyfodol De Affrica, na\u2019r bobl wyn eithafol, chwaith. Roedd yn rhaid i Mandela geisio cadw cefnogaeth rhai o gefnogwyr comiwnyddol yr ANC a oedd am weld cyfoeth yn cael ei ddosbarthu, ac ar yr un pryd roedd yn rhaid iddo gynnal cefnogaeth pobl wyn gyfoethog. Serch hynny, roedd rhai arwyddion gobeithiol. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r boblogaeth am weld y trais yn dod i ben, ac yn dymuno gweld y llywodraeth newydd yn llwyddo. Roedd Mandela wedi ennill parch y rhan fwyaf o\u2019r bobl ddu a\u2019r bobl wyn. Cyfeiriadau","1340":"Canwr, cyfansoddwr, telynegwr, ac arlunydd Cymraeg yw Meic Stevens (ganwyd 13 Mawrth 1942). Mae Meic Stevens wedi bod yn un o ffigyrau amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg am dros bum degawd, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu'r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Disgrifir ef gan rai fel \"y Bob Dylan Cymreig\" ac mae hefyd wedi cael ei gymharu yn ffafriol gyda cherddorion fel Syd Barrett. Mae Meic yn canu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dod yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth Gymraeg. Bywyd Cynnar Cafodd Meic Stevens ei eni yn Louis Michael James ar 13 Mawrth 1942 yn Solfach, Sir Benfro. Gyrfa Cynorthwywyd lansiad gyrfa Meic Stevens fel perfformiwr ym 1965 gan y DJ Jimmy Savile, a'i gwelodd yn perfformio mewn clwb canu gwerin ym Manceinion. Y canlyniad oedd i Meic Stevens ryddhau ei sengl gyntaf - wedi'i drefnu gan John Paul Jones (a aeth ymlaen i fod yn aelod o Led Zeppelin) - i Decca Records yn yr un flwyddyn (ond ni werthodd yn dda). Ym 1967 dioddefodd Meic oherwydd problemau meddyliol ac aeth yn \u00f4l i Solfach i adfer ei iechyd. Dechreuodd ysgrifennu caneuon Cymraeg mewn ymdrech ymwybodol i geisio creu cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig. Rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg (Rhif 2, M\u0175g, Y Brawd Houdini, Diolch yn Fawr, Byw yn y Wlad) i stiwdios Sain a Wren. Perfformiodd ar draws Prydain hefyd yn y 1960au (er enghraifft i'w gyfaill Gary Farr ar ei albwm cyntaf i label Marmalade). Rhyddhaodd ei albwm gyntaf yn y Saesneg, Outlander, ar label Warner Bros. ym 1970. Fel ei LPs eraill o'r cyfnod hwnnw, fel Gwymon a G\u00f4g, mae'n albwm prin heddiw. Yn 1972 rhyddhawyd Gwymon (Dryw), albwm sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel Gwely Gwag, Merch O'r Ffatri Wl\u00e2n a Daeth Neb Yn \u00d4l. Symudodd Meic i fyw i Lydaw ym 1974. Fe ddychwelwyd ym 1977, a recordio G\u00f4g (Sain, 1977), ei albwm gorau yn \u00f4l rhai. Ym 1978 ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer yr opera roc Dic Penderyn a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae Caneuon Cynnar Rhif 1 (Tic Toc, 1981) yn gasgliad gwych o'i hen ganeuon wedi ei recordio o'r newydd. Hefyd yn 1981, rhyddhawyd cas\u00e9t o ganeuon newydd yn Saesneg gyda'r Cadillacs i gyd-fynd gyda thaith i Lydaw, Cider Glider (The Farnham Sessions). Ail ryddhawyd hon ar Voodoo Blues: 1979-92 gan Blue Tit ym 1994 gyda thraciau ychwanegol. Mae Nos Du, Nos Da (Sain, 1982) yn glasur, sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel M\u00f4r O Gariad, Bobby Sands a Dic Penderyn. Roedd Git\u00e2r Yn Y Twll Dan Star (Sain, 1983) yn cynnwys caneuon o'r opera roc coll Hirdaith A Chraith Y Garreg Ddu. Defnyddiodd y Cadillacs unwaith eto ar gyfer recordio Lapis Lazuli (Sain, 1985) sy'n cynnwys Erwan, un o'i ganeuon mwyaf prydferth. Rhyddhawyd Gwin A Mwg A Merched Drwg ym 1987 ar gas\u00e9t yn unig. Roedd aelodau'r band yn cynnwys rhai o gerddorion gorau sesiwn Llundain, gyda Brian Godding, gynt o Blossom Toes, yn eu mysg. Nid yw hwn, na'r ddau albwm blaenorol, ar gael ar CD. Symudodd label o Sain i Fflach ar gyfer Bywyd Ac Angau yn 1989. Roedd hon yn albwm dwyieithog ac yn fwy gwerinol ei naws. Recordiwyd 'Ware'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur) yn Stiwdio Les, Bethesda, a hon oedd ei CD cyntaf, rhyddhawyd gan Sain ym 1991. Dilynwyd hwnnw gan Er Cof Am Blant Y Cwm ar Crai, sy'n cynnwys y g\u00e2n anfarwol o'r un enw. Recordiwyd Meic Stevens Yn Fyw (Sain) ym Mhabell Swroco yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ym 1995 - perfformiad a recordiad gwych; fe'i rhyddhawyd ar gas\u00e9t yn unig. Ysgrifennwyd rhan helaeth o'r caneuon oddi ar Mihangel (Crai) gyda Rob Mills. Ar y cyfan, roedd hon yn albwm siomedig. Rhyddhawyd Ysbryd Solva (Sain) yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002, ac yn yr un flwyddyn recordiwyd Meic A'r Gerddorfa yn Neuadd Y Brangwyn Abertawe a Neuadd Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Erbyn Icarws (Sain, 2007), roedd Meic yn cydweithio unwaith eto gyda Geraint Jarman. Fel Caneuon Cynnar Rhif 1 ac Ysbryd Solva, mae hon yn gasgliad o'i hen ganeuon wedi eu recordio o'r newydd. Recordiwyd An Evening With Meic Stevens yn 2007 yn fyw yn Yr Half Moon, Putney, Llundain, ar gyfer Sunbeam. Rhyddhawyd DVD o'r gyngerdd, y cyntaf gan y dewin o Solfach. Yn 2008, cafodd ei albwm Gwymon ei ail-gyhoeddi ar label Sunbeam gyda dwy drac byw yn ychwanegol at y caneuon ar yr albwm gwreiddiol. Yn 2010 cyhoeddodd Sain yr albwm, Love Songs. Gyda'r caneuon oll yn Saesneg, ysgrifennwyd llawer ohonynt pan oedd Meic yn llanc 18 oed yn 1959. Yn Awst 2011, cyhoeddwyd ei hunangofiant dadleuol diweddaraf, 'Mas o 'Ma'. Yn 2011, cyhoeddodd Meic Stevens ei fod am fudo i Ganada i ymuno efo'i hen gariad, Liz, a chwrddodd \u00e2 hi yn ystod ei amser fel myfyriwr celf yng Nghaerdydd yn y 1960au cynnar. Mae Meic wedi chwarae sawl gig ffarwelio yng Nghymru cyn ymadael am Ganada. Dylanwad ar Artistiaid Eraill Wrth chwarae yn y gr\u0175p Bara Menyn yn niwedd y 1960au, cafodd Meic Stevens ddylanwad uniongyrchol ar yr artistiaid Heather Jones a Geraint Jarman. Parhaodd y dylanwad yma ar waith Heather Jones wrth iddi hi a Meic Stevens berfformio yn aml gyda'i gilydd ar lwyfannau led-led Cymru yn ystod y degawdau nesaf. Gellir clywed dylanwad brand arbennig Meic Stevens o roc gwerin yng ngwaith bandiau Cymraeg cyfoes fel Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci. Mae'r artist Gai Toms yn enwi Meic Stevens fel y prif ddylanwad a ysgogodd ef i ddechrau ysgrifennu a pherfformio ei ganeuon ei hun. Mae dylanwad arddull werin nodweddiadol Meic Stevens yn amlwg yng ngwaith Gai Toms, yn enwedig ar ddeunydd Mim Twm Llai. Yn ddiweddar, perfformiodd Alun Tan Lan fersiwn o'r g\u00e2n \"Cwm y Pren Helyg\" gan Meic Stevens. Disgyddiaeth Albymau Outlander (1970, Warner Bros.) Gwymon (1972, Wren) G\u00f4g (1977, Sain 1065M) Caneuon Cynnar (1979, Tic Toc TTL001) Nos Du, Nos Da (1982, Sain, Sain 82) Git\u00e2r yn y Twll Dan St\u00e2r (1983, Sain) Lapis Lazuli (1985, Sain, Sain 1312M) Bywyd ac Angau (1989, Fflach) Ware\u2019n Noeth (Bibopalwla\u2019r Delyn Aur) (1991, Sain SCD 4088) Er Cof am Blant y Cwm (1993, Crai CD036) Y Baledi - Dim Ond Cysgodion (1992, Sain SCD 2001) Voodoo Blues (1993? Bluetit Records MS1) Yn Fyw (1995, Sain) Ghost Town (1997, Tenth Planet TP028) Mihangel (1998, Crai CD059) Ysbryd Solva (2002, Sain SCD 2364) September 1965: The Tony Pike Session (2002, Tenth Planet TP056) Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod (2002 Sain SCD 2345) Outlander (2003, Rhino Handmade RHM2 7839 ail-ryddhau) Meic a'r Gerddorfa (2005, Sain SCD 2499) Rain in the Leaves: The EPs vol. 1 (2006, Sunbeam) Sackcloth & Ashes: The EPs vol. 2 (2007, Sunbeam) Icarws (2007, Sain 2516) An Evening with Meic Stevens: Recorded Live In London (2007, Sunbeam SBRCD5039) Gwymon (2008, Sunbeam SBRCD5046) Llyfryddiaeth Llyfrau Cerddoriaeth I Adrodd yr Hanes: 51 O Ganeuon Meic Stevens Gyda Cherddoriaeth, Meic Stevens a Lyn Ebenezer, Tachwedd 1993, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863812736 Hunangofiannau Cyhoeddwyd hunangofiant Meic Stevens mewn tair rhan: Hunangofiant y Brawd Houdini, Tachwedd 2003, Gwasg Gwynedd, ISBN 9780862436971 Y Crwydryn a Mi, Ebrill 2009, Y Lolfa, ISBN 9781847711212 M\u00e2s o 'M\u00e2, Gorffennaf 2011, Y Lolfa, ISBN 9781847713247 Cyfeiriadau Dolenni allanol BBC Cymru - Meic Stevens Cyfweliad, 2003 Proffil Meic Stevens gan BBC Cymru","1342":"Canwr, cyfansoddwr, telynegwr, ac arlunydd Cymraeg yw Meic Stevens (ganwyd 13 Mawrth 1942). Mae Meic Stevens wedi bod yn un o ffigyrau amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg am dros bum degawd, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu'r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Disgrifir ef gan rai fel \"y Bob Dylan Cymreig\" ac mae hefyd wedi cael ei gymharu yn ffafriol gyda cherddorion fel Syd Barrett. Mae Meic yn canu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dod yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth Gymraeg. Bywyd Cynnar Cafodd Meic Stevens ei eni yn Louis Michael James ar 13 Mawrth 1942 yn Solfach, Sir Benfro. Gyrfa Cynorthwywyd lansiad gyrfa Meic Stevens fel perfformiwr ym 1965 gan y DJ Jimmy Savile, a'i gwelodd yn perfformio mewn clwb canu gwerin ym Manceinion. Y canlyniad oedd i Meic Stevens ryddhau ei sengl gyntaf - wedi'i drefnu gan John Paul Jones (a aeth ymlaen i fod yn aelod o Led Zeppelin) - i Decca Records yn yr un flwyddyn (ond ni werthodd yn dda). Ym 1967 dioddefodd Meic oherwydd problemau meddyliol ac aeth yn \u00f4l i Solfach i adfer ei iechyd. Dechreuodd ysgrifennu caneuon Cymraeg mewn ymdrech ymwybodol i geisio creu cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig. Rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg (Rhif 2, M\u0175g, Y Brawd Houdini, Diolch yn Fawr, Byw yn y Wlad) i stiwdios Sain a Wren. Perfformiodd ar draws Prydain hefyd yn y 1960au (er enghraifft i'w gyfaill Gary Farr ar ei albwm cyntaf i label Marmalade). Rhyddhaodd ei albwm gyntaf yn y Saesneg, Outlander, ar label Warner Bros. ym 1970. Fel ei LPs eraill o'r cyfnod hwnnw, fel Gwymon a G\u00f4g, mae'n albwm prin heddiw. Yn 1972 rhyddhawyd Gwymon (Dryw), albwm sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel Gwely Gwag, Merch O'r Ffatri Wl\u00e2n a Daeth Neb Yn \u00d4l. Symudodd Meic i fyw i Lydaw ym 1974. Fe ddychwelwyd ym 1977, a recordio G\u00f4g (Sain, 1977), ei albwm gorau yn \u00f4l rhai. Ym 1978 ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer yr opera roc Dic Penderyn a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae Caneuon Cynnar Rhif 1 (Tic Toc, 1981) yn gasgliad gwych o'i hen ganeuon wedi ei recordio o'r newydd. Hefyd yn 1981, rhyddhawyd cas\u00e9t o ganeuon newydd yn Saesneg gyda'r Cadillacs i gyd-fynd gyda thaith i Lydaw, Cider Glider (The Farnham Sessions). Ail ryddhawyd hon ar Voodoo Blues: 1979-92 gan Blue Tit ym 1994 gyda thraciau ychwanegol. Mae Nos Du, Nos Da (Sain, 1982) yn glasur, sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel M\u00f4r O Gariad, Bobby Sands a Dic Penderyn. Roedd Git\u00e2r Yn Y Twll Dan Star (Sain, 1983) yn cynnwys caneuon o'r opera roc coll Hirdaith A Chraith Y Garreg Ddu. Defnyddiodd y Cadillacs unwaith eto ar gyfer recordio Lapis Lazuli (Sain, 1985) sy'n cynnwys Erwan, un o'i ganeuon mwyaf prydferth. Rhyddhawyd Gwin A Mwg A Merched Drwg ym 1987 ar gas\u00e9t yn unig. Roedd aelodau'r band yn cynnwys rhai o gerddorion gorau sesiwn Llundain, gyda Brian Godding, gynt o Blossom Toes, yn eu mysg. Nid yw hwn, na'r ddau albwm blaenorol, ar gael ar CD. Symudodd label o Sain i Fflach ar gyfer Bywyd Ac Angau yn 1989. Roedd hon yn albwm dwyieithog ac yn fwy gwerinol ei naws. Recordiwyd 'Ware'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur) yn Stiwdio Les, Bethesda, a hon oedd ei CD cyntaf, rhyddhawyd gan Sain ym 1991. Dilynwyd hwnnw gan Er Cof Am Blant Y Cwm ar Crai, sy'n cynnwys y g\u00e2n anfarwol o'r un enw. Recordiwyd Meic Stevens Yn Fyw (Sain) ym Mhabell Swroco yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ym 1995 - perfformiad a recordiad gwych; fe'i rhyddhawyd ar gas\u00e9t yn unig. Ysgrifennwyd rhan helaeth o'r caneuon oddi ar Mihangel (Crai) gyda Rob Mills. Ar y cyfan, roedd hon yn albwm siomedig. Rhyddhawyd Ysbryd Solva (Sain) yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002, ac yn yr un flwyddyn recordiwyd Meic A'r Gerddorfa yn Neuadd Y Brangwyn Abertawe a Neuadd Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Erbyn Icarws (Sain, 2007), roedd Meic yn cydweithio unwaith eto gyda Geraint Jarman. Fel Caneuon Cynnar Rhif 1 ac Ysbryd Solva, mae hon yn gasgliad o'i hen ganeuon wedi eu recordio o'r newydd. Recordiwyd An Evening With Meic Stevens yn 2007 yn fyw yn Yr Half Moon, Putney, Llundain, ar gyfer Sunbeam. Rhyddhawyd DVD o'r gyngerdd, y cyntaf gan y dewin o Solfach. Yn 2008, cafodd ei albwm Gwymon ei ail-gyhoeddi ar label Sunbeam gyda dwy drac byw yn ychwanegol at y caneuon ar yr albwm gwreiddiol. Yn 2010 cyhoeddodd Sain yr albwm, Love Songs. Gyda'r caneuon oll yn Saesneg, ysgrifennwyd llawer ohonynt pan oedd Meic yn llanc 18 oed yn 1959. Yn Awst 2011, cyhoeddwyd ei hunangofiant dadleuol diweddaraf, 'Mas o 'Ma'. Yn 2011, cyhoeddodd Meic Stevens ei fod am fudo i Ganada i ymuno efo'i hen gariad, Liz, a chwrddodd \u00e2 hi yn ystod ei amser fel myfyriwr celf yng Nghaerdydd yn y 1960au cynnar. Mae Meic wedi chwarae sawl gig ffarwelio yng Nghymru cyn ymadael am Ganada. Dylanwad ar Artistiaid Eraill Wrth chwarae yn y gr\u0175p Bara Menyn yn niwedd y 1960au, cafodd Meic Stevens ddylanwad uniongyrchol ar yr artistiaid Heather Jones a Geraint Jarman. Parhaodd y dylanwad yma ar waith Heather Jones wrth iddi hi a Meic Stevens berfformio yn aml gyda'i gilydd ar lwyfannau led-led Cymru yn ystod y degawdau nesaf. Gellir clywed dylanwad brand arbennig Meic Stevens o roc gwerin yng ngwaith bandiau Cymraeg cyfoes fel Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci. Mae'r artist Gai Toms yn enwi Meic Stevens fel y prif ddylanwad a ysgogodd ef i ddechrau ysgrifennu a pherfformio ei ganeuon ei hun. Mae dylanwad arddull werin nodweddiadol Meic Stevens yn amlwg yng ngwaith Gai Toms, yn enwedig ar ddeunydd Mim Twm Llai. Yn ddiweddar, perfformiodd Alun Tan Lan fersiwn o'r g\u00e2n \"Cwm y Pren Helyg\" gan Meic Stevens. Disgyddiaeth Albymau Outlander (1970, Warner Bros.) Gwymon (1972, Wren) G\u00f4g (1977, Sain 1065M) Caneuon Cynnar (1979, Tic Toc TTL001) Nos Du, Nos Da (1982, Sain, Sain 82) Git\u00e2r yn y Twll Dan St\u00e2r (1983, Sain) Lapis Lazuli (1985, Sain, Sain 1312M) Bywyd ac Angau (1989, Fflach) Ware\u2019n Noeth (Bibopalwla\u2019r Delyn Aur) (1991, Sain SCD 4088) Er Cof am Blant y Cwm (1993, Crai CD036) Y Baledi - Dim Ond Cysgodion (1992, Sain SCD 2001) Voodoo Blues (1993? Bluetit Records MS1) Yn Fyw (1995, Sain) Ghost Town (1997, Tenth Planet TP028) Mihangel (1998, Crai CD059) Ysbryd Solva (2002, Sain SCD 2364) September 1965: The Tony Pike Session (2002, Tenth Planet TP056) Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod (2002 Sain SCD 2345) Outlander (2003, Rhino Handmade RHM2 7839 ail-ryddhau) Meic a'r Gerddorfa (2005, Sain SCD 2499) Rain in the Leaves: The EPs vol. 1 (2006, Sunbeam) Sackcloth & Ashes: The EPs vol. 2 (2007, Sunbeam) Icarws (2007, Sain 2516) An Evening with Meic Stevens: Recorded Live In London (2007, Sunbeam SBRCD5039) Gwymon (2008, Sunbeam SBRCD5046) Llyfryddiaeth Llyfrau Cerddoriaeth I Adrodd yr Hanes: 51 O Ganeuon Meic Stevens Gyda Cherddoriaeth, Meic Stevens a Lyn Ebenezer, Tachwedd 1993, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863812736 Hunangofiannau Cyhoeddwyd hunangofiant Meic Stevens mewn tair rhan: Hunangofiant y Brawd Houdini, Tachwedd 2003, Gwasg Gwynedd, ISBN 9780862436971 Y Crwydryn a Mi, Ebrill 2009, Y Lolfa, ISBN 9781847711212 M\u00e2s o 'M\u00e2, Gorffennaf 2011, Y Lolfa, ISBN 9781847713247 Cyfeiriadau Dolenni allanol BBC Cymru - Meic Stevens Cyfweliad, 2003 Proffil Meic Stevens gan BBC Cymru","1346":"Mae'r term avant-garde yn dod o'r Ffrangeg, golyga yn llythrennol 'blaen leng' neu 'blaengad'. Defnyddir ac arddelir y term gan bobl mewn gweithiau celf arbrofol neu an-uniongred, cerddoriaeth neu gymdeithas a gall gynnig beirniadaeth neu gritic yn y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r consiwmydd. Bydd yr avant-garde yn gwthio ffinio o'r hyn sy'n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Gwelir hi fel bathodyn o'r hyn yw moderniaeth, yn wahanol i \u00f4l-foderniaeth. Bydd nifer o artistiaid yn uniaethu gyda'r mudiad avant-garde ac yn dal i wneud gan olrhain y traddodiad o fudiad Dada i'r Situationists ac i'r artistiaid \u00f4l-fodern ddechrau'r 1980au. Mae'r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Dyma oedd gwraidd ystyr dyfyniad Olinde Rodrigues yn ei erthygl \"L'artiste, le savant et l'industriel\" (\"Yr artist, y gwyddonydd a'r diwydiannwr\", 1825) sy'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf i'r term \"avant-garde\" yn ei ystyr gyfoes. Galwodd Rodrigues ar i artistiaid \"wasanaethu fel 'avant-garde' y bobl\", gan fynnu \"mae angen grym y ceflyddydau yn y modd mwyaf unionsyth a cyflymaf\" er mwyn diwygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Cysyniad a Dadansoddiad Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio? Nodwyd hyn gan ddeallusion Ysgol Frankfurt yn yr 1930au a'r 1940au. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith Theodor Adorno a Max Horkheimer yn eu traethawd, The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio (1935, adolygwyd, 1939). Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, diwylliant torfol (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio). Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli. Cerddoriaeth Bydd cerddoriaeth avant-gard yn aml yn herio syniadaeth ar harmoni, melodi a rhyddm. Gall cerddoriaeth avant-garde gyfeirio at unrhyw fath o gerddoriaeth o fewn ei strwythurau cydnabyddiedig, ond sy'n ceisio ymestyn ffiniau newydd mewn rhyw fodd. Ymysg rhai o gyfansoddwyr avant-garde enwog y 20g mae Arnold Schoenberg, Igor Stravinsky, Philip Glass, John Cage, Morton Feldman, Richard Strauss (yn ei waith cynharaf) a Karlheinz Stockhausen. Ceir hefyd gyfansoddwyr avant-garde benywaidd megis Pauline Oliveros, Diamanda Gal\u00e1s, Meredith Monk, a Laurie Anderson. Ceir diffiniad arall o gerddoriaeth avant-garde sy'n ei wahaniaethu oddi wrth moderniaeth. Dywed Peter B\u00fcrger, er enghraifft, fod avant-gardiaeth yn ymwrthod \u00e2 'chelf fel sefydliad' ac yn herio moesau cymdeithasol ac artistig a gan hynny'n cynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Yn \u00f4l y cyfansoddwr a'r cerddor Larry Sitsky, dydy rhai o gyfansoddwyr modernaidd yr 20g cynnar ddim i'w hystyried fel avant-gardiaid, mae'r rhain yn cynnwys Arnold Schoenberg, Anton Webern, a Igor Stravinsky ac eraill, gan fod eu \"modernism was not conceived for the purpose of goading an audience.\" Theatr Mae avant-garde yn gryf iawn ym maes theatr a chelfyddyd perfformio, ac mae hynny'n aml wrth gydweithio \u00e2 datblygiadau ym myd cerddoriaeth, sain a chyfryngau gweledol. Ymysg y mudiadau a gyfrannodd neu a ddatblygodd yn y traddodiad avant-garde mae Fluxus, Happenings, a Neo-Dada. Celf Ceir nghreifftiau o gelf a dderbyniwyd yn hwyrach ymlaen fel avant-garde a datblygiad hanes celf y Gorllewin: Avant-Garde Cymraeg Gellir gweld elfennau o syniadaeth avant-garde mewn diwylliant Gymraeg mewn sawl maes. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau'r gr\u0175p pop o'r 1980-90au, Traddodiad Ofnus gyda Gareth Potter a Mark Lugg neu waith y cwmni theatr Brith Gof. Roedd elfen avant-gard yn nofel Jerry Hunter, Ebargofiant (Gwasg y Lolfa, 2014). Dolenni Arddangosfa Avant-gard yn Amgueddfa'r Tate Cyfeiriadau","1347":"Mae'r term avant-garde yn dod o'r Ffrangeg, golyga yn llythrennol 'blaen leng' neu 'blaengad'. Defnyddir ac arddelir y term gan bobl mewn gweithiau celf arbrofol neu an-uniongred, cerddoriaeth neu gymdeithas a gall gynnig beirniadaeth neu gritic yn y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r consiwmydd. Bydd yr avant-garde yn gwthio ffinio o'r hyn sy'n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Gwelir hi fel bathodyn o'r hyn yw moderniaeth, yn wahanol i \u00f4l-foderniaeth. Bydd nifer o artistiaid yn uniaethu gyda'r mudiad avant-garde ac yn dal i wneud gan olrhain y traddodiad o fudiad Dada i'r Situationists ac i'r artistiaid \u00f4l-fodern ddechrau'r 1980au. Mae'r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Dyma oedd gwraidd ystyr dyfyniad Olinde Rodrigues yn ei erthygl \"L'artiste, le savant et l'industriel\" (\"Yr artist, y gwyddonydd a'r diwydiannwr\", 1825) sy'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf i'r term \"avant-garde\" yn ei ystyr gyfoes. Galwodd Rodrigues ar i artistiaid \"wasanaethu fel 'avant-garde' y bobl\", gan fynnu \"mae angen grym y ceflyddydau yn y modd mwyaf unionsyth a cyflymaf\" er mwyn diwygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Cysyniad a Dadansoddiad Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio? Nodwyd hyn gan ddeallusion Ysgol Frankfurt yn yr 1930au a'r 1940au. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith Theodor Adorno a Max Horkheimer yn eu traethawd, The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio (1935, adolygwyd, 1939). Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, diwylliant torfol (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio). Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli. Cerddoriaeth Bydd cerddoriaeth avant-gard yn aml yn herio syniadaeth ar harmoni, melodi a rhyddm. Gall cerddoriaeth avant-garde gyfeirio at unrhyw fath o gerddoriaeth o fewn ei strwythurau cydnabyddiedig, ond sy'n ceisio ymestyn ffiniau newydd mewn rhyw fodd. Ymysg rhai o gyfansoddwyr avant-garde enwog y 20g mae Arnold Schoenberg, Igor Stravinsky, Philip Glass, John Cage, Morton Feldman, Richard Strauss (yn ei waith cynharaf) a Karlheinz Stockhausen. Ceir hefyd gyfansoddwyr avant-garde benywaidd megis Pauline Oliveros, Diamanda Gal\u00e1s, Meredith Monk, a Laurie Anderson. Ceir diffiniad arall o gerddoriaeth avant-garde sy'n ei wahaniaethu oddi wrth moderniaeth. Dywed Peter B\u00fcrger, er enghraifft, fod avant-gardiaeth yn ymwrthod \u00e2 'chelf fel sefydliad' ac yn herio moesau cymdeithasol ac artistig a gan hynny'n cynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Yn \u00f4l y cyfansoddwr a'r cerddor Larry Sitsky, dydy rhai o gyfansoddwyr modernaidd yr 20g cynnar ddim i'w hystyried fel avant-gardiaid, mae'r rhain yn cynnwys Arnold Schoenberg, Anton Webern, a Igor Stravinsky ac eraill, gan fod eu \"modernism was not conceived for the purpose of goading an audience.\" Theatr Mae avant-garde yn gryf iawn ym maes theatr a chelfyddyd perfformio, ac mae hynny'n aml wrth gydweithio \u00e2 datblygiadau ym myd cerddoriaeth, sain a chyfryngau gweledol. Ymysg y mudiadau a gyfrannodd neu a ddatblygodd yn y traddodiad avant-garde mae Fluxus, Happenings, a Neo-Dada. Celf Ceir nghreifftiau o gelf a dderbyniwyd yn hwyrach ymlaen fel avant-garde a datblygiad hanes celf y Gorllewin: Avant-Garde Cymraeg Gellir gweld elfennau o syniadaeth avant-garde mewn diwylliant Gymraeg mewn sawl maes. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau'r gr\u0175p pop o'r 1980-90au, Traddodiad Ofnus gyda Gareth Potter a Mark Lugg neu waith y cwmni theatr Brith Gof. Roedd elfen avant-gard yn nofel Jerry Hunter, Ebargofiant (Gwasg y Lolfa, 2014). Dolenni Arddangosfa Avant-gard yn Amgueddfa'r Tate Cyfeiriadau","1349":"Mae Y Mynydd Grug yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1997. Fe'i seiliwyd ar y casgliad o straeon byrion gan Kate Roberts, Te yn y Grug. Angela Roberts a gyfarwyddodd y ffilm. Cafodd y ffilm \u00a36,000 o bunnau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer costau \u00f4l-gynhyrchu. Cyfanswm cyllideb y cynhyrchiad oedd \u00a3600,000. Fe'i ffilmiwyd ar leoliad yn Nyffryn Nantlle a thref Caernarfon. Cast a chriw Prif gast Anwen Haf Ellis \u2013 Begw Claire Goddard \u2013 Wini Ffini Hadog Gwenno Hodgkins \u2013 Elin Gruffydd Dafydd Emyr \u2013 William Gruffydd Jonathan Nefydd \u2013 Mr Huws Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Stewart Jones \u2013 Dafydd Si\u00f4n Dilys Price \u2013 Nanw Si\u00f4n Elain Llwyd \u2013 Mair Owain Si\u00f4n Williams \u2013 Robin Sam Rogers \u2013 Rhys Huw Ll\u0177r \u2013 Bilw Robin Eiddior \u2013 Wmffra Emlyn Gomer \u2013 Wili Robaitsh Grey Evans \u2013 Dan Jones Dafydd Edmwnd \u2013 Twm Ffini Hadog Caren Brown \u2013 Lisi J\u00ean Tudur Roberts \u2013 Wil y Fedw Owain Arwyn \u2013 Deio Dyfan Roberts \u2013 Stiward Trefor Selway \u2013 Mr Pritchard Darren Stokes \u2013 Pritchard Bach Emyr Roberts \u2013 Mr Prothero Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Mari Emlyn \u2013 Mrs Prothero Denise Williams \u2013 Siani Hayden Zane \u2013 Ocsiwn\u00eear Nia Edwards \u2013 Dynes Capel Iwan Rhys Williams \u2013 Coesau Bachog Math Williams \u2013 Guto Trwyn Smwt Mirain Roberts \u2013 Angel Criw Rheolwr y Cynhyrchiad \u2013 Dilwyn Roberts Cynorthwywyr cyntaf \u2013 Cheryl Davies, Fiona Jones Dilyniant \u2013 Magi Rhys Celf Is-gynllunydd \u2013 Huw Roberts Cynllunydd - Martin Morley Celfi \u2013 Eira Davies Prynwr \u2013 Tony Davies Rheolwr Adeiladu \u2013 Alan Jones Saer \u2013 Keith Richards Setiau \u2013 Cainc Peintwyr \u2013 Christopher Green, Katie Smith Modelu \u2013 Christine Roberts Camera a thrydan Tynnu Ffocws \u2013 Ian Moss, Terry Pearce Llwytho \u2013 David Williams Grips \u2013 Allan Hughes Giaffar \u2013 Cliff Owen Trydanwr \u2013 Bobo Jones Cynorthwywr \u2013 Jonathan Down Sain Cymysgu Sain \u2013 Mike Walker, Andy Morris Gweithredwr Bwm \u2013 Barry Jones Cynorthwywr \u2013 Llion Gerallt Gwisg a cholur Adran Wisgoedd \u2013 Ann Hopkins, Carol Buchanan, Ian Russell Adran Golur \u2013 John Munro Jackie Ellison Cynorthwywyr \u2013 Sarah Astley Rheoli'r cynhyrchiad Ail Gynorthwywyr \u2013 Heather Jones, Helen Wyn Hyfforddai \u2013 Delyth Edwards Trydydd Cynorthwywyr \u2013 Huw Maredudd, Mandy Parry Rhedwr\u2013 Dyfan Davies Cyllid \u2013 Jean H. Owen Ysgrifenyddes y cynhyrchiad \u2013 Gwawr Owen Ffotograffydd \u2013 Nigel Hughes Cyhoeddusrwydd \u2013 Arwel Roberts Golygyddol \u00d4l-gynhyrchu sain \u2013 Simon H. Jones, Greg Provan Effeithiau arbennig \u2013 Mick Winning, Colin Liggett Golygyddion cynorthwyol \u2013 Pedr James, Francisco Marin Eraill Trefnydd rhodwyr \u2013 Huw Edwards Nyrs \u2013 Glenys Parry Arlwyo \u2013 Gwenllian Daniel Gofalwyr anifeiliaid \u2013 Wayne Docksey, Brian Buckingham, Cindy Morris Syrcas \u2013 Richard Viner, James Carpenter, Tom Dawson, Sam Morley Lleoliadau \u2013 Gruff Owen Gwynfa Williams Cyflenwyr allanol Stiwdio \u2013 Stiwdio Capel Mawr, Llanrug Stoc \u2013 Kodak Labordai \u2013 Technicolor, Colour Film Services Dybio \u2013 The Sound Works Teitlau \u2013 Screen Opticals Trosglwyddo \u2013 TK Films Generadur \u2013 Lee Lighting Effeithiau eira \u2013 Snow Business Wigiau \u2013 London and New York Wig Co. Gwisgoedd \u2013 Angels & Bermans Cerbydau \u2013 Andy Dixon Facilities, Arvonia Coaches Celfi \u2013 Jill Weaver Yswiriant \u2013 Bowring, Marsh & McLennad Manylion technegol Fformat saethu: 35mm Math o sain: Dolby Stereo Lliw: Lliw Cymhareb agwedd: 1.85:1 Lleoliadau saethu: Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, Gwynedd Gwobrau Llyfryddiaeth ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006) Dolenni allanol (Saesneg) Y Mynydd Grug ar wefan BFI Film Forever Cyfeiriadau","1350":"Mae Y Mynydd Grug yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1997. Fe'i seiliwyd ar y casgliad o straeon byrion gan Kate Roberts, Te yn y Grug. Angela Roberts a gyfarwyddodd y ffilm. Cafodd y ffilm \u00a36,000 o bunnau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer costau \u00f4l-gynhyrchu. Cyfanswm cyllideb y cynhyrchiad oedd \u00a3600,000. Fe'i ffilmiwyd ar leoliad yn Nyffryn Nantlle a thref Caernarfon. Cast a chriw Prif gast Anwen Haf Ellis \u2013 Begw Claire Goddard \u2013 Wini Ffini Hadog Gwenno Hodgkins \u2013 Elin Gruffydd Dafydd Emyr \u2013 William Gruffydd Jonathan Nefydd \u2013 Mr Huws Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Stewart Jones \u2013 Dafydd Si\u00f4n Dilys Price \u2013 Nanw Si\u00f4n Elain Llwyd \u2013 Mair Owain Si\u00f4n Williams \u2013 Robin Sam Rogers \u2013 Rhys Huw Ll\u0177r \u2013 Bilw Robin Eiddior \u2013 Wmffra Emlyn Gomer \u2013 Wili Robaitsh Grey Evans \u2013 Dan Jones Dafydd Edmwnd \u2013 Twm Ffini Hadog Caren Brown \u2013 Lisi J\u00ean Tudur Roberts \u2013 Wil y Fedw Owain Arwyn \u2013 Deio Dyfan Roberts \u2013 Stiward Trefor Selway \u2013 Mr Pritchard Darren Stokes \u2013 Pritchard Bach Emyr Roberts \u2013 Mr Prothero Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Mari Emlyn \u2013 Mrs Prothero Denise Williams \u2013 Siani Hayden Zane \u2013 Ocsiwn\u00eear Nia Edwards \u2013 Dynes Capel Iwan Rhys Williams \u2013 Coesau Bachog Math Williams \u2013 Guto Trwyn Smwt Mirain Roberts \u2013 Angel Criw Rheolwr y Cynhyrchiad \u2013 Dilwyn Roberts Cynorthwywyr cyntaf \u2013 Cheryl Davies, Fiona Jones Dilyniant \u2013 Magi Rhys Celf Is-gynllunydd \u2013 Huw Roberts Cynllunydd - Martin Morley Celfi \u2013 Eira Davies Prynwr \u2013 Tony Davies Rheolwr Adeiladu \u2013 Alan Jones Saer \u2013 Keith Richards Setiau \u2013 Cainc Peintwyr \u2013 Christopher Green, Katie Smith Modelu \u2013 Christine Roberts Camera a thrydan Tynnu Ffocws \u2013 Ian Moss, Terry Pearce Llwytho \u2013 David Williams Grips \u2013 Allan Hughes Giaffar \u2013 Cliff Owen Trydanwr \u2013 Bobo Jones Cynorthwywr \u2013 Jonathan Down Sain Cymysgu Sain \u2013 Mike Walker, Andy Morris Gweithredwr Bwm \u2013 Barry Jones Cynorthwywr \u2013 Llion Gerallt Gwisg a cholur Adran Wisgoedd \u2013 Ann Hopkins, Carol Buchanan, Ian Russell Adran Golur \u2013 John Munro Jackie Ellison Cynorthwywyr \u2013 Sarah Astley Rheoli'r cynhyrchiad Ail Gynorthwywyr \u2013 Heather Jones, Helen Wyn Hyfforddai \u2013 Delyth Edwards Trydydd Cynorthwywyr \u2013 Huw Maredudd, Mandy Parry Rhedwr\u2013 Dyfan Davies Cyllid \u2013 Jean H. Owen Ysgrifenyddes y cynhyrchiad \u2013 Gwawr Owen Ffotograffydd \u2013 Nigel Hughes Cyhoeddusrwydd \u2013 Arwel Roberts Golygyddol \u00d4l-gynhyrchu sain \u2013 Simon H. Jones, Greg Provan Effeithiau arbennig \u2013 Mick Winning, Colin Liggett Golygyddion cynorthwyol \u2013 Pedr James, Francisco Marin Eraill Trefnydd rhodwyr \u2013 Huw Edwards Nyrs \u2013 Glenys Parry Arlwyo \u2013 Gwenllian Daniel Gofalwyr anifeiliaid \u2013 Wayne Docksey, Brian Buckingham, Cindy Morris Syrcas \u2013 Richard Viner, James Carpenter, Tom Dawson, Sam Morley Lleoliadau \u2013 Gruff Owen Gwynfa Williams Cyflenwyr allanol Stiwdio \u2013 Stiwdio Capel Mawr, Llanrug Stoc \u2013 Kodak Labordai \u2013 Technicolor, Colour Film Services Dybio \u2013 The Sound Works Teitlau \u2013 Screen Opticals Trosglwyddo \u2013 TK Films Generadur \u2013 Lee Lighting Effeithiau eira \u2013 Snow Business Wigiau \u2013 London and New York Wig Co. Gwisgoedd \u2013 Angels & Bermans Cerbydau \u2013 Andy Dixon Facilities, Arvonia Coaches Celfi \u2013 Jill Weaver Yswiriant \u2013 Bowring, Marsh & McLennad Manylion technegol Fformat saethu: 35mm Math o sain: Dolby Stereo Lliw: Lliw Cymhareb agwedd: 1.85:1 Lleoliadau saethu: Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, Gwynedd Gwobrau Llyfryddiaeth ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006) Dolenni allanol (Saesneg) Y Mynydd Grug ar wefan BFI Film Forever Cyfeiriadau","1351":"Mae Y Mynydd Grug yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1997. Fe'i seiliwyd ar y casgliad o straeon byrion gan Kate Roberts, Te yn y Grug. Angela Roberts a gyfarwyddodd y ffilm. Cafodd y ffilm \u00a36,000 o bunnau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer costau \u00f4l-gynhyrchu. Cyfanswm cyllideb y cynhyrchiad oedd \u00a3600,000. Fe'i ffilmiwyd ar leoliad yn Nyffryn Nantlle a thref Caernarfon. Cast a chriw Prif gast Anwen Haf Ellis \u2013 Begw Claire Goddard \u2013 Wini Ffini Hadog Gwenno Hodgkins \u2013 Elin Gruffydd Dafydd Emyr \u2013 William Gruffydd Jonathan Nefydd \u2013 Mr Huws Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Stewart Jones \u2013 Dafydd Si\u00f4n Dilys Price \u2013 Nanw Si\u00f4n Elain Llwyd \u2013 Mair Owain Si\u00f4n Williams \u2013 Robin Sam Rogers \u2013 Rhys Huw Ll\u0177r \u2013 Bilw Robin Eiddior \u2013 Wmffra Emlyn Gomer \u2013 Wili Robaitsh Grey Evans \u2013 Dan Jones Dafydd Edmwnd \u2013 Twm Ffini Hadog Caren Brown \u2013 Lisi J\u00ean Tudur Roberts \u2013 Wil y Fedw Owain Arwyn \u2013 Deio Dyfan Roberts \u2013 Stiward Trefor Selway \u2013 Mr Pritchard Darren Stokes \u2013 Pritchard Bach Emyr Roberts \u2013 Mr Prothero Sera Cracroft \u2013 Mrs Huws Mari Emlyn \u2013 Mrs Prothero Denise Williams \u2013 Siani Hayden Zane \u2013 Ocsiwn\u00eear Nia Edwards \u2013 Dynes Capel Iwan Rhys Williams \u2013 Coesau Bachog Math Williams \u2013 Guto Trwyn Smwt Mirain Roberts \u2013 Angel Criw Rheolwr y Cynhyrchiad \u2013 Dilwyn Roberts Cynorthwywyr cyntaf \u2013 Cheryl Davies, Fiona Jones Dilyniant \u2013 Magi Rhys Celf Is-gynllunydd \u2013 Huw Roberts Cynllunydd - Martin Morley Celfi \u2013 Eira Davies Prynwr \u2013 Tony Davies Rheolwr Adeiladu \u2013 Alan Jones Saer \u2013 Keith Richards Setiau \u2013 Cainc Peintwyr \u2013 Christopher Green, Katie Smith Modelu \u2013 Christine Roberts Camera a thrydan Tynnu Ffocws \u2013 Ian Moss, Terry Pearce Llwytho \u2013 David Williams Grips \u2013 Allan Hughes Giaffar \u2013 Cliff Owen Trydanwr \u2013 Bobo Jones Cynorthwywr \u2013 Jonathan Down Sain Cymysgu Sain \u2013 Mike Walker, Andy Morris Gweithredwr Bwm \u2013 Barry Jones Cynorthwywr \u2013 Llion Gerallt Gwisg a cholur Adran Wisgoedd \u2013 Ann Hopkins, Carol Buchanan, Ian Russell Adran Golur \u2013 John Munro Jackie Ellison Cynorthwywyr \u2013 Sarah Astley Rheoli'r cynhyrchiad Ail Gynorthwywyr \u2013 Heather Jones, Helen Wyn Hyfforddai \u2013 Delyth Edwards Trydydd Cynorthwywyr \u2013 Huw Maredudd, Mandy Parry Rhedwr\u2013 Dyfan Davies Cyllid \u2013 Jean H. Owen Ysgrifenyddes y cynhyrchiad \u2013 Gwawr Owen Ffotograffydd \u2013 Nigel Hughes Cyhoeddusrwydd \u2013 Arwel Roberts Golygyddol \u00d4l-gynhyrchu sain \u2013 Simon H. Jones, Greg Provan Effeithiau arbennig \u2013 Mick Winning, Colin Liggett Golygyddion cynorthwyol \u2013 Pedr James, Francisco Marin Eraill Trefnydd rhodwyr \u2013 Huw Edwards Nyrs \u2013 Glenys Parry Arlwyo \u2013 Gwenllian Daniel Gofalwyr anifeiliaid \u2013 Wayne Docksey, Brian Buckingham, Cindy Morris Syrcas \u2013 Richard Viner, James Carpenter, Tom Dawson, Sam Morley Lleoliadau \u2013 Gruff Owen Gwynfa Williams Cyflenwyr allanol Stiwdio \u2013 Stiwdio Capel Mawr, Llanrug Stoc \u2013 Kodak Labordai \u2013 Technicolor, Colour Film Services Dybio \u2013 The Sound Works Teitlau \u2013 Screen Opticals Trosglwyddo \u2013 TK Films Generadur \u2013 Lee Lighting Effeithiau eira \u2013 Snow Business Wigiau \u2013 London and New York Wig Co. Gwisgoedd \u2013 Angels & Bermans Cerbydau \u2013 Andy Dixon Facilities, Arvonia Coaches Celfi \u2013 Jill Weaver Yswiriant \u2013 Bowring, Marsh & McLennad Manylion technegol Fformat saethu: 35mm Math o sain: Dolby Stereo Lliw: Lliw Cymhareb agwedd: 1.85:1 Lleoliadau saethu: Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, Gwynedd Gwobrau Llyfryddiaeth ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006) Dolenni allanol (Saesneg) Y Mynydd Grug ar wefan BFI Film Forever Cyfeiriadau","1352":"Prifddinas yr Almaen a dinas fwyaf Gorllewin Ewrop yw Berlin, gydag oddeutu 3,644,826 (30 Medi 2019) o drigolion. Mae'n sefyll ar lannau afonydd Afon Spree ac Havel yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Yn un o 16 talaith gyfansoddol yr Almaen, mae Berlin wedi'i hamgylchynu gan dalaith Brandenburg, ac yn uno gyda Potsdam, prifddinas Brandenburg. Mae gan ardal drefol Berlin boblogaeth o oddeutu 4.5 miliwn a hi yw'r ail ardal drefol fwyaf poblog yn yr Almaen ar \u00f4l y Ruhr. Mae gan brifddinas-ranbarth Berlin-Brandenburg oddeutu chwe miliwn o drigolion a hi yw trydydd rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen ar \u00f4l rhanbarthau Rhine-Ruhr a Rhine-Main.Mae Berlin yn pontio glannau Afon Spree, sy'n llifo i mewn i Afon Havel (llednant Afon Elbe) ym mwrdeistref orllewinol Spandau. Ymhlith prif nodweddion topograffig y ddinas mae'r nifer o lynnoedd yn y bwrdeistrefi gorllewinol a de-ddwyreiniol a ffurfiwyd gan afonydd Spree, Havel a Dahme (y mwyaf ohonynt yw Llyn M\u00fcggelsee). Oherwydd ei leoliad yn y Gwastadedd Ewropeaidd, caiff Berlin hinsawdd dymhorol dymherus. Mae tua thraean o ardal y ddinas yn cynnwys coedwigoedd, parciau, gerddi, afonydd, camlesi a llynnoedd. Gorwedd y ddinas yn ardal dafodiaith Canol yr Almaen, gyda thafodiaith Berlin yn amrywiad o'r tafodieithoedd a elwir yn \"Lusatian-New Marchian\". Cofnodwyd Berlin fel anheddiad dynol yn gyntaf yn y 13g: mae ei safle ar groesfan rhwng dau lwybr masnach hanesyddol pwysig. Daeth Berlin yn brifddinas Margraviate Brandenburg (1417\u20131701), Teyrnas Prwsia (1701-1918), Ymerodraeth yr Almaen (1871 \u20131918), Gweriniaeth Weimar (1919\u20131933), a'r Drydedd Reich (1933\u20131945). Berlin yn y 1920au oedd y drydedd fwrdeistref fwyaf yn y byd. Ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd a'i meddiant dilynol gan y gwledydd buddugol, rhannwyd y ddinas: daeth Gorllewin Berlin yn diriogaeth de facto yng Ngorllewin yr Almaen, wedi'i amgylchynu gan Wal Berlin (1961-1989) a thiriogaeth Dwyrain yr Almaen. Cyhoeddwyd bod Dwyrain Berlin yn brifddinas Dwyrain yr Almaen, tra daeth Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen. Yn dilyn ailuno'r Almaen ym 1990, daeth Berlin yn brifddinas yr Almaen gyfan unwaith eto.Mae Berlin yn ddinas a gaiff ei chydnabod yn fyd-eang am ei diwylliant, ei gwleidyddiaeth, ei chyfryngau a'i gwyddoniaeth. Mae ei heconomi yn seiliedig ar gwmn\u00efau uwch-dechnoleg a'r sector gwasanaethau, gan gwmpasu ystod amrywiol o ddiwydiannau creadigol, cyfleusterau ymchwil, corfforaethau cyfryngau a lleoliadau addas ar gyfer cynhadleddau enfawr. Mae Berlin yn gweithredu fel canolbwynt cyfandirol ar gyfer traffig awyr a rheilffordd ac mae ganddi rwydwaith cludiant cyhoeddus cymhleth ac effeithiol iawn. Mae'r metropolis yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ceir diwydiannau arwyddocaol hefyd gan gynnwys TG, fferyllol, peirianneg fiofeddygol, technoleg l\u00e2n, biotechnoleg, adeiladu ac electroneg. Gwleidyddiaeth Ar \u00f4l bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Michael M\u00fcller yw'r Regierender B\u00fcrgermeister (\"maer llywodraethol\") ar hyn o bryd. (Gweler Meiri Berlin). Hyd 1 Ionawr 2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12. Hanes Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy dref ar y bryd: Berlin a C\u00f6lln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld. Roedd llys brenhinoedd Prwsia yn Berlin, ond dechreuodd y dref dyfu'n gyflym yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ar \u00f4l dod yn brif ddinas yr Ymerodraeth Almaenig ym 1871. Roedd hi'n brif ddinas yn ystod Gweriniaeth Weimar a rheolaeth y Natsiaid a chafodd ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar \u00f4l y Rhyfel, rhannwyd y ddinas yn ddwy. Roedd y rhan ddwyreiniol yn brif ddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Dwyrain yr Almaen), ond Bonn oedd prif ddinas Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen). Roedd Gorllewin Berlin yn rhan o Orllewin yr Almaen, ac felly yn glofan yn nhiriogaeth Dwyrain yr Almaen. O ganlyniad, roedd hi'n bwysig yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 26 Mehefin 1948 dechreuodd bloc\u00e2d Berlin ac ar \u00f4l hynny awyrgludiad Berlin. Ar 13 Awst 1961 dechreuwyd ar y gwaith o godi Mur Berlin. Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld. Geirdarddiad Tardd yr enw 'Berlin' yn iaith trigolion Slafiaid Gorllewinol a drigant yn yr ardal ym, a gall yr enw fod yn gysylltiedig \u00e2 choesyn yr hen iaith, Polabieg, berl- \/ birl- (sef \"cors\"). Gan fod y Ber- ar y dechrau yn swnio fel y gair Almaeneg B\u00e4r (arth), mae arth yn ymddangos yn arfbais y ddinas. Daearyddiaeth Alexanderplatz Gendarmenmarkt Mitte Museumsinsel Nikolaiviertel Potsdamer Platz Unter den Linden Adeiladau a chofadeiladau Alte Nationalgalerie Berliner Dom Berliner Fernsehturm Bode Museum Brandenburger Tor Br\u00fccke Museum Deutsche Oper Deutsches Theater Friedrichstadt-Palast Hamburger Bahnhof Neue Nationalgalerie Neues Museum Pergamonmuseum Rathaus Sch\u00f6neberg Reichstag Rotes Rathaus Schloss Bellevue Schloss Charlottenburg T\u0175r teledu Zoologischer Garten Berlin Enwogion Alexander von Humboldt (1769-1859), fforiwr Albert Lortzing (1801-1851), cyfansoddwr Walter Gropius (1883-1969), pensaer Nelly Sachs (1891-1970), bardd a dramodydd Karl D\u00f6nitz (1891-1980), morwr ac Arlywydd yr Almaen Max Ehrlich (1892-1944), actor, awdur a chyfarwyddwr Marlene Dietrich (1901-1992), actores a chantores Nikolaus Harnoncourt (g. 1929), cerddor Cyfeiriadau Dolenni allanol Gwefan swyddogol Berlin.de Gwybodaeth dwristiaeth swyddogol am Berlin Mapiau o Berlin, o 1738 hyd heddiw EXBERLINER \u2013 cylchgrawn Saesneg Pensaerniaeth Berlin Archifwyd 2006-12-09 yn y Peiriant Wayback. Panoramau o'r ddinas 90 delwedd o Berlin yn yr 20fed ganrif Dwyrain Berlin Ddoe a Heddiw Archifwyd 2007-03-17 yn y Peiriant Wayback. Oriel lluniau Archifwyd 2007-01-05 yn y Peiriant Wayback.","1355":"Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw \"Caer Seiont yn Arfon\" neu \"Caer Saint yn Arfon\", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn \u00f4l Cyfrifiad 2001. \"Cofi\" y gelwir rhywun a aned yn y dre. Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9\u00a0km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7\u00a0km i ffwrdd. Hanes Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Ll\u0177n a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn \u00f4l traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref \u00e2 Branwen ferch Ll\u0177r. Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar \u00f4l i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2 Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar \u00f4l iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glynd\u0175r ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn D\u0175r ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio. Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad. Cysylltiadau cludiant Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis. Sefydliadau Y Diwydiant Teledu Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod \u00e2 swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmn\u00efau canlynol yng Nghaernarfon: Dime Goch (rhan o gwmni Antena) Cwmni Da GriffilmsMae gan y cwmn\u00efau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref: Rondo (un o 2 brif swyddfa'r cwmni). Tinopolis S4CMae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen b\u00eal-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms\/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo). Eraill Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd. Hynodion Gwrachen gam Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i\u2019r Cofis. \u201cGrachan gam\u201d i\u2019w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn \u00f4l chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio\u2019i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig. Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer, Gwrachen Gam a'i hogo; Ni theimlaf ing wrth ddringo Esgyn i fryn yn y fro.Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu. Pobl o Gaernarfon John Owen Griffith (Ioan Arfon) Robert Arthur Griffith (Elphin) William Henry Preece Chris Roberts Clybiau Chwaraeon Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae T\u00eem P\u00eal-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009\/10. Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r t\u00eem merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!. Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-d\u00eem y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd. Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad. Clybiau Chwaraeon Eraill: Clwb Hwylio Caernarfon Clwb Golff Caernarfon Clwb Nofio Caernarfon Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Eisteddfod Genedlaethol Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio) Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979 Gefeilldref Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg). Gweler hefyd Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan G\u00f4r Meibion Caernarfon Arwisgiad Tywysog Cymru Caernarfon (etholaeth Cynulliad) Caernarfon (etholaeth seneddol) Castell Caernarfon C.P.D. Tref Caernarfon Segontium G\u0175yl Arall Cyfeiriadau","1356":"Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw \"Caer Seiont yn Arfon\" neu \"Caer Saint yn Arfon\", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn \u00f4l Cyfrifiad 2001. \"Cofi\" y gelwir rhywun a aned yn y dre. Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9\u00a0km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7\u00a0km i ffwrdd. Hanes Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Ll\u0177n a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn \u00f4l traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref \u00e2 Branwen ferch Ll\u0177r. Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar \u00f4l i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2 Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar \u00f4l iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glynd\u0175r ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn D\u0175r ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio. Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad. Cysylltiadau cludiant Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis. Sefydliadau Y Diwydiant Teledu Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod \u00e2 swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmn\u00efau canlynol yng Nghaernarfon: Dime Goch (rhan o gwmni Antena) Cwmni Da GriffilmsMae gan y cwmn\u00efau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref: Rondo (un o 2 brif swyddfa'r cwmni). Tinopolis S4CMae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen b\u00eal-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms\/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo). Eraill Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd. Hynodion Gwrachen gam Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i\u2019r Cofis. \u201cGrachan gam\u201d i\u2019w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn \u00f4l chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio\u2019i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig. Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer, Gwrachen Gam a'i hogo; Ni theimlaf ing wrth ddringo Esgyn i fryn yn y fro.Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu. Pobl o Gaernarfon John Owen Griffith (Ioan Arfon) Robert Arthur Griffith (Elphin) William Henry Preece Chris Roberts Clybiau Chwaraeon Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae T\u00eem P\u00eal-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009\/10. Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r t\u00eem merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!. Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-d\u00eem y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd. Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad. Clybiau Chwaraeon Eraill: Clwb Hwylio Caernarfon Clwb Golff Caernarfon Clwb Nofio Caernarfon Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Eisteddfod Genedlaethol Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio) Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979 Gefeilldref Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg). Gweler hefyd Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan G\u00f4r Meibion Caernarfon Arwisgiad Tywysog Cymru Caernarfon (etholaeth Cynulliad) Caernarfon (etholaeth seneddol) Castell Caernarfon C.P.D. Tref Caernarfon Segontium G\u0175yl Arall Cyfeiriadau","1357":"Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw \"Caer Seiont yn Arfon\" neu \"Caer Saint yn Arfon\", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn \u00f4l Cyfrifiad 2001. \"Cofi\" y gelwir rhywun a aned yn y dre. Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9\u00a0km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7\u00a0km i ffwrdd. Hanes Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Ll\u0177n a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn \u00f4l traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref \u00e2 Branwen ferch Ll\u0177r. Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar \u00f4l i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2 Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar \u00f4l iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glynd\u0175r ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn D\u0175r ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio. Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad. Cysylltiadau cludiant Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis. Sefydliadau Y Diwydiant Teledu Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod \u00e2 swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmn\u00efau canlynol yng Nghaernarfon: Dime Goch (rhan o gwmni Antena) Cwmni Da GriffilmsMae gan y cwmn\u00efau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref: Rondo (un o 2 brif swyddfa'r cwmni). Tinopolis S4CMae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen b\u00eal-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms\/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo). Eraill Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd. Hynodion Gwrachen gam Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i\u2019r Cofis. \u201cGrachan gam\u201d i\u2019w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn \u00f4l chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio\u2019i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig. Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer, Gwrachen Gam a'i hogo; Ni theimlaf ing wrth ddringo Esgyn i fryn yn y fro.Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu. Pobl o Gaernarfon John Owen Griffith (Ioan Arfon) Robert Arthur Griffith (Elphin) William Henry Preece Chris Roberts Clybiau Chwaraeon Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae T\u00eem P\u00eal-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009\/10. Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r t\u00eem merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!. Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-d\u00eem y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd. Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad. Clybiau Chwaraeon Eraill: Clwb Hwylio Caernarfon Clwb Golff Caernarfon Clwb Nofio Caernarfon Cyfrifiad 2011 Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: Eisteddfod Genedlaethol Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler: Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio) Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959 Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979 Gefeilldref Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg). Gweler hefyd Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan G\u00f4r Meibion Caernarfon Arwisgiad Tywysog Cymru Caernarfon (etholaeth Cynulliad) Caernarfon (etholaeth seneddol) Castell Caernarfon C.P.D. Tref Caernarfon Segontium G\u0175yl Arall Cyfeiriadau","1358":"Digwyddodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith Lladin, ddylanwad trwm ar y Frythoneg. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod arni neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg. Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y 6g, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y 6g. Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg.Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg. Datblygodd y Gymraeg gyfundrefn newydd o derfyniadau neu newidiadau yn llafariaid b\u00f4n y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd\/beirdd, ac i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog, megis gwyn\/gwen\/gwynion. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol yn ystod y trawsnewid. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglo yn y newidiadau seiniol. Ceir isod ddisgrifiad o'r trawsnewid a ddigwyddodd i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg. Colli cyflyrau Roedd cyflyrau goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw : Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos cenedl gair a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis trumbos (gwrywaidd), trumba (benywaidd), trumbon (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau bardos \u2192 bardd, mapos \u2192 mab, ansoddeiriau u\u032findos \u2192 gwyn, u\u032finda \u2192 gwen, trumbos \u2192 trwm, trumba \u2192 trom, rhifolion oinos \u2192 un. Collwyd y genedl ddiryw. Cyfnewidiadau seiniol Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu \u00e2'r wreiddiol Frythoneg. Byddai t yn troi'n th ar \u00f4l r megis yn nerton \u2192 nerth ond byddai llafariad+t+r yn achosi i'r t droi'n d megis yn natr\u012bcs \u2192 neidr. Newidiwyd y llafariaid fel a ganlyn: \u0101 \u2192 aw, o; \u012b \u2192 i, \u00fc \u2192 i; ae \u2192 oe; ei \u2192 wy; oi \u2192 u; au \u2192 u, aw, au Newidiwyd u\u032f ar ddechrau gair i gw, e.e. u\u032findos \u2192 gwyn. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. br\u012dctos \u2192 br\u012dchtos \u2192 br\u012dchthos \u2192 br\u012dghthos \u2192 br\u012di\u032fthos \u2192 brithos \u2192 brith. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. C\u00e2i y llafariad gyntaf ei newid fel bod si\u00e2p y geg yn debycach i si\u00e2p y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr \u0101 yn u\u012dnd\u0101 yr \u012d yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n e yn uend\u0101. Troes hwnnw yn gwen. Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn \u00f4l y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes bardos (unigol enwol) yn bardd (dim newid yn y llafariad). Troes bardi (lluosog enwol) yn beirdd (yr i ar ddiwedd bardi yn affeithio'r a a'i newid yn ei, wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon, wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol\/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol\/lluosog newydd, e.e. ceiliog\/ceiliogod yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu \u2013od i ffurfio lluosog. Terfyniad \u2013\u0101 oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad f\u00f4n y gair gan yr \u2013\u0101 derfynol, e.e. d\u016dbn\u0101 \u2192 dofn (o'i gymharu \u00e2'r newid yn y ffurf wrywaidd d\u016dbnos \u2192 dwfn). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad i ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yn Gymraeg heddiw lluosog dwfn yw dyfnion. Rhai patrymau treiglo Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai m yn troi'n f pan fyddai'r ddwy lafariad a o'i amgylch: ab\u014fna m\u0101ra \u2192 afona f\u0101ra \u2192 afon fawr. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad a dyma ddechrau ffurfio patrwm o dreiglo cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar \u00f4l enw benywaidd. Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy. Gweler hefyd Brythoneg a Chymbrieg Cymraeg Cynnar: 550 - 800 Hen Gymraeg: 800 - 1100 Cymraeg Canol: 1100 - 1400 Ffynonellau a throednodion Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931) Llyfryddiaeth T Arwyn Watkins, Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith (Prifysgol Cymru, 1961)","1359":"Digwyddodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith Lladin, ddylanwad trwm ar y Frythoneg. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod arni neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg. Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y 6g, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y 6g. Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg.Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg. Datblygodd y Gymraeg gyfundrefn newydd o derfyniadau neu newidiadau yn llafariaid b\u00f4n y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd\/beirdd, ac i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog, megis gwyn\/gwen\/gwynion. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol yn ystod y trawsnewid. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglo yn y newidiadau seiniol. Ceir isod ddisgrifiad o'r trawsnewid a ddigwyddodd i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg. Colli cyflyrau Roedd cyflyrau goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw : Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos cenedl gair a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis trumbos (gwrywaidd), trumba (benywaidd), trumbon (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau bardos \u2192 bardd, mapos \u2192 mab, ansoddeiriau u\u032findos \u2192 gwyn, u\u032finda \u2192 gwen, trumbos \u2192 trwm, trumba \u2192 trom, rhifolion oinos \u2192 un. Collwyd y genedl ddiryw. Cyfnewidiadau seiniol Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu \u00e2'r wreiddiol Frythoneg. Byddai t yn troi'n th ar \u00f4l r megis yn nerton \u2192 nerth ond byddai llafariad+t+r yn achosi i'r t droi'n d megis yn natr\u012bcs \u2192 neidr. Newidiwyd y llafariaid fel a ganlyn: \u0101 \u2192 aw, o; \u012b \u2192 i, \u00fc \u2192 i; ae \u2192 oe; ei \u2192 wy; oi \u2192 u; au \u2192 u, aw, au Newidiwyd u\u032f ar ddechrau gair i gw, e.e. u\u032findos \u2192 gwyn. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. br\u012dctos \u2192 br\u012dchtos \u2192 br\u012dchthos \u2192 br\u012dghthos \u2192 br\u012di\u032fthos \u2192 brithos \u2192 brith. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. C\u00e2i y llafariad gyntaf ei newid fel bod si\u00e2p y geg yn debycach i si\u00e2p y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr \u0101 yn u\u012dnd\u0101 yr \u012d yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n e yn uend\u0101. Troes hwnnw yn gwen. Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn \u00f4l y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes bardos (unigol enwol) yn bardd (dim newid yn y llafariad). Troes bardi (lluosog enwol) yn beirdd (yr i ar ddiwedd bardi yn affeithio'r a a'i newid yn ei, wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon, wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol\/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol\/lluosog newydd, e.e. ceiliog\/ceiliogod yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu \u2013od i ffurfio lluosog. Terfyniad \u2013\u0101 oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad f\u00f4n y gair gan yr \u2013\u0101 derfynol, e.e. d\u016dbn\u0101 \u2192 dofn (o'i gymharu \u00e2'r newid yn y ffurf wrywaidd d\u016dbnos \u2192 dwfn). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad i ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yn Gymraeg heddiw lluosog dwfn yw dyfnion. Rhai patrymau treiglo Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai m yn troi'n f pan fyddai'r ddwy lafariad a o'i amgylch: ab\u014fna m\u0101ra \u2192 afona f\u0101ra \u2192 afon fawr. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad a dyma ddechrau ffurfio patrwm o dreiglo cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar \u00f4l enw benywaidd. Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy. Gweler hefyd Brythoneg a Chymbrieg Cymraeg Cynnar: 550 - 800 Hen Gymraeg: 800 - 1100 Cymraeg Canol: 1100 - 1400 Ffynonellau a throednodion Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931) Llyfryddiaeth T Arwyn Watkins, Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith (Prifysgol Cymru, 1961)","1360":"Digwyddodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith Lladin, ddylanwad trwm ar y Frythoneg. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod arni neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg. Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y 6g, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y 6g. Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg.Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg. Datblygodd y Gymraeg gyfundrefn newydd o derfyniadau neu newidiadau yn llafariaid b\u00f4n y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd\/beirdd, ac i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog, megis gwyn\/gwen\/gwynion. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol yn ystod y trawsnewid. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglo yn y newidiadau seiniol. Ceir isod ddisgrifiad o'r trawsnewid a ddigwyddodd i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg. Colli cyflyrau Roedd cyflyrau goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw : Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos cenedl gair a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis trumbos (gwrywaidd), trumba (benywaidd), trumbon (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau bardos \u2192 bardd, mapos \u2192 mab, ansoddeiriau u\u032findos \u2192 gwyn, u\u032finda \u2192 gwen, trumbos \u2192 trwm, trumba \u2192 trom, rhifolion oinos \u2192 un. Collwyd y genedl ddiryw. Cyfnewidiadau seiniol Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu \u00e2'r wreiddiol Frythoneg. Byddai t yn troi'n th ar \u00f4l r megis yn nerton \u2192 nerth ond byddai llafariad+t+r yn achosi i'r t droi'n d megis yn natr\u012bcs \u2192 neidr. Newidiwyd y llafariaid fel a ganlyn: \u0101 \u2192 aw, o; \u012b \u2192 i, \u00fc \u2192 i; ae \u2192 oe; ei \u2192 wy; oi \u2192 u; au \u2192 u, aw, au Newidiwyd u\u032f ar ddechrau gair i gw, e.e. u\u032findos \u2192 gwyn. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. br\u012dctos \u2192 br\u012dchtos \u2192 br\u012dchthos \u2192 br\u012dghthos \u2192 br\u012di\u032fthos \u2192 brithos \u2192 brith. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. C\u00e2i y llafariad gyntaf ei newid fel bod si\u00e2p y geg yn debycach i si\u00e2p y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr \u0101 yn u\u012dnd\u0101 yr \u012d yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n e yn uend\u0101. Troes hwnnw yn gwen. Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn \u00f4l y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes bardos (unigol enwol) yn bardd (dim newid yn y llafariad). Troes bardi (lluosog enwol) yn beirdd (yr i ar ddiwedd bardi yn affeithio'r a a'i newid yn ei, wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon, wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol\/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol\/lluosog newydd, e.e. ceiliog\/ceiliogod yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu \u2013od i ffurfio lluosog. Terfyniad \u2013\u0101 oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad f\u00f4n y gair gan yr \u2013\u0101 derfynol, e.e. d\u016dbn\u0101 \u2192 dofn (o'i gymharu \u00e2'r newid yn y ffurf wrywaidd d\u016dbnos \u2192 dwfn). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad i ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yn Gymraeg heddiw lluosog dwfn yw dyfnion. Rhai patrymau treiglo Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai m yn troi'n f pan fyddai'r ddwy lafariad a o'i amgylch: ab\u014fna m\u0101ra \u2192 afona f\u0101ra \u2192 afon fawr. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad a dyma ddechrau ffurfio patrwm o dreiglo cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar \u00f4l enw benywaidd. Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy. Gweler hefyd Brythoneg a Chymbrieg Cymraeg Cynnar: 550 - 800 Hen Gymraeg: 800 - 1100 Cymraeg Canol: 1100 - 1400 Ffynonellau a throednodion Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931) Llyfryddiaeth T Arwyn Watkins, Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith (Prifysgol Cymru, 1961)","1362":"Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: \u0627\u0644\u062c\u0645\u0647\u0648\u0631\u064a\u0629 \u0627\u0644\u0639\u0631\u0628\u064a\u0629 \u0627\u0644\u0633\u0648\u0631\u064a\u0629\u200e). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y M\u00f4r Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd. Hanes Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l a gellir canfod llawer iawn o arteffactau a naddwyd o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad ag arweinyddion yr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n \u00f4l i'r cyfnod hwn. Ers yr Henfyd hyd at yr oes fodern, bu lleoliad Syria yn y Lefant yn groesffordd i ymerodraethau ac o bwys strategol i benaduriaid lleol ac archbwerau rhyngwladol ill dau. Teyrnasodd brenhinoedd y Dwyrain Agos yn ystod cyfnodau\u2019r Arameaid, yr Asyriaid a\u2019r Babiloniaid. Daeth o dan reolaeth y Groegiaid yn sgil conwest Alecsander Fawr yn 322 CC, ac yn rhan o\u2019r Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 64 CC. Daeth Islam i Syria yn y 7g, ac o hynny ymlaen roedd y wlad yn diriogaeth i gyfres o ymerodraethau Mwslimaidd: yr Umayyad, yr Abasiaid, y Tuluniaid, yr Ikshidiaid, y Fatimiaid, yr Hamdaniaid, yr Ayyubiaid, y Seljwciaid, y Mamlwciaid, a\u2019r Otomaniaid. Wedi chwalfa\u2019r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria dan ddylanwad y Ffrancod fel rhan o\u2019r Mandad Ffrengig dros Syria a Libanus. Enillodd y wlad ei hannibyniaeth ar Ffrainc wedi\u2019r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946. Unodd \u00e2'r Aifft i ffurfio'r Weriniaeth Arabaidd Unedig rhwng 1958 a 1961. Llywodraeth y teulu Assad Daeth Hafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 a bu mewn grym hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fab Bashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod o Blaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng rhwng 1963 a 2011. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn aelod o'r Gynghrair Arabaidd, ond diarddelwyd y wlad o'r gynghrair honno yn 2011. Gwrthryfel a rhyfel cartref Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn \u00f4l UNHCR), ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad. Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel \"y Gwanwyn Arabaidd\" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod \u00e2'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn \u00f4l rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr. Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar \u00f4l i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl gr\u0175p arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner \"Byddin Rhyddid Syria\" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA. Yn \u00f4l sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid. Yn \u00f4l y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill. Ymunodd sawl gr\u0175p arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd. Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn \u00f4l y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel. Cefnogaeth Rwsia Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad. Daearyddiaeth Yn ogystal \u00e2'r brifddinas Damascus y dinasoedd pwysicaf yn Syria yw Homs, Hama ac Aleppo. Y prif afonydd yw Afon Ewffrates, sy'n rhedeg ar draws y wlad yn y gogledd-ddwyrain, ac Afon Orontes yn y canolbarth. Yn y de-ddwyrain ceir Diffeithwch Syria sy'n ymestyn o fryniau Jabal ad Duruz dros y ffin i Wlad Iorddonen a gorllewin Irac. Mae rhan o Fynydd Libanus yn gorwedd yn Syria ac yn nodi'r ffin rhyngddi a Libanus ei hun. Mae gan Syria lain o arfordir ar lan M\u00f4r y Canoldir yng ngogledd-orllewin y wlad. Demograffeg Mae 74% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, gyda 13% ohonyn nhw'n Shia ac Alawitiaid, 10% ohonyn nhw'n Gristnogion a 3% yn Druze. Ers yr 1960au dominyddiwyd gwleidyddiaeth y wlad gan leiafrif Alawitaidd yn y fyddin. Mae 90% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Cyrdiaid, Adyghe (neu Circasiaid) ac eraill. Mae 10% yn Gristnogion ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Syriacs ac Armeniaid. Mae lleiafrifoedd ethnic y wlad yn cynnwys y Cwrdiaid, yr Armeniaid, y Twrciaid Syriaidd a'r Circasiaid.Arabeg yw'r iaith swyddogol ond mae rhai pobl yn medru Ffrangeg yn dda yn ogystal. Mae mwyafrif y dinesyddion yn ddilynwyr Islam, a'r rhan fwyaf yn Sunni ond gyda lleiafrif Shia hefyd. Ceir cymunedau Cristnogol a rhai Iddewon yn ogystal. Cyfeiriadau","1363":"Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: \u0627\u0644\u062c\u0645\u0647\u0648\u0631\u064a\u0629 \u0627\u0644\u0639\u0631\u0628\u064a\u0629 \u0627\u0644\u0633\u0648\u0631\u064a\u0629\u200e). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y M\u00f4r Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd. Hanes Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l a gellir canfod llawer iawn o arteffactau a naddwyd o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad ag arweinyddion yr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n \u00f4l i'r cyfnod hwn. Ers yr Henfyd hyd at yr oes fodern, bu lleoliad Syria yn y Lefant yn groesffordd i ymerodraethau ac o bwys strategol i benaduriaid lleol ac archbwerau rhyngwladol ill dau. Teyrnasodd brenhinoedd y Dwyrain Agos yn ystod cyfnodau\u2019r Arameaid, yr Asyriaid a\u2019r Babiloniaid. Daeth o dan reolaeth y Groegiaid yn sgil conwest Alecsander Fawr yn 322 CC, ac yn rhan o\u2019r Ymerodraeth Rufeinig Ddwyreiniol yn 64 CC. Daeth Islam i Syria yn y 7g, ac o hynny ymlaen roedd y wlad yn diriogaeth i gyfres o ymerodraethau Mwslimaidd: yr Umayyad, yr Abasiaid, y Tuluniaid, yr Ikshidiaid, y Fatimiaid, yr Hamdaniaid, yr Ayyubiaid, y Seljwciaid, y Mamlwciaid, a\u2019r Otomaniaid. Wedi chwalfa\u2019r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria dan ddylanwad y Ffrancod fel rhan o\u2019r Mandad Ffrengig dros Syria a Libanus. Enillodd y wlad ei hannibyniaeth ar Ffrainc wedi\u2019r Ail Ryfel Byd a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946. Unodd \u00e2'r Aifft i ffurfio'r Weriniaeth Arabaidd Unedig rhwng 1958 a 1961. Llywodraeth y teulu Assad Daeth Hafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 a bu mewn grym hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fab Bashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod o Blaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng rhwng 1963 a 2011. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn aelod o'r Gynghrair Arabaidd, ond diarddelwyd y wlad o'r gynghrair honno yn 2011. Gwrthryfel a rhyfel cartref Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn \u00f4l UNHCR), ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad. Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel \"y Gwanwyn Arabaidd\" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod \u00e2'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn \u00f4l rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr. Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar \u00f4l i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl gr\u0175p arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner \"Byddin Rhyddid Syria\" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA. Yn \u00f4l sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid. Yn \u00f4l y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill. Ymunodd sawl gr\u0175p arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd. Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn \u00f4l y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel. Cefnogaeth Rwsia Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad. Daearyddiaeth Yn ogystal \u00e2'r brifddinas Damascus y dinasoedd pwysicaf yn Syria yw Homs, Hama ac Aleppo. Y prif afonydd yw Afon Ewffrates, sy'n rhedeg ar draws y wlad yn y gogledd-ddwyrain, ac Afon Orontes yn y canolbarth. Yn y de-ddwyrain ceir Diffeithwch Syria sy'n ymestyn o fryniau Jabal ad Duruz dros y ffin i Wlad Iorddonen a gorllewin Irac. Mae rhan o Fynydd Libanus yn gorwedd yn Syria ac yn nodi'r ffin rhyngddi a Libanus ei hun. Mae gan Syria lain o arfordir ar lan M\u00f4r y Canoldir yng ngogledd-orllewin y wlad. Demograffeg Mae 74% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, gyda 13% ohonyn nhw'n Shia ac Alawitiaid, 10% ohonyn nhw'n Gristnogion a 3% yn Druze. Ers yr 1960au dominyddiwyd gwleidyddiaeth y wlad gan leiafrif Alawitaidd yn y fyddin. Mae 90% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Cyrdiaid, Adyghe (neu Circasiaid) ac eraill. Mae 10% yn Gristnogion ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Syriacs ac Armeniaid. Mae lleiafrifoedd ethnic y wlad yn cynnwys y Cwrdiaid, yr Armeniaid, y Twrciaid Syriaidd a'r Circasiaid.Arabeg yw'r iaith swyddogol ond mae rhai pobl yn medru Ffrangeg yn dda yn ogystal. Mae mwyafrif y dinesyddion yn ddilynwyr Islam, a'r rhan fwyaf yn Sunni ond gyda lleiafrif Shia hefyd. Ceir cymunedau Cristnogol a rhai Iddewon yn ogystal. Cyfeiriadau","1364":"Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: \u062c\u0645\u0647\u0648\u0631\u06cc \u0627\u0633\u0644\u0627\u0645\u06cc \u0627\u064a\u0631\u0627\u0646, sy'n cael ei lefaru fel [d\u0292omhu\u02d0\u027eije esl\u0252\u02d0mije i\u02d0\u027e\u0252n]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar F\u00f4r Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas yr wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd. Hanes Daearyddiaeth Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610\u00a0m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf yr wlad. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan M\u00f4r Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195\u00a0km\u00b2, 636,372 milltir sgw\u00e2r) a phoblogaeth o dros 70 miliwn. Pobl Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari. Iaith a diwylliant Ffarsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900). Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion. Gwleidyddiaeth Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth. Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel. Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017. Economi Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia. O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn \u00f4l PPP), neu $17,100 yn \u00f4l Purchasing power parity y pen. Taleithiau a siroedd Rhennir Iran yn 31 talaith (ost\u0101n), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (\u0627\u0633\u062a\u0627\u0646\u062f\u0627\u0631, ost\u0101nd\u0101r). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrest\u0101n), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehest\u0101n) yn eu tro. Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod): Gweler hefyd Rhaglen niwclear Iran Chwyldro Islamaidd Iran Llenyddiaeth Berseg Perseg Rhestr mynyddoedd Iran Taleithiau Iran Ymerodraeth Persia Rhyfel Iran-Irac (1980\u201388) Cyfeiriadau","1365":"Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: \u062c\u0645\u0647\u0648\u0631\u06cc \u0627\u0633\u0644\u0627\u0645\u06cc \u0627\u064a\u0631\u0627\u0646, sy'n cael ei lefaru fel [d\u0292omhu\u02d0\u027eije esl\u0252\u02d0mije i\u02d0\u027e\u0252n]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar F\u00f4r Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas yr wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd. Hanes Daearyddiaeth Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610\u00a0m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf yr wlad. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan M\u00f4r Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195\u00a0km\u00b2, 636,372 milltir sgw\u00e2r) a phoblogaeth o dros 70 miliwn. Pobl Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari. Iaith a diwylliant Ffarsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900). Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion. Gwleidyddiaeth Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth. Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel. Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017. Economi Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia. O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn \u00f4l PPP), neu $17,100 yn \u00f4l Purchasing power parity y pen. Taleithiau a siroedd Rhennir Iran yn 31 talaith (ost\u0101n), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (\u0627\u0633\u062a\u0627\u0646\u062f\u0627\u0631, ost\u0101nd\u0101r). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrest\u0101n), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehest\u0101n) yn eu tro. Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod): Gweler hefyd Rhaglen niwclear Iran Chwyldro Islamaidd Iran Llenyddiaeth Berseg Perseg Rhestr mynyddoedd Iran Taleithiau Iran Ymerodraeth Persia Rhyfel Iran-Irac (1980\u201388) Cyfeiriadau","1366":"Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: \u062c\u0645\u0647\u0648\u0631\u06cc \u0627\u0633\u0644\u0627\u0645\u06cc \u0627\u064a\u0631\u0627\u0646, sy'n cael ei lefaru fel [d\u0292omhu\u02d0\u027eije esl\u0252\u02d0mije i\u02d0\u027e\u0252n]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar F\u00f4r Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas yr wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd. Hanes Daearyddiaeth Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610\u00a0m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf yr wlad. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan M\u00f4r Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195\u00a0km\u00b2, 636,372 milltir sgw\u00e2r) a phoblogaeth o dros 70 miliwn. Pobl Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari. Iaith a diwylliant Ffarsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900). Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion. Gwleidyddiaeth Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth. Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel. Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017. Economi Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia. O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn \u00f4l PPP), neu $17,100 yn \u00f4l Purchasing power parity y pen. Taleithiau a siroedd Rhennir Iran yn 31 talaith (ost\u0101n), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (\u0627\u0633\u062a\u0627\u0646\u062f\u0627\u0631, ost\u0101nd\u0101r). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrest\u0101n), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehest\u0101n) yn eu tro. Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod): Gweler hefyd Rhaglen niwclear Iran Chwyldro Islamaidd Iran Llenyddiaeth Berseg Perseg Rhestr mynyddoedd Iran Taleithiau Iran Ymerodraeth Persia Rhyfel Iran-Irac (1980\u201388) Cyfeiriadau"},"human_summary":{"1163":"Hedd Wyn oed enw barddol Ellis Humphrey Evans. Cafodd ei eni ar yr 13eg o Ionawr 1887 yn Nhrawsfynydd, Gwynedd. Daeth Ellis Humphrey Evans yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Evans ar yr 31ain o Orffennaf 1917 ym Mrwydr Passchendale. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 chwe wythnos ar \u00f4l ei farwolaeth.\n\nRoedd Hedd Wyn yn fab i Mary ac Evan Evans ac yn un o un ar ddeg o blant. Cafodd ei fagu ar y fferm deuluol, yr Ysgwrn, lle bu\u0092n gweithio fel bugail. Bu Hedd Wyn yn barddoni o oedran ifanc ac yn cystadlu\u0092n llwyddiannus gyda\u0092i gwaith. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod lleol yn ddeuddeg oed. Yna, aeth ati i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda\u0092i awdl \u0091Dyffryn\u0092 yn 1907. Wnaeth hefyd ennill cadeiriau yn Llanuwchllyn a Phwllheli yn 1913, Llanuwchllyn a Phontardawe yn 1915. Cafodd Ellis Humphrey Evans ei enw barddol \u0091Hedd Wyn\u0092 gan yr orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20fed o Awst 1910.\n\nNewidiodd naws gwaith Hedd Wyn gyda dechrau\u0092r Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi ei awdl \u0091Yr Arwr\u0092 yn Hydref 1916, cyn cael eu gorfodi fel canlyniad i\u0092r Ddeddf Gorfodaeth Filwrol 1916. Ymunodd \u00e2\u0092r 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ionawr 1917. Bu farw ym Mrwydr Passchendaele, Gorffennaf 1917. \n\nCyhoeddodd T. Gwynn Jones ym Medi 1917 mai Evans oedd enillydd gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl \u0091Yr Arwr\u0092. Cafodd y gadair ei gorchuddio \u00e2 llen ddu er ei chof. Cyfeiriwn at yr eisteddfod yna fel \u0093Eisteddfod y Gadair Ddu\u0094.\n","1164":"Roedd Ellis Humphrey Evans yn fardd o Drawsfynydd, Gwynedd, oedd yn ysgrifennu dan yr enw Hedd Wyn. Daeth yn symbol o golli cenhedlaeth Gymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar \u00f4l iddo farw. Mae\u0092n cael ei adnabod ymysg \u0091beirdd rhyfel\u0092 oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a ysgrifennodd am eu profiadau.\n\nCafodd ei eni yn 1887 yn Nhrawsfynydd i Mary ac Evan Evans. Symudon nhw i fferm yr Ysgwrn, lle dreuliodd Hedd Wyn y rhan fwyaf o\u0092i fywyd.\n\nRoedd wedi barddoni a chystadlu mewn eisteddfodau ers ei lencyndod ac enillodd chwe chadair mewn Eisteddfodau tra hefyd yn ysgrifennu ar gyfer trigolion Trawsfynydd. Cafodd yr enw barddol Hedd Wyn gan orsedd o feirdd Ffestiniog yn 1910. \n\nNewidiodd naws ei waith pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr i drafod yr hunllef ac i gofio am gyfeillion a fu farw. Dechreuodd gyfansoddi ei awdl \u0091Yr Arwr\u0092 yn 1916 cyn cael ei orfodi i ryfela yn 1917. Cafodd ei ladd yma yn Drydedd Frwydr Ypres yng Ngorffennaf 1917.\n\nEnillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol am \u0091Yr Arwr\u0092. Gorffennodd y gwaith y Gorffennaf cyn iddo farw, a\u0092i phostio adref o Ffrainc o dan ffugenw newydd \u0091Fleur-de-lis\u0092. Pan gyhoeddwyd mai ef oedd yr enillydd, cafodd y gadair ei orchuddio gyda llen ddu. Mae\u0092n cael ei gofio fel \u0093Eisteddfod y Gadair Ddu\u0094. Mae\u0092r awdl yn dyheu am fyd perffaith ymysg ansefydlogrwydd y rhyfel. Cafodd y gadair ei gludo i\u0092r Ysgwrn, ac mae\u0092n cael ei gofio gan gofgolofn yn y pentref.","1167":"Mae Bangor yn ddinas a chymuned yn sir Gwynedd, wedi\u0092i lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 15,000 a dyma gartref Prifysgol Bangor, Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor. \n\nMae rhannau hynaf Bangor yn agored i\u0092r m\u00f4r yn y dwyrain ar y bae o\u0092r Afon Menai. Rhwng Bangor ac Ynys M\u00f4n, mae dwy bont; Pont Y Borth a Phont Britannia. Pont Britannia yw\u0092r fwyaf o\u0092r ddwy tra bod Pont Y Borth yn gul. \n\nYn \u00f4l yr hanes, sefydlodd Deiniol Sant fynachlog ar lan yr Afon Adda yn y 6g. Mae modd gweld lle mae\u0092r enw\u0092n tarddu ohoni, \u0091bangor\u0092, sef tir a amgeir ganddo (llan). Deiniol oedd esgob cyntaf Bangor a gafodd ei gysegru gan Dyfrig Sant. \n\nTyfodd tref fychan o gwmpas yr eglwys gadeiriol, ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18g. Yn y cyfnod hwn, agorodd y chwareli llechi Penrhyn. Yn dilyn agor ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac yna Pont y Borth yn 1826, tyfodd Bangor i fod yn ganolfan cludiant pwysig, gan ddatblygu\u0092n gyflym. Datblygodd pethau ymhellach gydag adeiladu\u0092r rheilffordd yn 1848. \n\nBangor oedd cartref cell gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn yr 1960au, a arweiniodd at ymgyrchoedd dros y Gymraeg. Roedd rhain yn cynnwys y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor, a dyma ble cafodd cop\u00efau cyntaf Tafod y Ddraig eu hargraffu. \n\n\nMae gan Fangor yr ail bier hiraf yng Nghymru, sydd wedi\u0092i lleoli yn ymyl Y Garth.\n","1169":"Mae De Affrica yn wlad amlddiwylliannol ac felly mae safbwyntiau amrywiol am ei hanes.\nCafodd olion dynol sydd yn dyddio i dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l eu darganfod yn Ne Affrica.\nHelwyr-gasglwyr, bugeiliaid a phobloedd oedd trigolion cyntaf De Affrica. Y cred yw bod hynafiaid y mwyafrif o dduon y Dde Affrica fodern wedi cyrraedd y wlad tua 100 OC. Hefyd, y cred yw ei fod nhw wedi dod gyda dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn cynnar. Canlyniad hwn oedd y grwpiau ethnig gwreiddiol yn cael eu gwthio i ffiniau\u0092r wlad.\nYn dilyn oes yr ymladd yn Ewrop yn yr 1800au cynnar, ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica. O fewn ychydig o flynyddoedd roedden nhw wedi mynni fod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad a daeth Saesneg yn iaith swyddogol y wlad yn 1822.\nMudodd tua 10,000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838 o ganlyniad i\u0092r newidiadau. Enw\u0092r digwyddiad oedd y Daith Fawr.\nCafodd gweriniaethau\u0092r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal eu sefydlu gan Foeriaid Natal yn y gogledd a\u0092r gorllewin ar \u00f4l iddynt adael.\nRhwng 1948 a 1994 roedd system mewn lle yn Ne Affrica. Apartheid oedd enw\u0092r system ac roedd y system yn gwahanu pobl ar sail eu hil. Daeth dechrau i ddiwedd y system yn yr 1990au.\n","1170":"Mae nifer o safbwyntiau gwahanol gan ysgolheigion a brodorion gan fod De Affrica yn wlad amlddiwylliannol. Mae rhai o\u0092r olion dynol hynaf, yn dyddio dros 1.5 miliwn o flynyddoedd yn \u00f4l yn Ne Affrica. Trigolion cyntaf De Affrica oedd y bobloedd Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Mae\u0092n debygol bod y bobl Bantu, hynafiaid y mwyafrif o dduon y Dde Affrica fodern, cyrraedd tua 100OC, gyda thechnoleg Oes yr Haearn cynnar i\u0092r rhanbarth gyda\u0092n nhw. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da yn 1795 a 1806. Ymfudodd Prydeinwyr i Dde Affrica a gorfodi cyfraith Brydeinig ar y wlad, yn dilyn hynny daeth Saesneg yn iaith swyddogol ym 1822. Roedd llwyth y Boeriaid yn teimlo\u0092n chwerw o ganlyniad i\u0092r Prydeinwyr, ac arweiniodd hyn yn y pendraw at ryfeloedd y Boer rhwng y Boeriaid a\u0092r Prydeinwyr. \n\nSystem yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wah\u00e2n oedd Apartheid. Cafodd y system ei gweithredu rhwng 1948 a 1994. Cafodd y system ei datblygu pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i\u0092w llawn dwf wedi 1948. Wedi cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, cafodd y system ei waredu erbyn etholiad cyffredinol 1994, lle cafodd bawb bleidlais am y tro cyntaf. ","1172":"Mae Gwobr Tir na n-Og yn wobr sy\u0092n cael ei rhoi bob blwyddyn ers 1976 ar gyfer y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae\u0092r enw\u0092n dod o enw\u0092r wlad ieuenctid yn chwedloniaeth Geltaidd. Yn yr iaith Gymraeg roedd un wobr rhwng 1976 a 1986, dwy wobr am lyfrau ffuglen a ffeithiol rhwng 1987 a 2005 a gwobrau Cynradd ac Uwchradd o 2006 ymlaen. Un wobr sydd am lyfrau Saesneg. Y gwobrau cyntaf oedd i T. Llew Jones am T\u00e2n ar y Comin a Susan Cooper am The Grey King. Gareth F Williams yw\u0092r awdur sydd wedi ennill y nifer fwyaf o weithiau. Enillodd chwe gwaith ym 1991, 1997, 2007, 2008, 2014 a 2015. Mae Manon Steffan Ros wedi ennill pum gwaith, yn 2010, 2012, 2017, 2019 a 2020 ac Emily Huws yn 1992, 1993, 2005, 2006 a 2009. Rhai o\u0092r awduron eraill yw Jane Edwards, Angharad Tomos, Emily Huws, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts a Mererid Hopwood. Yr enillwyr diweddaraf oedd Casia Wiliam am Sw Sara Mai, Rebecca Roberts am #helynt ac Elen Caldecott am The Short Knife. Doedd dim gwobr Saesneg ym 1980 nac ym 1982, a doedd neb wedi ennill o gwbl ym 1985.","1174":"Mae XXX XXX XXX (25 Gorffennaf 1956- heddiw) yn Brifardd, golygydd ac yn gyhoeddwr Cymraeg. Mae'n Archdderwydd Cymru ers 2019.\nCafodd ei magu yn Llanrwst. Aeth e i Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ei rhieni yw\u0092r awdur llyfrau plant XXX XXX a\u0092r werthwraig llyfrau XXX XXX.\nSefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980, cyhoeddodd nifer o ddram\u00e2u, cyfres lyfrau ar l\u00ean gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002. Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.\nPriododd Llio Meirion, ac yn dad i CarXXX, Llywarch, Lleucu, Owain ac i Cynwal. Mae hefyd yn dad-cu i Deio XXX CarXXX.\nMae barddoniaeth a cherddi XXX yn cynnwys Llyfr Caneuon TecXXX y Tractor (cafodd gyfres ei seilio ar hwn) Pen Draw'r Tir, Denu Plant at Farddoniaeth - Pedwar P?dl Pinc a'r Tei yn yr Inc, Denu Plant at Farddoniaeth - Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ..., Jam Coch Mewn Pwdin Reis, Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glynd?r, Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew, Clawdd Cam, Clywed Cynghanedd: Cwrs Cerdd Dafod, Cerddi Cyntaf. \nMae llyfrau plant XXX yn cynnwys Cyfres y Llwyfan: Ar y G\u00eam, Cyfres y Llwyfan: Ail Godi'r To, Gweld Cymru - Hwyl wrth Ddod i Adnabod Gwlad, Golau ar y Goeden - Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig, Syniad Da Iawn!, Cyfres Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr y Brodyr, Cyfres Straeon Plant Cymru 1-6.\nMae straeon Saesneg XXX yn cynnwys Tales from Wales 1-6. Mae llyfrau oedolion XXX yn cynnwys Llyfrau Llafar Gwlad: 37. Enwau Cymraeg ar Dai, Circular Walks e.e. \"Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks\", Cyfres \"Welcome to...\" e.e. \"Welcome to Bermo (Barmouth)\". \nMae gwobrau XXX yn cynnwys Bardd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1974, y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990, Bardd Plant Cymru 2000, Gwobr Tir na n-Og 2001, y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002, Archdderwydd Cymru 2019-2021.\n","1180":"CR9_475_Clwb Rygbi Abertawe \n\nT\u00eem rygbi\u0092r undeb Cymreig sy\u0092n chwarae yn Prifadran Cymru yw Clwb Rygbi Abertawe. Ar Faes Rygbi a Chriced St Helen y mae\u0092r t\u00eem yn chwarae, a\u0092r Crysau Gwynion yw eu llysenw oherwydd lliw eu cit cartref. \n\nCafodd y clwb ei sefydlu yn 1872 fel t\u00eem p\u00eal-droed y gymdeithas, yna newidiodd i\u0092r cod rygbi yn 1874. Daeth yn un o 11 o glybiau sylfaenol Undeb Rygbi Cymru yn 1881. \n\nAm bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898\/99 hyd 1901\/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Cafodd y t\u00eem rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Er hyn, prin oedd y rhai a gafodd eu dewis i chwarae i Gymru. \n\nYn ystod tymor canmlwyddiant y clwb yn 1973\/74 daeth y t\u00eem i frig y Tabl Teilyngdod. Abertawe oedd pencampwyr y clybiau yn 1979\/80, 1980\/81, 1982\/83, ac enillwyr cwpan Cymru yn 1978, 1995 a 1999. \n\nYn ystod tymor 1995\/96, fe gyrhaeddodd Abertawe rownd gynderfynol Cwpan Ewrop. \n\nCafodd t\u00eem Merched Clwb Rygbi Abertawe ei sefydlu yn ystod tymor 2016\/17, ac maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn ers hynny. Yn 2019, cafodd Cwpan y Merched ei ennill ganddynt am y trydydd tymor yn olynol. \n\nYm mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21\u00966. \n\nAbertawe oedd pencampwyr Prifadran Cymru yn 1991\/1992, 1993\/1994, 1997\/1998 a 2000\/2001, pencampwyr Cwpan Her URC yn 1977\/1978, 1994\/1995, 1998\/1999, pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn 1980\/1981, a phencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn 1982, 1989, 1991 a 1995. ","1183":"Hanes Taliesin yw chwedl Gymreig sy\u0092n dod o\u0092r Oesoedd Canol. Elis Gruffydd, yn yr 16g, a ysgrifennodd y chwedl fwyaf cyflawn. Ond, roedd Syr Ifor Williams yn credu efallai bod y fersiwn gwreiddiol wedi\u0092i hysgrifennu yn y 9fed neu\u0092r 10g. Rhoi hanes am y bardd Taliesin y mae\u0092r chwedl hon. \nYn \u00f4l y chwedl, roedd gan Ceridwen a\u0092i gwr Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch yn hardd ond roedd y mab yn hyll iawn. Felly, fe benderfynon nhw i wneud y mab yn glyfar i wneud yn iawn am y ffaith ei fod yn hyll. Fe ferwon nhw gynhwysion mewn pair am flwyddyn a diwrnod. Pan roedd y gymysgedd bron yn barod, fe fwytodd Gwion Bach, a oedd yn gofalu am y pair, gynnwys y pair mewn camgymeriad. Pan ddarganfyddodd Ceridwen fod Gwion wedi bwyta\u0092r gymysgedd yn lle ei mab aeth ar ei \u00f4l. Trodd y ddau yn gyfres o anifeiliaid gan fynd ar \u00f4l ei gilydd. Bwytodd Ceridwen Gwion ac yna beichiogodd. Naw mis yn ddiweddarach, cafodd ei phlentyn ei eni. Roedd Ceridwen yn gwybod mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a'i daflu i'r m\u00f4r. Yn hwyrach, pan aeth Elffin i dynnu\u0092r pysgod o\u0092r m\u00f4r, dim ond y baban oedd yn y cwdyn lledr. Taliesin oedd ef. ","1188":"Mae jazz yn fath o gerddoriaeth sy\u0092n dod o gymunedau du yn ne\u0092r UDA. Cafodd ei ffurfio ar ddiwedd y 19g efo gwreiddiau yn genres ragtime a\u0092r felan oedd wedi deillio o\u0092r fasnach caethwasiaeth. Mae jazz wedi parhau i ymgorffori elfennau o draddodiadau cerddorol o wledydd ar hyd y byd y tu hwnt i\u0092r UDA. Mae rhythmau polyffonig a byrfyfyrio yn nodweddion cyffredin mewn jazz. \nOfferynnau traddodiadol jazz ydy\u0092r bas dwbl, y git\u00e2r, y piano, sacsoffon a\u0092r trymped, ymhlith eraill. \nDoes dim llawer o wybodaeth am jazz cynnar oherwydd bod y gerddoriaeth gynnar ddim wedi\u0092i ysgrifennu na\u0092i recordio, ond efallai mai Buddy Bolden ydy un o artistiaid jazz enwocaf y cyfnod cynnar hwn.\nYn y 1920au a\u0092r 1930au datblygodd y math Swing o jazz, ac erbyn y 1940au a\u0092r 1950au roedd Bebop wedi datblygu oedd yn fwy harmonig a rythmig. Dyma oedd trawsnewidiad y math o gerddoriaeth o fod yn gerddoriaeth boblogaidd i ddawnsio i fod yn gelf. Allan o gyfnod Bebop y 1950au daeth Bop Galed oedd yn ymgorffori dylanwadau eraill fel gospel a rhythm a bl?s. Roedd Miles Davis yn gerddor pwysig Bop Galed. \nYn dilyn hynny daeth Jazz Rhydd, oedd yn anwybyddu strwythurau traddodiadol fel cordiau a harmoni, a cherddorion yn chwarae eu hofferynnau drwy ddulliau newydd arbrofol. Roedd Jazz fusion yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth roc ac offerynnau electronig yn eu cerddoriaeth. \nYn y 1980au roedd cerddorion yn troi yn \u00f4l at fathau mwy traddodiadol o jazz a\u0092u cyfuno efo arddulliau arbrofol eraill.\n","1189":"Mae Nefyn yn dref fechan ar arfordir gogleddol Penrhyn Ll?n, Gwynedd. Mae gan Nefyn boblogaeth o tua 2,500 ac mae tua 95% o\u0092r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. I\u0092r gorllewin i Nefyn y mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ac i\u0092r dwyrain y mae pentref Pistyll a bryniau'r Eifl. Mabon ap Dafydd o Blaid Cymru ydy Aelod Senedd Cymru\u0092r ardal a Liz Saville Roberts o Blaid Cymru ydy Aelod Seneddol yr ardal. Mae llawer o safleoedd hanesyddol yn Nefyn, gan gynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Cyrhaeddodd Gruffudd ap Cynan Nefyn ym 1094 i godi byddin, ac ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2\u0092r dref ym 1188; mae hyn wedi ei gofnodi yn ei lyfr 'Hanes y Daith Trwy Gymru'. Roedd Nefyn hefyd yn le ble cafodd dwrneimant ei gynnal gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Mae\u0092r m\u00f4r wedi bod yn waith i drigolion Nefyn erioed gyda llawer yn pysgota am benwaig. Roedd Nefyn hefyd yn ardal boblogaidd i longwyr a chapteiniaid llongau yn yr oes llongau hwylio. Roedd teuluoedd yn cael eu magu yma ac roedd llawer o fechgyn yr ardal yn mynd i\u0092r m\u00f4r ac yn helpu i adeiladu llongau. Ar 19 Ebrill, 1984, Nefyn oedd yr ardal i brofi\u0092r gwaethaf o ddaeargryn cyntaf i gael ei gofnodi ar ynys Brydain ac roedd yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Ar 19 Ebrill 2021, roedd tirlithriad yn yr ardal ble disgynnodd darn mawr o\u0092r clogwyn i\u0092r m\u00f4r. Mae gan Nefyn d\u00eem p\u00eal-droed o\u0092r enw Clwb P\u00eal-Droed Unedig Nefyn. ","1191":"Mae Nefyn yn dref fach ym Mhenrhyn Ll?n gyda phoblogaeth o tua 2,500. Mae Nefyn yn lle poblogaidd ar gyfer twristiaid o achos ei thraeth tywodlyd ond hefyd mae lefel uchel (bron i 95%) o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y dref. Mabon ap Gwynfor yw aelod senedd Cymru a Liz Saville Roberts yw\u0092r AS, y ddau\u0092n cynrychioli Plaid Cymru. Mae olion Oes yr Haearn yn y dref ac roedd llys cwmwd Dinllaen yno yn Oes y Tywysogion. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yno ym 1094 ac ymwelodd Gerallt Gymru ym 1188. Dyna le cynhaliodd Edward I dwrnamaint i ddathlu ei fuddugoliaeth ym 1284. Mae\u0092r m\u00f4r wedi bod yn ganolog i fywyd Nefyn erioed, ac roedd pysgota penwaig yn ddiwydiant pwysig tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd adeiladau llongau hefyd yn bwysig. Mae Castell Madryn ychydig i\u0092r dde a oedd yn gartref i Syr Love Jones-Parry, un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia. Roedd e wedi rhoi ei enw i Borth Madryn, sydd bellach yn efeilldref i Nefyn. Yn 1984 roedd Nefyn yn ganolbwynt daeargryn, ac yn Ebrill 2021 roedd tirlithriad a chwympodd darn mawr o glogwyn i\u0092r m\u00f4r. Mae gan Nefyn t\u00eem p\u00eal-droed gyda llysenw \u0093Y Penwaig\u0094. Mae enwogion Nefyn yn cynnwys John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782), Syr Love Jones-Parry (1832-1891), Elizabeth Watkin Jones (1888-1965), awdures llyfrau plant, a\u0092r gantores Duffy.","1195":"Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael effaith fawr ar hanes Cymru yn ystod yr 20fed ganrif. \n\nRoedd Cymru wedi cyfrannu yn sylweddol at y Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Roedd hyn yn wir o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a\u0092r economi. Roedd llawer iawn o Gymry wedi gwirfoddoli i ymladd yn y rhyfel. Yn nhermau canrannau, roedd mwy o Gymry wedi cael eu recriwtio na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod. Roedd milwyr o Gymru wedi ymladd yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel fel y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele. \n\nGlo rhydd o Gymru oedd yn gyrru\u0092r Llynges Brydeinig. Roedd gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr tuag at ymdrech y rhyfel. Roedd ymgyrch y rhyfel wedi cael ei arwain gan Gymro, David Lloyd George oedd yn Brif Weinidog rhwng 1916 ac 1918. Roedd e wedi penderfynu ar ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Roedd hyn yn golygu bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag at yr ymdrech ryfel mewn rhyw ffordd neu\u0092i gilydd. Roedd hyn yn gallu bod ar y Ffrynt Cartref neu drwy ymladd. Roedd dawn David Lloyd George fel arweinydd ac areithiwr yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain.\n \nRoedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio ar bob agwedd o gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i\u0092r wlad golli cenhedlaeth gyfan o\u0092i phobl. Roedd tua 40,000 o Gymry wedi colli eu bywydau yn y rhyfel.\n","1199":"CR9_481_Croatia \n\nMae Croatia yn weriniaeth yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop a\u0092i brifddinas yw Zagreb. Mae\u0092n rhannu ffin \u00e2 Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. \n\nMae hanes Croatia yn dechrau \u00e2\u0092r Illyriaid; trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig oresgyn y wlad. Yn y ganrif gyntaf cyn Crist cafodd talaith Illyria ei sefydlu gan y Rhufeinwyr. Enw\u0092r ddwy ran o\u0092r wlad oedd Dalmatia a Pannonia ac mae Palas Diocletian yn Split a\u0092r amffitheatr yn Pula yn dangos mor hen yw dinasoedd yr arfordir. \n\nCafodd Dugaeth Croatia ei uno \u00e2 Vladislav erbyn 820, a Lladin ac Eidaleg oedd ieithoedd trefi\u0092r arfordir am ganrifoedd. Yn 925 gafodd y brenin cyntaf ei goroni. \n\nYn 1089, collodd y wlad ei annibyniaeth wrth ddod yn rhan o deyrnas Hwngari. \n\nYn 1918, daeth Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Wedi\u0092r Ail Ryfel Byd, am 45 mlynedd, cafodd Croatia ei reoli gan Tito a\u0092r Comiwnyddion yn dilyn grym Ustase a\u0092r Nats\u00efaid. \n\nAr \u00f4l naw canrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn annibynnol eto yn 1991. \n\nHeddiw, mae Croatia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd, a'r Undeb Ewropeaidd. \n\nMae cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol yn cael ei gynrychioli gan Groatia. Yr Illyriaid cafodd y dylanwad mwyaf yn hanes diwylliant y genedl, gan gynnwys rhyddhau'r iaith Croataidd yn yr 19eg ganrif. \n\nEconomi incwm uchel yw Croatia yn \u00f4l y Cenhedloedd Unedig, ac mae Cynnyrch Mewnwladol (GDP) y wlad yn $53.5 biliwn. \n\nCyfartaledd cyflog y gweithwyr yn Ionawr 2017 oedd 5,895 HRK y mis. ","1200":"Roedd Syr Henry Morton Stanley yn newyddiadurwr, archwiliwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd. Daeth yn adnabyddus am archwilio yng nghanol Affrica. Mae ef hefyd yn cael ei adnabod am ei ymgyrch i chwilio am David Livingstone. Ond, mae\u0092n fwyaf adnabyddus am ei ymgyrch i ddarganfod tarddiad yr afon N\u00c3\u00ael. Ond tra roedd yn Affrica, cafodd ei gyhuddo o sawl peth fel dinistrio diangen, gwerthu llafurwyr i gaethwasiaeth, cam-fanteisio rhywiol ar ferched ac ysbeilio pentrefi am ifori a chan\u00c5\u00b5au. Er hyn, mae rhai haneswyr yn awgrymu bod llawer o'r adroddiad, a gafodd ei ysgrifennu gan un o elynion Stanley, wedi ei ffugio.\nCafodd ei eni ym 1841 yn Ninbych, Gogledd Cymru. Cafodd ei ddanfon i Wyrcws Undeb y Tlodion Llanelwy pan yn ifanc iawn oherwydd torrodd ei fam pob cysylltiad ag ef, a marwolaeth ei dad a\u0092i dad-cu a fu\u0092n gofalu amdano. Gan fod cymaint o fobl yn byw yno a neb yn gofalu a\u0092u gwylio, roedd yn cael ei gam-drin yn aml gan fechgyn hyn. \nPan roedd yn 18 oed symudodd i\u0092r Unol Daleithiau. Cafodd ei gyfenw Stanley gan fasnachwr cyfoethog a ddaeth yn ffrindiau gydag yno.\nEr nad oedd eisiau ymuno a Rhyfel Cartref America, bu\u0092n rhan o sawl adran ohonni e.e. Byddin y Taleithiau Cydffederal, Byddin yr Undeb ac ar y llongau masnach. Yn dilyn y Rhyfel Cartref, daeth yn newyddiadurwr.\nWedi iddo ddod yn \u00f4l i Ewrop, ymunodd a\u0092r Senedd. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1899.","1205":"Mae Los Angeles yn ddinas yn ne California yn yr UDA. Efo poblogaeth o tua 4 miliwn o bobl, hi ydy ail ddinas fwyaf yr UDA. Mae\u0092n enwog am ei hinsawdd fwyn, amrywiaeth ethnig y boblogaeth ac am ddiwydiant Hollywood. \nMae\u0092r ardal yn anialwch wedi\u0092i amgylchynu gan fynyddoedd. Y bobl frodorol ydy\u0092r Chumash a Tongva, ond cafodd ei hawlio gan y Sbaenwyr yn 1542. Cafodd y ddinas ei sefydlu yn 1781 a thyfodd y ddinas yn fawr ar \u00f4l dod o hyd i olew yn yr ardal yn y 1890au. Mae economi'r ddinas y amrywiol, ac mae\u0092n meddu ar borthladd cynhwysydd prysuraf yr Americas. \nEnw\u0092r pentref brodorol ar safle Los Angeles oedd Iy\u00e1ang?, lle roedd y llwythau brodorol yn byw. Ers sefydlu\u0092r ddinas gan y Sbaenwyr, mae gan y ddinas yr archesgobaeth Babyddol fwyaf yn yr UDA. Daeth Los Angeles yn rhan o Fecsico yn 1821 ac ar ddiwedd y rhyfel Mecsico-America, cafodd y ddinas ei phrynu gan yr UDA fel rhan o Gytundeb Guadalupe Hidalgo. Mae Hollywood yn cael ei ystyried fel prifddinas adloniant y byd. \nMae mwyafrif o bobl y ddinas o hil Sbaenig neu Ladinaidd (48.5%). Prif ieithoedd y ddinas ydy Saesneg a Sbaeneg. \nMae nifer y troseddau yn y ddinas wedi gostwng ers 2007, ac mae 152,000 o bobl y ddinas yn rhan o gang. Ymhlith y gangiau enwocaf, mae 18th Street, Mara Salvatrucha a Crips. Mae Canolfan Getty, Plaza Fox a Thraeth Fenis o blith adeiladau enwocaf y ddinas. Mae\u0092n enwog hefyd am ei chwaraeon.\n","1206":"CR9_464_Crefydd Geltaidd \n\nCrefydd Geltaidd yw\u0092r enw ar amldduwiaeth, mytholeg a thraddodiadau crefyddol a arddelai gan y Celtiaid cyn dyfodiad Cristnogaeth. \n\nMythos a chrefydd amldduwiol oedd gan y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn. Duwiau lleol oedd llawer ohonynt, a'u dylanwad wedi\u0092i gyfyngu i gr?p arbennig. Roedd rhai duwiau\u0092n cael eu haddoli dros ardal eang iawn hefyd. Mae nifer o'r cymeriadau ym Mhedair Cainc y Mabinogi, fel Lleu a Rhiannon, yn dduwiau Celtaidd wedi\u0092u troi\u0092n gymeriadau. Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau. \n\nTrwy ffynonellau Rhufeinig a Christnogol y cyfnod mae'r fytholeg wedi\u0092i chadw yn bennaf. Fe wnaeth gweddillion yr hen fytholeg barhau ymhlith y bobloedd Geltaidd sy\u0092n cadw eu hieithoedd, strwythurau cymdeithasol a'u hannibyniaeth wleidyddol, megis y Gaeliaid yn Iwerddon a'r Alban, a'r Brythoniaid yng Nghymru, Cernyw a Llydaw. \n\nRoedd pedair prif ?yl yn y flwyddyn Geltaidd; \"Imbolc\" ar 1 Chwefror, yn gysylltiedig \u00e2'r dduwies Brigit; \"Bealtaine\" ar 1 Mai, sy\u0092n gysylltiedig \u00e2 ffrwythlondeb; \"Lugnasad\" ar 1 Awst sy\u0092n gysylltiedig \u00e2'r cynhaeaf a'r duw Lleu; a \"Samhain\", y pwysicaf o'r pedair, ar 31 Hydref\/1 Tachwedd. Calendr Coligny o Ffrainc, a ysgrifennwyd yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. \n\nRoedd Cristnogaeth wedi\u0092i sefydlu yn rhannau Celtaidd yr Ymerodraeth Rufeinig erbyn y 4g. Mae rhai nodweddion o'r hen amldduwiaeth Geltaidd wedi goroesi, megis mewn chwedlau llenyddol fel Pedair Cainc y Mabinogi. \n\nMae rhai ffurfiau ar neo-baganiaeth yn ceisio adfer agweddau o grefydd Geltaidd, gan gynnwys derwyddiaeth fodern, Adferiadaeth Geltaidd, a Wica Celtaidd. ","1207":"Person sydd yn anghytuno efo hyfforddiant a gwasanaethau milwrol oherwydd yr hyn y maen nhw\u0092n credu sydd yn iawn neu\u0092n anghywir ydy gwrthwynebydd cydwybodol. Mae pobl yn gallu gwrthwynebu gorfodaeth filwrol am sawl rheswm, gan gynnwys rhesymau gwleidyddol, crefyddol neu athronyddol. Y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf i gael ei gofnodi oedd Maximilianus a gafodd ei roi i wasanaethu i\u0092r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295. Ond, dywedodd nad oedd yn mynd i wasanaethu\u0092r fyddin oherwydd yr hyn yr oedd yn credu ac o ganlyniad cafodd ei ladd. Ym Mhrydain, nid oedd gan unrhyw un yr hawl i wrthod gwasanaethu\u0092r fyddin tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd tua 16,000 o wrthwynebwyr eu cofnodi ac roedden nhw\u0092n cael eu trin yn annheg oherwydd eu penderfyniad. Erbyn dechrau\u0092r Ail Ryfel Byd ym 1939, roedd tua 60,000 o wrthwynebwyr cydwybodol. Ar \u00f4l pasio\u0092r Ddeddf Consgripsiwn ym Mhrydain yn 1916 (deddf oedd yn gorfodi pobl i wasanaethu\u0092r fyddin), fe wnaeth bron i 200,000 o bobl brotestio yn Llundain oherwydd eu bod yn gwrthod gwasanaethu\u0092r fyddin. Os oedd unrhyw un yn gwrthod ymaelodi \u00e2\u0092r fyddin, buasai\u0092n rhaid iddyn nhw fynd o flaen y tribiwnlys (math o lys) er mwyn egluro pam. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd tua 6,000 o ddynion eu carcharu am wrthod ymaelodi ac o\u0092r 6,000 hyn, cafodd 35 eu lladd. Oherwydd pa mor wael cafodd y bobl hyn eu trin, roedd y system wedi gwella ychydig erbyn yr Ail Ryfel Byd a chafodd y gwrthwynebwyr eu trin yn fwy teg.","1208":"Mae gwrthwynebydd cydwybodol yn berson sy\u0092n gwrthod gwasanaethu yn y lluoedd arfog am resymau cydwybodol. Mae hynny\u0092n gallu bod oherwydd credoau crefyddol, athronyddol neu wleidyddol. Mewn rhai gwledydd mae\u0092r rhain yn cael gwneud gwasanaeth sifil yn ei lle. Yn y gorffennol roedd llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi\u0092u lladd, eu carcharu neu eu cosbi mewn ffordd arall. Y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf rydyn ni wedi clywed amdano yw Maximilianus, oedd yn gwrthod ymuno \u00e2\u0092r fyddin Rufeinig am resymau crefyddol yn y flwyddyn 295. Cafodd e ei ddienyddio, ond yn ddiweddarach daeth yn un o seintiau\u0092r eglwys Gatholig. Ym Mhrydain y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y tro cyntaf i bobl gael yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol. Cofrestrodd tua 16,000 o ddynion. Roedd y rhan fwyaf yn Grynwyr. Roedd rhaid iddyn nhw fynd o flaen tribiwnlys i brofi eu bod ganddyn nhw reswm da dros wrthod. Cafodd rhai rolau yn y fyddin nad oedd yn golygu lladd, fel rhan o\u0092r uned feddygol er enghraifft. Aeth eraill i weithio ar y tir. Roedd rhai oedd yn \u0093absolutists\u0094 ac yn gwrthod gwneud dim byd i gynorthwyo\u0092r rhyfel. Aeth llawer ohonyn nhw i garchar, a chawson nhw eu trin yn llym yno. Aeth 6,000 o ddynion i\u0092r carchar. Bu 71 o\u0092r rhain farw yn y carchar ond o 1916 ymlaen roedd dewis mynd i wersyll gwaith. Erbyn yr Ail Ryfel Byd roedd penderfyniadau\u0092r tribiwnlysoedd yn llawer llai llym. Rhai o heddychwyr Cymru oedd George M.Ll.Davies, Ithel Davies, Gwenallt a Niclas y Glais. ","1209":"Llifiad o dd?r ydy Afon. Mae\u0092r rhan fwyaf o afonydd yn llifo o\u0092u man cychwyn, sef bryniau a mynyddoedd fel arfer, ac yna\u0092n llifo drwy\u0092r cymoedd a dyffrynnoedd cyn cyrraedd y m\u00f4r. Mae afonydd fel arfer yn llifo ar ben y tir, ond mae rhai afonydd hefyd yn gallu rhedeg o dan wyneb y tir, er enghraifft drwy ogof\u00e2u. Mae afonydd wedi bod yn bwysig iawn i fywydau a chredoau pobl ers y dechrau un gan ei fod yn cynnig d?r bywiol ac yn lle ble mae anifeiliaid fel pysgod yn nofio a byw. Mae afonydd yn cael eu cysylltu gyda llawer o fytholeg a chrefydd gyda rhai pobl yn mynd ati i ddweud bod angenfilod yn byw mewn rhai afonydd yng Nghymru, er enghraifft afon T\u00e2f yng Nghaerdydd. Mae llawer o dystiolaeth hefyd fod llawer o waith metel cain wedi cael eu taflu i mewn i afonydd yn ystod yr Oesoedd Efydd a Haearn. Mae llawer o bobl hyd heddiw yn dal i daflu darnau o arian i mewn i afonydd neu ffynnon dd?r er mwyn trio cael dymuniad i ddod yn wir ac er mwyn cael lwc dda. Mae llif afon hefyd yn cael ei hystyried fel rhywle da i olchi unrhyw ddrwg i ffwrdd ac efallai yn un o\u0092r rhesymau pam fod pobl yn cael eu bedyddio mewn afonydd. Mae afonydd hefyd yn gweithio fel ffiniau sydd yn gwahanu ardaloedd daearyddol, gwahanu rhwng aer a d?r neu\u0092n gwahanu rhwng dau fyd, sef y byd daearyddol a\u0092r arall-fyd.","1217":"CR9_487_Pedair Cainc y Mabinogi \n\nMae Pedair Cainc y Mabinogi yn gasgliad enwog o bedair chwedl fytholegol Gymraeg o\u0092r Oesoedd Canol, sy'n deillio o'r traddodiad llafar. \n\nY pedair chwedl yn y casgliad yw Pwyll, Pendefig Dyfed, Branwen ferch Ll?r, Manawydan fab Ll?r, a Math fab Mathonwy. Maent yn cael eu hadnabod fel \"Y Gainc Gyntaf\", \u0093Yr Ail Gainc\u0094 ac ati. \n\nMae testun cyfan y Pedair Cainc i'w gweld yn dwy o lawysgrifau pwysicaf Cymru. Y gynharaf yw Llyfr Gwyn Rhydderch, sy\u0092n dyddio at tua 1300-1325. Mae\u0092r testun gorau yn Llyfr Coch Hergest, tua 1375-1425. Mae dau ddarn yn llawysgrif Peniarth 6, sef y testun hynaf, tua 1225. Mae rhai yn cael eu cadw\u0092n Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a rhai yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen. \n\nMae ysgolheigion yn credu mai ail hanner yr 11g cafodd y Pedair Cainc eu cyfansoddi. Mae Ynys Prydain ym meddiant y Brythoniaid. Byd Celtaidd yw byd y Pedair Cainc, sy\u0092n deillio o ddiwedd Oes yr Haearn. \n\nMae s\u00f4n mai rhywun o Ddyfed yw'r awdur, ac mai merch oedd hi oherwydd bod ymdriniaeth o bersonoliaeth y cymeriadau'n deimladwy iawn, yn enwedig y rhai benywaidd. Awgrym arall oedd mai Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan oedd yr awdur. \n\nMae hanes Pryderi, mab Pwyll a Rhiannon, yn asio'r chwedlau ynghyd. Yn y Gainc Gyntaf, mae hanes eni, yn yr Ail ei anturiaethau gyda Manawydan, ac yn y bedwaredd mae\u0092r digwyddiadau sy'n arwain at ei farwolaeth. ","1219":"Pentref a chymuned ar lan Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Owrtyn. Mae wedi\u0092i leoli ger cyffordd y priffyrdd A528 a\u0092r A539. Mae 7 milltir o dref Wrecsam a 22 milltir o Gaer a\u0092r Amwythig. \nMae un o Saith Rhyfeddod Cymru yno - sef y casgliad o saith ywen sy\u0092n tyfu ym mynwent Eglwys y Santes Fair. Mae\u0092n debygol fod eglwys Geltaidd gynharach wedi bod yn y lleoliad hwn oherwydd nid yw\u0092r eglwys sydd yno nawr mor hen \u00e2\u0092r coed sydd rhwng 1500 a 2000 o flynyddoedd oed. \nYn \u00f4l pob s\u00f4n, daw enw\u0092r pentref o\u0092r hen Saesneg Ovretone sy\u0092n golygu \u0091tref uwch\u0092 neu \u0091ucheldre\u0092. \nMae llawer o\u0092r adeiladau wedi\u0092i adeiladu gan ddefnyddio tywodfaen coch lleol. Ond, mae hefyd briciau o farl teracota o Riwbon neu Gefn Mawr yn cael eu defnyddio yno hefyd. Er mai tywodfaen cafodd ei ddefnyddio wrth adeiladu\u0092r eglwys, mae rhan fwyaf o dai\u0092r pentref wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio briciau. Llechu a theils cochion sy\u0092n cael ei ddefnyddio i wneud y toeau. Roedd gweithwyr y stadau mawrion yn byw yn nifer o\u0092r tai teras a\u0092r bythynnod ar Ffordd Wrecsam a Ffordd Salop.\nMae\u0092r ardal hon yn cael ei chynrychioli yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a\u0092r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).\nMae\u0092r stryd fawr yn llydan iawn. Mae pobl yn credu mai\u0092r rheswm tros hyn yw oherwydd roedd pobl yn gwerthu cynnyrch ar y stryd pan ddaeth y pentref yn fwrdeistref rydd yn 1292. ","1222":"Senedd Cymru yw lle mae trafodaethau polis\u00efau a chymeradwyo deddfwriaeth sy\u0092n ymwneud \u00e2 Chymru yn digwydd. Cafodd ei sefydlu yn 1999 ar \u00f4l refferendwm 1997. Hyd at 2020, enw\u0092r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.\nSystem un siambr sydd gan y Senedd ac mae ganddo 60 \u0091Aelodau o\u0092r Senedd\u0092.\nMae\u0092r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau peth gwahanol. Mae\u0092r Senedd yn llunio cyfreithiau Cymru ac yn gwneud Llywodraeth Cymru yn atebol.\nYn wreiddiol, pedair blynedd oedd tymor aelodau\u0092r Senedd ond nawr mae tymor yn parhau am bum mlynedd. Os oed sedd yn dod yn wag yn y Senedd, mae isetholiadau yn cael eu cynnal.\nAr ddiwedd 2019, pasiodd deddf newydd sef y Ddeddf Senedd ac Etholiadau. Mae\u0092r ddeddf yn caniat\u00e2i pleidlais i bobl 16 oed, gyda\u0092i effeithiau yn dechrau o etholiadau Senedd 2021. Hefyd, mae\u0092r ddeddf yn dweud bod gan breswylwyr o dramor yr hawl i bleidleisio os ydynt yn byw yng Nghymru. O ran pleidlais y ddeddf, roedd Llafur a Phlaid Cymru o blaid a\u0092r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Yn ychwanegol, rhoddodd y ddeddf enw dwyieithog i\u0092r Cynulliad. Er hynny, mae llawer yn ei alw\u0092n Senedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.\nMewn refferendwm yn 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y Cynulliad yn cael y p?er i lunio ei ddeddfau ei hun.\n","1224":"Roedd Harri VIII yn Frenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth. Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Olynodd Harri ei dad, Harri VII, ac efe oedd yr ail deyrn yn Nh?\u0092r Tuduriaid. \nCafodd Harri VIII ei eni ym Mhalas Greenwich, ger Llundain. Fe oedd trydydd plentyn Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. Dim ond un o frodyr a dwy o chwiorydd Harri a oroesodd eu plentyndod - bu farw pedwar. \nPan roedd Harri yn ddwy oed, cafodd ei apwyntio yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Yna, y flwyddyn ganlynol yn 1494, cafodd Harri ei wneud yn Ddug Efrog. Yn ddiweddarach, cafodd ei apwyntio yn Iarll Masial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. \nCafodd Harri addysg o\u0092r safon uchaf gan diwtoriaid da iawn a dysgodd i siarad Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. Gan mai Arthur oedd y brawd hynaf, efe fyddai\u0092n etifeddu\u0092r orsedd felly cafodd Harri ei baratoi ar gyfer gyrfa yn yr eglwys. Ond fe fu farw ei frawd Arthur yn 15 oed a disgynnodd ei ddyletswyddau i Harri. Ychydig ddyddiau wedi ei goroni, dechreuodd ar un o\u0092i brif dactegau er mwyn ymdrin \u00e2\u0092r rhai a safai yn ei ffordd sef eu cyhuddo\u0092n ddi-sail a\u0092i dienyddio. \nTra bod Harri VIII yn frenin, penderfynodd rhoi\u0092r un cyfreithiau i Gymru a Lloegr. Harri VIII a sefydlodd Eglwys Lloegr ac wedi iddo ef orchymun y cafwyd gwared ar y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537. \nPriododd chwech o fenywod a chafodd dri o blant. \n","1226":"Brenin Lloegr o 1509 hyd at ei farwolaeth ar 28fed o Ionawr, 1547 oedd Harri VIII. Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Ef oedd yr ail deyrn yn Nh?\u0092r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII. Penderfynodd i 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol. Hefyd, fe wnaeth sefydlu Eglwys Lloegr a diddymu y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537. Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari. Yn 1502, bu farw Arthur yn 15 oed a disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysg Cymru. Parhaodd Harri VII i drio greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen o dan s\u00eal briodas, gan gynnig Harri fel gwr i weddw Arthur, Catrin o Aragon. I wneud hyn, roedd rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab i oruwchreoli y rhwystr o affinedd. Yn nheyrnasiad cynnar Harri VIII, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad a daeth hyn yn un o\u0092i brif dactegau i ymdrin \u00e2'r rhai oedd yn sefyll yn ei ffordd. Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgoliaethol. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. Hefyd yn gamblwr, chwaraewr dis o fri, ac yn rhagori mewn chwaraeon. Yn 1516, rhoddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri sef Mari, Tywysoges Lloegr. Ei chwe gwraig oedd Catrin o Aragon, Ann Boleyn, Jane Seymour, Anne o Cleves, Catrin Howard a Catrin Parr. ","1227":"Gorsaf radio BBC Cymru ydy BBC Radio Cymru ac mae pob un rhaglen radio yn cael ei ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dechreuodd BBC Radio Cymru ddarlledu ar 3ydd o Ionawr 1977. Erbyn heddiw, mae\u0092r orsaf radio ar gael i bobl wrando arno mewn sawl gwahanol ffordd, gan gynnwys dros y rhyngrwyd. Mae\u0092r rhaglenni yn cael eu creu yn stiwdios y BBC yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Yn ystod y dydd, mae\u0092r orsaf radio efo llawer o wahanol raglenni, gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Post Prynhawn, a bwletinau newyddion bob awr), sgyrsiau, cerddoriaeth, a rhaglenni dyddiol, fel rhaglen Bore Cothi. Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio o'r Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, i bencadlys newydd y BBC yng Nghymru, sef yn Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd. Cafodd ail orsaf radio ei lansio ar 29 Ionawr 2018, o\u0092r enw BBC Radio Cymru 2. Daeth hyn ar \u00f4l i BBC Cymru arbrofi am ychydig o fisoedd gyda sianel newydd yn 2016 i farcio pen-blwydd BBC Radio Cymru yn 40. Bwriad BBC Radio Cymru 2 oedd darparu sioe frecwast a darlledu gwahanol gerddoriaeth ac adloniant. Rhwng 2002 a 2015, mae niferoedd y gwrandawyr wedi disgyn yn flynyddol, o uchafswm o 175,000 i thua 104,000, yn \u00f4l RAJAR, sydd yn gyfrifol am fesur y niferoedd sy\u0092n gwrando. Ers Mehefin 2017, mae gan Radio Cymru tua 128,000 o wrandawyr wythnosol. Rhuanedd Richards ydy golygydd presennol yr orsaf. ","1228":"Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd ei ddarlledu\u0092n gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Mae BBC Radio Cymru ar gael ar FM, radio digidol DAB, Freeview yng Nghymru, a chebl digidol. Mae hefyd ar gael ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan a hefyd i\u0092r byd dros y rhyngrwyd ers 2005. Mae\u0092r rhaglenni yn cael ei greu yn stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.\nDechreuodd yr orsaf 6.45am gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud. Yn dilyn hynny am 7am roedd rhaglen frecwast Helo Bobol gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.\nYn ystod y diwrnod mae cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Post Cyntaf, Taro'r Post a Phost Prynhawn), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd.\nYn 2020 symudodd y rhaglen o Lundain i bencadlys newydd yn Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd. Ar Radio Cymru 2 am 7yb, roedd Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn wedi ei darlledu o'r stiwdio newydd gyda Huw Stephens a Caryl Parry Jones. Am 11yb, ar Radio Cymru cafodd Y Sioe Sadwrn ei ddarlledu gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Roedd Hywel Gwynfryn, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol. Cyflwynodd ei sioe gyntaf ef o'r adeilad newydd ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf.\nCyn penblwydd 40 blynedd Radio Cymru cafodd Radio Cymru Mwy ei lansio am gyfnod byr o 3 mis yn 2016. Roedd yn cynnwys pum awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos.\nCafodd Radio Cymru 2, ei lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018. Roedd yn cynnwys sioe frecwast wedi ei chyflwyno gan Dyfan Tudur gyda chymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant.\nMae cyflwynwyr gorffennol yn cynnwys Andrew 'Tommo' Thomas (Prynhawn Llun \u0096 Iau 2014 \u00962018), John Walter Jones (Amser cinio Mercher, 2014 \u0096 2018) a Wil Morgan (Nos Sadwrn, 2003 \u0096 2019).\n","1229":"Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru. Mae\u0092r orsaf yn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd y sianel ei darlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Cychwynnodd yr orsaf am 6.45am ddydd Llun gyda\u0092r diweddar Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Dilynwyd gan bwletin newyddion pymtheg munud o hyd. Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Mae stiwdios y BBC Radio Cymru yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd. Lansiwyd ail wasanaeth radio'r orsaf, Radio Cymru Mwy yn 2016. Cyfnod arbrofol o dri mis oedd hwn yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Bore Llun 29 Ionawr 2018 lansiwyd ail orsaf radio BBC Cymru, Radio Cymru 2. I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant. Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol. Uchafswm ei gwrandawyr oedd 175,000 yn 2002. Erbyn 2015 roedd lawr i\u0092w nifer isaf erioed, 104,000. Ers Mehefin 2017, mae gan Radio Cymru 128,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.7% o'r ganran gynulleidfa.","1230":" Mae Morlyn Llanw Abertawe yn gynllun i harnesi ynni carbon isel. Mae\u0092r cynllun wedi\u0092i lleoli ym Mae Abertawe. Bydd y cynllun y mwyaf o\u0092i fath yn y byd ar \u00f4l ei gwblhau. Mae Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren. Mae amrediad llanw'r aber yr ail fwyaf yn y byd. Y gwahaniaeth rhwng y trai a\u0092r llanw yw tua 10.5 metr ar ei uchaf. Mae\u0092r morlyn wedi ei leoli i\u0092r de o Ddoc y Frenhines, rhwng Afon Tawe ac Afon nedd. Mae disgwyl bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan. Mae hyn yn ddigon i gyflenwi 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.\n\nMae Lag?n Bae Abertawe yn lag?n llanw a thrai a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau\u0092r d?r y tu fewn a thu allan i\u0092r morglawdd. Mewn 24 awr mae 2 lanw a 3 drai, felly bydd rhaid i\u0092r tyrbeini weithio\u0092r naill ffordd a\u0092r llall, yn \u00f4l ac ymlaen, wrth i\u0092r trai a llanw creu\u0092r newid yn lefel y d?r. \n\nRhoddodd Llywodraeth DU caniat\u00e2d i\u0092r prosiect mynd ymlaen ym Mehefin 2015. Erbyn hyn mae prosiectau tebyg yn cael ei ystyried ar gyfer Bae Caerdydd ac yng Nghasnewydd. Bydd cyfanswm y gost tua \u00a31 biliwn.\n","1231":"Mae Morlyn Llanw Abertawe yn gynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe. Dyma fydd y mwyaf o\u0092i fath yn y byd pan mae\u0092n cael ei gwblhau. Mae\u0092r Bae yn sefyll o fewn aber yr afon Hafren gyda\u0092r amrediad llanw ail fwyaf yn y byd. Mae\u0092r morlyn yn sefyll i\u0092r de o Ddoc y Frenhines, rhwng Afon Tawe ac Afon Nedd. Bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan, sef digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi am 120 mlynedd. \n\nMae\u0092n lag?n llanw a thrai fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau\u0092r d?r tu fewn a thu allan i\u0092r morglawdd. Mae\u0092r tyrbinau\u0092n gorfod gweithio\u0092r naill ffordd a\u0092r llall mewn cyfnod o 24 awr, gan fod dau lanw a dau drai. Cafodd caniat\u00e2d cynllunio ei roi gan Lywodraeth y DU ym Mehefin 2015, ac mae\u0092n debygol bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd a Chasnewydd. Yn \u00f4l adroddiad annibynnol, bydd y morlyn yn gyfraniad sylweddol i ynni Prydain ac mae\u0092n gost-effeithiol. \n\nBydd llawer o\u0092r cydrannau\u0092n cael eu creu yn lleol, gan roi buddsoddiad o dros \u00a3500,000 yn yr economi leol. O ran swyddi, bydd y gwaith adeiladu\u0092n cyflogi tua 1,900 o bobl a bydd tua 180 o swyddi pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan. Mae amcangyfrif yn dweud bydd yn atynnu tua 70-100,000 o ymwelwyr ac yn cynhyrchu \u00a376 miliwn. Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5km o hyd ac yn gweithredu i amddiffyn Dinas Abertawe rhag y llanw uchel a lefelau m\u00f4r yn codi. ","1235":"CR9_492_Iwerddon \n\nMae Iwerddon yn un o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac un ynys ym M\u00f4r Iwerydd. Iaith gynhenid y wlad yw\u0092r iaith Geltaidd Gwyddeleg, ond Saesneg y mae\u0092r mwyafrif yn ei siarad ers y 19g. Mae dwy uned wleidyddol yn rhannu'r ynys, sef Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. \n\nRoedd y tir wedi\u0092i chysylltu ag Ynys Prydain ac Ewrop yn ystod y cyfnod cynnar, felly nid oedd yn ynys. Mae'r olion cyntaf yn dyddio i tua 8000 CC. \n\nFe wnaeth y cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys ganol y 5g, gyda Sant Padrig yn un amlwg. \n\nYn y cyfnod 1845-1849, fe wnaeth \"Y Newyn Mawr\" effeithio\u0092r ynys, a bu farw tua miliwn o bobl. Fe wnaeth y boblogaeth leihau o 8 miliwn i 4.4 miliwn yn 1911. \n\nParhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y 19g. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol. \n\nYn Etholiad Cyffredinol 1918, cafodd 26 o siroedd Iwerddon annibyniaeth lwyr, gan greu Gweriniaeth Iwerddon, ond roedd 6 sir yn y gogledd-ddwyrain yn parhau\u0092n rhan o'r DU. \n\nMae daearyddiaeth Iwerddon yn wastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn ei amgylchynu. Y mynydd uchaf yw Corr\u00e1n Tuathail, sy'n 1,041 medr o uchder. \n\nAfon fwyaf yr ynys yw\u0092r Afon Shannon, sy'n 259 km o hyd, ac aber sy\u0092n 113 km o hyd. Maes Lough Neagh a Loch Coiribe yn llynnoedd mawr hefyd. \n\nYnys Achill yw\u0092r ynys fwyaf o\u0092r nifer sydd o gwmpas yr arfordir. ","1238":"Awstralia yw\u0092r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a\u0092r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, Indonesia, Papua Gini Newydd a Dwyrain Timor. Mae mudo dynol wedi trawsnewid y wlad. Roedd Awstralia yn gartref i'r bobl frodorol am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ond yn fwy diweddar, mae llawer wedi mudo o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia. Brodorion Awstralia oedd yn rheoli\u0092r cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd nes i Loegr hawlio\u0092r rhan ddwyreiniol o\u0092r cyfandir yn 1770. Roedd Lloegr yn defnyddio\u0092r tir hwn i ddanfon troseddwyr o wledydd Prydain. Cafodd tua 1,800 o bobl o Gymru ei halltudio yno erbyn 1852. \nMae defaid yn cyfrannu at ddiwydiant allforio mawr y wlad. Mae gwartheg yn bwysig hefyd, yn enwedig yng ngorllewin y wlad. Er hyn, mae\u0092r rhan fwyaf o\u0092r wlad yn sych a chras sy\u0092n anaddas ar gyfer ffermio. Mae ardaloedd gwin pwysig iawn yn ne Awstralia. Awstralia yw\u0092r cyfandir mwyaf gwastad.\nMae economi Awstralia yn gryf yn bennaf oherwydd y diwydiant mwyngloddio. Erbyn hyn mae mwyngloddio yn dal i ddigwydd ar raddfa sylweddol ond mae'r sector gwasanaethau yn gryfach, yn enwedig y diwydiant twristiaeth.\nMae rhan fwyaf o\u0092r boblogaeth yn byw yn y dinasoedd ar yr arfordir. Mae pobl frodorol a mewnfudwyr Ewrop yn byw yn y dinasoedd hyn felly mae amrywiaeth o ddiwylliannau yno. ","1239":"Norfuk ydy\u0092r iaith sy\u0092n cael ei siarad ar Ynys Norfuk gan y bobl leol. Mae\u0092n gymysgedd o\u0092r Saesneg o\u0092r 1700au a\u0092r iaith Tahit\u00efeg. Cafodd ei gyflwyno\u0092n wreiddiol gan bobl Ynysoedd Pitcairn a oedd yn siarad Pitkern. Mae Norfuk yn iaith swyddogol ar yr ynys yn ogystal \u00e2\u0092r Saesneg. \n\nYn dilyn datblygiadau gyda ffyrdd o deithio, mae mwy wedi symud mewn ac allan o\u0092r ynys, sydd wedi arwain at ddirywiad yr iaith. Fodd bynnag, mae\u0092r bobl yn gwneud ymdrech i sicrhau dyfodol yr iaith, gan annog mwy i\u0092w defnyddio drwy gynnig addysg i blant drwy gyfrwng Norfuk, gan gyhoeddi geiriaduron Saesneg-Norfuk, defnyddio\u0092r iaith mewn iaith arwyddo ac ailenwi atyniadau twristaidd i\u0092r iaith. Yn 2007, ychwanegodd Y Cenhedloedd Unedig y Norfuk at eu rhestr o ieithoedd sydd mewn peryg o ddiflannu. \n\nGan ei bod hi\u0092n haws teithio i Norfuk o wledydd Saesneg eu hiaith, fel Awstralia a Seland Newydd nag o Ynys Pitcairn, mae Norfuk wedi cael ei dylanwadu\u0092n fwy gan y Saesneg na gan Pitkern. Nid oes gan Norfuk eiriau i fynegi rhai cysyniadau, felly mae rhai wedi ei disgrifio fel Iaith Cant. Er hyn, mae ieithyddwyr nawr yn ei ddosbarthu fel iaith Creol, sef fersiwn M\u00f4r yr Iwerydd, er waethaf ei leoliad yn y M\u00f4r Tawel. Iaith lafar ac nid iaith ysgrifenedig yw hi, felly bu llawer o ymdrechion i ddatblygu orgraff yr iaith. Cyhoeddodd ieithydd o Awstralia, Alice Buffet lyfr \u0091Speak Norfuk Today\u0092 oedd yn datblygu gramadeg ac orgraff yr iaith. Mae\u0092r defnydd ohono yn dod yn fwfwy poblogaidd. \n","1242":"Anthem genedlaethol Cymru yw hen wlad fy nhadau. Cafodd y geiriau eu hysgrifennu gan Evan James, a chafodd y d\u00f4n ei chyfansoddi gan ei fab James James ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau o Bontypridd. Gwehydd oedd y mab a thelynor oedd y tad. Mae\u0092n debyg y cafodd y geiriau eu hysgrifennu fel ymateb i wahoddiad i\u0092r bardd gan ei frawd i ymuno gydag ef yn yr Unol Daleithiau, lle\u0092r oedd cynifer o Gymry\u0092r cyfnod yn mudo i chwilio am well byd. Cafodd y g\u00e2n yr enw \u0091Glan Rhondda\u0092 gan mai ar lannau\u0092r afon y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr. Cafodd ei pherfformio gyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856 gan gantores leol Elizabeth John, a daeth y g\u00e2n yn boblogaidd drwy\u0092r ardal. Cafodd y g\u00e2n ei hargraffu am y tro cyntaf yng nghasgliad Isaac Clarke, \u0091Gems of Welsh Melody\u0092 ym 1860. Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn wreiddiol James James, gan roi naws emynyddol i\u0092r g\u00e2n. Yn amseriad cyfansawdd 6\/8 oedd y gan yn wreiddiol. Cafodd ei chanu mewn g\u00eam rygbi rhyngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd ym 1905. Mae ei symudiad llyfn a\u0092r uchafbwyntiau sydd ynddi yn y gytgan yn ei gwneud yn g\u00e2n addas tu hwnt i dorfeydd, ac yn gyffredinol mae\u0092n cael ei hystyried ymhlith yr anthemau cenedlaethol gorau. ","1243":"Hen Wlad fy Nhadau ydy anthem genedlaethol Cymru. Y telynor James James o Bontypridd ysgrifennodd y d\u00f4n a\u0092i dad y bardd Evan James ysgrifennodd y geiriau yn 1856. Roedd y ddau o Bontypridd. \u0091Glan Rhondda\u0092 oedd ei henw gwreiddiol, a chafodd ei pherfformio yn gyntaf yng Nghapel Tabor ym Maesteg yn 1856, gan Elizabeth John. Daeth yn adnabyddus yn Eisteddfod Llangollen 1858 mewn cystadleuaeth o alawon Cymreig. Cafodd y geiriau a\u0092r alaw eu cyhoeddi gan Isaac Clarke yn Rhuthun, heb gydnabod y cyfansoddwyr gwreiddiol yn llyfr \u0091Gems of Welsh Melody\u0092 yn 1860. \nMae cop\u00efau llawysgrif cynnar o alaw James James yn awgrymu mai alaw ddawns 6\/8 oedd hi\u0092n wreiddiol. Trefnodd Owain Alaw y fersiwn c\u00e2n dorfol boblogaidd. Cafodd ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865 a Bangor yn 1874. Cafodd ei chanu mewn g\u00eam rygbi am y tro cyntaf yn g\u00eam Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. \nCafodd y recordiad Cymraeg cyntaf ei wneud o\u0092r g\u00e2n yn 1899 yn Llundain. Madge Breese oedd y gantores. Mae disg 7 modfedd o\u0092r recordiad gwreiddiol yn rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Mae fersiynau o\u0092r anthem i\u0092w cael yng Nghernyw, Llydaw a hyd yn oed yn India. Mae\u0092n debyg bod pobl y Khasi wedi mabwysiadu\u0092r anthem dan y teili \u0091Ri Khasi\u0092, ar \u00f4l i genhadon meddygol Cymraeg fynd yno. Gwnaeth Tich Gwilym fersiwn roc o\u0092r gan yn y 70au.\n","1244":"Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Evan James (1809-1878) ysgrifennodd y geiriau a\u0092i fab James James (1833-1902) a gyfansoddodd y d\u00f4n ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn dod o Bontypridd.\n\nYn \u00f4l yr hanes, cafodd yr anthem ei hysgrifennu ar \u00f4l i frawd Evan James geisio ei annog i symud i\u0092r Unol Daleithiau i fyw bywyd gwell. Mae\u0092r geiriau yn mynegi bod Cymru yn ddigon da iddo. Glan Rhondda oedd enw\u0092r g\u00e2n i ddechrau, gan mai ar lannau\u0092r afon honno y daeth yr alaw i feddwl James James am y tro cyntaf.\nCafodd 'Glan Rhondda' ei pherfformio am y tro cyntaf mewn festri capel ym Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John.\nDaeth y g\u00e2n yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn 1858, ar \u00f4l i Llewelyn Alaw o Aberd\u00e2r ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y g\u00e2n i Evan a James James!\nDyma\u0092r geiriau:\n\nMae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,\nGwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;\nEi gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,\nDros ryddid collasant eu gwaed.\n\nCytgan\nGwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.\nTra m\u00f4r yn fur i'r bur hoff bau,\nO bydded i'r heniaith barhau.\n\nHen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,\nPob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;\nTrwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si\nEi nentydd, afonydd, i mi.\n\nCytgan\n\nOs treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,\nMae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,\nNi luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,\nNa thelyn berseiniol fy ngwlad.\n\nCytgan","1246":"Mae siryf yn gynrychiolydd cyfreithiol y Brenin. Mae un yn cael ei benodi\u0092n flynyddol ym mhob sir yng Nghymru a Lloegr i gadw heddwch yn ei sir ac i wneud yn si?r bod pobl yn ufudd i\u0092r gyfraith. Roedd y swydd yn un rymus i ddechrau, ond erbyn hyn swydd seremon\u00efol yw hi. Yn Sir Aberteifi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd siryf gwahanol bob blwyddyn. Roedd y rhan fwyaf yn byw yn y sir, er bod un o Sir Gaerfyrddin (1819), un o Swydd Gaerloyw a Falcondale (1824) ac un o Wlad yr Haf (1883). Ym 1852 cafodd y siryf cyntaf ei ddisodli yn ystod y flwyddyn. Doedd neb wedi treulio mwy na flwyddyn yn y swydd. ","1247":"Roedd llawer iawn o Siryfion yn Sir Aberteifi yn y 19eg ganrif. Siryf ydy\u0092r enw sydd yn cael ei roi ar gynrychiolydd cyfreithiol y Brenin ac mae\u0092r siryfion yn cael eu dewis bob blwyddyn ar gyfer pob sir yng Nghymru a Lloegr. Mae gan y Siryfion ddyletswydd i gadw heddwch yn ei sir a sicrhau bod pobl yn dilyn rheolau ac yn ufuddhau i gyfraith y Brenin. Roedd y swydd yn arfer bod yn swydd oedd yn cynrychioli statws a grym, ond erbyn heddiw mae\u0092r swydd yn un seremon\u00efol yn bennaf. Y siryf cyntaf i gael ei ethol yn y 19eg ganrif oedd Thomas Lloyd. Cafodd ei ethol ar y 5ed o Chwefror dros Gilgwyn. Rhai o\u0092r unigolion eraill a gafodd eu hethol yn y 1810au oedd John Lloyd dros Mabws ym 1803, Lewis Bayly Wallis dros Peterwell ym 1806 a William Skyrme dros Alltgoch ym 1809. Yna yn negawd olaf y ganrif, cafodd unigolion fel Wilmot Inglis Jones ei ethol ym 1891 dros Derry Ormond, John Francis ym 1893 dros Wallog Bow Street a Syr James Szlumper Weeks ym 1898 dros Kt. Sandmarsh, Aberystwyth. ","1250":"Mae tai crefydd Cymru yn adeiladau crefyddol ar gyfer cymuned o fynachod neu leianod yng Nghymru. Maent yn cael eu dosbarthu yn Abatai, sef sefydliadau mawr dan reolaeth Abad, a Phriordai, sefydliadau llai oedd yn gysylltiedig ag abatai. \n\nYn y cyfnod cynnar, y sefydliad nodweddiadol oedd y Clas. Roeddent yn wahanol i fynachlogydd diweddarach ac yn amrywio o le i le. Roedd y rheolau llawer yn fwy llac nac ym mynachlogydd diweddarach, gan roedd aelodau\u0092n rhydd i briodi, cael plant a pherchen tir. Roeddent mwy fel cymunedau felly. \n\nCafodd y Sistersiaid, sef urdd o fynachod, eu cyflwyno i Gymru gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif. Cafodd eu galw \u0091Y Brodyr Gwynion\u0092 oherwydd eu gwisgoedd gwyn. Daethant yn rhan o\u0092r diwylliant Cymreig yn y gorllewin a\u0092r gogledd a chwaraeon nhw rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes. Daeth Urdd Sant Ffransis i Gymru yn fuan ar \u00f4l marwolaeth Sant Ffransis. Sefydlodd Llywelyn Fawr d? iddynt ar Ynys M\u00f4n, ac fe ychwanegon nhw dai Ffransisgaidd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Cafodd nifer o dai Ganoniaid Rheolaidd eu sefydlu yn dilyn y rheol Awstinaidd, gan gynnwys Priordai ym Mhenmon, Caerfyrddin a Llanddewi Nant Hodni. Cafodd nifer o dai crefydd Benedictaidd eu sefydlu hefyd, a Phriordy Cas-gwent oedd y cyntaf. Roedd pob un yn y de ac wedi\u0092u sefydlu gan arglwydd Normanaidd. \n\nYn ystod teyrnasiad Harri VIII, roedd diddymiad y mynachlogydd. Arweiniodd hyn at gau pob un o dai crefydd Cymru. Cafodd rhai eu hailgychwyn yn ddiweddarach ar raddfa lai gan yr Eglwysi Catholig ac Anglicanaidd. ","1252":"Heddlu Abu Dhabi yw\u0092r asiantaeth gorfodaeth cyfraith sylfaenol yn Emirat Abu Dhabi, un o\u0092r Emiraethau Arabaidd Unedig. O dan orchymyn y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Mewnol, Heddlu Abu Dhabi sy\u0092n gyfrifol am orfodi cyfraith droseddol, gwella diogelwch y cyhoedd, cynnal trefn a chadw\u0092r heddwch ar draws yr Emirat. \n\nRoedd Heddlu Abu Dhabi wedi cael dechrau yn 1957 gan reolwr Abu Dhabi ar y pryd. \nRoedd tasgau i 80 o heddweision oedd yn cynnwys gwarchod lleoliadau brenhinol, marchnadoedd a banciau. Roedd hi\u0092n ofynnol i\u0092r heddweision fonitro cychod cyfagos. Erbyn 1959, roedd nifer yr heddweision wedi tyfu i fwy na 150 ac roedd Adran yr Heddlu wedi\u0092i lleoli i\u0092r gogledd o Balas Al-Hosn ynghanol Dinas Abu Dhabi. \n\nAr 1 Tachwedd 1971, roedd yna orchymyn i gydnabod cyfarpar y llywodraeth trwy sefydlu amrywiaeth o Weinyddiaethau a Chyngor y Gweinidogion yn Emirat Abu Dhabi. Ymhlith y Gweinyddiaethau yma oedd y Gweinidog Mewnol. Roedd Heddlu Abu Dhabi wedi troi yn Weinyddiaeth Fewnol leol. Roedd Heddlu Abu Dhabi yn gyfrifol am sefydlu diogelwch a sefydlogrwydd yn yr Emirat.\n\nYm mis Rhagfyr 1979, roedd yna benderfyniad ar y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer uno Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi i\u0092r Weinyddiaeth Fewnol. Roedd y penderfyniad yn nodi bod Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi yn rhan o\u0092r heddlu ffederal a\u0092r lluoedd diogelwch sy\u0092n gysylltiedig \u00e2\u0092r Weinyddiaeth Fewnol.\n","1253":"Heddlu Abu Dhabi yw\u0092r asiantaeth gorfodaeth cyfraith sylfaenol sy\u0092n gyfrifol am orfodi cyfraith droseddol, gwella diogelwch y cyhoedd, cynnal trefn a chadw heddwch yn Emirat Abu Dhabi, sef un o\u0092r Emiraethau Arabaidd Unedig. Ei enw presennol yw Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi. Mae esblygiad Heddlu Abu Dhabi wedi digwydd mewn pedwar cam cynradd. Y cam cyntaf oedd y Cam Sylfaenol (1957-1966), sef ei sefydlu yn 1957 gan reolwr Abu Dhabi ar y pryd, Sheikh Shakbut bin Al Nahyan, a gorchwylion yn cynnwys gwarchod lleoliadau brenhinol, marchnadoedd, banciau, cychod a delio \u00e2 phryderon ac anghydfodau. Ail gam esblygiad Heddlu Abu Dhabi oedd y Cam Adeiladu (1966-1979) yn sgil y sylw a rodd Zayed bin Sultan Al Nahyan (1918-2004), sef rheolwr Abu Dhabi ac Arlywydd cyntaf yr Emiraethau Arabaidd Unedig, ar ei ddatblygiad. Ar 1 Tachwedd 1971, trodd Heddlu Abu Dhabi yn Weinyddiaeth Mewnol leol. Y trydydd cam oedd y Cam Blaengar (1979-1995), gyda Mubarak bin Mohamed Al Nahyan, y Gweinidog Mewnol, yn cyhoeddi yn Rhagfyr 1979 y byddai Pencadlys Cyffredinol Heddlu Abu Dhabi yn rhan o'r heddlu ffederal a'r lluoedd diogelwch sy'n gysylltiedig \u00e2'r Weinyddiaeth Mewnol, ac y byddai'n cael ei drin fel Cyfarwyddiaeth Gyffredinol. Mae\u0092r Cam Moderneiddio (1995- presennol) yn cynnwys Saif bin Zayed Al Nahyan yn cymryd r\u00f4l Comander General Heddlu Abu Dhabi ym 1995, gyda\u0092r heddlu yn tyfu ac yn ailstrwythuro llawer fel sefydliad, yn ogystal \u00e2 datblygu targedau strategol cryno, a ffocysu ar ddatblygu gweithwyr a chaffaeliadau technoleg sylweddol. ","1256":"CR9_499_Yr Iseldiroedd \n\nMae\u0092r Iseldiroedd yn wlad a theyrnas ar lan M\u00f4r y Gogledd yng ngorllewin Ewrop, sy'n rhannu ffin \u00e2'r Almaen a Gwlad Belg. Y brifddinas yw Amsterdam, ac Iseldireg yw\u0092r iaith swyddogol. \n\nCafodd tiriogaeth bresennol yr Iseldiroedd ei gyfanheddu yn Hen Oes y Cerrig. \n\nSefydlu Cwmni Iseldiraidd Dwyrain India yn 1602 oedd yr hyn a ddechreuodd ymerodraeth drefedigaethol yr Iseldiroedd. Roedd y trefedigaethau yn cynnwys Cura\u00e7ao yn y Carib\u00ee, de Affrig, Mauritius, Seland Newydd a Tasmania. O 1641 hyd at 1853, roedd gan yr Iseldiroedd fonopoli ar fasnach gyda Siapan. \n\nMae tua 40% o'r wlad, gan gynnwys ardaloedd poblog y gorllewin, yn is na lefel y m\u00f4r. Mae\u0092r de-orllewin wedi\u0092i ffurfio gan ddelta anferth sydd wedi ei greu gan dair afon fawr, Afon Rhein, Afon Waal ac Afon Schelde. \n\nY man uchaf yn yr Iseldiroedd yw bryn y Vaalserberg, sydd 322.7 metr yn uwch na lefel y m\u00f4r. Mae\u0092r pwynt isaf yng nghymuned Nieuwerkerk aan den IJssel, sydd 6.76 medr o dan lefel y m\u00f4r. \n\nGyda phoblogaeth o 16,491,461 ac arwynebedd y wlad yn 41,526 km\u00b2, mae dwysedd poblogaeth yr Iseldiroedd yn uchel. \n\nPobl yr Iseldiroedd yw'r bobl dalaf yn y byd, gyda chyfartaledd uchder o 1.83m i ddynion a 1.70m i ferched. \n\nMae'r gyfradd genedigaethau yn 1.75 plentyn i bob merch. Mae twf y boblogaeth yn gymharol araf, gyda 10.9 genedigaeth a 8.68 marwolaeth i bob mil. \n\nMae yna fewnfudo i'r Iseldiroedd ac o\u0092r trigolion sydd ddim yn Iseldirwyr ethnig, y grwpiau mwyaf yw Indonesiaid, Almaenwyr, Twrciaid a Swrinamiaid. ","1257":"Cafodd Neuadd y Ddinas ei hadeiladu rhwng 1901 a 1905 ym Mharc Waun Ddyfal, Caerdydd. Cafodd ei chynllunio ar y cyd gydag adeilad Llys y Goron Caerdydd gan benseiri Henry Lanchester, James Stewart ag Edwin Rickards. Enillodd y penseiri wobr am gynllunio\u0092r ddau adeilad yn 1897. Roedd seremoni gosod y maen cyntaf i Neuadd y Ddinas yn 1901 a fe agorodd y neuadd yn swyddogol yn 1906 gan Ardalydd Bute. Enillodd Caerdydd ei statws fel dinas yn y flwyddyn cynt. Roedd beth gafodd ei adeiladu yn wahanol iawn i beth gafodd ei gynllunio gan y penseiri, ac roedd hyn yn anarferol iawn i bensaern\u00efaeth Bar\u00f3c Edwardaidd yr amser oedd yn cyfeirio at waith y pensaer Syr Christopher Wren. Mae\u0092r cerfluniau yn cynnwys ffigyrau sydd yn cynrychioli afonydd Caerdydd ac alegor\u00efau o Gerddoriaeth a Barddoniaeth ac Undod a Gwladgarwch. Mae dau gr?p arall o gerfluniau sydd yn cyfateb i alegor\u00efau y llysoedd barn a dyma\u0092r unig enghraifft ym Mhrydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd. Gwaith y cerflunydd Fehr yw'r ddraig ar ben y gromen. \nCaiff y grisiau sydd yn arwain at yr Ystafell Gynnull eu llenwi \u00e2 cherfluniau o arwyr Cymreig. David Alfred Thomas wnaeth ariannu hyn, a Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a W. Llewelyn Williams farnodd pwy oedd yn cael eu coff\u00e1u. Agorodd y Neuadd Farmor gan y Gweinidog Rhyfel David Lloyd George yn 1916. Mae\u0092n rhan o ddiwylliant poblogaidd wrth iddo ymddangos ar glawr y sengl \u0093Mulder and Scully\u0094 (1998) gan Catatonia. \n","1258":"Adeiladwyd Neuadd y Ddinas rhwng 1901 a 1905 ym Mharc Cathays. \n\nRhwng 1742 a 1747, codwyd neuadd newydd yng nghanol y Stryd Fawr ar \u00f4l i\u0092r hen adeilad, lle'r oedd farchnad, cael ei chwalu. Ail agorwyd marchnad yn yr adeilad newydd a charchar ar y llawr gwaelod. \n\nCafodd cystadleuaeth ei chynnal ar gyfer adeiladu ym Mharc Cathays ac enillwyd gan bartneriaeth a ffurfiwyd yn arbennig am y gystadleuaeth. Agorwyd y Neuadd yn swyddogol ac enillodd Caerdydd ei statws fel dinas. \n\nCafodd Awstria, de\u0092r Almaen a Ffrainc dylanwadau cryf ar y cynlluniau adeiladu yn dilyn y gystadleuaeth. Mae cerfluniau i gael sydd yn cynrychioli afonydd Caerdydd ac alegor\u00efau o gerddoriaeth, barddoniaeth, undod a gwladgarwch. Mae yna dau gr?p arall o gerfluniau sy'n cyfateb i'r ddau uchod ar ffas\u00e2d y llysoedd barn a dyma'r unig enghraifft yng ngwledydd Prydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd. \n\nYn 1916, agorwyd y Neuadd Farmor gan Weinidog Rhyfel ar y pryd ag oedd yn llawn cerfluniau o arwyr Cymreig, yn cynnwys Dewi Sant, Gerallt Gymro, a 9 eraill. \n\nMewn delwedd ysbrydolwyd gan boster y ffilm Independence Day, mae Neuadd y Ddinas yn ymddangos ar glawr y sengl \u0093Mulder and Scully\u0094 (1998) gan Catatonia. ","1262":"O gymharu hanes y Ddrama yn Gymraeg a gwledydd eraill e.e. India, mae\u0092i hanes yn fyr iawn oherwydd ni chafodd y cyfle i ddatblygu\u0092n llawn tan yr 20g. Ond erbyn heddiw, o ganlyniad i S4C a dram\u00e2u teledu, mae\u0092r ddrama yn rhan bwysig o\u0092r diwylliant Cymraeg. Twm o\u0092r Nant, Saunders Lewis a Gwenlyn Parry yw rhai o ddramodwyr mwyaf adnabyddus y wlad. \nCafodd twf y ddrama yng Nghymru ei rhwystro gan ffactorau daearyddol ac economaidd. Nid oedd gan Gymru drefi mawr fel oedd yn Ffrainc a Lloegr i gynnal y theatr gan ei mai gwlad o gymunedau a threfi bychain ydoedd. \nMae rhai o\u0092r dram\u00e2u cynharaf sydd wedi goroesi yn perthyn i ail hanner y 15g. Ni chafodd Gymru oes aur i\u0092r ddrama yn yr 16eg, fel yn achos Lloegr. Daeth yr anterliwt yn boblogaidd iawn yn ail hanner yr 18g. Roedd yn cael ei chwarae i ddiddanu pobl mewn ffeiriau, yn y dafarn neu ar fuarth fferm. Ond bu farw\u0092r anterliwt pan welodd Gymru newidiadau cymdeithasol ar ddechrau\u0092r 19g. \nNi fu\u0092r ddrama yng Nghymru yn llewyrchus iawn wedi marwolaeth yr anterliwt tan yr 20g. Yn y 1870au, dechreuodd llenorion ymddiddori yn y ddrama seciwlar. Annogodd gwobrau mewn eisteddfodau am y ddrama orau, ddramodwyr newydd. Ond, roedd safon rhain yn isel ac roedd llawer ohonynt yn ddram\u00e2u hanes neu Feiblaidd gydag elfen amlwg o\u0092r pasiant. Cafodd y dram\u00e2u yma ymateb gwael. Gwelwyd newid cyfeiriad wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 pan alwodd David Lloyd George am nawdd i hybu'r ddrama yn Gymraeg.\n","1263":"Llun a gafodd ei greu gan ddyn galluog a gwybodus o\u0092r enw Leonardo da Vinci tua\u0092r flwyddyn 1490 ydy\u0092r Dyn Vitruvius. Mae\u0092r llun wedi cael ei ddilyn gan nodiadau sydd yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig, Vitruvius. Mae\u0092r llun wedi cael ei wneud gan bapur ac inc ac mae\u0092r llun yn dangos dyn mewn si\u00e2p penodol efo\u0092i freichiau a\u0092i goesau ar led mewn cylch a sgw\u00e2r. Cafodd y llun ei gyhoeddi gyntaf ym 1810 ond fe wnaeth y llun gyrraedd ei boblogrwydd ar \u00f4l iddo gael ei ail-gyhoeddi ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae\u0092r llun yn cael ei gadw yn Gabinetto dei disegni e delle stampe y Gallerie dell'Accademia yn Fenis. Mae\u0092r llun yn dangos cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni ond hefyd mae\u0092n dangos dealltwriaeth Leonardo da Vinci o gyfrannedd fathemategol. Fe wnaeth llawer o artistiaid drio llunio lluniau tebyg i lun Leonardo da Vinci a thrio cael y corff dynol i ffitio mewn i sgw\u00e2r a chylch. Mae\u0092n bosib fod Leonardo da Vinci wedi cael ei ysbrydoli yn wreiddiol i wneud y llun hwn gan ei ffrind Giacomo Andrea. Fe wnaeth Giuseppe Bossi brynu\u0092r llun gan Gaudenzio de 'Pagave. Ond, ar \u00f4l i Bossi farw ym 1815, fe wnaeth y Gallerie dell'Accademia yn Fenis brynu\u0092r llun ym 1822 ac mae\u0092r llun wedi aros yno ers hynny. ","1267":"Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd cred fawr mewn gwrachyddiaeth a dewiniaeth. Am amser hir credwyd b od gwrachod a dewiniaid da a drwg. Credwyd bod gan wrachod a dewiniaid da bwerau i iachau a\u0092r gallu i gadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Ond dechreuodd dewiniaeth a gwrachyddiaeth cael ei gysylltu gyda\u0092r syniad bod cytundeb neu berthynas gyda\u0092r diafol. Roedd cred bod y gwrachod a\u0092r dewiniaid yn derbyn ei phwerau oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol gyda\u0092r diafol. Erbyn diwedd yr 15g roedd gwrachyddiaeth yn cael ei weld fel trosedd. Dechreuodd ymgyrchoedd erlid a cheisio dileu gwrachyddiaeth yn llwyr.\n\n\nDaeth erlid gwrachod yn arfer cyffredin drwy Ewrop gyfan. Arweiniodd at lawer o fenywod yn cael eu cyhuddo o gwrachyddiaeth ac yna yn cael eu profi a\u0092u dienyddio. Un o helwyr gwrachod enwocaf Lloegr oedd Matthew Hopkins.\n\nUn achos enwog o gwrachyddiaeth oedd Achos Dorothy Griffith, 1656. Mae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn dangos bod gwrachod wedi cael eu herlyn yn Sir y Fflint. Un ohonynt oedd Dorothy Griffith. Wnaeth William Griffith, morwr o Bicton, cyhuddo Dorothy Griffin o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes tystiolaeth er mwyn gwybod pam wnaeth William Griffith cyhuddo Dorothy Griffith am hyn, ond mae\u0092n debyg bod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd.\n","1268":"Mae\u0092r Undeb Ewropeaidd yn gymuned wleidyddol ac economaidd sy\u0092n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Mae ganddo nodweddion goruwch genedlaethol a rhynglywodraethol. Cafodd ei sefydlu ym 1993 gan Gytundeb Maastricht. Creodd farchnad sengl i warantu\u0092r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf rhwng yr aelod-wladwriaethau heb rwystrau. \n\nMae\u0092n cynnwys polis\u00efau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Cyflwynodd yr UE arian cyfredol yn 1999, sef yr ewro, a chafodd ei fabwysiadu gan 13 aelod-wladwriaeth. Yn ogystal, mae wedi datblygu r\u00f4l mewn materion polisi tramor, cyfiawnder a materion cartref. \n\nMae ganddo bum sefydliad swyddogol, gan gynnwys Senedd Ewrop, lle mae dinasyddion yn ethol yr aelodau bob pum mlynedd. Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau answyddogol eraill sy\u0092n bwysig. Cafodd y Deyrnas Unedig refferendwm yn 2016 i ofyn a ddylai adael yr UE neu beidio. Roedd yn ganlyniad agos, gyda mwyafrif bach yn pleidleisio i adael o 52% i 48%. \n\nEnw gwreiddiol yr undeb oedd Cymuned Ewropeaidd Economaidd pan gafodd ei greu yn 1957 gan chwe gwlad. Ei bwrpas oedd rhwystro hunllef rhyfel arall yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd fel undeb masnach a datblygodd i mewn i undeb economaidd a gwleidyddol. Mae yna pum gwlad sy\u0092n ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o\u0092r UE. Nawr, dyma yw gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus y byd, gyda nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i\u0092r UE. Mae felly\u0092n datblygu\u0092n debyg i wladwriaeth ffederal. Mae hyn yn cael ei gydbwyso gan y ffaith fod gan sawl aelod-wladwriaeth draddodiad o lywodraeth gref.","1270":"Mae\u0092r Undeb Ewropeaidd yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd \u00e2 nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae\u0092n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. \n\nRoedd yr UE wedi cael ei sefydlu yn 1993 gan Gytundeb Maastircht. Er hyn, roedd y broses o integreiddio Ewropeaidd wedi cychwyn gyda\u0092r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oedd wedi cael ei llunio gan chwe gwlad Ewropeaidd yn 1957.\n\nRoedd yr UE wedi creu masnach sengl sy\u0092n ceisio caniat\u00e2u\u0092r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf heb rwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae\u0092r UE yn cynnwys polis\u00efau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Yn 1999, roedd yr UE wedi cyflwyno arian cyfredol cyffredin, sef yr iwro oedd wedi cael ei fabwysiadu gan 13 aelod-wladwriaeth. \n\nGyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, roedd yr UE wedi cynhyrchu cynnyrch mewnwladol crynswth y pen o \u008011.4 triliwn yn 2007. Mae\u0092n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd. Mae 21 o aelodau\u0092r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd. \n\nYn y DU, roedd refferendwm wedi cael ei chynnal yn 2016 ar y cwestiwn, \u0091a ddylai\u0092r DU adael yr UE neu aros yn aelod?\u0092 Roedd mwyafrif pleidleisiau\u0092r Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal ag ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hyn, roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%.\n","1273":"CR9_503_Bywydeg \n\nMaes gwyddonol sy\u0092n ymdrin \u00e2 bywyd ac organebau byw yw Bywydeg. Mae\u0092n ymwneud \u00e2 sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu. \n\nMae Bywydeg yn cael ei rannu'n is-feysydd yn \u00f4l gr?p tacsonomaidd, megis botanegwyr yn astudio planhigion, s?olegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a microbiolegwyr yn astudio bacteria. \n\nDatblygiad eithaf diweddar yw bywydeg fel maes o astudiaeth wyddonol. O gwmpas dechrau\u0092r 19g, roedd y term bioleg yn cael ei ddefnyddio. \n\nTua 330CC, roedd Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yr Henfyd. Roedd gan Theophrastus hefyd ddiddordeb yn y byd naturiol a phlanhigion yn bennaf. \n\nTyfodd y maes yn dilyn datblygiad y microsgop yn yr 17g. Cafodd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis alg\u00e2u eu darganfod. Erbyn y 19g, roedd pwysigrwydd y gell i organebau byw yn amlwg. Yn 1838, cafodd theori cell ei ffurfio. \n\nYn 1735, cafodd Systema Naturae ei gyhoeddi er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol. \n\nYn y 19g, daeth esblygiad yn bwnc dan sylw. Yn 1859, cafodd detholiad naturiol ei ddefnyddio i egluro esblygiad. \n\nYn yr 20g, etifeddeg oedd y pwnc poblogaidd. Daeth yn amlwg fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl \u00e2 dau edafedd, un yn defnyddio'r llall fel templed. Yn yr 1940au, trwy arbrofi \u00e2 bacteria, daeth yn eglur mai DNA oedd y moleciwl hwn. \n\nMae system \u0091Tacsonomeg Linnaeaidd' yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu organebau byw mewn grwpiau. Trwy hyn, gellir gweld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd. ","1275":"Mae\u0092r Deyrnas Unedig (DU) yn cynnwys Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae\u0092r DU wedi\u0092i lleoli i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac mae\u0092n cael ei hamgylchynu gan F\u00f4r y Gogledd, M\u00f4r Udd a M\u00f4r yr Iwerydd. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, er nad ydynt yn rhan o\u0092r brif uned gyfansoddiadol. Llundain yw prifddinas y DU a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines yw pennaeth y wladwriaeth ac mae\u0092r llywodraeth yn gweithredu yn ei henw ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr.\nDaeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10g. Yna, trwy\u0092r Ddeddf Uno daeth Gymru yn rhan o Deyrnas Lloegr a gyda Deddf Uno arall, cytunodd seneddau Lloegr a'r Alban i uno eu teyrnasoedd fel Teyrnas Prydain Fawr.\nCyfrannodd y DU at ddatblygiad democratiaeth seneddol ac yn y byd gwyddoniaeth. Roedd y Deyrnas hefyd yn dominyddu mewn diwydiant a grym morwrol yn y 19g. Ar ei chryfaf, roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn teyrnasi dros chwarter y ddaear. Yna\u0092n ystod hanner cyntaf yr 20g, gwanhaodd nerth y DU. \nMae\u0092r DU yn aelod o\u0092r Gymanwlad, Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO), Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a\u0092r Gymuned Ewropeaidd. Gadawodd y DU'r Undeb Ewropeaidd yn 2020 yn dilyn refferendwm. \nMae\u0092r DU yn fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol ac mae ganddi un o\u0092r econom\u00efau mwyaf yng ngorllewin Ewrop. \nSaesneg yw\u0092r brif iaith ond mae\u0092r ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg a Sgoteg.","1279":"Gosodiad cerddorol o rannau o wasanaeth Cristnogol yr offeren yw cerddoriaeth yr offeren. Mae wedi cael ei chanu ers oes foreuaf yr eglwys. Y blaensiant oedd y gerddoriaeth gynharaf wedi ei chyfansoddi i gyd-fynd \u00e2 geiriau Lladin y litwrgi yn yr Eglwys Gatholic Rufeinig. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol cafodd cerddoriaeth bolyffonig ar gyfer yr Offeren. Proper yr Offeren yw\u0092r enw ar rannau\u0092r ffurfwasanaeth sydd yn amrywio o dymor i dymor ac o ddydd i ddydd, ac ordinari\u0092r offeren yw\u0092r testunau sy\u0092n cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Yn aml byddai\u0092r offeren yn cynnwys yr Offeren Isel sy\u0092n cael ei lefaru neu ei lafarganu yn undonog, a\u0092r Uchel Offeren sy\u0092n cael ei chanu ar alaw. Ers y diwygiad Protestannaidd, roedd yr offeren yn cael ei chynnal gan enwadau eraill sy\u0092n tarfu o Eglwys y Gorllewin, yn bennaf y Lwtheriaid a\u0092r Anglicaniaid. Mae\u0092r offeren yn cael ei channu yn iaith y werin gan yr eglwysi diwygiedig, a chafodd cerddoriaeth eglwysig ei chyfansoddi yn nulliau newydd yn ystod y Dadeni a\u0092r oes far\u00f3c. Ers y diwygiadau Ail Gyngor y Fatican, cafodd ieithoedd ar wah\u00e2n i Ladin ei defnyddion yn offeren yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Defodau gwahanol a gafodd ei ymarfer gan Eglwys y Dwyrain, sy\u0092n canu ffurfwasanaethau enwadau dwyreiniol gan amlaf drwy gyfrwng y blaengan, megis y Siant Fysantaidd a\u0092r Siant Goptaidd. ","1280":"Mae Canol Dinas Abertawe yn ymestyn dros Ward y Castell a Ward yr Uplands. Mae\u0092r ardal yn ehangu tua\u0092r dwyrain yn sgil datblygiadau. Cafodd canol y ddinas ei bomio yn wael yn ystod Blitz Tair Noson 1941. Cafodd 41 erw a 857 o adeiladau eu dinistrio, a bu\u0092n rhaid i lawer o fusnesau adleoli. Cafodd y ddinas ei hadfer dros nifer o flynyddoedd, a chafodd y prif ganolfan siopa ei hail-adeiladu o amgylch y Ffordd y Brenin newydd.\n Mae Marchnad Abertawe, Canolfan Siopa\u0092r Cwadrant a Chanolfan Siopa Dewi Sant yng nghanol y ddinas. Mae nifer o siopau cenedlaethol a lleol ar Stryd Rhydychen. Cafodd canolfan siopa'r Cwadrant o\u0092r 1970 ei ailwampio yn y 1990au efo to gwydr. Mae marchnadoedd agored ar strydoedd canol y ddinas yn digwydd dros y Nadolig.\nMae Castell Abertawe yn sefyll gyferbyn \u00e2 Sgw\u00e2r y Castell. Mae Gorsaf Drenau Abertawe a Gwesty\u0092r Grand ar ben arall y stryd fawr. Rhwng yr orsaf a\u0092r castell mae nifer o dafarndai, siopau a bwytai. Mae Ffordd y Brenin yn rhedeg hyd at Ffordd y Dywysoges yn y dwyrain. Ffordd y Brenin a Stryd y Gwynt ydy cartref clybiau nos Abertawe. Cafodd rhan uchaf Ffordd y Dywysoges ei chau er mwyn gwella canol y ddinas ar gyfer cerddwyr. Mae rhan uchaf Ffordd y Dywysoges yn cael ei datblygu, a chanolfan siopa yn agor ar safle lle roedd hen siop David Evans arfer bod.\n","1281":"Cafodd canol dinas Abertawe ei bomio\u0092n ddifridol ym 1941 yn ystod Y Blitz. Cafodd 41 erw ei dinistrio gan gynnwys 857 o adeiladau yng nghanol y ddinas. Bu\u0092n rhaid adleoli nifer o fusnesau a chafodd canolfan siopa newydd ei hadeiladu ar Ffordd y Brenin.\n\nMae nifer o siopau yng nghanol dinas Abertawe ac mae dwy ganolfan siopa yno, Canolfan Siopa'r Cwadrant a Canolfan Siopa Dewi Sant. Stryd Rhydychen yw\u0092r brif stryd ar gyfer siopa, sy\u0092n gartref i nifer o gwmniau cenedlaethol a siopau lleol. Mae castell Abertawe yng nghanol y ddinas hefyd.\n\nAgorwyd Canolfan Siopa\u0092r Cwadrant ar ddiwedd y 1970au, ond ailwampiwyd y ganolfan yn gyfan gwbl yn y 1990au, gan do gwydr i oleuo\u0092r arcedau. Mae siopau Debenhams a Boots ymysg y siopau mwyaf yn y ganolfan. Mae maes parcio aml-lawr ger y ganolfan, ac mae Gorsaf Fysiau Abertawe gerllaw hefyd.\n\nStryd y Gwynt yw\u0092r lle i fynd allan gyda\u0092r nos erbyn hyn, ond roedd Ffordd y Brenin yn boblogaidd iawn hefyd, ac mae nifer o glybiau nos mwyaf Abertawe ar y stryd honno.\n\nYn ystod y 1990au, caewyd rhan uchaf Ffordd y Dywysoges er mwyn gwneud canol y ddinas yn fwy hygyrch i gerddwyr. Cafodd Sgwar y Castell ei gael ei adnewyddu a\u0092i ddatblygu tua\u0092r un pryd. Cafodd y ffyrdd eu gwella eto yn 2005.","1282":"Mae Cristnogaeth yng Nghymru wedi effeithio a dylanwadu llawer ar lenyddiaeth a diwylliant y wlad. Mae llawer dal yn ystyried eu hunain fel Cristnogion hyd heddiw, ond mae Seciwlariaeth ac Anffyddiaeth (ddim yn coelio mewn Duw) wedi cynyddu dros y blynyddoedd hefyd. Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn mynd mor bell yn \u00f4l ag oes y Rhufeiniad ac mae\u0092n debyg mai yn y trefi a\u0092r dinasoedd Rhufeinig yr oedd y Cristnogion cyntaf. Pan ddaeth y Normaniaid i Gymru yn y 1070au, daeth newid mawr i\u0092r drefn grefyddol a chafodd trefn esgobaethol ei sefydlu gan greu pedair Esgobaeth yng Nghymru. Am weddill yr Oesoedd Canol, yr oedd Cymru yn wlad Gatholigaidd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y cafodd y plwyfi eu sefydlu. Ar ddiwedd y 1530au, cafodd y mynachlogydd i gyd eu dinistrio a gyda\u0092r Diwygiad Protestannaidd, cafodd Cymru ei wneud yn wlad Brotestannaidd gydag Eglwys Lloegr yn rheoli Cymru a Lloegr. Ym 1588, cafodd y cyfieithiad cyntaf o\u0092r Beibl i\u0092r Gymraeg ei gyhoeddi gan William Morgan. Daeth yr Ysgol Sul yn boblogaidd ar ddechrau\u0092r 19eg ganrif. Hefyd, yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, cynyddodd y nifer o eglwysi yng Nghymru. Cynyddodd y nifer o eglwysi o 100 ym 1775 i 684 ym 1851. Daeth yr eglwys yn lle oedd yn gallu dylanwadu ar wleidyddiaeth a chafodd nifer o gymdeithasau llenyddiaeth, drama a theithiau Ysgol Sul eu trefnu. Yn \u00f4l Cyfrifiad 2001, mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn galw eu hunain yn Gristnogion.","1283":"Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn mynd yn \u00f4l tua 1500 o flynyddoedd yn \u00f4l, o amser y Rhufeiniaid hyd heddiw. Mae hanes Cristnogaeth yn chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru ac mae wedi dylanwadu ar lenyddiaeth a diwylliant y wlad. Mae Cymru yn dal i gael ei hystyried fel gwlad Gristnogol heddiw, ond erbyn heddiw mae sawl crefydd arall yn cael ei dilyn hefyd. Daeth Cristnogaeth i Brydain yn y cyfnod Rhufeinig ac mae\u0092n debyg mai yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig yr oedd y Cristnogion cyntaf. Daeth newid mawr i grefydd a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol pan gyrhaeddodd y Normaniaid yn y 1070au. Cafodd y drefn eglwysig Gymreig ei ail-drefnu ac yn ei lle cafodd trefn esgobaethol ei sefydlu gyda phedair esgobaeth dros Gymru gyfan. Dyma\u0092r cyfnod hefyd pan gafodd plwyfi eu sefydlu cyntaf yng Nghymru. Am weddill yr Oesoedd Canol, roedd Cymru yn wlad Gatholigaidd. Fe wnaeth Cymru droi yn wlad Brotestannaidd o ganlyniad i\u0092r Diwygiad Protestannaidd ac ym 1588, cafodd y Beibl ei gyfieithu i\u0092r Gymraeg am y tro cyntaf gan William Morgan. Daeth capeli yn lle pwysig yn y gymdeithas er mwyn cael pobl at ei gilydd, gyda llawer o nosweithiau cymdeithasol yn cael eu trefnu yn ogystal \u00e2 thripiau Ysgol Sul i blant. Yn \u00f4l cyfrifiad 2001, mae 71.9% o bobl yng Nghymru yn galw eu hunain yn Gristnogion, er, mae\u0092r nifer sydd yn mynychu\u0092r eglwysi a\u0092r capeli yn llawer is. ","1288":"Cerdd arwrol yn Gymraeg canoloesol yw \u0091Y Gododdin\u0092. Yn draddodiadol, mae\u0092r gerdd yn cael ei phriodoli i\u0092r bardd Aneirin. Mae\u0092n gyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin, yn ne\u0092r Alban a\u0092i chynghreiriad, a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl o deyrnas Deifr mewn lle o\u0092r enw Catraeth. \n\nEr bod ysgolheigion yn cytuno byddai\u0092r frwydr sy\u0092n cael ei choff\u00e1u yn y gerdd wedi digwydd tua\u0092r flwyddyn 600, mae dadl ynghylch oed y gerdd. Mae rhai ysgolheigion yn credu bod y gerdd wedi cael ei chyfansoddi yn ne\u0092r Alban yn fuan wedi\u0092r frwydr. Ond mae eraill yn credu bod y gerdd wedi cael ei chyfansoddi yng Nghymru yn ddiweddarach, efallai yn y 9fed neu\u0092r 10fed ganrif. \n\nMae\u0092r testun cynharaf o\u0092r gerdd ar glawr yn y llawysgrif \u0091Llyfr Aneirin\u0092 (tua 1265). Y farn gyffredinol ymhlith ysgolheigion yw mai gwaith dau gop\u00efwr sydd yn Llyfr Aneirin. Maen nhw\u0092n aml yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel Llaw A a Llaw B. Roedd Llaw A wedi ysgrifennu 88 pennill, cyn gadael tudalen wag ac ysgrifennu pedair cerdd gysylltiedig \u0091Y Gorchanau\u0092. Roedd y cop\u00efwr yma wedi ysgrifennu\u0092r testun mewn orgraff Cymraeg Canol. Roedd Llaw B wedi ychwanegu mwy o benillion yn ddiweddarach, ac mae\u0092r deunydd yna\u0092n orgraff yr Hen Gymraeg. Roedd Llaw B wedi ysgrifennu 35 pennill. \n","1289":"Cerdd arwrol mewn Cymraeg canoloesol yw Y Gododdin gan y bardd Aneirin. Mae\u0092n cynnwys cyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne\u0092r Alban a gogledd Lloegr (yr Hen Ogledd) a fu farw wrth frwydro\u0092r Eingl yng Nghatraeth. Mae modd casglu o\u0092r testun fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu tua 300 o ryfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig, gan ddarparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn (prifddinas yr Hen Ogledd), cyn eu gyrru i frwydr. Cafodd bron pob un o\u0092r rhyfelwyr eu lladd yn y frwydr yn erbyn byddin enfawr eu gelyn, yr Eingl. Mae sawl cyfeiriad at fedd yn Y Gododdin, ond mae\u0092n debyg mae cyfeiriad at nawdd Mynyddog Mwynfawr ydoedd, a bod yn rhaid i\u0092r rhyfelwyr \u0091dalu eu medd\u0092 \u0096 hynny yw aros yn deyrngar i\u0092w harglwydd hyd angau. Marchogion yw'r rhyfelwyr yn y gerdd, ac mae hefyd llawer o gyfeiriadau at geffylau. Tra bod ysgolheigion yn cytuno y digwyddodd brwydr Catraeth tua\u0092r chweched ganrif \u0096 pan roedd tiriogaeth presennol Northumbria ym meddiant teyrnasoedd Eigl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich, mae anghytuno o safbwynt pryd cafodd y gerdd ei chyfansoddi. Fodd bynnag, yn Canu Aneirin (1938) sy\u0092n cynnwys argraffiad newydd o destun gwreiddiol y gerdd, dadleuodd Syr Ifor Williams fod y testun gwreiddiol yn dyddio o tua diwedd y chweched ganrif, ac yna wedi\u0092i drosglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei ysgrifennu. Y farn gyffredinol ymhlith ysgolheigion yw bod Llyfr Aneirin yn cynnwys gwaith dau gop\u00efwr, sef Llaw A a Llaw B. ","1290":"CR9_509_Y Gododdin \n\nMae\u0092r Gododdin yn gerdd arwrol Cymraeg o\u0092r canoloesoedd. Cafodd y gerdd ei briodoli i'r bardd Aneirin. Cyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne'r Alban a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl mewn lle o'r enw Catraeth ydy\u0092r gerdd. \n\nTua\u0092r flwyddyn 600 oedd y frwydr, ond mae oed y gerdd yn aneglur. Y gred yw iddo naill ai gael ei ysgrifennu yn ne'r Alban yn fuan wedi'r frwydr, neu yng Nghymru yn ddiweddarach, tua\u0092r 9fed neu'r 10g. \n\nAr glawr llawysgrif Llyfr Aneirin mae\u0092r testun cynharaf i'w gweld. \n\nGwaith dau gop\u00efwr sydd yn Llyfr Aneirin; Llaw A a Llaw B. Mae'n bosibl fod rhywfaint o'r gerdd wedi ei cholli. \n\nMae'r gerdd yn awgrymu i frenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, gasglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig a darparu gwledd iddynt am flwyddyn yn Din Eidyn, sef Caeredin heddiw. \n\nYr Hen Ogledd yw lleoliad y gerdd, sef tir de'r Alban a gogledd Lloegr heddiw. \n\nYn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, mae cyfeiriad at nifer o feirdd yn yr ardal yma yn ystod y 6g. \n\nErs dechrau\u0092r 19g, mae dyddiad cyfansoddi'r Gododdin wedi bod yn bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion. Rhaid iddi gael ei chyfansoddi cyn 638 os oedd y gerdd yn fuan wedi'r frwydr. Mae\u0092r dyddiad diweddaraf posib yn dibynnu ar ddyddiad orgraff ail ran Llaw B. \n\nGall rhan o\u0092r testun ddyddio o ddiwedd y 6g, pan gafodd ei drosglwyddo ar lafar cyn ei ysgrifennu. \n\nCafodd rhan o\u0092r Gododdin ei hargraffu am y tro cyntaf yn 1764. ","1292":"Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Gwlad Tai. Siam oedd enw\u0092r wlad hyd at 11 Mai 1949. Ystyr \u0091Tai\u0092 yn yr iaith genedlaethol yw \u0091rhyddid\u0092 a dyna yw enw gr?p ethnig y wlad hefyd. Bangkok yw prifddinas a dinas fwyaf y wlad. Bangkok hefyd yw canolfan wleidyddol, fasnachol, ddiwydiannol a diwylliannol y wlad. Gwlad Ti yw 50fed wlad fwyaf y byd o ran arwynebedd a\u0092r 20fed fwyaf poblog, gyda 75% o\u0092r boblogaeth yn wreiddiol o\u0092r wlad. Iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae tua 95% o\u0092r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth fel crefydd. \n\nMae gan Wlad Tai frenhiniaeth gyfansoddiadol, gyda\u0092r Brenin Bhumibol Adulyadej yn teyrnasu. Fe yw\u0092r nawfed brenin o D? Chakri ac mae e wedi teyrnasu am dros hanner canrif, sy\u0092n golygu mai fe yw\u0092r brenin sydd wedi teyrnasu hiraf yn y byd. Mae\u0092r Brenin yn cael ei ystyried yn Bennaeth ar y Wladwriaeth, yn Bennaeth ar y Lluoedd Arfog, Cynhaliwr y ffydd Bwdhaeth ac Amddiffynnwr y Ffydd. Gwlad Tai yw\u0092r unig wlad yn ne-ddwyrain Asia sydd heb gael ei choloneiddio gan wledydd Ewropeaidd. Ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y wlad wedi cael ei meddiannu gan Fyddin Imperialaidd Japan.\n\nRoedd Gwlad Tai wedi profi twf economaidd cyflym rhwng 1985 ac 1995, ac erbyn heddiw mae\u0092n wlad newydd-ddiwydiannol. Mae gan y wlad bwyslais ar allforion a diwydiant twristiaeth lewyrchus o ganlyniad i fannau byd-enwog gel Pattaya, Bangkok a Phuket. \n","1293":"Mae Gwlad Tai yn ne-ddwyrain Asia, ac mae\u0092n ffinio \u00e2 Laos, Cambodia, Myanmar a Maleisia, yn ogystal \u00e2 Gwlff Gwlad Tai a\u0092r M\u00f4r Andaman. Siam oedd enw\u0092r wlad nes 11 Mai 1949. Ystyr \u0091Tai\u0092 yw \u0091rhyddid\u0092, a dyna hefyd yw enw prif gr?p ethnig y wlad. Bankok yw prifddinas y wlad, yn ogystal \u00e2\u0092i chanolfan wleidyddol, fasnachol, diwydiannol a diwylliannol. Gwlad Tai yw\u0092r 20fed gwlad mwyaf poblog yn y byd, gyda phoblogaeth o tua 68 miliwn. Mae 75% o'r boblogaeth yn bobl gynhenid o Wlad Tai, mae tua 95% o\u0092r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth, a iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae brenhiniaeth gyfansoddiadol yng Ngwlad Tai, a'r Brenin Brenin Bhumibol Adulyadej, y nawfed brenin o D? Chakri, sy\u0092n teyrnasu\u0092r wladwriaeth a\u0092r Lluoedd Arfog. Gwlad Tai yw'r unig wlad yn Ne-ddwyrain Asia na chafodd ei gwladychu gan wledydd Ewropeaidd. Fodd bynnag, cafodd y wlad ei meddiannu gan Fyddin Imperialaidd Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae gan Wlad Tai economi datblygol \u0096 a brofodd dwf cyflym rhwng 1985 ac 1995. Mae\u0092n cael ei ystyried yn Wlad Newydd Ddiwydiannu, ac mae twristiaeth yn bwysig i\u0092w heconomi. Hinsawdd drofannol sydd gan y wlad, ac mae\u0092n cael ei heffeithio gan fonsynau. Mae chwe ardal ddaearyddol yng Ngwlad Tai sy'n wahanol o ran eu poblogaeth, eu hadnoddau naturiol, eu ffurfiannau naturiol a lefel eu datblygiad cymdeithasol ac economaidd. ","1297":"Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sy\u0092n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio\u0092r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cafodd ei basio gan y cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010 a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan Frenhines y Deyrnas Unedig. Drwy\u0092r mesur hwn cafodd swydd ac adran Comisiynydd y Gymraeg ei greu, gan ddod \u00e2 Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben. Cafodd ei benodi gan y Prif Weinidog a bydd ganddo ef neu hi\u0092r p?er i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmn\u00efau preifat, megis cwmn\u00efau nwy, trydan a ff\u00f4n am dorri eu hymrwymiad i\u0092r iaith. Cafodd ei gyhoeddi yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd, a bydd hi\u0092n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol. Cafodd yr addewid i ffurfio \u0091deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a\u0092r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg\u0092 wedi\u0092r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru\u0092n Un yng Ngorffennaf 2007. ","1298":"Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae\u0092n newid y fframwaith cyfreithiol o ran defnyddio\u0092r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cafodd y mesur ei basio ar 7 Rhagfyr 2010 a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011. Daeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben drwy\u0092r mesur, a chafodd swydd Comisiynydd y Gymraeg ei chreu yn ei le. Mae\u0092r Comisiynydd yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog, ac mae\u0092n gyfrifol dros gosbi cwmn\u00efau cyhoeddus a rhai preifat os nad ydyn nhw\u0092n ymrwymo i ddefnyddio\u0092r iaith. Yn Hydref 2011 daeth Meri Huws (oedd yn Gadeirydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynt) yn Gomisiynydd y Gymraeg. Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei gyflwyno gan Alun Ffred Jones AC.\nAr \u00f4l ffurfio clymblaid y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn 2007, cafodd addewid ei gytuno i roi statws swyddogol i\u0092r Gymraeg a hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg. Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy wedi rhybuddio y gallai\u0092r broses fod yn gymhleth. Cafodd gorchymyn ei osod ar gyfer y ddeddfwriaeth gan Alun Ffred Jones yn 2009, ac yn 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod y mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. \nCafodd y mesur arfaethedig ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddechrau ond ar 10 Mawrth 2010 anfonodd y gymdeithas lythyr o g?yn bod y mesur ddim yn rhoi statws swyddogol i\u0091r Gymraeg.\n","1300":"Roedd Cyngor Sir Feirionnydd yn awdurdod lleol yng Nghymru o 1889 tan iddo gael ei ddiddymu ym 1974. Cafodd cyngor Sir Feirionnydd ei sefydlu ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 a chafodd yr etholiadau cyntaf eu cynnal ym mis Ionawr 1889. Roedd ffiniau\u0092r awdurdod lleol yn cyd fynd efo ffiniau etholaeth seneddol Meirionnydd, ond yn 1895 roedd un newid bach ar \u00f4l i blwyf Nantymor symud o Feirion i Sir Gaernarfon. Rhwng 1834 a 1884 cafodd llawer o ddeddfau eu cyflwyno er mwyn ceisio gwella sefyllfa gymdeithasol y wlad ac felly cafodd nifer fawr o awdurdodau newydd eu creu i weinyddu gwasanaethau. Rhai o\u0092r deddfau oedd Deddf y Tlodion, deddfau iechyd cyhoeddus, deddfau addysg, a llawer mwy. Erbyn y 1880 roedd pobl yn galw i dacluso\u0092r drefn oedd mewn lle a chreu awdurdodau lleol etholedig. Dyma wnaeth arwain at Ddeddf Llywodraeth Leol 1884 ble cafodd cynghorau sir eu sefydlu. Yn etholiad cyntaf Cyngor Sir Feirionnydd, cafodd 33 ei hethol o\u0092r Blaid Ryddfrydol, 8 o\u0092r Blaid Geidwadol ac un aelod annibynnol. Samuel Pope QC wnaeth gadeirio\u0092r cyfarfod cyntaf o\u0092r cynghorwyr ac roedd yn benderfynol mai Saesneg oedd iaith y cyngor, nid Cymraeg. Ym mis Chwefror 1889, daeth Dr Edward Jones yn gadeirydd i\u0092r cyngor ac fe wnaeth wneud yn si?r bod pobl yn cael defnyddio\u0092r Gymraeg a\u0092r Saesneg yn y cyngor. Cafodd cyfarfod olaf y cyngor ei gynnal ym mis Chwefror 1974.","1302":"Roedd Cyngor Sir Feirionydd yn un o awdurdodau lleol Cymru o 1889 hyd 1974. Cafodd ei sefydlu ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Roedd tiriogaeth yr ardal weinyddol wedi seilio ar Sir Feirionnydd fel yr oedd ar \u00f4l deddfau uno 1536-1542. Ym 1895 symudodd plwyf Nantmor i Sir Gaernarfon. Cyngor Dosbarth Meirionnydd oedd yr awdurdod rhwng 1974 a 1995 a daeth yn rhan o Gyngor Gwynedd ym 1996. Rhwng 1834 a 1880 roedd y deddfau i wella\u0092r gymdeithas, fel Deddf y Tlodion, deddfau iechyd cyhoeddus, deddfau addysg ac ati wedi creu llwyth o awdurdodau ac wedi gwneud gweinyddiad lleol yn anodd. Roedd sefydlu\u0092r Cynghorau Sir gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1884 yn ymgais i ddatrys y problemau hyn. Gan fod rhai ardaloedd yn anhapus, creodd Deddf Llywodraeth Leol 1894 ail ris o gynghorau trefol a gwledig. Roedd etholiadau ar 18 Ionawr 1889 a\u0092r cyngor cyntaf yn cynnwys 33 Rhyddfrydwr, 8 Ceidwadwr ac un aelod annibynnol. Er gwaethaf bwriad cadeirydd cyfarfod cyntaf y cynghorwyr i\u0092r Cyngor fod yn uniaith Saesneg, cafodd hyn ei newid bron yn syth. Byddai hawl defnyddio\u0092r ddwy iaith, ond un o ddyletswyddau\u0092r cadeirydd byddai darparu crynodeb dros gynghorwyr uniaith. Rhwng 1889 a 1916 roedd y Cyngor yn cyfarfod ar yn ail yn y Bala, Abermaw, Ffestiniog a Dolgellau. O 1916 ymlaen defnyddiodd Neuadd y Sir ac ym 1952 cafodd siambr a swyddfeydd newydd eu codi yn Nolgellau. Bu\u0092r cyfarfod olaf ym mis Chwefror 1974.","1304":"Roedd cynllun Gwagio Sifiliaid i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gynllun i symud pobl, yn enwedig plant, o\u0092r ardaloedd mwyaf tebygol o gael eu bomio i ardaloedd oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Cafodd drios 110,000 o blant eu symud i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cyfanswm yma yn cynnwys y nifer o bobl a chafodd ei symud o ardaloedd trefol Cymru i ardaloedd gwledig Cymru. Ardal Morgannwg derbyniodd y nifer mwyaf o blant, tua 33,000 o blant. Cafodd blaenoriaeth ei rhoi i symud plant, a gwahanwyd miloedd ohonynt wrth ei theuluoedd. Teithiodd rhan fwyaf o\u0092r plant i Gymru ar dr\u00ean neu fws er mwyn cyrraedd y teuluoedd a chafon nhw eu paru ag yng Nghymru.\n\nYr Ail Ryfel Byd oedd y rhyfel mawr cyntaf lle defnyddiwyd awyrennau bomio i dargedu sifiliaid. Roedd hyn yn golygu bod trefi a dinasoedd yn llefydd peryglus i fyw. Fel canlyniad, wnaeth y llywodraeth rhannu ardaloedd Prydain i dri chategori, ardaloedd symud, ardaloedd niwtral ac ardaloedd derbyn. Yn ogystal \u00e2 phlant, symudodd athrawon, menywod beichiog, mamau a phlant ifanc, pobl s\u00e2l a\u0092r henoed. Mae\u0092r rhai a chafodd ei symud o\u0092u cartrefi i fyw mewn llefydd mwy diogel yn cael ei alw\u0092n faciw\u00ees.\n","1305":"Cafodd cynllun gwagio sifiliaid i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd ei ddylunio i symud pobl o\u0092r ardaloedd oedd mwyaf tebygol o gael eu bomio i ardaloedd oedd yn cael eu gweld fel rhai mwy diogel. Cafodd 110,000 o blant eu symud i Gymru o du allan i\u0092r wlad neu o ardaloedd trefol Cymru. Symudodd tua 33,000 i Forgannwg, y nifer fwyaf i un lle, ond fe symudodd faciw\u00ees i\u0092r rhan fwyaf o bentrefi yng nghefn gwlad Cymru. \n\n Yr Ail Ryfel Byd oedd y rhyfel mawr cyntaf i ddefnyddio awyrennau i fomio sifiliaid. Roeddent yn targedu trefi a dinasoedd, felly daethant yn llefydd peryglus. Roedd Prydain felly eisiau sicrhau nad oedd cymaint o drigolion yn cael eu lladd oherwydd hyn. Dechreuodd y Llywodraeth gynllunio i symud pobl o\u0092r ardaloedd peryglus wrth i\u0092r bygythiad o ryfel gynyddu yn y 1930au. Cynllunion nhw i symud plant, athrawon, menywod beichiog, mamau \u00e2 phlant ifanc, pobl s\u00e2l, a\u0092r henoed i lefydd mwy diogel. Cawsant nhw eu cludo ar drenau, bysiau, ceir a chychod. \n\nCafodd y faciw\u00ees profiadau cymysg, gyda rhai yn ei weld fel antur gyffrous ac eraill yn ei weld yn anodd. Roedd rhai plant er ben eu hunain mewn cartrefi newydd, yn hiraethu am eu rhieni, a ddim yn gwybod pryd allent fynd adref. Roedd bywyd cefn gwlad yn wahanol iawn i fywyd yn y ddinas, gyda llawer yn gweld anifeiliaid fferm, cael bwyd maethlon ffres, a chlywed a dysgu\u0092r iaith Gymraeg i gyd am y tro cyntaf.","1308":"CR9_52_Cerddoriaeth Cymru \n\nYn ystod yr 18g dechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yng ngherddoriaeth Cymru fel pwnc. Mae Cymru\u0092n cael ei adnabod fel \"Gwlad y G\u00e2n\". \n\nRoedd cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr yn yr Oesoedd Canol Diweddar at gerddorion crwydrol yn canu\u0092r delyn, crwth neu\u0092r pibau. Roedd rhai o\u0092u cerddi yn cael eu datgan i gyfeiliant y delyn, a Cherdd Dant yw datblygiad y traddodiad hwnnw heddiw. Yn y 14eg ganrif oedd y llawysgrif gyntaf o gerddoriaeth Cymraeg, sef Yr Antiffonal Penpont. \n\nRoedd canu gwerin yn rhan allweddol o fywyd y werin, ond cafodd llawer o\u0092r caneuon eu disodli o ganlyniad i'r Diwygiad Methodistaidd a daeth emynau yn eu lle. \n\nDaeth corau meibion yn boblogaidd yn ail hanner y 19g a chafodd miloedd eu denu gan y Gymanfa Ganu. \n\nMae traddodiad Cymru yn cychwyn ym myd cerddoriaeth glasurol, gyda sawl cyfansoddwr a chantor adnabyddus, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. \n\nDechreuodd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn y 1960au gyda chanu gwlad, cyn iddo ehangu i gynnwys canu roc a phop ar ddiwedd y ddegawd honno. \n\nMae Radio Cymru wedi gosod llwyfan i helpu cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa, yn ogystal \u00e2 Radio Wales ar gyfer caneuon Saesneg. Mae S4C hefyd wedi rhoi cyfle i gerddoriaeth Cymraeg ymledu, er iddo gael ei feirniadu am ei geidwadaeth gan rai. \n\nMae nifer o gwmn\u00efau recordio yng Nghymru megis Fflach ac Ankst, ond Cwmni Sain yw\u0092r pwysicaf. \n\nMae G?yl y Faenol a Sesiwn Fawr Dolgellau yn wyliau cerddorol sy\u0092n bwysig i ddiwylliant Cymreig. ","1309":"begin text\nPrif ddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam. Mae ar lan Afon Amstel yn nhalaith Noord-Holland. Mae tua 860,124 yn byw yno ac mae\u0092i harwynebedd yn 219.4km2. Mae pobl yn cyfeirio at Amsterdam fel \u0093Fenis y Gogledd\u0094. \nEr mai Amsterdam yw prifddinas yr Iseldiroedd, nid yw\u0092r llywodraeth wedi cael ei leoli yno erioed. Mae canolfan y llywodraeth, y senedd a chartref y frenhines yn ninas Den Haag. \nDaw enw\u0092r ddinas o argae Amstelle. Mae hyn yn esbonio tarddiad y ddinas sef argae ar afon Amstel lle mae Sgw\u00c3\u00a2r Dam wedi\u0092i lleoli heddiw. Datblygwyd un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg o ganlyniad i\u0092w datblygiad masnachol arloesol. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a\u0092r 20g, wrth i bobl symud i fyw mewn maestrefi. \nAmsterdam yw canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Mae 7 o 500 o gwmn\u00efau mwyaf y byd wedi\u0092u sefydlu yn y ddinas e.e. booking.com a Tom Tom. Mae Cyfnewidfa Stoc Amsterdam yng nghanol y ddinas. \nMae 4.2 miliwn o dwristiaid yn ymweld ag atyniadau\u0092r ddinas bob blwyddyn.\nMae Amsterdam tua 2 fetr islaw lefel y m\u00f4r. Mae\u0092r tir o\u0092i amgylch yn wastad ac mae pobl wedi adeiladu coedwigoedd. Mae Amsterdam wedi\u0092i chysylltu \u00e2 mor y Gogledd trwy gamlas. Mae gan Amsterdam hinsawdd gefnforol gan ei fod yn agos at F\u00f4r y Gogledd. Mae\u0092r tymheredd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.\nend text","1315":"Brasil ydy gwlad fwyaf De America. Ei new swyddogol ydy Gweriniaeth Ffederal Brasil. Cefnfor yr Iwerydd sydd i\u0092r dwyrain o Frasil. Mae gan Frasil 26 talaith ac mae baner y wlad efo 26 seren arno, un seren i gynrychioli un dalaith. Mae Brasil yn cymryd drosodd bron i hanner cyfandir De America. Brasil ydy\u0092r pumed wlad fwyaf yn y byd. Mae llawer o afonydd mwyaf De America hefyd ym Mrasil. Mae pobl yn credu bod y bobl gyntaf wedi cyrraedd Brasil tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l, gyda\u0092r Ewropeaid cyntaf yn cyrraedd Brasil o Bortiwgal yn y 16eg ganrif. Daeth Brasil yn wlad annibynnol ym mis Medi 1822. Roedd yn cael ei hadnabod fel Ymerodraeth Brasil, ond ar \u00f4l i\u0092r fyddin gael grym ym 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. S\u00e3o Paulo ydy dinas fwyaf Brasil. Mae tua 180 o ieithoedd brodorol yn cael ei siarad ym Mrasil, ond Portiwgaleg ydy\u0092r iaith swyddogol yno gan fod bron pawb yn y wlad yn ei deall. Diwylliant Portiwgal sydd yn dylanwadu mwyaf ar ddiwylliant Brasil ond mae dylanwadau eraill hefyd, fel dylanwad Affricanaidd ar gerddoriaeth a bwyd. Un o\u0092r carnifalau mwyaf poblogaidd ydy carnifal Rio de Jenerio. Catholigiaeth ydy crefydd fwyaf Brasil, gyda thua 74% o\u0092r boblogaeth yn y cyfrifiad diwethaf yn dweud eu bod nhw yn Gatholig. P\u00eal droed ydy\u0092r chwaraeon mwyaf poblogaidd ym Mrasil ac mae\u0092r t\u00eem cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd pum gwaith. Brasil ydy\u0092r wlad sydd yn cynhyrchu'r mwyaf o goffi ers 150 o flynyddoedd.","1316":"Brasil yw\u0092r wlad fwyaf yn Ne America. Mae amaethyddiaeth yn bwysig i economi Brasil ac mae llawer o fforestydd glaw mawr yno. Mae s\u00ear ar faner y wlad, gyda phob seren yn cynrychioli talaith. Mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Mae'n ffinio ag Wrwgwai, yr Ariannin, Paragwai, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Mae Afon Paran\u00e1, ail afon fwyaf De America yn tarddu yn ne Brasil.\n\nDaeth y bobl gyntaf i Frasil tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l o Asia. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Lleihawyd nifer y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen ar \u00f4l i\u0092r Portiwgaliaid ddod yno. Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddiannwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. Ar 7 Medi 1822, fe ddaeth y wlad yn annibynnol, gyda Pedro I yn Ymerawdwr ar y wlad.\n\nPortiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil ac mae bron bawb yn y wlad yn siarad yr iaith. Mae cerddoriaeth samba, bossa nova, forr\u00f3, frevo a pagode yn boblogaidd ym Mrasil ac mae\u0092r carnifal yn rhan bwysig o ddiwylliant Brasil. \n\nP\u00eal-droed yw'r chwaraeon mwyaf poblogaidd ym Mrasil, ac mae'r t\u00eem cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Mae Pel\u00e9, un o\u0092r p\u00eal-droedwyr gorau erioed yn dod o Frasil.","1317":"Brasil yw gwlad fwyaf De America, a\u0092r pumed wlad yn y byd o ran maint. Mae\u0092n ffinio ar bob gwlad yn Ne America ond Tsile ac Ecwador ac mae arfordir ar Gefnfor Iwerydd. Mae\u0092r wlad wedi ei rhannu yn 26 talaith. Mae nifer o afonydd mawr yn rhedeg trwy Frasil, gan gynnwys afonydd Amazonas a Paran\u00e1. Mae\u0092r fforest law drofannol fwyaf yn y byd o gwmpas afon Amazonas. Cyrhaeddodd trigolion cyntaf Brasil tua 8,000 o flynyddoedd yn \u00f4l o Asia. Bu tua 2,000 o lwythi gwahanol yn byw ym Mrasil pan gyrhaeddodd y Portiwgaliaid, yr Ewropeaid cyntaf, ym 1500, ond lladdodd clefydau fel y Frech Wen lawer o\u0092r brodorion. Roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal hyd at y 19g. Daeth y wlad yn annibynnol ym 1822 ac yn frenhiniaeth gyfansoddiadol o\u0092r enw Ymerodraeth Brasil, ond daeth yn weriniaeth ym 1889. Mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd y rhan fwyaf o\u0092r amser ers hynny. Portiwgaleg yw iaith swyddogol Brasil, er i ieithoedd eraill, gan gynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol yn bodoli. Yn ogystal \u00e2 dylanwad Portiwgal ar ddiwylliant Brasil, mae elfennau o ddiwylliant y bobl frodorol a hefyd gaethweision o Affrica, yn enwedig yn y gerddoriaeth. Mae llawer o ddinasoedd yn cynnal carnifal, ac mae un Rio de Janeiro yn fyd-eang. P\u00eal droed yw\u0092r g\u00eam fwyaf poblogaidd. Mae Brasil wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, a Pel\u00e9 oedd p\u00eal-droediwr enwocaf y wlad. Brasil sy\u0092n cynhyrchu mwy o goffi nag unrhyw wlad arall ers 150 mlynedd.","1319":"Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae\u0092n gyfrifol am addysg, ymchwil a menter busnes ym meysydd defnydd tir a'r economi wledig. Mae'r athrofa yn un o wyth canolfan sydd wedi eu hariannu yn strategol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Mae'r athrofa wedi ei lleoli ar ddau brif safle. Mae addysg yn digwydd ar gampws Penglais y brifysgol, a\u0092r ymchwill yn digwydd ar gampws Gogerddan. Mae IBERS yn cynnig graddau israddedig mewn sawl pwnc, gan gynnwys amaethyddiaeth, bywydeg, biocemeg, ecoleg, geneteg, bioleg forol, microfioleg, bioleg planhigion, milfeddygaeth a swoleg. Mae'r athrofa hefyd yn cynnig cyrsiau \u00f4l-raddedig ac, mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol Bangor. Mae IBERS yn ymchwilio mewn i Gwyddoniaeth Anifeiliol a Microfiolegol, Effaith Amgylcheddol ac Amrywiaeth Genomaidd. Mae'r athrofa hefyd yn gartref i Ganolfan Ffenomeg Planihigion Genedlaethol y BBSRC. Mae IBERS yn rhedeg rhaglenni bridio ar gyfer gwair, codlysiau, ceirch a miscanthus. Mae hanes IBERS yn dyddio\u0092n ol i 1872 pryd agorwyd Coleg Prifysgol Cymru yn 1872. Dechreuwyd ddarlithio bywydeg yn 1874 ac agorwyd adran amaethyddiaeth yn 1891. Agorwyd yr Orsaf Bridio Planhigion yn 1919. Sefydlwyd Coleg Amaethyddol Cymru yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth yn 1970. Cyfunwyd y coleg ag adran amaethyddiaeth Coleg Prifysgol Cymru yn 1995 i ffurfio Athrofa Gwyddorau Gwledig y brifysgol. Yn 1985, cyfunwyd y Ganolfan Ymchwil Glaswelltir \u00e2'r Ganolfan Ymchwil Llaetheg Genedlaethol, gan ffurfio'r Ganolfan Ymchwil Anifeiliaid a Glaswelltir. Bu ailstrwythuro ar gyfer Y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid a Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol. Ym mis Ebrill 2008, unodd y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol ag Athrofa Gwyddorau Biolegol Prifysgol Aberystwyth, gan ffurfio'r ganolfan bresenol.\n\n","1325":"Yn yr un modd \u00e2\u0092r Gymraeg a\u0092r Gernyweg, mae\u0092r Llydaweg yn deillio o\u0092r Frythoneg, a tarddodd y Frythoneg o\u0092r Gelteg. Mae Llydaweg yn cael ei siarad yn Llydaw, yng ngogledd-orllewin Ffrainc, ac mae cyswllt agos rhwng yr iaith a\u0092r hunaniaeth Lydewig. Cafodd Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan fewnfudwyr de-ddwyrain Prydain rhwng y 4ydd a\u0092r 6ed ganrif. Mae\u0092r cofnodion cyntaf o\u0092r iaith yn dyddio a\u0092r 9fed hyd at y 12fed ganrif, a cafodd y llyfr Llydaweg cyntaf \u0096 sef y Catholicon - ei gyhoeddi yn 1464. Cam pwysig yn natblygiad orgraffyddol yr iaith oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821. Erbyn heddiw, yr orgraff Peurunvan (unedig) yw\u0092r un sy\u0092n cael ei ddefnyddio fwyaf, gan gynnwys mewn ysgolion. Yn \u00f4l INSEE, gallai tua 304,000 a siaradai Llydaweg yn 1999, sef 1\/5 o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd, ond wedi\u0092r rhyfel penderfynodd y rhan fwyaf o deuluoedd Llydaweg fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg. Does gan Llydaweg ddim statws swyddogol. Cafodd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) ei sefydlu gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith. Mae mwy na 18,337 o blant yn derbyn addysg mewn ysgolion sy\u0092n dysgu Llydaweg, naill ai mewn ysgolion Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) neu Dihun (dwyieithog preifat), ac mae\u0092r ffigwr yn codi 15% bob blwyddyn. Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg yn ddyddiol, tra bod sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg.","1326":"CR9_58_Llydaweg \n\nMae'r Llydaweg yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg. Yn Llydaw, mae Llydaweg yn cael ei siarad yng ngogledd-orllewin gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finist\u00e8re, gorllewin C\u00f4tes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith a'r hunaniaeth Lydawaidd. \n\nCafodd Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Perthyn i'r Frythoneg sy\u0092n ffurfio'r Gelteg Ynysig mae Llydaweg. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnod hynaf o'r iaith, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chaiff iaith y cyfnod hwnnw ei alw\u0092n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol yw\u0092r testunau Llydaweg Canol ac mae\u0092n dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, gramadeg a'i geirfa. \n\nY system orgraffol sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf heddiw, a\u0092i ddysgu yn yr holl ysgolion, yw'r orgraff Peurunvan. \n\nYn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg, sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Ar hyn o bryd prin fod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg. \n\nDoes dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn \u00f4l cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg yn 1999 i hyrwyddo'r iaith. \n\nMae mwy na 18,337 o blant yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun. Mae yna gyfundrefn addysg ddwyieithog. ","1328":"Begin text\nYn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Nats\u00efaid yr Almaen yn bomio\u0092n barhaus rhwng y 7fed o Fedi 1940 a\u0092r 10fed o Fai 1941. Rydym yn galw\u0092r cyfnod hyn yn y \u0091Blitz\u0092. \u0091Blitzkreig\u0092 yw\u0092r geiriau Almaeneg am \u0091fellt\u0092 a \u0091rhyfel\u0092. \nAbertawe a Chaerdydd cafodd eu bomio gwaethaf a mwyaf cyson yng Nghymru. Am dair noson ym mis Chwefror 1941, ymosododd 250 o awyrennau\u0092r Almaen ar Abertawe gan ollwng 1,320 o fomiau ffrwydrol a thua 56,000 o fomiau tan.\nEu bwriad oedd dinistrio dociau\u0092r dref a\u0092r ffatr\u00efoedd diwydiannol trwm. Ond, collodd yr Almaenwyr eu targedau gan fomio canol Abertawe yn lle hynny. Gan fod y bomiau tan wedi achosi cymaint o danau, roedd yn bosib eu gweld dros hanner can milltir i ffwrdd. Bu farw tua 387 o bobl nad oedd yn rhan o\u0092r lluoedd arfog, a dinistriwyd nifer o adeiladau\u0092r dref. \nDioddefodd Caerdydd hefyd. Ar yr 2 Ionawr, 1941, lladdwyd 151 o ddynion, 147 o fenywod a 47 o blant, a dinistriwyd tua 600 o dai. Dywedodd yr Almaenwyr eu bod yn dial ar \u00f4l i Brydain fomio Bremen.\nEr bod Caerdydd ac Abertawe yn dargedau amlwg oherwydd eu dociau a'u gweithfeydd diwydiannol, ymosodwyd ar fannau eraill hefyd megis Sir Gaernarfon a\u0092r Rhondda. Bomiwyd ffatr\u00efoedd ordnans, purfeydd olew, gweithfeydd mwyngloddio a hyd yn oed cymunedau gwledig, fel arfer gan awyrennau a oedd ar goll neu\u0092r rhai a oedd eisiau gollwng eu bomiau cyn hedfan adref.\nEnd text","1330":"Dechreuodd y clefyd Coronafirws, neu\u0092r Gofid Mawr yn Wuhan Tsieina yn Rhagfyr 2019. Cynlluniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer ymlediad epidemig o\u0092r firws ar yr un diwrnod a gyhoeddodd Llywodraeth Tsieina gyfnod clo wedi 26 marwolaeth yno. Yng ngwanwyn 2020 lledaenodd y firws dros y byd, gyda\u0092r WHO yn ei alw\u0092n \u0091bryder rhyngwladol'. Bu farw\u0092r person cyntaf yng Nghymru ar y 16eg o Fawrth yn ardal Caerffili. Ym Mis Mawrth hefyd daeth 1300 o weithwyr iechyd a gofal allan o ymddeoliad i helpu\u0092r gwasanaeth iechyd, a neilltuodd Llywodraeth Cymru arian ar gyfer busnesau ac economi Cymru oherwydd difrifoldeb y sefyllfa. Ym Mis Rhagfyr 2020 cymeradwyodd Llywodraeth Prydain dau frechlyn, y Pfizer a\u0092r Oxford-AstraZeneca\u0092 ar gyfer dosbarthu i wledydd Prydain. \n\nOherwydd bod iechyd yn un o\u0092r pwerau sydd wedi eu datganoli yng Nghymru, roedd cryn dipyn o wrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ynghylch darpariaeth offer personol (PPE) a phrofion COVID yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Prydain yn mynnu bod y cwmn\u00efau a oedd yn darparu\u0092r PPE a\u0092r Profion i ddarparu un ai i Loegr yn gyntaf, neu i Loegr yn unig. Roedd cryn wrthwynebiad gan wleidyddion Cymru ynghylch y mater. Erbyn mis Chwefror, roedd Llywodraeth Cymru a gwasanaeth iechyd Cymru wedi llwyddo i frechu pob gweithiwr rheng flaen, cleifion a staff cartrefi gofal, a phobl fregus yng Nghymru, ac mai Cymru oedd \u00e2\u0092r canran uchaf o\u0092r boblogaeth wedi eu brechu o holl wledydd y DU. ","1333":"Mae Hwngari yn weriniaeth yng nghanolbarth Ewrop, sydd heb arfordir. Mae Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar.\nYmsefydlodd llwyth y Magyar yn Hwngari yn y 9g. Aeth o fod yn rhan o\u0092r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn wlad annibynnol yn dilyn y rhyfel, pan ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari. Daeth Hwngari dan reolaeth y Nats\u00efaid yn ystod yr Ail Ryfel Bydd. Yn 1949, daeth Hwngari yn wlad ddemocrataidd dan lywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, roedd gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth, ond oherwydd ymyrraeth gan yr Undeb Sofietaidd, parhaodd y llywodraeth, ac roedd Hwngari yn wlad gomiwnyddol tan 1989.\nHeddiw, mae\u0092n rhan o\u0092r Undeb Ewropeaidd, ond yn 2018 roedd protestiadau yn y wlad yn erbyn polis\u00efau cenedlaetholgar y llywodraeth (e.e. atal mewnfudwyr rhag dod i mewn). \nMae\u0092r afon Donaw yn rhannu\u0092r wlad yn ddau ranbarth cyffredinol. Budapest yw\u0092r brifddinas a\u0092r ganolfan ddiwylliannol, economaidd a diwydiannol. \nProffil ethnig 96.6% o\u0092r wlad yw Hwngariaid, ond mae hefyd yn cydnabod 13 proffil ethnig lleiafrifol.\nMae Hwngari yn cael ei hystyried yn wlad gerddorol iawn, a\u0092r traddodiadau gwerin wedi ysbrydoli ei chyfansoddwyr enwog, fel Liszt a Bart\u00f3k. Mae dros 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a 100 o amgueddfeydd cyhoeddus yn Hwngari. O blith y danteithion lleol, mae goulash a halaszle (cawl pysgod). Mae sin hoyw cynhenid yn Hwngari hefyd, gyda thraddodiad actiau drag. Roedd L\u00e1szl\u00f3 B\u00edr\u00f3 a ddyfeisiodd yr ysgrifbin yn dod o Hwngari.\n","1334":"8500 o flynyddoedd yn \u00f4l, doedd Ynys Manaw ddim yn cael ei hadnabod fel ynys, yn hytrach, roedd cyswllt tir rhwng Ynys Manaw a Cumbria yng Ngogledd Lloegr. Yn ddiweddarach, yn amlwg cododd lefelau\u0092r m\u00f4r a\u0092i throi\u0092n ynys. Wedi hynny, prin iawn yw\u0092r cofnodion o\u0092r boblogaeth Frythoneg wreiddiol a fuodd yn byw ar yr ynys. Tua\u0092r 10g sefydlodd gwladychwyr o Iwerddon, ac yn sgil hynny datblygodd iaith Manaweg, sy\u0092n rhan o deulu\u0092r ieithoedd Goidelig, fel y Wyddeleg. Bu farw siaradwr olaf y Fanaweg yn y 1970au. Mae\u0092r enw Manaw yn dod o dduw m\u00f4r y Celtiaid, Manann\u00e1n mac Lir.\n\nTua\u0092r 9g, dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys, a daeth yr ynys o dan reolaeth brenhinoedd Danaidd Dulyn wedi hynny. Yn dilyn hynny, yn 990, daeth yr ynys yn eiddo Ieirll Orkney. Yn ddiweddarach yn y 11g, cafodd yr ynys ei goresgyn gan Godred Crovan, oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, ac fe sefydlodd Crovan linach o frenhinoedd dan yr enw Rex Manniae et Insularum. Yn y pendraw, enillodd mab Crovan, Olaf, annibyniaeth yr ynys. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Manaw yn rhan o deyrnas brenin Norwy, ond dylanwad yr Alban oedd dal gryfaf yn y cyfnod hwn mewn gwirionedd. Ar ddiwedd y 13g brwydrodd Yr Alban yn erbyn Norwy er mwyn hawlio\u0092r ynys. Yn dilyn hynny, hawliodd Edward I, brenin Lloegr yr ynys, ond cipiwyd hi yn \u00f4l gan Robert Bruce yn 1313. Ers hynny mae\u0092r ynys wedi bod o dan reolaeth gwahanol dirfeddianwyr o Loegr, yn enwedig y teulu Stanley. Ym 1866, cafodd ynys Manaw ei llywodraeth ei hun. ","1336":"Mae hanes Ynys Manaw yn adlewyrchu dylanwadau\u0092r gwledydd o\u0092i gwmpas. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn \u00f4l pan gododd lefel y m\u00f4r. Cyn hynny roedd yn rhan o dir Cumbria. Mae\u0092n ymddangos bod y boblogaeth gynnar yn siarad iaith Frythonig. Ymosododd brenin Northumbria ar yr ynys yn 616, a tua\u0092r 10g daeth gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd yr iaith Manaweg, sy\u0092n iaith debyg i Wyddeleg. Mae traddodiad yn dweud y daeth Sant Maughold \u00e2 Christnogaeth o Iwerddon. Y cred yw bod enw\u0092r ynys yn dod o enw duw Celtaidd y m\u00f4r, Manann\u00e1n mhac Lir. Yn \u00f4l y traddodiad barddol daeth Merfyn Frych, brenin Gwynedd tua 825, o Fanaw, ac mae\u0092n bosibl mai Ynys Manaw oedd hynny. Yn y nawfed ganrif dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys, a rheolodd y Llychlynwyr arno o tua 850. O tua 990 roedd e\u0092n berchen i Ieirll Orkney, cyn dod yn eiddo Godred Crovan o Norwy yn 1079. Yn 1261 ceisiodd brenin yr Alban berswadio Norwy i drosglwyddo\u0092r ynys i\u0092r Alban. Er iddyn nhw wrthod, cipiodd Alexander III yr ynys y flwyddyn ganlynol ar \u00f4l marwolaeth brenin Norwy. Rhwng 1262 a 1346 symudodd yr ynys rhwng dwylo\u0092r Alban a Lloegr, ond wedi hynny tirfeddianwyr Lloegr oedd yn rheoli. Ym 1866 cafodd fesur o hunanlywodraeth gan Ynys Manaw. Yn y 1970au bu farw siaradwr olaf yr iaith Fanaweg. Mae pleidiau cenedlaethol a mudiad ymgyrchu wedi bodoli, er nad oedden nhw'n yn gryf iawn.","1339":"Mae apartheid yn golygu \u0093arwahanrwydd\u0094 ac yn system swyddogol yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hiliau ar wah\u00e2n rhwng 1948 a 1994. Roedd y system yn golygu bod y boblogaeth wen leiafrifol yn rheoli\u0092r wlad. Roedd y system yn dosbarthu\u0092r gymdeithas yn \u00f4l hil, gyda\u0092r rhai gwyn \u00e2\u0092r statws uchaf, wedyn y bobl Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig eraill, ac yn olaf yr Affricaniaid du. Dechreuodd y system yn yr 18g dan Ymerodraeth yr Iseldiroedd ac yn tyfu yn ystod trefedigaeth Brydeinig yn Ne Affrica. Roedd y deddfau cyntaf yn gwahardd priodas rhwng hiliau gwahanol. Yna dosbarthodd y llywodraeth y bobl i dri chategori, a phenodi ardaloedd gwahanol iddyn nhw fyw ynddyn nhw. Arweiniodd y gwrthwynebiad i\u0092r system at embargo masnachol, sancsiynau economaidd a boicotio ym maes chwaraeon. Trodd y gwrthwynebiad mewnol yn fwyfwy treisgar yn ystod y 1970au a\u0092r 1980au, gyda llawer yn marw neu\u0092n mynd i\u0092r carchar. Carcharwyd Nelson Mandela am oes ym 1963. Roedd sawl mudiad mewnol a rhyngwladol yn gweithio\u0092n erbyn y system, gan gynnwys yr ANC, y PAC, yr UDF a SWAPO. Tua diwedd y 1970au dechreuodd y rheolau lacio, a phan gymerodd de Klerk drosodd fel Prif Weinidog ym 1979 cyhoeddodd bod rhaid i bopeth newid. Daeth Nelson Mandela ac eraill allan o\u0092r carchar ym 1990, ac er gwaethaf llawer o drais a chryn dipyn o wrthwynebiad roedd Etholiad Cyffredinol ym 1994 lle allai pawb bleidleisio. Daeth Mandela yn arlywydd.","1340":"Mae XXX XXX yn un o artistiaid amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg. \nCafodd ei eni yn Solfach Sir Benfro ym 1942, a\u0092i enw genedigol yw Louis Michael James XXX.\nAr \u00f4l i\u0092r DJ Jimmy Savile ei weld yn perfformio ym Manceinion ym 1965, rhyddhaodd ei sengl gyntaf ond ni werthodd hwnnw yn dda.\nYm 1967 dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig, gan ryddhau cyfres o EPs, gan gynnwys Y Brawd Houdini a Byw yn y Wlad, i stiwdio Sain a Wren. Rhyddhaodd albwm yn y Saesneg o\u0092r enw Outlander ar label Warner Bros ym 1970. \nSymudodd i fyw i Lydaw ym 1974, ac ar \u00f4l dychwelyd ym 1977 recordiodd ei albwm G\u00f4g. Parhaodd i ysgrifennu caneuon Saesneg yn ogystal. Mae rhai o\u0092i recordiau ddim ond ar gael ar gas\u00e9t ac felly yn brin hyd heddiw.\nRecordiodd rhai caneuon opera roc, ac eraill yn fwy gwerinol eu naws, gydag amryw labeli recordio gwahanol, gan gynnwys Sain a Fflach. Weithiau roedd yn cynnwys aelodau band gwahanol oedd yn gerddorion sesiwn adnabyddus o Lundain. Cydweithiodd hefyd gyda\u0092r artistiaid Geraint Jarman a Heather XXX. Mae ei gerddoriaeth wedi dylanwadu ar artistiaid fel Super Furry Animals a Gai XXXs.\n Cyhoeddodd hunangofiant mewn tair rhan, sef Hunangofiant y Brawd Houdini yn 2003, Y Crwydryn a Mi yn 2009 a \u0091Mas o \u0091Ma\u0092 yn 2011.\nCyhoeddodd XXX ei fod am symud i fyw i Ganada yn 2011.\n","1342":"Mae XXX XXX yn ganwr, cyfansoddwr, telynegwr ac arlunydd, sy\u0092n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon Cymraeg. Roedd e\u0092n ffigwr amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg am dros bum degawd. Mae rhai yn ei alw\u0092n Bob Dylan Cymreig. Ganwyd yn Louis Michael James ym 1942 yn Solfach, Sir Benfro. Lansiodd ei sengl gyntaf i Decca Records ym 1965. Dychwelodd o Loegr i Solfach ym 1967 a dechreuodd ysgrifennu caneuon poblogaidd Cymraeg. Rhyddhaodd hefyd albwm Saesneg ym 1970. Bu\u0092n byw yn Llydaw rhwng 1974 a 1977 ac ar \u00f4l dychwelyd i Gymru parhaodd i ysgrifennu a rhyddhau caneuon yn y ddwy iaith. Ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer opera roc Dic Penderyn ym 1978. Parhaodd i gyfansoddi yn y Gymraeg a\u0092r Saesneg, gan ryddhau albymau yn 1981, 1982, 1983, 1985, 1987, 1989 a 1991. Rhyddhaodd recordiad byw o gyngerdd o\u0092r Eisteddfod Genedlaethol ym 1995. Gwelodd degawd cyntaf y mileniwm newydd pum albwm a DVD, gan gynnwys casgliadau o hen ganeuon wedi eu recordio o\u0092r newydd. Yn 2011 cyhoeddodd ei fod am symud i Ganada a chwarae sawl gig ffarwelio cyn ymadael. Roedd XXX yn ddylanwad ar waith sawl artist o Gymru, gan gynnwys Heather XXX a Geraint Jarman, y Super Furry Animals, Gorky\u0092s Zygotic Mynci a Gai XXXs. Yn ystod ei yrfa rhyddhaodd XXX XXX 25 o albymau rhwng 1970 a 2008, cyhoeddodd e lyfr yn cynnwys 51 o\u0092i ganeuon gyda cherddoriaeth ym 1993 ac ysgrifennodd dair cyfrol o hunangofiant.","1346":"Term Ffrangeg yw avant-garde sy\u0092n golygu yn llythrennol \u0091blaen leng\u0092 neu \u0091blaengad\u0092. Mae\u0092r term yn cael ei ddefnyddio ar gyfer celfyddyd, megis celf neu gerddoriaeth sydd efallai\u0092n arbrofol neu ar y blaen, yn defnyddio dulliau newydd. Mae\u0092r avant-garde yn herio beth sy\u0092n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Mae\u0092n cael ei ystyried fel mudiad modern sy\u0092n wahanol i \u00f4l-foderniaeth. Mae\u0092r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Mae\u0092r avant-garde yn herio\u0092r kitsch neu\u0092r diwylliant torfol, sef y gwrthwyneb llwyr i\u0092r avant-garde sydd mewn diwylliant prif lif. Mae\u0092r diwylliant hwnnw, diwylliant defnyddiwr, yn mesur celfyddyd wrth ei werth ariannol, er enghraifft gwerth nofel ar ei werthiant, cerddoriaeth gyda safle yn y siartiau. Trwy wneud hyn, teimlai avant-gardiaid fod celfyddyd yn cael ei ddibrisio.\n\nMae celfyddyd avant-garde yn ymddangos mewn gwahanol feysydd fel cerddoriaeth, theatr a chelf. Ym maes cerddoriaeth, mae\u0092r avante-garde yn herio syniadaeth sylfaenol cerddoriaeth, megis harmoni, melodi a rhyddm. Gall cerddoriaeth avant-garde fod yn unrhyw fath o gerddoriaeth sy\u0092n ceisio ymestyn ffiniau newydd mewn rhyw fodd. Mae cyfansoddwyr megis Igor Stravinsky, Phillip Glass a Laurie Anderson yn enghreifftiau o gyfansoddwyr avant-garde. Mae theatr avant-garde yn aml yn golygu cydweithio gyda datblygiadau ym myd cerddoriaeth, sain a chyfryngau gweledol er mwyn mynd tu hwnt i\u0092r sioe gyffxredin. Mae mudiadau fel Fluxus, Happenings a Neo-Dada yn fudiadau theatr avant-garde. Mae llu o feysydd celf avant-garde yn bodoli yn hanes celf y Gorllewin gan gynnwys dyfodoliaeth, minimaliaeth, a swrealiaeth.","1347":"Mae\u0092r term avant-garde yn dod o\u0092r Ffrangeg ac yn llythrennol mae\u0092n golygu \u0091blaengad\u0092. Mae\u0092r term yn cael ei defnyddio i ddisgrifio celf, cerddoriaeth neu gymdeithas arbrofol neu anuniongred, sydd yn gwthio ffiniau'r hyn sy\u0092n cael ei ystyried yn norm. Mae\u0092n cael ei ystyried yn fathodyn o foderniaeth.\nMae\u0092r avant-garde hefyd yn gallu disgrifio diwygiadau cymdeithasol radical. Olinde Rodrigues defnyddiodd y term yn ei ystyr gyfoes am y tro cyntaf yn ei erthygl \u0093L\u0092artiste, le savant et l\u0092industriel\u0094 yn 1825.\nRoedd deallusion y 1930au a\u0092r 1940au fel Aforno a Horkheimer yn ystyried bod diwylliant torfol a \u0091kitsh\u0092 yn cyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn wrthwyneb llwyr i\u0092r avant-garde. Roeddent wedi nodi bod gwerth artistig yn cael ei golli oherwydd bod gwerth ariannol yn cael ei defnyddio i fesur llwyddiant, a diwylliant consiwmer yn rheoli. \nMae cerddoriaeth avant-garde yn herio syniadaeth harmoni, melodi a rhythm, ac mae\u0092n disgrifio unrhyw fath o gerddoriaeth sydd yn ymestyn ffiniau (e.e. Stravinsky a Philip Glass a Pauline Oliveros).\nMae rhai yn gwahaniaethu moderniaeth a cherddoriaeth avant-garde drwy nodi bod avant-gardiaeth yn ymwrthod \u00e2 \u0091chelf fel sefydliad\u0092.\nMae avant-garde yn amlwg hefyd yn y theatr, ac ymysg y mudiadau sydd wedi datblygu\u0092r traddodiad mae Fluxus, Happenings a Neo-Dada.\nMae syniadaeth yr avant-garde hefyd i\u0092w gweld mewn diwylliant Gymraeg, gan gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau\u0092r gr?p pop Traddodiad Ofnus, yng ngwaith y cwmni theatr Brith Gof, ac yn nofel Ebargofiant gan Jerry Hunter.\n","1349":"Ffilm Gymraeg yw\u0092r Mynydd Grug wedi\u0092i ryddhau ym 1997. Cafodd y ffilm ei selio ar y casgliad o straeon byrion enwog, \u0091Te yn y Grug\u0092 gan Kate Roberts. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan y cyfarwyddwr a\u0092r ysgrifennwr, Angela Roberts. Cafodd y cynhyrchiad \u00a3600,000 o gyllideb, a \u00a36,000 pellach ar gyfer costau \u00f4l-gynhyrchu. Cafodd y ffilm ei ffilmio ar leoliad yn Nyffryn Nantlle ac yn nhref Caernarfon. \n\nCafodd y ffilm ei saethu gan ddefnyddio ffilm 35mm lliw. Dolby Stereo yw\u0092r fformat sain. 1:85:1 yw\u0092r gymhareb agwedd. Enillodd y ffilm un wobr BAFTA Cymru ym 1998, sef ar gyfer gwisgoedd gorau. Iorwen James dderbyniodd y wobr ar ran y ffilm. \u0091The Heather Mountain\u0092 yw teitl amgen y ffilm. Angela Roberts oedd y cyfarwyddwr a\u0092r ysgrifennwr, Mike Walker ac Andy Morris oedd yn gyfrifol am y sain, Huw Davies wnaeth y dylunio. Cwmn\u00efau Llun y Felin, S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru wnaeth gynhyrchu\u0092r ffilm. Cafodd y ffilm ei rhyddhau ar 25ain o Ragfyr 1997, ac mae\u0092n 82 munud o hyd. \n\nMae\u0092r cast yn cynnwys y canlynol: Anwen Haf Ellis fel Begw; Claire Goddard fel Wini ffini Hadog\u0092 Gwenno Hodgkins fel Elin Gruffydd; Dafydd Emyr fel William Gruffydd; Jonathan Nefydd fel Mr Huws; Sera Cracroft fel Mrs Huws; Stewart Jones fel Dafydd Si\u00f4n; Dilys Price fel Nanw Si\u00f4n; Elain Llwyd fel Mair; Owain Si\u00f4n Williams fel Robin; Sam Rogers fel Rhys; Huw Ll?r fel Bilw; Robin Eiddior fel Wmffra; Emlyn Gomer fel Wili Robaitsh; Grey Evans fel Dan Jones a Dafydd Edmwnd fel Twm Ffini Hadog.","1350":"Mae \u0091Y Mynydd Grug\u0092 yn ffilm Gymraeg a chafodd ei rhyddhau ym 1997. Mae\u0092r ffilm wedi\u0092i seilio ar y casgliad o straeon byrion gan Kate Roberts, Te yn y Grug. Angela Roberts oedd cyfarwyddwr y ffilm a Dilwyn Roberts oedd rheolwr y cynhyrchiad. Cafodd y ffilm 6,000 o bunnau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer costau \u00f4l-gynhyrchu. Cyfanswm cyllideb y cynhyrchiad oedd \u00a3600,000. Cafodd y ffilm ei ffilmio ar leoliad yn Nyffryn Nantlle a thref Caernarfon. Anwen Haf Ellis oedd yn chwarae rhan Begw, un o\u0092r prif gymeriadau a Claire Goddard oedd yn chwarae rhan Wini Ffini Hadog gyda Gwenno Hodgkins yn chwarae rhan Elin Gruffydd. Roedd gweddill y prif gast yn cynnwys Dafydd Emyr, Jonathan Nefydd, Sera Cracroft, Stewart Jones, Dilys Price, Elain Llwyd, Owain Si\u00f4n Williams, Sam Rogers, Huw Ll?r, Robin Eiddior, Emlyn Gomer, Grey Evans, Dafydd Edmwnd, Caren Brown, Tudur Roberts, Owain Arwyn, Dyfan Roberts, Trefor Selway, Darren Stokes, Emyr Roberts, Sera Cracroft, Mari Emlyn, Denise Williams, Hayden Zane, Nia Edwards, Iwan Rhys Williams, Math Williams a Mirain Roberts.","1351":"Rhyddhawyd ffilm y Mynydd Grug ym 1997. Mae\u0092r ffilm wedi\u0092i seilio ar gasgliad o straeon byrion, Te yn y Grug, gan Kate Roberts. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Angela Roberts. Costiodd y ffilm \u00a3600,000 i'w chynhyrchu, a derbyniodd \u00a36,000 o bunnau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd y ffilm ei saethu ar leoliad yn Nyffryn Nantlle a thref Caernarfon. Roedd y cast yn cynnwys Anwen Haf Ellis yn r\u00f4l Begw, Claire Goddard yn Wini Ffini Hadog, Gwenno Hodgkins yn Elin Gruffydd a Dafydd Emyr yn William Gruffydd. Jonathan Nefydd a Sera Cracroft oedd Mr a Mrs Huws a Stewart Jones a Dilys Price Dafydd a Nanw Si\u00f4n. Aelodau eraill o\u0092r cast oedd Elain Llwyd, Owain Si\u00f4n Williams, Sam Rogers, Huw Ll?r, Robin Eiddior, Emlyn Gomer, Grey Evans, Dafydd Edmwnd, Caren Brown, Tudur Roberts, Owain Arwyn, Dyfan Roberts, Trefor Selway, Darren Stokes, Emyr Roberts, Sera Cracroft, Mari Emlyn, Denise Williams, Hayden Zane, Nia Edwards, Iwan Rhys Williams, Math Williams, a Mirain Roberts. Rheolwr y Cynhyrchiad oedd Dilwyn Roberts, y Cynllunydd Celf oedd Martin Morley, y Cymysgwyr Sain oedd Mike Walker ac Andy Morris, a\u0092r Adran Wisgoedd yn cynnwys Ann Hopkins, Carol Buchanan ac Ian Russell. Fformat saethu\u0092r ffilm oedd 35mm a\u0092r sain oedd Dolby Stereo.","1352":"Berlin, sydd yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen, yw prifddinas y wlad, a hi yw dinas fwyaf Gorllewin Ewrop. Mae Berlin yn pontio\u0092r afon Spree sy\u0092n llifo i Afon Havel. Mae nifer o lynnoedd yn yr ardal (y mwyaf yw Llyn M\u00fcggelsee) yn ogystal \u00e2 choedwigoedd, parciau a gerddi, ac mae ei hinsawdd yn dymhorol dymherus.\nTafodiaith Canol yr Almaen sy\u0092n cael ei defnyddio yn yr ardal, ac mae tafodiaith Berlin yn amrywiad o\u0092r enw \"Lusatian-New Marchian\".\nMae anheddiad dynol wedi bod ym Merlin ers 13g. Cafodd dwy dref, Berlin a C\u00f6lln eu sefydlu tua 1200, a daethon nhw yn un dref ym 1307. Roedd Berlin yn brifddinas dros y cyfnodau canlynol: Margraviate Brandenburg (1417\u00961701), Teyrnas Prwsia (1701-1918), Ymerodraeth yr Almaen (1871 \u00961918), Gweriniaeth Weimar (1919\u00961933), a'r Drydedd Reich (1933\u00961945). Cafodd y ddinas ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn dilyn y rhyfel, cafodd y ddinas ei rhannu yn ddau (ochr Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen) gan Wal Berlin (1961-1989). Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Cafodd yr Almaen ei ailuno yn 1990.\nGall fod enw Berlin yn tarddu o hen iaith Polabieg, berl- \/ birl- sef \u0093cors\u0094. Oherwydd bod Ber- yn yr enw yn swnio fel y gair Almaeneg B\u00e4r (sef arth), mae\u0092r anifail yn ymddangos ar arfbais y ddinas.\nO blith adeiladau a chofadeiladau enwog y ddinas, mae\u0092r Deutsches Theater, y Neues Museum a\u0092r Reichstag.\n","1355":"Mae Caernarfon yn dref wedi ei lleoli yng Ngwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru sydd yn gartref i gwta 10 mil o bobl. Mae castell mawr o feini yno a gododd Edward I o Loegr ar \u00f4l iddo feddiannu Gwynedd. Mae\u0092r enw Caernarfon wedi esblygu o \u0091Segontium\u0092, sef y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Dewisodd y Rhufeiniaid leoliad Segontium yn 75OC. Roedd y safle hwn yn ffafriol gan ei fod i\u0092r de o\u0092r dref, ac felly roedd hi\u0092n bosibl cadw golwg ar benrhyn Ll?n a\u0092r Afon Menai ac Eryri. Daeth yr enw \u0091Caer Seiont yn Arfon\u0092 o\u0092r gaer honno, ac esblygodd yr enw i \u0091Caernarfon\u0092 yn ddiweddarach. Mae 81.6% o bobl y dref yn siaradwyr Cymraeg. \u0091Cofi\u0092 yw\u0092r enw am drigolyn o\u0092r dref. \n\nErs sefydlu S4C yn yr 1980au, mae\u0092r diwydiant teledu wedi bod yn flaenllaw iawn yn nhref Caernarfon. Er bod y diwydiant wedi dirywio ers oes aur yr 80au a\u0092r 90au, mae nifer o gwmn\u00efau teledu megis Cwmni Da, Antena a Rondo wedi eu lleoli yn y dref hyd heddiw. Mae llawer o glybiau chwaraeon wedi eu lleoli yn y dref yn ogystal. Mae CPD Tref Caernarfon, wedi ei lleoli ar yr ofal, yn chwarae yn uwch gynghrair Cymru, ac mae dau glwb p\u00eal-droed lleol arall hefyd sef Caernarfon Borough a Caernarfon Wanderers. Mae t\u00eem merched gan CPD Tref Caernarfon hefyd sy\u0092n chwarae yn uwch gynghrair Cymru yn ogystal. Mae Clwb Rygbi Caernarfon, wedi ei lleoli ar y morfa, yn chwarae yn Adran 4 Cynghrair Rygbi Swalec Gogledd Cymru.","1356":"Tref yng ngogledd-orllewin yw Caernarfon. Mae\u0092n enwog am ei gastell gafodd ei adeiladu gan Edward I o Loegr. Daw\u0092r enw Caernarfon o \u0093Caer Saint yn Arfon\u0094. Mae ychydig llai na 10,000 o bobl yn byw yn y dref, a thros 80% yn siarad Cymraeg yno. \u0093Cofi\u0094 ydy\u0092r enw am bobl o\u0092r dref.\nMae\u0092r wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o drefi pwysicaf Gwynedd. Mae olion hen gaer Rufeinig o\u0092r enw Segontium (OC 75) i\u0092w gweld yn y dref. Mae Caernarfon yn ymddangos yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig ac yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi.\nTua 1090 dan y Normaniaid, roedd castell mwnt a beili yng Nghaernarfon, ond cafod y dref ei chipio gan dywysogion Gwynedd tan y goresgyniad Seisnig yn 1283.\nAr \u00f4l i Edward I o Loegr feddiannu Gwynedd, cododd y castell a welir heddiw. Yn ystod y gwrthryfel Cymreig (1294-95) roedd llawer o ddifrod wedi\u0092i wneud i\u0092r castell. Gwnaeth Owain Glynd?r ymdrech i gipio\u0092r dref a\u0092r castell yn 1403 a 1404 ond heb lwyddiant.\nYn y 19g roedd Caernarfon yn dref fywiog oherwydd ei phorthladd ar gyfer allforio llechi. \nMae\u0092r dref yn gartref i sawl cwmni teledu (e.e. Cwmni Da, Rondo, Tinopolis), a sawl safle stiwdio lle mae rhaglenni fel Uned 5 a Sgorio yn cael eu darlledu.\nMae gan Gaernarfon clybiau p\u00eal-droed a rygbi.\nCafodd Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yng Nghaernarfon am y tro cyntaf yn 1886.\nGefeilldref Caernarfon yw Landerne yn Llydaw. \n","1357":"Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg yn \u00f4l Cyfrifiad 2001. Mae pobl o\u0092r dre yn cael eu galw\u0092n \"Cofis\". Mae caer Rufeinig sef Segontium ar gyrion y dref. Mae\u0092r dref wedi\u0092i enwi ar \u00f4l y gaer. Trodd \"Caer Seiont yn Arfon\" yn Gaernarfon. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond cafodd ei gipio gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar \u00f4l iddo feddiannu Gwynedd. Yn 1986 cafodd y castell ei enwi ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.\nAr ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Cafodd Rheilffordd Nantlle ei hadeiladu i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28.\nErs sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis ac mae nifer o gwmn\u00efau teledu yn parhau i fod \u00e2 swyddfeydd yn y dref gan gynnwys Dime Goch, Cwmni Da, Griffilms, Rondo, Tinopolis ac S4C.\nMae nifer o glybiau chwaraeon yng Nghaernarfon gan gynnwys timau p\u00eal-droed fel C.P.D. Tref Caernarfon sy\u0092n chwarae yn y Gynghrair Undebol a rygbi fel Clwb Rygbi Caernarfon sy\u0092n chwarae yng Nghynghrair SWALEC yn ogystal \u00e2 chlybiau hwylio, golff a nofio.","1358":"Digwyddodd trawsnewidiad o\u0092r Frythoneg i\u0092r Gymraeg wedi ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain. Roedd Lladin y Rhufeiniaid yn dylanwadu\u0092n drwm ar y Frythoneg, ac wedi eu hymadawiad, newidiodd y Frythoneg yn sylweddol fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a\u0092r Hen Gernyweg. Oherwydd diffyg tystiolaeth gan ei fod mor bell yn \u00f4l, nid oes posib dweud yn sicr pryd y cafodd y trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg cynnar ei gwblhau. Mae\u0092r ysgrif gyntaf un o\u0092r Gymraeg yn dyddio o tua 700 OC. Er bod rhai yn tybio bod posib iddi ddyddio n\u00f4l ynghynt na hynny, mae ysgolheigion gan amlaf yn canfod bod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y 6g. Nid oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, felly dim ond tystiolaeth anuniongyrchol sydd i\u0092r newidiadau ddigwyddodd wrth iddi drawsnewid i Gymraeg Cynnar. \n\nTybia ieithyddion bod ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol sef cyflyrau a oedd yn nodweddiadol o ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol cyfnod y Frythoneg. Roedd gan y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog i\u0092w enwau, gyda\u0092r terfyniadau yn amrywio rhwng gwahanol ffurfiau. Yn y Gymraeg mae ffurfiau unigol a lluosog yn gyffredin, ond yn ychwanegol mae ffurfiau deuol megis \u0091dwylo\u0092. Yn ychwanegol, gall llafariaid b\u00f4n y gair newid er mwyn dynodi geiriau lluosog e.e. \u0091bardd\u0092 a \u0091beirdd\u0092, nid terfyniad yn newid yn unig fel yn y Frythoneg. Roedd gan y Frythoneg hefyd dair cenedl, sef gwrywaidd, benywaidd neu di-ryw. Dim ond gwrywaidd a benywaidd sydd wedi aros yn y Gymraeg. ","1359":"Trawsnewidiodd y Frythoneg i\u0092r Gymraeg yn ystod ac ar \u00f4l cyfnod y Rhufeiniad. Cafodd Lladin ddylanwad ar y Frythoneg. Oherwydd ymadawiad y Rhufeiniaid, roedd cyfnod ansefydlog ym Mhrydain gyda dyfodiad ymosodiadau ac ymsefydlwyr newydd. Oherwydd y newidiadau hyn, esblygodd ieithoedd newydd o\u0092r Frythoneg, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg.\nGellir gweld arysgrif cynharaf o\u0092r Gymraeg ar gaen coffa sy\u0092n dyddio o OC 700. Ystyrir bod oed Cymraeg Cynnar wedi dechrau yn ail hanner y 6g.\nNid oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, ond mae ieithyddion yn tybio bod cyflyrau (goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol) tebyg i ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill o\u0092r cyfnod yn perthyn i\u0092r Frythoneg hefyd. Cafodd y terfyniadau\u0092r cyflyrau ar gyfer ansoddeiriau a rhifolion eu colli oherwydd datblygiad yr acen gref ar y sillaf olaf ond un, oedd yn atal ynganiad y sillaf olaf. Yn y Frythoneg roedd cenedl enwau yn gallu bod yn ddiryw, yn ogystal \u00e2\u0092r benywaidd a gwrywaidd a welir yn y Gymraeg hyd heddiw.\nRoedd gan enwau yn y Frythoneg hefyd ffurfiau unigol, deuol a lluosog, yn wahanol i\u0092r Gymraeg sydd yn meddu ar ffurfiau unigol a lluosog yn unig (ar wah\u00e2n rhai ffurfiau e.e. dwylo).\nRoedd rhai o\u0092r llafariaid a\u0092r cytseiniaid wedi newid er mwyn hwyluso\u0092r ynganiad y gair Cymraeg o\u0092i gymharu \u00e2\u0092r Frythoneg. Datblygodd rhai rheolau treiglo yn y trawsnewidiad hwn, e.e. ansoddeiriau yn treiglo\u0092n feddal ar \u00f4l enw benywaidd a threiglo enw ar \u00f4l y rhif dau neu dwy.\n","1360":"Trawsnewidiodd y Frythoneg yn Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a\u0092r cyfnod ar \u00f4l iddyn nhw adael. Roedd yr iaith Ladin wedi dylanwadu\u0092n drwm ar y Frythoneg a daeth yr iaith dan ddylanwad ieithoedd eraill hefyd wrth i dramorwyr ddod i Brydain. Tyfodd dwy iaith newydd o\u0092r hen Frythoneg, sef y Gymraeg Cynnar a\u0092r Hen Gernyweg. Mae\u0092r arysgrif Gymraeg cynharaf yn dyddio o tua OC 700, ond mae\u0092r rhan fwyaf o ysgolheigion yn meddwl mai yn ail hanner y 6g dechreuodd Cymraeg Cynnar. Doedd y Frythoneg ddim yn iaith ysgrifenedig, felly mae syniadau ar y newidiadau wedi eu seilio ar dystiolaeth anuniongyrchol. Roedd gan enwau ac ansoddeiriau derfyniadau i nodi eu \u0091cyflyrau\u0092 (sef goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol) ac a oedden nhw\u0092n unigol, yn ddeuol neu'n lluosog. Hefyd roedd tair cenedl; gwrywaidd, benywaidd neu ddiryw. Yn y Gymraeg dim ond un ffurf unigol ac un lluosog sy\u0092n aros gan amlaf (gydag ambell i eithriad, fel dwylo) , a chollodd yr iaith y genedl ddiryw. Newidiodd nifer o gytseiniaid a llafariaid wrth i\u0092r iaith ddatblygu, a rhai geiriau\u0092n newid sawl gwaith dros amser. Ar \u00f4l i\u0092r terfyniadau ddiflannu, arhosai rhai o\u0092r newidiadau yr oeddent wedi eu hachosi, gan gynnwys ffurfiau gwahanol gwrywaidd a benywaidd i rai o\u0092r ansoddeiriau a dechreuad y system dreiglo. Hefyd, yn sgil colli\u0092r terfyniadau roedd rhaid datblygu ffurfiau newydd i nodi\u0092r lluosog mewn rhai geiriau.","1362":"Mae Syria (neu Weriniaeth Arabaidd Syria) yn wlad yng ngorllewin Asia, agos i Libanus, Israel, Gwlad Iorddonen, Irac a Thwrci. Damascus yw\u0092r brifddinas. Gellir olrhain hanes y wlad i 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Daeth crefydd Islam i Syria yn y 7g a daeth y wlad yn diriogaeth i nifer o ymerodraethau Mwslimaidd dros y canrifoedd. Yn dilyn chwalfa\u0092r Ymerodraeth Otomanaidd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Syria yn rhan o\u0092r Mandad Ffrengig. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, enillodd Syria ei hannibyniaeth a sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1946.\nErs 1970 mae Syria wedi bod dan lywodraeth y teulu Assad sydd yn aelodau o Blaid y Ba\u0092ath. Yn 2011, yn dilyn protestiadau \u0093y Gwanwyn Arabaidd\u0094 yn y Dwyrain Canol, cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth yn Syria. Roedd protestwyr am adnewyddu hawliau dynol ac am ddod a\u0092r Gyfraith Argyfwng (oedd mewn grym ers 1963) i ben. Ar \u00f4l dechrau\u0092r protestiadau, dechreuodd grwpiau arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth. Unodd rhai o\u0092r gwrthryfelwyr dan faner \u0093Byddin Rhyddid Syria\u0094 ac roedd llywodraethau Ewrop a'r UDA yn eu cefnogi. Erbyn Mehefin 2012 roedd y gwrthryfel wedi troi yn rhyfel cartref. Ymunodd grwpiau arfog jihadaidd yn y rhyfel hefyd, rhai sy\u0092n deyrngar i al-Qaeda ac sydd am sefydlu cyfraith sharia yn y wlad. Cafwyd cyhuddiadau bod llywodraeth Assad wedi torri hawliau dynol a defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid. Roedd Rwsia yn cefnogi Llywodraeth y wlad.\nIaith swyddogol y wlad yw Arabeg ond mae rhai yn medru Ffrangeg, hefyd.","1363":"Mae Syria, neu Weriniaeth Arabaidd Syria, yn wlad yn y Dwyrain Canol; y brifddinas yw Damascus, y ddinas hynaf yn y byd. Mae arteffactau o Syria yn bodoli o 10,000 o flynyddoedd yn \u00f4l ac mae lleoliad Syria yn golygu fod e\u0092n lle pwysig hyd heddiw. Mae wedi bod dan reolaeth sawl ymerodraeth dros y canrifoedd, a daeth yn wlad annibynnol ym 1946. Mae\u0092r wlad wedi cael cysylltiadau agos gyda\u0092r Aifft erioed, a rhwng 1958 a 1961 ffurfiodd y ddwy wlad Weriniaeth Arabaidd Unedig. Hafez al-Assad oedd yn arlywydd Syria rhwng 1970 a 2000 a dilynodd ei fab ar \u00f4l iddo fe farw. Dechreuodd gwrthryfel yn Syria yn 2011 yn rhan o\u0092r \u0093Gwanwyn Arabaidd\u0094, gan ofyn am newidiadau gwleidyddol a hawliau dynol. Ymatebodd llywodraeth yn llym iawn, ac yn \u00f4l UNHCR bu farw 470,000 o bobl a ffodd dros 5 miliwn o\u0092r wlad rhwng 2011 a 2017. Ffurfiodd y gwrthryfelwyr Fyddin Rhyddid Syria yn 2011 a throdd yn rhyfel gartref erbyn 2011 gyda sawl gr?p jihadaidd yn ymuno \u00e2 nhw gyda\u0092r bwriad o sefydlu cyfraith sharia yn y wlad. Yn 2015 ymunodd Rwsia yn y rhyfel, ar ochr Llywodraeth Syria, gan honni bomio ISIS, ond yn \u00f4l yr UDA yn lladd sifiliaid a gwrthryfelwyr eraill. Islam yw\u0092r brif grefydd ers y seithfed ganrif, gyda 90% o\u0092r boblogaeth yn Fwslemiaid , a\u0092r mwyafrif ohonyn nhw\u0092n Sunni. Mae 10% yn Gristnogion. Arabeg yw\u0092r iaith swyddogol.\n\n","1364":"Gwlad yng ngorllewin Asia yw (Gweriniaeth Islamaidd) Iran. Persia oedd enw\u0092r wlad cyn 1935. Mae gan Iran arfordir ar F\u00f4r Caspia a Gwlff Oman. Y brifddinas yw Tehran. \nMae cadwyni mynyddig, anialwch a chorstir yn y wlad, a\u0092r mynydd uchaf yw Mynydd Damavand. Mae\u0092r rhan fwyaf o\u0092r boblogaeth yn byw ar lan M\u00f4r Caspia oherwydd bod glaw yn brin mewn mannau eraill. Iran yw\u0092r 18fed wlad fwyaf yn y byd o ran ei harwynebedd. Mae dros 70 miliwn o bobl yn byw yn y wlad.\nMae mwyafrif y boblogaeth yn Bersiaid (Iraniaid) ond mae sawl gr?p ethnig llai hefyd e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid a rhai llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari.\nFfarsi yw\u0092r iaith fwyafrifol ond gellir clywed ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg a Pherseg.\nEr mai Zoroastriaeth oedd y brif grefydd yn yr hen Bersia, mae mwyafrif helaeth y boblogaeth heddiw yn Fwslemiaid Shia, ac mae dinas sanctaidd Qom yn atyniad poblogaidd i bererinion.\nMae Iran yn Weriniaeth Islamaidd ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979, ac mae\u0092r system wleidyddol yn seiliedig ar Gyfansoddiad 1979; mae polis\u00efau\u0092r Llywodraeth yn cael eu goruchwylio gan yr Uwch Arweinydd, sydd hefyd yn gyfrifol am y fyddin. Llywydd Iran yw Hassan Rouhani.\nMae Iran yn meddu ar rai o gronfeydd olew a nwy mwyaf y byd. Roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn yn 2014.\nMae 31 talaith yn Iran, gyda siroedd yn perthyn i bob talaith, ac ardaloedd ac is-ardaloedd o fewn y rheini.\n","1365":"Mae Iran yn wlad yng ngorllewin Asia ac mae hi\u0092n rhan o'r Dwyrain Canol. Enw\u0092r wlad hyd at 1935 oedd Persia. Mae Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Tehran yw prifddinas y wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.\nMynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan M\u00f4r Caspia. Mae dros 70 miliwn o bobl yn byw yn Iran.\nEr bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), mae Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari yn byw yno hefyd.\nMae\u0092r rhan fwyaf o drigolion Iran yn siarad Ffarsi (Perseg diweddar) ond mae rhai yn siarad Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n denu nifer o bererinion.\nMae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polis\u00efau'r Llywodraeth. Cafodd llywydd presennol Iran, Hassan Rouhani ei ethol yn 2013.\nMae gan Iran rai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd. O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear. Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn \u00f4l PPP).","1366":"Mae Iran yn wlad yng ngorllewin Asia sy\u0092n rhan o\u0092r Dwyrain Canol. Mae\u0092r wlad tua 636,372 milltir sgw\u00e2r ac mae ganddi boblogaeth o dros 70 miliwn. Cyn 1935 enw Iran oedd Persia. Tehran yw\u0092r brifddinas. Ar \u00f4l y Chwyldro Islamaidd ym 1979 enw\u0092r wlad yw Gweriniaeth Islamaidd Iran. Yng nghanol Iran mae sawl anialwch a chorstir, ac o\u0092u cwmpas mae cyfres o gadwyni mynyddog. Y mynydd uchaf yw Damavand, i\u0092r gogledd o Tehran. Mae\u0092n wlad sych ar y cyfan, ac mae\u0092r rhan fwyaf o bobl yn byw yn y gogledd-orllewin, ac ar lan M\u00f4r Caspia, lle maen nhw\u0092n cael y rhan fwyaf o law. Mae\u0092r mwyafrif o\u0092r bobl yn Bersiaid (Iraniaid), er bod sawl gr?p ethnig llai a llwythau brodorol lleiafrifol. Ffarsi yw\u0092r brif iaith. Perseg oedd hen enw\u0092r iaith hynafol hon, sydd wedi cynhyrchu llenyddiaeth fawr. Mae ieithoedd llai, er enghraifft Cyrdeg, hefyd yn bodoli. Crefydd y wlad yw Islam erbyn hyn, gyda\u0092r mwyafrif o bobl yn Fwslemiaid Shia. Mae hen grefydd Zoroastriaeth yn dal i oroesi er hynny mewn mannau. Yn wleidyddol, mae Uwch Arweinydd sy\u0092n gyfrifol am bolis\u00efau\u0092r Llywodraeth. Y Llywydd rhwng 2013 a 2017 yw Hassan Rouhani. Yn y gorffennol roedd Iran yn enwog am grefftwaith a charpedi, ond erbyn hyn mae\u0092r economi yn dibynnu ar olew. Iran yw\u0092r drydedd wlad fwyaf yn y byd o ran cynhyrchu olew. Mae gan Iran 31 talaith, pob un gyda llywodraethwyr apwyntiedig."}} \ No newline at end of file